Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

GWERSFR EISTEDDFOD.

News
Cite
Share

GWERSFR EISTEDDFOD. Hawdd yw bod yn gall tranoeth i'r prawf, a hawdd yw cynghon ar ol gweled gwallau unrhyw gynulliad. Ar yr un pryd, nid anoeth i gyd fyddai tatlu cipolwg ar yr Wyl Genedl- aethol eleni, er cael allan pa faint o les a wnaeth i'n gwlad, a pha m)r bell y cyflawn- odd ei neges ymysg ein cenedl. I'r Philistiad a'r anwar, y peth cyntaf a ymhola yw A fu yr Eisteddfod yn llwyddiant arianol ?" Dyna uchder a dyfnder ei chenadwri yn ol syniadau y cyfryw, ac mae'n rhyw fath o galondid deall na fydd gwyl Bangor yn golled yn yr ystyr yna beth bynag fydd ei cholledion ereill. Mae'r hen sefydliad wedi myn'd yn un costus, rhaid addef, ac mae'r gwobrwyon a gynygir yn ami yn hollol anghyfartal i ateb yr aberth a'r llafur sydd ynglyn a'r gwaith. Am drethawd a gymer amryw fisoedd o ymchwiliad cynygir rhyw dair neu bum' punt o wobr, tra am ganu deuawd neu bedwarawd a ddysgir mewn wythnos gan unrhyw gerddor deallus, cynygir symiau cyffelyb. Y canlyniad yw na cheir ond dau neu dri o gystadleuwyr am y blaenaf tra y tyra yr ugeiniau am yr olaf, a hyny yn unig oherwydd yr hawsder a pha un yr enillir yr arian a'r clod. Pe bae'r pwyllgorau yn ddigon dewr i gynyg gwobrau bychain a medalau Eisteddfodol, credwn na chollai'r adran lenyddol yr un mymryn o gefnogaeth, tra o'r ochr arall chwynid yn llwyr o'r maes y cantorion hyny a ymgeisiant yn unig am arian yr Wyl. Yr oedd rhestr gwobrau Bangor yn un helaeth, a'r costau ynglyn a'r cyfarfodydd yn fawr, ond da genym ddeall fod y cyfan wedi troi yn llwyddiant yn y cyfeiriad hwn, ac na fydd galw am gyfran- iadau oddiwrth y rhai a aethant yn gyfrifol am golledion yr Wyl. < Yr ergyd trymaf i'r Cymro ynglyn a'r cynulliad oedd y gurfa a gafodd yn adran y I corau. Rhaid addef mai gwers amserol oedd hon, ond prin y credwn ei bod yn un effeithiol. Mae eisoes gryn ddadleu ar y mater, a diau y bydd i'r cantor gael y maes i gwyno ar ol hon, fel y cafodd y bardd ar ol Eisteddfod Lerpwl. Yn y brif gystadleuaeth gorawl rhaid addef fod y canu yn hynod o dda ac yn deilwng o Eisteddfod Genedlaethol, ac i'r corau Seisnig gyflawn haeddu y wobr a'r clod. Paham na ddaeth rhagor o gorau Cymreig i'r ymdrech, nis gwyddom, ond yr oedd gweled y Deheudir-gwlad y corau mawr—heb neb i'w cynrychioli, yn beth hynod mewn gwyl fawr fel hon. Hyderwn y daw gwell agwedd ar bethau yng ngwyl Llanelli, ac ar yr un pryd bydd yn werth dal sylw a wna'r corau Seisnig eu hymddangosiad yno mor lluosog ag a wnaethant ym Mangor eleni. j Os na wnant, bydd genym achos i gwyno yn I eu herbyn. Am y corau meibion, rhaid dyweyd mai I hon oedd y gystadleuaeth fwyaf anfoddhaol yn yr wyl. Yr oedd y ffaith fod pymtheg o gorau yno yn beth pwysig, a disgwylid cys- I tadleuaeth galed. Ond fel arall y bu. Gailasai deg o'r corau yn hawdd gadw draw fel rhai anheilwng i ymddangos ar lwyfan yr Wyl Genedlaethol, ond yr oedd y pump ereill yn weddol dda. Er hyny, clywsom eu gwell yn y cynulliadau blynyddol hyn. Fel y sylwyd eisoes, cor o Fanceinion aeth a'r gamp, a hyny yngwyneb y ffaith fod cor o Gaerdydd wedi canu yn rhagorol o dda. Mewn gair, I dywedai'r beirniaid eu hunain fod cor Man- ceinion wedi myn'd i lawr haner ton tra i'r cor o'r Sowth gadw mewn tonyddiaeth drwy y ddau ddarn, a hwynt-hwy yn unig ddarfu lwyddo i wneyd hyny. Y pwnc mewn Haw yn awr yw, pa safon sydd i ni gadw ato yn y dyfodol ? Myn rhai beirniaid mai tonyddiaeth bur ddylai fod y peth blaenaf ymhob dim, ond dywedir mai y "general effect bender- fynodd y ddadl. Am y man gystadleuaethau corawl ereill, nid oedd y safon yn uchel iawn; ond y mae'n amlwg na ddarfu i'r cor Seisnig a gurwyd yn yr ail gystadleuaeth gorawl gymeryd eu curfa mewn ysbryd i'w efelychu gan gorau Cymreig yn y dyfodol. Dywedir eu bod fel y pei-droedwyr wedi argraffu cardiau i ddathlu y fuddugoliaeth, ond na chawsant y cyfle i'w dangos, a bu'r. 1 siom yn fawr mae'n debyg. O'r deheudir y I daeth yr unawdwyr bron i gyd, a llwyddodd efrydwyr Madame Clara Novello Davies i gipio tair o'r gwobrau hyn. » Y peth gwaethaf yn yr holl wyl oedd y wedd Seisnig a osodwyd ar bob peth. Saes- neg oedd yr iaith a ddefnyddid ar bob cyfle, ac yn y cynulliadau o'r tu allan i babell yr Eisteddfod, yr oedd y Gymraeg yn alltud o'r tir. Hyd yn oed mewn cyfarfodydd ynglyn a'r iaith Gymraeg ei hunan, Saesneg oedd yr iaith a ddefnyddid i ymdrin y cyfan, a thra y caniateir hyn ynglyn a'n huchel wyl, ofer dis- gwyl am gynydd yn ei chenedlaetholdeb a'i lief i'r genedl. Ond, wedi'r holl gwyno, y mae'n achos i lawenhau fod dau fardd ieuanc wedi eu darganfod eleni, ac mae gweled prif wobrau yr wyl yn myned i rai fel hyn yn brawf fod yr adran yna beth bynag yn cyfar- fod yn hollol a'r amcanion, ac yn un y gellir eto rhoddi cyflawn ymddibyniaeth ynddi.

MILWYR GWIRFODD CYMREIG YN…