Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Y TABERNACL, KING'S CROSS. CYNHELIR CYMANFA FLYNYDDOL Yr Eglwys uchod JTOS SADWRN, DYDD SUL A NOS LUN, Medi 27ain, 28ain, a'r 29ain. PREGETHWYR- PARCH. ROBERT THOMAS (GLANDWR) PARCH. W. J. NICHOLSON (PORTHMADOG). Dechreuir yr Oedfaon fel y canlyn- Mos Sadwrn am 7. Dydd Sul am 10.30, 2.30 a. 6. Nos Lun am 7.30. EGLWYS Y METHODISTIAID CALFINAIDD FALMOUTH ROAD NEW KENT ROAD. CYNHELIR CYFARFOD PREGETHU BLYNYDDOL yr Eglwys uchod, MEDI 27ain, 28ain, a'r 29ain, 1902 GWEINIDOGION- PARCH. THOMAS JONES, RHOSTYLLEN; A'R PARCH. JOHN HUGHES, M.A. LIVERPOOL. Trefn y Moddion- JSfos Badwrn am 7.30. Parch. THOMAS JONES Sabboth „ 10.45. Parch. JOHN HUGHES,M.A. „ „ 2.30. Parch. THOMAS JONES „ 6.30. Parch. THOMAS JONES a'r Parch. JOHN HUGHES, M.A. Nos Lun „ 7. Parch. THOMAS JONES a'r Parch. JOHN HUGHES, M.A Gwneir casgliad yn yr oil o'r odfeuon tuag at ddiddyledu y Capel. St. BENET'S WELSH CHURCH, -Queen Victoria Street, E,C. (Close to St. Paul's Cathedral). Harvest Festival Sunday, Sept. 28th, 1902. 11 a.m. Preacher— REV. J. ICROWLE ELLIS 3.45 p.m. (English) REV. L. D. THOMAS St. Stephen's, Coleman St 6.30 p.m. REV. T. T. LUCIUS MORGAN, Vicar of Milton, Sittingbourne Monday, September 29th, at 8 p.m. Piaacher—REV. J. B. THOMAS, B.A. Fyfield, Essex. EGLWYS DEWI SANT PADDINGTON. A GRAND Evening CONCERT AND MALE VOICE CHORAL COMPETITION PRIZE R50 AND A GOLD CORONATION MEDAL, The Gold Medal value C7 7s. will be presented by Messrs. Elkington & Co., Ltd., 22, Regent Street, London, Goldsmiths and Silversmiths to His Royal Highness the Prinoe of Wales. WILL TAKE PLACE AT THE QUEEN'S HALL, LANGHAM PLACE, LONDON, (Under the Patronage of T.R.H. The Prince and Princess of Wales). ON NOVEMBER 27, 1902. TEST PIECES- (a) "The Word went forth "-Mendelssohn. (b) The Long Day Closes "—Sullivan. For particulars apply to Secretary, DAVID JONES, 42, Oxford Gardens, Notting Hill, W. Cjmdeithas Ddiwylliadol Jewin Newydd Llywydd—Parch. J. E. DAVIES, M.A. CYNHELIR CYNGHERDD AGORIADOL A THE NOS IAU, HYDREF 2ail, 1902. Cadeirydd-THOS. L. DAVIES, Ysw. Dadganwyr- Miss KATIE LEWIS Miss NELLIE LEWIS Mr. SETH HUGHES Mr. TIM EVANS Cyfeilydd-Mr. DAVID EVANS, Mus. Bac. (Oxon). Te ar y Byrddau o 6.30 hyd 7.45. Cyngherdd am 8 Tocynau 6c. yr un. Ysgrifenyddion—DAVID EVANS, 8, Margaret St., Farringdon Road, W.C. WILL JENKINS, 129, Central Street, City Road, E.C.
Y Bra A'R BETTWS,
Y Bra A'R BETTWS, M. Pelletan yw Chamberlain Ffrainc. Ystyr yr enw yw pelan tan," ac y mae yn ceisio byw i fyny a'i enw. Mae'r Eglwyswyr ar eu heithaf y dyddiau hyn yn dangos i Gymry y lies mawr a ddaw iddynt drwy fabwysiadu y Mesur Addysg. newydd. V wedd arianol yn unig a glodfor- ant hwy wrth gwrs. Gadewir i egwyddorion fyned dros y trothwy. Er fod tymhor y gwyliau yn tynu tua'r terfyn, y mae amryw o enwogion Seisnig eto yn aros ar ein traethau. Yn Llanengan, ger Pwllheli, y mae Syr Frederick Bridge, or- ganydd Westminster Abbey, yn treulio ei ddyddiau gwyl ar hyn o bryd. Faint o felldithio fu ar yr hen Kruger yn y wlad hon yn ystod y tair blynedd diweddaf ? Ac ni chaiff yr hen wr lonydd eto ? Dywedir yn awr ei fod yn myn'd i briodi merch ifanc o sir Aberteifi fel ail wraig. 'Does neb fel y Cardis wedi'r holl siarad. Nid yw'r tywydd wedi bod yn ffafriol iawn i'r ffermwyr yn ddiweddar, ac y mae llawer o gwyno yn eu plith drwy Gymru y dyddiau hyn. Er fod y cnydiau yn dda y mae Ilawer iawn wedi ei ddistrywio am na chaed tywydd cyfaddas i'w cael o dan do. Bu Syr Charles Dilke yn Abertawe yr wyth- nos hon yn dadleu yn erbyn y Bil Addysg. Ceir clywed rhagor yn ei gylch eto yn ystod y Senedd-dymhor Hydrefol. Mae'r wlad yn lied unfarn yn ei gondemniad ar hyn o bryd. Dywed y Seryddwyr fod seren gyffonog arall wedi ei darganfod ac y gwna ei hym- ddangosiad heb fod yn hir iawn. Bydd yn un o'r rhai mwyaf disglaer a welwyd er's tro meddir. Bydd ei chynffon tua thri chan' miliwn o nlldiroedd o hyd; ond bydd yn ddigon pell rhag blino dim arnom ni yma. Anfonodd Brenhines Roumania neges llon- gyfarchiadol i'r Orsedd yr wythnos ddiweddaf ym Mangor. Y mae Carmen Sylva yn un o'r urdd. Myn rhai prophwydi y cynhelir etholiad gyffredinol yn ystod y gwanwyn nesaf. Prin y credwn hyn am fod swyddi y Weinyddiaeth yn llawer rhy fras i'w gadael ar fyr rybudd. O'r diwedd y mae Arglwydd Penrhyn wedi dangos ei gymeriad yn ei wir oleuni. A fydd ei gefnogwyr yn barod i'w wyngalchu ar ol hyn ? Yr oedd y derbyniad a gafodd Mr. Lloyd George ym Mangor yn wefreiddiol. Nid oedd yr un llywydd agos mor boblogaidd ag efe. Dyma englyn a adroddodd Mr. George ar derfyn ei araeth Tra craig uwch craig fyddo'n crogi-tra Tra cerdd yn Eryri, [can Tra nen heulwen a mor heli, Hen Walia wen anwylwn ni. Un o'r golygfeydd prydferthaf ar lwyfan yr Eisteddfod eleni oedd cor merched yr America. Cawsant dderbyniad croesawus, a chwyfiasant hwythau faneri Americanaidd gyda medr nes gwneyd golygfa swynhudol iawn. Alltud Eifion yw bardd hynaf Cymru ar hyn o bryd. Er yn go rnlwydd oed, aeth i ben y Maen Llog y dydd o'r blaen i adrodd yr englynion a ganlyn :— Ym Mangor ar Agoriad—ein defion A'n difyr gynulliad Heb ryfyg traethaf brofiad 0 hir daith Hen wr o Dad. Yngorsedd a'i hedd bum i-yn cydfod A'r cydfeirdd fath flwyddi O'r hael wyr frodyr 0 fri Wyf yr hynaf o'r rhieni. Glynwn wrth gylch goleuni-y Maen Llog Mewn llwydd gwnawn foddloni, 'E ddylem sylweddoli Swydd a nerth ein Gorsedd ni.