Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ARGLWYDD PENRHYN FEL DYSGYBLYDD.

News
Cite
Share

ARGLWYDD PENRHYN FEL DYSGYBLYDD. Ar derfyn yr wythnos ddiweddaf, cafwyd prawf arall o feistrolaeth yr arglwydd hwn. Y mae'r helynt yn wybyddus i bawb, fel nad oes angen manylu ar y cweryl; ond y dydd -o'r blaen credai y gweithwyr pe gallasent ddod o hyd i'r gwr eu hunain y byddai yn barod i'w derbyn yn ol i'r chwarel, a gofyn- asant iddo dderbyn deiseb o bedwar o'r gwyr. Yr oedd y syrrudiad yna yn arddangoseg fod y bobl yn barod i ildio i bob hawliau ac yn ddigon gwasaidd i dderbyn unrhyw gytundeb a gynygid iddynt gan ei arglwyddiaeth. Yr oedd y chwarelwyr wedi addaw ar y dechreu bod yn ffyddlon i'w gilydd a pheidio dychwelyd i'r chwarel ond ar delerau arbenig. Erbyn hyn, rhaid addef, gyda gofid, fod y wedd yna wedi newid gan fod nifer luosog wedi myned yn ol i'r chwarel a derbyn y rheolaeth bresenol yn ddirwgnach gan frad- ychu eu cydweithwyr a chynffona i reolwyr y chwarel er budd eu llogellau yn hytrach na ymladd dros eu hawliau a bod yn ffyddlon i'w cydweithwyr. Y mae hynyna wedi gwangaloni y rhai sydd yn sefyll allan, a gwelir hyny yn amlwg yn eu gwaith yn awr yn ceisio cael hyd i Arglwydd Penrhyn a gofyn iddo wrando eu cwynion er mwyn terfynu yr anghydfod a'r cweryl presenol mewn dull heddychol. Wrth weled ymddangosiad gwasaidd y chwarelwyr, a deall eu safle, y mae ei arglwyddiaeth yn snanteisio arno, ac yn rhoddi gwers effeithiol iddynt. Dyma ddywed :—" Y mae eich llythyr yn cynwys copi o benderfyniad yn gofyn i mi dderbyn pedwar o gynrychiolwyr, ac yn dat- gan awydd 'am derfyniad boddhaol ac hedd- ychol o'r anghydfod blin yma' wedi dod i'm flaw bellach. Mewn atebiad, dymunaf ddy- weyd fod agwedd nifer o'r chwarelwyr ar streic tuagat y rhai sydd yn gweithio genyf yn bobpeth ond heddychol'; gwneir ymos- odiadau arnynt, torir eu ffenestri, defnyddir iaith warthus a bygythiol tuag atynt, yn ogystal ag at eu gwragedd a'u plant, y rhai hefyd yn fynych a ymosodir arnynt. 0 dan yr amgylchiadau hyn, yr wyf wedi penderfynu peidio gwneyd unrhyw atebiad pellach i'ch cais ar hyn o bryd." f Dyna yn union beth allesid ddisgwyl. Cred ei arglwyddiaeth ei fod wedi cael yr oruchaf- iaeth, ac fel meistr dialgar y mae am roddi gwers effeithiol iddynt, yr hon nis anghofir am genhedlaeth neu ddwy. Ar y dynion yn unig y gorwedd y bai yn awr. Os oes gan- ddynt gwynion dylasent eu gosod yn gadarn ger bron a dysgu'r fath wers i Penrhyn- boed milwyr neu beidio yn y lle-fel nas gallai anghofio y bobl am dro. Ond na, rhyw ganu hymnau a chardota oedd well ganddynt hwy: dwy ffordd hynod o ffol a dieffaith i enill cydymdeimlad a chyfiawnder. Ac y mae'r canlyniadau wedi dod. Credwn y bydd y wers yn effeithiol; ac os caiff Pen- rhyn ei ffordd ei hun bydd y chwarelwr yn -fwy o gaethwas na'r un dyn du o dan ormes- wyr creulon planhigfeydd yr India gynt. Gan hyny, ar y chwarelwyr eu hunain y gorwedd y dyfodol. Os penderfynant i ymladd boed iddynt wneyd hyny yn wrol ac nid rhyw alw y gwr o'r Penrhyn yn haner angel, eithr ei bortreadu yn ei ddiwyg briodol. O'r ochr arall, os gwell ganddynt ormes, boed iddynt fyned ar eu gliniau o'i flaen a llyfu llwch ar unwaith, a pheidio poeni gwlad gyfan am ;gardod byth ond hyny. 'Dyw pobl a gytunant i ormes yn awr yn hawlio na chefnogaeth na chydymdeimlad, a gwyr Arglwydd Penrhyn hyny yn dda. I

Advertising

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.