Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

PLA'R CORONI.

GWANU'R CLEDDYF I'R WAIN.

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

News
Cite
Share

CYMDEITHAS CYMRU FYDD. Cafwyd cyfarfod rhagorol o'r gymdeithas hon nos Wener yr wythnos ddiweddaf-er fod y tywydd yn hynod o anffafriol. Y mae yn eithaf amlwg fod defnyddiau cymdeithas gref yma, pe buasai'n bosibl dod o hyd i rhyw ddull o enyn dyddordeb a sicrhau cydweith- rediad dynion ieuainc Llundain. Y mae'r gymdeithas wedi ei sefydlu er's wyth neu naw mlynedd bellach, ac er na fu ar un adeg yn llewyrchus iawn, eto, y mae rhyw gymaint o fywyd ynddi o'r dechreu. Gwnawd ymgais lawer gwaith i wella'r cyfansoddiad, ac i eangu maes ei gweithgarweh, ond rhyw fodd neu gilydd ni ddaeth dim lies erioed o'r cyn- ygion hyn. Yr ydym yn methu deall beth sydd wrth wraidd y difrawder ynglyn & gwleidyddiaeth sydd wedi meddianu pobl ieuainc Llundain fel cyfangorff. Yn unigol, y mae'r Cymro yn wleidyddwr selog, ac y mae pynciau gwleidyddol yn cael sylw mawr yn y cymdeithas au llenyddol sydd ynglyn a'n capeli. Ond yr oedd cynulliadau Cymdeithas Cymru Fydd yn ystod y gauaf yn druenus o fach, a hyny yng ngwyneb y ffaith fod papyrau rhagoi ol wedi eu darllen ar bynciau fel Tir- feddianiaeth yng Nghymru a Llywodraeth Gartrefol dros Gymru. Yn sicr, nid ydyw'r Cymro Llundeinig wedi deall y ffordd i gadw cymdeithas wleidyddol yn fyw. Y mae Cymry Llundain wedi gwneyd cymaint yn y gorffenol i oleuo ac i arwain Cymru fel y mae'n resyn gorfod cydnabod fod eu llais mor ddistaw yn y dyddiau blin hyn pan y mae'r egwyddorion y bu ein tadau yn ymladd drostynt yn cael eu sathru tan draed, a phan y mae pob math a anfoesoldeb gwleidyddol yn cael ei. gyflawni gan y Llywodraeth anghyfiawn a rhagfarn- 11yd hon. Deffrowch, deffrowch Gymry Llun- dain.

AR OL Y BRWYDRO.