Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HEN LUNDEINWYR ENWOG

News
Cite
Share

HEN LUNDEINWYR ENWOG ROBERT OWEN, "ERYRON GWYLLT WALIA." [1803-1870.] [GAN MR. LEWIS H. ROBERTS, CANONBURY.] Yr oeddwn yn adnabod Robert Owen yn dda, a'i deulu hefyd. Gwrandewais lawer arno -yn y pwlpud, y set fawr, ac hefyd oddiar y tlwyfan. Bu, yn am], yn ein plith fel teulu, a llawer o gwestiynau celyd a dderbyniais oddi- wrtho ac, yn ddiau, y mae efe a'i gyf-oedion -Dr. Owen Thcmas, John Mills a Charles Davies-wedi gadael argraff ar Fethodistiaeth Llundain nas dileir mo hono byth. Un o feibion Eryri ydoedd-o ganol myn- yddoedd mawrion Gwylit Walia o ba ardal y cododd rhai o'r cewri mwyaf eu dylanwad yn y pwlpud Cymreig, megis John Jones (Talsarn), Dafydd ei frawd, Cadwaladr Owen; ac, heb fod ymhell o'r un fan, Robert Roberts (Clynnog), a'i frawd John Roberts (Llangwm), y rhai oeddynt yn ewythrod iddo, brodyr ei fam. Felly, gwelir ei fod, yn wahanol i James Hughes yr Esponiwr, wedi tarddu o deulu crefyddol. Ganwyd ef yn Ffrith Bala Deulyn, Talsarn, Llanllyfni, ar y 3ydd o Ebrill, 1803. Enwau ei rieni oedd Gruffydd ac Anne Owen. Enw morwynig ei fam oedd Anne Roberts, yr hon oedd yn ieuengach 0 dair- blynedd-ar-ddeg na'i brawd hynod ac enwog, Robert Roberts, Clynnog. Yr oedd hi yn wraig dduwiol iawn, a gadawodd argraff anileadwy ar ei mab (Robert Owen), yr hwn a soniai lawer am dani, ac a adroddai lawer amgylchiad cyffrous y cymerodd hi ran ynddynt yn y Diwygiadau Crefyddol oedd yn bod ar y pryd. Ffaith lied hynod i'w dyweyd am deulu y Ffrith-mewn pedair cenhedlaeth ddilynol- yw, fod cynifer ag ugain, o leiaf, o bregethwyr wedi codi o'u mysg-yn eu plith, Dr. Griffith Parry (Carno)—a'r oil yn perthyn i'r Method- istiaid oddigerth tri, sef Owen Davies, yr hwn sy'n gweinidogaethu gyda'r Saeson, a dau frawd o'r enw Hughes yn Eglwys Loegr. Bu rhieni Robert Owen fyw yn y Ffrith am rai blynyddoedd, ond ymhen amser symudwyd y teulu i Gaernarfon, a dyna lie treuliodd y mab (Robert) ddyddiau ei ieuenctyd, a chaf- odd ei addysgu yn ysgol yr enwog Evan Richardson, lie y bu nes y cyrhaeddedd ei bymtheng mlwydd oed, pan yn prentisiwyd ef yn beintiwr, a bu yn gweithio hyd nes y gad- awodd Gaernarfon, gyda Mr. Hugh Roberts. Daeth yn grefftwr rhagorol. Yr cedd yn fedrus fel srlunydd mewn oils; a tu yn gweithio, am amser, yn Glynllifon, palasdy Arglwydd Newbcrough, ac yno yr arluniodd arms" a'r set o gadeiriau. Cjfrifwyd y gwaith hwn, gan feirniaid da, yn orchestwaith. Bu farw y tad ynghanol ei ddyddiau, yn ei 49 mlwydd, a phan nad oedd Robert Owen ond 16 mlwydd o oedran, a chyfrifwyd ef 3 n ddyn duwiol, o dymher dawel a gwastad, ac yn un tra charedig. Fel y crybwyllais, yr cedd mam Robert Owen yn hynod am ei duwioldeb, ac yr oedd yn berchen ar alluoedd uwchlaw y cyflredin— yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyreu, ac yn ddarllen-wraig fayr—yn derbyn y prifweithiau Cymreig a ddeuent allan ar y pryd yn rhanau megis Geiriadur Charles, Bunyan Gurnal, Merthyrdraith Fox gan Thomas Jones, Din- bych; a thrwy ei brodyr, John a Robert Roberts, daeth yn gyfeillgar a ihai o brif bregethwyr yr Hen Gorff. Ac 'roedd hoffder neillduol rhyngddi hi a'i mhab Robert, a dysgodd ef yn dyner a thrwyadl mewn Ban- esiaeth Feiblaidd, gan ei ddwyn i fyny yn grefyddol; ac fel Timotheus ieuanc, "yn wybyddus o'r Ysgrytbyr Lan er yn fachgen." Tua'r adeg yma (1818), yr oedd yr hyn a elwir yn Ddiwygiad Beddgelert yn ei nerth a'i rym, ac wedi cyrbaedd Caernarfon—yn en- wedig eglwys Pen'rallt He yr cedd efe yn aelod, a dyma yr amser y darfu iddo ef gysegru ei hun i acbos crefydd. Trwy ym- drechion diflino (er ei fod yn gweithio yn galed bob dydd) daeth i feddiant o wybodaeth eang a chyffredinol; ac yr oedd y cychwyn- iad a. roddodd Evan Richardson iddo yn symbyliad cryf yn y cyfeiriad yma, gan csod ei holl fryd ar farddoniaeth a duwinyddiaeth. Yr oedd yn ystod ei holl fywyd yn ddarllenwr mawr ac yn gwneyd y defnydd goreu ar bob adeg i ddarllen y llyfrau goreu, ac yn hysbys iawn o'r hen Biwritaniaid; ac meddai Dr. Thomas, wedi ei glywed yn cyfeirio at y rhai mwyaf adnabyddus o honynt "Cyfeiriodd at Preston, Fenne, Samuel Bollen, Brinsley ac Everard." Daeth i Lundain yn y flwyddyn 1824— blwyddyn wedi agoriad cyntaf Capel Jewin Crescent-ymaelododd yno, a gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol yn bur fuan; ac oherwydd ei dduwioldeb, ei wybodaeth eang ysgrythyrol a chyffredinol, a'i dalent ddisglaer, daeth yn fuan iawn o fawr wasanaeth i'r Achos Mawr yn y Crescent, ac yn fuan wedyn dewiswyd ef yn arolygwr yr Ysgol Sabothol; a dywed rhai na fu erioed well. arolygwr mewn ysgol nag efe. Priododd yn 1832 âg Ellen Owen o'r Bala, ond genedigol o Aberystwyth, a thrwy ei briodas daeth yn gyd-frawd-yng-nghyfraith a Griffith Davies, yr actuary enwog. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhyngddynt—un yn rhif- yddwr mawr, y Hall yn dduwinydd mawr ac yn fardd rhagorol: un yn arafaidd a chrwn ei dymher, y Ilall (er nad yn edrych felly) yn Ilawn sirioldeb ac arabedd ond yr oedd y ddau yn dduwiol ac yn ffyddlon yn achos yr Arglwydd, yn cydweithio am flynyddoedd a'u gilyda, ac yn wir gyfeiilion eto, nid oeddynt yn gallu cydweled yn hollol a'u gilydd ar rai o'r helyntion blin a ddaeth dros yr eglwys yn y Crescent oddeutu 1840 hyd 1847. Dewiswyd y ddau yn flaenoriaid yn yr un flwyddyn (1837) gyda dau frawd arall, ac o'r pedwar efe oedd y mwyaf cymhwys, oherwydd ei allu a'i wybodaeth dduwinyddol ac hefyd ei fedrusrwydd i roddi ei feddwl allan mewn anerchiadau byrion, tlws, a tharawiadol. Yr oedd, cyn ei fod yn flaenor, yn arfer ag areithio llawer ar yr Ysgol Sabothol; a phan ddaeth dirwest-yn selog ar ei rhan, ac yn areithiwr hyawdl ynddi-darparodd ddarlith, yn dangos allan effeithiau drwg gwirodydd ar y corfl. Pan y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, yr oedd William Roberts, Amlwcb, yn bresenol ar y pryd, a rhoddodd gyngor i'r blaenoriaid newydd. Profodd fel y difgwylid yn flaenor rbagorol iawn. Nid oedd ganddo ddawn neillduol mewn ym- ddiddan a'r aelodau, ond yr oedd ei areithiau byrion a'i sylwadau ar y prcfiadau mor bert, mor gymhwysiadol, ac hefyd mor nerthol ar rai adegau, fel y tybiai llawer y dylasai ddringo yn uwch i'r pwlpud-p-c mae'n debyg ei fod ef ei hun er's blynyddoedd wedi meddwl yn ddwys am hyny. Clywais ef ei hun yn dyweyd ei fod wedi meddwl bod yn bregethwr er yn blentyn, ac yr oedd ei ddarlleniad yn ddiau i'r cyfeiriad hwnw; ond pan ddaeth i Lundain-ei brysurdeb gyda'i waith (foreman jpainter), gofalon teuluol a diffyg cefnogaeth- bu raid rheddi'r syniad i fyny yn llwyr. Ond digwyddodd i James Hughes gael ei gymeryd yn sal ac i'r gwr dieithr o Gymru eu sicmi yn Awst neu Medi, 1843, fel y gofynwyd iddo gan yr eglwys gymeryd gwasanaeth y iics trwy bregethu iddynt, yr hyn a wnaeth gyda rhwyddineb, fel, o hyny allan, cymerodd ei le fel pregethwr; end ar y cyfan, yn y pwlpud, nid oedd mor llwyddianus ag y dis- gwylir iddo fod. Yr wyf yn cofio yn dda y tro cyntaf y clywais ef: safai i fyny yn syth, a'i law i fyny, a'i fawd yn amlwg, ei wallt yn wyn, ei lais yn aflafar braidd yn uchel ond byth yn gwaeddi, ac yn undoneg o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd rhaniad ei bregeth yn ddestlus, ond yr oedd ei gyffelybiaethau ar tater yn cael eu difetha gan y traddodiad. Y mae Dr. Thomas yn sylwi yn y llythyr at Dr. Parry, awdwr ei Gofiant: Fod ei bregeth yn rhywbeth rhy fawr, rhy unmanagable ganddo ac y maeyn* debyg na byddai byth, braidd, yn meddwl ans* barotoi nes y byddai'r adeg yn ymyl, Sicr" yw, fcd ei feddwl yn llafurio yn ddiwyd yn y gwirionedd, ond ni fyddai yn rhoddi ffurf pre- geth arnynt hyd nes y byddai yn amser i fyned- i'r pwlpud. Yr oedd ei gydnabyddiaeth a'r Beibl yn ddifesur, bron yn hollol ar flaenau- ei fysedd, a gwnai ddefnydd o hono bob amser yn hapus iawn er egluro ei feddwl ac yn? gyffredin, pan mewn ymddiddan, byddai yn- hoff o ddwyn adnod i brofi ei bwnc, "Ond ar y llwyfan, mewn cyfarfod o'r- Ysgol Sul, cyfarfod cenhadol Beiblaidd neu* anerchiad mewn cyfarfod cyhoeddus ar ob cyfarfod te, yr oedd yn hollol wahanol i'r hyn ydoedd yn y pwlpud—ei ymddangosiad, et lais, ei ddull yn hollol wahanol, a buasai yn sicr bron o wneyd yr hyn a elwir yn speech of- the evening." Yr wyf yn ei gofio ar un nos Nadolig-mewn" cyfarfod o'r ysgolion, a'r diwrnod hwnw wedi, bod gyda rhyw bregethwr yn y Palas Grisial -yn cydmaru y Beibl a'r Crystal Palace Ex- hibition Fawr, yn cynwys pobpeth Crystal fountain, Egyptian cants." Yr oedd pawb* wedi eu goleuo mewn syndod. Clywais ef hefyd yn rhoddi darlith yn yr hen Gapel Wilton Square ar 'Anne Griffiths," a gwnaeth, yn groes i'w arferiad, ei darllenr ond yn hynod o effeithiol. Yr oedd yn fedrus" iawn hefyd wrth dalu diolchgarwch' byddai yn taro ar rywbeth yng nghymeriad y person y byddai yn gymeradwyo. Nid oedd byth ya- wasaidd nac yn sebonllyd, eithr yn gryno a- chynes. Cafodd ei crdeinio yn Nhreffynnon yrt, y flwyddyn 1858, ac yn fuan wedi hyny daeth; i fewn i'r cylch yn Llundain fel gweinidogf rheolaidd, gydag Owen Thomas, Charles* Davies a John Mills. Talwyd ef o'r un cyllid gyda'r lleill: a dywedir am dano ef yn dy- weyd pan ddaeth Joshua Davies i fyny, a phan,, y soniwyd am i bob eglwys fod yn gyfrifol am., gyflog ei gweinidog, Bydded un pwrs i ni Í:1 gyd." Yr wyf wedi crybwyll eisoes am ei alwedig- aeth ddyddiol. Yn fuan wedi ei ddyfodiad fc Lundain gwnaed ef yn foreman yn ei waith,, yr hon safle a ddaliodd hyd o fewn pum' mlyn- edd i'w farwolaeth-wedi bod gyda'r un ffirro am oddeutu deugain mlynedd. Yr oedd yn,, gynil a darbodus, a llwyddodd i gasglu digonr i'w gynhal yn gysurus wedi iddo ymneillduo' oddiwrth ei waith. Yr oedd, yn ol ei amgylch- iadau, yn haelionus; ac ni chafodd ef a'u deulw erioed eu bod yn" glos." Yr oedd, yn ei flynyddoedd diweddaf, yn cadw Ty Capel yra Jewin Crescent; ac y mae llawer i hanes difyr i'w gael am dano gyda'r pregethwyr, a gair da iddo gan bawb. Mae'n debyg y gelwid ef yn reserved; ond pan gyda'i gyfeillion, ac o-, flaen tin, fel y gwelais ef laweroedd o weithiaw yn Rheidiol Terrace, nid oedd yn bosibl cael un mwy diddan a difyrus na Robert Owen. Tra gyda'i waith digwyddwyd iddo anffawd trwy losgi, a gorfu iddo fyned i Ysbyty Bartholomew am rai misoedd, a thra yno ysgrifenodd yr hyn alwai, "Cerdd yr Ar- glwydd mewn gwlad ddieithr," ym mha un y ceir yr emynau adnabyddus hyny, Er dod o hyd i Marah." Nid oes genyf amser i ddyweyd Ilawer ant ei arabedd mae llawer o honynt ar gael yr,, ei Gofiant gan Dr. Parry. Mewn cysyUtiad: a helynt, pan oedd un o'r blaenoriaid wedi, troi yn bankrupt, gofynai Mr. Owen iddo, A fuoch chwi yn delio mewn 'accomodation bi!!s' ?" Naddo," meddai y blaenor, "ond pe buaswn wedi gwneyd hyny, ni fuasai yn bechod." Atebodd Mr. Owen, "Marsiandwr yw Efe, yn* ei law ef mae clorianau tywyll. Dywedodd: Ephraim, 'ni chafwyd yn fy holl lafur anwir- edd ynof a fyddai bechod." A phan oedd sow am Dr. Thomas yn myned i Lerpwl, i Ogledc& Lloegr, dywedodd Mr. Owen ei fod yn meddwl am weledigaeth Jeremiah pan welai berwedig a'i wyneb tua'r gogledd," Bu farw ar yr 22ain o Awst, 1870, a chladdwyd ef yr* Abney Park ac y mae yn awr dri o weinid- ogion Methodistaidd yn gorwedd yno, sef