Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLITH Y CRWYDRYN.

News
Cite
Share

LLITH Y CRWYDRYN. XI.—ABERYSTWYTH A LLANBADARN FAWR. Tafarndy y bwriedid ty y Brifysgol i fod pan adeiladwyd ef gwariwyd 180,000 i'w godi, eithr trodd yr anturiaeth allan yn feth- iant poenus. Bu y ty yn segur am ysbaid hir, ac wedi hyny prynwyd ef gan gefnogwyr addysg uwchraddol yng Nghymru am €10,000, wythfed ran o'r draul a wariwyd i'w godi. Agorwyd y Brifysgol yn 1872; ei harwyddair yw, 41 Nid byd byd heb wybodaeth." Ac y mae hi wedi gwneud ei rhan yn ganmoladwy i droi allan i'r byd ddynion galluog a diwyll- iedig. Yr un flwyddyn, 1872, yr agorwyd y Glansarn hyfryd y geir yn y lie, yr hwn sydd yn ychwanegiad pwysig er dedwyddu yr ym- welwyr yn y dref hwyr ddyddiau hafaidd. Dinystriwyd yr hen lansarn gan yr ystorm ddinystriol wnaeth y fath ddifrod ar draethau Prydain yn 1866. Mae y newydd yn well na'r hen. Diau na fyddir yn hir iawn cyn codi cromadail ferth ar ben pellaf y lansarn mewn trefn i gynal cyngherddau a gwerthu addurn- bethau wedi eu gwneud o feini-Aberystwyth, ac aur glan y Mawddach a Gwynfynydd, ac arian o fwngloddiau Cwmsymlog. Rhodfa dlos i bobl iach yw dringo i ben Constitution Hill, yr hwn sydd yn codi yn serth i uwchder sydd yn agos i bum cant o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor. Oddiar y bryn hwn ar brydnawnddydd clir, ceir golygfeydd tra arddurniadol-gellir gweled y bryniau a'r mynyddoedd cyfagos ynghyd a dyffrynoedd heirddion y Clarach, Rheidiol, a'r Ystwyth. Gwelir yn y pellder hefyd fynyddoedd Meirion, Arfon, a Phenfro, a beisfor Aberteifi oil, a chulfor Sant Sior hyd yr Ynys Werdd. Wrth droed y Constitution Hill y gwelir y Graiglas a'r gilfach dlos dan ei chesail. Mae dyffryn Clarach yn werth myned drwyddo hefyd gan ein bod mor agos iddo yma. Ystyr yr enw Clarach yw clar, claer, gloyw, disglaer, llaehar, clir; Francaeg, clair; Lladinaeg, clarus; ac Ach afon. Ceir yr enw ach hefyd yn Cludach a Mawddach. Yn nyffryn Clar- ach y mae Mr. Davies, gynt Union Road, Llundain, yn byw. Boed iddo ef a'i briod oes faith ddedwydd yn eu hanedd dlos. Bu yr Ymneillduwyr yn pregethu er yn foreu yn eu hanes yn y dyffryn hwn. Unwaith pregethent mewn lie o'r enw y Cross, a chlywodd hen wr goludog oedd yn byw yn yr ardal am y cyfar- fod, cynhyrfodd ei deimladau yn arswydlawn pan glywodd am yr oedfa, ac aeth at y pre- gethwr gan ei orchymyn i dewi. Atebodd hwnw ef yn dawel, Os ydych chwi yn gorch- ymyn i mi dewi mi wnaf." Eithr yn ymwyb- odol nad oedd ganddo awdurdod i'w rwystro ciliodd y goludog hwnw ymaith, a chadd y pregethwr lonydd i fyned rhagddo yn hwylus nes gorphen y cyfarfod. Azariah Shadrach gychwynodd gynal achos rheolaidd yn yr ardal hon mewn ty to gwellt lie y cafwyd llawer oedfa ogoneddus yn yr hen fwthyn llwyd diaddurn. Bu y bonedd- wr Pryce Gogerddan yn dra hwyrfrydig i roi tir i godi capel yn y lie, nid am ei fod yn erbyn Ymneullduaeth ei hunan, ond am fod cymydog cyfoetbog iddo yn elynol iawn i'r Ymneillduwyr, ac yn crefu arno i beidio rhoi tir iddynt i godi capel arno. Ond drwy daer geisio, cafwyd y tir ganddo o'r diwedd ac yn 1836 adeiladwyd y capel a galwyd ef yn Hephsibah. Mae mynwent brydferth wrth ei Ochr, yn yr hon yr huna torf o anwyliaid net. Dyma y gweinidogion a fu yma Parchn. Benjamin Rees, Llanbadarn Fawr o 1836 hyd 1849; R. W. Roberts, Pantglas, Sir Gaeryn- arfon, o 1849 hyd 1864; T. Close Davies o 1864 hyd 1865; William Jansen Davies o 1866 hyd 1868; William Williams o 1868 hyd ei symudiad o'r lie. Y Parch. J. Llywelyn sydd yma yn bresenol ac yn y Borth, a phre- getha yn rhagorol, fel y gallesid disgwyl i un o ddisgynyddion yr enwogion Thomas Jones, Cilcenin; a William Jones, Cefnarthen, a Phentretygwn—o anfarwol gcffadwriaeth. Cefais foddhad neullduol i wrando Mr. Llyweljn. Chwi ymwelwyr, ewch i'w wrando yno nos Suliau yn Gorphenaf ac Awst, a chewch fwynhad mawr. Lewis Jones, mab Nantycastell o'r ardal hon, wedi bod yn athrofa Aberhonddu, a urddwyd yn weinidog yng Nghroesoswallt, Tach. 7, 1858, ac aeth i Abergwaun, Penfro, Awst 1864, ac oddiyno yn 1871 "ymadawodd a chrefydd ac aeth i eglwys Loegr." Bu yn offeiriad yn Cwmtaf- Brycheiniog, lie y bu farw ychydig amser yn ol. Yr oedd yn ddyn caredig a hynaws. Rhaid i mi weithian frysio yn ol i Aberyst- wyth cyn y daw hi yn nos dros y wlad. Yn amgueddfa y Brifysgol, gellir gweled rhai o'r hen arian fathwyd yng Nghastell Aberyst- wyth gan Thomas Bushell, arolygydd mwn- gloddiau Aberteifi. Pan oedd Siarl I. mewn cyfyngder, rhoddod Bushell fenthyg 940,000 iddo gan wisgo yr oil o'i fyddin oedd mewn carpiau ac yn haner noeth, a chododd fyddin gref o fysg y mwnwyr dan ei reolaeth i gyn- orthwyo Siarl. Mae llawer o bobl y dref hon yn Llundain Mr. John Richards, 20, Redburn Street, Chelsea J. Edward Jones, y crwthwr enwog o Cable Street; Mrs. Davies, Pine Street; Mrs. T. Matthias, Cross Street; Parch. Morris Roberts, offeiriad poblogaidd yn Pop- lar; Miss Hughes, Wood Street; a llu mawr ereill. Cefais groesaw neillduol yn Aberyst- wyth gan Mrs. Lloyd a'i theulu, Newry House," i, George Street, a chan Mr. a Mrs. Thomas, masnachwyr, Northgate Street. Brodor o Llundain yw Mr. D. Thomas, ac y mae ef a'i fab galluog yn gerddorion gwych. Dim ond Mr. Morgan, Rochester Row, Westminister, a Mrs. Jones, Newcomen Street, Boro', wyf yn wybod fu yma ar eu gwyliau yr haf hwn o Gymry Llundain. Daw yma lu yn fuan-mae swn tyrfa yn dod, felly rhaid i mi gilio allan o Aberystwyth i roi lie iddynt. Ar fy ffordd i fyny i bentref Llanbadarn Fawr af trwy y fan y safai gynt y Porth Tywyll Mawr a deuaf at y Midway, palasdy prydferth Mr. a Mrs. J. E. Evans, St. George's Road, Llundain; ac y mae ganddynt hefyd nifer o dai prydferth newydd eu hadeiladu gerllaw iddo. 0 lanerch ferth, dyma le hyfryd i fyw Fan acw y mae Cwmpadarn, lie y magwyd y diweddar Barch. John Roberts, Garthmyl, Trefaldwyn, a'i frawd Mr. Richard Roberts, 59, Collier Street, King's Cross, gynt. Mor ddedwydd ydyw efe a'i briod a'i ferch yn y pentref tawel Llanbadarn Fawr. Dydd da i'r tri. Mae brawd a ehwiorydd Mr. Roberts yn Llundain. Dyma fi yn awr wrth Eglwys Llanbadarn. Diosgaf fy het oddiam fy mhen, a'm esgydiau oddiar fy nrhaed, oherwydd y lie yr wyf yn sefyll arno sydd ddaiar sanctaidd. Bu y Celtiaid yma yn addoli duw-natur cyn i Gristionogaeth ddod i'r wlad. Tybir mai Padarn yn y flwyddyn 516 gododd eglwysdy Cristionogol gyntaf yn y He. Ni wyddis y fan y safai hwnw. Brodor o Llydaw fel y tybir oedd Padarn; daeth drosodd i'r wlad hon er mwyn derbyn addysg dan Illtyd yng nghor enwog Llanilltyd Fawr ym mro Morganwg. Cysylltir gan y "Trioedd" enwau Padarn, Teilo, a Dewi fel tri bendigaid ymwelwyr Ynys Prydain." Adroddir ddarfod i Mael- gwn Gwynedd roi tir i Padarn at ei golegdy yn Llanbadarn Fawr. Casglodd lawer o fynachcd i'w sefydllad y rhai a anfonai allan i bregethu drwy wlad Ceredigion. Sefydlodd fynachlogydd ar hyd aIled y wlad o amgylch gan eu c flenwi a mynachod o'i fynachlog yn Llanbadarn. Bu yma un adeg 120 o'r cyfrywyn byw gan dderbyn addysg dan Padarn. Rhaid gofalu peidio uno y Padarn hwn a'r Padarn hwnw wnaed yn esgob Yannes yn Armorica ac a fu farw A.D. 448, nag a'r Padarn gysegr- wyd yn esgob yn yr un lie A.D. 465. Perthyn i'r chweched ganrif oedd y Padarn fu yma. Dywed yr" AnnaIes Cambriæ" i Maelgwn Gwynedd farw yn 547, ac os yw Hanes ac Epistol Gildas yn un gwaith, fel y gellir credu, y mae yn ymddangos fod Maelgwn Gwynedd byw yn 560 A.D. Ni wyddom pa fodd, na pha bryd y bu farw Padarn, na pha le y claddwyd ef. Dichon iddo fyned yn ei ol i Llydaw wedi bod yn Llanbadarn Fawr am un-flynedd-ar- ddeg-ar-hugain ac iddo farw yno, ond nid oes sicrwydd. Bu Cynog yn esgob yma ar ei ol. Esgob Llanbadarn oedd un o'r rhai a anfonwyd gan yr eglwys Brydeinig i'r gynhadledd hono a gynhaliwyd dan y dderwen yn sir Gaerwr- angon pan oedd Awstin Fynach yn 601 yn ceisio darostwng eglwysi Prydain dan reolaeth y Pab o Rufain. Tybir i Idnerth, esgob Llan- badarn, gael ei ladd drwy wrthryfel yr ardal- wyr o gylch 601 neu yn fuan wedi hyny, yr hyn a arweiniodd i Llanbadarn golli ei breint- iau dinasol. Dinystriwyd eglwysdy Llanbadarn i'w syl- feini gan y Daniaid lladronllyd 987. Yr oedd eu cynddaredd mor angerddol fel y tybiodd Meredydd, Tywysog y Deheubarth, mai doeth a diagelach iddo ef a'i ddeiliaid oedd iddo dalu treth o geiniog y pen dros bob dyn o fewn ei derfynau i'r Daniaid, yr hon dreth a alwyd yn deyrnged y fyddin ddu." Yn 1038, cwerylodd Gruffydd ab Llywelyn ab Sitsyllt a Hywel ab Edwin a gorchfygodd ef mewn cad ddig, a chymerodd froydd teg Llanbadarn oddiarno. Yn 1106 ffodd milwyr Owain ab Madog am noddfa i eglwys Llan- badarn rhag milwyr Harri 1. Yr oedd Madog ac Ithel gyda milwyr y brenin; lladdwyd milwyr Owain i gyd a dinystriwyd yr eglwys. Dangosodd Harri lawer o dynerwch wedi hyny i Llanbadarn a Llanddewi Brefi drwy fod y brodorion yn ei bleidio ef yn erbyn Owain ab Madog. Yn 1111 trosglwyddodd Gilbert Strong bow waddoliadau Llanbadarn i fynachlog Pedr Sant yng Nghaerwrangon. Bu farw loan, esgob Llanbadarn yn 1136, a Sulien ab Rhyddmarch, gwr o uchel ddysg- eidiaeth yn athrofa Fynachol Llanbadarn yn 1143. Atafaelodd y Tywysog Gruffydd ab Rhys o'r Deheubarth ychain a defaid y fyn- achlog hon pan wersyllai yn y Glasgrug wrth geisio enill castell Aberystwyth. Bu Giraldus Cambrens's yn Llanbadarn gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188 pan yn pregethu Rhyfeloedd y Groes, a chwyna oherwydd cyflwr isel y fynachlog. Pan sefydlodd Iorwerth I. fynachlog Vale Royal, sir Gaerlleon, trosglwyddodd holl waddol Llanbadarn Fawr i'r fynachlog Seis- nig hono, ac ni fu yn Llanbadarn Fawr na mynachlog na choleg wedi hyny. Yn amser rhyfeloedd Rhys ab Meredydd yn 1287, Llanbadarn Fawr oedd pencadlys byddinoedd y Saeson yn Neheudir Cymru. Mae yr eglwys bresenol ar lun croes, ac ar ei chanol y mae twr petryal mawreddog yn sefyll ar bedair colofn gref. Teulu Chichester yw perchen- ogion y degwm er's oesau lawer; cymun- roddion a adawyd gan garedigion yr achos sydd yn cynhal yr eglwys yn y lie yn awr. Y mae yn rhaid i mi gael golwg ar y cofgol- ofnau a'r beddfeini cyn ymadael o'r lie.

[No title]

Y NEFOEDD.