Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
PHOTOGRAPHS. DYMITNA DAVID MORRIS (diweddar o 33, Commercial-street, Aberdar) wneyd yn a hysbys i'w gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod wedi agor lie helaeth a cliyfleus at wneyd DARLUN- IAU yn 65 a 6(5, WIND-STREET, ac am brisoedd rhatach. 2684 Eisteddfod Tabernacl, Treforis. CYNELIR yr EISTEDDFOD FLYNYDD- C OL eleni fel arfer, yn y lie uchod, ar DDYDD NADOLIG, 1882. Beirniad Eos MOELAIS. Y many] ion i ymddangos yn fnan. 2692 KE^S JONES, Ysgrifenydd. GLANDABE GARDENS. 3ST OTIOE. PEIZES will be awarded on the 11th of September next, for the neatest and most usefully set Gardens of the Tenants, who have also complied with the conditions of Tenancy. For further information apply to DAVID JONES, 2693 27, Cardiff Street. Art Union Prize Drawing y Cardiff Castle Coffee Hotel, Aberdar, EE budd i weddw ac amddifaid y diweddar Mr. John James, manager, Fforchneol, gynt o Bwll Als. Cymer y Drawing le Hydref 16eg, 1882, dan nawdd prif foneddigion yr ardal (gwel y toc- ynau). A ganlyn yw rhestr y gwobrwyon 1.—WYTH GINI (£8 8s. Oc.). 2. Patent Lever Watch 8. A good Shawl 3. Chest-of-Drawers 9. Tea Service 4. 4 vols. Encyclopaedia :10. Alarum Clock 5. 20 parts Credoau'r Byd 11. Silk Umbrella 6. 10 yds. Welsh Flannel.12. Meerschaum Pipe 7. 1 doz. Knives & Forks A 30 o bethau ereill. Tocynan—GHWE' OHEINIOG- yr un. Dychweler llyfrau, yn nghyd a'r arian, i'r Ys- grifenydd cyn, neu ar ddydd Llun, Hydref 2il, 18S2. Cyhoeddir y ffigyrau llwyddianus yn y South Wales Daily "News, Western Mail, GWLAD- GARWR, a Tharian y Gweithiwr. Cadeirydd—Mr. THOMAS WALTERS. Trysorydd —Mr. WILLIAM THOMAS, 8, Wayne-street, Aber- dare (a hyny yn lie Mr. John Lake, fel y gwelir ar y tocynau. Ysgrifenydd, Mr. GEORGE WIL- LIAMS, 12, Meirion-street, Trecynon, Aberdare. Avfomvch am lyfrau, 2680
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. DALTEIi SYL W.-Oherwydcl ein bod yn myned i'r ivasg mor gynar, dymunwn yn barchus ar ein gohebwyr caredig i drefnu i ni gael eu cynyrchion foreu dydd Sacl- v:rn, am y byddai hyny yn nvyddineb mawr i ni, ac yn sicrhau cyhoeddusrwydd prydlawn i'r eiddynt. "FFERYLUAETH PETHAU CYFFREDIN."—TeimIa Edmygydd yn awyddus am gael gwybod gan awdwr y llithiau uchod pa fodd i gynyrchu y nwyon a elwir oxygen, hydrogen, nitrogen, a'r carbon. Hefyd, enwi y llyfrau sydd yn traethu oreu ar y pwnc.
DEDDF CABLDRAETH. ■
DEDDF CABLDRAETH. Y 3IAE y cyhoedd, bellach, yr ydym yn gobeithio, ya dechreu dyfod i ddeall nad yw cymeriadau pobl i gael eu llychwino a'u pardduo fel ag y gwelo enllib a chenfigen yn dda. Y mae llawer o gysur, dedwyddwch, a llwyddiant y dyn yn ymddybynu i raddau pell ar ei gymeriad ac os tynir hwnw i lawr, yr ydych yn cloddio o dan sylfeini ei barch, ei anrhydedd, a'i lwyddiant yn y byd, ac yn achos, fe ddichon, o'i niweidio yn ei amgylch- iadau am ei oes. Dywedir wrth yr hwn a fyddo yn cael ei gablu, Peidiwch a gofalu -ni wna y peth ag y maent yn ei ddweyd y niwaid lleiaf i chwi y mae pobl yn gwybod gwell am danoch." Wel, y mae hwna yn gynghor hawdd iawn i'w roddi gan ddyn na fyddo yn y brofedigaeth-dyn na fyddai neb yn ymosod ar ei gymeriad o gwbl ond pe byddai i'r cyfryw ymosodiad gael ei wneuthur arno ef, y mae yn ddiau y byddai ei ystori yn dra gwahanol. Hefyd, os gwyr eich cymydog mai anwiredd y maent yn ei ddweyd am danoch, ni wyr pellenigion hyny; a gall cyfeillion ag sydd yn eich adwaen, nad ydynt ar y pryd gerllaw i chwi, haner gredu a rhy- feddu, a drwy hyny beri i'w serchiadau ym- ddyeithrio oddiwrthych. Pob amser, bydd i chwedl ddrwg-bydded gwir neu gau -fel y gaseg eira, yn sicr o gael ei chwyddo wrth ei threiglo o enau i enau ac, yn wir, y mae yn well gan y byd yn gyffredin gredu ystori ddrwg nag ystori dda. Os bydd ystori dda i'w ddweyd am danoch, hynod mor araf y mae hono yn trafaelio, a mawr can lleied y mae pobl yn hoffi ei chlywed ond os bydd ystori ddrwg, hynod y fath gylchrediad cyflym y mae hono yn ei gael. Y mae gan y byd appetite rhy- feddol at beth fel hyn. Nid oes diffyg chwant bwyd o'r desgrifiad hwn fyth ar genfigen nid oes eisieu glasiaid o pale brandy, na chymeryd morning walk fyth ar genfigen. er lUwyn enill chwant bwyd. Y mae peirianau treuliol cenfigen yn hynod o gryfion ac iachus bob amser ond y mae rhywbeth yn y bwyd, wedi y?cyfan, ag sydd yn niweidiol i'r esgyrn, medd SOLOMON. Y mae efe yn dweyd ei bod yn "pydrn yr esgyrn," ac yn wir yr oedd efe yn llawer iawn o athronydd meddyliol; ac ni fyddai allan o le i C'fechgyn yglec" ei gredu. Nid yn unig y mae yn pydru yr esgyrn, ond y mae hefyd yn crebachu y cynedafau medd- yliol. Y fynud y gweloch chwi fardd yn eiddigeddu wrth fardd, neu lenor wrth lenor arall, dyna yiewbl ar stop: y mae y cyneddf- au yn eiddilo, a'r serchiadau yn gwywo a chrino, a'r natur foesol a deallol yn myned ar ddirywiad cyflym. Yr ydym bellach yn dechreu dyfod i ddeall fod y gyfraith wladol yn barod i amddiffyn cymeriad dyn ac onid da yw hyny, neu beth a fuasai wedi dyfod o gymeriadau llawer cyn hyn ? Pa le y buasent yn sefyll yn marn a syniad y wlad ? Pa le y buasai eu cysur a'u Ilwydcliaiit "?, Y mae am- ryw brawfiadau wedi cymeryd lie yn ddi- weddar, mewn achosion cabldraethus, yn Abertawe a manau ereill, a'r cwbl yn profi fod cymeriad dyn yn beth na feiddir gwneyd yn rhy hyf arno. Y mae yn beth cysegredig iawn, ac yn beth na feiddir dweyd y gwir am dano, os bydd y gwir hwnw yn tueddu, yn y mesur lleiaf, i'n niweiclio yn ein henwau neu ein hamgylchiadau. Yr ydym, fel ac, y dywedasom o'r blaen, wedi cael engreifftiau yn ddiweddar fod cabldraethau wedi costio yn ddrud idd eu hawdwyr. Gvvelsom fod un wedi gorfod talu 20p., a'r Hall 50p., a'r tryd- ydd lOOp., heblaw y costiau. Yr ydym ni wedi synu yn fawr pa fodd y mae perchenog- ion papyrau mor anwvbodus yn mharth beth sydd yn amountio i gabldraeth. Y maent yn gollwng pethau i'w papyrau ag y dylai plentyn saith mlwydd oed wybod eu bod yn gabl- draethau, ac yr ydym yn synu yn fawr fod golygyddion ac ereill yn dyfalbarhau i wneuthnr y pethau hyn, a hwythau yn gweled y canlyniadau sydd yn dyfod ohonynt yn bar- haus. Mewn prawf yn ddiweddar yn Aber- tawe, dywedai y barnwr dysgedig eiriau tebyg i'r rhai hyn ar y mater :-Fod golygyddion yn aeiodau o un o'r sefydliadau mwyaf defn- yddiol a phwysig yn y wlad-y wasg, ac fod yn ddrwg gan un feddwl fod yn mhlith y fath ddosbarth ag yw perchenogion a golygyddion papyrau da, rai ereill i'w cael yn nwyfweini i nwydan isel y cyhoedd, pa rai oeddynt yn cyhoeddi yr hyn ag oedd yn gywilyddus a gwarthus. Pa un a oedd yr achos ag oedd mewn Haw yn un o'r cyfryw neu beidio, yr oedd y rheithwyr i fartiu. Yr oedd y casbeth hwn yn enill tir yn gyflym, ond y buasai i olygyddion a phapyrau gwaradwyddus i gael allan cyn hir y buasai y gyfraith yn rhy gryf iddynt yn y wlad hon. Dywedai ei arglwydd- iaeth fod yr achos ag oedd dan sylw yn fater o bwys i'r cyhoedd yn gyftredinol, ac i'r rhai hyny ag oeddynt yn berchenogion a golyg- yddion papyrau. Yr oedd gan y rheithwyr yn gyntaf i farnu pa un a oedd yr achos mewn Haw yn gabldraeth neu nad oedd. Yr oedd y gyfraith yn dweyd fod unrhyw beth a gy- hoeddid am ddyn ag a fuasai yn tueddu i'w dynu i warthrudd yn gabldraeth. Nid cedd dadl nad oedd y llythyr a ddarilenwyd yn tueddu yn fawr at ddwyn gweinidog yr Efengyl i warth a chywilydd. Yr ail beth i'w ystyried ganddynt oedd, os caent allan ei fod yn gabldraeth, a oedd yn gyfeiriedig at yr achwynydd ? Ni fyddai iddo ef ddweyd dim ar y pan hwnw. Yn drydydd, ac yn oll- bwysig, a oedd y' peth yn wir ? Os caent allan ei fod yn gabldraeth, a'i fod yn gyfeir- iedig at yr achwynydd, ac nad oedd yn wir- ionedd, yna yr oedd yn achos o iawnwobrwy difrifol. Fe welir oddiwrth hyn y byddai yn well i'n gohebwyr, yn feirdd a llenorion, fod dipyn yn ochelgar a gofalus o hyn allan beth y maent yn ei ysgrifenu, fel na thynont eu hunain i ofid.
[No title]
Cene^i^aefh. DAVIES.—Mawrth 24ain, 1S82, priod Mr. Davies, 39, Dean-street, Aberdar, ar fab, a gelwir ef yn David. Blentyn ha/wddgar O mor siriol Yw'th wynebpryd bach dinam Ydwyt fel rhyw angel swynol, Yn dyddanu'th dad a'th fam. Felly hefyd boed dy einioes Yn ddifrychau fel y wawr Perarogli boed dy wen-oes 0 weithredoedd pur eu sawr.—Cyfaill. p..iodas. DAVIES—JOSES.— Awst 2ail, yn Nghapel y Wesleyaid, Ystalyfcra, gan. y Parch. -At, Jenkins, Wern, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. T. Rees, Yllysmendwy Mr. Rees Davies, Craigtrebanos, a Mrs. Sarah Jones, Ynys- meudwy. Y mae y priodfab yn 68 mlwydd oed, a'r briodferch yn 66 oed. Bendith ar eu huniad yn eu hen ddyddiau a therfyn eu hoes fyddo'n derfyn wrth eu bodd.—J.P.M.
[No title]
AM beidio anfon dychweleb flynyddol i Brif- gofrestrydd y Cymdeithasau Dyngarol o'u derbyniadau a'li taliadau, y mae cyfrinfa Ifor- aidd yn Derby wedi eu dirwyo i'r swm o lip., a lp, 7s. 6c. o gostau.
r Y RHYFEL YN YR AIFFT.
r Y RHYFEL YN YR AIFFT. Y mae amgylehiadau yr Aifft yn par- hau o hyd yn ansicr ac annymunol. Yn ystod yr wythnos, nis gellir dweyd fod y frwydr fawr hir-ddysgwyliedig hyd yn hyn wedi cymeryd lie. Ysgarmesion yn unig sydd wedi dygwydd. Yt, Mewn ysgarmes a gymerodd la rhwng y Prydeiniaid a'r Aifftiaid, dydd Sadwrn diweddaf, yn Ramleh, lladdwyd a chlwyf- wyd 30 o'n gwyr ni, a thros 200 o filwyr Arabi. Goriu i'r gelyn gilio yn ol yn orchfygedig, ar ol ymladd am tua thair awr o amser. Yr oedd nifer y gwrth- ryfelwyr yn fwy o lawer nag eiddo y Prydeiniaid. Y mae ein milwyr yn cael canmoliaetk uchel am eu gwroldeb yn yr ymdrechfa hon. DYDD LLUX. Yn yr ymgyrch a gymerodd Ie, dydd Sadwrn, eymerwyd 15 o'r gelyn yn gar- charorion. Y mae pedwar ohonynt wedi marw oddiar hyny. Os yw mynegiadau y carcliarorion i'w credu, yr oedd gan Arabi Pasha 4,000 o wyr yn erbyn y Prydeiniaid, dydd Sad- wrn, sef dros 2,000 yn fwy na'n milwyr ni. Cafwyd fod y daear-weithiau newydd- ion a gyfodasid gan y gelyn oddiar yr ymgyrch, dydd Sadwrn, wedi eu cyflawn arfogi. Dywedir fod Arabi wedi danfon ad- gyfnerthion ychwanegol i Fort Gemil, tua saith milltir i'r gorllewin o'r porth- ladd hwnw. Y mae M. de Lesseps yn dra bywiog yn edrycli ar ol "ei fuddianau yn Ngham- las Suez, a defnyddia iaith gref mewn perthynas i Loegr. Dywed fod y ffaith fod llongau rhyfe1 Prydain yn myned trwy y camlas yn ddigon i gyffroi Arabi i ymyraeth ag ef, a dywed, os bydd i forwyr a mor-filwyr Seisnig lanio yn Ismailia, y bydd rhaid iddynt fyned yn gyntaf dros gyrff meirw efe a'i fab. Er y fath faldordd ynfyd, y mae deg o long- au rhyfel Prydain i fordwyo'r camlas er ei ddiogelu. Sibrydir fod Rwsia wedi danfon gor- chymynion at ei blaenoriaid milwrol yn Odessa a Caucasus i barotoi corfiiuoedd i'w danfon i Graercystenyn, os dygwydd rhyfel rhwng Lloegr a Thwrci. PAHAM MAE ARABI PASHA YN CASHAU Y KHEDIVE? Y mae gohebydd o Graercystenyn yn ysgrifenu i un o wythnosolion Llundain fel y canlyn :—" Sicrhawyd wrthyf gan gymydog Tyrcaidd sydd yn gwybod holl gelyntion dirgelaidd gwlad yr Aifft, mai colli ei wraig yw gwreiddyn atgasrwycld Arabi at y Khedive. Yehydig flynyddau yn ol, pan yn isel yn y fyddin, priododd Arabi a merch hynod brydferth. Yr oedd clod ei phrydferthweh mor fawr fel y cyrhaeddodd, o'r diwedd, i glustiau Ismail Pacha, sef y Khedive oedd ar yr orsedd o fiaen y Khedive presenol, ac hiraethodd hwnw am ei gweled. Cafodd Arabi ei ddyrchafu i swydd, a'i ddanfon ar wasanaeth filwrol i barth pellenig o'r wlad; ac yn ei absenoldeb, trosglwydd- wyd ei wraig yn ddirgelaidd i ystafell gwragedd y Khedive. Er inai hyn fu achos ei ddyrchafiad a'i lwyddiant yn y fyddin, ni faddeuodd Arabi am y lladrad byth. Gan drysori i fyny ei ddialedd, gwnaeth lw y byddai iddo ddinystrio y Khedive Ismail a'i deulu. Ar ol helpu y rhai a yrasant yr hen wr allan o'r wlad, y mae efe yn cymeryd y rhan flaen- llaw i orfodi y mab i wneyd yr un peth."
Nodion o Droedyrhiw.
Nodion o Droedyrhiw. Wele eich gohebydd yn cymeryd yr ysgrifbin yu ei law i ysgrifenu ychydig i'r hen newydd- iadur poblogaidd y GWLADGAEWR unwaith yn vchwaneg. Oddiar pan y darfu i mi ysgrifenu i'ch newyddiadur o'r blaen, symudodd Rhag- luniaeth fi yma, ac anaml y gwelwyf ychydig neu ddim yn ymddangos yn y cyfryw yn dal cysylltiad a'r lie hwn o ganlyniad, wele fi yn ceisio anfon tipyn o helynt y lie atoch, os byddwch gareaiced a'i gyhoeddi. Lie cymharol fychan ydyw Troedyrhiw, yn cynwys rhwng 6,000 a 7,000 o drigolion, a thua thair milltir islaw Merthyr Tydfil. Gorwedda mewn cwm hir a chul, gyda mynyddau uchel yn codi yn ochrau y dwyrain a'r gorllewin; priodol felly y gelwir ef yn Droedyrhiw, sef troed yr uciiel- fan, neu droed y mynydd. Y mae yr afon Tilf yn rhanu Troedyrhiw oddiwrth Boatyrhun (Lie Rhnn), a elwir er coffadwriaeth am Run, brawd Tydfil, yr hwn, gyda'i frawd Rhawin, a ladd- wyd pan yn amddiffyn yn wrol bont dros y Taf, yn agos i'r fan lie y saif pont bresenol Pontyrhun. Ychydig islaw Troedyrhiw, ar ochr yr heol yn dilyn i Gaerdydd, saif hen ffermdy. Y mae yn cael ei gylchynu gan goedydd sydd ganrifoedd mewn oedran, ac y mae yno yr hen risiau o geryg oeddynt mor gyffredin i ffermdai henafol, er marchog ceffylau. Tufewn i'r drws, y mae careg yn dwyn y flwyddyn 1692 ond gwnai amgylchiadau i ni gredu fod y ffermdy mewn bodolaeth can belled yn ol a'r drydedd ganrif ar ddeg, os nad y ddeuddegfed ganrif--yr amser pan yr adeiladwyd Ty y Court, Merthyr. Y mae ei feini yn hynod lydain a chadarn, a gellir olrhain ei feddianiad i Llewelyn, un o ddisgyn- yddion Ifor Bach. Mewn blynyddau yn hwyr- ach, daeth yn breswylfod i Syr John Guest, yr hwn a blanodd goedwig yn agos iddo. Oddiar ei amser ef, y mae wedi syrthio i'w dinodedd presenol fel preswylfod bychan. Nicl oes ar ddrws yr hen 'sgubor a berthyn iddo (yr hwn a wnawd, yn ddiau, yn amser y frenines Elizabeth) un iot o haiarn o un math, yr hyn a ddengys pa mor brin anarferol ydoedd y nwyclcl gwerthfawr hwn yn y cyfnod hwnw. i OYNGHERDD.—Nos Lun, Gorph. 24ain, cynal- iwyd cyngherdd ragorol yn Ysgol y Bwrdd, dan lywyddiaeth Mr. R. Snape, Ynysowen. Arweinivvyd y eyfryw hefyd gan y Parch. 0. Jones, Mount Zion. Gvvasanaethwyd gan Madame T. L. Davies (o'r Town Hall & Art Gallery Concerts, New- castle- on- Tyne) Mr. W. Jones (Gwiiym Dar) E. John, J. Herbert (comic) a J. Davies. Gwnaeth yr oil eu rhan yn gampus, yn enwedig Madame Davies, yr hon a ganodd yn wir etfeithioi, ac a gafodd dderbyn- iad tywysogaidd ar ei hymweiiad cyntaf. Yr oedd yr ystafell yn orlawn. Cyfeilliwyd yn ddeheuig gan Miss Evans, Troedyrhiw, a Herr J. Phillippe. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo y brawd ienanc Daniel Evans, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain yn Mhwll Ynysowen, trwy ba un y torodd ei glun. DAMWAIN ANG-EUOL.—Dydd Mawrth, Awst laf, darfu i blentyn bychan o'r enw Mary Jane James, tua blwyddyn a haner mewn oedran, fyned o dan un o olwynion gambo oedd yn cludo gwair, a derbyniodd y fath niweidiau fel y bu farw yn nihen ychydig wedi hyny. Dygwyddodd heddgcidwad fod yn iygad-dyst o'r anffawd, a gwaeddodd allan ar y gyrwr, John Davies, glowr, i ddal y ceffyl ond ni Iwyddodd yr olaf i wneyd fe!ly, yr hwn a eist.eddai ar y shaft. V mae hyn yn rybudd ychwanegol i rieni i ofalu am ddiogehveh eu plant yn y dyfodol. GWEITHFETOD PLYMOUTH. — Deaihvn fod Gweithfa Haiarn Plymouth, yn nghyd a'r gweithfeydd glo, i gael eu gwerthu hit auction ar y IGeg cylisol. Y mae yr oil o'r gweithwyr wedi derbyn rhybudd o bythefnos, yn ngnyd a'r swyddogiori, &c. Nid oes un son am wcrthiad Gweithfa Abernant ond y farn gyffredin ydyw fod Gweithfa Haiarn Plymouth mewn gwell ystad nag Abernant, a'i bod yn gyfaddas i'w chyfnewid yn weithfa ddur. Credi?, os gwerthir y cyfryw, y bydd yma adfywiad cyifredinol drwy'r ardal. Dyma ydyw holl siarad y lie yn bresenol, ac yr ydym yn hyderu y na ein gobeith- ion en sylweddoli yu bur fuan. GOHEBYDD. :'S"I'
CWM AFON.
CWM AFON. Y RHUEAW GLAS. — Nos Fercher, Awst 2il, cynaliodd aeiodau Byddin v Rhubau Glas gyfarfod yn Nghapel y Rock, Cwmafon. Y Parch. W. Thomas, gweinidog y lie, oedd y llywydd. Yr areithwyr oeddynt Mi-i. H. W. Davies a R. Price, Cwmafon. Campus oedd eu hareithiau. Bn v cyfarfod hwn yn foddion i gynyddu y Fyddin mewn rhif.—Llwynog y Graig. ABERDAR. DAMWAIN ANRSDOL.—Boreudydd Ian diweddaf, Awst oydd, cyfarfyddodd y brawd Thomas Harris, Bute-street, Aberdar, a'i angeu mewn modd tra sydyn. trwy i gwymp syrthio arno, a'i ladd yn y fan, yn Mhwll y Graig, perthynol i gwmni y Gadiys, Aberdar. Cynaliwyd trengliol- iad, pryd y dydlwelwyd rheithfavn o Farwolaeth Ddamweiniol." Gwnawd casgliad yn mhlith y rheithwyr tuag at ei weddw, yr hon sydd mewn cyflwr angenus.—Goh. GLYN NEDD. GWYL DR.-Dy;ld LInn, wythnos i'r diwedd:f, cynaliodd Ysgol Sabotliol yr addoldy ei gwyl de flynyddol. Mawr oedd yr awydd gan y dosbarth ieuengaf am weled y dydd yn gwawrio, a diamheu fod ambell un mewn oed yn teimlo yr un fath. CoroAwyd eu holl ddysgwyliadau gyda diwrnod fine dros ben. Mwydhaodcl y plant y wledd allan ar y glaswellt. Gwasanaetliwyd wrth v byrddau gan foneddigesau ieuainc, a gwragedd, i ba rai y mae clod mawr yn ddyledus. Wedi gwneyd cyfiawnder a'r danteithion, awd allan i gae i ym- bleseru, yr hwn oedd wedi ei roddi at y gwasan- aeth gan y boneddwr caredig, Mr. Simmons, Gelliceubren. Golygfa ddifyr oedd gweled y boneddigion Mr. D. Morgan, Ysw., Rose Villa, a Mr. H. Thomas, Glasbant House, yn anrhegw y plant. Y mae y gw.yr da hyn yn deilwng o gan- moliaeth a diolchgarvvch. Dylem hefyd, gyda llaw, gydnabod yn ddiolchgar yr ymdrech egniol a diflino ddangosodd Mr. Davies, y gweinidog. i fwynhau y plant. Gwisgai pawb (gydag ychydig eithriadau) eu rhuban glas. Rhoddwyd three cheers i Mr. Simmons cyn ymadael. Felly treuliwyd y dydd dedwydd. —Graff as. BRITON FERRY. CYFAEEOBYDD PREGETHU.—Gorphenaf 30ain a'r Slain, cynaliodd Be dydd wyr Cymreig eglwys Salem ei chyfa^fodydd pre.gethu blynyddol. Gwasanaetliwyd ar yr achlysur hwn gan y Parchn. Dr. Davies, Hwlffordd; Mr. Morris (Rhosynog) a Waldo James. Aberafon. Yr oedd yr eglwys hon wedi rhoddi galwad unfrvdol ar Mr. Ben- jamin Davies, o Athrofa Hwlffordd, i fod yn weinidog ar yr eglwys a phrydnawn dydd LInn (Gorphenaf Slain), cafodd ei ordeinio gan Dr. Davies, ei athraw. Cafwyd eylwadau pwrpasol iawn gan y Parch. Mr. Morris, Treorci, ar ddyledswydilau yr eglwys tuag at y brawd, a dyledswyddau Mr. Davies fel gweinidog tuag at yr eglwys. Dyma'r trydydd gweinidog ar yr eglwys hon. Y cyntaf oedd yr anfarwol Mathetes, yr hw 'ydd wedi myned at ei wohr er's tro, bellach. Yr a; I oedd Mr. Lewis, yr hwn svdd wedi cefnu. Y;' yf ya meddwl fod yr egiwy,; hon wedi bod yn il liieth yn ei dewisiad y tro hvvu. Gobeithivvyf y bydd y briodas hon yn hir-ho-dlog. Yr oedd rha; gweinidogion perthynol i enwadau ereill yn bres -iiol. Cafwyd cyfarfodydd nerthol a dylan- wadol o'r dechreu i'r diwedd.—Gwiiym Ddu o'r Llan. DOWLAIS. CYNGH::KnD.—Nos Iau, Awst 3ydd, cynaliwyd cyngherdd yn y lie uchod, dan nawdd y Dowlais Harmonic Society." Dyben y gyngherdd hon oedd talu y treuliau tuag at fyned i Eisteddfod y Fenni. Arweinydd, Alaw Glan Morlais. Cyfeill- wyr, 'Mr. D. Bowen, a Miss Louise Davies. Awd drwy y programme canlvnol —" O Father!" (Judas) y Cor. When other lips," Mr. Harding. Deuawd, 0 lovelv peace," Misses Marian Price, ac Eos Fach. Gwroniaid gwlacl y gan," Mr. Joseph Davies, a'r gynulieidfa yn uno yn y cydgan. "How well I now remember," gan Miss Martha Hughes. Triawd, "Disdainful of danger," Mr. Marshall Davies a'i barti. "Myfi sy'n ma^u'r baban," gan Llinos Brycheiniog. Can gan Mr. 0 p li Jonah Davies. Deuawd, Albion," Misses Jones a Davies ac encoriwyd hwy. Can, gan Eos Ivor. "Never again," Eos Fach. "Soldier's Dream." Mr. D. Morgan. "The moon behind the hill," Miss Annie Lewis. "0 dywed im' awel y nef- oedd," Miss Samuel. Arm, arm, ye brave," Mr. Josiah Williams. "Will he come ?" Miss Wil- liams. "Twickenham Ferry," Miss Marian Price. Merch y Melinydd," Miss Lizzie Bowen. Ter- fynwyd trwy ganu yr anthem genedlaeL!.oI.—Goh.
[No title]
My dear Sir,—Although vcu must b- o—rload ed with testimonials in favour of vou- celebrated Quinine Bitters," yet I considered it my duty to inform you thatmaJy who iiave obtained it irom me have taken it with verv bene- ficial results, and those o my customers wlio have truly proved its renovating properties alwavs take one, two, or three bottles thereof (as the case mav require), every Spring and Autumn, testifying that they derive much more benefit thereby thai they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part continually ncreasing. The last supply arrived safely. Sept. 4th, 1880. Mr. O. Isgoed Jones, Chemist, Llanrwst has sold grosses of the Quinine Bitters," and from close observation of their effects, can vouch for their efficacy as a tonic in case of extreme debility, &c.. being particularly suitably to patients recovering from long illness.