Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
gjlydd dros fy n«wyneb. Gofynais i'r banks- man a oedd cytundeb rhwng y meistr a'r gweithwyr o barthed i'r ymddygiad gwrthun > Atebodd, gyda ysgydwad pen, nad oedd." Pan sefydlwyd y Billy," meddai, darfu i'r meistr a'r gweithwyr foddloni i'r telerau a ganlyn :—' Os dygwyddasai i ddram fod yn gant a chwarter, am ei chyfrif yn gant a haner (cofiwch mai glo man, sef croppings a feddyliwyf) neu os yn brin o gjvarter, mai cant oedd i gyfrif,' &c. Ond darfu i'r rheol- au yna anadlu gyda'r flwyddyn bythgofiadwy 72, a phob tram fyddo 4 chwe' pwys yn brin o gwarter cant a gyfrifir yn haner cant. Nid oes ond un neu ddwy ohonynt yn pwyso, dros saith cant yr un, a lluaws ohonynt yn chwe' cant a haner, ac yn cael eu cyfrif i'r gweith- wyr yn wyth cant y tram." Braidd na roddaf flas y fflaaeell i'r gweithwyr yn y bwlch hwn hefyd, am eu bod yn dyoddef eu cribddeilio i'r fath raddau. Ond trueni lladd ar Ilawr, pan fyddo tlodi wedi dwyn eu harfau a'u cymeryd yn gaeth. Tosturiwyf wrthynt pe na fyddai mwy na'r olwg druenus arnynt yn esgyn o'r dyfnderoedd fel llong ryfel yn dychwelyd o frwydr, yn frith gan glwyfau, ac yn anweddu megys dwfr berw- edig, a'r chwys yn cymeryd eu ffyrdd i wahanol gyfeiriadau drostynt; ac yn dych- welyd i'w bythynod yn y cyflwr hyny, heb ddigon o angenrheidiau ar eu cyfer. 0! byramid urddasol yn gorfod dyoddef eisieu Mynydd, o ba nn y tardda afonydd cysur y dynoliaeth Craig, lie y mae trysorau y cyfoethogion ynddi Gwenynen yn casglu, ac ereill yn dy ysbeilio o'th fel! Y ti yn gorfod dyoddef eisieu? Pe gorfyddai i bendefigion, breninoedd, llywiawdwyr, a emprwrod y byd i farw o newyn, dylech chwi gael digonedd Pe dygwyddai i'r ddaear baliu cyflawnder ei bendithion, ac i'r Holl- alluog Dduw hulio bwrdd mewn man neill- duol, credwyf mai ti fyddai yn cael dy wahodd gyntaf at y bwrdd Ond nid felly maey dyddiau presenol. Gweithwyr caled yn newynu yn ngharcharau gormes, a segurwyr yn gloddesta yn nhemlau rhyddid. 0 na chlywem ni ddwrn rhyddid yn cnocio yn awdurdodol wrth ddorau ein carcharau, nes byddai ei furiau yn diaspedain, a'n cadwynau yn ayrthio i'r llawr gan gywilydd, fel y gallem ddyfod allan i fwynhau ein rhyddid fel cynt. Y TRAMPWK.
Mr. Gladstone yn rhoddi fyny…
Mr. Gladstone yn rhoddi fyny ei Sedd. Mewn llythyr a anfonwyd gan Mr. W. E. Gladstone at gadeirydd y Rhyddfrydwyr, yn Greenwich, hysbysai ei fwriad i roddi fyny ei sedd dros y fwrdeisdref. Dywedai nad oedd yn ei allu i gyflawni y dyledswyddau a ddisgwylid oddiwrtho i'w etholwyr. Diolchai iddvnt am ei ethol ar gyfwng mor ddifrifol, a dywedai fod cwrs ein gwladlywiaeth drainer mor gyfnewidiol o ddydd i ddydd, nes 11an Vi y wlad ag ansicrwydd. Yobwanegai yn mhell- ach ei fwriad ar yr adeg briodol i ddymuno iddynt ffarwel. Diau y bydd yn ddrwg gan filiynau yn ein teyrnas i glywed am fwriad yr hen arwr Rhyddfrydol i ymneillduo o'r maes politicaidd. Amlygai ei laweuydd at v nuidiftd dnveddar er ad-drefnu y blaid Ryddfrydol, a clymuuai yn galonog am lwyddiant i hyn, v
tjynadledd y Glowyr yn Birmingham.
tjynadledd y Glowyr yn Birmingham. Yn y Gynadledd uchod, a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn Cyn i'r Gynadledd ymwasgaru, yr ydym yn ei thybied yn angenrheidiol i ddatgan ein holl gydsyniad a'r golygiadau a dr.ethwyd gan Mr. Macdouald ar effeithiau niweidiol gor-gynyrchiad glo a haiarn."
Yr " Elijah " yn Aftertaws.
Yr Elijah yn Aftertaws. Nos Iau diweddaf, rhoduwyd datganiad o gampwaith Mendelssohn Bartholdy yn y Music HaIJ, Abertawe, gan Undeb Oorawl y dref, dan arweiniad Mi'. Silas Evans (Cynon). \r oeddy ^erddorfa yn rhifo dros ddeugaiu o offerynwyr, mwyafrit ohonjoib o Abertawe a'r trefydd cylchynol, a'r gweddill o ddetholiad Mr. E. G. Woodward, Gloucester, yr hwn hefyd arweiniai y gerddorfa. Yr oedd y cur yn rhifo rhyw 200 o leisian; ac ymdnangosai y gwrywod yn drlestlns iawn mewn dillad duon a menyg gwynion. Buasai rhagor o unffurfiaeth Iliw yn ngwisgoedd y rhyw deg yn ychwanegu cryn 4ipyn at eu harddwcli; er hyny yr oeddent yn edrych yn bur dlws. Cymerwyd yr unawdau gan Miss Marian Williams (soprano), Miss Lizzie Evans (contralto), Mr. W. A. Howells (tenor), a Mr. Santley (baritone). Cynorthwy- wyd hefyd gan Miss Tillie Robinson, Mr. Robinson, ac ereill o aelodau y côr. Gwael y taraw-wyd y chord agoriadol gan y gerddorfa, yr hyn anafodd, i ryw raddan, waith Mr. Santley vn yr introduction J)er sydd o flaen yr overture. Yr oeddy cydgan, Help, Lord, yn bur effeithiol ar y-cyfan, oddigerth y nodau uchaf gan y merchecl ar dudalen 11, ar y brawddegau olaf. Canodd y cor yn Lord, bow thine ear yn dlws iawn a rhoddwyd y solo tenor sydd yn dilyn yn weddol effeithiol gan Mr. Howells, yr hwn sydd yn berchen Ibis bychan gwrteithiedig. Heb fyned i fanylu ar yr oil o'r cydganau, gallwn ddweyd fod y cor, i'n tyb ni, yn rhagori yn y daruau ysgafn a fine, megys "He watching over Israel, '1 He that shall endure, *i i rhelyw. Yr oeddym yn teimlo diffyg yni a theimlad yn y cydganafi trymion-cliffyg physique, megys, yn y cantorion. Yr oedd datganiad Mr. Santley o "It is enough" yn un o'r pethau mwyaf bendigedig glywsom erioed. Yr oedd caniad y frawddeg olaf yn y solo, "Lord, take away my life," yn gyru lasau oerion drosom. Yr oedd gogoniant- Mr. Santley yn gosod Mr. Howells yn y recit., See how he sleepeth," dan gwmwl hollol. Cafodd Miss Evans ganmoliaeth y dorf am ei datganiad campus o "Rest in the Lord," a llawn deilyngai hyny. Diweddodd y cor y cyd- gan, He that shall endure," mewn dullhynod lUpus; yn wir, yr oedd y cdr yn gwneyd cyf- iawildfer ft'1' gerdctoriaeth ya y rhan fwyaf o-fifie, pasmr/es y Ilyfr. Cafwyd prawf eto o wendid y curyn "BehoM, God the Lord," tudalen 1">3, ar y brawddegau yn cychwyn, "Aud after the earthquake," ond gwnaethant iawn yn y rhanau tynerach, o'r un darn, ychydig dudalenaa nes yn mlaen. Yn nghanol y gymeradwyaeth ddilynodd ddatganiad Mr. Santley o'r arioso, "For the mountains shall depart," methodd y c6r ddal gafael ar y chord cyn cychwyn y cydgan Then did Elijah," a'r canlyniad fu iddynt ganu amryw fanau yn hollol allan o'r cywair priodol; ond yn ffodus, Ilwyddasant i ymuniawni yn y fan lie y mae y bass yn taro i mewn ar y geiriau Mighty kings am y tro cyntaf. Pur ganolig y canwyd yr aria a'r recit. sydd yn canlyn gan Mr. Howells. Diweddwyd y gwaith drwy ddat- ganiad o "And then shall your light" gan y cor, gyda gwir fawredd. Clywsom Miss Marian Williams yn canu gyda gwell hwyl lawer gwaith na'r tro hwn. Yr oedd yn ofidus genym glywed mai newydd adferyd o aliecliyd trwm y mae hi. Y oedd y neuadd yn orlawn o wrandawyr, y rhai a ymddangosent yn mawr fwynhau y wledd gerddorol. Arweiniai Cynon gyda'i fedr arferol, a chafodd fanllefau o gymeradwyaeth ar ddiwedd y cyngherdd. Ymgymera y cûr ar unwaith eto a dysgu" St. John the Baptist (Macfarren), yr hwn fwriedir ei berfformio tua diwedd yr haf nesaf.—Musicus.
ORIOEL, Y BEIRDD
ORIOEL, Y BEIRDD DARLt-y RHIF XXII. Y bardd hwn sydd wr o daldra ac am- gylchedd eanolog ac yn nesu at ganol- ddydd einioes. Un tywyll iawn o bryd a gwedd ydyw—jrn ymylu yn agos a meibion Ham. Ei wallt sydd fel wedi tyfu yn nliywyllwch. yr Aifft. Ceidw ei farf yn ddyeithr i fin yr ellyn ac felly gwisgir ei gernau gan gwnd tew, a'i fwstash yn ymsaethu o dan ei drwyn fel brws dart., Gwisga yn gryno a thaclus; ac ar y prif wyliau y mae fel wedi ym- golli o dan ymylon y box hat. Araf ei ysgogiadau ydyw, a'thuedda i wargrymu n 0 ry ychydig. Mewn cymdeithas y mae mor serchog ag y gall fod; ac ymhyfryda wrth adrodd ei orchestion diweddaraf, i ga«l'bain ei gyfeillion am danynt; a chwareuteg iddo, y mae yn foddlon ddigon i'r ddedf'ryd pa nn a fydd yn ffafriol neu beidio. Mae yn adroddwr da ac nid annyddorol ydyw ei glywed yn myned dros ychydig ganoedd o linell- au marwnadol gyda'r eetyn cwta yn ei enau, ac yn poeri bob tro y terfyna baragraph a thipyn o afael ynddo. Pan yn gwneyd hyn taena ei lygaid fel dwy saucer, fel pe yn cymeryd 8tock o'i wran- dawyr, er gweled a fydd arddeliad ar yr hyn a draetha. Pe byddai rhif a meithder cyfensodd- iadau yn safon i farnu teilyngdod bardd, gallesid yn hawdd nodi y bardd hwn yn agos i ben y rhes yn mhlith beirdd y Deheudir. Nid oes un eisteddfod na chyfarfod llenyddol yn cael eu cynal o fewu ilgain uiill/lir o gwmpa§ nad ydynt yn cael Cu haurhydeddu a chynyichion ysgrifcll ddihysbydd y bardd hwn. Y mae ganddo ddwsin neu ychwaneg' o gyfansoddiadau ar waith yr un pryd— yn englynion beddergryff, caneuon clod, marwnadau, a phob dosbarth o farddon- iaeth ag y gellir meddwl am danynt, yn ZD amrywio mewn hyd o bedair hyd fil o linellau Dyma ei ddiffyg mawr—gosod gormod o haiarn yn y tan ar unwaith, a thrwy hyny y mae y ran fwyaf ohono yn myned yn waeth na diwerth. Pe cyfan- soddai lai, a chymeryd mwy o amser i gaboli, byddai yn debyg o ollwng llawer llai offat 8710#. Lied anaml y mae duwies ffawd yn gwenu arno, a hyny yn unig oherwydd y diffyg a nodwyd. Dywedir ei fod wedi "estyn cortynau ei breswyl- feydd" yn ddiweddar er mwyn caeLdigon 0 le i gadw ei gyfansoddiadau anfuddug- ol! Nodweddir ei gyfansoddiadau gan anwastadrwydd ac anwadalwch Weith- iau deuir o hyd i ddrychfeddwl godidog wedi cael ei dorfynyglu wrth ei weithio allan. Bryd arall ceir penill neu englyn rhagorol, ac un arall wrth ei gyrfffon yn salach nac islaw sylw! Mae yn hoff iawn hefyd o ansoddeiriau hirion a chlogyrnog. Chwery ei awen yn ami ar z5y fryniau anfarwoldeb, a mesura hyd a lied tragwyddoldeb amryw weithiau mewn can llinell, os bydd y testyn dipyn yn rhamantus. Mewn gwirionedd mae rhywbeth sydd yn rhamantus iawn mewn pobpeth a ddaw o dan ei law. Ond dyna, mae yn rhamantus ynddo ei hun, a chyfansodda yn ami mewn lleoedd rham- antus. Dywedir fod ei awen ef yn cael ei gwahardd i esgyn hyd lethrau Parnassus, ac yn ami yn cael ei chaethiwo i siarad iaith y duwiau rhwng y par- wyddyd tanddaearol. A dywedir yn miiellach fod y bardd yn ei chwmni yn ysgrifenu ar y creigiau tywyll, nes ydyw ei dalcen dUoulor llawno hieroglyphics a'r Cleopatra Needle Pe bae bosibl darbwyllo y bardd hwn i wneyd chwareu- teg a'i awen, byddai yn fuan yn rhestru yn ucliel yn mhlith- ei gydfeirdd Mae ynddo ddigon o allu. pe gallai newid y llwybrau dros ba rai y mae wedi bod yn carlamu hyd yn hyn. Mae yn feisfcr ar iaith, yn gyfarwydd a'» cynghaneddion, a phob anhebgorion sydd yn angenrheid- iol i wneyd bardd da. Mae wedi llanw y ;■ jp i swydd feirniadol droion yn y cyfarfod- ydd lleol, ac wedi rhoddi boddlonrwydd i bawb yn ol dim a glywsom. ond ychyd. ig iftwit o ymddiried a ellir osod mewn barn un beirniad sydd wedi bod yn rhy barod i ruthro yn anfoneddigaidd ar un o'i gydfeirdd wedi cystadleuaeth. Cy- hoeddodd y bardd hwn gyfansoddiad yn ddiweddar gyda rhagymadrodd ar gyfer taro ymenydd ei feirniad, ond barna'r wlad mai haner taro ymenydd yr awdwr a wnaeth. Huw Moms.
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. ER fod parotoadau rhyfelgar yn parhau o hyd i fyned yn y blaen yn y wlad hon gyda'r prysurdeb mwyaf, ac er fod Awstria ohoni hithau yn gwneyd yr .un peth, eto i gyd, y mae y rhagolygon ant heddweh, ar y cyfan, yn edrych yn bur obeithiol. Pan yn gosod eyfrifon y fyddin o flaen y Tí nos Lun wyth- nos i'r diweddaf, cymerodd Mr. Gathorne Hardy drafferth neillduol i argraffu ar fedd- yliau yr aelodau mai cyffifon heddweh •" oeddent, a'u bod wedi eu parotoi ar y dyb- iaeth y buasid yri llwyddo i sicrhau heddwch. Er fod Count Andrassy yn penderfynu cael y vote of credit, eto, datganai wrth y Dir- prwywyr Hungaraidd na fyddai i'r arian gael eu gwario oddieithr i rywbeth ddygwydd a orfodai y fyddin i gymeryd y maes ac yr oedd ton ei araeth yn tueddu i ddangos nad oedd yn ofni yn fawr y eymerai hyny le. Y mae y farchnad arian hefyd-ac efallai nas gellir cael gwell barometer gwleidyddol na hi ar hyn o bryd—yn weddol sefydlog. Felly, wrth edrych ar y naill beth a'r llall, y mae yn ymddangos nad oes achos fod yn or- bryderus parth y dyfodol. Y mae pawb, bellach, oddigerth yr ynfydion rhyfelgar, yn dechreu ymfoddloni i dderbyn sefyllfa pethau, gan y gwelant Lad gwiw iddynt yn awr geisio eu newid. Y mae Twrei wedi darfod a bod yn Allu Ewropaidd. Nid oes gobaith am adferiad ac ni fydd i Gynrychiolydd unrhyw Allu fyned i'r Gynadledd gyda'r bwriad o geisio ei hadferyd. Prif ofal y Gynadledd fydd penderfynu ar y modd goreu ac effeith- iolaf i osod yr hen Bwnc dyrys Dwyreiniol i orphwys am y tymor maithaf. Nyni a obeithiwn y byddant yn llwyddianus. Er mor obeithiol yw y rhagolygon am heddwch, y mae y ddwy blaid wrthwynebol yn. Llundain yn parhau o hyd i gynal eu cyfarfodydd ynfyd. Nos Fawrth diweddaf cynaliodd y blaid ryfelgar gyfarfod mawr a thra brwdfrydig yn Exeter Hall, o dan lyw- yddiaeth yr Arglwydd Faer. Daeth rhai pobl yno, y mae'n debyg, i drafferth blin yn herwydd datgan ohonynt syniadau croes i amcan y cyfarfod. Credwn y gallasai ei arglwyddiaeth ddefnyddio ei amser a'i ddy- lanwad fel Prif Ynad y Ddinas i well pwrpas na Hywyddu mewn cyfarfod nas gallasai ateb unrhyw ddyben heblaw boddloni blys rhyfel- gar plaid o bobl na fyddai yn tin colled, eithr yn hytrach yn enill iddynt, pe yr elai y wlad hon i ryfel. Prydnawn (rydd Sul diweddaf; cafodd y blaid heddychol ei hail innings yn Hyde Park. Can belled ag y gallasem farnu, yr oedd yno yn agos cymaint o bobl ag oedd pythefnos i ddydd Sul diweddaf, ond nid oedd y ddwy blaid wedi eu treftm cystal. Methiant hollol fu y cyfarfod fel o'r blaen, a ffolineb o'r mwyaf oedd i Mr. Auberon Herbert geisio cynal cyfarfod yno, oblegyd yr oedd yn y pare, yn y man lleiaf, dri o'r blaid ryfelgar am bob un o'r un heddychol, ac yr oedd yn berygl bywyd braidd i neb yngan gair o blaid heddwch. Ni fu cymaint o ddefnyddio y pastynau yno a'r tro o'r blaen, ond bu llawer mwy o chwareu ceffyl- aidd-llllchio ceryg, darnau o goed, tywarch, &c., a chnocio hetiau pobl ymaith. Gwelsom amryw yn cael eu cludo ymaith o'r pare wedi eu hanafu, a lluaws yn myned gartref heb un het, a'u dillad wedi eu rhwygo. Prif ddifyr- wch y rag-tags oedd taflu cath farw yma ac acw i blith y bobl. Weithiau, disgynai yn syth ar ben dyn, bryd arall plethai fel muffler am wddf rhyw fod anffodus a phan ddygwyddai y naill neu'r llall o'r trychineb- au annghysurus hyn, rhwygid yr awyr gan flpeddiadau y mob. Buom mor anffodus, unwaith, a chael ein hunain yn nghanol y cythrwfl, ond ar ol cael ein gwthio yma a thraw yn lied drwsgl gan y dorf am enyd, llwyddasom i ddianc yn ddianaf i Rotten How; ond nid felly person a wnaeth ei ddiangfa yr un pryd a ni, oblegyd yr oedd rhywun wedi taro ei het nes yr oedd mor fflat a chramwythen ar ei ben. Yr oedd y brawd yn hynod ddigllawn, ac nid heb achos, oblegyd ei het "ddydd Sul" oedd hi, a'r Nadolig diweddaf y rhoddodd ddeuddeg a chwech am dani yn y Strand. Yr oedd mewn helbul mawr, druan, ac ofnai y byddai yn rhaid iddo fyned trwy dywydd garw wedi myned gartref, oblegyd, meddai efe, yn hollol yn erbyn ewyllys ei wraig y gwisgodd ei het .oreu y prydnawn hwnw. Tra y bu yn ceisio caboli yr hen het, a chael rhyw lun Cristion- ogol arni, ceisiasom oreu y galkisem ei gysuro, a dangos iddo y lluaws robl oedd yn gorfod myned adref heb het o fath yn y byd, ond ewyno o hyd oedd y brawd am yr helynt garw oedd yn ei aros gartref. Pan aeth ymaith oddiwrthym, nis gallasem lai na chwerthin yn iach, oblegyd yr oedd ei het yn edrych o bethau'r byd fel concertina ar ei ben. Wel, dyna Mr. Auberon Herbert a'i gan- lynwyr wedi cael ail gynyg arni, ac y mae y naill wedi bod mor ofer a'r Hall. Nyni a obeithiwn ei fod erbyn hyn wedi ei argy- hoeddi o'i ynfydrwydd. Pe buasai efe a'i ganlynwyr yn llwyddo i gynal cyfarfod ar y Pare, a phasio eu penderfyniadau yno, pa fantais fuasaihyny yn rhagor naphe buasent yn gwneyd yr un peth yn dawcl wrthynt eu hunain mewn rbyw ystafell yn y Ddinas, neu pales fuasai pasio yfath benderfyniadau o gwbl < Y mae mwyafrif mawr y genedl a'r Weinyddiaeth yn un a chytun parth policy y wlad hon yn y cyfwng presenol, ac nid yw yn debyg y gwna penderfyniadau cyfarfod- ydd fel a gynelid yn Exetey Hall a Hyde Park ddylanwadu y Weinyddiaeth i newid y policy hwnw. Dywedai Mr. Auberon Herbert mewn llythyr o'i eiddo yn yr Echo, dydd Sadwrn diweddaf, ei fod yn falch fod rhai pobl yn y wlad hon eto heb lwyr golli eu synwyrau. Ofnwn nad yw Mr. Auberon Herbert yn un o'r cyfryw.
[No title]
Y mae Wm. Gale, o Penarth, newydd orpheh yn Hull y gorchwyl o gerdded 4,125 chwarter milltir yn olynol mewn 28 niwrnod a 7 awr a haner. Y ddeuddeg awr ddiwedd- af cerddai chwarter milldir bob 6 mynud y rhan flaenaf o'r daith yn chwarter milldir bob 10 mynud. Dywedir fod Dean Stanley yn beryglus o glaf, ac iddo fod yn analluog i wasanaethu yn Eglwys St. Botolph, Aldersgate, y Sul diweddaf. Darfu i Ymerawdwr Rwsia. yr wythnos ddiweddaf anfon llythyr yn nghyd a chleddyf aur i'r Czarewitch, am lywyddu mor alluog adran Rustchuk. Bu terfysg yn mysg tlodion Sheffield, yn ddiweddar, ac anfonwyd rhai o'r blaenoriaid i garchar. Y DDAMWAIN I'R CWCH YN MAU CAERFYR- DDIN.-Y mae y drysorfa sydd yn Haw Maer Caerfyrddin, i weddwon ac amddifaid Hum- phreys a Da vies, heblaw y rhodd o 200p. o drysorfay Frenhines, wedi cyrhaedd, y Sadwrn diweddaf, i 700p.
Advertising
Pentre, Ystrad Rhondda. BYDDED hysbys y cynelir GWYL GERDD. -D OROl", yn y lie uchod, DYDD LLUN PASG. 1878, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar amrywiol ddarnau. Llywydd y Dydd-G. WILLIAMS, Ysw., Y.H., Miskin. Arweinydd—NATHAN WYN. Beirniad-Mr. REES EVANS, Aberdar. Prif Ddarnau Coravcl: 1. I'r cdr o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 o rif, a gano yn oreu Datod mae rhwymau caeth- iwed (John Thomas gwobr, lOp. 2. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif (na enillodd dros 8p. yn flaenorol), a gano yn oreu "Pebyll yr Arglwydd," gan J. Parry; gwobr, 5p. 3. I'r cdr o'r un gynulleidfa, ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu Clyw, 0 Dduw, fy llefain (D. Jenkins); gwobr, 4p. 4. I'r cor o blant, ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu Ymadawiad y Cenadwr" (Rhif. 33, Cerddor Sol-fa); gwobr, lp. 10s. Caniateir i 8 mewn oed i'w cynorthwyo. Bydd y jprof/rctrnme, yn cynwys y gweddill o'r testynau, yn nghyd ag enwau swvddogion y dydd, yn barod erbyn Chwefror y laf i'w gael, am y pris arferol oddiwrth yr Ysgrifenydd. Dros y pwyllgor, DANIEL RODERICK, Ysg., 1801 Green Hill, Ystrad, Pontypridd. Eisteddfod Mynyddislwyn. BYDDED hysbys y cynelir TRYDEDD GYLCH- WYL FLYNYDDOL yr Eisteddfod uchod yn y lie arferol dydd IAU, Mehefin 27ain, 1878. pryd y rhoddir gvvobrau teilwng i'r ymgeiswyr llwydd- iarius mem Ehj'ddiaeth, Bardd oniaeth, a Chan- iadaeth, &c. Prif Delarn. I'r c6r, heb fod dan 50 mewn nifer, a gano yn oreu y Requiem ar ol y diweddar Ieuan .Gwyllt, gan Dr. Parry gwobr, lOp. Llywydd y Dydd.J. J EREmAH, Ysw., Wood- field Villa. Llywydd y Pwyllgor.—E. EDMUNDS, Ysw., Pantglas. Tryzorydd. —Mr. J. HUGHES, Church Farm. Bydd y programme, yn cynwys pob manylion, yn barod erbyn Mawrth 20fed, am y pris arferol, gan yr Ysgrifenydd, Mr. D. WILLIAMS, Builder, &c. 1839 Pontllanfraith, Nr. Newport, Mon. Ynawr ynbarod, pris Is., drwy y post is. lc., y rhifyn cyntaf o'r "Wy ddf a" SEF GWAITH BARDDONOL &c., Y DIWEDDAR BARGH. O. WYNNE JONES (GLASYNYS.) Yr ehv arferol i Lyfr-werthwyr. Anfoner archebion yn ddioedi i'r Cyhoeddwr,— P. M. EVANS, Argraffydd, &c., Tal-y-sarn, Car- narvon. 1719 LLAW-FER GYfv1 REIG (SHORT HAND) Y PARCH, JAMES WILLIAMS. \Yele engraifft o'r hyn fedroild Mi-. Tho3. Owen, Pcmmachuo, ger Llanrwst, ysgvifimu yn mlien un misar 01 dechreu astudio Llaw-Fev. Ysgrifonodd yn hollol gywir, a medrodd Mr. Wiiliams, awdwr y gyfundrefn, oi. ddarllen mor rhwydd a piio bae mown llaw-ysgrlf gyft'redin. CYFLAFAN MORFA PJIUDDLAN. tzf CI C.c vL' pi- > Cilia'r lnuil drew dros ool liryiihiu had Arfon, X" v 0 J: 1, 6- .J" ,>r£ i j I cJh ('0 Vip; y a>' r w V >> | I > X l-p\> > <S^ eft I 0" Jl^rf X YR ARWEINYDD i rpii'a""nei\ Law- Fer Gymreig, pris 3 ceinio??, tv\fyy jml 3|c. ALEOGRAPHIA, neu Law-Foi, fel y gall pob un ddysgu neb lieiy Atjiraw, pris 9 ceiiiiog. bc,, I Gyrer archebion, gyda stamps, at yr Awdwr, REV. JAMES WILLIAMS, ArÆERT PLACE, POXIYPKIDD. T' l I"" "Goreu art a. darf derfysg, I wr f'o doelh yw arf dysg." Na. wfedEisteddfodFlynyddol Carmel, Treherbert. CYNELIR yr EISTEDDFOD FLYNYDDOL XJ hon yn y NEUADD GYHOEDDUS, dydd Mercher (Nadolig), Rhag. 25ain, 1878, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Rhyddiaeth, Bardd- oniaeth, Cerddoriaeth, Caniadaeth, Artithio. ac- Adrodd. BEIRNIAID Y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth.—Parch. R.- WILLIAMS (Hwfa M6n), 10, Claylands Road,- South Lambeth, London. Y Gerddoriaeth a r Ganiadaeth,—Mx. DAVID JENKINS, Mus. Bte., Aberystwyth. A ceompanist,—Miss BELL MORGAN, Treherbert.. Rhan o'r Testynau, dx.—Traethodau 1. Y Cymry ddyrchafasant eu hunain dan an-- fanteision yn ystod y ddeunawfed ganrif;" gwobr,. lOp. » 2. "Y priodoldeb neu yr anmhriodo deb o ys-- grifenu i'r Wasg o dan ffugenwgwobr, 3p. 3s. B(wddoniaeth 1. Pryddest ar "Samson;" gwobr, 5p. 5s. 2. Y Casgliad goreu o linellau cytghaneddol allan o'r Beibl; gwobr, 2p. 2s. 3. Hir a Thoddaid er coffawdwriaeth am y di- weddar David Thomas, Treherbert; gwobr, 10a. 6c. (Ceir pob manylion o berthyuas i'r ymadawedig- gan yr Ysgrifenydd). Cerddoriaeth 1. Am y Cantata goreu ar y geiriau buddugol yn ein Heitteddfod ddiweddaf, at wasanaeth Corau Plant; gwobr, lOp. (Y geiriau i'w gweled yn y Gerddorfa am lonawr a Chwefror, neu i'w cael oddiwrth yr Ysgrifenydd am geiniog; trwy y post, ceiniog a dimai). Amodau:— Ni wobrwyir oni fydd teilyngdod; cedwir pris- tocyn blaensedd o'r wobr, os na fydd y buddugol yn bresenol. 2. Y Cyfansoddiadau i fod yn llaw y beirniaid, gyda ffugenwau yn unig, erbyn Tach. laf, 1878, ac wedi talu eu cludiad. 3. Y Cyfan- soddiadau buddugol i fod yn eiddo'r pwyllgor. Bydd programmes, yn cynwys y gweddiU .o'r testynau a phob manylion pellach, yn barod erbyn y laf o Awst. Yn y Watr^y.i un llyfr, pris Ce. trwy y post, f)}é." AWDL "Y NEFOEDD," gan lslmri-n, ar- Traethawd ar "BRIODAS,' gan Alaw Dulais, sef cyfansoddiadau buddugol ein Heis- teddfod ddiweddaf. Gan nad yw y Pwyllgor yn argraffu ond nifer benodol, a chynifer yn barod wedi rhoddi eu henwau am danynt, dymunir ar bawb a hoffant ei gael i anfon am danynt ar un wa,th. Hefyd, y mae ychydig a gOpiau o "Gyfansodd- ladau Buddugol ein Heisteddfodau cyntaf" arlaw heb eu gwerthu. Gellir eu cael am 6c. trwy y post, 6jc.—Ar ran y Pwyllgor, REES T. WILLIAMS, Abertonlhvyd Row, 1842 Treherbert, Pontypridd. Y MAE Miss LIZZIE WILLIAMS, RAM, (Llinos y De) YJJ agored i dderbyn Engagements i ganu mewn. Eisteddfodau, Cyngherddau, Oratorios, &c. Cyfeiriad-MISs L. WILLIAMS, Care of Thomas Brandon, E-q., Regent Villa, Stonehouse, Glou- cester. 1756 Merthyr Tydfil Union. Contract for Supplies for the JVorlchowse Merthyr, and the Aberdare Industrial School Guardians desire TENDERS for the supply Sides of Beef, and Legs cut close to the rump. Mutton, Bacon, Australian Meat, Bread, Flour, (plain tie), Oatmeal (Irish), and. peas. Groceries. Drapery, Hosiery, and Clothing. 'I' Boots, Shoes, and Clogs. Potatoes and Greengrocery. i' Ironmongery and Earthenware. Straw, Coal, Coke, and Firewood. Beer, Porter, Wine, and Spirits- by imperial- measure. Butter, Cheese, and Milk. ■ Printing, Books, and Stationery.. Hair Cutting, per dozen. t Shaving ditto. Glazing. Best Howard's Quinine in sealed bottles, and. Cod Liver Oil. Coffins and Funerals. Descriptionsand Specifiation of the Coffins to be had. at the Aberdare Industrial School and the Merthyr Workhouse. Horsing the Ambulance atlMerthyr and at Aberdare. Oid-door Supplies at Merthyr, Dowlais, HirvMun, Aberdare, and Mountain Ash. Beef and Mutton. Beer and I)o- ter-by imperial measure. Wine and Spirits ditto, r Best Howard's Quinine in sealed bottles, and Cod Liver Oil. The Tenders for Bread, Meat, Australian Meat, Bacon, Bitter, Cheese, Flour, Oatmeal, MIL IF' Potatoes, Coal, and Coke, to be for Three Months only, viz., from March 30th, 1878, to June 28th, 1878, both inclusive the remainder for Twelve months, viz., from March 30th, 1878, to March 29th, 1879, both inclusive. Sureties to be named. in Tender. Samples where practicable. All goods to be delivered at the workhouse or at the Aberdare Industrial School, and the C(ntract- ors to state i their Tenders whether they are pre- pared to deliver the Goods at cither or both places. Payments quarterly, but Bakers, Butchers and Grocers, may draw on account once in the middle of the quarter. onAnoia afiAHoin? Tenders to be sent in on or before SATURDAY, March 16th. 1878, in Forms to be had on applica- tion to the Master of the Workhouse, or at the- Aberdare Industrial School, who will furnish all particulars. Tenders, unless received on Saturday, March 16th, 1878, at 10 a.m., will hot be opened. By Order, FRANK JAMES, Clerk. High-street, March 2nd, 1678. No goods to be supplied, or work done for the Workhouse or the Industrial School without a Written Order, signed by the Clerk. All accounts for the March qua-rter to be made- up to the 26th March, L878, and sent in to the. Master by that day. 1845 Notice. TUST out, the First Part of the Grand New Work, the" GALLERY OF THE BRITISH ARTISTS," illustrated with upwards of 100 STEEL. ENGRAVINGS from the most popular works, as ex- hibited at the Itoyal Academy, <C*c. Also EUROPE ILLUSTRATED," the classic lands of Europe splendidly embellished. The present WAR between RUSSIA and TURKEY. WANTED, energetic men, of good address, to. solicit orders for the above. Apply to R. BALDWIN Rutland Street, Swansea. 1844