Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

DOWLAIS.

News
Cite
Share

DOWLAIS. PENYWERN.—Cynaliwyd cyfarfod yn y lie uchod nos Sadwrn, y 2il cyfisol, ar yr achlysur arirhegu y blaenor ieuanc ac ymroddgar Mr. Wm. Hughes, a metronome. Llanwyd y gadair yn ddeheuig gan y Parch. W. J. Richards, gweinidog y lie. Ar ol tipyn o ganu ac adrodd, aethpwyd yn mlaen a phrif ddyben y cyfarfod. Cafwyd araeth alluog ac eglur gan Mr. John Williams ar ddefnyddiol- deb y metronome, yna cyflwynodd y,rhodd dros gor Penywern i Mr. Hughes, yr hwn a atebodd yn fyr a phwrpasol. Wedi cael rhagor o ganu ac adrodd, terfynwyd y cyf- arfod. Da iawn oedd genym weled yr am- lygiad hwn o deimladau da yn Mhenywern, a gobeithiwn y parha felly. Credwn fod dyfodol dysglaer o flaen Mr. W. Hughes, nid yw ond ieuanc yn awr, a chyda llafur diflino, gall ddyfod yn gerddor o fri. Dymun- wn bob llwydd iddo ef a'i gor. Con UNDEBo.Deallwn fod mudiad ar droed i gael gan wahanol gorau y lie i ymuno yn gor undebol i ddysgu oratorio, neu waith o'r fath, gyda golwg ar ei berfformio. Y mae cor lied luosog wedi cyfarfod yn Neuadd yr Odyddion, a ffurfiwyd pwyllgor i gario yn mlaen y trefniadau. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad, ac y mae yn haeddu pob cefnog- aeth. Credwn y gellir cael cystal defnydd- iau cor mawr yn Nowlais ag sydd yn un dref yr ochr arall i fynydd Aberdar. Y pethau sydd arnom fwyaf o'u hangen ydynt cyd- weithrediad a llywodraethiad priodol. Y mae yn rhaid ymarfer dysgyblaeth yn ein corau, yn enwedig yn y rhai undebol, cyn byth y daw llewyrch arnynt. Yn awr, fechuyn Dowlais, gadewch i ni ymaflyd yn y gwaith hwn o ddifrif. Gosodwn nod o'n blaen, ac na fydded i ni orpfcwys hyd nes y byddwn wedi ei gyrhaodd mewn modd anrhydeddus. LLWYDDIANT YSGOLHEIGAIDD.—Lion genym allu hysbysu eich darllenwyr fod ein cyd-drefwrieuanc, Mr. David Price, diweddar assistant master yn Ysgol Bwrdd Twynyrodyn wedi llwyddo i basio yn yr adran flaenaf yn arholiad y Llywodraeth am certificates yn Ngholeg Caerfyrddin, a hyny hefyd heb ddim ond hunan-ddysg. Llwyddiant iddo. Na fydded iddo orphwys ar hyn; aed yn mlaen eto, y mae digon o le iddo. BETHANIA.—Dydd Sul, y 3ydd cyfisol, ymgynullodd y gwahanol ysgolion sydd wedi eu sefydlu gan yr eglwys hon yn nghapel eang Bethania, i gynal y eyfarfod chwarterol. Cadeiriwyd gan y Parch. D. Rees, y gwein- idog. Dechreuwyd y cyfarfod am haner awr wedi dau trwy ganu Paid a'm gadael, dirion lesu," o Swn y Jiwbili yna aethpwyd yn mlaen yn y drefn a ganlynCanu ac adrodd gan aelodau Ysgol y Bute, yr un modd gan Ysgolion Coedcae, Caeharris, Gellifaelog, Pwllyrhwyaid, ac yn diweddaf Yfigol Bethania. Terfynwyd y cyfarfod trwy i'r holl gorau ganu "Daliwch afael," yr hyn a wnaethpwyd yn hynod effeithiol. Yr oedd yr adrodd yn dda, a'r canu yn swynol iawn. Yr oedd dros 1,200 o blant wedi ym- gynull yn nghyd. Cafwyd cyfarfod hapus ac adeiladol iawn yn mhob ystyr. Teg yw dweyd fod canmoliaeth uchel yn ddyledus i Mr. Rees, Bethania, am ei lafur diflino yn nglyn a chael y plant oedd gynt yn chwareu ar hyd yr heolydd ar y Saboth i fynychu yr Yagol Sul. CANTATA Y PLANT.—Nos Iau diweddaf daeth cor o blant o Rymni drosodd i'r Taber- nacl (un o gapelau y Bedyddwyr Seisnig),. gydatr amcan o berfformio Cantata y Plant. Yr oeddynt yn cael eu cynorthwyo gan ychydig o bassers a tenors o Ddowlais, a'r oil dan arweiniad Mr. John Lloyd, Rhymni. Bu yr arweinydd mor anffodus a sicrhau owasanaeth (?) dyn ieuanc i chwareu'r har- monium. Tebyg fod y gwr ieuanc yn meddwl y gallai feistroli cyfeilliant Cantata y Plant; trueni mawr na fu rhyw gyfaill iddo mor gymwynasgar a'i "oleuoary mater." Cadeir- iwyd gan Mr. J. Evans, chemist, Dowlais. Dechreuwyd y cyfarfod trwy i'r cor ganu "Swn chwerthiniad plentyn bach" yn lied dda. Yna aethpwyd yn mlaen a'r gantata: Ni raidj ni fanylu ar y perfformiad, oblegyd swm a sylwedd y cwbl yw y buasem wedi cael cyfarfod bach hapus iawn pe buasai yr offerynwr wedi aros yn Rhymni, ond fel yr oedd trodd pob peth allan yn fethiant hollol. Datganwyd rhanau y Bachgen gan Eos Nant- ymelyn yn lied dda, er gwaethaf yr offeryn yr un modd gyda chan y Robin Goch ac ereill gan Llew Bach, Dowlais. Rhwng y ddwy ran cafwyd adroddiad Y Ddaeargryn," gan Mr. Parry, a chan "Y Prentis Plwy'" <ran Eos Nantymelyn, yr hon fuasai yn rhag- orol heb y cyfeilliant. Yn yr ail ran methodd y ferch oedd i fod i ganu rhanau y Wenyn- en"a'r "Fronfraith" wneyd ei hymddang- osiad oherwydd afiechyd. I lanw y bwlch hwn i fyny, adroddwyd Y Glowr," gan Mr. Parry, a chawsom gân" Come, birdie, come," gan Llew Bach. Yn ddiau, hon oedd y gan oreu yn ystod y cyfarfod- cafodd y canwr swynol lonydd gan y chwythwr." Yr oedd Adroddiad y plentyn yn teilyngu canmol- iaeth. Diweddwyd y cyfarfod trwy ganu "Cawn fyn'd adre' 'fory." Nid ydym yn enwi caneuon y gantata-yr oeddynt oil yn dda mewn llais, &c.. ond yr oedd yr offeryn- wr yn andwyo yr oil by th a hefyd er esiampl, mewn un man yr oetiel y cyfeillydd yn dal ar chord cyffredin] y cywair lion, tra yr oedd y gân yn eanu yn lleddf Y mae y swn afler yn ein clustiau byth oddiar hyny. Y mae yn ofidus genym feddwl fod dynion i'w cael mor hyf a myned ar y stage heb fod yn "haner chwarter" meistri ar eu gwaith. Nis gwyddom pa un a gafodd bracts gyda'r cor ai peidio beth bynag, bu ef a'i offeryn yn foddion diflasu cyfarfod a fuasai, yn ei absenoldeb, yn un tra boddhaol.

LLANOVER.

CAN MLYNEDD I YN AWR.

YSTALYFERA.

I AMRYWION O'R BWTHYN BARDDOL.

.CWMPARC.

GARTH, MAESTEG.

DERI. *">

MERTHYR.

CAERFFILI.

ABERDAR.

NODION O'R BONT.

CWMBACH.

GILFACH GOCH.