Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Y L'EDWEETDD DOSEAETH.
?^e yn defnyddio geiriau dyeithr a thrwsgl 11 ja-wn, sef "sadiad," "chap," "rholio," ac "oben- llwyd. "Y drem sy'n rholio mewn glas gloyw." "Llygaid" sydd gan Byron, ac nid "trem,"— "The eye that rolls in glossy blue." "Lugyn o dan obenllwyd a,el." "Mor chuai y coliwn bob llw clir Pan glyw'n hi'n tyngu'r boddlawn wir, Gan dybio'n hoff mai byth ddal fydd, Ond ow! hi newid oil mewn dydd; Y cofiaeth hyn saif byth i'w wybod, Menyw! dy dwng sy' gerf mown tynod." y mae y dyfyniad uchod yn arddangos chwaeth isal iawn. Heblaw hyn, y maent yn hynod o ajieglur. Cynghoremyr awdwr i astudio "Llyth- J ftieth yr Iaith Gymraeg," gan D. Silvan Evans, a "The Elements of English Composition," gan David Irvin, cyn y bydd iddo geisio cyfieithu dernyn mor glasurol a hwn eto. Drwg genym fed ein hamser yn rhy brin i ddweyd dim yn Mhellach ar gyfieithiad Oliver Goldsmith. Y L'EDWEETDD DOSEAETH. Penfelyn. Cyfansoddiad gwael a dinerth sydd gan Penfelyn. Ar wahan oddiwrth «dini arall, y mae tlodi arddull y cyfieithiad yn sicr o'i gondemnio i blith barddoniaeth o'r radd lselaf. Er enghraifft, gosodwn y linell gyntaf gerbron y darllenydd. Fel hyn y dywed Byron "Woman! experience might have told me," ag fel hyn y dywed Penfelyn "Benyw! gajlu prawf ddwed wrthyf fi." y linell hon yn profi ar unwaith nad yw jenfelyn yn deall y Saesoneg na'r Gymraeg yn Odigon da i allu cyfieithu dernyn o'r fath. Nid Oes dim yn fwy ffiaidd na ffughoniad o unrhyw beth, yn enwedig ffughonia,d mewn llenydd- laeth" a sicr yw fod gormod o hyn yn Nghymru. Pc cesglid yn nghyd rai o'r darnau a gvhoedd- %d, trwy y wasg Gymreig yr ugain mlynedd ^-weddaf o dan yr enw "barddoniaeth," ffurf- 1e.nt golofn anferth o faldordd a dylni, yr hwn ^berai i'r Sais syndod a chwerthin mawr. Yn bod ein heisteddfodau yn fagwrfa llenorion a. beirdd, y maent mewnlluoedd o enghreifftiau ? feithrinfa crytiaid hunanol, heb wybodaeth, ^sdr, na chwaeth, yr hyn sydd i'w briodoli i j^ddau helaeth i'r safon isel a osodir gan rai oeirniaid o flaen y cyhoedd, a'r gorganmoliaeth a; roddant i fechgyn penweiniaid nad yw eu fynyrchion yn haeddu dim ond dinodedd a ^ystawrwydd y bedd. Mai 18, 1872. A. R. THOMAS.
Advertising
i. A VISIT TO EPPS'S COCOA MANUFACTORY—-Throag- Unu ss °* ^eS3r3 Epps, i recently had aa opport ih n of 8eelri&tlle many complicated and varied procress es Cacao bean pa ses through ere it is sold for public nse. bs,mg both iuterested and highly pleased w.th what I during my visit to the manufactory. I thought a brie? "ount of the Cacao, anl the way it is manufactured by ssrs Epps, to fife it for a wholesome and nutritious r^erage. might be of interest to the readers of "Land Water."—S e Article in "Land and Water," October
"HORACE A DE WI WYN."
"HORACE A DE WI WYN." Mr. Gol.,—Yny rhifyn diweddaf o'r GWL- ^iJOARwii, y mae gan Guto ychydig nodiaaau y penawd uchod. Trueni o'r mwyaf fod ivonld-be author hwn yn amlygu ei wendid gerbron y wlad. Nid yw o un pwys ei fod methu adnabod Horace, ac yn tybied mai coch" yw ef. Ond i ddangos talent a SWybodaeth Guto, nid oes eisiau ond edrych J* yr erthygl hwn o'i eiddo. Geilw lythyrau *torace yn "gawdel" am y rheswm fod Dewi jVynyn myned dan y gymhariaeth o "wiwer ( £ c "heddgeidwad," a thyn y casgliad fod jviwer" yn debyg i lieddgeidwad!" Onid p Guto yn deall rheitheg i'r dim 1 Pe yddai dyn yn cael ei osod allan dan y gym- J^iaeth o alew," byddai hyny yn briodol os solygir '-nerth a phe gosodid ef allan dan r gymhariaeth o "oen," byddai yn briodol i tangos "diniweidrwydd." Felly, yn ol ttesymeg yr athronyddol Guto, mae yn **aid j lew ac oen fod yn debyg i'w gilydd "8 gosodwyd Dewi Wyn allan fel wiwer yn h^i y cage i ddim pwrpas, ac fel heddgeidwad SGyddol y genedl yn chwilio betli sydd dan peiliau pethau, yna mae yn canlyn yn ^ocheladwy fod y wiwer a'r heddgeidwad yn ^yg i'w gilydd Mae hyn yn ddigon i j^Qgos pa faint o bwys ellir roddi ar *Tiau ymhonwyr a gyfarthant bob amser ar Dywedais o'r blaen nad oedd y bychain yn deilwng o sylw, ond ar yr pryd yr wyf yn cael llawer o bleser wrth iii yr wowl^)e hwn ac ereill yn bradychu hanwybodaeth. HORACE.
EISTEDDFOD ALBAN ELFFD
EISTEDDFOD ALBAN ELFFD ABERDAR. MR. GOL.Y mae yr Eisteddfod uchod agoshau, ac yn ddiamheu y bydd hon yn j^. lewyrchus, fel arfer. Y mae gwobrwyon 1W cael am ganu, a bydd corau galluog yn ;M^nyg y dorch; ac os bydd i'r rhai ag j(l "^edi anfon eu henwau i mewn wneud ]lymddyngosiad ar ddydd yr Eisteddfod, yn ddiau y gwnant, bydd yn werth bod 0, ac hefyd bydd yn gaffaelia,d mawr i'r rat, hyn gael bod dan feirniadaeth y fath galluog a Mr. E. Lawrance, Merthyr, J. Thomas, Blaenanerch, gynt. Fr K yn methu deall paham y mae corau Hj ^"ion yn eystadlu yn y man Eisteddfod- yn ymgynyg yn erbyn corau sydd gwneud eu hymddangosiad at y cystadleuol. Ond yn yr Eisteddfod foiv ^.ma ^aes ddigon eang i bawb ym- digon uchel i'r mwyaf galluog, a digon r g^anaf. Y mae y pwyllgor hwn wedi ddoeth iawn yn eu dewisiad. Os yr C0^°. yn iawn y mae gan y gwir yyr dair math o rwydau, a dygwydd i lawn o r pysgod ddianc pan bydd yr j °iewu ymarferiad; ond y mae y pwyll- Wec^i ymgynyg yn deg i ddal pawb, Wdri mai^a'8 i bawb gystadlu. Gobeithio ks y yr Eisteddfod yn wir werth bod yno, y allan yn llwyddiant mawr. RHYDWEN.
TREM ODDIAMGYLCH.
TREM ODDIAMGYLCH. MR. GOL.Y mae plant y byd hwn, yn enwedig yr wpner ten, yn credu eu bod hwy yn ogoniant yn mhlith cenedloedd y ddaear. Yn y dyddiau diweddaf hyn yr ydym yn cael fod un o esgobion Eglwys Loegr wedi bod yn trin arweinyddion y bobl yn druenus. Y mae Esgob Caerloew a Chaerodor yn anfoddlawn iawn i'r undebau sydd gan y gweithwyr. Yn arddangosfa amaethyddol Caerloew, dy- wedodd y dylai arweinyddion yr undebau gael eu trochi mewn llyn o ddwfr llonydd am gynhyrfu y gweithwyr. A ie, yn wir, Mr. Esgob, hawdd ydyw dweyd y fath ffolineb. Onid yw hyn yn ddigon i ni ffurfio barn gywir am y fath fodau ydyw esgobion yr oes oleu hon ? Gellid meddwl y byddai i i ddyn sydd barnu ei fod yn gyfiawn gymeryd yr ochr wanaf; ond nid felly y mae, eithr i'r gwrthwyneb yn hollol. Y gwanaf sydd yn cael ei fathru hyd yn nod gan esgob. Yr ydym ni yn methu deall pa beth yw yr hyn sydd yn poeni yr hen dad pigog hwn; ond fe ddichon fod eisieu cael ychwaneg o aur y wlad arno i wario. Y mae yn cael JES.OOO yn flynyddol o arian y wlad, ac os medr rhywun ddweyd am beth, bydded iddo wneud fellv. Y mae 28 o esgobion Lloegr a Chymru yn derbyn y swm anferth o £ 150,000 yn fly- nyddol, ac wrth hyn fe wel y darllenydd ei bod yn hen bryd i gael dadgysylltiad yn ein gwlad. Y mae yr esgobion yn sarug wrth y gweithwyr, a hyny am eu bod yn beiddio dweyd eu bod yn berchen arnynt eu hunain; ond y mae wedi myned yn ormod o'r dydd bellach. Y mae y dosbarth gweithiol yn dechreu agor eu llygaid, ac yn bwriadu eu cadw yn agored' o hyn allan. Yr ydym yn credu y byddai mwy o ddaioni yn deilliaw oddiwrth yr esgobion pe buasent yn edrych ar oi eu gwaith eu hunain, ac nid cyffwrdd ft gwaith dynion ereill. Y mae yr hen Eglwys, druan, ar ei ffyn baglau, ac y mae yn dweyd fod eisieu rhywbeth heb arian er ei hiachau. Y mae fel cranc y mor yn myned rhag ei ol. Ond dyna, beth dal siarad. Dim ond i'r esgobion gael y gilt y maent yn foddlon. Y mae eu hymddygiadau yn profi mai plant Belial ydynt i gyd, onite ni fuasent yn ceisio cymaint o arian ac aur i'w llogellau. Er mwyn profi hyn, carwn gyfeirio yr anghred- iniol at farwolaethau yr esgobion, ac yna yr ydwyf yn sicr y gwel pob dyn ystyrbwyll, fel ysgrifenydd y llinellau hyn, fod ewyllys- iau yr esgob hwn a'r esgob arall yn cynwys mwy o'r peth melyn yna na ddylai. TEFOINDA.
ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR
ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR Mr. Gol.A. fyddwch chwi mor garedig a- chaniatau i mi ychydig ofod i hysbvsu y person maleisus ac anwireddus hwnw a daflodd ei lys- nafedd arnaf yn eich rhifyn am yr wythnos ddiweddaf, o dan yr enw Tret-hdalwr, fod fy hamser yn rhy werthfawr i gecran a pherson sydd yn rhy gowardaidd i ysgrifenu o dan ei enw priodol. Gyda golwg ar yr hyn a noda am fy nghylch-lythyr, parod ydwyf i sefyll i fyny yn ngwyneb unrhyw gynulliad cyhoeddus i brofi ei gynwysiad, ac os y teimla ef neu rhywun arall awydd am gynulliad o'r fath, ni bydd dim yn fwy boddhaol genyf, a gwnaf gyda'r pleser mwyaf dalu haner traul y cyfryw gyfarfod. Haera eich gohebydd fod contest yn y pedair ward o'r plwyf pan y cefais fy hethol yn 18G9, ac i £104 13s. Oc. gael ei wario. Edryched Trethdalwr i'w note-book neu rhyw lyfr cyfrifon arall o'i cidclo, a chaiff weledna chymerodd con- test ]e ar yr adeg hono ond mewn dwy ward, sef No. 1 a No. 3; felly, yn ng'lyn a dwy ward yn unig y gwariwyd y SWill a nodwyd, ac nid mewn ped- air ward fel y dywed ef. Gwel eich darllenwyr cyn leied a ellir goelio ar y Trethdalwr bost- fawr a chwyddedig hwn. Baldordda lawer am etholiad y flwyddyn ddilynol, ond wrth chwilio cawn fod ei amryfusedd diweddaf yn llawn cymaint a'r cyntaf. Os y bydd megin Treth- dalwr am yru allan ychwaneg o wynt trwy big ffugenw, caiff ei swn fyned heibio heb dynu sylw pellach oddiwrthyf. THOMAS PUGH.
EISTEDDFOD FAWEEDDOG" BLAENLLECHAU.
EISTEDDFOD FAWEEDDOG" BLAEN- LLECHAU. CYNALIWYD yr Eisteddfod fawreddog uchod dydd Llun, Awst 19, mewn pabell eang a cliyf- lous a gyfodwyd i'r perwyl. Y llywyddydoedd y Parch. J. Morgan, Cwmbach. Y beirniaid oeddynt Islwyn ac Eos Rhondda. Wedi cael anerchiad ffraeth a phwrpasol gan y llywydd, a phenill talcen slip gan frawd o'r lie, awd yn mla,en a gwaith y dydd yn y drefn ganlynol Gyfarfod y Bore. Canu "Hen Wlad fy Nhadau" gan David Ellis, a,'r dorf yn uno yn y gydgan. Beirniad- aeth y cynghorion i'r Dyn Anfoddog." Tri yn cystadlu; goreu, Mr. T. L. Jones, Trewen, Aberteifi. Adrodd "Both sydd ddewr" gan fercliod; goreu, Mary Ann James, Blaenilechau. Beirniaclaeth yr araeth ar y "Banc Cynilo." Rhanwyd y wobr rhwng Mr. John Morgan, Aberaman, a Mr. Ebenezer Rees, Pentre. Canu "Ymdaith y Mwnc." Un parti yn cystadlu, sef o'r Ddinas, a chafodd y wobr. Beirniad- aeth y gan i'r "Orsaf." Goreu, Mr. John Evans, Ysgolfeistr, Blaenilechau. Canu "On Mighty Pens." Goreu, Miss Ann Phillips, Merthyr. Beirniadaeth y cywydd i'r Awyr- en;" 3 yn cystadlu, ond neb yn deilwng o'r wobr. Canu "Aninau'rdysg'yblion;" amryw yn cystadlu; goreu, Mr. William Jones. Tre- cynon. Beirniadaeth y traethawd ar "lawn ysgrifeniad yr Iaith Gymraeg;" dau ymgeis- ydd, a rhanwyd y wobr rhyngddynt, sefy Parch. E. T. Davies, Blaenllechau, a Mr. D. W. Jones, (Dafydd Morganwg,) Cwmdar. Canu y don gynulleidfaol "Esther;" tri chor yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng cor Blaenllechau a chor Tonypandy. Dygodd hyn y cyfarfod boreuol i derfyniad. Cyfarfod dau o'r gloch. -Anerchiad i'r llywydd gan Ioan Cynon, Cwm- bach. Beirniadaeth y cyfieithiad "Affections of Home;" goreu, y Parch. E. T. Davies, Blaen- ilechau. Adrodd "The charge of the Light z, z, Brigade;" amryw yn ymgeisio; y goreu ydoedd W. Jones, Blaenilechau. Canu "I drefy Bala'r aeth y bardd gan ferched rhoddwyd gwobr gyfartal i Elizabeth Pritchard, Ystrad, ac un arall o Blaenilechau. Adrodd "Dinystr y deml;" amryw yn ymgeisio goreu, Ebenezer Rees, Pentre. Beirniadaeth yr englyn i'r "Ywen goreu, John, ond ni atebodd i'w enw. Adrodd yr Asyn anfoddog." Lluaws yn cys- tadlu; goreu, John James. Beirniadaeth y traethawd ar y Gwefr-hysbysydd." Un ym- geisydd, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mr. John Morgan, Aberaman. Beirniadaeth y bryddest i'r "Porthladd." Goreu, Gwilym Glan Ffrwd. Beirniadaeth Eos Rhondda ar y don gynulleid- y faol, a rhanwyd y wobr rhwng T. Samuel, Cap Coch, a "Richard Ellis," ond ni atebodd yr olaf i'w enw. Beirniadaeth yr englynion i'r "Gareg Lafar." Goreu, Mr. E. Rees (Dyfed- fab), Aberdar. Ateb gofyniadau ar Ddeheu- barth Cymru." Goreu, Mr. William Edmunds, Blaenllechau. Canu y prif ddarn corawl, Teyrnasoedd y Ddaear." Chwech cur yn ym- gesio, ond rhanwyd y wobr rhwng COr Tony- pandy a Chor Bethel, Trecynon. Cafwyd Eis- teddfod lewyrchus iawn, a'r babell yn orlawn drwy y dydd, a chredwn iddi droi allan yn llwyddiant perffaith i'r pwyllgor.—GOHEBYDD.
AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.
AT OLYGYDD Y GWLADGARWR. Syr,-Bydd i chwi neu rhai o'ch gohebwyr gystal a rhoddi gwybod i mi trwy gyfrwng y GWLADGABWK, os caniateir i'r crefftwyr a'r gweithwyr, hyny yw, y seiri, gofiaid, oeir- ianwyr, labrwyr, &c., a phob gweithiwr arall fydd yn gweithio o fewn terfynau un- rhyw waith glo neu fwn, i uno yn yr un funds a'r glowyr. Atebiad i'r uchod a bera foddlonrwydd mawr i UN HEB W YBOD.
GWEITHWYR TIN CWMTAWE.
GWEITHWYR TIN CWMTAWE. Mr. Gol.,—Ymddangosodd ysgrif o dan v penawd uchod yn y GWIAPGABWK cyn y di- weddaf gan un a eilw ei hun yn "D." Yr oeddwn yn casglu oddiwrth ei ysgrif mai atom ni fel gweithwyr y melinau alcan a'r tinhouse yr oedd yn cyfeirio yn fwyaf neill- duol a chan na welais un o'm brodyr yn ymgymeryd a rhoddi ei farn, fel y gofynwyd, penderfynais anfon gair o atebiad iddo. Gwir mai yr un pris yr ydym yn ei gael yn awr ag yr oeddwn yn gael 20 mlynedd yn ol, ac fod pris y bwyd yn rhy uchel o lawer. Gwir hefyd y dylem ymysgwyd o'r llwch, yn yr hwn yr ydym yn ymdroi er ys cymaint o amser. Ond y mae un peth yn ei ysgrif yn ddirgel i mi, sef paham y mae yn gadael Ystalyfera a Chwmbwrla allan ? Yr ydwyf o'r farn y dylasai nid yn unig Owmtawe, ond g pob cwm arall trwy Forganwg agor ei lygaid ar yr adeg bresenol. Gobeithio y gwna rhyw- un mwy hyddysg na mvfi gymeryd y pwnc mewn lJaw, a phenderfynu pa le a pha bryd i ymgyfarfod, ac anion gair i'r GWLADGARWR nesaf, yr hwn bapyr sydd bob amser dros iawnderau y gweithwyr. ALCANFAB. O.Y.—Nid wyf yn meddwl fod "D" yn cyfeirio at buddlers y cwm yn unig, fel yr oedd llith Ab Guto yn arddangos yn y GWL- ADGARWR diweddaf. -A.
COF-GOLOFN IFOR OWMGWYS.
COF-GOLOFN IFOR OWMGWYS. Mr. Gol., Dymunaf hysbysu y cyfaill Ieuan Ddu fod y gof-golofn yn barod, ac hefyd wedi ei gosod yn ei He oddiar y Ged o'r mis hwn. Ei gwerth ydyw Cl4, ac nid oes ond zC2 wedi dyfod i law y trysorvdd,—Mr. John James, Crown Hotel, Aberdar, a 10s. yn fy Haw inau. IroR THOMAS.
Advertising
OINTMENT A PHELEXI HOLLOWAY —Anhwylierau Hen Oedmn.-Pan 7 mae dyn yn vned rtrosodd i'r hyn a elwir hen oedran. y mae y treuliad yn a^mharn, a'r cyfansoddia l yn dvfod yn wan. Yr, ?aaiynol i hy.o. dsw anhwylder yr ysgyf«nt y lniigs, a'r per;, y rhii A gaily Ir drachefn y drr.psi, asthma, rea apoplcx-, y rhai ;11 fynfch a effeithiant yn drwtn ar yr oedraau-n. Y ra/ie yr ysq faint yn yyntaf yo dyfod yn farwaidd, ond gemr yu hawdd ei gael i'w we th^ar^ch arfurol trwy ywhio Oint- ment HolIowiy unw .ith neu ddwy jn y dydd a, yr ys- tamog a'r cchr dde a chymeryd y Peleni yr 1m adeg. Effeithia yr Ointment yr. un fath rrdlJ y peir- iant dynol, ond rhwbio 1 r Ointment yn yrhanar. hyny o'r coiff y teimlir y gwandid.
CONGL Y GWEITHIWR.I
CONGL Y GWEITHIWR. DERBYNIADAU ARIANOL. A ganlyn yw yr arian cyntaf yr ydym wedi eu derbyn tua.g at y glowyr fu ar strike yn Nghwni Rhondda. Awst 14eg, oddiwrth I Phillip Rees, Navigation Pit. Mountain Ash, £11128. Awst 17eg, Thos. Dando, Tir Phil Pit, New Tredegar, £ 9 58. Gd. Jenkin Wat- kins, Dinas Pit, Cwm Rhondda, £ 4 10s. Id. William Morgan, Bodringallt Collieries, E6 13s. 2d. Awst 19eg, oddiwrth F. Ed- munds, a Wm. Edwards, Tynant Colliery, Lantwit Yardre, £ 13 13s. Od.; a Morris Jones, Machen Lime Works, Is. Dymunwn roddi diolchgarwch gwresocaf i'r gweithfeydd hyny sydd wedi cyh'anu, gan obeithio y gwna gweithfeydd ereill yr un modd mor fuan ag v byddo yn bosibl. Yr eiddoch, GEORGE COLES, Ysg.
GAIR AT Y REFINERS, HAMMERMEN,…
GAIR AT Y REFINERS, HAMMER- MEN, ROLLER-MEN, Ac. Anwyl Gyfeillion,—Fel un ag sydd wedi bod yn weithiwr caled, a'r enaid wedi teimlo yn eiddigeddus dros iawnderau y gweithwyr, teimlwyf duedd i ddweyd gair wrthych yn eich hymdrafodaeth bresenol. Da iawn genyf eich bod wedi penderfynu hawlio ac amddiffyn eich hiawnderau, a'ch bod wedi cynal cyfarfodydd er trefnu y ffordd. oreu i gyrhaedd hyny. Gobeithio y bydd i chwi lwyddo yn eich bwriad. Ond carwn ofyn i chwi, Pa fodd y dysgwyliwch i'ch cyfarfod- ydd droi allan yn llwyddiant ? Ai trwy frad- ychu eich gilydd ? Ai trwy gario eich cyf- rinach i glyw y meistriaid ? Nage. Os ydych am i'ch pwyllgorau fyned yn ofer, a'ch bwriadau droi allan yn ofid a siomedigaeth i chwi, ymddygwch fel Judasiaid at eich gil- ydd, a rhoddwch fanylion y pwyllgorau a. gynelir genych i'ch meistriaid. Y mae hyn wedi cael ei wneud, ac y mae un wedi cael ei orfodi i ymddangos o flaen yr ynadon, yn herwydd traethu ei farn yn yr ymdrafodaeth bresenol. Y fath drueni na ellir cynal cyfar- fodydd, a dweyd ein barnau ynddynt, heb raid dyoddef wedi hyny yn herwydd ym- ddygiadau gwael a ffiaidd rhai dyniol. Pa- ham nad allwn fod yn ffyddlon ac unol yn ein hamcanion ? Os ydych chwi, fel gweith- wyr, am gyrhaedd eich nod yr adeg bresenol, byddwch onest, a chedweh i chwi eich hun- ain fanylion y cyrddau. Mewn undeb y mae nerth;" ac os yn unol yn eich pender- fyniad, y mae eich dylanwad yn sicr o gael ei deimlo gan y meistriaid—i'r fath raddau, nes peri iddynt ganiatau i chwi eich cais. Nis gwn pa bersori neu bersonau ddartu fradychu yr un hwnw. Gan nad pwy ydynt, y maent yn deilwng o gael eu cofnodi yn y GWLADGARWR fel bradychwyr, a dylent gyt- newid eu henwau i Judas J--s neu ryw Judas arall. Paid digaloni, 'machgen i. Gwell yw i ti oddef yn herwydd bradychiad na bod yn fradycliwr dy hun. Edrychir arnat bellach fel un gonest, ac y mae coron ffyddlondeb wedi ei phlethu am dy ben. Gobeithio y gwna hyn o eiriau les i chwi oil mewn cysylltiad a'ch cyfarfodydd dy- fodol. N ID JUDAS.
CWM RHONDDA.
CWM RHONDDA. Y mae yn wybyddus i'r cwm uchod, ac i'r rhan fwyaf o'r cymoedd ereill, fod genym ni y gweithwyr ddyn yn cael ei gadw yma er hwylysu ac egluro egwyddorion yr Undeb yn y cwm hwn a manau ereill. Yr ydym yn darllen hanes am dano yn myned mor belled a Gwauncaegurwen i areithio ac i ddysgu yr egwyddor undebol. Y mae yn dda genym glywed fod yr Undeb yn llwyddo yno ond carwn yn fawr weled Mr. Morgan yn gweithio mwy yn nhref, a hwylysu ac egluro mwy ar egwyddorion yr Undeb yma. Nid wyf yu credu ei fod ef wedi ymweled ag haner cyf- rinfaoedd y cwm, pa rai, yn ol fy marn i, y dylai ymweled [t h wynt, 0 herwydd y mae ugeiniau yn dymuno arno wneud felly ya ddioed. UISTDEBWR IEUANO.
IABERCRAYE COLLIERY.
ABERCRAYE COLLIERY. Y mae y gwaith hwn yn dyfod yn mlaen yn gampus. Y mae llawer 0 iowyr yn dyfod i mewn yn fisol. Saif y gwaith mewn lie cyfleus i anfon y glo i ffwrdd, nid oes ond rhyw ddeugain Hath rhwng y gwaith a'r rheilffordd, yr hon sydd ar waith yn bresenol. Perchenogion y gwaith hwn yw Glasbrook, Thomas, a'i feibion. Cymry o waed a chalon, dynion sydd yn medru cydymdeimlo a'u gweithwyr. Y mae y gweithwyr wedi bod yn sefyll strike dechreu y mis hwn am 2s. y bunt o godiad, ac y maent wedi ei gael. Dywed rhai o'r gweithwyr fod y meistri yn myned i agor gwaith newydd eto.
LOWER GRAIG COLLIERY HIRWAIN.
LOWER GRAIG COLLIERY HIRWAIN. UNDEBWYR ANFFYDDLON. Mae yn ddrwg genyf fod rhai peraonau, pa rai ydynt yn proffesu i fod yn Undebwyr, yn y gwaith uchod yn methu dyfod i unrhyw benderfyniad er cael cyfiawnder. Maent am daflu y cyfan oddiar ysgwyddau eu hunain, ac y maent yn ffoi i mewn gyda thoriad y wawr, rhag y bydd galwad Arnynt yn rhyw gyfarfocl neu gilydd. Os Ilwydder i'w cael allan, gof- alant na ddywedant un gair ar yr hyn fyddo dan sylw. Da chwi, gyfeillion, deuweh allan fel un gwr i gynorthwyo eich cyd-weithwyr i gael eu hiawnderau. Os galwer cyfarfod" i benderfynu unrhyw faterion mewn perthynas i'r gwaith, deuwch yno a siaradwcli ar y pwnc, ac nid sisial wrth eich gilydd am yr hyn nad yw yn perthyn i'r pwnc. Os bydd arnoch eisiau rhywbeth, penderfynwch ar unwaith y fiordd oreu i'w gael, fel na byddo achos i neb golli ei waith am ddau neu dri diwrnod am yr un peth, a dichon heb ei gael yn y diwedd. Hefyd, na adewch i ryw bedwar neu bump o bersonau i ymladd y cyfan eu hunain, a thrwy hyny gael eu drwg- liwio gan y meistri, y rhai a ddywed eu bod yn achosi terfysg yn y gwaith heb achos. UNDEBWR.
LLANELLI A'R CODIAD PRIS.
LLANELLI A'R CODIAD PRIS. Mr. Gol. ,-Caniatewch i fy ysgrif ym- ddangos yn eich newyddiadur clodwiw er mwyn hysbysu fy nghydweithwyr ein bod wedi cynal cyfarfod o gynrychiolwyr yn yr Half-way, Awst yr 8fed, prycl y penderfyn- wyd i anfon ein cais gyda'r Overmen at y meistr am 2s. 6c. y bunt o godiad yn ein cyf- logau, a darfu iddo ganiatau y cais gyda'r parodrwydd mwyaf, ac yr ydym wedi de- chreu ar y codiad er y 19eg o'r mis hwn. Y mae Mr. Williams yn dellwng o barch am ei barodwydd y mae ei ymddygiad tuag atom wedi creu teimladau cynes ynom tuag ato. Y mae Mr. Williams yn ein plith er ys 18 mlynedd, ac nid oes gymaint ag un strika wedi cymeryd lie yn ystod yr holl amser. Peth arall, y mae yn dda genyf weled yn y GWLADGAltWR fod y meistri a gweithwyr Cwm Rhondda wedi dyfod i gyd-ddealltwr- aeth a'i gilydd yn nghylch codiad pris, a'r strike wedi dyfod i derfyniad. Carwn gael gwybod, drwy gyfrwng y GWLADGARWR, gan unrhyw weithiwr glo tai Cwm Rhondda, pa sawl tynell o lo y mae pob glowr yn ei dor! ar gyfartaledd, er mwyn i ni gael gweled beth sydd yn dod ar bunt, gan ein bod yn ymddibynu, i raddau helaeth, arnoch chwi, wyr Morganwg. CARWR HEDDWCH.