Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1857 ¡ MESSRS, Murphy & Rowley SURGEON DENTISTS, Honorary Dentists to the Aberystwyth Iriflrmarj and Cardiganshire General Hospital.) r Address; 54, Terrace Road, Aberystwyth, 0ALIER SYLW .—Nid oeb yr un cysylltiad rhyngom J ni a'r rhai sy'n defnyddio ein henwau yn Machyn- lleth a Chorris, ac nid ydynt hwy yn Ddeintyddion. MACHYNLLETH. -Presenol yma bob dydd Mercher, Oriau: 1-30 hyd 4-40. anig Gyfeiliad-Ty Mrs. Hughes, Dovey View, | gerllaw y Station. 3 IffiTCyflenwir DANEDD GOSOD ar yr egwydd- onon goreu, ar Aur, Cymysgedd Deintol. Vulcanite, etc., yn y dulliau Seisnig ac Aaaericatxaidd di- woddaraf. Ni Raid Tynu y Gwreiddiau. 1 Nis gellir rhagori ar y Danedd hyn i aangosiad, oysur, parhad, ac iselbria. AWY Moddion Goreu yn un Sicrheir ESt Perffaith. Cedwir pob gwaith mewn trofn am 12 mis yn ddi-dal. k Ail- tsnir, ac Adgyweirir Danedd. Tynir danedd yn ddi-boen drwy gyfrwng Nwy. Y mae genym y dewisiad Goreu a Helaethaf o Ddanedd yn y Sir, a c-hyflenwir hwy c;m prisiau isaf Sylwch ar y Oyfeiriad. Cynghoriad Rhad. Siaredir Cymraeg. EYE STRAIN prevented by the timely use oi iõ HENRY LATJRANOES improved | SPECTACLES & EYE-GLA.SSES which have proved beneficial to thousands. CYRN! CYRN! CYRN! Y feddyginiaeth anffaeledig at gym caled a meddal, a defaid, ydyw ( CORNINE. Rhydd esmwythad uniongyrchol, ac iachad hollol mewn tri diwrnod. Pris 71c. yn rhad trwy y Post oddiwrth y gwneuthuiwr a'r perchenog. Y Breinteban (Patents) uohod i'w cael oddiwrth y perchenog, E. DAVIES HUGHES, M.P.S., Fferyllydd, Towyn, Neu ar werth gan Mr. M. Thomas, Fferyllydd. Corris. Anwyd a Pheswch. DAVIES'S T) u COUGH MIXTURE AT BEWCH, ANWYD, BROHCHITIS, ASTHMA, PA, DIFFYGr GrWYNT. DAVIES'S COUGH MIXTURE atBeswch, Anwyd DAVIES'S COUGH MIXTURE at Asthma, Crygni DAVIES'S COUGH MIXTURE at Pås, Bronchitis DAVIES'S COUGH MIXTURE at Iafluenza. AT GRYGNI? Dose o Davies's Cough Mixture fel olew ar yr olwyn. Beth yw y Feddyginiaeth Fawr Gymreig at Beawch ? Davies's Cough Mixture. Beth ddyhd gymeryd at Frest Gaeth ? Davies's Cough Mixture. Beth yw y cymhwynaswr goreu i bawb sydd yn cael ei flino gan ddiffyg anadl ? Davies's Cough Mixture. Wyddocb chwi beth ddylid gymeryd pan y bydd Anwyd trwm yn y pen, y llygaid yn gochion, y ffroenau yn llawn, a'r gwynt yn fyr? 0avies's Cough Mixture. Beth ddylai Cantorion a Siaradwyr cyhoedd- us gymeryd at glirio y Ilais ? Davies's Cough Mixture. Beth iach& Ddolur Gwddf ar unwaith? Davies's Cough Mixture. Pa le y mae DAVIES'S COUGH MIXTURE ilw gael ? Gan bob Druggist, mewn poteli, I S. I iic a 2s. gco (Cynwysai ly rhai 25 gc gymaint dair gwaith). MACHYNLLETH. j Y GAUAFI Y GAUAFI I Parotoadau Mawrion at TYMHOR PRESENOL mewn Nwyddau Newyddion, yn WPARIS HOTT&E,-»t Machynlleth, Dilladau Parod i Ddynion a Phlant, mewn cyflawnder mawr. Stoc anferth o'r Defnyddiau mwyaf ffasiynol at Ddresses. Hefyd Blouses, Millinery, yn cynwys Hetiau, Chiffon a Gwellt—canoedd ohonynt wedi, ac heb eu trimio, Unibrellas, Corsets, Gloves, Skirts, Oilcloths, Carpets, &c., &c. Cyn gwneuthur eich pryniadau at y Tymor fe dal i bawb alw yn PARIS HOUSE. Perchenog-RIOHARD REES. GRIFFITHS & CO., Foreign Timber Importers, WHOLESALE AND RETAIL BUILDERYS MERCHANTS, MACHYNLLETH. Galvanized and Corrugated Sheets, Sheep Netting, &c., &c. ESTIMATES GIVEN FOR READY-MADE JOINERY, &o Quarry and Mine Materials. Cambrian Railways Announcements. 4TH ROTJND WELSH SENIOR Cup-CHESTER v. ABERYSTWYTH at Aberystwyth, SATURDAY, FEBRUARY 13th. Cheap Exclusion Tickets to ABERYSTWYTH from Machynlleth, etc. Drury Lane Theatre, Grand Pantomime, "Dick Whittington." Shire Horse Show, Royal Agricultural Hall, Feb. 23rd to 26th. ■ Mammoth Fun City, Olympia. On Tuesday, Feb. 28, for 2, 5, or 8 days; Wednesday, Feb 24th, for 2, 4 or 7 days, EXCURSION TICKETS WILL BE ISSUED TO *J LONDON \x> Passenger Train Alterations, February, 1909. The 3-55 p.m. train from Aberystwyth will be retimed from Caersws to reach Oswestry at 7-0 p.m., connecting with the 7-20 p.m. train thence to Whitchurch, Crewe, and L. & N. W. Line. For full particulars see bills. List ot Lodgings. A new and revised edition of the List of Hotels and Inns, Farmhouse and Country Lodgings, in the district served by the Cambrian Railways, will be issued for the coming Season. A fee of one shilling will be charged for the insertion of any name and address. Names and addresses of Farmers, Hotel Proprietors and Lodging House Keepers having accommodation to offer should be sent to any of the Company's Station Masters or to the undersigned, accompanied by a remittance not later than March 1st next. The Company reserve the right of accepting or rejecting any application. WEEK-END TICKETS every Friday & Saturday to LIVERPOOL, MANCHESTER, BIRMINGHAM, EDINBURGH, GLASGOW, &c. TOURIST TICKETS to the principal Tourist Resorts in EnglaRd and Wales all the year round. SPECIAL TRAVELLING FACILITIES, UNTIL FURTHER NOTICE, CHEAP DAY TICKETS (First and Third Class) at Reduced Fares will be issued between CAMBRIAN COAST STATIONS. For full details see Bills at the Stations. EVERY Monday, Wednesday & Saturday until further notice, Cheap 1 and 2 Days Tickets will be issued to CARNARVON, BANGOR, HOLYHEAD, and other North Wales Coast Stations from Machynlleth, etc. Full particulars of the above can be obtained at the Stations, or from the Offices of the Company. C. S. DENNISS, Oswestry, Feb., 1909. General Manager. >0 .t,' HYSPYSIAD. BYDD ISAAC JONES, Relieving Officer, yn aros o hyn allan yn nby Mrs. Edwards, Tanydderwen, Corris. "gtegespdd."
YR ARGLWYDDI A'R BOBL.
YR ARGLWYDDI A'R BOBL. MAE Ty'r Cyffredin yn neahau at ar- gyfwng pwysig yn ei hanes, un na chymer- odd ei fath le er amser Charles I, oherwydd gwaith yr arglwyddi yn taflu allan fesurau y penderfynwyd arnynt gan gynrychiolwyr y bobl. Bu yr arglwyddi yn rhwystr ar ffordd diwygiadau ar hyd y pedwar ugain mlynedd diweddaf. Bellach, llanwyd eu cwpan, ac nis gellir oedi yn hwy y cwestiwn cyfansoddiadol rhwng y ddau Dy. Rhaid cwtogi gallu y Ty Uchaf anghyfrifol hwn sydd yn atal neu ddifetha y mesurau y geilw y wlad am danynt. Brwydr am fywyd y werin bobl ydyw, oherwydd mae ein cynrychiolwyr yn Nhy'r Oyffredin wedi eu gorchfygu a'u gwneud yn ddirym. Nis gellir goddef i'r hyn gymerodd le yn hanes Ty'r Cyffredin y tair blynedd diweddaf barhau. Ac y mae y Prif Weinidog wedi cyhoeddi mai dyma'r mater sydd i gael y lie blaenaf yn y rhaglen Ryddfrydol. Pa faint bynag o amser gymer hyn le-dwy, pump, neu ddeng mlynedd, nid oes bwrw arfau i fod nes ei gorphenir. Os na wneir Ty cynrych- iolwyr yn feistr arno ei hun atelir pob gwelliant cymdeithasol sydd o unrhyw werth. Os bydd i'r Llywodraeth adael o'r neilldu unrhyw fesurau o gyfiawnder y mae y wlad yn aeddfed iddynt, megis mesurau ynglyn a dirwest, addysg, y tir, a dadgysylltiad yr Eglwys, gwneir hyny yn unig am ei fod, yn fater o anghenrheidrwydd, sef difodi am byth hawl yr arglwyddi i sefyll yn erbyn ewyllys gwlad. Mae yr arglwyddi yn eistedd yn benodol er mwyn amddiffyn eu buddian- au personol. Penderfynir unrhyw achos rhwng meistr a thenant gan Dy o Dirfedd- ianwyr; cydraddoldeb crefyddol rhwng yr Eglwys ac Ymneillduaeth gan Dy o Eglwys- wyr, sydd yn cashau Ymneillduaeth. Penderfynir cwestiynau rhwng gerfaelwyr y ddiod A phleidwyr dirwest gan wneuthur- wyr a chyfranddalwyr y fasnach. Gelwir ar Ryddfrydwyr o bob gradd i'r gfid i ddinystrio y cyfryw allu unbenaethol. Yn y man, gwneir apel at yr etholwyr i benderfynu tynged Ty'r Arglwyddi, ac nid oes un amheuaeth na chyfyngir ei hawliau, ac y ceir ef yr hyn ddylai fod mewn gwlad rydd. Mae amser cymylog a chythryblus o flaen y Senedd, yr hon sydd i gyfarfod ar y 16eg o'r mis hwn. Ymddibyna tynged y Llyw- odraeth ar ffurfiad y Gyllideb, ac yn arbenig ar ymddygiad yr Arglwyddi tuag at y mesur hwn. Ni fyddai ganddynt yr un gwrthwynebiad i drethu unrhyw ddosbarth o'r bobl, ond tebyg na oddefant drethu y tafarnwr na'r perchenog tir. Os gwna y Llywodraeth hyny fel y darogenir i gyfar- fod a'u gofynion arianol, tebygol y try yr Arglwyddi ei droed i lawr gan yngan na fynant drefn o'r fath, a'r canlyniad fydd ymddatodiad y Senedd ar ddiwedd y flwydd- yn ac apeliad y Weinyddiaeth at y bobl. i Ofer yw ymbalfalu yn fythol ar bared Ty'r Arglwyddi. Os y bobl sydd i reoli, eler at y bobl; y bobl yn unig all benderfynu y ddadl. Ond barn rhai yw na theflir y Gyllideb allan gan yr Arglwyddi, y meddant ar fwy o synwyr na beiddio ar amynedd y bobl yn rhy bell. Amser a ddengys. Cymeradwya nifer o aelodau y Weinyddiaeth i weithredu amynedd a rhoddi cyfle digamsyniol i'r Arglwyddi i ddyfetha eu hunain drwy bechu yn erbyn y bobl yn ddigonol i'w cyf. iawnhau yn eu dinystrio hwy. Oymeradwyir hyn o gynllun er mwyn cael cri o ddylan- wad yn erbyn y Ty Uchaf pan ddaw yr adeg i gyfeirio y gwyn at yr etholwyr, Ceisia y Toriaid a'u cyfeillion, y Rhydd- frydwyr Toriaidd neu Undebwyr, godi baner Diffyndoll i fyny i gamarwain y bobl, ond nid Difiyndollaeth yw y pwnc pwysicaf sydd ger bion, eithr Ty'r Arglwyddi-Ai y bobl ynte yr Arglwyddi sydd i reoli ? Wedi pen- derfynu hwnw bydd y ffordd yn glir i fab- wysiadu mesurau poblogaidd eraill. Dywed y "Times" na ddylid mabwysiadu y drefn dollawl oddigerth fod mwyaf syl- weddol y bobl o'i phlaid. Pwnc aneglur yw pwnc Diffyndollaeth, a phwnc nas gellir ei benderfynu yn iawn am rai blynyddau, ao ofer fyddai ei osod i fyny i dywyllu a cham- arwain y bobl ynglyn a'r ymdreoh fawr sydd ger bron, set pwnc rheolaeth y wlad.
MARWOLAETH MR. W. R. M WYNNE.
MARWOLAETH MR. W. R. M WYNNE. Bu Mr W. R. M. Wynne, Arglwydd Rhaglaw Sir Feirionydd, farw tua haner awr wedi un brydnawn Gwener, yn Liun. dain. Ganwyd ef yn 1840, a disgynai o deulu Gymreig hynafol. Efe oedd mab hynaf y diweddar Mr W. "W. E. Wynne, Peniarth, ger Towyn, yr hwn oedd yn aelod Seneddol dros Sir Feirionydd o 1852 i 1865. Addysg- wyd ef yn Eton, a bu yn swyddog yn y Scots Guards ar ol hyny. Yn 1865 aeth i'r Senedd i gynrychioli ei sir fel olynydd i'w dad, ond collodd ei Sedd yn 1868. Bu yn Uchel Sirydd yn 1866, ac yn 1891 penod- wyd ef yn Arglwydd Rhaglaw. Bu yn gwnstabl Castell Harlech, ac yn gadeirydd Chwarter Sessiwn y sir. Yn 1891 priododd a Mrs R. T. Williamson, merch Mr William Kendall. Cymerodd ran amlwg mewn pethau cyhoeddus yn Meirionydd. Mae llyfrgell Peniarth yn un o'r rhai gwerthfawrocaf yn Nghymru. Oynwysa. lawer o hen ysgrifau a llyfrau, a deallir ei bod hi i fyned i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn 1865 dewiswyd ef yn olynydd i'w dad fel cynrychiolydd Ceidwadol dros Feirion yn y Senedd trwy fwyafrif o 31 ar Mr David Williams, Castell Deudraeth. Yn etholiad 1868 cymerodd y maes drachefn, ond yr oedd estyniad yr etholfraint yn dwyn ffrwyth, ac enciliodd Mr Wynne ddeuddydd neu dri cyn dydd yr etholiad, a dychwelwyd ei wrthwynebydd, Mr D. Williams. Ym. geisiodd am y sedd drachefn yn 1885, pan yr oedd ar y maes ddau yrngeisydd arall, sef Mr Morgan Lloyd a Mr Henry Robert- son, Pale, ac y dychwelwyd y diweddaf gyda mwyafrif mawr. Cyniychiolai Mr Wynne blwyf Llanegryn ar Gyngor Sirol Meirion o'i gychwyniad. Yr oedd yr ymadawedig yn ioneddwr hynaws a charedig, ac yr oedd iddo baroh mawr fel tirfeddianydd. Mae ffermydd ar yr ystad wedi eu dal am 40- mlynedd am yr un rent. Dywedir mai cyfenw cyntaf y teulu oedd Llwyd neu Lloyd, wedi hyny Ywain a'u bod o linach y Barwn Owen. Wedi hyny daeth Williams i'r teulu, ao yn ddiweddaraf Wynne. Yr oedd Mr. Wynne yn ddyn o bersonoliaeth hardd a phendefigaidd. Dydd Sadwrn, ar ddiwedd y Llys Sirol yn Nolgellau, galwodd y Barnwr William Evans sylw at farwolaeth yr Arglwydd Raglaw. Dywedai ei fod yn wr o alluoedd eithriadol, a byddai yn golled fawr i'r sir ar ei ol. Datganai ei gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth. Gwnaed sylwadau pellach gan Mri J. Charles Hughes, is-sir- ydd, a J. E. Fox, cyfreithiwr ac ynad heddwch. 0 barch i goffadwriaeth Mr Wynne hys- bysir na bydd i Mr Osmond Williams, A.S., [gadw ei ymrwymiadau i gynal cyfarfodyd'd cyhoeddus yr wythnos hon, Yi oedd i gynal cyfarfod yn Ffestiniog dydd Sadwrn. Cymer y gladdedigaeth 10 dydd Mercher (heddyw) yn meddrod y teulu yn Llanegryn I-
f Y FFYRDD HAIARM.
f Y FFYRDD HAIARM. Yr wythnos ddiweddaf rhoddwyd y dyfarniad cyntaf o dan gynllun Cymod rhwng gwyr y y reilffyrdd a'r perchenogion a gwblhawyd gan Mr Lloyd George. Vr oedd yn delio a 39,000 o wyr mewn gwahanol oruchwylion ar reil- ffordd y L & N W. Y cymodwr oedd Syr Edward Fry. Caniataodd i'r dynion oriau gweithio byrach, tal chwanegol, atal naw awr thag gweithio. Bydd yn gost chwanegol i'r cwmni o 7o,ooop. Barnai Mr. Bell iod y dyfarniad cystal a'r hyn a enillid drwy streic, heblaw y goiled a'r anghyfleusdra a achosai hyny.
DYLEOiOH MISS CHARLESWORTH.
DYLEOiOH MISS CHARLESWORTH. Pan ymddangosodd Miss Charlesworth gyutaf ar y llwyfan yn Llundain, derbyniad go gymysg a gafodd, ac yr oedd yn rhy necfus i ganu. Dywedodd rheolwr y chwareudy ei bod hi yn dymuuo gwneyd yn hysbys nad oedd arni hi ddeng mil o bunau i gwmni o stock brokers. Yn mhen diwrnod neu ddau, ysgrif- eoodd twrne cwmni o stock brokers i un o'r papyrau i ddweyd fod ami 71349P 19s ice i'w gwmni ef, a'u bod yn dwyn cyfraith yn ei herbyn am daoynt, ac yn meddwl am hawlio arian eraill dyledus iddynt hefyd. Mae gan- ddynt yn eu meddiantji o "bills of exchange" a gatodd Miss Charlesworth ganddynt, am gyfanswm o 121714P 198 ice.
[No title]
Mae adroddiad swyddogol am y fasnach halen Brydeinig yn dangos lleihad mawr yn ystod y llynedd, yn ol yr adroddiad a ddaeth i law ddydd Iau. Yr oedd yn llai o 77,10* 0 dunelli na'r llynedd, w