Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

CYTTEBYG. V.

News
Cite
Share

CYTTEBYG. V. "ROBYN MEIRION." Annghymharus genym ar yr un pryd gymer- yd llysenw barddol o ymddangosiad darostyn- gol i un wedi cyraedd safle urddasol fel pregethwr a gweinidog. Cyfatebant yn hoenus i'r frawdoliaeth yn eu plith eu hunain. Gor- esgynodd Gwynedd y darostyngiad ymddang- osiadol, a mawr dda iddo ar ei oruchafiaeth. Ond mae y darllenydd yn deall am Robyn Meirion tan ba enw by nag, er y Sul o'r blaen wedi ei weled yn y dosbarth ddau o'r gloch, a'i glywed yn y pwlpud yn yr hwyr. Herwydd ei rag-arwyddion gobeithiol fel pregethwr, cafodd fynedfa i'r Coleg i'r Brif- ddinas-o Drawsfynydd wledig i Lundain Nid oedd wedi bod yno nemawroamseri wneyd llawer o gynydd mewn dysgeidiaeth ar y goreu, a hyny gan mwyaf mewn Gram- madeg, pan ddaeth aDftyddiwr hyf a chabledd- us i herio dadl a'r Cristion am ei gredo Derbyniodd y duweinydd yr her o deimlad dros ei Dduw a'i achos. Yr oedd Robyn yn teimlo i'r byw am ganlyniad y ddadl. Aeth i eistedd i gongl beUaf y seat o flaen yr allor, a mab i Ebenezer Richard yn nesaf ato. Yr oedd ei dad dan orfod i'w anfon i Goleg Annibynol herwydd diffyg moddion cartrefol ar y pryd, ac felly gwneyd pregethwr Annibynol o hono. Ond daeth yn fwy enwog a gwasanaethgar fel Henry Richards, A.S., nag fel pregethwr. A mab i bregethwr a Methodist blaenllaw iawn arall—John Parry, Caerlleon, yn nesaf ato; wedi ei broselytio yr un modd tan yr un dylan- wad ac amgylchiadau, ond ni ddaeth yntau i fawr o gyhoeddusrwydd. Yr oedd yno dri "student" rhyngddynt a drws y set. Yr oedd yr anffyddiwr, fel y gallem gasglu, yn fwy tafodog a haerllug o lawer na'r duwin- ydd. Yr oedd Robyn yntau ya pallu braidd at y diwedd, yr hyn oedd yn gwneyd ei with- wynebydd yn fwy haerllug a chableddus, fel yr oedd y Cymro syml o Drawsfynydd wedi myned yn ysfa gyffcous drwyddo. Mynai i un o'r ddau gyfaill nesaf ato oedd wedi cael pob manteision addysg fyned i'r stage, ond ni bu. asai yr un o honynt yn cymeryd y byd, fel y byddis yn arfer dweyd, a chynyg. Yntau yn myned yn fwy anesmwyth o byd fel yr oedd yr anffyddiwr yn myned yn fwy gwawdlyd fel o'r diwedd dyma fe yn codi ar eu gwaethaf, ac yn hyrddio heibio iddynt gyda thrwst. Mynai y rhai oedd yn eistedd ar gyfer y steps ei atal i fyny, eithr y dadleuydd, yn casglu ar ei olwg y cawsai fantais arno, a orchymynodd ei adael i gropio fyny. Aeth y Cymro yn mlaen i ffrynt y stage, tan ddweyd, "Let us pray." A 'pray' oedd hi, a daeth rhyw don o deimlad dros yr holl gynulleidfa ac ar neb yn fwy nag ar y gwawdiwr difenwol, fel yr aeth allan cyn iddo ddiwedd, tan ddweyd, nad ai ef ddim i ddadlu a'r math hwnw. Dywedodd Mr Roberts ychydig o eiriau pwrpasol a difrifol i ddybenu y cyfarfod. Ac felly y trodd y cyfarfod o'r diwedd yn hollol yn ffafr Cristionogaeth.-P,

ABERDYFI

IAMRYWION.

TAITH I LYDAW. -

DYFFRYN ARDUDWYj

PORTHMADOC

DOLGELLAU

FOEL, GARTHBEIBI0

Advertising

Advertising

-einion vr men.

IABERMAW I I

TOWYN

......m!!......!!.. [HELYNTiON…

LLAW-FARW.