Hide Articles List

13 articles on this Page

mtnniott.

[No title]

News
Cite
Share

Y prif gyhnygiad a ddvgwyd ger bron Ty y Cyffredin nos Wener, oedd yr eiddo Mr. H. Ber- keley, mewn perthynas i'r tugel. Adgoffaodd y Ty fod yr etholfraint ar gael ei gostwng o fewn cyrliaecld rhai o'r dosbarth iselaf, y rhai a fydd- ent o lierwydd iselder eu hamgylchiadau, mewn profedigaeth gyda eu pleidleisiau, ac nad allent weitliredu yn annibyiiol lieb gael pleidleisio trwy y tugel. Cefnogwyd y cynnvgiad gan Mr. Os- borne, yr liwn a ddadleuai mai y moddion mwyaf effeitliiol i attal llwgrwobrwyaeth oedd y tugel. Honai Mr. Marsh na sicrheid yr un fantais ym- arferol trwy bleidleisio yn ddirgelaidd. Ar ran- iad y Ty, cafvvyd dros y cynnygiad 112; yn erbyn, IGl; lllwyafrif, In. Cynnygiwyd gan Arglwydd E. Cecil, nad oedd i'r un person mewn llawn oed, fyddai wedi ei gael yn euog, ac wedi dioddef saith z7,, mlynedd o lafur cospawl heb dderbyn llawn fadd- euant o'r cyfryw, gael pleidleisio mewn etlioliad aelod seneddol. Dywedai Mr. Gladstone mai pa fwyaf yr ystyriai yr adran yma, mai lleiaf yn y byd yr oedd yn ei hoffi. Yr oedd yn ycliwanegu cosp at gosp am drosedd, ac yn gosod gwartlmod ar ddyn tra y byddai byw. Siaradodd Ai-glwydd Cranbourne yn ffafriol i'r cynnygiad. Dywedai Mr. Hardy mai egwyddor cyfraitli troseddau oedd, fod dyn ar ol myned trwy dymmor ei ddedfrydiad i gael ei osod yn yr un sefyllfa mewn cymdeithas a phe buasai wedi derbyn pardwn cyflawn. Ad- goffai y Ty fod llawer mewn swyddi ucliel yn y Trefedigaetliau, ac iiieinmyl-addirieclaetli mawr, a anfonwyd yno fel troseddwyr alltudiedig, ac y byddai yn drueni neillduol i rai fel liyn gael eu hamddifadu o'r hawl i bleidleisio. Gwrthodwyd y cynnygiad heb ymraniad. Cynnygiwyd rhai gwellialltau gan Gangliellydd y Drysorfa i roi i mewn yn yr adran sydd yn rhoi hawl i lettywr bleidleisio. Siaradodd Meistri Bouverie a Newdegate yn erbyn yr adran; ond areithiai Mr. M' Larren yn giyf o'i blaid. Car- iwyd y gwelliant. Nos Lun, ar y cynnygiad am drydydd darllen- iad yr Ysgrif Ddiwygiadol, dywedai Arglwydd Cranbourne nad oedd am ranu y Ty wrth weled fod y fath fwyafrif yn bleidiol i'r ysgrif, ond nad oedd ef er hyny un mymryn llai gwrthwynebol i'r cynllun. Pe cyferbynid y Bil a'r un a ddyg- wyd yn wreiddiol ger bron gan Mr. Gladstone, gwelid mai yr un peth ydoedd. Am hyny, yr oedd yn syndod o'r mwyaf iddo ef ddeall fod y Bil yn cael ei ystyried fel buddugoliaeth y Tor- iaid. Os buddugoliaeth y Ceidwadwyr ydoedd mabwysiadu boll olygiadau Mr. Bright, a rhoi i fyny holl arweddion neillduol y cynllun wrth alwad y gwrthwynebwyr, yna ni ennillodd y blaid Geidwadol erioed fuddugoliaeth mwy nod- edig (Chwerthin). Yr oeddynt wedi cyflwyno drosodd y gallu uwchaf i'r dosbarthiadau gweithiol, a chaent allan pan y cynhyrfid budd- iannau a theimladau dosbarthiadau, nad ydoedd bonedd, cyfoeth, a dysgeidiaeth, ond plu o flaen yr awel. Rhoddai ar y weinyddiaeth yn ffyrnig am fradychu y blaid Geidwadol. Gwnaeth Mr. Lowe araeth faith yn erbyn yr holl gynllun, a phrophwydai rhyw ganlyniadau echryslon i'r cyfansoddiad trwy i'r Bil gael ei basio. Yn hytrach na hawlio canmoliaeth am dano, dylas- ent oil ymwrthod ag ef gyda dychryn a gwarad- wydd. Yr oedd i'r Bil egwyddor, bid sicr, ond beth ydoedd yr egwyddor? Cydraddoldeb yd- oedd, trwy yr hwn yr oedd y gweithiwr tylotaf, a'r gwr cyfoethocaf, fyddent yn talu trethoedd, yn cael eu gosod ar yr un tir. Siaradodd Mr. Bright ar y cyfan yn ffafriol i'r Bil. Yr oedd yn barod i longyfarch y blaid Geidwadol am jtnwrthod a'u hofnau o'r bobl, ahyderai y bydd- ai iddynt y flwyddyn nesaf fyned yn bellaeli yn mlaen trwy orphen eu gwaith mewn dwyn allan gynllun ymarferol oad-drefniad yr eisteddleoedd. Gallcnt fod yn sicr na wnai y bobl byth anfon i'r Ty hwn senedd llai teilwng o'r genedl. Am- ddiffynai Mr. Graves, fel cynnrychiolydd un o'r bwrdeisdrcfi mwyaf yn y Deyrnas, y weinydd- iaeth, a chanmolai hwy am fyned trwy y gwaith mawr ac anhawdd mor llwyddiannus. Siaradodd amryw eraill o blaid ac yn erbyn, ac attebwyd hwy gan Ganghellydd y Drysorfa. Aeth dros y gwahanol ymdrechion a wnaed yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf, er dwyn Ysgrif Ddiwygiadol oddi amgylch, ac amddiffynodd y cwrs a gymmerodd y weinyddiaeth bresennol. Yna darlienwyd y Bil y drydedd waith, a phas- iodd yn nghanol cryn floeddiadau. Nos Fawrth, gosodwyd y Bil Diwygladol ar y bwrdd yn Nhy yr Arglwyddi, gan Arglwydd Redesdaie, a darlienwyd ef y tro cyntaf. Dy- wedodd Iarll Derby, y byddai iddo gynhyg yr ail ddarlleniad ddydd Llun nesaf, ac JS terfynai y ddadl y noson hono, gosodai y Pwyllgor i fod y dydd Gwener canlynol. Os byddai i'r ddadl fyned yn mhellach na dydd LIun, y byddai yn well efallai gcsod y Pwyllgor i fod ddydd Llun canlynol. Dywedai Iarll Grey ei fod ef yn barnu na byddai i'r ddadl fod mor fyr ag y tybiai yr Iarll urddasol or na wyddai ef am ddim gwrthwynebiad i'r Bil. Barnai ef y buasai yn well nodi y Pwyllgor i fod wythnos i ddydd Llun.

' - : f ■" i 'PENILLION

FFARWEL I'M GWLAD.

TRI PHENILL I'R GOEDWIG.

HIR A THODDAID

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

[No title]

MAECHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

Family Notices

CYMANFA MYNWY.