Hide Articles List

3 articles on this Page

LLWYNYRHWRDD, PENFRO.

News
Cite
Share

LLWYNYRHWRDD, PENFRO. MR. GOL.- Fel un o ddarllenwyr y CELT, a phleidiwr selog iddo er ei gychwyniach dymuuaf ych- yhydig orod i hysbysu ein dull adeiladol o dreulio y Nadolig yma eleni. Y mae gwahanol ffyrdd a gwahanol ddulliau gan blant Adda i fwynhau eu hunain'ar y dydd a gedwir genym er coffadwriaeth am enedigaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Y mae llawer o ddynion yn treuliol y Nadolig yn hollol ddifeddwl a di- fater-yn mwynhan eu hunain mewn digrif- wch a llawenydd cnawdol; maent yn daros- twng eu hunain bron i sefyllfa yr anifail a ddyfethir-" dynion o feddwl llygredig ydynt, angbymeradwy o ran y ffydd-"yn rhodio yn ffyrdd eu calon, ac yn ngolwg eu llygaid," heb gofio y bydd Duw yn eu galw i gyfrif am eu holl weithredoedd. Cyreha llawer ar y dydd hwn i'r dafarn i "wario eu harian am yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yr hyn nad yw yn digoni." Yrnbleserant yno gyda'r bibell a'r gwin, ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyriant," Dylai mynychwyr y tafarnau wrido a chywilyddio o herwydd eu hiaith, eu hymadroddion isel, a'r geiriau ofer a ddef- nyddiant pan dan ddylanwad y gwirodydd. Fel gwyr pawb, fe ddarfu y tywydd droi Sllan yn anffafriol iawn y Nadolig eleni, fel yr oedd yn anmhosibl braidd i neb fyned allan- o'r tai, yn enwedig y plant. Ond erbyn haner awr wedi dau, er mor anffafriol oedd yr hin, yr oedd torf luosog o blant ag eraill wedi ymgynull i'r capel, acyr oedd y plant yn ym- ddangos yn awyddus iawn am fyned yn mlaen a'u gwaith. I ddechreu y cyfartod, adroddodd John Davies, Ffynongaseg, Psalm xlviii, yna offrymwyd gweddi fer a chynwysfawr gan Mr. J. Griffiths. Holodd y Parch. J. Stephens, ein parchus weinidog, y plant allan o "Rhodd Tad." Holodd hefyd fecbgyn mewn oed allan o'r Holiedydd Bach;" ac yn ddiweddaf, holodd ferched mewn oedran all an olyfrtra gwerthfawr o eiddo y Parch. Meirion Davies Blaenycoed, sef <⢠Yr Eglwys Ayostolaidd." Aeth y plant ac ereill trwy eu gwaith yn ardderchog. Canwyd amryw donau. ganger y plant o Swn y Jubili," dan arweiniad Mr. Dan Davieq, Hermon. Cawsom bleser mawr yn y cwrdd o'r dechreu i'r di- wedd, a diau genyf fod y personau hyny fu yn llafurio gyda'r plant wedi cael cyflawn dal am eu gwaith, wrth wrando arnynt yn ad- rodd ac yn canu mor dda. Terfynodd Mr. Stephens y cyfarfod trwy weddi. Am G o'r gloch drachefn cawsom gyfarfod dyddorol iawn. Decbreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. W. Thomas, Coedllwyd. Wedi byny, cawsom areithiau ar wahanol destynau. Yr oedd yr areithwyr wedi cael y testynau er's bythefno gan Mr. John Phillips Rhouse, arolygwr yr Ysgol Sabbathol am y chwarter diweddaf. Trefn yr areithwyr a'u e gydd fel y caalyn:âT Nadolig, gan Mr. Solomon Davies, Sunny Hill; Rhagoriaeth y Beibl aT bob llyfr arall, gan Mr. James Phillips, Tegryn; Yr Ysgol Sabbothol yn ei gweithgarwchncu ei dillad gwaith, gan H. A. Thomas, Lhvyncrwn; Cyfrifoldeb yr Ath- raw i'w Ddosbartb ac i'w Dduw, gan Mr. W. Nicholas, Rbywgor; Dyledswydd proffeswyr i fynychu yr Ysgol Sul, gan Mr. W. Davies, Ffynongaseg; Y wobr gysJlltiedig a bod yn ffyddlon gydag achos Crefydd, gan Mr. James Griffiths, No. 4; ac ar y diweed canwyd An- them y Glowvr gan y Cor. Wedi hyny, ter- fynndd Mr. Stephens trwy weddi. Cawsom gyfarfod hynod o dda. Hyderwyf y bydd di- wygiad yn cymeryd lie ar ol yr areilhiau grymus a draddodwyd -y bydd deiliaid yr Ysgol Sul ac ereill yn astudio mwy ar y Beibl fel Llyfr y Llyfrau-yr athrawonyn ygfcyricd pwysigrwydd eu swydd, deiliaid yr Ysgol Sabbothol fyddo yn lliosogi, yn dyfod yn gallaeh a goleuach, ac fel y Bereaid gynt "yn chwilio beunydd yr Y sgrytbyrau er mwyn cael gweled a ydyw y petbau hyn felly." A chofiwn fod gwobr i bob un o ddilynwyr Crist a fyddo yn ffyddlon gyda ei achos tra ar y ddaear; ac ar derfyn ei daifch ddaearol, cawn glywed geiriau melus y Barnwr Cyf- iawn: "Da was, da a ffyddlawn, buost ffydd- lawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; ,,y dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd. JAMES PHILLIPS, Blaenycwm.

MAHCHNADOEDD.

FFESTINIOG.