Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
iCaernarfon.- I
i Caernarfon. I ETHOLIAD Y OYNGOR TBEPOL. — JJyaa Iau oedd yr adeg i enwi ymgeiswyr i lenwi'r sedd ar y Cyngor Trefol a aeth yn wag trwy benodiad y Cynghorydd R. Ll. Jones (T) yn arolygydd y dref. Mr R. O. Jones (T) yn ai. Roberts, cyfreithiwr, goruchwyliwr ethol- iadol Mr Lloyd-George, a enwyd gan y Rhyddfrydwyr, a channad oedd calon gan y Toriaid i enwi ymgeisydd, cyhoeddodd y Maer (Mr Issard Davies) fod Mr Roberts wedi ei ethol. ARWERTHIANT. Cymerodd arwerthiant pwysig le yn y Sportsman Hotel ddydd Sadwrn, Mri W. Dew a'i Fab yn gwerthu ffermydd Ty'nywerglodd, Gwemor, a Ty Coch. Gwerthwyd arm, a chwarel Ty'n- y werglodd i Mr J. Robinson, Talysarn, am 3,800p. Prynodd Mr C. A. Jones, Caer- narfon, fferm Gwernor, Ty Coch, a rhan o lyn isaf Nantlle i Mr Gwynne-Hughea am 5,590p, Yr oedd yr arwerthiant drosodd mewn deng mURud. Mr Barber a'i Fab oadd y cyfreithwyr. CYMDEITHAS GERDDOROL.-Nos Lun cyn- haliwyd cyfarfod y fgymdeithas uchod yn ysgoldy capel Ebenezer, danlywyddiaeth Mr T. Rogers Jones. Cafwyd anerchiad rhag- orol gan Mr W. J. Williams, G.L. (Gwilym Alaw), yr hwn a roddodd awgrymiadau hynod o bwrpasol tuag an, weumu y deithas. Etholwyd Mr T. Rogers Jones yn llywydd, a Mr Evan Griffiths, Hen Walia, yn ysgrifenydd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarweh i Mr W. J. Williams am ei anerchiad anogaethol a phwrpasol.
Llanfachraeth. I
Llanfachraeth. I CYFARFOD DIRWEST.-Dydd IJUD cyn- haliodd yr Arglwyddes Reade gyfarfod dirwestol gyda'r plant yn ysgoldy y Bwrdd, am 3 o'r gloch,a rhoddodd llawer o'r pentref- wyr hefyd eu presenoldeb. Wedi canu emyn a gweddio gan y Parch J. Jones, Curad, cafwyd anerchiadau gan Mr Edwards, Ty Croes, Parch* R. Jones, Rheithor, Bod ewryd: Mayne Wade, St Leonrrds; a J. Roberts, (M.C.,) Llanfaethlu. Cymer yr Arglwyddes Reade ddyddordeb mawr gyda'r achos ddirwestol trwy gynal cyfarfodydd fel hyn yma/aü thraw yn ein gwlad. Bydded lawer o bendefigesau toin gwlad ei lefelychu
..[ALL IUGRTS RESERVED.] "YNYSOER,"I…
[ALL IUGRTS RESERVED.] "YNYSOER, I Ystori am Arfordir Cmru. (NOFEL WOBRWYEDIG EISTEDDFOD OILNIDL-I ABTHOLISM). I GAN MRS BEYNON PUDDICOMBE. J Er cyfleusdra i'n darllenwyr sydd wadi colli y penodau cyntaf o'r nofel ddyddorol hon rhoddwn grynhodeb mown byr arnau o'r ttir penod cyntaf PBNOD I.—YN Portreath, tref gyda phortk- ladd bychan ar lanau dwyreiniol yr Iwerddon, saif Manor Craggs, ty Mr Paul Gwythern a'i fab Hugh. Y mae y cyntaf newydd ddychwelyd o'r India i barotoi ei dy ar gyfer ei wraig, yr hon sydd yn wael ei hiechyd. Hanes Hugh, yr hwn a aned yn Nghymru: wedi cael dianfa gytyng rhag boddi yn Nghaergrawut, yn oael ei daro gau glefyd y crydcywalau, ac wedi dychwelyd i'w iechyd yu myned i'r India, ac oddiyno i Portreath i fasnachu rhwng ffermwyr Cymru a phobl yr Iwerddon mewn Ilia, &c. PENOD II.—Wedi cyrhaedd adrof, Mr Gwytliern yn cael ei daro gan glefyd, ac ar ei wely angeu yn cael adduned gan ei fab na fyddai i'r diweddaf briodi hyd nes y byddai Mrs Gwythern wedi priodi eil- waith neu wedi marw. Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth. PLTNOD III.—Hugh ya cyehwyn'am Gymru yn y llong Adenydon." Y Cadben Roberts yn ymgomio am gymeriadau Ynysoer; am Miss Anna Mary Lloyd, lolo a Iola. Y Cadben a Sieiicyn Owen, y mate, yn iucthu cytuno ar y derbyniad a gai Hugh yn Ynysoer. PENOD IV. I MORFA. I Tra y mae Adenydoia yn hwylio'n dawel ar y dyfroedd tua Chymru, gadewch i ni gymeryd cipolwg ar y rhai sydd ar y lan yn aros ei dyfodiad. Dyna Miss Anna Mary Lloyd, yr hon oedd wedi cerdded ddwywaith i fyny i'r Ficerdy, y diwrnod hwnw, i ofyn a oedd y llong fechan wedi dyfod i mewn, ac felly yr oedd yn dda ganddi, fel yr oedd y dydd yn'prysuro i'w ierfyn, daflu ei hunan ar esmwythfaiuc henafol yn inharl wr heulog y Morfa. Nid i -,ysgii, wrth gwrs, mi diar, ond jest i orphwys yehydig, lola." Nid atebodd ei nith, ond gan roddi ed- rychiad ystyr-lawu a gwen i'r brawd lolo, rhoddodd shawl yn dyner dros ei modryh, yr hon mewn yehydig iawn o amser oedd yn cysgu yu drwiu. Tynodd lola y gorchudd i lawr dros y ffenestr, i gadw allan belydrau euraidd yr haul, ac yna yn y goleu gwanaidd cerddai y brawd a'r chwaer fraich yn mraich yn ddistaw i fyny ac i lawr yr ystafell. Weithiau, byddai yr eneth yn gorphwys ei phen ar ysgwydd ei brawd, pa.iy by ddai yntau yn tynu ei braich yn nes, ac yn edrych arni gyda gwen gariadus; a thra y maent yn parhau i gerdded yr ystafell, a thra y mae Miss Anna Mary yn eysgu, ceisiwn ddes- grifio yr hen ystafell a'i phreswylwyr. Hon ydyw yr ystafell fyw yn yr hen dy, a'r unig un lie y ceir gwir gysur, oherwydd bu y Morfa ar un adeg-yn faenordy ardderchog, gyda'i passages hiri.n a'i ystafelloedd mawr- ion a drafftiog. Adnabyddid ei berchenog- ion bob amser yn fwy am eu lletygarwch a'u helusengarwch na'u doethineb fydol, ac fel y pasiai y blyayddoedd aeth y rhan fwyaf o'r aceri llydain oeddynt ynglyn ag ef ymaith hefyd, hyd nes o'r diwedd yr oedd yr etifeddiaeth wedi lleihau i faintioli ft'erm I fechan. Arosai yr hen dy yr un, a'i bres- wylwyr, Miss Auna Mary Lloyd, ei nhai, a'i nhith, oeddynt unig gynrychiolwyr yr hen deulu. Yr oedd y blaenaf ya falch ryfeddol o'i henafiaid. Y Lloydiaid o'r Morfa oeddynt y gwir foneddigion Cymreig, mi diar, heb yr un dyferyn o waed Seisnig yn eu gwythienau nid fel y Lewisiaid o Gwindale, neu eich Powells o'r Peutre, er eu bod yn cario eu penau mor uehel, nid ydynt ond haner yn hanor, mi diar, gyda'u hen ffyrdd ffasiynol grand a'u cyboliad o Gymraeg Gofynwch i'r ffermwyr a'r pentrefwyr, a hwy ddywed- ant wrthych pwy ydyw y gwir foneddigion Cymreig." Byddai y sylwadau hyn bob amser yn cael eu cyfeirio at Iola, yr hon a wraudawai gyda w6n ac weithiau gofynai gwestiwn i Id. ?os ei dyddordeb yn y mater, ond ni arferai 1010 ddangos iddi hyd yn oed ym- ddangosiad ei fod yn eymeryd dyddordeb yn y mater, a phan y gelwid ef i gyfrif am nad oedd yn gwerthfawrogi y ffaith hon, byddai yn rhoddi ai law ar ei ben ac yn dyweyd, Ond, modryb Mary, pa wahaniaeth ydyw r F91 y gorweddai yn awr mewn hun ar yr I esmwythfainc, nid oedd Ansa Mary yn ym- ddangos fel o safle uchel. Yr oedd bonet fawr, wen, yn haner guddio ei gwyneb, a dangosai ei pbeisiau byrion ryw dair neu bedair modfedd o hosanau duon yn diweddu mewn esgidiau gwledig o frethyn du wedi eu cau i fyny at ei fferau gyda chareiau. Yr oedd wedi tynu ymaith skirt ei gwisg oreu ar ol dychu elyd o'r Ficerdy, a gorch- fygwy-i hi gun gwsg cyn iddi wisgo ei hunanynei gwisg arferol. Gwelid fod ei gwyneb, gyda'i brydwedd rheolaidd a chlir, eto yn dangos olion y prydferthwch oedd iddo yn ei hieuenetyd, a gallai prydfer,hwch ei gwynebpryd, er ei boa yn bump a thri- ugain, godi cenfigen yn nghalon llawer i eneth. Yn y ffenestr blagurai y blodau, ar yr aelwyd grwniai y gath, ac er mai haf Sdoedd yr oedd t&n coch yn y simddeu a en I yn eanu arno, i wneyd cysur y He yn ber&aith. Ar fwrdd bychan derw gyda'i goesau annestlus, yr hwn oedd wedi ei orchuddio & llian gwyn prydferth, yr oedd y cwpanau a'r soseri gyda'u lliwiau pryd- ferth; yr oedd y muriau wedi eu gwyngalchu, ac nid oedd arnynt yr un ornament oddi- gerth sampler" fawr mewn &am oedd yn hongian dros y mantlepiece oernedig-yn Ed yn rhy uchel i (Mangos dim ond ei liwiau prydferth. Hen a thj,?yll oU o'r dodrefn, IW yr oeddynt we& eu dewis o'r ystafelloedd eraill, amryw o honynt wedi en cloi er's blynyddau, a'r rhai na agorid -mohonynt ond i'w hawyro &'u du^tio ar brydiau. Dros y cwbl yr oedd y nenfwd benafol gyda'i geed oerfiedig. Gorweddai ysgwar fechan o garped ar yr aelwyd, ac estynai darn arall o'r ffenestr at yr hen ddrws. Yn sydyn, cododd Miss Anna Mary ar ei heistedd, a chan wthio ei hnul-fonnet .1 tu ol i'wphendechreuodd yn frysiog wisgo -y tu ol Z*' N h 'e:? ei anghono. "Diar auw'l! meddai, gyda gwyneb gwridog ac edrychiad synedig, a ydwyf wedi bod yn cysgu ? Rhaid fy mod i, oherwydd breuddwydiais fy mod yn teitkio ar gefn camel yn y diffaethweh; nis gallaf ei ddeongli." Tybiaf, Modryb Mary, fod ein gweith mi yn cerdded i fyny ac i lawr wedi ysgwyd yr ystafell, ao wedi peri i chwi freuddwydio am y camel. Gadewch i ni gael te yn awr, oherwydd y mae 1010. minau yn myn'd i Ynysoer." Rhaid i chwi gael cwpan a soser arall, modryb Mary," meddai Iolo, gan siarad am y tro cyntaf. Onid yw Nesta yn dyfod i de P "Nao ydyw, hyd yr wyf fi yn gwybod ? meddai eu Modryb, yr hon oedd yn brysur V" "arotoi y to, tybiaf eich bod am i wi g-- u, Iolo, eich bod yn gwrbod ei bod yn dyfl. Ffasiwn lol wirion f Oni allaf eich gwella chwi a Iola, a'ch gwneyd fel plant eraiu ? 11 Ochaneidiodd Iolo, a chan wthio ei gadair yn ol oddiwrth y bwrdd atebodd yn araf, ac heb yr un gradd o flinder. Credaf y daw heno, nid ydyw wedi bod unwaith yr wythnos yma, ae y mae arnaf eisieu ei gweled, ond rhaid i mi fyn'd yn awr, neu bydd y mor wedi cau r ffordd; os daw, gofynwch iddi aros hyd nes y deuwn yn ol, Modryb Mary," a ehododd i fyny ac aeth allan o'r ystafell yn cael ei dilyn gan 1010. 11 Wel, yn wir iouedd, meddai Miss Anna Mary, gan godi ei dwylaw a'i llygaid, Ni welais erioed y fath blant; myn'd i ffwrdd i fnysoer yn awr, ar ganol eu te, a Nesta yn dyfod hefyd. Ach a fi I Ni wyr neb y fath drafferth ydynt i mi." Yna rhoddodd gwpan a soser arall ar y bwrdd, a chan adael ei the heb ei orphen, aeth at y Seneatr i edrych a oedd ei hymwel- ydd disgwyliedig yn dyfod, oherwydd er ei bod yn chwerthin am ben, ao yn dwrdio, Mo, ni fydd,ü byth yn peidio cario allan ei awgrymiadau a'i rybuddion. Wedi eu gadael dan ei gofal o'u mebyd, yr oedd ei nai a'i nith yn anwyl ganddi, fel pe baent ei phlant ei hun, ond yr oedd eu natur anghyffredin ac ystyfDig yn and yn flinder i'w meddwl ymarferol. Wrth farw gad- awodd ei chwaer weddw yr efeilliaid wyth- nos oed i'w gofal gyda'i hanadl ddiweddaf, ac yr oedd wedi cario allan yr ymddiriedaeth yn onest. Dargaiifyddodd o fewn tua haner inilldir i'w chartref, ddynes dylawd, yr hon fel y digwyddai oedd newydd golli ei hefeilliaid ei hun, a chyuierodd Miss Anna Mary hi i'w gwasanaeth i fagu yr amddifaid a roddwyd mor sydyn dan ei gofal. Cymerodd Nauti Nell" yr efeilliaid yn Uythyrenol i'w mynwes, ac ymddangosai fel wedi trosglwyddo y cariad oedd yn perthyn i'w phlant ei hun. Cymerodd hwynt i'w chartref bychan mewn bwthyn ar graig o dan glogwyni y Morfa, ac yno y buont yn byw hyd nes yr oeddynt yn ddeuddeng mlwydd oed, yn rhydd ac yn hapus yn mysg golygfeydd a awn mwyaf prydferth natur. Yr oeddynt bob amser yn nghwmni bachgen bychan Nanti Nell, Dei, ar yr hwn, am ei fod bum inlynedd yn hynach na hwynt, yr edrychent i fyny gydag edmyg- edd, tra yr ymroddodd yntau i wasanaethu ar ei frawd a'i chwaer maeth gyda chariad tyner a dyfodd yn gysegredig gyda'r blyn- yddoedd, ac yr oedd yr efeilliaid yn ei garu yntau. Yn wir yr oeddynt mor agos at y pentrefwyr fel nod oedd dim yn eu blino gymaint a chael eu galw yn "Miss" neu "Mister," ac felly ni fyddid yn arfer y teitlau, ond adnabyddid hwynt bob amser yn Ynysoer fel "lolo" ae "lola." PENOD V. IOLO AC IOLA. Daeth Nesta Morgan o'r diwedd, end nid cyn i'r llestri te gael eu symud ymaith, ac i'r haul fachludo. Wyres ydoedd i hen gy- feilles Miss Anna Mary, Mrs Morgan, Ty- gwyn, a chymydoges agos, fel y eyfrifir pellder yn y wlad, ae er ei bod yehydig I flwyddi yn hynach na Iolo ae Iola, yr oedd- ynt yn gyfeillion mynwesol-yn wir yr oedd eu cariad at eu gilydd yn neillduol o gryf a gwirioneddol. Ymddangosai yr efeilliaid fel yn gwel(?d ryw linell yn ei natur oedd yn 11enwi angen yn eu natur anghyffredin hwy, Ilenwi "d'l %i tra yn byw bywyd oySredin teulu pry sur yn cael ei thvuu at y ddeuddyn anghyffredin, ond hawdd eu eam, hyn. Arosodd am beth amser, fel y dymunodd Iolo, ond o'r diwedd 'penderfynodd fyned adref, gan nad oedd ei nain wedi bod gystal ag arfer y diwrnod hwnw. Fel yr oedd yn gadael y drws edrychodd i lawr y nant eyu troi ifyny yr heol a arweiniai dros ael y brj n i Tygwyn, ac fel yr edryebai i'r gwyll gwelai ddau berson yn dyfod i fyny ar hyd y ffordd. Nid oedd bosibl eu camgymeryd am neb arall-dangostti eu cyrff bychain, syth, eu dillad goleu, a'u distawrwydd, y gwahaniaeth rhyngddynt a phobl eraill, ac nis gellid camgymeryd eu dull ysgafn o gerdded, fel aderyn neu gloyn byw yn ehedeg. Fel y deuent yn agos, gwyliodd Nesta hwynt o gysgod y portb, fel y llewyrchai y lleuad ar eu hwynebau, ae yn sicr ni ddisgynodd ei phelyarau etioed ar wynebau mwy prydferth ac anwyl. Yr oedd Nesta yn deg ei pbryd, gyda gwallt brown, a gruddiau a ymgystadlai a'r rhosynau a dyfai yn ei gardd; ond yr oedd harddweh yr efeilliaid yn gyfryw ag oedd yu anhebyg: i eiddo meidrolion cyffredin. Yr oedd y ddau o'r un daldra, a'r hoenus- rwydd a pha un y cerddent yn rhoddi ar- grtiff ar ddyn eu bod yn I ur dal, er mewn gwirionedd eu bod yn fyrach na'r cyffredin o rai un mlwydd ar bymtheg oed. Yn hynod debyg o ran eu cyrff, fel y mae efeill- iaid yn gyffredin. yr oedd eu cyfansoddiad mewnol yn debyg i un enaid mewn dau gorff; ae ymddangosai pob un fel pe yn eyf- ranogi o bob teimlad neu f eddwl a feddai'r Hall, fel pe bai rhyw ddylanwad cyf- rin yn ymledu o'r naill i'r llall, gan beri fod ymwybyddiaeth gyffredin rhyngddynt. Distaw fyddeut, fel rheol, pan yn cerdded gyda'u gilydd dros fryn a dol, Iolo yn yfed yn helaeth o brydferthweh J golygfeydd o'u hamgylch, lie Iola, a'i llygaid llwydion wedi eu sefydlu ar eiddo ei 1 brawd, yn gollwng gair neu ddau allan a gydgordient yn hollol a meddyliau Iolo, Os o ddamwain y digwyddai grwydro oddiwrth rediad ei ddryehfeddyliau-yr hyn na chy- merai le ond anarnl iawn-byddai gair o'i eiddo ef yn ddigon i'w galw yn ol, a byddai'n fuan mewn cydgordiad a'ideimlaèau. Mewn gair, yr oedd yr uudeb perffeithiaf yn bodoli rhwng y ddau, er gwaethaf y gwahaniaeth rhyw. Efallai fod hyny yn helpu mwy ar yr undeb na'i atal, gan nad oedd yr yehydig wahaniaeth yn eu cymeriadau ond yn pei- ifeithio yr undeb rhyngddynt. Rhoddai Iola i fewn bob amser i lolo pan fyddai gwahaniaeth barn rhyngddynt, nid yn unig am ei fod yn ddyn, ond hefyd am ei bod hi yn gwybod yn well na neb arall bod rhyw ddyfnder rhyfedd yn ei gymeriad na wnai unrhyw wybodaeth ddaearol eilorbwyso. Ni wnai fyth siarad yn frysiog, ae yr oedd ei farnau bob amser yn rhai aeddfed. Edrychai lelo arno gyda pharch a chariad rhy ddwfn i eiriau allu eu hamlygu. Ymwisgai'r ddau beunydd mewn dillad goleu, Iolo mewn tweed ysgafn bron yn wyn, ac Iola mewn .defnydd lawn can oleueid, ac fod Iolo'n dywyll ac 101a'n oleu, yr oeddynt ya darawiadol o debyg i'w gilydd. Mewn gwlad mor ofergoelus ag oedd Cymru y pryd hwnw, nid rhyfedd i ddau fod mor anghyffredin dynu sylw mawr atynt ou hunain. Cerid hwy gan bawb oedd mor ffodus a'u hadnabod; ond yr oedd iddynt amryw elynion hefyd. Ymddangosai fel pe bai ganddynt ryw wrthwynebiad greddfol i lawr o bobl, ac nas gallent byth ei orch- fygu neu ei basio heibio. Yr oedd yno, a gweithredent arno heb ystyried fawr am y canlyniadau. Pan agosasant at Nesta, yr hon oedd wedi aros yn y porth, Iola siaradodd gyn taf, fel yn wir yr arferai wneyd,- "0, Nesta, mae'n ddrwg gynddo ni ei bod mor hwyr, ond nis gallem' ddod oddiwrth Peggi Bullet. Mae ei hogyn bach mor wael, a hithau mor anhapus. Gwnes i 1010 ei nyrsio am dipYD, ac yr oedd ya well pan d o?n oddiyno." Mae arnaf ofn y bydd iddo farw," ebai Iolo. Peggi druan." "Ie, wir" meddai Nesta; "beth wnaiff hi, a beth wnawn ni i gyd ar ol Wil bach ? Rhaid i mi fyned i edrych am dani yfory." Ie, byddweh yn sier o ffeindio amser i fynd yfory," ebai Iola, "erfod Mari Matti newydd ddyweyd wrtha i ei bod yn myned i ymadael yfory." "Na hidiweh, 'rwyf yn siwr o fynd yfory. A beth sydd arnoch eisieu ddyweyd wyrthy f, Iolo P Ceisiodd Miss Anna Mary genyf aros hyd nes y deuech i mewn." "O," ebai Iolo yn araf, yn nghylch y llong 'Adeu-y-don.' Peidiwch myned yn agos ati, Nesta. Nis gallwn gysgu am oriau neithiwr, a phan y gwnes gwelwn chwi yn ehedeg dros y mor; weithiau yr oeddych ar adenydd gwynion, weithiau ar y llong Aden-y-d.on' a'i hwyliau gwynion yn chwareu heb ddigon o wynt i w llenWl, ond yr oedd y cwmwl du yn wastad yn hofran uweh eich pen." Aden y-don ebai Nesta, "Bid yw yn debyg yr af yn agos ati, er fod Sliencyn Owen ers talwm eisieu i mi fyned i weled y ddelw newydd sydd arni. Ond yn awr, Iolo, wrth gwrs bydd i mi gadw yn inhell oddi- withi." Addunedwch ebai lolo. 0, fel pe buasai angen i mi wneud add- uned Nid awn yn agos ati ar ol eich breuddwyd pe cawn y byd yn grwn." Tra yr oeddynt yn ymddiddan daeth dau ddyn i fyny'r ffordd, gan siarad yn uchel yn Gymraeg. Gwaeddai un yn ffyrnig, tra y siaradai'r llall yn foneddigeiddiach ac yn fwy pwyllog. "Do, wir," ebai un; "naddo," gwae- ddai'r llall; ond fel y daethaiit i'r goleu, a gweled y tri a safent gerllaw, rhoddasant ben ar y sgwrs. Aeth lolo i lawr at y llidiart, a dywedodd wrth un o honynt,- yr hwn a siaradai uchaf-" John, paham na ddywedweh y gwir ? Gwyddoch eich bod yndyweud anwiredd." yi Naddo'n wir, syr," oedd attebiad y dyn, a thynodd ei het oddiam ei ben. Ni ddy- wedodd Dei y gwir." "Ust!" ebai Iolo mewn ton awdurdodol, "ddywedodd Dei erioed gelwydd." Mwmiodd y dyn ychydig eiriau, ond ni cheisiodd lanhau ei hun, a chyda nos dawch ostyngedig brysiodd i fyny'r allt, gan adael ei gydymaith ar ol. Dowch i fewn, Dei," ebai Iola mewn llais tyner o'r porth, dowch i fewn i gael glasiad o'r cwrw newydd, ae yna ewch i ddanfon Nesta adref." Nid oes arnaf eisieu'r cwrw, diolch," atebai'r gwr ienanc dan wenu, yr wyf yn ddigon cryf i gymeryd gofal Nesta, rwy'n meddwl," ae ar ol ewyllysio noswaith dda ymadawodd y bobl ieuainc,—Iolo ae Iola i'r ty, a Dai eu brawd-maeth i fyny'r allt gyda Nesta. Yn mhen yehydig amser wedi hyny, o'i hystafell wely clywodd Iola Dei yn dod i lawr gyda chamrau trymion, ond yn amlwg gyda chalon ysgafn, gan ei fod yn canu hen alaw Gynreig gyda llais cyfoethog. Fel yr oedd y canwr yn pasio'r ty fe ataliodct ganu, gan fod Dei yn foneidwr trwyadl er fod ei got yn llwm. "DynaDeiyu myned adref," gwaeddai Iolo o'i ystafell ar Iola, ystafell yr hwn a wahenid oddiwrth ei un ef gan bassage cul. Ie," atebai hithau, pwy arall allasai ganu y 'Deryn Pur' mor swynol ?" (I barhau).
ILLYS TRWYDDEDOL CAER-I NARFON.
I LLYS TRWYDDEDOL CAER- NARFON. Dydd Sadwrn, cynhaliwyd llys trwydd- edol Caernarfon yn y Neuadd Drefol, ger- bron Mri J. Menzies (cadeirydd), T. Robin- son, J. A. A. Williams, a Syr Owen Roberts. Yr Is-brif Gwnstabl Davies Ja'; gyflwynodd adroddiad am sefyllfa y dosbarth trwydd- edol. Dywedai fod yn y dosbarth 57 o dai trwyddedolllawn, ac un ty cwrw, gyda phobl- ogaeth o 27,737 yn ol cyfrifeb 1891, y rhai renir yn mysg yr un plwyf ar ddeg fel y canlyn :—Bettws Garmon, dau dy trwydd- edol llawn i boblogaeth 124: Clynnog, 3 ar gyfer 1490 o boblogaeth; Llanbeblig (Bont- newydd), 2 ar gyfer 1717; Llanberis, 8 o dai llawn ac un ty cwrw ar gyfer poblogaeth o 2818; Llandwrog, gyda phoblogaeth o 3780, 3 o dai llawn; Llanfaglan, gyda phoblog- aeth o 223, dim un ty; Llanfairisgaer gyda dau dy ar gyfer poblogaeth o 1533; Llan- ddeiniolen gyda phoblogaeth o 6164, deg o dai; Llanllyfni, gyda phoblogaeth o 4968, 12 o dai; Llanrug, gyda phoblogaeth o 2758, 10 o dai; Llanwnda, 5 o dai ar gyfer 2162 o boblogaeth. Er y llys trwyddedol y flwydd- yn ddiweddaf cymerwyd gweithrediadau cyfreithiol yn erbyn dwy drwydded, un am ddyfrhau y gwirodydd, yn mha, achos y gorchymynwyd i'r tafarnwr dalu y costau, a'r Hall am ganiatau meddwdod, yn yr hwn y dirwywyd y tafarnwr i 20s a'r costau. Yr oedd gwrthwynebiad wedi ei wneyd yn yr achos hwn oherwydd fod y ty wedi ei ddir- wyo. Rhif y personau eraill a ddygwyd o flaen yr ynadon oedd 53 o'i gymharu a. 44 yn 1893, a thaflwyd yr achosion allan mewn tair o engreiphtiau. VICTORIA VAULTS, PENYGROES. Yr heedgeidwaid a wrthwynebent adnew- yddu trwydded y ty uchod, yr hwn sydd yn meddiant Catherine Chambers. Mr Richard Roberts (Mr J. T. Roberts a Roberts) dros yr heddgeidwaid a ddygodd y ffaith fod y tenant wedi cael ei dirwyo am ganiatau meddwdod o flaen sylw yr ynadon. Wrth adnewyddu y drwydded eu dyledswydd oedd cymeryd y ffaith hon i ystyriaeth. Mr Lloyd Carter a ymddangosai dros denant y ty, ic a sylwodd ei bod wedi aros yn y ty er's 27 mlynedd heb yr un achos o gwyno hyd nes y dirwywyd hi yn ddiweddar. Nid oedd y drwydded wedi ei hendorsio." Ymddangosai Mr Mostyn Roberts hefyd i gefnogi yr adnewyddiad ar ran yr ywddir- iedolwyr dau ewyllys y diweddar Mr Cham- I bers. Caniatawyd y drwydded. I NEWBOROUGH ARMS, CWMYGLO. Gwrthwynebwyd trwydded y ty uchod gan y Parch G. Ceidiog Roberts, ysgrifenydd Cymdeithas Ddirwestol Arfcn a Dyffryn -Y "ei Iha t'h ? th dlwy??lleol. Ymddangosai Mr Thornton J ODe8 i ofyn am y drwydded, a Mr David Owen (Mri Owen a Griffith), Bangor, i wrthwynebu. Wrth anerch y fainc sylwodd Mr Owen mai gofynt iddynt ddyfarnu ar dystiolaeth o'u blaenau yr oedd. Tynodd eu sylw yn arbenig at adroddiad pwyllgor o'r frawdlys chwarterol yn anog yr ynadon i gymeryd i ystyriaeth ddwys angenion y gymydogaeth. Yr oedd Ty'r Arglwyddi hefyd yn dweyd mai eu dyledswydd ydoedd gwneyd hyn. Yn yr achos hwn gallent brofi nad oedd busnes o gwbl yn myned yn mlaen. Parch G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, a brofodd fod y rhybudd wedi ei anfon yn rheolaidd. Anfonodd ef ar gais rhai o irigolion y He. Parch T. J. Teynon a ddywedodd fod y lie wedi ei gau er's tua chwe' wis, ac nad oedd dim busnes yn myned yn mlaea yno. Yr oedd yn y gymydogaeth bump o dai i bob- logaeth o 900. Croesholwyd, a dywedodd nad oedd yn erbyn gadael un tafarndy (chwerthin). Sergeant Griffith, Llanrug, a dystiodd fod y He wedi ei gau ers tri mis, ac na fu busnes yno ers tua 16 mis. Rhoddwyd tystiolaeth nad oedd angen y ty yn y gymydogaeth gan Mr Thos. Hughes a'r Parch D. (J. Morgan. Gwrthodwyd adnewyddu y drwydded. BLUE BELL INN, CWMYGLO. I Gwrthwynebwyd y drwydded hon gan yr un penonau. Y mddaugosai Mr Lloyd Carter dros y trwyddedwr. Fel yr oedd Mr David Owen yn anerch y faine ar yr ail reswm yn y rhybudd, yr hwn a ddywedai nad oedd y trwyddedwr yn gymwys i gadw y ty, dywedodd nad oedd y ty yn cael ei gad, yn rheolaidd. Ar hyn cododd Mruarter i wrthwynebu, gan ddy- weyd nad oedd hyn ar y rhybudd. Bu dadleu mawr rhyngddynt, Mr Owen yn haeru os gellid profi nad oedd y ty yn cael ei gadw, yn iawn fod hyny yn dangos nad oedd y trwyddedwr yn berson cymhwys i gadw y drwydded. Modd bynag cydsyniai I y fame a Mr Uarter. Psrch T. J. Teynon a Mr T. Hughes a roddasant dystiolaeth drachefn. Fel yr oedd Mr R. Jones yn rhoddi ei dystiolaeth, ac yn myned i son am ddigwydd- iad a gymerodd le yn y ty yn ddiweddar, gwrthwynebodd Mr Carter i'w dystiolaeth gael ei rhoddi, a bu yn llwyddianus yn ei wrthwynebia.d. Parch D. C. Morgan a ddywedodd fod yn y gymydogaeth saith o dafarndai ar gyfer 800 o bobl, fod y ty yn fychan, ac heb le i fwyta na chysgu; fod deg o denantiaid wedi! bod yn y ty yn f8ted y deng mlynedd di- j weddaf. I Caniatawyd y drwydded. FORT TAVERN, LLANLLYFNI. Parch G. Ceidiog Roberts, a threthdalwyr eraill, a wrthwynebent y drwydded hon. Ymddangosai Mr C. A. Jones dros y trwy- ddedwr, a Mr David Owen dros y trethdal- wyr uchod. Parch G. Ceidiog Roberts a ddywedodd iddo fyned i'r ty un diwrnod, a chael yno ddyn a gwydryn gwag o'i flaen. Yr oedd y dyn yn feddw. Nid oedd angen y ty yn V gymydogaeth, lie yr oedd pedwar o dai ar gyfer pedwar cant o bobl. Yr oedd drws cefn yr un fath a'r llynedd, er fod y tenant wedi addaw ei gau. Y rheswm iddo wrthwynebu y drwydded hon ya fwy na'r un ar oedd nad oedd ond dau allan o'r hollmfer a bleidleisiaxant yn y plebiscite o blaid cadw y drwydded. Yr oedd y drws cefn yn fanteisiol i ddynion ieuainc i fyned i'r ty yn ddirgelaidd. Rhoddwyd tystiolaeth gan J. M. Jones ac eraill, a gohiriwyd y dyfarniad hyd nes y clywent y tri achos o'r plwyf. BARMOUTH TAFARN, PENYGROES. Grwthwynebid y drwydded hou gan yr un trethdalwyr, dros y rhai yr ymddangosai Mr D^vid Owen. Ymddangosai Mr Lloyd Carter dros y trwyddedwr. Parch G. Ceidiog Roberts a ddywedodd iddo fod yn y gymydogaeth er's pum mlyn- edd. Yn Mhenygroes yr oedd chwech o dafarndai, a hwn oedd y lleial. Yr oedd y ty yn un rhwymedig gan Mri Greenall a Whiteley, ac yr oedd wedi gweled y cytundeb rhwng un o'r teuantiaid a hwy. Ar hyn cododd Mr Carter, a gwrth- wynebodd y dystiolaeth hon. Aeth y tyst yn mlaen i ddweyd bod diu denant wedi boli yn y lie yn ddiweddar, ac yr oedd y tenant blaenorol wedi cael ei gynal yno. Drachefn cododd Mr Carter i wrthwynebu, a dywed- odd y tyst fod y tenant wedi dweyd y pethau hyn wrtho. Ymadawodd oddiyno wedi colli ei holl arian. Croesholodd Mr Carter y tyst yn galed. Dywedodd yntau ei fod wedi gweled pump o denantiaid yn oadw y lie er pan oedd yn Llanllyfni. Gwir fod Owen Hughes wedi aros am dair blynedd, ond gwnaeth hyny trwy gael ei gynalyno. Gwa-thwyd ef allan yn 1894. Yr oedd yn dda gan amryw o'r rhai fu yno ddianc gan gynted ag y gallent. Yr oedI Owen Hughes wedi aros yno heb rent am amser maith. Rh@ddwyd tystiolaeth bellach nad oedd angen y ty yn y gymydogaeth gan Mri W. M. Jones, Henry Williams, ac W. W. Jones. Wedi cael tystiolaeth gan y trwyddedwr a Mr Evans, agent cwmni perchenogion y ty, ¡ gohiriwyd y dyfarniad. QUARRY MEN'S ARMS, LLANLLYFNI. Gwrthwynebwyd y drwydded hon dra- chefn gan yr un parsonau, ar y tir nad oedd angen am dani yn y gymydogaeth, ac fod drysau cefn yn cael eu defnyddio er dybenion y fasnach. Rhoddwyd tys.iolaeth gan y Parch G. Ceidiog Roberts. Wedi i'r ynadon ddychwelyd i'r ystafell ar ol ystyried eu dyfarniad, dywedodd y Cadeirydd nad oedd tystiolaeth newydd wedi ei rhoddi o'u blaenau ac nis gallent weled fod y tai hyn mewn ey-Hwr gwaeth na'r flwyddyn o'r blaen. Felly yr oeddynt yn caniatau y trwyddedau ar y dealltwriaeth fod "y drysau cefn yn y Fort Tavern a'r Quarrymen's Arms yn cael eu cau er dibenion y fasnach. Mr David Owen a sylwodd fod yn ddrwg ganddo glywed eu dyfarniad. Yr oedd wedi rhoddi tystiolaeth gref o'u blaenau nad oedd angen y tai, ac nid oeddynt wedi ei derbyn. Felly yr oedd yn rbaid iddo wrthod rhd?i ychwaneg o'u blacnau, i gael eu snubbio ganddynt. Syr Owen Roberts a ddywedodd nas gellid galw yr hyn a roddwyd o'u blaenau yn dystiolaeth yn ngwir ystyr y gair. Os felly yr oeddynt yn ei benderfynu, meddai Mr Owen, gwell oedd ganddo beidio rhoddi ychwaneg o'u blaenau. Yr oedd wedi peidio a rhoddi tystion ar angenion y gymydogaeth o'u blaenau ar eu cais hwy, ond dangosai y dystiolaeth deimlad y gym- ydogaeth. Byddai iddo ofalu y tro nesaf ddyfod a'r holl gymydogaeth o'u blaenau. Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod ef yn bersonol yn credu fod yn y plwyf ormod o dafarnau. I VAYNOL ARMS, EBENEZER. Parch D. H. Williams, M.A., ac eraill, a wrthwynebent y drwydded hon. Parch I). H. Williams a ddywedodd iddo weled ymladdfa rhwng dau ddyn meddw o flaen y ty. Yr oedd yn y gymydogaeth or- mod o dafarnau o lawer. Mr O. O. Morris a ddywedodd i'r dynion a ymladdent ddyfod o'r Vaynol Arms. MrRichard Jones, New street, a welodd ddyn meddw yn cael ei daflu allan tua deufis yn ol. Y r oedd yruryson a. th wrf wedi CYIll" eryd lie yn y ty cyn hyny. Rhoddwyd tystiolaeth bellach gan Mri T. D. Williams ao Owen Jones, Erw Fair. Wedi gwrando ar y trwyddedwr a'i fab caniatawyd y drwydded.
i -Brynsiencyn.-.-
Brynsiencyn. vrwg genym gromclo marwolaetn Mr Owen Lewis, Bodrida, yr hyn a gymerodd le nos Fawrth, Awst 21ain. Yr oodd yr ym- adawedig yn 81 mlwydd oed. Fel un o amaethwyr mwyaf eyfrifol y sir, yr oedd ei barch yn fawr yn rmhob cylch, 80 edmygid si gymeriad addfwyn a charedig gan bawb. Yr oedd ei haelioni at bob achos da, yn en- wedig at yr achos Methodistaidd yn Mryn- siencyn, yn ddiarhebol. Bydd colled fawr ar ei ol yn yr ardal. Claddwydyrhynoedd farwol ohono yn mynwent eglwys Llaaidan ddydd Sadwrn. Gwasanaethwyd wrth y ty ac yn y capel gan y Paroh John Williams, ae yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y Parch T. J. Lewis, ficer Llanidan. Preifiat oedd y eynhebrwng hyd at y capel, lie yr ymunwyd ag ef gan dorf fawr o gyfeiilion a chymydogion. Yr undertakers oeddynt y Mri Morris a Davies, Caernarfon.
Advertising
NID on EI DEBYG NrD on EI DEBYG NID OES Fi DEBYO Y Sebon mwyaf boddhad a gynyrchodd y byd erioed ydyw Hudson's Extract of Soap. Y mae Hudson wedi ei efydlu ers 5 I Jmlynedd,
Y CYNGHORAU PLWYF. _I
Y CYNGHORAU PLWYF. I Anogaeth i Gychwyn. I NeiUduwyd un o gyuhadleddau cyfarfod blynyddol Cyngrair y De ddydd Iau di- weddaf yn gyfangwbl i ymdriniaeth ar y Cynghorau Plwyf. Llywyddwyd gan Mr T. Williams, Y.H., Gwaelodygarth, yr hwn a ddywedodd ei fod yn ofni nad oedd y wlad eto wedi deffro i'r pwysigrwydd o ofalu fod y mesur yn cael ei roi mewn grym. Yr oedd yn ddyledawydd ar bawb oeddynt ya credu mewn diwygiad cymdeithasol yn ein gwlad i ddeSro'r etholwyr ya mhob ardal at eu dyled- swyddau. Yna galwodd ar Mr Beriah Gwynfe Evans i egluro darpar- iadau'r ddeddf newydd ac i gynvg pender- fyniad ar y cwestiwn. Galwai r pendertyn-i iad arjy gwahanollfymdeithasau Rhyddfrydo i gynal uynhadleddau yn mhob sir i egluro'r ddeddf, ac ar Ryddfrydwyr gweithgar yn mhob ardal i alw cyfarfodydd cyhoeddus ac i barotoi mewn pryd erbyn yr etholiad. Yna rhoddodd Mr Evans eglurhad manwl ar rai o brif ddarpariadau'r mesur, yr hwn, ebe efe, oedd siarter rhyddfreiniad y pentrcfwyr a'r llafurwyr amaetbyddol yn yr ardaloedd gwledig. Os gosodid y ddeddf mewn gweith- rediad.ac os byddai'r bobl yn effro i'w dyled- swyddau, creid chwyldroad buan yn holl gyfundrefn llywodraeth lleol ein gwlad. Ar rai ystyriaethau gellid edrych ar yr Act newydd fel rhagymadrodd i ddadgysylltiad. Os nad oedd yn dadsefydlu'r Eglwys yr oedd yn dadsefydlu'r festri; os nad oedd yn dad- waddoli'r Eglwys, yr oedd yn cymeryd oddiar yr Eglwys yr hawl i rooli gwaddol- iadau elusenol y plwyf, ac yn eu trosglwyddo i'r bobt; os nad oedd yn diswyddo'r offeir- iad fel swyddog gwladol, yr oedd yn ei ddi- arddel fel rkeohvr sivyddogol cyfarfodydd cy. hoeddus y plwyf. Daughosai hefyd yr effaith gaffai'r Act arybyrddau gwarcheidwaid trwy ddileu yr aelodau ex-officio. Dan y ddeddf bresenol rhaid oedd dewis un ran o dair o aelodau Pwyllgor Presenoldeb Ysgol (School Attendance Committee) a'r Pwyllgor Prisio Trethiant (Assessment Committee) o blith yr ex-officios neu 'r tirfeddianwyr. Y canlyniad o hyn oedd nad oedd yr un gofal yn cael ei dalu i sicrhau fod plant yn mynychu'r ysgol yn yr ardaloedd dan y pwyligorau hyn ag a wneid lle'r oedd byrddau ysgol. Canlyniad arall oedd nad oedd coedwigoedd, palasdai, a'r hawl i saethu, yn cael eu prisio fel y dylent yn nhrethiant yr undeb. Ond yn awr rhaid oedd ethol pawb, a rhaid i'r sgweiar fel y gweithiwr, os am fod yn warcheidwad, apelio at y bobl am eu pleidleisiau; a gallai'r Bwrdd Gwarcheidwaid ethol y neb a fynent o'r aelodau etholedig ar y pwyllgorau, Yn ngwyneb y cyfnewidiadau mawr ddygid; i mewn gan yr Act newydd nid rhyfedd fod y Toriaid eisoes yn gwaeddi am beidio cario allan yr etholiadan ar linellau politicaidd. Ond os na wnaed hyny —os na ddewisid personau ymladclent yn erbyn y tirfedd- ianwr-yna byddai'r ddeddf i raddau helaeth yn llythyren farw. Os oedd y bobl am ddiogelu buddiannau fwriedid iddynt gan yr Act, rhaid oedd iddynt ymladd yr etholiadau agoshaol ar linellau politicaidd. Eiliwyd gan Mr Llewelyn Williams, o'r South Wales Daily News," yr hwn a :ddy- wedodd fod yr Act yn agor dalen newydd yn hanes bywyd ardaloedd gwledig. Yr oedd Cymru'n aeddtetach na Lloegr i fanteisio ar yr Act, yn gymaint ag fod corff ei phoblog- aeth wedi arfer hunan-lywodracth yn nglyn a materion crefyddol. Y pentrefi oedd wedi rhoi i Gymru oreugwyr y genedl yn y gor- ffenol; ac os manteisid yn briodol ar yr Act, adnewyddid nerth ,y pentrefi a'r ardaloedd amaethyddol, a gwawriai dydd gwell nag erioed ar eu hanes. Rhybuddini'r Parch TowynI Jones yr etholwyr rhag dewis Rhyddfrydwyr claear yn aelodau o'r byrddau newydd. Melldith ein cynghorau sir oedd IJMi dynion heb asgwrn cefn oedd mwyafrif eu hael.odau. Os syrthiai'r pI wyfi i'r un camsyniad a'r siroedd, difethid i raddau helaeth amcanion y mesur. Bydded iddynt ddewis dynion oedd wedi gweithio ac aberthu rhywbeth dros eu cyd-genedl a'u cyd-bentrefwyr, ac nid rhai na chlywid dim am eu Khyddfrydineth ond ar adeg etholiad. Credai Miss KateJenkins y byddai yr Act yn ad-euedigaeth i fywyd gwledig. Cai pob plwyf a phob pentref os myuai, ei lyfrgell, ei lecyn agored, ei ystryd wedi ei oleuo, ei ddyfrffosydd wedi cael gofalu am danynt, a'i gyflenwad o ddwfr pur. Yn y pethau hyn oil byddai He i'r ferch a'r wraig gyd- weithio a'r bachgen ac a'r gwr; a hydenu y ceid llawer o wragedd a merchad goleuedig yn barod i gymeryd rhan yn y gv/aith. Pwysleisiai Mr Isaac Evans. cynrychiolydd y glowyr, yr adranau o'r Act oedd yn rhoi breintiau i'r dosbarth gweithiol. By.ldai'r gweithwyr o hyn allan ar yr un tir a'r land- lord ac a'r gwr goludog. Byddai ganddo ei bleidlais fel hwythau; gallai eistedd fel hwythau ar y byrddau newydd;; a gan y cynhelid cyfarfodydd y plwyf yn yr hwyr, gallai weithredu ei hawliau heb golli awr o'i waith. Apeliai Mr Griffith George, Y.H., Aber- dar, at y cymdeithasau Rhyddfrydig i oleuo y wlad am ei dyledswyddau a'i hawliau. Byddai'r Act yn gyfrol gloedig i'r gwladwr cyffredin os na chymerai rhyw awdurdod oddiallan at y gorckwyl o agor ei seliau ilid)"11 t. I* t .I Yr oodd y Cadeirydd, yn gynharach yn y cyfarfod, wedi gwahodd y rhai oedd bresenol i auf OR iddo gwestiynau ysgrifenedig ar un- rhyw bwnc a fynent yn nglyn a'r Act, gan addaw y byddai Mr Beriah Gwynfe E, ns yn ateb y cyfryw oil ar y diwedd. Derbyniwyd nifer mawr o ofyniadau ar wahanol ag- weddau a phwyntiau o'r ddeddf, ac atebwyd hwynt gan Mr Evans. Yna cafwyd anerchiad byr gan Mr Lloyd George, A.S., yr hwn a ddywedai Has gallai dim fod yn bwysicach i Gymru na iawn weithio'r Act hon allan. Gallai gwladwyr Cymru ar y cynghorau newydd hyn yn ami wneyd gwell a phwysioach gwaith dros eu gwlad a'u cydgenedl nag a allai aelodau Seneddol yn Llundain wneyd. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol, se ar ol diolch i'r cadeirydd, terfynwyd. Tranoeth cynhaliodd pwyllgor y Cyngrair eisteddiad cyfrinachol, ac ar ol hwaw hys- byswyd fod y Cyngrair wedi trefnu i gael Mr Beriah Gwynfe Evans i ymweled a chyn- adleddau sirol i egluro'r Act, a bod siarad- wyr ereill at wasanseth pwyllgorau i'r un diben.
-Dynryn Nantlle-_
Dynryn Nantlle- Cynhaliodd- yr -Eglwys y Cilgwyn, ei chyfarfod blynyddol y Sadwm a'r Sul, pryd Lgwasanaethwyd gan y Parchn J. Row- lands, Talysarn; ae E. R. Thomas, Bethel. Er fed yr hin wedi troi yn anffafriol, cafwyd cynulleidfaoedd da, ac arwyddion amlwg fod Ysbrvd Duw yn y lie. PLESERDAITH. Cafodd plant Ysgol Garpiog Talysarn bleserdaith i Griccieth 4r y lofed cyf., mewn cerbydau. Cafwyd hin hynod o ddymunol, a mwynhaodd pawb eu hunain yn y modd goreu. Hefyd, y mue yn deilwng o sylw, fod yr ysgol yn cael ?: fno Ptb? neillduol yr eglwysi y mae o dan ei nawdd, a darfu i Miss Evans, j Dorothea House, roi rhodd anrhydeddus tuagat dwyn y draul.
Festiniog. -I
Festiniog. I BWRDD LLEOL.—Cynhaliwyd cyfarfod y bwrdd hwn nos Wener, dan lywyddiaeth Mr C. Warren Hoberts.-Cyfeiriodd yr arolyg- ydd yn ei adroddiad at y nifer o'r sanitary pans oedd wedi gwueyd ymaith a hwy. Mr C. Roberts a gynygiai eu bod yn rhoddi rhybudd yn awr i'r contractor, gan fod y gwaith lawer yn llai a'r costau yn u well nag erioed.- Yr arolygydd a ddywedai mai tua 450 o sanitary pans oedd gan y contractor i ofalu am danynt, hyd y gallai gofio.-Mr C. Roberts Y mae yn beth chwithig iawn i dalu mwy yn awr, tra y mae y gwaith yn llai 0 lawer. Yr oedd yma ugeiniau o bunau yn cael eu talu, on,l ni wyddai a oeddyut yn dod yn ol. Pa fodd bynag, yr oedd yma wahaniaeth dirfawr yn y gwaith rhagor ydoedd pan gytunwyd.—Y Gadeiryaa a 1 ofynai a fyddai Mr C. Roberts yn foddlawn i'r arolygydd wneyd ymchwiliad erbyn y cyfarfod nesaf, a dod ag adroddiad. Mr W Davies a ddywedai, gan fod yn ihaid rhoddi tri mis o rybudd, oni fuftsai yn well rhoddi hwnw yn awr, a chymeryd amser i ystyried y mater yn ei holl agweddau yn y cyfamser. Mr C. Roberts a ddywedai fod yna ugeiniau o bunau wedi eu gwario er pan ddechreuodd y contract.-Dr Jones a ddymunai gywiro hyn trwy hysbysu fod y pwyllgor arianol wedi derbyn Ilawer iawn o'r arian yn ol; 5 a wir bron yr oil o'r arian wari;vyd. Mr J. Morgan a farnai mai teg fyddai rhoddi gwybodaeth lawnac eglur am hyn i'r treth- dalwyr. Yr oedd y wal ar hvdjochi y ffordd o Gapel y Weslayaii i'r Eglwys yn Nhan- ygrisiau yn un ddrwg, a chynygiai Mr C. Roberts, a chefuogai Dr Jones, eu bod yn adeiladu y wal hon.-Mr John Morgan a gynygiai fod y mater yn cael ei adael am ?.d p?derfyuiad wedi ei basio yn y Bwrdd i wrthod, ond i bwyso ar berchenogion y tir i wneyd hyn. Dylid gwneyd yr un fath a phawb. Credai mai y tirfeddianwyr oedd i wneyd hyn. Mr John Lloyd Jones a farnai mai rhanol oedd yr eglurhad a roddai Mr Morgan am y penderfyniad; eu dyledswydd hwy oedd edrych ar ol diogelweh y eyhoedd. Dywedodd Mr W. Davies yr un peth, a dyma farn hefyd clerc y sir.—Pasiwyd cynygiad Mr Roberts i wneyd y wal. Ni chefnogwyd y gwelliant.-Rhoddodd Mr Maybury awgrym yn ei adroddiad y dylid cymeryd i ystyriaeth bWllC y fynwent yn Methesda. Cyfarwyddwyd ef i wneyd adroddiad iiianylachei-byny eyfarfod nesaf.—Rhodd- odd y clerc adroddiad o'r achosion a wran- dawyd yn y llys gwladol. Yr oedd yr achosion am fyned i leoedd cyhoeddus pan dan glefyd. Yr oeddynt wedi eu taflu allan.-Mr Bowton a ofynai a oedd yn iawn iddyut dalu am yr hysbysiad hwn, gan nad oedd y meddygon yn cynorthwyo y bwrdd i gario allan ysbryd y ddeddf.—Mr W. Owen a gynygiai ein bod yn gwrthod talu dim dimeu i'r un meddyg eto os mai fel hyn yr oeddynt yn bwriadu cario yn mlaen.—Mr Morgan: Yr wyf fi wedi ym- ladd yn erbyn y ddeddf hon o'r blaen, ond am gymeryd plaid y meddygon yn awr. Dymunaf ofyn i'r clerc a oes a wnelo y meddygon rywbeth a'r materion yma rhagor na hysbysu "? A oes genym hawl i orfodi y meddygon lleol yma i ddyfod i'r llys i roddi tystiolaeth? Dr Jones a gyf- eiriodd at achosion a brofwyd yn New York fod germ diphtheria wedi ymadaw a'r cbf, ymhen tri diwrnod mewn rhai achosion, yr hyn a brofai oedd nad oedd yu bosibl tyngu fod y plentyn hwn yn dioddef, serch ei fod wedi ei hysbysu rai dyddiau yn flaen- orol. -Y Clerc, mewn atebiad i Mr J. Mor- gan, a ddywedai nad oedd Dr Frazer a hawl ganddo ac hefyd nad oedd ei dystiol- aeth yn dderbyniol yn y llys. Yr oedd wedi ei gwrthod.—Mr Robert Roberts a ofidiai am en ffolineb yn mabwysiadu'r gyfraith hon. Yr oedd yn waradwydd ar y bwrdd.—Dilyn- wyd ef gan Mr W. Davies. Yr oedd y meddygon, meddai, yr adeg hono yn frwd iawn am dani, ac yr oedd yntau (Mr Davies) yn teimlo felly, am y gwyddai hanes rhai ag oedd yn ddiofal yma, a chefiiogodd ef y meddygon. Oud erbyn hyn yr oedd yn teimlo fod mabwysiadu y ddeddf hon yn anfri arnynt fel bwrdd. Y mae y tretbdal- wyr yn talu am beth nad ydyut yn cael dim lies oddiwrtbo.-Dr Jones a gredai mai nid teg oedd barnu y ddeddf oddiwrth diphtheria yn ;?.nig. Yr oedd clefydon fel typhoid fever. Bu 4 o blant yu 1884 dan hwn. Nid oedd yma unrhyw foddion i achub, pe gellid, un bywyd. Y mater mawr yw cael y modd i rwystro hwn ac arall c glefydon i ledaeuti.-Gofynai Mr W. Davies a oedd modd tidier ddeddf o'r neilldu ac os nad oedd yna yr oedd yn gryf o'r farii mai gwell fuasai peidio talu a mentro cyfruith er mwyn cael opiniwn bamwr arno.—Pasiwyd i anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol i gael hawl i roddi y ddeddf o'r iieilidu.-Deg oedd nifer yr achosion o glefydon a hys- byswyd yn ystod y mis, a saith ohonynt yn diphtheria 'lleihad yn y cyfanrif o 10 y mis. -Dr Fraser a anfonodd ei adroddiad am y chwarter. Yr oedd 98 o enedigaethau, cvfartaleddjo 35 5 y fil o'r boblogaeth, 51 o farwolaethau, sef 18 4 y fil. Yn ystod y fn mis, "hysbyswyd" 33 o achosion, 25 o'r eyfryw yn Diphtheria.—Mr Richard Jones a gwynai ei fod yn methu trarnwy yr hen ffordd ar derfyn y plwyf. Nid oedd yr un o'r aelodau wedi clywed son am y ffordd hon, a phenderfynwyd anfon i hysbysu os bu i ryw un o'r swyddogion ei thrwsio, iddo wneud hyn heb awdurdod y Bwrdd, ae nad oeddynt yn barod i wneud hyn eto.—Dr Jones a roddodd adroddiad o'i swydd fel cynrychiolydd i'r Gynadledd yn Llundain ynglyn a Iechyd. Y cwestiwn gafodd sylw mawr ydoedd tai cymwys i'r gweithwyr, a hefyd gwneud yn orfodol ar holl fyrddau y wlad i gael ysbyttai er cymeryd personau yn dioddef dan glefyd iddynt. Ynglyn a llatdd-dai yr oedd yno gwestiwr a allent gymeryd i fyny yma. Pasiwyd die.lchgarweh i Dr 'Jones ar gynygiad Mr R. Bowton.- Yn wyneb yr, adroddiad oeddynt wedi gael gan Dr Frazer, penderfyn vyd gofyn am adroddiad Dr Evans, Llundam, a fu yma ar ymweliad. Dr Jones a gefnogai y cyn- ygiad. Mr Walker Davies a ddywedai na byddai anfon am dano ond yn unig peri iddynt chwyrnu. Mr C. Roberts a deimlai mai mater oedd ag oedd wedi costio arian i'r Llywoiliaeth, ac yr oedd yn meddwl mai iawn oedd ini ei gael. Yr oedd Mr W. Dav.es ya tueddu i feddwl mai gwell :fuas peidio gofyn aitt hyny. Y mae yn amlwg nad (eQJ dim yr ein herbyn neu y clywsem, ac yr ydym yn barod i'w derbyn pan ddaw. Mr Bowton a gynygiodd eu bod yn peidio anfon v T.lvwodraeth Leol ar y mater. Mr J. Morgan a ddywedodd fod Dr Evans wedi d'od yma braidd yn erbyn teimlad y bwrdd. Gadawer i ni wybod beth a ddywed am danom. Pleidiodd tri dros welliant Mr Bowton, a phedwar dros Mr C. Roberts. Felly disgwylid cael yr adroddiad hwn cyn bo hir. COR LLEOL YN Y BRIF-DDINAB.-Nos Wener diweddaf aeth cor lleol i Lundain i gymeryd rhan yn yr wyl flynyddol ynglyn a Uhymdeithas Gydweithiol y Deyrnas, ac aeth nifer o, gyfeillion iddynt gyda hwynt. Dychwelasant dydd Mawrth wedi mwynhau siwrnai a golygfeydd rhyfeddol y brif-ddinas gyda pha rai y mwynhasant eu hunain yn rhagorol. SYMUDIAD NEWYDD. Mudiad hollol newydd yn ddiau, ac hyd y gellir gweled, un ag y mae y budd a ddeillia oddiwrtho yn bur gyfyngedig, ydyw ymdrechfa chwareu Billiards. Cymerodd yr ymdrecbfa le, fel y gwelwn ar y parwydydd, yn y Maenofferen Hotel, rhwng dau Sais a ddigwyddent fod ar eu gwyliauyn y gymjdogaeth. Enwau y dynion oeddynt H. Coles a J. Lloyd, a deallwn iddynt fod yn chwareu nos Lun, prydnawn a nos Fawrth. a phrydnawn a nos Fercher. Ac o'r ddau Mr H. Coles ydoedd y buddugwr. Yr oedd y mynediad i mewn i weled y chwareu yn 2s a la, ac yr oedd yno gynulliad Iluosog ymhob cyfarfod. I'r rhai sydd yn deall y chwareu hwn diau ai fod yn I beth eithaf dyddorol ganddynt, ond ychydig sydd yma mewn cydmariaeth sydd yn ci ddeall. Y DDIRPRWYAETII DIR.-Y uno rhai materion sydd o bwys i'r plwyfolion yma i gael eu gosod gcrbron cyfarfod o'r ddirprwy- aeth uchod yn Niubych yn fuan, ac fel y enfir gofynodd Vestri v plwyf i Mri C Roberts a G. H. Ellis, cyfreithwvr, fyned yno i roddi tystiolaeth. Deallwn fed y ddau wedi parotoi y dystiolaeth, au wedi ei hanfon i Lleufer Thomas yn ol y rheol arferol ynglyn a hyn. DAMWEINIAU.—Dydd Llun diweddaf ey- farfujohn Williams, Harle- h, a dimwain ofidus tra yn dilyn ei orchwyl yn Chwarel y Llechwedd. Ytnddengys ei f id, ar ol tanio ergya, yn mynel l 'y"y gr:¡ig I.t "l ?'th. a llithrodd darn?n o gT.ig oedd yn rhydd gall ei gau Deallwn iddo ddod yn well o lawer na'r ofnau am datio, er ei fod wedi ei anafu ? boe'ius. Rhoddodd ?g?m pen y plun o'i Ie, a derbydiodd jiweidiau erei? dros ran au ei gorph. Cymer vd "ef i'r ys- bytty perthynol i'r chwarel, y gofelir am nan,) gan y ineddygou Rob s a Jones.- Dydd Mawrth, tra yu dilyn orchwyl ylt Chwarel Votty Bowydd, ri. Idodd Henry Parry, Lord street, yn ddai. .-emiol ei law yn y peiriant naddu, ac anafodd rai o'i fysedd yn bur drwm. Gofelir am dano 6gan Dr fi. D. Evans.
Advertising
SLEEI and REST for Baby J )  f, I. Are out of the question when tortured and dis- figured with Eczema and other itching, burning, ind irritating skin and scalp diseases. A Single Application of the CUTICURA REME. DIES wiU afford instant relief, permit rest and cleep, and point to a speedy, permanent, and economical cure, when all else fails. Sold throughout the world. Price, CUTICI*RA, 2*. 3d.; SOAP, 1^ RESOLVENT, 2s. F. NEWS EKY & SONS« King Edward-st., Newgate-st., London, E. C. How to Cure Every Skin Disease," 72 pages, úcc.
Family Notices
GENEMGAETHAl7, PRIODASAU, A JIARWOLAETHAU. Genedigaethau. Joues-Awst 22, priod Mr J. Morris Jones, 130, High street, Blaenau Festiniog, ar fab, cyntafanedig. Jones.—Awst 18, priod Mr W. O. Jones, Queen's Hotel, Llanrwst (gynt, Glauypwl] Cottage, Rhywbryfdir), ar fab. Owen-Awst 17, priod Mr John Owen, Glj1\ House, Blaenau Ffestiniog, ar ferch. Roberts-Awst 22, priod Morris Roberts, 109, High street, Blaenau Festiniog, ar ferch. Roberts-Awst 19, priod Mr James T. Roberts, Glanystradau, Tanygrisiau Fes- tiniog, ar ferch, cyntafanedig. Williams—Awst 21, pi'iod Mr J. Christmas Williams, Water street, Holyhead, ar fab. ilriod.tiati. Davies—Owen — Awst lo, yn ughiipel y Pennant, Llanbrynmair, gan y Parchn Henry Pritehard, Tredeg,r,:a James Jones, Llanbrynmair, y Parch D. Darley Davies, Rliymni, a Mary Ellen, pedwavedd iereli Capt Owen, Cefn, Llaubryii. t, Davies-Griffith-Awst i rt nghapel Bethel, Penygroes, i)arch Evab "a ;■ parch Evan Jones, Moriah, yn ci S ei ;yuorthwyo gan y Parch W. Elias Williams, a Mr Daniel Thomas, Mr David Davies, Tanycoed, Llanrng, a Miss Hannah Griffith, Aluu House, Penygroes. Ditvies--Williilius-.Awst 22, yu nghapel Gilgal, gan y Parch W. Williams, yn eael ei gynorthwyo gan y Pareh Id. Ellis, ac yn mhresenoldeb Mr 1). Humphreys, cof- restrydd, Mr John Davies, Ty'nyfedw, a Miss Annie Williams, Shop—y ddau a Faentwrog. nilhi ef yn hollol-ttt)n fWYII Glanaf ferch dJeniadol; Heddyw'r gwr sy' wr siriol, Ac Annie gu yn ei gol. Siriol oes o araul haf-" haf o hyd Fo'u dyfodul meddaf Hynt eu bywyd heb auaf Diweddd dan nodded Xaf. IESTVX. Dobbs—Thomas — Awst li, yn y Cathedral. Bangor, gan y Parch W. Edwards, fleer, Mr Richard Owen Dobbs, Id, Caellejwi, Bangor, a Miss Marie Thomas. Bryutirion, West End, Bangor, gynt o Ddinbych, Jones—Jones—Awst 21, yn Eglwys St Peter, Pwllheli, gan y Parch E. T. D.tvies, Fiuer, Mr John C. Jones, Lleyn street, Pwllin li. a Catherine, merch hynaf Mr Thoma> Jones, Brynynys, Abererch. Williains-Roberts-Awst 25, yn swyddt'a y Cofrpstrydd, (,'arnarfon, Itr John Williams. N, Pool Side Square, a Miss Isabella Roberts, ii, James Court-y ddau o Gaer- narfon. Marwolaethaa. DaTies-Awst 20, at Paris House, Barmouth, Mrs Mary Davies, gweddw y diweddar Mr W. Davies, Portdinorwic, yn M Ivpdd oed. Claddwyd hi yn mynwent Lianfair- isgaer, Awst 22. Jones-Awst 20, .yn o9 mlwydd oed, Al.1* Mary Jones, 9, Hendre street, Carnar- Ton. Jones—Awst 26, yn 6 mis oed, Ifor Jone" anwyl blentyn Mi a Mrs Owen 0. Jones, Gameddwen, Fachwen, Dinorwig. Lacey-A wst 17, yn 11, Thom" street, Cal' narvon, yn 61 mlwydd oed, MM Laey, priod Mr Walter Lacey. ,{ Lewis—Awst 21, jn 81 mlwydd ?, .,?" Owen Lewis, Bodrida, Brynsiencyn, .V. Owen-Awst 13, yn 04 mlwydd el, Ur Thomas Owen, Llanfawc, Llangnstioi • Owen-Awst 14, at West End cottage, Bangor, yn 62 mlwydd oed, Elizabeth, gweddw Mr Robeit Owen, Nantporth., Williams-Gorphenaf 2, at Trinidad. Indies, o dwvmyn,y Parch John B.A., ficer, Llanelltyd, Dolgelleyi yn mlwydd oed. wS??-A?st 15, yn TalyMyn,Gr?!.u. yn 65 mlwydd oed, Margaret W' gweddw y diweddar IM-0'11 ^"lia
Advertising
COFUOLOF^AU COLGU-LOFr»A • 8TOC FAWR. Cyn prynu Colgolofn bydded i chwi iilw gyda HUGH jOXE^ V Marble Works, ( AEliNAKtO^ COF-G'JLOI' XAL' COF-GOLOFXAU • Cyn i chwi brynu COF-GOLOFN ym- welwch a WILLIAM HUGHES, ^onunantia.i Slate and Marble Mason, LLANBEBLIO ROAD, gyferbyn b r vicarage, ■ vi.■vi RT'X. Argraifwyd a chyhoeddwyd gan GNVLuni y Wasg Genedlaethol Gyuireig, yn en swyddfa, Balaclava road, C,erlitirfolt-