Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LLANB R YNMAIR.

News
Cite
Share

LLANB R YNMAIR. Nos Fercher, lonawr 12fed, yn yr Hen Gapel, traddodwyd darlith ar y "Caa mlyuedd diwedd. af" gan y Parch. It Thomas (Ap Vychan) Bala. Llywyddwyd gan y Parch. 0. Evans, gweinidogyllt. Dywedodd y darlithydd parch. edig mai ei reowm ef dros gyfansoddi y ddarlith hon ydoedd er annog y bobl ieuaingc, a rhoddi rhyw symbyliad iddynt i fod yn fwy darllengai* ac ymchwilgar mewn gwahanol wybodaethau. Sylwai ar haues America, chwyldroadau Ffraiugc, a gweriniaeth yn anfanteiaiol iddi-Lloegr a'i -Rhyfoloedd-a pha pam y mae galw am y militias yn y dyddiau hyn yn Lloegr, a'r holl fyd mewn heddweh â hi—mai nid fel hyn y bydd byth; ond "ni ddysgant ryfei raw,acii." Dy- munai bir oes i Henry R'ehard, Ysw., am ei laftir a'i ddylanwad o blaid heddwch (cym). Sylwai hefyd ar y cynnydd mawr a wnaeth Khyddid Gwladol a Cbrefyddol yn ystod y gan- rif; rhyddid i addoli; rhyddid i briodi mewn addoklai Ymneillduol; dilead deddfau yr Jd j rhyddid i godi addoldai, hyd yn oed yu Ehufain, yn ymyl llys y Pab; rhyddid i'r caethion; rbyddid gwyddonol, pryd y mae y creigiau wedi eu borio, a'r m6r wedi ei rwydo, a rhyddid mawr y wasp, yr hwn a nododd oedd yn helaeth a phwysiif. Yr oedd y darlithydd mewn hwyl,a'r ddarJith yn dra dyddorol. Gobeithiwn y bydd amcan Mr. Thomas yn cael ei gyrhaedd trwy y ddarlith, sef symbylu yr ieuengctyd i lafurio am wybodaeth yn ei holl ranau. Yr ydym yn ofni fod y genedl ieuainge wedi myned yn dra diwaith yn y dyddiau hyn, oj ydynt yn mhob man fel yn yr ardal hon. Yr ydym yn cofio yn y blynyddau a fu, fod cyfarfodydd llenyddol a chystadieuol yn cael eu cynnal ar gylch yn yr ardal, pryd y gwobrwyid y plant a'r bob! ieuainge am ddar- llen a chyfansoddi rhyw ddarnau bychain am y goreu ond yn awr, wele y wlad yn eistedd ac yn llonydd yn y peth hwn. Os oea yn yr eglwysi yn y dyddiau hyn ddynion gor-sanctaidd yn ofui fod tuedd lygrerlig ac andwyol mewn cyf- arfodydd felly, hoffwn iddynt ddyfod a. rhyw gyullun a dyn sylw ae a gynnyrcha weithgar- wch yn yr ieuengctyd mewn rhyw ddull arall. Bwriadwn wneyd sylw pellach ar hyn yn y dyf- odol.-Gohob,ildd.

LIVERPOOL.

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

[No title]

LLANRWST A'R AMG-YLCHOEDD.I

EDEYRN10N.

I-CAERNARFON.

[No title]

LLITH 0 LIVERPOOL.