Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ISGOB NEWYDD TY DDEWI. 'I

"THE SCOTCH PATRONAGE BILL."

CYFARFOD TALAETHOL Y WESLEYAID…

"GWILYM ERYRI." I

News
Cite
Share

"GWILYM ERYRI." I FONEDDIGION, I Gwelais yn ddamweiniol ar ddalenau rhai o newydd- iaduron Cymru, un o'r enw William Roberts, Porih- madog, yn gwisgo y ffugenw "Gwilym Eryri." Yn gymmaint a bod beirdd a llenorion clasurol yn priodoli defnyddio enw barddol arall yn fwy beiddgar nag un math o gamwri llenyddol; oganlyniad, priodol ydyw i ninnau wneuthur ymohwiliad i'r achos hwn, trwy fynu oglurhftd gan Mr. Roberts o barthed ei hawl i'r enw! Pa bryd y dechreuodd ei arddel? A pha berthynas sydd oyd-rhyngddo a brenhines y mynyddoedd, fal y gallai hdui yr enw yn fwy uniongyrchol trwy y cyfryw berthynas? Nid oes angen i mi esbonio fy hawl i'r enw, gan y gwyr darllenwyr Cymreig America, a llu- oedd yn Nghymru, ddarfod i mi ysgrifenu oannoedd o erthyglau barddonol a rhyddieithol yn ystod y naw mlynedd diweddaf (ao yn parhau felly) dan yr enw "'Gwilym Eryri." Rhesymau ereill ag sydd yn fwy perthynasol i'm hawl i'r enw ydynt, am mai ar ystlys yr Eryri y cefais fy magu, y bum yn chwareu ar ei choryn am ddeng mlynedd, a myfi ydoedd tywyaog ei thivr hi, ac yn gwylio dyfodiad y miloedd ymwelwyr, gan eu oroesawu, a gwasanaethu arnynt mewn angen- rheidiau oynnaliol i'w cyrph ac o herwydd fy ngwaø. anaeth rhyddfrydol ar ei choryn hi, y cefais yr anrhyd- edd a'r fraint o gael fy ngalw yn fab iddi, a hi a'm galwodd yn Gwitym Eryri," yn nghanol rhwyegfawr- edd y cymylau, ar ben gorsedd ag sydd yn anil-g i'r byd, yn ei mawredd, yn ei huchcier, ao yn mhwysig- i wydd yr urddau a roddir oddi ar ei gorsedd. Yn awr, dymunaf argraphu ar feddwl a chalon Mr. Roberta oi gyfrifoldeb yn herwydd yr amryfusedd y syrthiodd iddo yn y weithred feiddgar hon o'i eiddo, trwy hawlio gwneuthur ymddiheurad ar lafar gwlad i dynu yn ol ei hawl i arfer yr enw Gwilym Eryri rhag llaw. Arwr wyf o Eryri—a'm henw imwy lioi;at o ddifri'; Nid gofreg i'm, ond gwiwfri, A rawynhid yw m henw i. Ydwyf, yn ol fy arfer, Milwau kee, Wis. W. E. POWELL (Gwilym Eryri),

UNDEB Y CHWABELW YR. j

ARMINIAID AC ARMIJSIAETH.I…

GAIR AT CHWARELWYR LLANBERIS.