Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NODlON 0 MORGANWG A AIYNWY.…

News
Cite
Share

NODlON 0 MORGANWG A AIYNWY. I An y cyfan, treuliwyd Gwyliau Nadohg llawen a dedwydd gan y mwyafrif rnawr odrigolion y ddwy sir hyn. Cafodd ein masnachwyr a'r bobl ieuaingc Uiosog ag sydd yn ein masnachdai dri diwrnod o ryddid oddi wrth eu Uafur arferol-o nos Sadwrn hyd nos Fawrth-er cael ymweled &'u eyfeillion, ac adnewyddu eu nerth a'u bywiog- iwydd. Cynnaliwyd nifer liosog o eisteddfodau, cynglierdd- au, a chyfarfodydd o bob math yn eiu gwahanol gymmyd- ogaethau poblog, Cafodd ein ffyidd haiarn lawer o waith clado pobl o un lie i'r llall; ac er tlodi yr amseroedd, y mae y bobl ar adegau fel hyn yn mynu arian, drwy ryw foddion neu gilyld, er cyrhaedd eu hamcanion; ae yn ffodus, yr oedd ein prif weithfeydd wedi myned yn dra chysson er's rhai wythnosau, yn ddiwcddar, yr hyn ydoedd yn llawer o gymmhorth er gwneuthur I gwyliau llawen.' Hefyd, yr oedd y tywydd, ar y oyfan, yn ffafriol i deithio, a chael mwynhâd wrth deithio. Nis gallwn roddi hanes o weithrediadau amrywiol ein gwahanol gymmydogaethau. Y mae yr ymchwiliad diweddar gan Mr. Lyulph Stanley i'r amgylehiadau cyssylltiedig â Mithiant Banyc Cynnilo Cacrdydd I wedi dwyn i'r golwg rai ffeithiau tra hynod. Dengys esgeulusdra neillduol o du yr ymddiriedolwyr a'r llywydd. wyr (managers), ae anonestrwydd beiddgar a chyfrwys o du y diweddar arysgrifydd (actuary), yr hwn sydd bellach mewn byd arall, ac wedi cael rhoddi cyfrif am ei oruchwyl- iaeth i Farnwr cyfiawn.' Y mae mynegiad Mr. Lyulph Stanley yn llym a thra chondemniol gyda golwg ar ly wydd- iaeth y bangc a dywed yn eglur y dylai yr ymddiriedol- wyr a'r llywyddwyr (managers) wneyd i fyny yn llawn goll- odion y rhai oedd wedi ymddiried eu harian i'w gofal, a li ,-ny yn beitaf yn rhinwedd yr ymddiriedaeth oetld gan- ddynt yn eu heuwau hwy fel boneddigion. Y mae rhai o'r ymddiriedolwyr yn cynnyg gwneuthur eu rhan hwy er dwyn hyn oddi amgylch, tra y mae eraill, naill ai o ddiffyg gallu neu ewyllys, yn gwrthod gwneyd hyn. Gresyn i'r b9bl dlodion, gynnil, a darbodol, ag ydoedd wedi ymddir- ied lfrwyth eullafur a'u cynnildeb i'r sefydiiad, fod yn goll- ed wyr, a hyny drwy ddilfyg gofal ac ymchwiliad priodol o du y rhai yr ymddiriedid ynddynt. Ni ddylai pobl o s ifie- oedd parchus roddi benthyg eu henwau i sefydliadau cyhoeddus heb gyinmeryd y cyfrifoldeb cyssylltiedig a hyny. Ymddengys yn awr mai tua hanner coron yn y bunt ydyw yr hyn y mae y bange yn fyr i allu talu ei ddy- ledion, ond y mae hyn yn golled fawr i lawer o bobl gym- mharol dlawd ag ydoedd wedi ymddiried yr oll o'r arian a feddent i'r sefydiiad, yn yr hwn y meddent yr ymddiried- aeth lwyraf; a hyny, yn bonaf, o herwydd y nifer liosog o bersonau o safleoedd uchel, ac o barchusrwydd diammheuol ag ydoedd yn dal cyssylltiad Og ef. Ymae Mr. Pritchard Morgan, yr anr-ehwilydd .1 yn Meirionydd, yn cynnyg ei hun fel ymgeisydd seneddol dros Casnewydd-ar-Wysg, ei dref enedigol; ond nid ydyw ei farn wleidyddol yn cymmeradwyo ei hun i'r naill blaid na'r llall. Nid ydyw ef yn proffesu ei hun yn Rhyddfryd- wr na ('heidwadwr, yn ystyr arferol y geiriau-proffesa ei hun yn ymgeisydd annibynol; ac yn y cymmeriad hwn y mae yn toddlawn sefyll brwydr A Syr George Elliot, ond nid ydyw yn debygol y bydd i Ryddfrydwyr bwrdeisdrefi Mynwy ei dderbyu fel eu pencaiiipwr; ac yn sicr, ni bydd i'r Toriaid ei dderbyn-y mae ganddynt hwy eu hoff-ddyn yn Syr George. Os ydyw Rhyddfrydwyr y Casnewydd, Brynbiga, a Mynwy, am adennill y bwrdeisdrefi hyn, nis ùig;e :;rl na yr hwn a'u cynnrychiolodd mor ffyddlawn am gynnifer o ilyrjyddoedd. Y mae rhagolwg galonogol yn bresennol am Anturiaeth Lofiiol Newydd yn 13in plith. Y mae'n debygol yn bresennol y bydd i 1M" newydd gael ei hagor yn Nghwm Glydach, rhwng Pontypridd ac Ynysbwl. Dywedir fod ewmni newydd 0 foneddigion o ddylanwad a chyfoeth ar gael ei ffuriio, er suddo glofa newydd yn y gynfimydogaetb a enwyd; ac nid oes ammheuaeth yn mhlith dynion o wybodaeth a phrofiad mewn pertliynas i lofeydd, na fydd i'r anturiaeth i droi allan yn llwyddiant hollol. Y mae Bhagolygon y .flwyd1!n 1888, mewn ystyr weithlaol yn y dawy sir nyn yn;Clra iiewyrcnus —yn llawer mwy felly nag oeddynt ddeehreu y tlwyddyn 1887 ac oddi eithr i ryw anghydwelediad rhwng y perch- enogion a'r gweithwyr, mewn perthynas i'r sliding scale, neu rhyw aohos arall cyffelyb, daflu rhwystr ar y ffordd, y mae genym le i ddisgwyl am flwyddyn wecldollwyddiaunus yn ein gweithfeydd.— Gohebudd.

BIRMINGHAM.I

DOLGELLAU. I

TY DDEWI. I

ABERYSTWYTH.I

DYFFSIN CONWY.

I COETMOR, BETHESDA. -I

I DINBYCH.I

CYMDEITHAS RYDDFEYDIC; Y FWRDEISDREF.

INANTGLYN.

ITAN-Y-FRON, GER LLANSANNAN.