Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y DEHEU, I

News
Cite
Share

Y DEHEU, Claddwyd gweddillion y Parch. Edward Roberts, Cwmafon, ddydd Mercher, yn mynwent St. Catherine, Baglan. Yn nahyfarfod misol Bwrdd Lleol Brynmawr, pen- idierfynwyd codi 4k. o dreth y dwfr, a Is. y bunt o Tetb y dosbarth. Derbvniodd 115 o ymgeiswyr y bedydd esgob yn "ftglwys St. Thomas, Hwltfordd, ddydd Gwener, gan fisgob Ty Ddewi. Y mae y Parch. W. Edwards, gynt o Pendine, wedi deehrea ar ei waith gweinidogaethol yn eglwysi Carmel a Llanfynydd. Bellach, y mae un adran o'r orwaith a ddechreuwyd ar ben eglwys St. John, Caerdydd, wedi ei orphen, ac iigorwyd ef ddydd Mercher. Dydd Mawrth, cyfarfyddodd dynes o'r enw Ann Carney a darn wain ddifrifol arun o heolydd Brynbiga, trwy gae) ei tharo i lawr gan bibell ddwfr a ddisgyn- odd arni. o. Dydd Mercher, canfyddwyd corph pilot o'r enw George Rees, Abertawe, yn yr afon yn y lIe hwnw. Sid ydyw yn wybyddus pa fodd y cyfarfyddodd y trangcedig {¡'i ddiwedd. Y mae gwyseb wedi ei rhoddi allan yn erbyn Thomas Harris, 54, Coburn street, Cathays, am gadw yn anghyfreithlawn arian perthynol i gymdeithas neillduol, yn ei feddiant. Dywedir fod cwmni o Lundain wedi cymmeryd nieddiant o lofa Millfraen, a adnabyddir yn well irrtb yr enw 'Siafft Jayne.' Bydd i hyn ddarparu gwaith i rai cannoedd o bobl. Y mae y gweithwyr oedd yn sefyll allan yn Cwm. afon wedi dyfod i gyttundeb à'u meistriaid. Dygwyd hyny o amgylch gan ddirppvyaeth a anfonwyd gan y gweithwyr at y perelieriogion. Deallwn fod y Parch. John Evans wedi ymddi- swyddo o weinidogaeth eglwys Tabernacl, Pont-y- pool, a'i fod yn symmud I Casnewydd, i weinidog- aethu ar eglwysi y Bedyddwyr yno. Cafodd ffenestr goffadwriaethol y Cadfridog Somer- set ei anrhegu i eglwys St. Michael, Mitcheltroy, Mynwy, gan blant y diweddar gadfridog, ac nid gan Air. W. Perigreen, fel yr hysbyswyd. Trefnwyd cyfarfod yn Llancaiach, nos Fawrth di. weddaf, mewn cyssylltiad a jiwbili y frenhines. Erbyn yr adeg bennodedig, nid oedd ond un ddynes a reporter wedi gwneyd en hymddangosiad. Anfonwyd John Stafford, llafurwr, i garchar am dri mis gan ynadon Casnewydd, am ddiangc ymaith oyda dillad yr undeb. Y mae y givr hwn wedi ym- itdangos 39ain o weithiau ger bron yr ynadon. Yn llys ynadol Abertawe ddydd Mawrth, dirwywyd Annie Healy, cadben yn Myddin yr lachawdwriaeth, i 5s. a'r costau, am beri rhwystr yn Waterloo street, nos Sul, trwy gadw cyfarfod yn yr awyr agored. Nos Fawrth diweddaf, bu farw Mr. Evan Thomas, haiarn-werthwr, Aberdfir, ar ol maith gystudd. Bu Mr. Thomas yn cadw busnes yn y dref am ddengain mlynedd, a pherchid ef yn fawr gan y trigolion. Y mae Mr. Evan Griffiths, Brynteg, Pont-y-pridd, wedi addaw 2Op., ac hefyd ddyfod yn gyfrifol am 15p. arall, tuag at y llyfrgell rydd, ar yr ammod i eraill fryfranu 1,87,ip. mewn symiau yn amrywio o 6c. i 20p. Bn David Thomas, Gatehouse, Castellnedd, farw boren ddydd Mawrth, ya yr oedran cynnar o 25ain inlwydd oed. Yr oedd Mr. Thomas yn astudio y Jyfraitli gyda Mr. Tom Williams, cyfreithiwr, o'r un 'Sref. Boren ddydd Mercher, deuwyd o hyd i gorph Ellen Connolly, gweddw, 62ain mlwydd oed, yn Hen Gam- ias Merthyr. Collwyd hi o'i chartref, Canal square, y noswaith flaenorol, a thybir iddi lithro i'r gamlas noswaith naenoro!,a thybir iddi hthro i'r gandas I)rwg genyni hysbysu am farwolaeth Dr, \V. Ji. Hayes, meddyg giiifeydd Cwmtilleri, yr hyn a gym- nierodd lc ddydd Sadwrn cyn y diweddaf, yn 33ain fnlwydd oed. Amlygir cydymdeimlad dwfn a Mrs. flayes yn ei galar. Tybir fod y dyn John Hopkins, Caerdydd, yr hwn a fo farw mewn canlyniad i ymladdfa a gymmerodd le rhyngddo a dyn arall, wedi cael cam chwareu dir- fawr, ac y bydd i'r sawl a achosodd ei farwolaeth gael en hunain niewn rhwymau tynion. Boreu ddvdd Gwener, cyfarfyddodd dyn o'r enw 'ham Beynon, 45ain mlwydd ocd, & damwain angenol yn Tredegar, trwy gael ei wasgu rhwng dwy wagen. Trigai y trangcedig yn High street, a gadawa wraig a saith o blant ar ei oJ. Yn llys sirol Llandilo, ddydd Gwener, hawliai John •lames, L)ansam)et, y swm o 49p. oddi ar Richard Thomas, Hendy, fel iawn am niweidiau a dderbyn- iodd oddi ar law y ditfynydd trwy esgeulusdra. Rhoddwyd dedfryd o blaid yr erlynydd am 3071. Boreu ddydd Gwener, bu farw Frederick Hum. i'hrevs, yn gweithio yn Aberaman, oddi wrth efteithiau niweidiau a dderbyniodd yn y lie hwnw y dydd blaen- 10). Yr oedd y trangcedig yn fab i'r Parch. T. Humphreys, gwemidog y Bedyddwyr yn Cwmaman. gynnaliwyd festri yn Ysgol y Bwrdd, Pontardulais, pydnawn ddydd lau—Mr. D. Griffiths, Birchgrove, "le vn y gadair. Enwyd y canlynol yn overseers L: y ddwy tiynedd ddvfodoiMri. Kees Harries, J. White, D. Griffiths, T. Harris, a T. Wil- Prydnawn ddydd lau, cynnaliwyd cyfarfod dad- YIJtiad yn nghapel y Bedyddwyr, Glyn Castell- Y prif areitliydd oedd y Parch. J. Matthews, Pasiwyd penderfyniad yn condeninio y Llywodraeth tuag at gynnygiad Mr. Y mae y Cadben Allan Wallace, perthynol i'r ager- long Glenbervie, wedi ei anrhegu a hin-fesurydd ardderchog am ei ddewrder yn aehub bywyd nifer o forwyr, ger y Lundy, ar y 15fed o Hydref. Cyflwyn- I%vy d yr anrhe wyd yr anrheg gan Dr. Taylor, Caerdydd, yn Neuadd Drefol y dref hono. Prydnawn ddydd lau, yr wythnos ddiweddaf, tra- ddododd y Parch. Thomas Evans ddarlith ar y cestiwn Gwyddelig, ger bron y Owb Rhyddfrydol, Iddod6dd y Gwyddelig, fn ddiIynol, cymmerodd dadl le C, ,w le, a diweddwyd y gweithrediadau trwy basio pleidlais o ymddiriedaeth yn Mr. Gladstone. Bu Mr. G. B. Samuelson, ymgeisydd Rhyddfrydol Dean Fforest yn yr etholiad nesåf, yn anerch ei etholwyr yn Blackeney, nos Fawrth. Beirniadodd Mr. Samuelson yn drwm yr araeth a draddodwyd gan Mr. Chambcrlainyn Birmingham, gan ddyweyd mai gwell oedd iddo fwrw ymaith yr enw Rhydd- Yn Ilys ynadol Merthyr, ddydd Mercher, cyhudd wyd William Jones, Troed-y-rhiw, o ladrata pwrs, yn cynnwys 25s., oddi ar John H. Thomas, ger yr Aberafan Hotel, ar yr 8fed o'r mis yma. Cafwyd y pwrs, yr hwn yn y diwedd a ddaeth i feddiant y aiffynydd. Dirwywyd ef i 30s., yr arian yn y pwrs i'w dychwelyd i'r erlynydd. Yn nghyfarfod misol Bwrdd Lleol Brynmawr, a gynnaliwyd yr wythnos ddiweddaf, ymwelodd dyn o'r enw Watkins fl'r bwrdd, gan ofyn am ganiatAd i symmud corph ei wraig o'r bedd lie y gorwedd yn bresennol, i un newydd. Hysbyswyd ef nad oedd gas y bwrdd awdurdod yn y mater, gan y byddai yn rhaid iddo appelio at yr Ysgrifenydd Cartrefol. Dydd Gwener, ymgyfarfyddodd nifer o foneddig- Dydd Gwener, Elyfr  ell, ei- y' styried pa foddi esau Llyfrgell, e1' ystyried pa fodd 1 wneuthur eu rhan tuag at jiwbili y frenhines. Eglur- wyd amcan y symmudiad gan Mrs. Gwilym Wil; Hams, a phennodwyd y boneddigesau canlynol i gasgiu cyfraniadau:—Mrs. Hopkins, Glenview; Mrs. Bassett, Brynffynnon; Mrs. Spickett, Maes-y-coed Mrs. Merchant, Tan-y-graig; Mrs. Cobb, Miss Ros- ser, a Miss Gwen Rosser, Gelliwastad. Gwrandawyd achos dyddorol yn llys ynadol Merthyr, ddydd Mercher, yn yr hwn y cyhuddwyd Elizabeth Anne Williams o ymosod ar Mary Jane Williams. Yr oedd y ddwy yn cydweithio mewn ffactri yn Caedraw. Cyfaddefwyd y trosedd, ond dywedai fod o ddeutu 15eg o enethod yn eiddigeddus o honi, am ei bod yn codi ei gwallt i fyny' yn ol y ffasiwn diweddaraf. Dirwywyd y ddiffynyddes i 3s. 6c., ynghyd a'i rhwymo i gadw y heddwch. ABERTAWE.—Safai ystadegau iechydol y dref hon am yr wythnos ddiweddaf, Mawrth 12fed, fel y canlyn: —genedigaethau 36-3 y fil; marwolaethau 24 0 y fit. Y mae gweithwyr alcan CI ay tori, Pontardulais, wedi cyfranu 4p. 5s. ar gyfer Ysbytty Abertawe; 21s. at Ysbytty y Llygaid, Abertawe; ac21s, at Sefydliad y Mftd a'r Bvddar. Cymmerwyd dyn o'r enw Wil- liam Jones i fyny yn y dref ddydd Mawrth, a chaf- wyd ar ddeall ei rod yn eisieu yn Casnewydd, i'r hwn le yr anfonwyd yn uniongyrchol. CAERFYRDDIN. Talodd goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas ymweliad a'r gangen Gymreig berthynol i'r dref hon, nos Lun diweddaf; a chynnaliwyd cyf. arfod dyddorol yn nghapel Union street. Cymmer- wyd y gadair gan weinidog y lie. Darllenwyd y cyfrifon am y flwyddyn, a phasiwyd penderfyniad yn dadgan ein cydymdeimlad dyfnaf ft'r -gynideithas ragorol, yr hwn a gynnygiwyd gan y Parch. Edward Davies fM.C.), ac a eiiiwyd gan y Parch. Cadfan Jones (A.). Wedi hyny, siaradodd Dr. Lewis yn hyawdl a galluog am tuagawrachwarter. Gobeith- iwn y gwneir ymdrech adnewyddol y flwyddyn nesaf. IV. D. Prydnawn ddydd Gwener, cynnaliwyd ymchwiliad yn Barry i achos marwolaeth John Perkins, o'r un gymmydogaeth, yr hwn a dybid oedd wedi cyfarfod &'i farwolaeth trwy gamchwareu. Dywedodd y trangcedig cyn marw ei fod yn dychwelyd o'r Ship Hotel, nos Fawrth; ac iddo, pan yn myned dros y g .vrych mewn lie unig, gael ei daraw gyda ffon; a hyny gan ddau heddgeidwad, meddai ef. 0 ddeutu un o'r gloch y boreu dilynol, bu y truan farw. Dygwyd dedfryd o tofrnddiaeth wirfoddol yn erbyn person neu bersonau anadnabyddus;' a chwanegodd y trengholydd fod nob ammheuaeth ynghylch yr heddgeidwaid yn cael ei thynu yn ol.

LLANDRILLO, EDEYRNION.I

IFFESTINIOG.__I

I DIN B YC H.

I BANGOR.

I ABERYSTWYTH A'R GYMMYDOGAETH.

IY GOGLEDD.