Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
ER SERCiIO6 1GOFI1
News
Cite
Share
ER SERCiIO6 GOF 1 Am Mr Lewis T. Jones, Penrhiw, Dolwyddel- en, yr hwn a hunodd yn yr Iesu Medi 4ydd, yn 30 mlwydd oed. Lewis anwyl, os enyd-yn y bedd Mae'n rhaid bod, cei wynfyd, A nefoedd gyflawn hefyd Uwcb y beddmewn gloewach byd. 7? Mawr, Bettwsycoed. 0. ARFMt JONES, 'y Mawr, Bettwsycoed.
-ENGLYN -COFFA 'I
News
Cite
Share
ENGLYN COFFA Ala Hywel, bachgen Mr. a Mrs. H. Gabriel Williams, Haulfryn Terrace, yr hwn fu farw Gorphenaf 1909 yn 15 oed. Uwchlaw cri o'n byd ni, i'r nef,-o'i boen Hywel bach aetb adref; Heddyw yn wir rhaid addef, Iesn oedd ei eisiau ef. Tanygrisiau. JOHN W. JONES,
YMSON HIRAETH.
News
Cite
Share
YMSON HIRAETH. CYflwynedig i'm cyfeillion, Mri. John Roberts, J U.H a Thomas Roberts, Shop, Pentrefoelas, Wedi colli priod anwyl a mam dyner. Mewn myfyr ymchwilgar rhyw ddiwrnod, A chymysg deimladau yn syn, Fe giliais o ddwndwr y dyrfa I dawel unigedd y bryn Ehedodd fy meddwl yn gyflym I lynwent y Pentre oedd draw, A gvrelwn yn welw a difrif, Wynebpryd mewn beddrod gerllaw. Mor chwith ydoedd meddwl am dani Yn gorwedd yn nghysgod y coed, Mor fywiog y byddai'n ymlwybro Yn ysgafn ei chalon a'i throed; Y corph yn y beddrod yn dawel, A'r yspryd at Dduw 'rhwn a'i rhoes, Yn uno'n y moliant tragwyddol Yn nghwmni ei Cheidwad heb loes. Un wrol, nodedig mewn synwyr, Un addfwyn a thyner i'r tlawd, Un ydoedd yn arwain mewn teulu Urddasol ei golwg a'i rhawd Diddichell ei hysbryd caredig, Dirodres, diwenwyn a doeth, Diabsen a gwylaidd ei bywyd, Un dd'weddai'r gwirionedd yn noeth. Arogla ei bywyd dichlyoaidd Yn hyfryd ddylanwad o hedd, A meddyginiaeth ysbrydoedd Galarns, hiraetbus eu gwedd Mae gwynfyd digymysg y nefoedd A- gwleddoedd y bywyd sydd fry, Yn eiddo didranc i'n chwaer anwyl Yn nghanol dedwyddwch y llu. Na wylwch gyfeillion trailodus Am briod a mam dyner wiw, Ond lienwch eich bywyd yn drefnus A gwaith yn y winllan dros Dduw Trwy hyny daw heddwch- fel afon I lanw eicb mynwes trwy'ch oes, Cewch wledda tra treiglo yr oesoedd Ar Aberth anfeidrol y Groes. J. G. D.
aHIRAETH. GAN
News
Cite
Share
a HIRAETH. GAN etr4 y diweddar Mrs. Annie Jones, aawyI briod Robert Jones, 93, Kenry Street, Tonypandy, 7* hon a hunodd yn yr Iesu gan adael byd a bOen ar yr 2gain o Ebrill, 1909, yn 23ain Mlwydd oed. Wele Ebrill eto'n gwenu Yn ei wisgoedd gwynion cain, Blodau haf yn fyrdd o'n deutu Fel pe'n gwisgo llian main Gwelaf flod'yn gwyn yn gwyvto 0 dan gysgod gwyrdd y coed, Dagrau'n treiglo obervydd colli Annie'n dair a'r hugain oed. Merch rhinweddol, priod hawddgar, Mam ofalus ydoedd hon, Fe'n gadawodd yn ein galar Wrth fyn'd adre' i'r wynfa Ion Gadael priod i alaru 'Rhwn a garai lun ei throed, A'i chyfeillioa i hiraethu, Pan ond tair a'r hugain oed. Seren siniol yn disgleirio Yn ffurfafen Eglwys Dduw, Gyda'r gwan yn cydymdeimlo, Ac i'r Iesu'n mynu byw Ond Bethania yn ddisymwyth Yn ei galar wisgoed roed, Pan yr hunodd Annie'n esmwyih, Dim ond tair ar hugain oed. o pa ryfedd fod ei phriod Heddyw'n colli dagrau'n lli, Tra mae rhyngddo ef ac Annie Donau'r hen Iorddonen ddu; Rhoed ei hegwan gorph i orphwys, Do, mewn destlus arch o goed, Ond aeth Annie fry i'r wynfa Pan ond tair ar hugain oed. Ond os duodd y ffurfafen Yn eich bywyd, dealu mad; Rhowch eich gobaith, gwelwch eto I Annie yn y nefol wlad I Dewch at Iesu," ganai Annie, Yn ei chystudd lawer gwaith, A" Bydd myrdd a ryfeddedau, Yn mhen myrdd o oesodd maith." y mae'r nefoedd yn nes atom Er pan aethost ti i'r bedd, Bydded i dy gorph gael gorphwys, j Annie anwyl, mwy mewn hedd Gwyddom fod dy enaid hawddgar A Yn uwch ei gan na bu erioed, dy fod ti, yn y wynex 1\ 3* ond tair ar bugaln oed. ^«oaga. IOAN MAI,
I Y BLOD'YN UNIG. 1
News
Cite
Share
I Y BLOD'YN UNIG. 1 Flod'yn unig, p'le mae'th geraint Fyrdd a welais dyddiau fa ? Ti wyt beddyw yma'n unig, Wedi gwywo'n chwai mae llu; Gynt fe'n gwelais o dy amgylch Gyda ro der ar ea gwedd, Erbyn heddyw trist yw gweled, Nad oes yma ond eu bedd. Flod'yn unig, Hon a diddig, Gwenu wnei ar fron y ddol, Mor berfelas yw y sawyr Wyt yn wasgar maes o'th gol; Mae dy degwch, dirion flod'yn, 'Nperi i'm d'anwylo di, Ac yn enyn fy nymuniad, Fod yn unu r blodau fry. Unig finau, megis tithau, Ar y ddaear flod'yn mad, Gyda cheraint a chyfeillion, Unig wyf mewn anial wlad; Ond caf ganu ymhen gronyn, Os yn bur y byddaf byw, Gwaredigaeth o unigrwydd Gaf yn rhad yng NgwIad fy Naw. I Gwyndy, Harlech. ^i^AAAAAAAAAA^AAAA^ JOHN LLOYD, I WWVWvW I
IBeirniadaethau EisteddfodI…
News
Cite
Share
I Beirniadaethau Eisteddfod I Trawsfynydd. Y DUCHANGERDD. I Derbyniwyd pump o gyfansoddiadau, a gellir dweyd yn lied ddibetrus nad yw'r un o honynt yn anfarwol. Dyma'r ffugenwau yn nhrefn eu teilyngdod :-Shion y Certiwr, Iolo Goch, Car Llysg, Traedolyn, Hogyn yn g,ru'r drol. Y salaf o dipyn yw'r "Hogyn," a'r goreu fel Duchangerdd ac fel cyfansoddiad llenyddol yw eiddo "Shion y Certiwr." Iddo ef y dyfernir y wobr. Ar air a chydwybod, R. SILYN ROBERTS. I YR ENGLYN I'R SHELL. I Gosodir gwaith Hen Filwr. Mab y Myn ydd, a Careg'r Ogo yn y trydydd dosbarth. Nid yw'r tri hyn eto wedi dysgu gramadeg na meistroli'r gynghanedd. Nid oes cysgod cyn- ghanedd ar waith Mab y Mynydd." Yn yr ail ddosbarth gosodir Ap Madog, Cyflegrwr, Magnelwr, Hedd Wyn, Heddychol, Cynyg, a Oleuad Hedd.. Ceir ambell i linell dda gan bob un o'r rhai hyn, a'r gweddill o'u henglynion yn gyffredin neu salw. Y ddau oreu yn y gystadleuaeth yw Car Heddwch a Garmon. Ac o'r ddau hyn eiddo Garmon yn fy marn i yw'r goreu. Rhodd- er iddo'r wobr. R. SILYN ROBERTS. I SOSIALAETH YNG NGOLEUNI'R BREGETHI AR Y MYNYDD. Daeth tri thraethawd i law dan y ffug- enwau Llais y Wlad, Karl Mark, a Gwerinwr. Llais y Wlad.—Traethawd wedi ei ysgrif- enu yn lied ddestlus a chywir. Ei fai anaele yw'r anwybodaeth dygn, affwysol a ddang- hosir ynddo partbed yr hyn yw Cymdeithas- iaeth. Nid yw eto yn deall A. B. C. y pwnc. Cyn ceisio ysgrifennu arno dylai "Ltais y Wlad "ddadlen a meistroli rhyw waith safon- ol ar y mater, fel Kirkup's History of Social- ism, Villiers' Socialist Movement in England, neu lyfr llai Mr. H. G. Wells, "New Worlds for Old." Peidied a boddloni ar druth papur newydd ar bwnc mor fawr. Trwy ei anwybod- aeth gwna gam a Chymdeith&siaeth ac a'r Brefifeth ar y Mynydd. Karl Mark (sic).De 19y5 y traethawd hwn g raff ter moddyl iol a gwybxiaeth ain el fennau ac ysbryd Cymdeithasiaeth. Bai mwyaf hwn yw ei arddull aflerw a gwallus. Gellid dangos lliaws o wallau iaith a phriod-ddull ar bob dalen ynddo. Prynned ei awdwr lyfryn bychan yr Athro. J. Morris Jones a Llew Tegid, Welsh Orthography, ac astudied ef yn fanul Bydd i hynny wedd-newid ei ddull o ysgrifennu. Oresyngweled mewn cirpiau mor wrthun gymaint o synnwyr a sylwedd 3g a geir yn y traethawd hwn. Gwerinwr.—Dengys ef wybodaeth eangach o'i bwnc, ac ysgrifenna yn well arno ar y cyfan nalr lleill. Gwnai astudio llyfryn yr Atbro. J. Morris Jones les i'w arddull yntau. Dyma'r unig ymgeisydd yn y gystadleuaeth a vm- ddengys i mi wedi gwneyd ymdrech i ddeall ei bwnc. Ysgrifennodd draethawd maith iawn. Dysged ddefnyddio gogr gyda'i waith Rhy hir yw'r traethawd hwn ar gyfer y defnydd sydd ynddi. Pe wedi tynnu rhai tudalennau ymaith. ac wedi coethi'r gweddill, gwnaethai hwn draethawd pur deilwrg. Efe yw'r goreu o gryn dipyn a dyfarnaf ef yn deilwng o'r wobr. Ar air a chydwybod, I R. SILYN ROBERTS. I /VW
I-PENRHYNDEUDRAETH.
News
Cite
Share
I PENRHYNDEUDRAETH. LLYS EDNYFED —Cynhaliwyd cyfarfod ym- adawol yn Llys Ednyfed, nos Ian diweddaf, i ganu ffarwel i Master David L. Roberts, mab Llew Ystradau ac wyr i Mr a Mrs Jonep, ar ei ddychweliad i'r Unol Dalaethau. Llywydd Mr Joseph Humphreys, Gwalia. Cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Mri. W. O. Jones, R. D. Roberts, Irene Roberts, Merina Davies, Annie Humphreys, a Gramaphone Mr Jarrett Humphreys. Cyflwynodd David Jos?ph Fountain Pen i Master David Robei ts ar ran preswylwyr y Ty, a chyflvvynoda y Llywydd Oriawr a chadwen arian ar ran lluaws o gyfeill- ion yn y Penrhyn, a diolchodd yntau i bawb am eu caredigrwydd. Cafwyd anerchiadau gan amryw a phawb yn cyduno i ddymuno yn dda a Duw yn rhwydd iddo ar ei daith.—CVF
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Gencdigaethau. WILT-IAMS -Boreu Sul diweddaf priod Mr, William Morris Williams (ieu), Penybryn, Tanygrisiau, ar fab, JONE".—Medi 21ain, pHod Mr. T. Goodman Jones, Pioneer House, Rhiw a-r fab.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYLCHWYL Lenyddol a Cherddorol Nazareth, Penrhyadendraeth, yr hon a gynhelir RHAGFYR 24ain a'r 25ainf 1909. Beirniad Cerddorol: Dr. J. LLOYD WILLIAMS, University College of North Wales, Bangor. Beirniad yr Adroddiadau: LLEW TEGID. RHESTR O'R TESTYNAU. BARDDONIAETH. Chwe' Phenill wytb llinell coffadwriaethol am y diweddar Joseph L. Williams, Bryn- ffynon. Gwobr, 15/ Englyn, Yr Awyrlong {Airship). Gwobr, 2/6. CERDDORIAETH. I'r Cor heb fod dan 25ain mewn nifer, a gano yn oreu Bryn Calfaria" (J. H. Roberts). Gwobr, £ 5 5s. a 15/- i'r Arweinydd. Parti Meibion, 12 mewn nifer, a gano yn oreu Toriad y Dydd a Codiad yr Ehed- ydd (trefniad Dr. Rogers). Gwobr, £1 10s. a Baton i'r Arweinydd. Parti o 16eg mewn nifer, a gano yn oreu y Don Wilton Square," rhif 197 yn Llyfr Tonau M.C., ar yr Emyn 448 a'r Don "Latchford," rhif 446, ar yr Emyn 5 (dau benill). Gwobr. £ l 10s. a Pair of Silver Mounted Salt Cellars i'r Arweinydd. I'r Cor Plant heb fod dan 16eg na thros 25ain mewn nifer, dan 16eg oed, a gano yn oreu "Clychau'n Canu" (J. Evans, "Cynog- fab.") Gwobr, £ l 5s. a Silver Mounted Walk- ing Stick i'r Arweinydd. Pedwarawd, Y Rbosynan 11 (E. D. Lloyd). Gwobr, 12/ Deuawd, "Y Ddau Arwr" (W. Davies). Gwobr, 10/ Unawd Soprano neu Contralto, "Mab Afrad- lon" (Osborne Roberts). Gwobr, 10/6. Unawd Tenor, Boreu'r Trydydd Dydd" (E. D. Lloyd). Gwobr, 10/6 Unawd Baritone, "Bedd Glyndwr" (W. O. Jones). Gwobr, 10/6. ADRODDIADAU. I rai uwchlaw 20ain oed, Rhan o Ddinistr Jerusalem" (Eben Fardd), (Gwel Rhestr y Testynau). Gwobr, 10/6. I rai rhwng 15ep ac 20ain oed, Rhagorfraint y Gweithiwr." Gwobr, 6/ Rhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael ond anfon stamped addressed envelope i un o'r Ysgrifenyddion:— Mr. J. M. JONES, Mount Hazel. Mr. R. G. GLYNNE, Green Hill. RHAGHYSBYSIAD. CYNHELIR CYNGHERDD MAWR- EDDOG gan BARTI MEIBION Y MOEL- WYN yn Mhenrhyndeudraeth, ddydd Sadwin, Medi 25ain. 1909. Rhoddir £ 3 a Chader Dderw gerfiedig i'r Cor heb fod dan 25 na thros 35, a gano yn oreu Ar lan Iorddonen ddofn" (Gabriel). Cyfyngir i un gynulleidfa, ond caniateir8 oddiallan.-R. MÓRRIS JONES, PENLAN, PENRHYNDEUDRAETH. I "CYFRAITH Y TY," sef CYFROL 0 BREGETHAU gan Y Diweddar William Roberts, Maentwrog, ynghyda Darlun o'r Awdwr. PRIS SWLLT NEU WYTH SWLLT Y DWSIN. Anfoner yr Arcbebion i'r— Parch. T. GWILYM ROBERTS, Eglwysbach Villa, Talycafn, R.S.O. "JOHN JONES." Traddodir DALITH. ar y testyn uchod gan MR. W. O. JONES, ABER, BANGORN yn Nghapel Gorphwysfa (W), Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, NOS LUN, HYDREF 25, 1909. Drysau yn agored am 6-30 dechreuir am 7. Tocynau 1/ a 6ch. Yr elw at gynorthwyo yr acbos yn y lie. JOHN EDWARDS, 2, PORKINGTON PLACE, (Next Door to Post Office), HARLECH. Dealer in Oil Lamps, Hardware, Tinware" Brooms, Brushes, Galvanized Goods, Door Mats, Matting, Mangles, Bedsteads fi Bedding. Agents for Jones' Sewing Machine. Also Shell Motor Spirits and Lubricating Oils. Cycle Agent to the Leading Firms. Y GOLWG.—Mae yn fantais I bawb sydd arnynt angen Gwydrau cywir i'r golwg, ddeall mae yr unig Optician yn Sir Feir- ionydd syd4 wedi paslo Arholiadau mewn PItOF1 Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C.. Medical Hall, Blaenau Festiniog. HYSBYSIAD PWVSIQ. RHYBUDD O SYMUDIAD Y mae W. H. ROBERTS, Wedi SYMUD o 1, Willow Street, lie yr oedd o'r blaen i The OLD POST OFFICE, Square, Llanrwst, Lie bydd yn cario yn mtllen Fasnach fel cynt mewn Trwsio, 9 iwneuthur Es^idiau a CloSs. Dyma, heb os nac onibai, y lie GOREU a RHATAF yn Nghymra. Sicrheir y gwaith aIr defnyddiau goreu am y prisiau gostyngol isod, gan un sydd wedi cael 13 mlynedd a brofiad ,mewn trwsio a gwneuthur Esgidiau. Caiff pob cwsmer ein sylw personol. Gwadnu a Sodlu Esgidiau i Ddynion, 2s 6c. Eto eto i Feohgyn, 28. Eto eto I Ferched, ii a 6c. • Eto eto Plant, is. i fyny. Gwarentir y gwaith a'r defnyddiaa. Mae genym Stoc helaeth o CLOGS newydd, ac hefyd rhai all aw i'w cynyg am brisiau rhesymol. Cofiwch y Cyfeiriad :— ROBERTS', Boot & Clog Factory, Llanrwst. (Y Drws Nesaf i Mr. E. B. JONES & COl D.S.—Trwsir Esgidiau a Clogs tra byddwch yn y dref, neu dant hwy. The CyCLIHC SEASON. NOTE THIS H. R. GRIFFITH. PRACTICAL PLUMBER & GASFITTER High Street, Blaenau Ffestiniog, SUPPLIES ALL THE BEST MAKES BICYCLES. Sole Agent for the unrivalled. RAGLAN & NEW HUDSON BICYCLES. All Cycle Accessories kept in Stock., PLUMBING and GASFITTING of every description executed in the best way, and at most moderate charges. H. R. GRIFFITH, Plumber & Gasfitter, High Street, BI. Ffestiniog. GOREU DAFAD DAFAD I WEDI DIPID. GOREU DIP-DIPS George R. Jones, CHEMIST, The Square, Llanrwst. I CEDWIR POB CYFLAWNDER 0 COOPER, MC'DOUGALL, HIGHLAND, BATTLES, &c. LLYGAID DOLURUS. EU ANFFAELEDIG. BLAENAU FFESTINIOG. Yr wyf yn diolch yn fawr am yr hyn a wnaeth eich ELI i mi. Y mae yn werth i ddweyd yn dda am dano." Mr. $, Pris fSc. drwy y post. Canoedd o dystiol- aethau o Gymru a Lloegr. JOHN HUGHES, Chemist, Castle House, Holyhead. Tha New Welkh,.In,dustry. Merioneth Trinket Shells. Handsbmie articles for pr«?sents on sale at the Hhedegydd Office. -i The HARLECH PUBLIC LIBRARY A GRAND BAZAAR in aid of the above will be held at the COUNCIL SCHOOL, HARLECH, on SEPTEMBER 29th, 30th, & OCTOBER Ist & 2nd, 1909. The Bazaar will be opened on the first day by the Right Hon. D. LLOYD GEORGE, M.P.; on the second day by the Hon. GLADYS FINCH HATTON; on theird day by A. OSMOND WILLIAMS, Esq., M.P. The fourth day will be devoted to SnUe of Work and various entertainments. LLEW. P. GRIFFITHS, PHOTOGRAPHIC ARTIST (UNDER DISTINGUISHED PATE ONAGE) FOR PHOTOGRAPHY OF THE HIGHEST CLASS AT THE LOWEST PRIOES. ENLARGEMENT o unrhyw DDARLUN am 2/6 i fyny CABINET o 3 am 2/6. POSTCARDS 3/- a 3/6 y dwsin. Highly Finished. ANERCHIADAU Elliuminated Addresses] o waith fy Haw i gyd, wedi eu gweithio yn y modd goreu am y Prisiau iselaf. Cofiwch y Cyfeiriad :— ,The "STUDIO," i;' F. .r.Ji" 59, HIGH STREET, Bl. Ffestiniog.