Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I ,.", , O' CYLCH. I it¡ -',,;tv…

News
Cite
Share

O' CYLCH. I it¡ -tv k:£.;t \(. ,IJ N IJ, ø íI1J Mzs slo/?a.s Egryn yn y Dsheudir. I Yn Yscra d gyn'-us yr oedd yr efengyles o E?ryn yr wythnos ddiweddaf yn cynal ¡ cyfarfodydd cyhoeddus, ac oddiyno daw yr qeiroje.i;c! fod y gokuni sydd yn ei dilyri yn I ymddangos yno yn eglur iawn, Manv yn DdiewySlys. Cyhoeddir yn swfddogol yr wythnos hon i'r -Ilwe,- ,lar Mr Robert Davies, y Borth farw heb rvnejd ei ew^Hys, gan adael eiddo ar ei 01 yn werth 420,000p (pedw^r cant ac ugain o filoedd), El yr eiddo gan hyny i dri rnab ei frav,d—Mr Richard Davies, y rhaiyw ei berthynasau agosaf. Bydd coffa- dwriseth d.weddar Mr Davies byth yn anwy! gan am! i gylch yn Nghymru, Lloegr, a'r India. Y Barnwr Syr Horatio Lloyd. I Cyhoeddid yn rhai o'r newyddiaduron Seisn-g ddechreu yr wythnos fod y Barnwr Lloyd yn bwriadu ymneillduo oddiar Fainc ¡ Llys y Manddyledion a bod Mr Samuel Moss, A.S,, yn cjel ei benodi yn ei le. Yn ol datganiad Cofrestrydd y llys yn Nghaer, ac ar avvdurdod y Barnwr, y mae yr oil yn anghywir. Mas yn deby.r mai dychymyg rhywun yn codi oddiar y < faith mae byrion ydyw eisteddiadau y Barnwr yn ddiweddar, ac hefyd argoelion amlwg o wendid corff. Pa bryd bvrag y daw yr ymddiswyddiad ddaw neb i'w legymer fwyo dr&fferth i ddod o hyd i'r gwir, nag y mae y Barnwr Lloyd wedi gymeryd. Ymddiswyddiad Gorsaf-fei* tr. Nid oes n mhlith swyddogion gorsafol y London & North Western swyddog mwy adnabyddus a pharchus na Mr. J. A. Vaughan, Colwyn Bay. Vn ystod ei swydd- ogaeth gyda'r Cwmni bu Mr. Vaughan yn Mlaenau Festiniog, Caergybi, Flint, ac yn ddiweddaf oil yn Nghohvyn Bay. Cofus genym pan yr ymadiwodd a Blaenau Ffestiniog i'r cyfeiliion yno gyflwyno anrhèg o oriawr aur hardd a chostfawr. Yno fel yn mhob man y bu ar ol hyny hawli&i ei ym- ddygiad y parch uchaf fel dyn a boneddwr. Llwyddai yn w?stad wrth wasanaethu ei feistriaid i foddioai y cyhoedd, ac i gael iddynt yr hyn ystyrid yn deg a chyfiawn, pan y gwneid cais ar eu rhan. I Y Neuadd Gyhoeddus. Bu trafodaeth ddysdorol yn Nghynghor nos Wener yn nghylch gosod y Neuadd i gynal cyfarfodydd gam amser ar y nos. Yr oedd y gair wedi myr.ed allan fod y Cadeir- ydd a'r Cle<c wedi cymeryd mantais anheg- I ar eu safleoedd i agor y neuadd heb feddwl am dalu am dani. Ond siarad o dan eu dwylaw yr oedd y sawl a daenasant chwedl o'r fath. Cymerwyd y Neuadd yn rheolaidd am y pris arferol, ac y mae y pedair punt yn eiddo y trethdalwyr. Nid ydys am fyned i ddadleu dim ar y priodoldeb na'r an- mhriodoldeb o gynal y cyfarfodydd fu ar y pedair nason grybwylledig, ond y mae yn amlwg y gall rhai synio fod cynal cyfarfod ar ol awr neillduol yn bechaduius am y dylai "pawb gonest fod yn eu gwely erbyn amser penodol. Cario pethau i eithafion yw hyny, neu yr oedd cyfarfodydd y diwygiad diweddaf fu yn y wlad bron i gyd yn bechadurus gan iddynt gael eu cynal i fyny i oriau man y boreu mewn canoedd o engreifftiau. Nid ar yr awr y cynhelir cyfarfod, ond ar ei amcan y mae pwys i'w roddi, ac anhawdd iawn fydd deddfu yn bendant ar bwngc yr amser. Pur yw pobpeth i'r rhai pur," ond y mae ochr arall i'r anmhur." Y Sefyllfa Arianoi. I Wrth son am y Cynghor uchod, yr oedd yn llawen iawn gan bawb glywed am y sefyllfa arianol ragorol y maent ynddi. Ery gwaith mawr sydd ar law. a 41 o ddynion ychwanegol wedi eu cymeryd i mewn, mae pob gofynion wedi eu cyfarfod, ac yn agos i fit o bunau wrth gefn. Gofal arbenig y Cynghor a'i swyddogion ymroddedig sydd yn Cy frif am beth fel hyn, a dylai yr ardal werthfawrogi y cyfryw. Gallesid bod mewn anhawsderau mawrion, yn enwedig yn bresenol pan y mae masnach mor nodedig o farwaidd yn ein plith. j Ymddiswyddiad o Wasanaeth I Teilwng. Fel y gwelir oddiwrth adroddiad Bwrdd Gwarcfceidiol Llarrwst, bu i Mr a Mrs Jones y Ty ymddiswyddo, ar ol tua 34 mlynedd o wasanaeth ffyddlawn yn ngwir ystyr y gair. Gallasai y Bwrdd gynal cyfarfod i ddim ond canmcl yr oruchwyliaeth pe dymunasent, ond fei y gwyddis, eu gwaith sydd yn siarad uwchaf ac a-nlycaf. Dyma oruchwyliaeth wedi ei chyflawni heb fod dim annymunol yn perthyn iddi, ac y mae hyny yn beth eithriad- ol mewp cyichoedd o'r fath. Mae gwaith parhaolwedi ei wneyd gan y Meistr a'r Feistres na ddileir bvth mo hono, yn en wedig I ynglyn a'r plant. Cawsant ofal tad a mam megis, a phereicidiwyd ami i glaf wely gan eu-gofil a'u caredigrwydd. Yr oedd Clerc y Bwrdd yn gallu I tystio dydd Mawrth nad oedd cymaint a gair croes wedi digwydd ynglyn a Mr a Mrs Jones yn ystod ei holl adnabyddiaeth o honynt. Yrl wir Y) cwestiwn mawr yn awr ydyw, pa fodd y ceir j rhai i lanw eu Ile--rhai oyflgwnant y dyled- I rhai i lanw eu lle--rhai gyflawnant y dyled-I swyddau nid fel swyddogion yn unig, ond fel dyng-arwyr hefyd. Nid ?waith hawdd fydd hyny. Caffed y ddau lawer hawddfyd am weddill yr oes-Ilawn deilyngant hyny. A A a Marw Dan'Ganu, Cynhaliwyd trengholiad yn Treffynon yr wythnos hon, ar gorph plentyn bach tair a haner oed, fu farw mewn carll yniad i gael ei losgi ganol yr wythnos ddiweddaf, galwyd y tad i'r ty, yr hwn ganfu ddillad y bychan wedi cymeryd tan, ac wedi llosgi cymaint fel yr oedd ei adferiad yn anobeithiol. Flannelette oedd defnydd y dillad, y rhai fel y mae ynhysbyserbyn hyn, afawrgondemnir gan feddygon ac awdurdodau eraill. Yr oedd y bychan druan wedi ei gymeryd i fyny gymaint gan yr etholiad, fel y ceisiai yn ei ddyryswch ganu We'll vote for Howell Idiio." Siaradodd y Trengholydd yn gryf ar y perygl o ddefnyddio y nwydd dan sylw at ddilladau. Pryder Ynghylch Llong o Borth- madog. Y mae dros fis bellach er pan glybuwyd dim da am y llong Pluvier, perthyno li'r Mri Pritchard Bros. Ofnid ygwaethaf bythefnos yn ol, gan i'r llestr adael Portugal ar y 23ain o Ragfyr, am Porthmadog, ac er hyny nid oes ond He i ofni y gwaethaf. Yr oedd y llestr dan ofal Capt Ebenezer Parry, ac yr oedd un arall o'r dwylaw yn enedigol o'r Port sef Francis Jones East Avenue. Yr oedd 4 i gyd ar ei bwrdd, ac ar lanau yr Iwerddon ddiwedd yr vvythnos deuwyd ar draws oriawr wedi ei hysgubo i'r lan, ac eiw un o'r dwylaw arni. Mae hyn yn gwneyd colliant y llestr yn lied sicr, er na wyddis yn 1 y gradd lleiaf pa le y cymerodd hyny le. Mae llawer o gvdymdeimlad yn cael ei arddangos gartref at berthynasau y dwylaw anffodus, a'r perchenogion. Y newydd diweddaf ydyw fod cyrff dau o'r dwylaw wedi eu gweled ary 6ed o Ionawr yn cael eu euro i'r Ian a'r ororau yr Iwerddon, ond i'r llanw eu cario allan drachefn. vU Y Barnwr a'r Carcharorion: Yn Mrawdlys Rhuthyn ddiwedd yr wythnos dangosodd y Barnwr Laurence gryn lawer gryn lawer o ddyngarwch yn ei waith yn cyfeirio at y priodoldeb o wneyd rhyw drefniad ar gyfer dyfodiad carcharorion allan o garchar. Yr oedd yn ddyledswydd, meddai ar rywun dz-ofnu cynllun > godi v dyrion hyny oeddynt wedi syrthio, i'w codi ar eu traed—dynion oeddynt wedi eu hamddifadu o bob cvmdeithas ac awyriad, oddigertb eiddo y carchar. Yn ol ei farn ef peth angenrheidiol a dymunol iawn fuasai trefnu i'w cyfarfod, ar eu dyfodiad allan a rhoddi help iddynt! ail gychwyn. Gallai caredigrwydd wneyd llawer dan amgylchiad- au o'r fath. Yn Mrawdlys y Wyddgrug yr wythnos hor eto geilw ei Arglwyddiaeth sylw at y gwasanaeth canmoladwy wneid gan Gymdeithas er cynorthwyo Carchatorion ar eu rhyddhad. Wrth gyfeirio at eneth o forwyn oedd i sefyH ei phrawf, sylwodd mai y peth mawr oedd dod o hyd i rhyw foddion i osod y ferch ar y Ilwybr iawn i ail gychwyn ac i sicrhau gwasanaeth anrhydeddus a gonest iddi. Hysbysodd un o'r bargyfreith- wyr fod boneddiges yn barod i gymeryd gofal yr eneth a'i gosod yn Y Cartref yn Nghaer. Nld yw y Barnwr Laurence yn credu carcharu pob troseddwr, os gellir" ei wella drwy rhyw foddion cyfieitnlon arall. Yn hyn eto mae Barnwyr ein gwlad yn anghytuno. 5lc >I< 2k II Sul y Cyfandir 11 yn Llandudno. Mae sylw pobl Llandudno yn cael ei dynu at ddau symudiad pwysig y dyddiau hyn, dau symudiad, os llvvyddir i'w cario allan, a wna y Sul yno yn debyg i'r rhai a dreulir ar y cyfandir. Un symudiad yw cael cerbydau trydanol i redfeg yn ol a blaen i Colwyn Bay yr hyn sydd i bob pwrpas ymarferol wedi fi benderfynu, ar ddyddiau yr wythnos. Ynglvn a hyn ymddengys fod teimlad cryf yn mhlaid cael trafnidiaeth ar y Sul ond y mae aelodau y Cynghor Dinesig-y mwyaf- rif beth bynag,—wedi sefyll yn ei erbyn, gan y credant y byddai y trigolion yn wrth- wynebol iawn i hyny. Goreu po gyntaf, medd un gwr profiadcl, i drigolion Llan- dudno agor eu llygaid ar berygl yr elfen a'r ysbryd Seisnig yn y cyfeiriad hwn, oblegid unwaith y llwyddir i gychwyn peth o'r f; th nid yw yn anhawdd dyfalu y canlyniadau. Symudiad arall yno ydyw ceisio agor y Golf Links ar y Sul. Fel esgus dros ddadleu yn mhlaid hyn, darogenir os na wneir hyny, y bydd y golled i Landudno drcs ugain mil o bunau y flwyddyn. A glywyd son am y fath honiad ar fater mor bwysig. Hysbyswyd ni gan rai oedd yn gwybod fod deiseb wedi ei thynu allan er gwrthdystio yn erbyn y symudiad, ond fod lliaws o aelodau eglwysig wedi gwrthod ei harwyddo, gan nad ystyr- ient fod ganddynt hawl i farnu dros y Saeson hyny y dywedir eu bod yn dyfod drosodd o Loegr er mwyri oel chwareu ar y Sul. Ffaith hynod o ddifrifol, os ydyw tai- ddalwyr tref glan y mor yn myned i ymddi- bynu am ei bywoliaeth ar y wag-chwareuon y Sul. Yr ydym o galon yn llpngyfarch gweinidogion crefyddoly drefar ystandrymus i wrthwynebu hyn. Galanastra ddifrifol fydd rhotldi unrhyw gefnogaeth i hyn ac nid oes angen i neb sawru yn or-grefyddol i I wrthwynebu ymgais o'r fath. Pe caniateid hyn, ni byddai o gwbl yn rhyfedd gweled y Blacks hwythau yn tori allan, ar bwys y II teimlad estronoI hwn. Mae yn amlwg fod hyd yn nod y drychfeddwl am y fath beth yn peri dirlawr boen i arweinwyr crefydd yn y dref, a buan, buan, rneddwn y byddo i'r syniad gael ei ymlid i ffordd.—Ar ol ysgrifenu yr uchod, da genyrn ddeaH fod y Mri. Bruce, Peebles; y cwmni sydd yn ymgvmeryd a chario allan' j cynllun trydanol, wedi penderfynu na bydd iddynt ganiatau trafniuiaeth ar y Sul, os bydd hyny yn groes i deimlad y Cyngor Dinesig. Yn ngwyneb hyn ni raid pryderu llawer gan fod yn y Cyngor ddigon o fwyafrif a weithredant yn y mater yn gyson a'u proffes a'u hargyhoadd- iadsu crefyddol.

I Nodion o Dojwytldiltn-

--- - - -I -- - -I 1-WISE…

[No title]

I B,;wa¡en a Ffestffniog.…

ICroesor.