Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL1

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL 1 Mr. Winaion Cnurchilf. Mae dyddordeb cyffredinol a byw iawn y cyhoedd yn mhriodas Mr. Win- ston Churchill, yr hon gymerodd le dydd Sadwrn diweddaf, yn dangos y safle bwysig sydd iddo yn ngolwg y wlad, a'r modd y rnae:wedi enill ei sylw. Nid yw eto ond tair-ar-ddeg a'r hugain oed er hyny gwylir ei symudiadau a delir ar ei eiriau i fesur mwy nag y gwneir yn achos unrhyw aelod arall o'r Weinyddiaetb, ac eithrio Mr. D. Lloyd George yn unig. Er nad oes ond ychydig amser er's pan dorodd ei gysylltiad a'r blaid Doriaidd, y mae yn Rhyddfrydwr iach a chryf, ac os nad ydym yn camgymeryd, gwelir ef cyn bo hir (os caiff fywyd ac iechyd) yn gweith- io ym mhlaid diwygiadau cymdeithasol y buasid ychydig flynyddoedd yn ol yn eu cyfrif yn chwildroadoi i'r eithaf. Ffaith ag y mac yn wiw gwneyd cyfrif o honi ydyw y cyfeillgarwch rhynddo a Mr. Lloyd George, Yr oedd ei ymwel- iad a'r Eisteddfod yn nghwmni y Canghellydd yn dangos fod teimladau caredig ihyngddynt, ond ceir arwydd eu bod yn gyfeillion mynwesol yn y ffaith fod Mr. Lloyd George yn un o'r tri a arwyddasant dyst-ysgrif ei briodas; ei fam a brawd y briodasferch oedd y lleill. Mae hyn yn ddigon i'n hargyhoeddi nad oes perygl i'r ddau genfigenu y naill wrth y Hall, ond y ceir, hwy yn cyd- weithio o un galon ac un enaid mewn gwaith a ddwg enw iddynt hwy ac elw mawr i'r wlad. Da ydyw gweled dau wr fel hwy yn aelodau o Weinyddiaeth Ryddfrydol. Y mae yn ddigon i'n sicr- hau ei bod yn weinyddiaeth o ddifrif, a'i hamcan nid i ofalu am fuddianau un dosbarth mewn cymdeithas, ond i geisio daioni y bobl oil. Hir oes a iechyd i Mr. a Mrs. Winston Churchill.

Argyfwng Gweithfaol Pwysig.___

Gwrthdysiiad Athrawon Arfon.…

Gair yn ei Bryd. j

.Etholiad Newcastle-or.-Tyne.

■ I.... Diolch i Mr. Lloyd…

Adroddiad Dyddorol.I

'▼▼▼WTVVVVVVVvy-TAUSARNAU.

vvvv VVVWVVWWV Y Ddamwain…

Advertising