Hide Articles List

16 articles on this Page

YN NGHWMNI NATUR. I

News
Cite
Share

YN NGHWMNI NATUR. I 11 (GAN CAERWYSON). I (Hawl-ysgrif). I Addewais fyned y tro hwn am nythod rhai o'r Adar y dyry Mr. Walpole-Bond hanes mor ddyddorol am danynt yn y De. Mae'r Adar yn hynod debyg eu dull gyda ninau yn y Gogledd; o ran hyny, reolir pob aderyn, lie bynag y bo, gan ei reddf ei hun. Yr un dull sydd i'r nythod. yr un lliw i'r wyau lie bynag y ceir hwy ond y mae eithriadau, a dylid cofio mai eithriadau ydynt, ac nid y rheol gyfiredin. Yn gynar yn y Gwanwyn, yr oeddwn yn cerdded ar brydnawn lied braf o Bettwsycoed, ar hyd yr "hen ffordd," am Lanrwst, a phan yn ymyl pen y llwybr sydd yn arwain ar hyd y Dolydd am Lanrwst, bu imi roddi'm pwysau ar wal yr ochr chwith i'r ffordd i edrych ar nifer o foneddigion oeddynt gyda math o bastym-ffyn yn chwareu plant gyda ryw bel wen feclian. Gallaswn feddwl mai yr orchesta;amp oedd taraw y bel i'r pellder mwyaf. Meddyliwn ynof fy hun, pe buasai y cyfeiliion caredig hyn yn gallu taraw y peli nes I y buasent bythefnos tu draw i'r lleuad," pa faint callach a fuasent ? Hwyrach pe disgyn- asai y bel yn y lleuad, y buasai yn degan hwylus i'r lloerigion (os oes rai yno fel sydd yma) ehwareu a hi, fel y gwna eu brodyr yma. Fodd bynag, tynais lyfryn bychan o'm llogell, a dechreuais ei ddarllen, tra yr elai y pedwar cyfaill ar ol y peli i gyfeiriad Llanrwst. Wedi i bobpeth dawelu, clywn grawc o'r tu ol i mi yn y coed ffawydd uchel oedd yno. Dyna fran. Nage, Cigfran ydyw, mor siwred a bod siwr mewn bod." Sylwais arni yn modrwyo o amgylch y chwe coeden brigddu gan ddod yn is bob cylch a roddai, nes o'r diwedd ddisgyn o honi ar frig un o honynt. Galwai ar ei chydmar, ac atebai hono yn lied ddistaw, nes yr aeth yn sgwrs brysur rhyngddynt. Aethym i fyny y llech- wedd mor gyflym ag y gallaswn, a gwelwn y nyth, a'r Gigfran yn edrych arnaf drdseiymyl, ac yn hedeg ymaith ar ol y llall heb wneyd y swn lleiaf. Aethym i fyny'r goeden mor fuan ag y gallwn, a phan bron o fewn cyraedd y nyth, daeth cryndod ac ofn drosof yn tarddu o'r llawenydd o gael nyth Cigfran am y tro cyntaf erioed mewn pren. Nid oedd amser i'w golli, ac ar unwaith, er gochel peth a fuasai gwaeth, daethym i lawr heb yr un o'r wyau er mor dda fuasai genyf gael cwpl o honynt. Hwyrach mai'r oil a gymeraswn, fel coffa am y darganfyddiad hwn. Yr oedd yn ddigon buan ar y flwyddyn i corvus corax ail nythu, a magu cywion. Yn mis Mai, aethym un prydnawn am dro i fyny i Geunant y rhed afon fechan trwyddo. Cefais ami nyth Bran Dyddyn-y Fran Ddu, yn yr ychydig goed dyfant ar y ll".h ?.d? sydd ar y llaw chwith wrth fyned i fyny, ac am beth cyffelyb y meddyliais y tro hwn. Ar gwr isaf y coed gwelwn nyth, ond yr oeddwn ar yr ochr chwith i'r Ceunant i allu myned ato heb wlvchu, gan fod yr afon yn bur llawn o ddwfr y diwrnod hwuw, a rhaid fu myned i fyny ar d yr ochr lle'r oeddwn, ac felly y bu. Weui fnyned bron gyferbyn a chwr uchaf y coed, gwelwn fod hen nyth y Fran Dyddyn yn arcs lle'r oedd y flwyddyn cynt, ond nid oedd -arwydd a newydd-deb o'i gwmpas, ac felly ni wneis sylw pellach o hono. Wedi myned i fyny encyd o ffordd, cefais le y gellais neidio o faen i faen a chroesi yr afon, a chyn pen hir yr oeddwn yn ymyl cwr uchaf y coed. Methais a pheidio troi i edrych ar yr hen nyth Bran oedd yno, ac er fy syndod am boddhad gwelwn aderyn yn eistedd arno; ond nid Bran mo hono: y mae yn llwydach. Nid y Cudyll Cyffredin (Sparrow Hawk) mo hono ychwaith: y mae yn llai na hwnw. Mewn hen nyth Bran neu Bioden y bydd y Cudyll hwnw yn nythu bron yn ddieithriad ond pa aderyn yw hwn ? Math o Gudyll ydyw beth bynag: llwyd-Ias, pig fer fachog, dau lygad melyn, pen goleu gyda rhesi duon. Cod- odd oddiar y nyth, a dacw fo ar y clogwyn yr ochr arall. Yr oedd pedwar o wyau yn y nyth, cryn lawer yn llai nag eiddo y Cudyll, a'r coch yn llwydach o gryn dipyn y Cudyll Glas, neu Cudyll y Grug (Merlin) ydyw, fel y prawf ei ddull o hedeg fel y Ceiliog Coed (Woodcock) pan yn myned o fan i fan ar ol cael ei godi. Ar y Hawr, yn nghysgod y grug, y bydd ef yri dodwy,—ni ddywedaf nythu, gan nad yw yn gwneyd nyth teilwng o'r enw yn mhellach nag ychydig crawg-wellt. Yr oeddwn yn ystyried caei y nyth hwn yn werth gwneyd sylw arbenig o hono. Gwelaf i Mr. Walpole-Bond gael un tebyg Mai 22, 1903, gyda thri o wyau. "Nyth Cudyll glas mewn hen nyth Bran,-lIe neilldu- 01 o anghyffredin," meddai yr Awdwr galluog. Gadewais y pedwar wy yno i'r Aderyn prin a phrydferth hwn gael eu deor, a magu ei gyw- ion. Trueni yw eu difa fel y gwneir yn ein gwlad: Ond lie mae'r nyth axall a welais ? Rhaid myned yn is i lawr i'r cwr isaf o'r coed. Dyftia fo, a Bran yn eistedd arno nid y Fran Ddu ydyw, ond y Fran Lwyd (Hooded Crow). Dywed Walpole-Bond ei fod yn gadael y Fran hon heb son am dani, am nad yw yn nythu yn Lloegr na Chymru, ac nad yw i'w gweled ar Crogbren y Ceidwad Heiwriaeth ondyn yr Iwerddon a'r Alban (tudalen 38); a dywed y Parch. J. C. Atkinson, nad yw yn wybyddus byth bron yn nythu yn Lloegr. Dywed Edward Newman a Miller Christy ei bod yn nythu yma yn achlysurol. Yr wyf yn bollol sicr mai hi oedd ar y nyth hwn, gan i mi weled degau o'r Brain hyn yn cael eu saethu yn Sir Fflint yn y gauaf gyda'r Brain eraill. Hefyd, cefais nyth un ar dir Rhiwgoch, Trawsfynydd, bedair blynedd yn ol. Y mae nyth ac wyau y Fran Ddu a'r Fran Lwyd yn hollol yr un fath, ond y mae lliw y ddwy yn wahanol iawn, un yn ddu gyda gloywder gwyrdd ar ei ply, a Hall yn llwyd-Ioyw. Os yr an y Fran Lwyd yw y fwyaf ysglyfaethus, a dichon fod hyny yn cyfrif am ei diflaniad bron yn llwyr o'n gwlad, gan fod gwn Amaethwr a Cheidwaid helwriaeth yn aneledig ati bob troy dikw i gyraedd ergyd.

BETTWSYCOED. I

rvvvvvvvvvvvvvvvvwvwvvwvv\…

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG. I

0 QADAIR YNYS FADOG._______j

HARLECH.

ICwymp Angeuo! yn Ngwallgofdy…

TRAWSFYNYDD.

Marwolaeth Mr. Sankey.

Damwain Angeuol gyda Modur.

I ARWEST FARDDONOL GLAN ,GEIRIONYDD..

I - - - - - - PENMACHNO.

ICRIOCIETH.

LLANGERNYW.

[No title]