Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
NODION O'R CYLCH. -_..-
NODION O'R CYLCH. FEL y gwelir, yr ydym yn cyhoeddi Adrodd- iad gweddol lawn o weithrediadau Cyngor Dinesig Ffestiniog yr wythnos hon. Y mae nifer luosog o gwynion wedi eu gwneyd i ni gan y trethdalwyr ein bod yn cadw gweithrediadau y Cyngor yn ystod y misoedd diweddaf, oddi- wrthynt, ac y mae rhai o aelodau y Cyngor, meddir wrthym, yn dywedyd yr un peth. Gallwn sicrhau ein holl ddarllenwyr nad oes y saii leiaf i'r gwyn hon, a gwyr holl aelodau y Cyngor hyny yn dda, ond fod rhai o honynt yn llechu yn nghysgod beio eraill er ymolchi o'u beiau eu hunain. Y mae pob cyfarfod gynhal- iwyd yn agoredwedi ei osod o flaen y cyhoedd; ond am y llu cyfarfodydd gynhaliwyd yn ddirgelaidd, a ddylasant fod yn gyhoeddus, nis gallwn ond gadael eu hanes dan y lien y buwyd yn ei chysgod yn cario pethau perthynol i'r trethdalwyr yn mlaen fel nad allent wybod am danynt yn ol dull holl Gyngorau eraill y wlad. Pe cynalesid y cyfarfodydd oil yn gyhoeddus, arbedasai yr amheuaeth cyffredinol sydd yn nghylch amgylchiadau y Cyngor, a rhaid fydd i'r cwbl ddod i'r goleu yn fuan. Llawer iawn gwell fuasai hyny, na bod aelodau y Cyngor yn adrodd rhanau o'r gweithrediau, athrwyhyny achosi drwg dybiaeth lie na ddylai dim a'r fath fodoli. LLAWEN oedd genym weled Mr. Lewis Richards wedi gallu dod i'r Cyngor ar ol ei hir waeledd. Yr oedd ganddo genadwri gwerth dod yr holl ftordd o Cefn Panwl i'r Blaenau i'w thraddodi, a dyna yr unig beth a wnaeth nos Wener yn y Cyngor. Cenhadaeth fawr ein cyfaill y tro hwn fel ami i dro yn flaenorol, ydoedd canmol1 y Cambrian News am alw sylw at y Llan fel lie i ymwelwyr. Paham canmol un o'r newyddiaduron a gynrychiolir yn y Cyngor mwy na'r lleill sydd ddirgelwfih i ni. Nid yw y Cambrian News wedi gwneyd dim ar nad yw y lleill wedi ei wneyd yr un ffunyd. Peth arall teilwng o sylw yw, ei bod yn talu i'r Swyddfa hono ganmol y Llan. Onid un o'r Swyddfa hono ayflogwyd gan wyr doeth y Llan i ysgrifenu Guide Book iddynt ? Onid oedd neb yn y Llan ei hun allasai wneyd hyny ? Onid yn Swyddfa y Cambrian News yr argraffwyd y Llyfr, a hyny heb ofyn pris neb arall am wneyd y gwaith Hwyrach y cawn wybod gan Mr. Lewis Richards yn y Cyngor nesaf faint dalwyd am y Llyfr, bydd hyny yn gynorthwy i ni wybod ychydig o'r rheswm sydd dros waith y newyddiadur sydd on the brains gan Mr. Richards am gan- mol y Llan mor selog. Y mae rhywbeth yn peri bob cath lyfu'r pentan beblaw huddygl." WRTH grybwyll fel hyn am y newyddiadur- on a'r Cyngor uchod, hwyrach ita byddai allan o !e ynom grybwyll am fater arall. Yn mhob cyfarfod braidd a gynhelir rhaid i'r wasg gael cryn sylw, tra nad oes a wnelo y Cyngor ddim oil a'r wasg mwy nag sydd a wnelynt a gwneyd ifyrdd trwy gorsydd y lleuad. Rhaid cyfar- wyddo y wasg sut i wneyd beth i'w gyhoeddi, a pheth ibeidio, a hyny ynbarhaus. Yn y Cyngor diweddaf gwnaed y sylwadau a ganlyn Yr wyf yn siwr y gwna y wasg sylw o hyn."— Gobeithio y bydd y wasg mor garedig a pheidio cyhoeddi dim a ddywedodd Mr. r~—"Dylid chwilio i'r peth er mwyn i'r wasg ei kyhoeddi," &c. Credwn mai "gadael at dcoecmneb y gohebwyr," fel y sylwodd Mr. William Owen, yw y goreu o dan bob amgylch- iad, ac yna ni bydd lie i neb feio y Cyngor am ymyraeth a'r wasg. Hefyd, yr ydym yn edrych yn mlaen am i'r un breintiau gael eu hestyn i ni yn y He hwn ag a roddir i gynrych- iolwyr oddiallan. Os oes blaenoriaeth i fod, y wasg leol ddylai ei gifel gan eu bod yn dwyn baich y "hi yn y He, tra nad yw y rhai oddi- allan yr* talu dimeu o dreth yn y Dosbarth. Blin genym wneyd y sylw hwn, ond anhegwch digymysg yw dangos ffafr a phleidiaeth, ac ni chaiff hyny basic heb wrthdystiad pan gymer Ieeto. YN Heddlys y blaenau ddydd Iau, gwysiwyd pump 0 langciau, y dodwyd eu hoed i lawr ar bapurau y Llys fel tua ugain, am luchio cerig at eu gilydd ar y brif-ffordd. Nid oeddid yn pwyso am ddirwy, ond cymerid y cwrs hwn yn eu herbyn am eu bob yn peryglu diogelwch y cyhoedd. Y mae y wers roddwyd iddynt yn gyfryw ag a ddylai gael argraff ddofn ar eu meddyliau. Hysbyswyd hwy fod bachgen yn yr ardal wedi colli ei lygad trwy i fachgen arall ei daraw a chareg. Hefyd rhybuddiwyd hwy i beidio sefyllian ar ochrau y ffyrdd, ac y gwysid hwy os gwnant. Canmolwyd yr heddlu am ddod a'r achos yn mlaen, a bod yn rhaid rhoddi arferion drwg fel hyn i lawr yn yr ardal. DICHON nad oes nemawr Gyngor trwy yr holl wlad sydd yn fwy trefnus gyda'i waith, ac yn ei wneyd yn fwy effeithiol, nag ydyw Cyngor Dinesig LIanrwst. Y mae y gwelliantau lluosog wnaed ganddynt yn ystod y blynydd- oedd diweddaf yn deilwng o Gyngor dengwaith ei faint. Rhoddasant wedd newydd ar y Neuadd lledwyd dwy gonglsgyfyng a pherygIus ar yr beolydd, a Jluaws o bethau eraill aliasem eu henwi, a'r oil yn ddidramgwydd iddynt eu hunain a'r trethdalwyr. Yn y Cyngor nos Wener, cyflwynwyd adroddiad Swyddogol Archwiliwr y Llywodraeth, yn datgan ei f odd had o gael pobpeth mor gywir a threfnus, a bod gweddill o 4_963 5s llc yn ffafr y Cyngor ar derfyn y flwyddyn. Llon- gyfarchwn hwy ar eu sefyllfa foddhaol. CAFWYD sylw yn Mwrdd Llanrwst ddydd Marwth ar y tlodion oeddynt dros ddeg a thri- ugain oed o fewn cylch yr Undeb. Yr eedd 81 o honynt ar lyfrau y Swyddogion, a theimlid y gallai meibion lluaws mawr o honynt drefnu i wneyd heb yr elusen gan eu bod yn cyfranu rhyngddynt bron yr oil a roddai y Bwrdd fel elusen. Pe Ilwyddid i gael y tlodion oeddynt yn a thros 70 mlwydd oed oddiar lyfrau yr Undeb am flwyddyn, deuant i mewn am ddeg swllt yr wythnos fel blwydd-dal, ac ni byddent yn "dlodion" yn ngolwg y gyfraith. Teimlai y Bwrdd fod yn bwysig i'r mater hwn gael sylw cyhoeddus. Yr oedd Penmaenmawr yn codi trysorfa at yr amcan hwn. YR oedd yn dda iawn genym weled Dr. W. Michael Williams, Penmachno, wedi gallu dod i'r Bwrdd uchod. Y mae y Doctor rhadlon a charedig yn cwyno er's cryn amser, ac wedi ei gyngori i gymeryd seibiant am fis neu chwech wythnos er adgyfnertbiad i'w iechyd. Efe yw swyddog meddygol hynaf yr Undeb, ac yn ystod y tair blynedd a'r hugain y bu yn y swydd ni chafwyd achos i gwyno am ddim a wnaeth. Y mae y tlodion yn agos at ei galon, a'i ofal am danynt yn eithriadol. Cydunwn a'r Gwarcheidwaid a'r holl wlad i ddymuno i'r Doctor hir oes, a llwyr adferiad. PROFODD y trefniant newydd gyda rhoddi bara allan i dlodion yr Undeb yn Llanrwst yn unol ag awgrym Mr. Hughes, Meistr newydd y Tlodty, yn ol fel yr oeddynt yn gallu ei fwyta yn hytrach nag wrth y pwysau, yn fanteisiol nodedig ac yn arbediad mawr yn ystod y tri mis a basiodd, gan i 120 pwys y mis gael ei roddi allan yn llai nag oedd ar y Tabl Bwyd yn ei ofyn. Wrth ei roddi fel ei defnyddid nid oedd dim yn myned yn ofer, ac yr oedd pawb yn cael eu digoni, a theimlo nad oeddynt yn cael eu bwyd wrth fesur a phwysau. Yr oedd yn dda iawn genym gael ar ddeall fod y tlodion mor ddedwydd o dan ofal Mr. a Mrs. Hughes, a'u bod hwythau mor garterfol yn ein plith. Y mae y Ty yn "gartref" yn ystyr lawnaf y gair oddiar yr amser y daethant yma, ac y mae bob tlawd sydd yn y lie yn teimlo hyny. CAFWYD Arwest nodedig o Jwyddianus ar lan Llyn Geirionydd ddydd Iau. Yr oedd y Beirdd, y Llenorion, a'r Cerddorion, mewn hwyl nodedig, Llawen oedd genym ddeall i'r Arwest gael cefnogaeth dynion o safle Bethel, Asaph, Penllyn, Wynn Davies, ac eraill. Wrth gwrs, yr oedd Elis o'r Nant, Isgoed, Ifan Dafydd, Ynyr, Dewi Mai o Feir- ion, loan Dwyryd, a'r Telynor Dall yno megis o augenrbeidrwydd. Anffawd anhapus iawn ydoedd yr hyn ddigwyddodd i'r Delyn trwy i ysgythr-wynt ei thaflu yn yr Orsedd pan ad- awyd hi yno yn ystod y seibiant gafwyd ar ganol y gweithrediadau. Tybed fod Ysbryd Taliesyn a rhan yn y peth gan mai Telyn estronol ydoedd, ac nid y Delyn Gymreig ?
I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I-"*,-I-…
I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I RWST -I Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Roberts (Cadeirydd), D. G. Jones (Is-gadeirydd), Edward Edwards John Hughes, O. Ll. Jones, Parch. John Gower, Parch. Henry Jones, Parch. H. Rawson Williams, Edward Roberts, John Berry, T. T. Roberts, Parch. J. Llewelyn Richards, William Williams, John Williams, W. G. Jones, E. W. Roberts, Rowland Hughes, John Davies (Gwytherin), David Owen, Meredith Owen, R. R. Owen (Clerc), Edward Hughes (Meistr y Ty), T. C. Rob- erts ac 0. Evans-Jones (Swyddogion Elusen- ol). I Yr Elusenau alr Tlodion. I Y Clerc a adroddodd fod 22 o dlodion yn y Ty, ar gyfer 26 yr un tymor y Ilynedd. Yr oedd 291 yn derbyn Elusenau, ar gyfer 291 yr un tymor y Ilynedd. Talwyd £ 171 19s 6c o Elusenau yn ystod y mis ar g-ifer 6184 6s Oc yr un tymor y Ilynedd lleihad o £ 12 6s 6c. Yr oedd £ 734 19s 4c yn yr Ariandy yn ffafr y Bwrdd, ac wedi talu y gofynion heddyw o £ 109 7s 7c, byddai gweddill yn ffafr y Bwrdd o £ 625 11s 9c. Gofynid am £174 at yr Elusenau y mis nesaf. I Tlodion a'r Gwartheg. I Mr. T. C. Roberts. Swyddog Elusenol, a hysbysodd fod Archwiliwr y Llywodraeth yn gwahardd i roddi elusen i rai oeddynt yn cadw gwartheg, ac yn dywedyd y gorfodid y Bwrdd i dalu yr arian eu hunain os rhoddid elusenau iddynt eto. Pasiwyd i wrthod elusenau pawb oedd ganddynt yn perchenogion gwartheg. I Gwyllau. I Caniatawyd Gwyl i Mr. T. C. Roberts a I Meistres y Ty. Y Ty. I Cymeradwyai y Pwyllgor Ymweliadol i bwrcasu y pethau a nodai y Meistr oedd yn angenrheidiol at wasanaeth y Ty. Ymwelodd 85 a'r Ty yn ystod y mis ar gyfer 53 yr un amser y Ilynedd 32 o gynydd. Eg- lurodd y Meistr mai Gwaith Dolgarog oedd yr achos fod cynifer yn dod i'r Ty o'r dosbarth hwn yn bresenol, Adroddodd y Meistr am y Ty yn ystod y mis. Yr oedd Mr. William Thomas, crydd, o Ljjnrwst wedi marw, a chladdwyd ef yn myn- went Seion. Nid oedd y teulu yn abl i ddwyn y draul, ond anfonodd Mr. John Jones. nai fab 'chwaer i W. Thomas lythyr hynod o garedig at y Meistr yn gofidio oherwydd nad oedd y teulu mewn gallu i gyfranu at y costau. ond yr oedd wedi teimlo yn ddwys wrth weled y dull parch- us oedd gan y Bwrdd o hebrwng y tlodion i'r fynwent, i'r parch a delid iddynt ar eu diwedd. Derbyniwyd nifer fawr o gylchgronau oddi- wrth Mrs. Ashley, Cae'rgroes, at wasanaeth y Ty.—Pasiwyd i ddiolch yn gynes i Mrs. Ash- ley am gofio y tlodion oeddynt yn y Ty. Daeth geneth ieuangc i'r Ty yn ystod y mis yn ddrwg ei chyflwr. Un o Dolgellausydoedd. ond yr oedd wedi bod yn Llanrwst am sddigon o amser i gael dod i mewn heb fod yn rhaid gOfyn Undeb Dolgellau yn nglyn a hi. Daeth un o'r enw Hannah Williams i'r Ty o Undeb arall. Un o Llanrhochwyn ydoedd. Adroddodd y Clerc am y gost o'i symud i'r Undeb hwn. Hefyd. daeth Hannah Thomas, Scotlond Street, Llanrwst i'r Ty. Yr oedd hi mewn oedran, ac' yn debygol o aros i mewn. I Llorgyfarch. I I Y Cadeirydd a ddymunodd ddatgan teimlad I da y Bwrdd i'r Parch. Henry Jones ar yr amgylchiad o'i briodas. Nid oeddynt yn I gwneyd eithriad yn yr achos hwn, gan eu bod yn arferol a dymuno yn dda i Mr. Gower (chwerthin).-Mr. Gower, 0 ie, yr oeddwn i yn meddwl am son am y peth. Dynes yn iawn yw Mrs. Jones. Yr wyf wedi ei gweled, ac wedi dymuno yn dda i'r ddau. Mae Mr. Jones wedi dwyn un o'n pobol ni fel Eglwyswyr (chwerthin) y mae yn sicr o fod yn hapus iawn. Yr wyf yn uno a'r Bwrdd i ddymuno yn dda i'r ddau." I- Y Ddau Fachgen. Yr oedd amryw geisiadau wedi dod i law am gael y ddau fachgen oeddynt yn y Ty, i'r rhai yr oedd y Meistr yn rhoddi gair nodedig o uchel. Pasiwyd i un fyned at Mr. Evan Jones, Ty Llwyd, Bala, a'r Ilall at y Parch. John Gower, Trefriw. Yr oedd un o Penrhyn- heudraeth yn gofyn o 14/- i 151- am eu cadw- raeth; ond ni ofvr:ai y ddau uchod am ddim ond dillad gyda hwy. Myned am Seibiant. Dr. W. Michael Williams, Penmachno, a ymddaegosodd o flaen y Bwrdd i ofyn am ychydig seibiant i fyned am iechyd. Yr oedd wedi trefnu gyda Dr. Hill i ofalu anvy tlodion oedd o dan ei ofal.—Y Cadeir/dd, Yr ydym un ac oil yn teimlo yn falch iawn o ganiatau i chwi yr hyn a ofynwch. Buoch yn Swyddog ffyddlon o gofalus i ni am dair blynedd-a'r- hugain ac ni chawsom achos o gwbl i gwyno am ddim a wnaethoch. Yr ydym yn mhellach yn dymuno i chwi bob llwyddiant, ac yn go- beithio y cewch well had llwyr a buan. Ni raid i chwi bryderu dim am danon ni, na'r tlodion tra y byddwch i ffwrdd: gofala Dr. Hill am wneyd pobpeth drosoch."—Mr. Gower, Yr wyf finau yn dymuno yn dda i Dr. Williams. Gobeithio y deuwch yn ol yn hollol iach a chryf."—Dr. Williams, "Yr wyf yn ddi- olchgar iawn i chwi fel Bwrdd, ac yn edrych yn mlaen gyda hyder am gael llawer o flyn- yddoedd eto i'eh gwasanaethu." Y diweddar Mr. Hugh Pierce. Y Cadeirydd a gynygiodd eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dyfnaf a dau fab y diweddar Mr. Hugh Pierce, Bu am 25 mlynedd yn Glerc i'r Bwrdd, ac yr oedd rhai o'r aelodau yn cofio yn dda am dano. Bu yn Swyddog ffyddlon iddynt, ac yr oedd ei farn ar fateriou perthynol i Ddeddi y Tlodion yn eithriadol. Magodd un ddaeth i'w le sydd yr un mor gyf arwydd ag yntau am waith yr Undeb.—Mr. Gower a gefnogodd. Ni bu gwell clerc gan yr un Bwrdd yn y deyrnas nagydoedd Mr. Pierce. —Mr, Rawson Williams a ddywedodd ei fod yn ategu pobpeth a ddywedwyd. Yr oedd Mr. Pierce yn ddyn tyner, ac ar yr un pryd yn ddyn cadarn a grymus. Yr oedd ganddo bersonoliaeth a gariai ddylanwad ar bawb.— Mr. Edward Edwards a ddywedodd ei fod yn cofio Mr. Pierce yu casglu tretbi cyn dod yn Glerc i'r Bwrdd dyn tyner gofalus ydoedd. Yr oedd pobpeth a wnelui yn cyfateb i'w syn- iad uwchof am ddyiz. Byddai ef yn gwahan- iaethu oddiwrtho yn ami mewn barn ar bethau, ond ni chollai byth ei dymer, ac ni thram- gwyddai wrth neb am ei groesi.—Cododd yr boll aelodau ar ei traed i basio y bleidlais. Arbed. Y Meistr a roddodd adroddiad am y modd y rhoddai y Bara allan i'r Tlodion. Yn lie toti swm neillduol ar gyfer pawb fel eu gilydd, yr oedd yn rhoddi i bawb yn ot fel y gallai fwyta, ac arbedodd 360 pwys yn ystod y tri mis diweddaf trwy y dull hwnw,—Teimlai y Bwrdd yn foddhaol iawn ar yr Adroddiad. Crwydriaid. I- Y Meistr a adroddodd am dri crwydryn ddaeth i'r Ty, ac a wrthodasant wneyd eu gwaith, Arferodd bob tynerwch tuag atynt, ond er y cwbl bu raid cjmeryd y tri o flaen yr Ynadon. Anfonwyd hwy i garchar am bythefnos gyda llafur caled.—Cymeradwyodd y Bwrdd waith y Meistr, a chyfarwyddwyd ef i fod yn benderfynol gyda'r dosbarth hwn yn y dyfodol.
Cyngherdd Seindorf Frenhinol…
Cyngherdd Seindorf Frenhinol Oakeley. Gweiir fod yn mryd y Seindorf gynal Cyn- gherdd ar yr 28ain o'r mis hwn, acynngwyneb amgylchiadau yr ardal, dichon na bydd, ychydig sylwadau ar y cyfryw yn anamserol. Yn bersonol, datgenais fv ngwrthwynebiad i gynal y Cyngherdd dan sylw, pan glywais fod y symudiad ar droed; ond wedi deall amgylch- iadau y Seindorf ar hyn o bryd, teimlaf yn rhwymedig i wneyd a allaf yn eu ffafr. Fel y mae yn hysbys i'r mwyafrif ohonom, bwr- iadant ymgystadlu yn Llangollen, ac yn Man- ceinion y Llun dilynol. Golyga hyny draul rhy drom i'w dwyn heb gymorth o rywle, ac os na their y cymorth hwnw. deallaf mai yr Eisteddfod Genedlaethol roddir o'r neilldu. Gresyn fyddai hyny wedi cyfnod o Iwyddiant arbenig yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol di- weddar. Sicrheir ni, fod amryw o'r aelodau yn glynu yn yr ardal, er eu colled, rhag peri bylchau yn y Seindorf ar fin y brwydrau celyd hyn. Mae pob aelod yn aberthu rhan dda o'r enillion am wasanaethu yma ac acw, er cadw'r Arweinydd rhagorol sydd ganddynt yn ein bro, a dylid cadw mewn c6f fod ganddynt hwy fel ninau, ryw bris ar eu horiau hamddenol. Cvd- rhwng pobpeth nid gormod yw dweyd fod y Sein- dorf a' u Pwyllgor mewn cryn helbul a digalondid ar hyn o bryd ac yn wyneb hyn, ni warafuna neb i ni apelio yn daer at yr ardat yn gyffredin- ol am dipyn o gefnogaeth unwaith yn rhagor. Ni ddaw y ffurfafen ronyn gloewach wrth i ni dori ein calonau. Bydd ein cydymdeimlad yn vsbrydiaeth i'r bechgyn i ymdrechu a gorch- fygu, ni obeithiwn. yn yr ymgyrchoedd pwysig sydd gerllaw. Heblaw hyn oil, mae y Pwyll- gor wedi sicrhau gwasanaeth talentau arbenig i wasanaethu yn y Cyngherdd dan sylw, ac ni bydd Ffestiniog yn ffyddlon i'w thraddodiadau heb roi derbyniad calonog iddynt. Yr eiddoch yn wir, BRYFDIR.
I - BLAENAU -FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. bPECIAL IINE-BPECIAL OFFER. Egg Plum only ljd. per lb. Prolific, Czar and all the best kind, only 3d. per lb., at E. B. Jones & Co., Blaenau Festiniog. NOFEL.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb olwg ar y llyfr hynod hwn. ODDICARTREF.—Yn Llangoed, Beumaris yn beirniadu y mae R. Jones (Perorfryn), nos Iau yr wythnos hon. Deallaf ei fod yn hen law gyda'r gwaith tua Ynys Mon. Llwyddiant iddo.—CYFAILL. CAPEL Y RHIW.—Pregethir y Sabboth nesaf yn Nghapel y Rhiw, gan y Parch. Enoch E. Jones, Portmadoc; ac nid y Parch. Wm. Jones, Conwy, fel yr hysbysir yn Ngholofn y Cyhoeddiadau. Y SEINDORF.- Yr oedd ein Seindorf boblog- aidd yn ymarfeydd a'u gilydd yn yr awyr ag- ored, prydnawn Sadwrn diweddaf, gerllaw y Band-room. Y maent hwy a'u hwynebau gog- yfer a Chystadleuaethau y Belle Vue a'r Eis- teddfod Genedlaetbol. Y PARTI MEIBION.-Pryd-,iawn Sadwrn di. weddaf, bu Parti Meibion y Moelwyn, o dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts, yn gwasan- aethu mewn cyngerdd yn Criccieth, er budd Wesleyaid y lie. Rhoddodd eu gwasanaeth foddlonrwydd cyffredinol. PIC-NIc-Prydnawn dydd Gwener diweddaf, bu Ysgol Sul Calfaria yn cynal Pic-nic ar ben y Crimea, a mwynhasant eu hunain yn fawr. GWIBDAITH.—Dydd Linn. aeth Aelodau Ysgol Sul Eglwys St, Martha, Tyddyngwyn, am wibdaith i Landudno, a mwynhaodd pob un ei hunan yn iawn. PENODIAD.—Da genym oedd clywed fod Mr. Robert Edmunds, Brynbowydd, wedi ei benodi gan Gwmni y Pearl i arolygu Dosbarth Dinbych. Dymunwn ei Iwyddiant yn ei le newydd. YN BEIRNIADU.—Yr oedd Mr. Ben T. Jones, Manod Road, ddydd Gwener diweddaf, yn beirniadu y Gystadleuaeth Hollti Llechi yn Arddangosfa LlangoUen. YR HEDDLU.—Bu Heddgeidwaid Ffestiniog o dan ofal yr Arolygydd Roberts, yn y Bala, dydd Gwener diweddaf, yn myned trwy yr archwiliad blynyddol, a rhoddasant foddlon- rwydd llawn. YN DYCHWELYD,—Dydd Gwener a Sadwrn diweddaf, yr oedd y gweddill o fechgyn Ffestiniog yn dychwelyd yn ol am y Pyllau Glo, wedi bod adref yn treulio eu gwyliau. MORDWYO YN OL. Prydnawn ddydd Mercher, yr oedd Mr. Richard' E. Thomas, gynt o Glynllifon Street, sef brawd i Mrs. Hugh Roberts, Meirion Terrace, a Mrs. John Thomas, Penygelli, yn mordwyo yn ol am yr America ar yr agerddlong Carmania, wedi bod drosodd yn yr Hen Wlad yn treulio ei wyliau. Fel y gwyr llawer, y mae yn awr er's oddeutu deuddeng mlynedd, yn oruchwyliwr chwarel, a phrawf yr anrhegion a gafodd gan y gweith- wyr a'r perchenogion pan yr oedd yn cychwyn am Gymru, mor uchel ydoedd yn eu golwg. Da oedd genym glywed ei fod wedi mwynhau ei hun yn iawn, a'i fod wedi caeladgyfnerthiad i'w iechyd. Yr oedd yn bleser cael bod yn ei gwipni yn ei glywed yn adrodd yr hyn a welodd yn ystod ei wyliau yn Ne a Gogledd Cymru, ac hefyd ar byd ei yrfa o 22 mlynedd yn yr America. Dyvvedodd iddo gael tal da am ddyfod drosodd a myned i lawr yr holl ffordd i'r Deheudir, pe ddim ond cael clywed y canu rhagorol a glywodd yn Nghapel yr Annibynwyr Ebenezer, Tonypandy. Talodd deyrnged uchel i Gyngor Dinesig Ffestiniog a'i Swyddogion, am yr olwg hardd a gafodd ar ei ardal genedigol.-heolydd glanwaith, tai rhagorol a chysurus, capelau heirdd, &c. Yr oedd yn myned yn ol gyda'r meddwl uchelaf posibl o'i ardal, a dymunwn ninau oil fel ardal bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.-Hefyd, yr un diwrnod, ac yn yr un agerdd-long, yr oedd cyfaill arall yn dychwelyd, yr hwn hefyd oedd wedi treulio y rhan gyntaf o'i oes yn ein plith ni yn Ffestin- iog, sef Mr. Robert W. Roberts, o Pentrefelin, ger Porthmadog. Aeth ef i'r America oddeutu 24 mlynedd yn ol. Cyfaill o gerddor uchel ydyw ef, yn arweinydd corawl Ilwyddianus, ac wedi enill iddo ei hun gyda'i Gor bum' o dlys- au aur heirdd, &c. Bu.pan yma yn chwareu yr offeryn yn Nghapel yr Annibynwyr yn Salem, Rhiw; ac yr oedd yn falch o gael y cyfle i fyned yno nos Sabboth diweddaf. Da oedd genym glywed am y safle anrhydeddus y mae ynddi yn y byd cerddorol yn Ngwlad y Gorllewin, a dy- munwn Iwyddiant pellach iddo yntau, PRIODAs.-Dydd Mawrth, Awst 18, 1908, yn nghapel y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, gan y Parch. R. R. Morris, yn mhresenoldeb Mr. Richard Jones (Cofrestrydd), unwyd mewn glan briodas, Miss Gwen Roberts, 61, High Street, Blaenau Ffestiniog, a Mr. William Wil- liams, 20, Wylfa Road, Anfield, Liverpool. Gwasanaethwyd fel Morwynion gan Miss Williams, Misses Nancy Lloyd Jones, Library; Winifred Ll. Jones, Fronoleu; a Lily Evans, Gwerrfor Road, Lerpwl. Y Gweision oeddynt Mri. D. O. Jones (Cefnder y Briodasferch), a E. L. Evans, Llundain. Daeth llu mawr yn nghyd i'r gwasanaeth, ac fel y dywedodd y Parch. R. R. Morris, yr ceddynt oil yn ym- ddangos ar eu goreu yn datgan eu dymuniadau da i'r par ieuanc. Ar ol y gwasanaeth aeth- pwyd i dy y Briodasferch lie yr oedd darpar- iaeth gogyfer a'r gwahoddedigion. Cyn ym- adael am eu mhis mel i Sir Fon, aeth y par ieuanc a blodeuglwm i'w osod ar feddrod tad y Briodasferch (Mr. David Roberts) er cof am un ag oedd anwyl iawn ganddi. Yr oedd y Briod- asferch wedi gwisgo mewn Cream silk with real lace empire style, with hat of white lace and she carried a shower bouquet of Crys- anthums." Y gwahoddedigion oeddynt Mr. a Mrs. R. R. Morris. Mri. Richard Jones a Ivor Haul Jones, Mr. a Mrs. Jesse Roberts, Mr. a Mrs. Jones, Manchester House, Mr. a Mrs. Lloyd Jones, Library, Mr. a Mrs. T. W. Evans, Lerpwl, Miss Hughes, Misses M. E. Roberts Maggie Edwards, Kate Pritchard, Gwladys a Morfudd Morris, ac Annie E. Pierce. Chwar- euwyd y Wedding March gan Mp., E /ar Lev,s Roberts, Penygarth. LIuosog "lawa ydoec nifer yr anrhegion. AR YMWELIAD,-Hyfrydwch mawr i ni yw gweled Mr. Robert W. Parry, brawd Mr. W. W. Paery, Tanymarian, ar ymwelisd a i hen ardal. Y mae yn edrych yn heinyf. lach, a chadarn. Deallwn iddo gael ei foddhau mor fawr wrth glywed y Seindorf yn chwareu y noson o'r blaen fel y cyfranodd bum' punt i'r drysorfa. Dengys hyn nad yw wedi oeri yu ei sel at fuddianau cyhoeddus yr ardaI, a bod ei gariad atom yn dal mor dwymn Re erinad. Dymunwn ei hawddfyd tra yn aros gyda jii, ac wedi dychwelyd i'w wlad fabwysiedig. YN GWELL A.—Da genym fod ein cyfaill poblogaidd Mr. Richard Evans, Ty'nddclt Tanygrisiau. wedi gwella mor dda fel sg i droi unwaith eto yn ein plith. FESTINIOG TOWN FOOTBALL CunJ —The Committee of the Football Club are at present very busy making the Fixtures, See., for the coming season, which promises to be more popular and prosperous than any season s,.) far. All intending players desirous of joining the above Club are requested to give in their names immediately to the Secretary. The first League Matchwill be played on the 26th. of September, when Carnarvon will visit this town.-RICHARD MORRIS, Hon. Sec.
COR -MEIBION -PENMACHNO.
COR MEIBION PENMACHNO. AT Y PLWYFOLION AC ERAILL,— Syr.-Fel y mae yn hysbys, bwriada y CO; uchod gystadlu yn Eisteddfod Llar:>*if!an. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod a Hawer o rwyst- rau, ond y penaf yw un y costati. N,L ae 7 r arweinydd ymdrechgar a'r Cor wedi bod tn liafurio yn galed er's misoedd i baral^pi ar gyfer y gystadleuaeth bwysig hon. Buasai yn sarhad bythol arnom pe na buasem yn llwycjdo i anfon y Cor i'r Gystadleuaeth, ond er fod yr holl atian gofynol wedi eu sicrhau, yr yqyn eto yn fyr o rai punoedd. Nid ydym yn chtvenych laru y plwyfolion gyda Cyngherdd^n! y mr.s un mewn perthynas a'r Arddangcsfa wrth y drws. Teimlo .yr' oeddym fod llawer o'r plwyfolion a llwyddiant y Cor yn agos at eu calon, y buasai yn dda ganddynt gael y cyfleus- dra i fwrw eu hatling i'r drysorfa. Yr yn rhoddi y cyfleusdra hwnw yn awr. Yr ydym ni sydd a'n henwau isod. wedi ein hawdurdodi gan y Pwyllgor i dderbyn unrhyw rodd, pa mor fycban bynag y byddo Nlzkwr yw ein ffydd. Mae Cor Meibion Penjuachnb yn myned i Eisteddfod Llangollen; a mwy, y mae yn myned i adael ei fare yno. T rwe! yr hen air Saesneg, A friend in need !s,å friend indeed" (cyfaill cywir yw cyfaill mewn an gen). A ddaw ein cyfeillion a'n hewyllyswyr da allan i'n cynorthwyo ? Ydym, ar ran y Pwyllgor, B. JONES, Rheithordy, Liywydd. JOHN RICHARDS, Park Hill,
Nodion o Penrhyndeudraeth.
Nodion o Penrhyndeudraeth. Nos Wener diweddaf, aeth nifer o ddynion ieuanc oddi yma i ben y Wyddfa. Yr oedd y tywydd yn bobpeth ellid ei ddymuno, a ba iddynt weled yr haul yn codi yn ei ogoniant. Yn anffodus bu i un o'r cwmni ddiffygio gymaint wrth ddringo fel y gorweddodd ar ymyl y llwybr, ac nid oedd dicho-i ei berswadio i ddod i ben y mynydd. Felly gorfod oedd i't cwmni ei adael yno, ac yr oedd yn yr un far. pan ddychwelasant yn cysgu yn braf. Yroedd tua cant a haner ar ben y Wyddfa y noson hono. Nos Sul, yn mghymdeithas Nazareth, cafwyd hoIi ac atteb ar y Gweddnewidiad." Yr holwyr ydoedd Mr. G, R. Jones, Brya Llewelyn. Nos Sadwrn nesaf, disgwylir y Parch. Isfryn Hughes i lawr i anerch aelodau Plaid Auni- bynol Llafur. Bydd y cyfarfod yn agored i bawb. Da genym ddeall fod y Blaid hon yn myn'd ar gynnydd yn yr ardal. Trist iawn oedd gweled cynifer yn gorfod cefnu ar yr ardal y dyddiau diweddaf. Yr oedd y rhan fwyaf yn troi ei gwydebau tua'r pyllau glo. Tywyll iawn yw y rhagolygon at y ganaf dyfodol os na thyr y wawr yn fuan bydd yn rhaid i ragor droi eu cefnau ar eu cartrefi. Ychydig o ymwelwyr ddaeth i'r ardal y flwyddyn hon, a chwyna y rhai sydd ganddynt dai i'w gosod yn enbyd am nad oes yma ddar- pariaethau digonol ar gyfer y byddlgions." Gan mai gweithwyr yw y rhan fwyaf sydd yn byw yn yr ardal. Credwn y dylid yn gyntaf wneyd peth yn bosibl tuagat eu cysur hwy. Wedi hyny cawn wneyd yr hyn aallwn i ddenu y dyeithriaid i'n plith.
PENTREFOELAS.
PENTREFOELAS. PRIODAS.-Boreu ddydd Mawrth diweddaf, unwyd mewn priodas Miss Kate Emily Roberts, School House, o'r lie uchod, a Mr. William Lloyd Roberts, 24, Glynllifon Street, Blaenau Ffestiniog. Cymerodd y seremoni le yn yr Eglwys Pentrefoelas. Gwasanaethwyd gan y Parch. D. Alban Lloyd, B.A., y Ficar ar Parch. T. H. Hughes, B.A., Ficer St. -Dewi, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd y gwasanaeth yn llawn corawl. Y gwas oedd y Parch. T./ Llechid Jones, B.A., Rheithor Ysbytty, a'r forwyn oedd Miss S. M. Roberts (chwaer i'r briodasferch). Rhoddwyd y ferch ymaith gan ei thad Mr. D. Roberts, 2, Dorvil Street Blaenau Ffestiniog. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Miss Thomas, Mill Housr Pan ymadawodd y Cwmni o'r Eglwys, canwyd y clychau priodasol, ac hefyd pan oedd y par ieuainc yn gadael y pcntref am y Iwerddon, canwyd hwynt drachefo, Yr oedd yr eglwys wediei harddurno a blodeu a choed palmwydd o'r Voelas Hall, chwifiwyd banerau ar hyd y peotref. Yr oedd y boren- fwyd wediei pbaratoi yn y Voelas Hotel, r- yr eisteddai nifer dda o gyfeillion a gwahod edigion. Derbyniwyd nifer fawr o anrhegio a dangoswyd teiraladau neillduol o garedig y i yr amgylchiad. Pob llwyddiant iddynt.