Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
— Yes dear friends, this week we are displaying =: a New Stock of Handkerchiefs for the coming — Season. LOOK UP — AND NOW Your wants in this line for Xmas. We offer the finest range of Handkerchiefs and Lace ITQ Goods in Town. Ho ? LOOK DOWN — This list and see whether it does not, contain H,, AB NDKERCHIEFS something that will make Xmas Brighta- HANDKERCHIER Zi. Dressing Jackets, Furs, UmbreHas, Gloves, Ties, Broaches, &c., &c. LOOK OVER == The following Xmas Lines in Handkerchiefs ——————————————— which wc alone are able to offer. Hand Embroidered, Drawn Thread, ? _? .?? Lace Edged, Lace Insertions. Silk  QC ? Centres and Initial OQL?. ? § LOOK .?T *E ?' ? '? ^2 for our Xmas Window Display this week, t/i ? Q ¡:I) come and see for yourselves that is all weask' EDUCATION ACT, 1902. Merioneth Local Education Authority. NOTICE IS HEREBY GIVEN in accordance with the provisions of Sec- tion 8 (1) of the Education Act, 1902, that the County Council of Merioneth, being the Local Education Authnrity for the purposes of Pant III. of that Act. proposs to provide a new Public Elementary School for about 50 children at ST. THOMASY in the Rural Parish of Trawsfynydd. The School will be available for the following area- The Parish of Trawsfynydd. H. HAYDN JONES, Clerc to the Local Education Authority. Dated 25th November, 1905. Section 8 (1) and (3) of the Education Act, 1902, provides as follows (1) Where the Local Education Authority or any other persons propose to provide a new public elementary school, they shall give public notice of their intention to do so, and "the Managers of any excisting school or Local "Educatiou Authority (where they are not themselves the: persons proposing to provide the School), or any ten ratepayers in the "area for which it is proposed to provide the School, may within three months after the notice is given, appeal to the Board of Educat- tion on the ground that the proposed school is not required, or that the school proposed by the Local Education Authority, or not os "fprovided, as the case may be, is better suited '\to meet the wants of the district than the school proposed to be provided, and any school built in contravention of the decision of the Board of Education on such appeals "shall be treated as unnecessary." "(3) Any transfer of a public elementary school to or from a Local Education Author "ity shall for the purposes of this section be treated as the provision of a new school."
NODfADAU WYTHN0S0L
NODfADAU WYTHN0S0L Mae Syr Henry Campbell Bannermar wedi I Galwad i'r Gad. gwneyd dechreuad I rhagorol, ac y mae hen air vn dvwedvd mai J-- -J"J- "deuparth gwaith, ei ddechreu." Nid cynt y gorphenodd ffurfio Gweinyddiaeth nag aeth i'r Albert Hall yn Llundain i anerch cyfarfod o Ryddfrydwyr--cyfarfod Rhyddfrydol na welwyd ei debyg yn y Brifddinas erioed o'r blaen. Yr oedd yn rhaid wrth gryn wroldeb a beiddgarwch i swnio yr udgorn yn nghaer- fa y Toriaid, ond hyny a wnaeth y Prif Weinidog, ac efe a'i gwnaeth yn hynod effeithiol hefyd. Ary lhvyfan o'i amgylch yr oedd cynifer a deg ar hugain o aelodau y Weinyddiaeth—tri ar ddeg o honynt yn aelodau o'r Cyfrin-gylch. Yn sefyll yn eu canol anerchodd Syr Henry gynulliad o ddeng mil o bobl, ac yr oedd presenoldeb aelodau y Weinyddiaeth yn dangos yn eglur fod eu blaenor yn siarad drostynt hwy yn ogystal ag yn traethu ei olygiadau ei hun. Mae'n dda genym ei fod wedi cy- hoeddi rhagien y Llywodraeth nid trwy ysgrifenu llythyr at gyfaiil ar y dealldwriaeth ei fod i gael ei gyhoeddi, ond trwy anerch cynulliad o'r bob! am gefnogaeth y rhai yr apelia, ac am fuddianau y rhai y g-pfala y Llywodraeth nevvydd. Pel y gwelir isod, traddododd araeth grd ac eglur dros ben. Wrth gwrs', y mae'r Wasg Doriaidd yn ei beirniadu yn Ilym ac yn ei chondemnio hcfyd, ond rhaid i'w feirniaid gydnabod un peth. Yr un peth hwnw ydyw fod ei araeth yn un onest, a bod y geirian a lefarodd wedi eu bwriadu nid i .guddio ei feddyliau (fei areithiau Mr. Balfour) ond i egluro. a hys- '$.; .¡<: d bysu i bawb yr hyn y mae ganddo ef a'r Weinyddiaeth gref iawn y mae wedi ei ffurfio fwriad i'w wneyd os rhoddir iddi-ac fe roddir iddi hefyd-fwyafrif digonol yn Nhy y Cyffredin. Parodd ei ddatganiad clir foddlonrwydd llawn a llaWenydd di- gymysg i Ryddfrydwyr y deyrnas yn gyff- I redinol, a chryfhaodd eu hyspryd i ryfel. i n
[No title]
I Ychydig wythnosau yn ol byddai areithwvr I Atal cludiad Chineaid I Ddeheubarth Affrig. Toriaidd yn dywedyd fod I yr Arwein- wyr Khydd- frydol yn condemnio cludiad Chineaid i'r Transvaal, ond na feiddient ei atal pe dychwelid hwy i awdurdod. Ni fu raid i ni aros yn hir cyn gweled eu bod yn cam- gymeryd. Heb golli dim amser dywedodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth trtvy Arglwydd Elgin eisoes wedi pellebru gor- chymyn i Arglwydd Selborne, Llywod- raethwr Affrig Ddeheuol, i'r perwyl fod yn rhaid. rhoddi atalfa ar y gwaith yn ddiymdroi. Pan ddywedodd hyn, cododd y cynulliad anferth i fyny fel un gwr a mynegasant eu teimladau mewn banllefau byddarol o gym- eradwyaeth. Dywedodd y Prif Weinidog na chludir yr un Chinead arall yno hyd oni bydd llywodraeth gyfansoddiadol mewn gwirionedd wedi ei rhoddi i'r Transvaal, llywodraeth ag y bydd ei llais yn llais y bobl. "Vni ddiweddarach cyhoeddwyd y frysneges hir a anfonodd Arglwydd Elgin i Arglwydd Selborne, ac y mae yn gredyd i'w ben a'i galon hefyd. Hawdd yw gweled fod yn mwriad y Weinyddiaeth i estyn llywod- raeth gyfansoddiadol i bobl y Transvaal yn ddiymdroi, a chredwn y bydd hyny yn foddion effeithiol i liniaru y teimladau dolur- us a gynyrchwyd gan y rhyfel ac i wneyd y bobl yn fwy teyrngar nag y gellir disgwyl iddynt fod tra yr atelir oddiwrthynt hawl- freintiau dinasyddion rhyddion. --0-
[No title]
Mewn geiriau teilwng o Brif Weinidog- Rhodi awdurdod yn nwylaw'r bobl. Prydain Fawr dywedodd Syr Henry mai yr unig ffordd eff- eithiol i sicrhau iawn weinyddiad y gyfraith wladol ydyw rhoddi ei gweinyddiad i'r mesur llawnaf sydd yn bosibl yn nwylaw y bobl eu hunain. Hyn, eb efe, ydyw sylfaen ein pojisi ynglyn ag addys, fod pobl pob ardal i lywodraethu a rheoli yr ysgollon hyn ydyw sylfaen ein polisi mewn perthynas i drwyddedau tafarnwyr; ac yr ydym yn credu y dylai materion sydd a wnelont a'r Gwyddelod yn unig, ac nad oes a wnelont a ni, gael eu rhoddi iddynt pwy i'w trefnu fel a phan y ceir cyfleusterau i wneyd hyny." Daliodd ar y ffaith fod Mr. Balfour a'i Lyw- odraeth wedi dechreu gwneyd hyny trwy Mr. Wyndham a Syr Antony Mac Donell, I ac wedi awdurdodi eu cynrychiolydd, larll Dudley i hysbysu y Gwyddelod y "llywod- raethid hwy yn ol syniadau Gwyddelig." Y gwaith a ddechreuodd y Llywodraeth ddi- weddar ei wneyd, ond a adawodd oherwydd i fygythion yr 'Oreinwyr ei ddychrynu, y gwaith hwnw a orphenir gan y Llywodraeth newydd. Ni wnaeth Syr Henry gyfeiriad o gwbl at Sencdd Wyddelig yr hyn a ddy- wedodd oedd fod yn rhaid ehangu a pher- ffeithio llywodraeth leol yn yr Ynys Werdd. 0.
[No title]
Rhaid rhoddi rhyddid mwy i'r amaethwyr Yr Amaethwyr a'r Gweithwyr. ebe Syr Henry, I? tel y gallont dd w)'n ymJan eu gaiw- eaigaetn yn ymodd goreu, a gwneyd eu meddiant o'u ffermydd yn sicrach nag y mae yn awr, a rhyddhau y ffordd i lafurwyr gael tir i'w drin a ehartrefi cysurus yn y wlad. Fel hyn y dywedodd, Yr ydym yn awydclus i wneyd tir yn Ilai o ie i'r cyfoethog ymbleseru ac yn fwy o drysordy i'r genedi." Cyfeiriodd hcfyd yn mhellach at ddyfarniad yr Uchel Lys yn achos gweithwyr Dyffryn Taf, ac 'amiygodd fwriad y Llywodraeth i, ddwyn ynmldelt ar uvzvauh fesur a'i ddyben i sicrhau i weith- wyr trwy Undebau Llafur ryddid llawn i gydweithredu ac i amddiffyn eu buddianau.
[No title]
Teyrnamd Mr. Amqmttk i'r Prif Weinhftg. Wrth gynyg I diolch y Cyfarfod i'r Cadeirydd, aeth Mr. Aaquith allan o'i ffordd i gyfeirio at araeth y Prif Weinidog fel datganiad meistrolgar o'r polisi Rhyddfrydol." Mae hyn yn foddhaol iawn yn ngwyneb yr hyn a ddywedodd Syr Henry am y Cwestiwn Gwyddelig. Mae pob rheswm dros gredu fod holl aelodau'r Weinyddiaeth mewn cytundeb llawn a'u gilydd ar bob cwestiwn pwysig. Myn siaradwyr Toriaidd i'r wlad gredu nad ydynt, ond gwyddant hwy eu hunain eu bod.
[No title]
Cafodd y Gwir An- Mr. Lloyd George rhydeddus D. Lloyd yn Arfon. George groesaw rhyfeddol ar ei ym- weliad a Chaernarfori a Bangor ddiwedd yr wythnos. Ymdyrai pobl i'r gorsafoedd rhwng Caerlleon a Chaernarfon er mwyn cael cip-olwg arno a rhoddi croesaw iddo. Yn Nghaernarfon yn gyntaf ac wed'yn yn Mangor traddododd areithiau penigamp. Yn y lie olaf cyfeiriodd at gyflwr y fasnach lechi gan wneyd yn eglur fod ei chyflwr i'w briodoli nid i ddygiad llechl tramor i'r wlad ond i'r ffaith mai segur iawn ydyw ad.Had- wyr ar hyn o bryd. Mae swm y llechi tramor yn myn'd yn llai y naill flwyddyn ar ol y llall, ond ychydig iawn o adeiladu sydd yn myn'd ymlaen er's amser bellach. Yn ei araeth yn Nghaernarfon dywedodd Yr wyf yn awr yn un o Weinidogion y Goron, ond os peidiaf byth a siarad dros y bobl glyned fy nhafod wrth daflod fy nghenedl," a dywedodd hyn mewn yspryd a 'gododd deimladau y cyfarfod i bwynt uchel iawn. -0--
[No title]
Dadgysylltiad Eglwys Loegr yn Nghymru. O'r pedwar ar bymtheg sydd yn ffurfio v cyfringylch, y mae pedwar-ar-bymtheg yn pleidio dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru." Mr. Lloyd George a ddywed- odd y geiriau hyn yn Nghaernarfon ddydd Iau, a pharant foddlonrwydd i Anghyd- ffurfwyr Cymru oil. Unwaith eto mae y cwestiwn yma i'w gael yn nechreu rhaglen y Rhyddfrydwyr, ac y mae hyny i'w briodoli nid yn gymaint i'n hymdrechion ni ag i orfaeliaeth ffol ein gwrthwynebwyr. Trwy eu hymgais i chwanegu at waddol eu heglwys trwy osod eu hysgolion ar y trethi dygasant y wlad wyneb yn wyneb a'r ffaith nad oes dim i'w wneyd ond gosod eu henwad hwy ar yr un tir yn hollol a'r enwadau crefyddol eraill. Edrychant hwy ar y dydd y gwneir hyny fel dydd drwg; er hyny hwy sydd wedi prysuro ei ddyfodiad. Mae'n ddigon hysbys fod llawer iawn o'r lleygwyr eglwysig yn cydymdeimlo i fesur helaeth a ni yn ein gwrthwynebiad i Ddeddf Addysg 1902, ac yn ddigon craff i weled beth fyddai ei chan- lyniad eithaf. Ond ni fynai yr Esgobion a'r Clerigwyr ei weled. Rhybuddiwyd hwy drosodd a throsodd drachefn, ond ni fynent wrando. Trwy eu hawydd cryf a'u hym- drech ffol i orfodi Anghydffurfwyr i gynal eu hysgalion ac i adael eu rheolaeth yn eu dwylaw hwy maent wedi cyffroi yspryd oedd yn hepian er's rhai blynyddoedd. Diau eu bod erbyn hyn yn gweled eu camgymeriad ond y mae yn rhy ddiweddar.
[No title]
Gwaith cyntaf y Llywodraeth fydd unioni'r Gwaith cyntaf y Llywodraeth. cam y mae Deddt Addysg 1902 yn ei wneyd a ni. Hvn i. eto a ddywedodd Mr Lloyd George mewn cynifer o eiriau. Yr oeddym yn disgwyl hyn yn wir, nid oes dim arall i'w wneyd., Rhaid cofio, fodd bynag, nas gall y Llywodraeth wneyd dim yn y eyfeiriad yma oni fydd ganddi fwyafrif clir ar y Toriaid a'r Gwyddelod ynghyd, oblegid y mae'r Gwyddelod yn gymaint gelynion i ni a'r Toriaid yn y mater yma. Maent yn Babyddion yn gyntaf. ol,l. Gofal- ant yn gyntaf am fuddianau Eglwys Rufain, wedi hyny y gofalant am wneyd cyfiawnder a'u cyd-ddynion yn gyffredinol. Yr unig eithriad ag y gwyddom am dani yn eu plith ydyw Mr. Michael Davitt. Er ei fod yn Babydd defosiynol iawn nid yw dan bawen yr offeiriad ac ni fyn iddynt ei lywodraethu, ac ar y mater hwn mae mewn cydymdeimlad llawn ag Anghydffurfwyr Cymru a LIoegr.
[No title]
Mae'n wybyddus bellach y bydd i'r Brenin Yr Etholiad Cyffredinol. gynal Cyngor a dadgor- phori'r Senedd ar yr 8fed dydd o lonawr. Anfonir y. gwysiau allan y noswaith hono a thranoeUl, a'r canlyniad tydd y cymer yr holl etholiadau le mewn pryd i'w wneyd yn bosibl i'r Senedd gyfarfod ar y trydydd- dydd-ar-ddeg o fis Chwefror. Gan y bydd 'yn rhaid i bob aelod o honi yn gyntaf gy- meryd ei lw ni wneir dim gwaith am dridiau neu bedwar wed'yn.
[No title]
Nid oes sicrwydd eto pa sawl un o'r Ethoiaethau Gogledd Cymru. aeJodau dros Ogledd Cymru a ddychwelir yu I ddiwrtnwynebiad. Felly y bydd yn achos Mr. Bryn Roberts, ac nid oes neb wedi dyfod allan hyd yn hyn i wrthwyncbu y Mri. Herbert Roberts, Moss, Osmond. Williams ac Ellis J. Griffith. Rhaid iydd i',r Mri. Herbert Lewis, Howell Idris, .William Jones ynghyd a Mr. Lloyd George' ymladd am eu seddau, ond nid oes achos i bryderul yn _os yr h?nynt. Ar y !!aw arall nid gwiw i'r Rh,edfryiwyr fod yn ddifater. Yn MwrdeisdreJi Dinbych gwrthwynebir yr aelod Toriaidd Mr. Kenyon gan Mr. Clem- ent Edwards, ac y mae y Rhyddfrydwyr yn edrych ymlaen at y frwydr yn hyderus iawn. Dylai Rhyddfrydwyr-Bwrdeisdrefi Maldwyn roddiorhybudd i'r Milwriad Pryce Jonas ym- adael, oblegid y mae yn ddiffyndollwr rhonc, ac yn un o ganlynwyr mwyaf selog Mr. Chamberlain. Ond bydd raid iddynt ym- egnio oblegid y mae ef yn bersonol yn wr cymeradwy iawn, tra y mae Mr. J. D. Rees, eu hymgeisydd hwy, yn ddieithr i'r etholwyr. Gobeithiwn y ceir gweled Cymru oil yn cael ei chynrychioli gan Ryddfrydwyr yn unig yn y Senedd newydd. Felly y dylai fod, ac felly y bydd ond i Anghydffurfwyr y wlad fod yn ffyddlon i'w hegwyddorion.
[No title]
Fwy nag unwaith yn ddiweddar gwelwyd I Dwylaw Glan i Weinidogion y Goron. tod yn Nhy y Cyffredin wrth- wynebiad cryf yn erbyn cys- ylltiad Gweinidogion y Goron a Chwmniau Cyhoeddus fel Cyfarwyddwyr. Teimlid fod yn anhawdd os nad yn anmhosibl iddynt wasanaethu y Wladwriaeth yn ffyddlon a'r Cwmniau hyny yr un pryd, a bod perygl iddynt arfer y wybodaeth oedd ganddynt fel aelodau o'r Llywodraeth i elwa iddynt eu hunain yn eu cysylltiadau masnachol. Am- ryw weithiau cynygiwyd penderfyniad yn anghymeraqwyo yr arferiad; a'r tro di- weddaf trwy fwyafrif o unarddeg yn unig y gwrthodwyd ef. Ac yr oedd mwy nag un ar ddeg o aelodau Gweinyddiaeth Mr. Balfour yn pleidleisio yn ei erbyn. Buasid yn disgwyl iddynt fod yn rhy anrhydeddus i bleidleisio ar fater oedd yn cyffwrdd a hwy yn bersonol, ond ni fuonf. Yn mhlith y rhai gafwyd bob amser yn siarad ac yn pleidleisio dros y penderfyniad yr oedd y Prif Wein- idog, Syr Henry Campbell Bannerman,— ac y mae yn dda genym ei fod yn y peth yma fel mewn pethau eraill yn gweithredu yn gyson wedi iddo gael ei wneyd yn Brif Weinidog a'r hyn a ddywedai ac a wnai cyn hyny. Ychydig ddyddiau yn ol gwnaed yn hysbys fod pob un sydd yn aelod o'r Wein- yddiaeth newydd wedi cael cynyg ac wedi derbyn ei swydd ar yr amod glir ei fod yn tori pob cysylitiad rhyngddo ag unrhyw gwmni cyhoeddus fel cyfarwyddwr. Felly y mae ganddynt bob un o honynt ddwylaw glan. Un adeg yr oedd cynifer a 24 o aelodau Gweinyddiaeth Mr. Balfour yn gyf- arwyddwyr mewn 60 o gwmniau, er i'r nifer gael ei wneyd yn Ilai yn ddiweddarach. Haedda y Weinyddiaeth Ryddfrydol glod am wneyd y fath aberth er i Weinidogion y Goron fod uwchlaw amheuaeth, a haedda y Prif Weinidog yn enwedig glod am osod i lawr yr amod a nodwyd.
I Helfa Dda o Ddyfr-gwn. I
Helfa Dda o Ddyfr-gwn. Wrth bont Bertheos, Dolwyddelen, dydd Mawrth diweddaf, deallvvyd fod yno ddyfrgi, ac yr oedd vn myned at enau crochan-dwll mewn craig, ac yna elai yn ol i'r dwfr dros ei ben,—ac yn ol drachefn. Aethpwyd at v twll oedd yn y graig, a beth oedd yno, ond dyfrgi ieuangc cryf, yn methu dod oddi yno, wedi syrthio iddo wrth drafeilio yn y nos. Tynwyd ef allan, a lladdwyd ef yn y fan gan Hugh Hughes. Yn ddiweddarach ar y dydd daeth L. 1. Jones, y Llew" o Benrniw heibio gyda'r daeargwn, a chafwyd marc fod yr hen Ddyfr-gast mewn daear uwchlaw y bont, a chyn pen ychydig fynydau yr oedd wedi mvned yn ysglyfaeth i'r llew a'r daear- gwn. Boreu dranoeth aed i hela drachefn, a lladdwyd un arall ychydig is-law y hont, gan y Llew ac Ellis Williams. Canipus wir, lladd tri dyfrgi, ond y mae gormod ohonynt ysywaeth vn afon Lledr a'r Conwy. Newydd da i Enweirvvyr, ond newydd drtllg i fonedd- igion yr Otter hounds, Ond fu 'rioed dda na fyddai yn ddrwg i rywun.-SATAN A'I GRIW.
Y Gwr ar Coll o Fangor. I
Y Gwr ar Coll o Fangor. Parodd absenoldeb A. C. Downs, un o gynghorwyr Trefn! Bangor o'r dref gryn gytlro yr wythnos diweddaf, am yr ofnid fod rhywbeth anymunol wedi digv/ydd iddo. Chwiliwyd pob lIe-vo afcnydd a choedwigoedd, ond i ddim pwrpas. Yr oedd Mr. Downs yn ysgrifenydd amryw gymdeithasau yn y dref, ac ystyrid ef bob amser yn ddyn o amgylchiauau cysurus. Yr wythnos hon y mae wedi syrthio i ddwylaw heddlu y Brif-ridinas, mewn canlyniad i hysbysrwydd fod ei gyfrifon yn anghywir o'r swm o Chwe chant o bumm. Y diwrnod y gadawodd cartref cyrnerai ran flaenilaw fel aelod o .Fiwrdd y gwarcheidwad. Yn n gwaith yr awdurdodau yn dod a hanes cot a het alrai o'r gia-au, ofnid tod rhywbeth wedi digwydd i Downs, ond gyda chraffder arferol un o guddswyddogion Bsngor deuwyd o hyd iddo yn nhy per- thynas yn Llundain. Cyrhaeddodd Downs i Fangor hds 'Fercher' ac yr f c l ie r' ,ac yr oedd yr orsaf yn orlawn o bob! y dref.
Advertising
0 1 0 ==; MAE.. RHAID MYNEO. AT Y. GWAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Qwaed yw Pobpeth. -.mae pawb-y chwi yn en mysg-yn agored i nifer fawr o glefydau. Paham felly ? Am iod Anmhnrdeb yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, aa Anmhurdeb pethau amgylchynol yn cren Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED yn cael ei lygru a'i wenwyno, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, ECZEMA, TARDDIANTAU Y CROEN, LLYGRIADAU, RASH, COESAU OLWYPEDIGt PENDDYNOD, RHEUMATISM, OORNWYDON, NEURALGIA, A llu o Glefydau eraill y Corff a'r Ymenydd, i ruthro ar wahanol ranau o'r cyfansoddiad. 7 Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r elefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yn BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN EI GADW YN BUR. Mynwch j Heb lai weled Hun g hyny. y Galon Twyll ar bob box ydyw. DOLUR Qs byddweh yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL CORFFRWYMEDD, POEN Y CEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWYLDERAU Y GWYNT, OYLLA A'R ARENAU. ISEL YSBRTD, Cofiwch forI gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod ya rhaid myue at y GWAED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae HU«HMI'S BLOOD fllLLS yn oael effaith uniongyrchol ,ar y GWAED, ac ar yr hoa gyfansodaiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth ean bob Chemist -a gwerthwyr Patent Medicine am Is He, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner en gwertil mewn Stamps neu P. O. at JACOB HUGHES, M.P.B,s L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. Rhoddwch braw  j- l^gGomer's, 811..lIlllB ,¡¡Ii ?i/ f ? Balm  MAE" GOMElt S BALM YN ELI AT BOB' CLWYF, AC YN HYNOD AC ANIFAELEDIG AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALL-INOL Y OOFFR. A oes ggnych Goes ddrwg. Y mae GOMER S BALM yn iachau y Clwyfau hy braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Ery" sitiola Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd, Exzema. Cedwir llawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yniachau Crach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanau, Piles, Llygriadan Plant a Benywod, Malaethau, Tarwden. Traed Chwysedig, Gout, Gwynegou, Scurvy. v Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, Cerrig Ffermwyr, Monvyr, Engineers, Ymdeithwyr, CretTtwyr c bob math, ni ellir cael dim mor effeithiol a eicr a Gomer's Balm at bob Archoll a Damwain i'r Cnawd, a sicrhad Biooa Poison marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.-Mae eieh Eli, sef Gomers B um, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe g-pfodd wyr i mi ei ysgaldanu yn ddrwg iawn yn ei gefnVr bol. Fo r«fodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fuan ag oeda yn bosibl, yn mhen yr wythnos yr oedd yn abl I"Nv ei ei wisgo, ac yn bur fuau yr ocdd ei wellhad yn drwy:. i. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad Uym iawu cac y Blast (neu Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwnwneth mawr ddrwg iddi, Wedi hyny hi a udefnyddiodd Gomer's Balm yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bifcy nad yw pawb ddira yn gwybod am dano,-H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT A SAUCER. Syr.—Ni allaf byth ddiolch digon am eich Gomer's Balm, y mae yn iachan fy nglun yu gylfyni iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn as-j bum' mlynedd. elwyt mawr cymaint a savccr, ac yu boenus iawn, pawb yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwythan y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario puaoedd lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano; J. BUTLER, Dale-end, Darlaston. Rhodder Frawi arno. Gcfyner am Gomer's Balm. Na thwyller ehwi, mynweb weled etiw "JACOB HUGHES" ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist neu werfcbwr PaMnt Medieiua am Is lie., neu daufoner en gwerth mewn Stump* 4 neu P, 0. i'r gwi.eutnurwr, JACOB HUGHES, W.P.8,L.D.S MA.N Ul< 0TUHJNG CHEMIST, CARDIFF 4a6 PENARTH, CARDIFF fT •;