Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

--BLAENAU FFESTINIOG. <

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. < Vyjarjod heddwch a diarfogiad.—JJymumr ar- Bom wneyd yn hysbys na cLiynhelir y cyfarfod eyhooddus a fwriadwyd ei gynal nos Wener, i gefnogi cynygiad Ymherawdwr Rwssia yn ffafr diarfogiad eyffrediiiol. Mae y cyfarfod yn cael ei ohirio hyd wythnos y Pasg, am resymau neillduol. Da,inivai)t.-Boreu ddydd Gwener, wrth ddilyn ei alwedigaeth fel creigiwr cyfarfyddodd Mr. Morris Humphreys, Penygroes, Bethania, a -damwain, trwy i gareg syrthio ar ei goes, a thori asgwrn ei feilwng, Cariwyd ef adref a gweinydd- wyd arno gan Dr. H. O. Jones, cynorthwywr Dr. Evans. Cyfarfod Cystadleuol Doli-hedy,it.-Mae. nifer dda o enwau wedi eu derbyn eisoes i law, ac felly mae golwg am gyfarfod da. Cofied y rhai sydd yn meddwl cystadlu ar y Solos a'r Adroddiadau eu bod i anfon en henwau erbyn dydd Sadwrn nesaf y 25ain o Chwefror.-Ysg. Cymdeithas y Gwyr Ienangc.-Nos Iau, cafwyd dadlar"Defodaetb." Bu y drafodaeth yn hynod o wresog a llwyddianus, yn cael ei hagor gan y Mri. D. D. Roberts a P. Davies. Cymerwyd rhan ymhellach gan amryw o'r aelodau. Cari- wyd yn erbyn fwyafrif o un.—D. Jones. Givaredigaeth Hyitod.-Prydnhawn dydd Sul, aeth bachgen bach dwy flwydd oed Mr. Humph Davies, 5 Brynbowydd, i'r attic, ac ar ben y grisiau yr oedd gwydr i dafiu goleu i lawr iddi. Torodd y gwydr o dan y bychan, a syrthiodd i lawr i waelod y ty. Bu yn annymwybodol am ddyddiau, ac y mae yu parhau yn hynod wael. Y syndod yw ei fod yn fyw. The Literary and Scientific Society.-Cyfarfydd- odd y gymdeithas uchod nos Wener diweddaf y 17eg cyiisol, i wrandaw papyr campus ar Utopia," Syr Thomas Moore, gan Miss Bickley o Ysgol Sirol y Bala. Cafwyd un o gyfarfodydd goreu y tymhor. Cymerwyd rhan yn mhellach gan Mr. Walker Davies, Miss M. C. Jones, Miss Bryant, Mr. F. P. Dodd, Parch. D. Richards, Mr. H. Ariander Hughes a'r Parch. Thos. Jones. Duwinyddiaeth y Llyfr Hymnau.—Yn nghyf- arfod l Cymdeithas Dduwinyddol Bowydd, nos Fawrth, o dan lywyddiaeth y Parch R. J. Wil- liams, traddododd y Parch. David Roberts, y Rhiw, ei anerchiad boblogaidd ary testyn uchod. Dangosodd y cyfoeth mawr o dduwin yddiaeth sydd yn Llyfr Hymnau newydd y lmethodist- iaid a nododd amryw emynau yn engreilftiau i ddangos allan yr athrawiaethau a'rfrhai yr ym- driniai. Caed pleser mawr mewn gwrando yr anerchiad. Caed sylwadau pellach gan y llywydd a Mr. R. E. Roberts, Dorvil Street.-Aelod. ,Lliv yddiaiit. -Llawenydd genym weled llwydd- iant y gantores ieuanc addawol Llinos Moelwyn yn Mhorthmadog, nos Fercher, Chwefror 15fed. Bu yn fuddugol ar y prif adroddiad allan o 15eg o ymgeiswyr, hefyd yr oedd yn 2il ar yr Her Unawd, allan o 20, o ymgeiswyr. Bu y beirniad mewn tipyn o betrusder yn ceisio cael allan y goreu, yr oedd yn un o'r cystadleuaetliau caletaf. Yr oedd prif gewri Arfon a Meirion yno yn cystadlu, amryw ohonynt wedi bod ar lwyfanau yr Eisteddfod Genedlaetliol. Gresyn na chaffai yr eneth ieuanc uchod fwy o gefnogaeth oddiar fin llaw fel ardalwyr, mae y ffaith am ei llwyd- iant anrhydeddus yn mliob cystadleuaeth er y Nadolig yn ddigon o brawf; pe cawsai y geïnog- aeth dyladwy oddiar ein llaw, y deuai cyn hir yn anrhydedd i ni fel ardal.—Ardalwr. Hyfrydfa. Cynhaliwyd cyfa.rfod arferol y gymdeithas nos Iau dan lywyddiaeth Mr. Elias Ellis, Conglywal. Dadl "Pa un a'i Amaethwr, a'i Chwarelwr sydd fwyaf defnyddioli gymdeith- as, yn dymorol ac ysbrydol. Agorwyd inai yr Amaethwyr gan Mr. Edward Roberts, Manod Road y Chwarelwr gan Mr. John Penny Jones Manod Road. Yna cafwyd rhyddymddiddan ar y ddadl gan amryw o'r aelodau, a rhoddwyd hi i bleidlais, pryd y cafwyd pedwar o fwyafrif mai yr Amaethwr yw y mwyaf defnyddiol. Hefyd da genyf longyfarch y parti aeth oddiyma i Maentwrog nos Sadwrn diweddaf, yn enill yn y brif gystadleuaeth dan arweiniad y cyfaill ieuanc addawol Mr. William R. Thomas, Pengarth.-J. Adroddiad Blynyddol Eglwys Seioit (B.)-Y mae adroddiad destlus a chryno newydd ei gy- lioeddi. Perthyna i'r eglwys hon, weinidog—y Parch. Moses Roberts, un pregethwr cynorth- wyol—Mr. David Pritchard, ac wyth o flaenor- iaid. Rhifa yr eglwys 183, cynydd o 36 yn ystod y flwyddyn; bedyddiwyd34. Dengys y cyfrifon lawer o ffyddlondeb a diwydrwydd. Casglwyd at y weinidogaeth 127p 3s 7c casglwyd at wahanol achosion 34p 19s 61c: eisteddleoedd a thai 55p. 7s. 9c casglwyd at ddyled y capel 39p 17s lie; casgliadau yr Ysgol Sul 74p 2s 6íe goleuiii 2p 18s Oc. Gwna yr oil gyfanswin o 334p 8s 6|c. Wrth edrych i fanylion y cyfrifon gwelwn fod lluaws yn cymeryd y weinidogaeth, a'r eisteddle i wrando y cyfryw, yn rhad. Dyma y grefydd (rhad) y mae llawer yn yr eglwysi yn rhy hoff o honi y dyddiau hyn. Bu tri farw yn aelodau o'r eglwys yn ystod y fiwyddyn. Yr Ysgol Sirol.—Cyfarfu Bwrdd yr ysgol hon dydd Llun, dan lywyddiaeth Mr. E. P. Jones. Cynygiodd Mr. E. H. Jonathan, y chcfnogodd y Parch. R. J. Williams, fod y Bwrdd yn cyd- gyflogi Clerk of Works gyda phwyllgor yr heddlu y rhai oeddynt yn myned i godi adeiladau ar Park Square. Cynygiodd y Parch. David Richards, M.A., a chefnogodd Mr. Owen Jones, Erwfair, fod un ar wahan yn cael ei benodi. Cariodd y cynygiad gwreiddiol trwy bleidlais derfynol y cadeirydd. Ar gynygiad y Parch. D. Richards, M.A., a ehefnogiad Mr. Walker Davies, B.A., pasiwyd cyfartalu y cyflog yn ol gwerth yr adeiladau. Pasiwyd hysbysebu am Clerk of Works. Pas- iwyd yn mhellach fod y penodiad a'r holl drefn- iadau i'w gwneyd gan y eyd-bwyllgor. Lladrata cot oil ei Feisir.-Dydd SadwrD, o flaen Dr. R. Roberts a D. G. Williams, Ysw., yr Arol- ygydd Roberts a gyliuddodd William Williams, North Penrallt, Caernarfon o ladrata cot oil (gwerth 7s 6c) ei feistr, Arthur James Picton, gwerthwr pysgot, High Street, Blaenau Ffest- iniog.—Tystiwyd iddo ddod i'r ardal, a chad gwneyd man negcsau dros Picton gyda'r pysgod Rhoddwyd benthyg y got iddo ar ddiwrnod gwlawog, ond methwyd a chael hyd iddi yn y fan y dywedai ef iddo ei roddi. Cafoddei benth- yg Chwefror 2, ac aeth i ffordd ddydd Llun, y 13. Codwyd gwarant, a daliwyd ef yn Dolgellau a'r got yn ei feddiant.—Dywedodd y RliingyllOwen iddo dderbyn y carcharor gan awdurdodau Dolgellau, ac wedi ei gyhuddo dywcdodd "IlRd oedd yn bwriadu ei chadw. Methodd a gweled Picton cyn myned o'r lie, ac yr oedd am ei han- fon iddo o Dolgellau.—Pan^gyliuddwyd ef yn y llys pleidiai ei fod yn ddieuog o ddwyn.—Dirwv o bunt a'r costau, neu saith niwrnodogarchar. Nid oedd ganddo ddim i dalu ac awd ag ef i ?eraMion. Dine est.—Cynhaliodd teml Diphwys ei chyfar- fod rheolaidd nos Wener o dan lywyddiaeth y Prif Demlydd. Cafwyd cyfarfod hwyliog, a nifer dda o'r Aelodau wedi dyfod ynghyd. Cym- erwyd rhan ynddo mewn canu gan Miss Ellen Jones, Cromwell Street, a John Ll. Humphreys. Adroddiad gan Madoc Vychan, ac Edward Daniels ynghyd a gair o groesawiadi'r ddau oedd yn cael en derbyn yn aelodau gan Mr. Hugh Lloyd a'r Prif Demlydd.—Nos Sadwrn cafwyd gwledd rhagorol gan Band of Hope Bethania. Y llywydd ydoedd Mr. W. D. Jones, Brynegryn. Canwyd gan Jane Ann Williams, Ellen Jones, Lizzie Jones, Margaret E. Ellis. Adroddwvd gan Mary Lizzie Thomas, Dorothy Jones a John Roberts. Cafwyd chwareuad rhagorol ar y Cornet gan Edward Morris Jones ynghyd ag anerchiad teilwng iawn o sylw, gan y Llywydd a Robert Jones, Frondeg yr hwn a adroddodd Cartref y Meddwym" Drwg genym i'r Parch. J. hhydwen Parry fethu bod yn bresenol oher- wydd afiechyd. Cyfeiliwyd gan Misses Margaret E. Ellis, Annie Bevan a Mr. Morris H. Jones. Gresyn fod merched ieuanc yn darostwng eu hunain trwy aflonyddu ar hyd y cyfarfod, er erfyn arnynt nid oedd tawelwch yw gael. Cofied y rhai hyn, mai y tro nesaf y ceir trwbl gyda hwy, bydd eu henwau yn y "Rhedegydd." -E. 0. 1. Cyngerdd Seindorf Freinol Oakeley.-Nos Iau yr oedd y Neuadd Gynull yn llawn gan ddangos cefnogaeth wresog i'r Seindorf. Yn absemldeb Mr. Roberts, Dolawel cymerwyd y gadair gan Mr. Davies, Cae'rblaidd. Mr. J. Jones Morris a arweiniai. Awd trwy y rhaglen ganlynol gyda hwyl dda :-DethoJiad gan y Seindorf. Unawd In chape Bell," Mr. Hugh Roberts. Gwlad y Bryniau," Mrs. Henderson Jones, Talsarn. Deuawd offeynol, Mri. Edward Morris Jones a W. John Owen. "Y Milwr Dewr," Gutyn Eifion; encoriwyd ac ail ganodd. Adroddiad gan Mr. R. 0. Jonas, Brynofferen. "Y Dymestl" Mr. J. H. Jones. Deuawd, Howell a Blodwen" Mrs. Henderson Jones a Gutyn Eifion. Gorfu iddynt ail ganu. Detholiad gan y Seindorf. "Blodyn yr Haf," Miss Laurah Ann Jones, a gorfu iddi ail ganu. Unawd offerynol, Mr. Alexander Owen, yn gampus a bu raid iddo ail chwareu. Deuawd Cymru'n barod ar y Wys" Mri. Gutyn Eifion a John H. Jones. Talu diolchiadau gan Bryfdir a Namor Wyn. "I will extol Thee," Mrs. Jones. "Teyrnydydd," Hugh Roberts. Llangces y Dyffryn," Gutyn Eifion. Dwy aden colomen" &c., Mrs. Jones. "Off to Philadelphia," Mr. J. H. Jones. Detholiad gan y Seindorf,—Cafwyd elw da ocldi- wrth y cyngerdd. Yr Arddangosfa.—Cyfarfu y Pwyllgor Cyffred- inol prydnawn Sadwrn. Mr. John Jones, Fron- heulog yn y gadair. Wedi i Mr. William Jones, yr Y sgrifenydd ddarllen nifer o lythyrau yn gofidio nad allai eu hysgrifenwyr fod yn bresenol, awd yn mlaen i ddewis Llywydd a Chadeirydd. Syrthiodd coelbren y Llywydd ar G. H. Ellis, Ysw., U.H., Penymount, ac eiddo y Cadeirydd ar Mr. William Powell, Dwyryd House. Ail ddewisiwyd yr Is-lywyddion gan ychwanegu enw Mr. Owen Jones, Erwfair atynt. Wedi hyny awd at ddewis aelodau y Pwyllgor Gweithiol, a threuliwyd y gweddill o'r amser gyda'r gwaith hWllW. Y mae golwg galonogol iawn o flaen y pwyllgor, a phawb mewn ysbryd rhagorol at weithio dros lwyddiant yr Arddangosfa er ei gwella, ei eangu, a'i dyrcliafu. A ganlyn yw enwau y rhai a ddewisiwyd ar y pwyllgor gweithiol --0 Maentwrog, Evan Davu-s a fierce Jones; o'r Llan, Owen Jones, Ellis Edwards, a Evan Richards o Trawsfynydd, D. Tegid Jones; o Gongywal, Edmund Williams, John Russell, a John Vaughan Williams o Fonrcrosses, Wm. Powell, John Jones, W. J. Evans, a Ellis G. Roberts o Church Street, R. Jones (Meirion), E. Lloyd Powell, ac Evan Thomas o'r Rhiw, W. J. Rowlands, Hugh Davies a Robert Davies; o Tanygrisiau, Evan Lloyd, a S. R. Owen. Y Giveinyddesau.—Fel y gwelir mewu colofn arall y mae cyfarfod blynyddol y gtfeinyddesau i'w gynal nos Lun. Erbyn hyngallwn ddisgwyl clywed pethou dyddorol yn mlilith gweithred- iadau y flwyddyn. Nid oes ond un farn am y Nurse Alice a Nurse Edwards, a hyny yw eu bod yn gydwybodol iawn yn eu gwaith, ac yn neillduol o ddiwyd a gofalus. Mae yr ardal eisoes wedi dangos gwerthfawrogiad o'u gwaith, mewn gair a gweithred. Hyderir y daw penau teuluoedd a'r ieuenctyd ynghyd yn gryno nos Lun. Nodion o'r Llan. Cyfarfod Ainrywiaethol dyddorol gafodd cymdeithas Eglwys St. Michal, nos Wener diweddaf. Yn y Cymru Sobr, cafwyd Darlith ragorol gan y Parch. lD Pughe, Shiloh. Cyf rrfod Cyfarfod gweddi gafodd cymdeithas Bethel. Nos Sadwrn, yr oedd y pentref yn cael ei nodweddu gan dawelwch mwy nag arferol, a hyny ar gyfrif .fod yr ieuenctyd wedi myned oddiyma yn Iluoedd i Gyfarfod Llenyddol y Maen, i'r brwydrau eerddorol oedd yno. Os na chawsoch y llawryf, na ddigalonwch, yr oeddych yn bur agos atto. Ti-y agetiii. Dydd Sadwrn nesaf, bydd yr Ymrysonfa Aredig yma. Disgwylir ymgejswyr glew. Gobeithio y ceir tywydd ffafriol, fel ac i sicrhau llwyddiant yn mhob ystyr. Cywjlicrdd yr Ysgol Genedlaetliol.—Gwelwn fod y rhagleni hysbysia.dol allan yn barod, ac oddiwrth y cyfryw gellir disgwyl y bydd yma gyngerdd da. Dealivvn fod Male Voices' tren y gweitbwyr yn cymeryd rhan ynddo, xiravo —Burns. Cymdtithas Lenyddol Eii(ledi.- Cynhaliodd yr uchod ei chyfarfod nos Ian, diweddaf, dau lywyddiaeth y Parch. T. Lloyd, pryd y caiwyd dadl, A ydyw deddfwriaeth y moddion goreu i atal ym.,fed.' Agorwyd ar yr oclu- gadain- haol gan Mr. E. W. Jones, Pantllwyd, ac ar yr ochr nacaol gan Mr. J E Davies, a cafwyd dad- leu brwd ar y naiU oclir L'r llall. Pasiwyd diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i'r ddau frawd uchod am ei gwaith rhagorol.— Ysg. Cymdeithas Ymdrech Grefyddol Peniel. A gyniialiwyd nos lau, o dan arweinjadyr Is-lywydd Mr. Owen Evans, Post Office. Cyfarfod amryw- iaethol ydoedd, a daClth cynullind rhagorol ynghyd i wrando ar y Rhaglen faith yr hon trwy ddeheurwydd a doethineb y Llywydd a ddygwyd ¡ yn mlaen yn t'oddhaol yu y drefn a ganlyn:—Ton gynulleidfaol. Cacd anerchiad gan y llywydd. I Caed adroddiadau, a chauiadau gan y rhai pan- lynol Thomas E. Roberts, Marv E. Jones, Catherine Thomas, Mary E. Hughes, Maggie Robnts, Thomas M. Thomas, Robert M. Thomas, Hugh G. Hughes, yr oil o Horeb. Yn ddilynol, unawd gan Catherine Lloyd, Belle Vue, a clian 1 Robert O. Ellis, Highgate. Deu-twd gan Wm. J. Lloyd, a William Williams. Dadl ddyddorol iawn gan Mary E. Williams, a Maggie Roberts, Tynymaes. Unawd Ellis Roberts, Llechwedd Isaf. Deuawd gan John G. Jones, a Robert Jones, Station Road. Unawd Robert O. Ellis, Highgate. Adroddiad John R. Jones, Back Sun Street. Unawd Robert Jones, Station Road, a chan W. J. Lloyd. Adroddiad gan Annie Thomas, Ty capel. Unawd gan W. Williams. Diweddwyd trwy gael deuawd, Ar lan afonydd babel," gan Mary Ellen Williams, a John R, Jones, a threuliwyd noson lawen a liyfryd.-R. HEDDLYS ARBENIG.—Dydd Iau (heddyw) o flaen Dr Evans, yr lieddgeidwad Evan Jones a gyliuddodd James Davies, crwydryn o Lerpwl, o gardota yn Berthddu, Trawsfynydd, dydd Mercher. Pan aeth y swyddog ato, gofynodd am gael cerbyd i'w gario i'r gell. Anfonwyd ef i garchar am saith niwrnod.

Family Notices

Advertising