Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
TABOR, BRYN.
TABOR, BRYN. Cynaliwyd cyfarfod chwarterol Ysgol Sul y ganghen weithgar nchod prydnawn Sul, Ion- Slain, a chafwyd cyfarfod ardderchog,—yr ad- roddwyr, dadleuwyr, a'r datganwyr bychain a mawrion, ac olion eu bod wedi dyfal-barhau i feistroli y darnau fu dan sylw. Cadeiriwyd yn ddeheuig yn ol ei arfer gan y Parch. J. R. Evans. Wele rhestr o'r pregethwyr wnaeth dorchi llewys ati o ddifrif :—Canu pennill adrodd Y Salm Gyntaf, William John Rees; Gair i weddi adroddiad, Yr Ysgol Sabbothol," LI. J. Griffiths; can, "Nacildia i demiasiwn," David J. Davies; adroddiad, Pwy ydyw lesii Grist," Francis Rogers; ton, Y Beibl," cor; adroddiad, Bendigedig fyddo Duw," Mary A. Griffiths can, Cais y Colledig," A Griffiths dadl, Y Beibl," W. J. Rees a G. G. Bassett; deuawd, Nac ildia i demtasiwn," Lizzie Ann Stone a Blodwen Griffiths; adroddiad, Y Bachgen Iesu," pedwarawd, Y Deigryn," Mrs. Williams a'i chyfeillion adroddiad, '• !ae'r I. plant yn eiddo'r Iesu," Sarah Griffiths; ad- roddiad, Cri'r Pechadur," Francis Rogers ton, Y milwr;" Cor adroddiad, Yr Ysgol Sul," Sarah Griifiths can, Paham yr wyt yfi oedi," David J. Davies; "Yr Ysgol Sul," E. Rogers a Kate Bevan adroddiad, Y Cristion," G. G. Bassett; pedwarawd, Maddeuwyd fy mai" Elizabeth Jenkins a'i chyfeillion adrodd- lad, "A'i Cernodiasant Ef," casgliad; ton, "I Dduw boed y Gogoniant," Cor. Arweiniwyd y cor gan y brawd David Rees, arweinydd cor Soar, ac aethant drwy eu gwaith yn ganmol- adwy. Dywedir fod y cyfarfod hwn yn un o'r goreuon fu erioed yn Tabor. Ymdrechwn gyda ffyddlondeb arferol bobl weithgar Tabor, i gael un eto ar ben y tymhor er dysgu y to sy'n codi yn athrawiaeth crefydd, gosod mwy o fywyd yn y gwaith nef-anedig, ac y gwelwn I bendith lor ar y cyfan. Gogoniant i'r hwn y mae I yn ddyledus, gan bawb, a? oddiwrth bob peth. -Yr eiddoch, BRAWD o'R BROD?R. J I
PONTYEATS. I
PONTYEATS. I ANGLADD ODYDD. I Dydd Mercher diweddaf, claddwyd y brawd John Davies, Glan-nant, aelod o Gyf- rinfa y Loyal Brigstocke, Pontyeats, yn 65 mlwydd oed, mewn modd anrhydeddus a pharchus, yn deilwng o'r perthynasau, ac liefyd o'r Urdd Odyddawl i ba un y perthynai. Pan y meddyliom am yr amser a gyd- dreuliasom yn nghyflawniad ein swyddau fel brodyr yn y gyfrinfa a nodwyd, ydym yn cael ein gorlenwi a meddyliau hiraethlawn a drylliog wrth goffo am ymadawiad sydyn ein hanwyl frawd. Yr oedd wedi gweinyddu y swydd o Drysorydd am lawer iawn o flynyddoedd heb absenoli ei hun unwaith o'n cyfarfodydd. Gellir dweyd am dano hefyd yn ngliyflawniad ei swydd ei fod bob amser yn brydlon, gyda chydwybod ddirwystr a chalon onest. Llawer gwaith y buom yn ymgynghori ac yn ymdrechu dros leshad y f rawdoliaeth, a thros symudi ffwrdd y pethau hyny feddyliem oedd yn greigiau rhwystr i Iwyddiant ein cyfrinfa. Bydded i ni oil ei efelychu yn ei ddiwydrwydd difiino; hefyd, fel swyddog a brawd ffyddlon dros Odydd- iaeth yn Pontyeates. Bu y brawd John Davies yn aelod a Fwrdd Ysgol Llangendeirne, a dywedodd un o'i gyd-aelodau wrthyf na chollodd ond un cyfarfod yn ystod y tair blynedd y bu yn aelod, ac hefyd, ei fod yn dyfod yn fwy hoff o hono pa fwyaf oedd yn ei gyfeillach, a dengys hyn ei ddefnyddioldeb yn y gwahanol gymdeithasau. Gellir dweyd am dano hefyd fel crefyddwr ei fod yn anrhydedd dilychwyn i'r eglwys. Bu yn ddiwyd gyda chrefydd am ei dymhor. Nid yn ami y gwelwyd ef yn absenol o gyfarfodydd yr oglwys, ac os buasai yn eisiau, buasai pawb yn barod i ofyn, B'le 'roedd John Davies." DEWI AB IOAN. I
==================I PONTYBEREM.…
================== I PONTYBEREM. I Y mae yn dda genyf gofnodi fod achos newydd y Bedyddwyr yn llewyrchus iawn. Hyderaf y bydd iddo roddi symbyliad i'r bodau hyny sydd hyd eto heb weled, neu, o leiaf, heb gydnabod, gwerthfawredd crefydd. Y mae'r Bugail mawr yn eich gwahodd, fechgyn der- byniwch y gwahoddiad, a deuwch i fawn i'r gorlan. Rhyfedd y fath ddyddordeb y mae rhai benywod yn ei gael mewn clecian a thaenu anwireddau gylch-ogylch y 11eyn barhaus! Yr oeddwn yn myned heibio maelfa glecyddol y dydd o'r blaen, a syndod fyth y fath gynadledd or rhyw deg (?)! Trueni, er hyny, eu bod yn trafod cymeriadau dynion. Gwell o lawer pe buasent yn ymddifyru mewn rhywfodd arall, drwy nad oes ganddynt ddim i'w wneud tra fo'r gwyr yn y gwaith. Mawr yw y ffwdan, er hyny, gymer le pan f'o amser y gwyr i ddyfod adref yn dynesu. Rhinwedd anmhrisiadwy mewn gwraig yw gwarchod y teulu gartref, a pharotoi lie cysurus i'r gwr pan ddaw adref. Y mae llawer o'n dynion mewn oed yn bona fide travellers ar y Sabbath y dyddiau hyn. Halogant y dydd sanctaidd trwy borthi eu blys a phethau meddwol. Golygfa resynus yw eu gweled ar eu ffordd gartref ar nos Sul. Maent yn lweus fod cloddiau o bob tu i'r heol. neu good-bye am weled cartref nos Sul fuasai! Trueni gweled cynifer o'n cymydogion yn rhodio y ffordd lydan sydd yn arwain i ddystryv. UN O'R LLE. Cynaliwyd cyfarfod dirwestol mewn hwyl a givres anarferol nos Sadwrn diweddaf gan Obeithlu y lie, pryd yr ymgomiwyd ac y dad leu- wya yn ddyddorol dros ben gan aelodau ityddlawn y Gymdeithas Ddirwestol, ac y dad- ganwyd yn ardderchog gan Mr. John Hewitt I n Miss S. A. Davies, ac y chwareuwyd y "berdoneg yn y modd mwyaf meistrolgar gan Mr. R. Gwilym Griffiths, goruchwyliwr Glofa Capel If an. "Cafwyd hefyd ddarnau byrion gan I v fife band, o dan arweiniad Mr. Griffiths. Traddododd Mr. Hopkins, myfyriwr o Gaer- fyrddin, anerchiad rhagorol. Nid rhyfedd fod yr achos dirwestol yn llwyddo, y mae yr egwyddorion yn iawn, a'r pwyllgor yn gweithio yn dra rhogorol, megys y cadeirydd, Mr. Jeremiah Davies, y Parch. Cynllo Griffiths, 1 Meistri R. G. Griffiths, David Davies (Bont), Thomas Thomas, Thomas Roberts, a David Davies (Bontchwith). Llwyddiant a ddilyno eu I hymdrechion, meddaf fi, beth bynag. Cynaliwyd cyfarfodydd pregethn gan yr achos newydd sydd gan y Bedyddwyr yn y lie hwn yn Ysgoldy y Bwrdd. Daeth tori yn nghyd i wrandaw yr hen genadwri yn cael ei thraddodi gyda bias gan Mr. Hopkins, o Goleg Caerfyrddin. Ewcli yn n-ilaoti, froclyr, yn wrol, ac vn v diwedd coronir eich llafur a'ch vm- I drechion a llwyddiant. J. J. I
IPIGION O'R BRAKES.I
I PIGION O'R BRAKES. I I [GA-N- I Prydnawn Sul a nos Lun, yr oedd y Parch. J. R. Evans yn pregethu yn Penclawdd. Dydd Sul a nos Lun nesaf, cynelir cyfarfodydd haner-blynyddol Siou a Bethania, Llaneili. Pe byddai cyflog yr Arlywydd Americanaidd yn cael ei thalu mewn aur, pwysai ddau can pwys. Nos SLil nesaf, cynelir ysgol chwarterol Maes- canner, Dafen. a sicr y bydd yn v/erth bod yno, fel ¡ arfer. Bydd Miss Claudia Williams, Llanelli, yn canu mewn cyngherdd fasvreddog yn Treorci Chwefror 16eg. Cafwyd cyrddau chwarterol rhagorol yn Soar- cynaclledd heddychlon, pregethu rhagorol, a chroesaw calon i'r dyeithriaid. Da genyf am dystiolaeth un o aelodau goreu y Cynghor Plwyfol fod Cynghorwyr H. J. Hopkins a W. Thomas gyda'r mwyaf defnyddiol ar y Cynghor. Lied dda, nen: blood. ) Eiddunwa eich cydymdeimlad a'r Cynghorwr Owen Bonville a Miss Maud Lewis, Post Office, yn eu hafiechyd blin, ac y cant adferiad buan er cyflawni eu lluaws ymrwymiadau. Da genyf fod tysteb Mr. John Thomas, station- master Bynea. yn dod yn mlaen yn rhagorol. Y mae efe yn haeddu gwneuthur o honom hyn iddo. Dymunwn iddo adferiad buan o'i afiechyd blin. Nos Lun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgoldy y Bwrdd er protestio yn erbyn ym- ddygiad y Cynghor Dosbarthol yn gohirio mater dwfr Liwynhendy. Yr oedd Mr. D. Harry yn y gadair, a siaradwyd yn gefnogol iawn i scheme yr Heol, a phenderfynwyd yn unfrydol fod cynrych- iolaeth i aros y Cynghor heddyw, sef Cynghorwyr Win. Thomas, H. J. Hophins, David Harry, a W Humphreys. Pa hyd y mae yn rhaid goddef eto ? Wo ar bwys y Pistyll.
CYFARFOD CYSTADLEUOL TY-NEWYDD,…
CYFARFOD CYSTADLEUOL TY- NEWYDD, LLANEDI. FFUGENWAU Y CYSTADLEUWYR. I Derbyniwyd cyransoàoiarlau yn dwyn y ffugenwau canlynol ar gyfer y cyfarfod ucbod a gyuelir dydd Sadwrn, Chwefror 13eg, 1897 Llythyr Caru.-Gwilym Evaiis, Kelly Bach, Ystyriol. Gwen Parry, a Gwen Thomas.-5. Testyn y Goron, 14 Cynulliad Pont y Gwili. Diwygiwr, Gwerinwr, Waeth Pwy, LIef Aweu, Glan Gwili, a Bu'm Ynddo.-6. Y mae rhagolyeon am eisteddfod lewvrchus dros ben. W. H. WHTB, Ysg.
MEINCIAU. I
MEINCIAU. I Cynaliwyd cyfarfod Cystadleuolyn y lie uchod nos Sadwrn. Ionawr 30ain, o dan nawdd Ysgol Sul Pedair Heol. Awd drwy y rhaglen gatilynol.-Unawd i ferched dan 14 oed, "'Rwy'n gweddio drosoch chwi," rhauwyd y wobr rbwng M. A. Anthony, Pedair Reol, a M. Davies, Mynyddygarreg unawd i fechgyn dan 14 oed, Y graig sydd uwch," rhanwyd rhwng D. Morris, Pedair Heol, a W. Jones, Mynyddygarreg: Canu i rai dros 35 oed yr hen don Caersalem," J. C. Jones, Pedair Heol unawd baritone, Llongau Madog," goreu, Thomas Anthony, Mynyddygarreg unawd soprano, "Deigryn ar fedd mam," rhanwyd rhwrg M. Jamec, Potitbenry, a E. White, Ynysafren; unawd tenor, "Gwlad fy mebyd," goreu, Tom Gravell, Mynyddygarreg; adrodd "Y Dafarn," rhanwyd rhwng J. Walters, Gwndwn Bach, a E. Griffiths, Glyn Abbey Farm; deuawd, Mae'r lan ger llaw, goreu, W. John, Pontyeats, a John Beynon, Pontyeates unawd bass, Y Bachgen Dewr," goreu, J. Joues. Carway traethawd ar h Wastraff," goreu, Phillip Protheroe, Mynyddygarreg; i'r parti ddim dan 16 mewn cifer a gano yn oreu Craig y Tyle," goreu, parti W. White, Pontyeats. Ar ol gorphen y rhaglen, cododd y Parch. M. T. Rees (cynt weinidogyr eglwys), arweinydd y cyfarfod, ar ei draed, a chydnabyddodd yn ddiolchgari bawb am y modd Cristionogol y treuliwyd y cyfarfod, gan arwain yn mlaen at yr achos oedd elw y cyfarfod i fyn'd, sef i gynorthwyo y cyfaill a'r brawd John Morris, yr hwn sydd wedi cyfarfod a dam wain er's rhai misoedd. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgar- wch i Mr. William Evans, Poutyberem, a'i gyfaill, am ein gwasanaethu yn rhad fel beirniaid. Hefyd, dangosodd y cylchoedd ddwy elfen amlwg mewn cariad at y cyfarfod hwn, let cydymdeimlad achymwynasgar- wcb, drwy fod mor barod i gydymdeimlo a'r brawd yn ei gystudd, ac mor gymwynasgar a derbyn tocynau y cyfarfod heb un grwgnachrwydd. Credaf mai budd- iol fydd nodi modd y gwerthwyd y tocynau yr hyn a ddengys i'r darllenydd pt fodd y mae cariad yn ffynu rhwng Cwmgwendraeth a'i chymydogion,ac yn foddhad i'r prynwyr eu hunain pa fodd y mae pethau Glofa Pouthenry, 230 o docynau; glofa Capel Evan, 73; glofa Caepompren, 36; gwerthwyd nos Sadwrn y cyf- arfod, 130; a gwerthwyd yu ngwaith Caleb, Mynyddy- gareg, 36 o docynau, yr oIl yn chwe' cheiniog yr un. Felly, gwelir fod hyn yn dda mewn ardal wledig tel hon. Yr wyf finau drwy gyfryngwriaeth y MERCURY, dros Ysgol Sul Pedair Heol a'r brawd ieuanc John Morris, yn diolch yn barchus i bawb a fu mor garedig a phrynu. Dyma orchymyn dwyfol yn cael ei gyflawni heb unrhyw nacad. "Dygwch feichiau eich gilydd." Gobeithio nad ydyw hyn ond dechreu i weithredoedd da ac fydd yn enwogi Cwmgwendraeth a'r cylchoedd oddi amgylch. D. R.
i ISGBEPAN GWILYM MORLAIS.
i ISGBEPAN GWILYM MORLAIS. Merthyron yr oes hon fydd seintiau yr oes nesaf. Y mae y gantores fyd-enwog, yn ei dydd, Madame Edith Wynne, yn ei bedd. Yr ydym ni, yn yr oes hon, yn mwynhau y breintiau fu y 'Beccas yn ymladd am danynt. Y mae Tywysoges Cymru wedi anrhegu yr Alexandra Hall, sef neuadd y merched yn nglyn a Choleg y Brifysgol i Gymru yn Aberystwyth, a darlun hardd o honi ei hunan er cof am ei gwaith yn agor y ueuadd yn Mehefin diweddaf. Bydd yr wythnos ddiweddaf yn hir-gofiadwy yn Llundain fel yr wythnos Gymreig, o herwydd sicr yw nad yw y Llundeinwyr wedi clywed cymaint o ganu Cymraeg erioed o'r blaen ag a glywsant yr wythnos ddiweddaf gau chwarelwyr Bethesda. Drwy farwolaethau Mr. W. Williams, prif arolygwr ysgolion elfenol Cymru, a'r Parch. Herber Evaus, D.D., y mae Prifysgol Cymru wedi colli dau o'i haelodau mwyaf galluog. Yr oeddent hefyd yn aelodau o Gynghorau Aberystwyth a Bangor. Yr oedd Dr. Evaus ar Bwyllgor Bangor, a Mr. Williams ar Bwyllgor Aberystwyth, ac nid oedd neb yn presenoli ei hun yn fwy cyson na Mr. Williams. Yr oedd cyson- deb a llwyr ymroddiad i bob petb yr ymgymerai ag ef yn un o nodweddion ei fywyd. Y mae llawer o gwyno wedi bod drwy o dywysogaeth W fod Mr. Legarr; wedi cael ei apwyntio i'r swydd o Brif Arolygwr yr Ysgolion Elfenol yn Nghymru, am nad oedd yn meddiauu y cymhwysder tybiedig, ond teg, o fod yn Gymro. Galwyd sylw Mr. Balfour at y ffaith, ond beth yw ei ateb? "Yr wyf yn cael ar ddeall, fel mater o ffaith, nad yw y Cymry wedi cymeryd mantais o ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol ond yn rbanol iawn. Ychydig oedd y rhai ddarfu gychwyn y peth, ac y mae y nifer yn lleihau flwyddyn ar ol blwyddyn felly, buasai yn anghyfiawn ar y fath sail bwdr i edrycb heibio i hawliau Mr. Legard." Carem gael gwybcd pa nifer o ysgolion y Bwrdd yn Llanelli sydd wedi- cymeryd mantais o'r adran hon yn y code, a nifer yr athrawon a fedr gymeryd mantais o honi. Yr ydym yn gwaeddu, Cymraeg! Cymraeg byth a hefyd, tra nad ydym yn cymeryd unrbyw fantais o'r byn yr ydym yn ei gael.
" EHEDODD LIZZIE FFWRDD."
EHEDODD LIZZIE FFWRDD." Lliaellau ar farwolaeth Miss Lizzie Griffiths, anwyl ferch y diweddar William ac Elizabeth Griffiths, Pwll, Llaneili, Ar ol (lyoddef eystudd trwm am dros bum' mlynedd, bu farw a'i phen ar fynwes ei Cheidwad dydd Sui, Ionawr Main, yn 17 mlwydd oed. Claddwyd ei gweddilliou marwo). yn mymvent Capel Newydd. Ehedodd Lizzie ffwrdd "—Er pob gofalon Ac arein grud(ii,,tu'ii ewrcld-Mae dagrau heilltion, Er goreu cariad mam, A dyfais bron ddi-nam, Mae wedi rhoddi lla.rn-O'll plith yr awrhon. Fel rhosyn teg y bU-YIl araf wywo, Bu oer awelon lu—O'i chylch yn crwydro, Nes deiflo swyn ei gwedd, A'i dwyn i gynar fedd, Ddaeth idditi esmwyth liedtl-Ar ol hir gwyno. Yn mhabell cystudd bu-Yn nghwmni poenau Ar lan yr afon ddu-Yii swn ei thouau Am lawer blwyddyn gron, Prudd furmur swn y don Fu'n llanw'i thytier fron-A chwerw loesau. Ar lan yr afon gref—Bu'n mynych ganu, Ac am gyrhaeddyd net'—Bu'n dwys hiraethu Ac idd ei bysbryd byw Daeth gwawl gwynebpryd Duw, A gwenau'r lesu gwi\T-I'w gwir ddyddanu. O'r tiriogaethau pell—Drwy'r ocheneidiau O'r uefol wlad sydd well-Daeth nefol seiniau Yr anthem fywiol sydd Yn tanio gwlad y dydd Ac odlati teulu'r ffytid-Ar aur delynau. Ehedodd Lizzie ffwrdd "—I'w chartref nefol, Byth mwy ni ddaw i'w chwrdd—Un chwa ddifaol; Duw rho i ninau'th rad, Ae yna'r iiefol wiad, Uwch gelyn, loes, a brad—Gawn yn drag'wyddol. Llanelli. W. WALTERS (Talmai).
♦ ATEB
♦ ATEB I lytbyr a dderbyniais oddiwrth "Twm o'r Ardd," sef Mr. Thomas Davies, Sunny Hill Gardens, Llanelly. Derbyniais i eich llythyr llawn Pan oeddwn brysur un prydnawn Ac mewn atebiad wele fi 'N rhoi gair yn ol ar gan i chwi. Nid wyf yn foddlon i'm fy hun Os bydd rhaid twyllo uurhyw ddyn; Ond felly mae er dechreu'r byd, Nis gellir gwneud pob peth 'run pryd. Gobeithio y gwijewch faddeu i mi Am fethu dod a'r coed i chwi, Pa sut mae arnocb gymaint brys, Mae'u gynar eto i goedo pis, 'Rwyf wedi bod yn fisi'n wir, Yn gyru acbles dros y tir Er oered oedd y rhew a'r ia, Yr oedd bob dydd yn dywydd da, A gallem ddod o gwmpas gwaith Nad allem wneud ar dywydd llaith. Mae'n oer ofnadwy ar hyn o bryd, A'r rhew yn elyn- u'r oil yn nghyd Mae'r awel lem yn gwau trwy'm gwaed Mae'n dyn ar drwyn pan oero'r traed, Mae'u rhedeg lawr ar draws fy mlew, Fe red i gyd os par y rhew, A chwith fydd gweled dyn mor fwyn, Yn rhodio'r ffordd heb rith o drwyn. Rhaid peidio cell wair mwy na mwy, Rhag ofn i'r rhew i bara'n hwy, Mae trefnwr mawr y rhew a'r ia, Yn trefna pobpeth er gwneud da, A dylem ddiolch ar bob pryd, Am fwrdd yn liawn a dillad clyd. Nid ymhelaetbaf 'nawr, maen'n hwyr, Pob diffyg gwnewch ei faddeu'n llwyr, A chym'rwch hyn, gwnaf sicrhau, Y deuaf lawr a'r coed dydd lau. Gobeithio'ch bod chwi oil yn iach, Fel ydym ninau fawr a bach. Danfonwch air yn ol i mi Fo'n dlws ar wedd y MERCURY Gael gwel'd trwy ffrwyth eich awen hardd, Ddarluniad pur o Twm o'r Ardd," Fy nghofion atoch oil 'run pryd, A blwyddyn newydd dda i gyd. Llaunon. PENCWMYDD.
DYMUNIAD CYFAILLI
DYMUNIAD CYFAILL I Mr. Daniel Jenkins, New Cottage, Llanon, a'i briod, ar achlysur eu priodas, Ionawr 30ain, 1897. Unwaith eto dyma gyfaill Pur, a gonest hefyd yw, Heddyw wedi caru myned I fyd newydd iawn i fyw Bywyd hapus Fyddo iddo ef yn rhan. Gwelodd Daniel mai gwell ydoedd Cael o gwmni Catherine Ion, I fod iddo ef yn gydinar Bywyd ar y ddaearhon Bydded i chwi Fywyd heb un cwmwl du. Teimlodd Catherine yn ei mynwes Hefvd gariad anwyl iawn, Fel yr odd y ddau gyd-gariad, Gy(7 it gilydd, yn un llawn i. riad gonest Ydoedd cariad y ddau hyn. Bydded i chwi hefyd dderbyu 0 wir gariad Iesu glan, Fel y byddo i chwi dreulio Bywyd sydd i gyd yn gan, Yna dedwydd Fyddwch yn eich newydd fyd.
Advertising
Llyfr Ncwydd i'r leuenctyd (Anenwadol). GEIPJAD UK Y TEULU A' I YSGOL (Ysgrythyrol a Duwinyddol), gan y Parch. JOHN LLEWELYN HUGHES, Awdwr Grammadeg y LIenor" ac Elfenau Grammadeg," Beruir yn lied gyffredin y byddai Geiriadur bychan, cynnwysfawr, ymarferol, a rhad, yn dderbyniol a budd- iol yn nhai y gweithwyr ac ereill. Nid os gan lawer o ddeiliaid yr Ysgol Sul fodd i bwrcasu Geiriadur o bris uchel, ac y mae eu hamser hamddeuol yn ami yn rby brin at ddarllen erthyglau meithion a chwmpasog. CYNNWYSIAD.—Cyflewyd yn y Geiriadur hwn ystor, lied helaeth o egluriadau ar faterion Beiblaidd, ac ym- drechwyd ei wneud drwyddo yn fuddiol a chywrain, gan gynnwys sylwarlau cryno, ac i bwrpas ar yr holl eiriau a'r pynciau Ysgrythyrol y tybir y car yr ieuenc- tyd gael eglurhad arnynt. Traethir ynddo yn nghylch gwledydd, dinasoedd, trefl, adeiladau, moroedd, llyn- oedd, afonydd, ffynnonau, mynyddoedd, dyffrynoedd, ynysoedd, personau, cynghorau, swyddi, deddfau, sect- au, gwyliau, abertbau, defodau, arferion, dodrefn a gwisgoedd y Cyssegr, creaduriaid byw, coed, llysiau. meini gwerthfawr, metteloedd, arian bathol, pwysau, mesurau, amserau, geiriau dyeithr a dyrys, athraw- iaethau, dyledswyddau, &c., y sonir am danynt yn yr Ysgrythyrau. Tra yn ei ysgrifeuu, ymgynghorwyd a gweithiau awdwyr o awdurdod, a chyflewyd ynddo lawer o gynnyrch yr ymchwiliadau diweddaraf mewn hanesineth, daearyddiaeth, &c. Amcauwyd iddo fod yu hollol anenwadol. ORGKAPH.—Ymgeisiwyd at ei lythrenu yn unol ag orgraph "Grammadeg y Lienor," a chymmerwyd ei holl ddyfyuiadau Ysgrythyrol o'r Beibl yn unig, ac heb newid eu llythyreniaeth i orgraph y gwaith hwn hyn yw y cynlluti mwyaf cymmeradwy gyda'r Ys- grythyr. Hefyd,o'r Beibl yn unig y cymmerwyd rhifau y penllodau a'r adnodau, hebymddiried yn nghywirdeb uurhyw lyfr arall pethau lied gyffredin yw cyfeiriadau anghywir, hyd yn oed mewn rbai llyfrau rhagorol. ARGRAPHWAITH.—Y mae i gyd yu barod i'w argraphu a chyhoeddir ef yn fuan mewn Pedair o Ranau, Swllt y Rhan. Ni wyddys-yn gywir faint fydd rhif ei du- dalenau, ond ymddengys oddiwrth faint yr ysgrif y bydd tua 370 neu fwy mewn Uythyren lied fan. Bydd ei blyg yn olygus (Crown 8vo), ei bapyr yn dda, a'i lythyren yn eglur. Gyda y rhan olaf y bydd ei wyneb- ddalen, y rhagymadrodd, cynnwysiad, a'r Map, o wlad Canaan, yn unol a'r drefn arferol o argraphu. Bydd yn orlawii o fater. TANYSGRIFWYR.—Disgwylir i'r sawl a gymmero y rhan gyntaf i gymmeryd y lleill, beb hyn bydd colled o bob tu, gan fod llyfr anghyfiawn yn anfarchnadol. Hefyd, disgwylir y tal am bob rhan wrLh ei derbyn. Bydd hyn yn fantais er dwyn y gwaith yn mlaen yn fwy rheol- aidd, gan fod y draul yn lied fawr. RHAGOLWG.—Eir ag ef i'r wasg yn lied hyderus, gan y bydd yn llyfr a hoffir yn ddiau gan yr ieuenctyd y mae yn fath o lyfrgell fechan ynddo ei hunan. Y mae o ran arddull yn eglur ac ymarferol; disgyna yn ddiymdroi ar y pynciali yr ymholir fynychaf yn eu cylch. Nid arbedwyd llafur na gofal er ei wneud yu llyfr pwrpasol a defnyddiol, a hyderir y bydd o wasan- aeth nid bycban mewn teuluoedd lie y codir bechgyn a merched ahoffant efrydu y Beibl Sanctaidd. Argrephir y rhan gyntaf yn uniongyrchol ar ol derbyn 200 o enwau Tanysgrifwyr, a hyderir y daw y tair ereill allan, un bob deufis. Ceir ef drwy y Post yn rhydd o gludiad ar dderbyniad y tal (Swllt y Rhan), yr hyn sydd yn ol 6c. y mis, neu IJc, yr wythnos. Er ei gael allan yn fuan, anfoned y Tanysgrifwyr eu henwau yn ddioed i'r Awdwr,—Rev. J. LL. HUGHES, Five Roads, Llanelly, Carmarthenshire. Y mae llawer o enwau mewn Haw yn barod. Saith copi am bris chwech i Ddosbarthwyr. COUJ MEDAL Dubbin Makes Boots and Harness Waterproof as a duck's back, and soft as velvet. Adds three times to the wear and allows polishing. 19 EXHIBITION HIGHEST AWARDS. Tins 2d.. Gd., Is., and 2s. 6d. Of all Bootmakers, Saddlers, Ironmongers, &c. Important Notice. TO THE INHABITANTS OF LLANELLY AND DISTRICT WILLIE WILLIAMS, Practical Tailor and Draper, (LATE OF SWANSEA ROAD,) BEGS to inform the Inhabitants of Llanelly and JL) Neighbourhood that he has OPENED BUSI- NESS at the CLOTH HALL, MARKET STREET, LLANELLY, With a Perfectly New Stock of Hats, Ties, Collars, Cuffs, Braces, &c., &c., at the LOWEST POSSIBLE PRICES. Tailoring done on the Premises, and a Trial Order is respectfully solicited. Note the Address WILLIE WILLIAMS, PRACTICAL TAILOR AND DRAPER, Cloth Hall, Market Street, LLANEliLY, ? ————  XF!DLERS'SEEDS? ARE THE BEST TO GROVtlII Becaustt every parcel is tested befora being sent oat. and at 50 less cost. I I Thousands of Prizes gained by FIOLERS. SEEDS. DESCBIPTIVR PRICE LIST FREE TO ALL. & FIDLER & SONS, RF-ADINC. & 9 REG! 7RADE MARK •« DIWYDRWYDD Y CYMRY." PARRY & ROCKE, WELSH WOOLLEN MANUFACTURERS, SWANSEA. Manufacturers of Guaranteed Welsh Hosiery and Knitting Yarns, All oar Goods are labelled with our Registered Trade Mark for Protection of users, Should there be any difficulty in obtaining our Manufac- tures, please drop a postcard, and we will at once send you address of nearest Draper or Dealer. SUPPORT YOUR HOME INDUSTRIES. WHOLESALE ONLY. To be had of Retailers in every town n Wales. TKE BEST HOUSE IN TOWN FOR General Printing IS THE MERCURY, UPPER PARK STREET. Neatness, Cheapness and Despatch Guaranteed. THE CHEAPEST HOUSE IN SOUTH WALES FOR EVERY DESCRIPTION OF DRAPERS', GROCERS', AND CHEMISTS' HANDBILLS, &a. r ,J.' £. CLUB CONTRIBUTION CARDS & NOTICES, CASH, CONTRIBUTION, and MINUTE BOOKS. RULES OF PUBLIC SOCIETIES, PARTICULARS 8c CONDITIONS OF SALE, CHEQUE BOOKS, PAMPHLETS, CA. 12DS, BOOT?S, TPA(.- CARDS, BOOKS, TRACTS, TESTIMONIALS, ARTICLES OF ASSOCIATION, RECEIPT FORMS, BUSINESS CIRCULARS, GUMMED LABELS,. MERCHANTS TRADE LISTS, MUSIC, PLAIN and COLOURED POSTERS, CALLING CARDS, INVITATION CARDS, TOAST LISTS AND MENU CARDS, CONCERT PROGRAMMES AND TICKETS, BALL PROGRAMMES AND TICKETS, EMBOSSED ENVELOPES, EMBOSSED LETTER HEADINGS. Orders by Post or otherwise will always receive prompt attention. SSS" NOTE THft ADDRESS- I MCT Cllny Offices, UPPER PARK STREET, LLANELLY. MATE OR PARAGUAY v TEA■■ THE ONLY TEA FREE FROM TAN NIC ACID. NO ASTRINGENCY. FIFTY-FIVE MILLIONS of the Most Healthy People in the World Drink MATE TEA. Sufferers from GOUT, CONSTIPATION,. FLATULENCY, INDIGESTION, DYS- PEPSIA, SLEEPLESSNESS, and NERVE EXHAUSTION, will get immediate relief by drinking MATE TEA. MATE TEA has a Sustaining Power which neither India or China Tea, Coffee or even Chocolate can claim. Travellers drink- ing Mate Tea, can go six or seven hours without feeling the want of food. Write for Pamphlet and Medical Opinions, Lancet, British Medical Journal &c. To be obtained from the MATE TEA. COMPY., 39, Victoria Street, Westminster. Price 3s. per lb. post free. Agents In- vited. AARON STONE, A UCTIONEER, v ALUER, C C., GREENFIELDS, LLANELLY.- Explosions! Explosions!! SAFETY JL TO BE VALVE W |K For preventing jtt 1 HAD ONLY Explosions in Domestic and S other Bath AT Boilers. ♦ f T. PUGH JONES', Builders1 Merchant & Ironmonger 48, STATION ROAD, AND LLANGATHEN YARD LLANELLY. Builders and Contractors promptly supplied with eTery requisite. A WONDERFU;L MEDICINE. ØE¡fitls4lt1.s Are universally admitted to be worth a Guinea a Box for Bilious and Nervous disorders, such as wind and pain at the stomach, sick headache, giddiness, fulness and swelling after meals, dizziness and drowsiness, cold chills, flushing. of heat, loss of appetite, shortness of breath, costiveness, scurvy, blotches on the skin, disturbed sleep, frightfu dreams, and all nervous aud trembling sensations, &c. The first dose will give relief in twenty minutes. This is no fiction, for they have done it in countless cases. Every sufferer is earnestly invited to try one box of the Pills, and they will be acknowledged to be ^y-QRTH A GUINEA A BOX. "^yORTH A GUINEA A BOX. w ORTH A GUINEA A BOX. For Females of ali ages they are invaluabl. No Female should be without them There is not a medicine to be found equal to them for removing any obstruction or irregularity of the system. If taken according to the directions given with aaclrbox they will soon restore Females of all aaes to sound and robust health, This has been proved by thousands who have tried them, and found the benefits which are assured by their use. BEECHAMIS pILLS. For a weak stomach, impaired digestion, andall disorders of the liver they act, like "MAGIC," and a few doses will ba found to work wonders upon the most important organs of the human machine. They strengthen the whole muscular system, restore the appetite, and arouse into action the whole physical energy of the human frame. These are FACTS" testified continually by members of all classaa of society, and one of the best guarantees to the nervous and; debilitated is BEECHAM S PILLS. JGEECHAM'S pILLS Have the Largest Sale of any Patent Medicine in theWorld- Prepared only and sold wholesale and retail by the Pro- prietor, T. BELPCHAM, Chemist,St. Helens. Lancashire, and by all Druggists and Patent Medicine Dealers every* where. In Boxes, Is. I'cl, a.id 2e, 9d. each FULL DIRECTIONS ARE GIVEN WITH EACH BOX. FOR EVERY DESCRIPTION OF PRINTING, GO TO THE "Mercury" Offices, UPPER PARK STREET, LLANELLY Printed and Published by the LLANELLY MEBCUS* PRINTING COMPANY, LIMITED, at their Offices* Upper ParR: Street, Llanelly, in the County of Car" raarthen, February lltb, 1897.
( * ! SERCH ADGOF
( SERCH ADGOF Ar ot Mr. Richard Griffiths, Ty'nyparc, Pentref, Penbre, fu farw Ionawr 28ain, 1897, yn 24 mlwydd oed. Aeth Richard i ogoniant 0 ganol byd o wae, Ac ofer yw i ni mewn ing I ofyn pa le mae; Er hyuy iiia- pryderon Yn amgylchynu dyn, A thristwch hyd ymylau'r glyn Sydd wrtho byth ynglyn. Mae'r eglwys heddyw'n wylo Am dano dau ei chroes, Bu iddi hi yn gyfaill gwir Nes marw'u ngwanwyn oes Peth prudd yw gweled rhosyu Yn gwywo yn yr ardd, Ond llawer pruddach, mil mwy trist Yw gwel'd dyu ieuanc hardd. Mor chwithig ydyw cofio Am ein cydymaith mad, Oedd yn ein plith yn rhodio'n fwyn Ar hyd yr anial wlad; A meddwl nad yw eto I droedio daear lawr, Yn mysg ei hen gyfoedion gynt Yu ngwlad y cystudd mawr. Ei eiriau dystaw gofiwn Yn ein cymdeithas wiw, A'i ymadroddiou fydd mewn cof Yn hir ar dir y byw; Mae meddwl am un ieuanc, Mor siriol, ac mor gu, Yn deffro hen adgofion fyrdd 0 fewn ein calon ni. Adgofion am ei gwmni 0 fewn yr Ysgol Sul, Yn chwilio'r Gair sy'n dysgu'r ffol I rodio'r llwybr cut: Ni chafwyd un mwy ffyddlon, Mwy ufudd nag efe, Fel athraw doeth a dysgybl gwir Yn ngwinllan Breuin Net". Fe garai y cwrdd gweddi, A charai gwmni'r saint, Bod yn eu plith ystyriai ef Yn rhyw hyfrydol fraint; A throdd yn fraint aruchel Do, iddo yn y glyn, Fe gafodd oleu'r Iesu mawr Yn gwmni y pryd byu. Ni chafodd weled cyni, Nid ofnodd Frenin braw, Fe groesodd yr Iorddonen gref A'r Iesu yn ei Jaw; Mae heddyw gyda'i delyn, A choron ar ei ben, Yn canu'r anthem Iddo Ef," 0 fewn y Nefoedd weu. Nac wylwn am ei golli Yn rhosydd ieuanc oed, Mae blodau gras i'w gwel'd yn llu Yn tyfu'n ol ei droed A gwelir ei gymeriad, Mewn rh) w anfarwol hedd, Yn nghanol rhos tangnefedd Duw, Yn tlws addurno'i fedd. Penbre. FFRWDYNOG. I
-SARDIS, TEIMSAEAN.
canwyd yn swynol dros ben gan y rhai canlynol: Mary J. Daniels, Lizzie E. Daniels, Lizzie Mary Sadler, William Evans, Rhys Llewelyn Rees, Enoch Phillips, David Davies, Thomas Jenkins ai gyfeillion, William Williams a'i gyfeilliou, a phartion ereill. Cafvvycl dadleuon ardderchog gan ddadleuwyr yn deall eu gwaith yn rhagorol, ac nid y lleiaf yn eu plith oedd tladl yr "Iaith," gan W. Thomas a Johnny Wilkins, Burry Port. Chwareuodd Mr. Stuart seiniau melusber ar y crwth, nes swyno yr holl gynulleidfa, a theilynga Miss Robson y ganmoliaeth uchelaf am ei pharodrwydd yn nglyn a'r berdoneg trwy ystod y cyfarfod, i derfynu y cyfarfod canodd y cor yr anthem "Dysg i mi dy lwybrau," dan arweiniad y cyfaill ieuanc Mr. Williams, yna ymadawodd pawb mewn heddwch, a dywedent mae da oedd bod yno, am ei fod yn gyfarfod adloniadol yn wir ystyr y gair. DEWI DIDYMUS.