Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y GWRTHWYNEBYDD CYD- I WYBODOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y GWRTHWYNEBYDD CYD- I WYBODOL. Mr Golygydd,— --I Dyddorol iawn i mi yngogwyneb I llythyr Mr Richard Hughes, Port- dinorwic, oedd gweled fod y ddau I a gynhygiodd ac a gefnogodd o blaid y gwrthwynebwyr cydwyb- odol yng Nghylchdaith Llanrhai- adr gyda meibion yn y fyddin. Carwn wybod sut y mre hi ar y pedwar a wrthwynebodd. A gaf i ofyn i Arolygwr Cylchdaith Llanrhaiadr trwy eich papur 1. Beth yw enwau'r cynhygydd a'r cefnogydd, ac enwau'r pedwar gwrthwynebydd i'r penderfyniad. 2. Faint o'r pedwar sydd a meib- ion yn y fyddin. Yr Eiddoch, G. A. D. Aldershot. Ionawr lOfed, 1918. Annwyl Mr Golygydd, 'Rwyf wedi meddwl ers tro anfon gair o fy hanes yn y lie hwn fel gwrthwynebydd cydwybodol. Derbyniais yr hyn a roddwyd i mi gan y Tribunlys, sef Non-Corn- batant service; 'roeddwn yn hollol barod i weinyddu ar y clwyfedig- ion mewn unrhyw ran o'r byd, fel mae llawer eraill o'm cyfeillion yma, ond amlwg ydyw nag ydyw yr awdurdodau yn fodlon i hynny er bod rhai ohonom yn meddu gwybodaeth eang yn y cyfeiriad hwn. Yn ol dyfarniad y Tribunlys yr oeddwn yn deall fod y gwaith oeddwn i'w gyflawni yn hanfodol angenrheidiol. Wei, rhan o'r gwaith sydd felly, a'r rhanarall yn hollol ddiangenrhaid, sef golchi llestri cwrw ar ol dynion fu yn yfed bara y plant a'r tlodion. Mae fy sefyllfa ar hyn o bryd wedi bod yn foddion i wneud ambell gyfaill oeddwn wedi ei gyfarfod tra yn pregethu, yn elyn, er fy mod yn ceisio byw yr hyn a bregethais, yn ol fy argyhoeddiad- au. Ond mae y gwir gyfaill yn dal yn ffyddlon o hyd. 'Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am eich geiriau caredig yn y Gwyliedydd Newydd" o dro i dro y maent wedi bod yn nerth i mi ac eraill o'm cyfeillion Cymraeg sydd yma. Nis gallaf dewi heb ddweyd gair ar lythyr y gwr o Felinheli, er credaf mae gwrthrych tosturi ydyw yn hytrach na cherydd. AmI wg nad ydyw eto wedi agor ei lygaid nai glustiau neu ni fuasai yn difetha papur i ysgrifennu y fath lith Mae ei wybodaeth, druan, yn fyr iawn ynglyn a'r hyn y ceisia ei egluro, ac yn wir wn i ddim beth am ei grefydd, ond nid dyn sydd i fesur ei grefydd. Diau fod llawer o'n hoff fechgyn sydd yn y ffosydd yn gydwybodol yn ymladd, ond gwn fod llu mawr yn ymladd yn groes i'w hewyllus a'u cydwybod yr wyf wedi troi ymysg llawer o filwyr sydd wedi treulio misoedd yn y ffosydd, ond nid oes un o bob cant yn cydnabod eu bod yn gydwybodol yn ymladd er eu bod yn wirfoddolwyr o'r cychwyn. A fu y gwr o Felinheli mewn Tnbunlys rywdro? Rhaid iddo gofio mae peth personol ydyw y gydwybod, ac mae aelodau y Trib- unlys yn deall hynny, felly mae yn rhaid i'r gwrthwynebydd cydwyb- odol apelio ei hun ac nid trwy yr hwn a wasanaetha. Credaf fod pawb yn parchu y bechgyn sydd yn ymladd yn y ffosydd, ac nid wyf yn meddwl bod neb yn ceisio dweyd mae dynion wedi cyfeiliorni ydynt, nac ychwaith nad ydynt cystal a'r bechgyn sydd yn y carchar, y mwy- afrif ohonynt beth bynnag. Nid wyf yn meddwl bod cymaint o wahaniaeth cydrhwng y Parch Rhys Jones ag unrhyw Gaplan, ac yn wir credaf fod gan y Caplan waith pwysicach i'w-wneud na cheisio argyhoeddi y minvyr fod ihyfel yn gjfiawn neu anghyfiawn. Carwn pe bai Mr Richard Hughes yn un o'r eglwysi yma y Sui diweddaf yn gwrandaw pre gethau grymus y Caplaniaid. Dywed na chlywodd neb yn gweddio dros y gwrthwynebydd cydwybodol, felly -'rwyf yn casglu nad yw efe ei hun yn gweddio drosorn. Beth ydym yn ei olwg ef ? Os pechaduriaid mawr pa'm na chawn ran yn ei weddiau er ceisio ein hachub? Nid ysbryd Crist yw hwn ai'e ? 'Roedd Caplan y dydd o'r blaen yn gweddio dros y Germaniaid, ai tybed y caniata crefydd y cyfaill o Felinheli hyn ? Yr ydym ninnau fel Gwrthwyn- ebwyr Cydwybodol wedi 'derbyn rhoddion gan yr eglwysi caredig, y rhai hefyd sydd a'i dwylaw yn agored i'n derbyn yn ol. Y mae calonnau yr eglwysi yn eangach na chalon y gwr hwn, ac nid wyf yn meddwl fod ei eglwysefna'r un eglwys arall mor gul ei syniadau ag ydyw efe. Swm a sylwedd ei lythyr ydyw cyfiawnhau y rhyfel a'r milwyr, ac anghofio mae apel y golygydd a'r Parchedigion eraill ydyw, am i gydwybod gael ei hawliau a'i le. Yr Eiddocli yn gywir, D. J. H., N.C.C., Aldershot. At Olygydd y "G.N." Syr, Mae yn ddrwg gennyf fod yn rhaid imi ofyn am ychydig etc o'ch gofod gwerthfawr, nid i ateb y Parch John Felix ond i ateb rhyw aelod pwysig o'r Cyngor hwn y difynnodd Mr Felix frawddeg o lythyr o'i eiddo. Nid oes gennyf unrhyw gwyn yn erbyn Mr Felix am ei ddefnyddio ond y mae gennyf yn erbyn y frawddeg a'i hawdwr pwy bynnag yw, a chan ei bod wedi cael cyhoeddusrwydd yn y Gwyliedydd Newydd a'i bod yn rhoddi syniad anghywir a chamarweiniol am ryddid ac amannibyniaeth y Cyngor Cenedl- aetbol' rhaid imi erfyn arnoch am fodfedd i unioni ei chain. Dyma'r frawddeg: Our efforts (National Free Church Council of Wales) are greatly impeded by the appeal of the Government that we should not raise contentious questions at a time when every energy should be strained to win the war." Gall ei hystyr fod yn un o ddau beth (a) apal oddiwrth y Llywod- raeth at y Cyngor fel y cyfryw i osgoi cwestiynau dadleuol; (b) apel gyffred- inol at bawb ymhob man yn ddiwahan- iaeth i osgoi y cyfryw gwestiynau. Ar wyneb y frawddeg gallwn dybied mai (a) olygir drwyddi, ac os felly yr wyf fel un o Ysgrifennyddion y Cyngor, a'r unig un sydd yn delio a'i boll oheb- iaeth yn ateb na ddaeth unrhyw apel oddiwrth y Llywodraeth na neb o'i haelodau, nac unrhyw un mewn cysyllt- iad a hi drwy unrhyw gyfrwDg, at y Cyngor yn gofyn iddo osgoi n% chynilo ei farn ar unrhyw bwnc. Os mai (b) olygir fel un sydd wedi bod yn bresen- nol ymhob trafodaeth sydd wedi bod yn y Pwyllgor Gweithiol er y decbreu ar bob math o gwestiwn gallaf dystio na chlywais neb yn defnyddio apel o'r fath fel dadl o blaid neu yn erbyn unrhyw benderfyniad. Yr Eiddoch yn gywir, JOHN RORERTS. Cyd-Ysgrifennydd.

[No title]

Llyfr Dyddorol.I

Advertising

I-MANCHESTER.-,.