Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

.NODION LLENYDDOL. I

News
Cite
Share

NODION LLENYDDOL. I (Gan GWKWRDDU). LLAWLYFR MOLIANT. BIwyddyn y Rhyfel mawr ydoedd 1915, ac ni chaed awen i greu a gwerthu llyfrau blwyddyn teyrnasiad cynddar- edd a difrod ydoedd. Er hyn cyhoedd- wyd un llyfr gwerthfawr tua diwedd y flwyddyn, sef Llawlyfr Moliant llyfr Emynau a Thonau y Bedyddwyr yng Nghymru. Gelwir y llyfr yn y Rbagair yn ar- graffiad diwygiedig o'i flaenorydd a gariai'r un en.v. Cyhoeddwyd yr ben lyfr gan Gymanfa Arfon yn 1880; ymhen deng mlynedd cafwyd argraffiad newydd, ac yn 1908 cyhoeddwyd atod-, iad iddo. Gwnaeth Cymanfa Arfon gymwynas fawr a'r Enwad. Cyhoeddir I y llyfr presennol, nid gan unrhyw Gymanfa, ond gan Undeb Bedyddwyr Cymru, a mabwysiadir ef gan yr holl eglwysi. Ymddiriedwyd casglu a thref- nu'r llyfr i bwyllgor cryf o feirdd a cherddorion, a pharai safie amrai o'r aelodau i ni ddisgwyl llyfr cystal, os nad gwell, na'r un a arferid ar y pryd gan enwadau Cymru. Dyma enwau'r Pwyllgor :-Parchn C. Davies, Caerdydd 0. Davies, D.D.; W. Cynon Evans, Gwili, W. Morris, D.D.; Aaron Morgan, Llifon, Cernyw Mri Emlyn Davies, T. Gabriel, J. Rob- erts, R. Rhedynog Price, W. T. Samuel W. Thomas Cernyw yn olygydd yr emynau, a Mr J. H. Roberts, Mus. Bac., yn olygydd y gerddoriaeth. Ni threfnir bwrw barn fanwl ar y llyfr, oblegid newydd ddyfod i'n Haw y mae, ond belled ag y mae'r emynau yn y cwestiwn, y mae'n llyfr rhagorol. Dichon y sylwir ar ei donau yng Ngholofn Gerddorol y G. N. Y mae y mwyafrif o'r emynau yn emynau, ac nid yn ganeuon moesol. Gwyr amrai o aelodau'r pwyllgor hanes emynwyr ac emynau Cymru, ben a diweddar, a buont ddoethed a dwyn i'r casgliad lawer iawn o'r ben emynau profedig, a nifer fawr, hwyrach gormod, o eijddo beirdd sydd -eto ar dir y byw. Buont yn lloffa pob maes a chawsant rai tywysennau ar y maes Wesleaidd. Gwelsom yn y llyfr emynau o eiddo Ehedydd HLl, Cadvan, J. P. Roberts, Glanytwyth, John Hum- phreys, a T. J. Pritchard. Y mae'r emynau a ddewiswyd yn ddigon cyfadd- as, ond credwn nad ydynt oreuon y personnau hyn. Daliwn i gredu mai bendith fawr a fyddai Un Llyfr Emynau i Gymru gyfan, oblegid dyma brawf eto, yn Llawlyfr Moliant, o duedd enwad i geisio anfarwoli ei dynion ei hun. Y mae'r llyfr yn frith o emynau Spinther, Gwili, Llifon, Cernyw, a myn eraill, llai adnabyddus, gyda phethau diniwed ond dibwys, gryn lawer o le yn y llyfr. Ni warafunai neb le amlwg i Gwili, Llifon a Cernyw, oblegid y maent yn feirdd gwych, yn emynwyr da, ac yn aelodau o'r pwyllgor ond dylid bod yn gymed- ol. Wrth redeg y llygaid trwy'r llyfr gwelir enw Cernyw yn amlach nag .eiddo Pantycelyn a Morgan Rhys. Wrth gwrs, y mae emynau Cernyw yn ddidramgwydd; y meddwl yn glir a chrynno mewn iaith lan a semi, fel y gall pawb ei ddeall; ond y maent mor ddof fel y gwel pawb mai mewn gwaed oer ac nid yng ngwres diwygiad y nydd- wyd hwynt. Y mae gan Gwili, Ifano, ac Alafon rai .emynau na welsom ni o'r blaen, sy'n debyg o fyw'n hir, os nid byth. JoÎ- aodd Gwili am hanfodolion emyn, a gwaredodd ei hun rhag y perigl y tuedda'r ddau arall iddo, sef bod yn rhy gyfriniol a barddonol; ac eto, hwyrach y ca ambell i addolwr mewn cynnull- eidfa fendith fwy trwy emyn cyforiog o gyfriniaeth farddonol na thrwy emyn syml. Gwyr Ifano cystal a neb nad yw ei emyn mirain i Nadolig Crist," yn un eyfaddas i gynnulleidfa o bobl eyff- redin ac anniwylliedig; ond mae yn etayn mor fwyn ac annwyl fel na fynnem er vdim iddo fod allan o'r llyfr. Dyma Nadolig Crist. Mae llanw mor o hedd Ar araeth:y laos, A'r byd ar newydd wedd Yn hedd y nos; Mae'r Doethion oil yn fad, Uwch Duwdod yn y cryd, A'r nef yn gan i gyd Yn hedd y nos- Mae'r praidd ar feysydd gwyn Y n becld y nos, Dan lewyrch engyl mwyn Ar fryn a rhos; A'r bugail syml a'u clyw Yn gogoneddu Duw, Wrth ddwyn i ddynol ryw Ei gwawrddydd tlos- Yng ngwen Ei Seren Ef, Ar lwch y Ilawr, Mae dydd o nef y net Yn dod i lawr Mae'r nos yn ffoi! a'r gan Am eni'n Ceidwad glan YD agor dorau tan Y newydd wawr." Dywedwn eto fod llyfr emynau new- ydd y Bedyddwyr yn un gwir dda o ran defnydd a diwyg, a dymunwn iddo fod yn gyfrwng bendithion riloedd i'r enwad a Chymru gyfan.

ICILFYNYDD.I

IYNYSYBWL.i-I

1BYD CRIEFYDDOL. I

I. TIPYN 0 BOPETH.I