Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

[No title]

Yn Eisieu-rhyw gynllun. newydd.

News
Cite
Share

Yn Eisieu-rhyw gynllun newydd. "Pa beth a wnawn," Beth sydd raid ei wneuthur, a pha fodd y sym- udir ymlaen, ydyw rhai yn mhlith Iluaws o gwestiynau a ofynir yn myd crefydd y dyddiau presenol. Cwynir gan weinidogion, a blaen- oriaid, ac ewyllyswyr da pob achos i Grist, nad ydyw'r Deyrnas yn llwyddo y dyddiau yma fel y dy- lasai wneyd. Dyma deimlad y rhsi sydd a rhyw gymaint o bwysau Arch Duw ar eu hysgwyddau. Dyddiau critical' iawn ar grefydd yw y rhai hyn. Er i'r gweision boeni eu meddwl a'u hysbryd i geisio goleuo, dysgu, hyfforddi, a datblygu meddwl pobl eu gofal, rhyfedd mor ychydig o ffrwyth a welir. Beth pe, gwybyddem pa i sawl gM as gonest, diwyd, ac ym- roddgar, sydd yn troi 'i'w hystafell wely ar nos Sabboth wedi llafur a lludded y dydd o dan y teimlad mai yn ofer y llafuriodd. Ac yn wir pe bai y cenhadon ond yn ed- rych yn unig ar allanolion pethau, byddai hynny yn ddigon i dori calon llawer un am byth. Onid yw yn wir fod Cymru wedi cynef- ino cymaint a swn yr Efengyl nes bron wedi myned i gysgu o dani. Mae hwn yn ddywediad haerllug mi wn, ac teallai y cred rhywrai ei fod hefyd yn dangos diffyg profiad. Ond mor bell ag y mae ein sylwad- aeth a'n profiad ni yn y cwestiwn, gwyddom fod gwirionedd ynddo. Gallwn yn hawdd alw i gof adeg pan fyddai pregeth y Sul yn cael ei hadolygu yn y gyfeillach ganol yr wythnos—pob un yn ei ffordd ei hun yn dweyd ei farn am dani, yn tystiolaethu i'r lies a dderbyniodd trwyddi, gan ddatgan hefyd ei benderfyniad i geisio byw yn ol yr athrawiaeth. Dyna yr hen arferiad, ond sydd out-of-date erbyn heddyw. I Heddyw ni cheir fawr neb a wyr lie yr oedd testyn y pregethwr nos Sul pe gofynid hynny nos Fercher chwaithach beth oedd y gwirion- edd yr ymdriniai ag ef. Nid ydym am adweyd nad oes eithriad i hyn, ond cofier mai cymeryd golwg gyffredinol ar agwedd yr achos yr ydym. Ni fynnem am foment i neb ein cam-ddeall pan y dywed- wn yr ofnwn fod ein dull o ymwneud gyda chrefydd yn ein gwasanaeth gyhoeddus yn ein gwneud yn ffurfiof a deddfol, a hynny rywfodd yn ddlarwybod i ni ein hunain. Rhoddwn le hyd yn oed wrth gyfarch Gorsedd Gras i ysbryd amheuaeth ddod i mewn— achwynwn arnom ein hunain ac ar ereill. Ofnwn mai cywreinrwydd sydd wedi ein galw'n nghyd,—ofn- nwn ragrithio yn ngwydd y Bod Sanctaidd. Addefwn mai rhyw gyffesion diniwed a gonest, mewn rhyw ystyn ydyw y cyfryw a t enwyd, a" 't-i cyffelyb ond llawer doethach fyddai cofio pan yn nesu o flaen Gorsedcl v Jehofa ein bod y pryd hynny y11 nesu i bresenoldeb I un sydd uwchlaw ffurf a deddf, ac nad oes dim rhagrith yn agos i'w I berson Ef. Addefwn fod y fath beth a rhagrith yn bod ond rhyw- beti-i rhwng dyn a'i gyd-ddyn ydyw,—derfydd yn y fan yna-nid a'n mhellach. Ond rhag ini fynd i grwydro, fel yr ydym yn dueddol o fynd weith- iau, ceisiwn lusgo trwy y gwrych yn ol i'n maes ein hun. Wrth droi fy nghlust at "Gri yr Oes," Mr Gol., argyhoeddwyd fi fod yn rhaid i'r Eglwys, os am fod yn fwy o lwyddiant yn yr ugeinfed ganrif, dori dros furiau hen arferion a rhai hen ffurfiau sydd wedi ymglymu am dani fel yr iddwf am y mur. Cymerwn er engraifft y cyfarfod gweddi. Mae hwn wedi mynd yn anmhoblogaidd ryfeddol yn awr. Mewn eglwysi a rifant o ddau i dri chant o aelodau, ceir o ddwsin i fyny i ddau a fynychant y cyfarfod gweddi, oddigerth fod rhywbeth neillduol wedi deffro eu chwilfryd- edd. Cof gennym ddarllen ysgrif dro yn ol gan un o weinidogion un o egtwysi'r Gorllewin. Blinid p'obl oreu y rhan honno o'r wlad gan mor ychydig a fynychai y moddion wythnosol,—rhyw bump ar hugain welid fwyaf yn y cyfarfod gweddi allan o eglwys a rifai ei chanoedd. Meddyliodd y gwr parchedig oedd yn weinidog ar yr eglwys y mynai ddiwygio tipyn ar y bobl. Aeth at yr argraffydd a gorchymynodd i hwnnw argraffu rhai miloedd o tract cards, ac arnynt yn ysgrifen- edig y geiriau canlynol Health Conference, Wednesday, 8 p.m. sharp. Central Church. Take St. cars. Get out with the crowds Erbyn nos Fercher yr oedd miloedd o'r tracts hyn wedi mynd i ddwylaw, nid yn unig aelodau'r eglwys, ond ereill hefyd o'r tuallan, a'r bobl, fel y gellid disgwyl, yn awy" ddus iawn am ddod 1 wybod am yr Health Conference." Yr oedd y ceir trydan yn brysur- iawn yn cludo rhai tua'r Central Church, —llawer ohonynt yn mynd heb wybod i ba le, ond eu bod yn dilyn y cyfarwyddyd Get out with the crowd." Y peth goreu allwn wneud ydyw gadael i un oedd yn bresennol adrodd ei hanes a rhoi ei brofiad Cefais fy hun," meddai, "yn sefyll o flaen eglwys hardd, anferth o faintioli, wedi ei goleuo yn brydferth. Yma yr oedd tyrfaoedd o bobl yn dylifo o bob cyfeiriad. Yn mhlith y lluaws anturiais innau i mewn., Yn y porth cyfarchwyd ft gan foneddwr, yr hwn a estynodd ei law yn gar- iadus, ac ar yr un pryd rhoddodd yn fy Haw Tract, ac arno vn ysgrifenedig-" Cyffyr yr Efengyl," Ac os ysbryd yr hwn a g/fododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist o feirw a fywioca hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei ysbryd, yr hwn sydd yn trigo ynoch." Ac felly yr un modd cyflwynwyd i bob un ddeuai i mewn gerdyn cyffelyb, ond arno wahanol eiriau. Modd bynag cefais fy hun i mewn, a dechreuwn ofyn yn ddistaw, Yn mha Ie yr ydwyf ? Dyma fi, meddwn, wedi fy nenu i gyfarfod crefyddol, a rhyfeddwn y diddordeb neillduol a gymerai pawb yn y cyfarfod. Rhodcîwn yma brofiad blaenorol y llefarydd o'i argyhoeddiadau cref- yddol, heb geisio cyfieithu ei eiriau :—" My past experience had been, from my youth up, in a good Christian family belonging to one of the old orthodox chinches. We venerated the Bible of course, studied it at Sunday School when children, went with a good deal of regularity in maturfer years to hear the pastor preach in familiar tones to us on Sunday. There my own personal grasp of spiritual things ended. I had on one or two occa- sions, after an ernest solicitation from the pastor the previous Sun- day, strayed into- the Wednesday evening prayer meetings, but I found such a few gathered—mainly the older church members, and the exercises seemed to me so full of disheartenment, I felt quite out of place and quite content to stay at home, thinking, perhaps some day, I should arrive at grey hairs and a greater appreciation of spiritual things." Ofnwn mai.pronad tebyg i'r un uchod sydd gan ganoedd o bobl ieuainc ein heglwysi y dyddiau presennol. Gadawn i'r un person fynd yn mlaen i adrodd ei hanes :— Yr oedd y mwyafrif o'r bobl oedd wedi ymgynull ynghyd o blith y dosbarth ieuanc. Yr oeddwn yn awyddus iawn am gael gwybod cymait ag oedd yn bosibl i mi am y Conference. Esgusodwch meddwn wrth ferch ieuanc a eisteddai yn fy ymyl, 'Yr wyf yn ddieithr yn y lie, ac wedi dig wvdcl. troi i mewn yma heno, a wnewch chwi roi gwybod 1 mi rywbeth am natur y cyfarfod yma, a beth ydyw e i a m can?" "0 ,:g w n a f ar fy r, Syr, --riid yw ddim mwy na'r cyfarfod