Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
! -?. 1 1 1 CAERSALEM, TON…
?. CAERSALEM, TON PENTRE. Darilenwyd dau bapur o flaen y Gym- deithas Ddiwylliadol nos Wener, Mawrth 27, gan y ddwy chwaer Mrs Mason a Mrs Evan Davies. Y pwnc dan sylw oedd dadl Pa un ai cyfeillion ynte llyfrau sydd yn dylanwadu fwyaf ar fywyd." Cymerwyd ochr y cyfeillion gan Mrs Mason, a'r llyfrau gan Mrs Davies. Dadleuwyd yn gryf dros y ddwy ochr. a chawsom ddau bapyr rhag- orol. Diolchwyd yn wresog i'r ddwy chwaer gan y gymdeithas. Cynhaliwvd Cwrdd Ysgol dydd Sul, Mawrth 29, o dan lywyddiaeth ein parchus arolygwr Mr Samuel Davies. Yn y boreu cawsom gyfarfod areithio. Dechreuwyd y cwrdd trwy fawl a gweddi gan Mr John Morgan, yna cymerwyd rhan gan y rhai canlynol-Araeth gan Samuel Davies ar Y pwysigrwydd i ddynion ieuainc ffurfio cymeriad da," a E. L. Morgan ar Gadwr- aeth y Sabbath." Can gan Evan F. Evans, Rhowch eto i mi bregeth yn anwyl iaith fy mam." Araeth gan John Elias Morgan ar "Ostyngeiddrwydd," a Evan John Thomas ar Fywyd yr Apostol Paul hyd ei droedigaeth." Terfynwyd cyfarfod da gan Mr Richard Lewis. Yn y prydnawn aeth y plant drwy eu gwaith o dan ofal y brodyr Thomas Lewis a Evan Lewis gyda holi, a David Jones gyda'r canu. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Teddy Morgan fel arfer. Caw- som gan "0 Sanctaidd Ddiddanydd," gan Katie Morgan, ac adroddiadau gan y rhai canlynoi :Ceinwen Morgan, Blodwen Meredith, Richard Stokes, Willie Llewelyn Thomas, Jessie Mason, Gwyneth Lewis, Mary Watkins, a Griffith Pugh. Cyn i'r plant derfynu, canwyd yr unawd "Dagrau'r Iesu," gan E. L. Morgan. Yn yr hwyr holwyd yr ysgol gan y Parch Evan Isaac yn efengyl loan 28 a 21. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi gan Mr Moses Jones, Treorchy, a chafwyd amser da, gofyniadau ac atebion da iawn. Ter- fynwyd y cyfarfod gan Mr Isaac, a theim- lem ein bod wedi cael cyfarfodydd da ar hyd y dydd. IEUAN.
MAENTWROG. I
MAENTWROG. Ymgomwest y Gymdeithas Ddiwylliad- ol.—Fel y cyfeiriwyd yn ein hadroddiad o gyfarfod olaf y gymdeithas uchod, fod yr aelodau wedi pasio i gynal ymgomwest i ddiweddu y tymor. Cynhaliwyd hi nos Wener, Ebrill 3ydd. Yr oedd yn noson yr edrychid yn mlaen ati, ac yr oedd parato- adau helaeth wedi cael eu gwneyd ar ei chyfer. Yr oedd yr ysgoldy wedi ei hardd- wisgo yn brydferth dros ben, a'r byrddau wedi eu gosod yn wir ddeniadol. Eistedd- odd ugeiniau wrth y byrddau. i gyfranogi o'r wiedd ardderchog oedd wedi ei har- lwyo. Ar ol y wledd uchod, cafwyd cyngherdd campus. Arweiniwyd yn neill duol o fedrus gan y bardd rhagorol Mr J. B. Williams (lestyn). Aed trwy y rhaglen a ganlyn Chwareuad ar y berdoneg gan Miss Doris E. Morgan, Police Station. Detholiad o Alawon Cymreig gan y Cor, dan arweiniad ddeheuig Mr J. R. Roberts, The Gardens. Unawd-Cymry, gan Mr R. O. Williams, Home Farm. Anerchiad gan y Cadeirydd, yr hwn oedd yn fyr ac i'r pwynt, a graen lenorol arna. Deuawd- Lliw gwyn rhosyn yr ha, gan Mri R. E. Hughes a William Rd Jones, Old School House. Adroddiad gan Mr Simon Hughes, Talsarnau. Can gan Mr R. W. Roberts, Fronfair, yr hon oedd wedi ei chyfansoddi ar gyfer y Social, a thynwyd y ty i lavyr gan y gymeradwyaeth. Deuawd—Excel- sior, gan Miss Williams (Llinos y Dyffryn), a Mr J. Williams, Bull Street. Can gan y Parch Arthur Davies, Penrhyn. Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig iddo, a chanodd yn fendigedig. Can gan Mr Evan Roberts, Penybryn. Canu penillion gan Mr R. E. Hughes,. Glandwr. Can gan Mr Evan Roberts, Gellilydan. Detholiad gan y Cor yn wir effeithiol. Can gan Mr Evan Rob- erts, Penybryn. Cyflawnwyd y diolchiad- au gan Gerallt," Mri Thomas Jones, Pen- Ian J. R. Roberts, The Gardens a Willie Price, Home Farm. Hefyd ar gynygiad yr Arweinydd, pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i'r Ysgrifenyddes. Miss G. E. Rob- erts, Bronywern, am ei medr a'i gweith- garwch. Can gan y Parch A. Davies yn benigamp, ac yn swn encore y dygwyd y cyfarfod i derfyniad. Yr oedd y Parch J. Smith (W.), Ffestiniog yn bresenol. Caf- wyd Ymgomwest ardderchog yn mhob ystyr. Diau yr edrychir ymlaen at dymhor nesaf y" Gymdeithas. GOR.
- , LLANFYLLIN. ,I
LLANFYLLIN. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Llanfyllin, nawn Gwener, Ebrill 3ydd. Llywyddwyd gan y Parch David Morris. Yr oedd yn bresenol y Parchn Wm. Owen a T. N. Roberts, Mr Jdwal Davies, Lay Agent y ddau oruchwyliwr, Mri H. Watkins a John Griffiths, gyda chynrych- iolaeth dda o'r eglwysi. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio. Darilenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod biaenoroL Croesawy-d Mr Idwal Davies i'r cyfarfod. Cydymdeimlwyd a Mr John Griffiths yn ei brofedigaeth o golli mab bychan. Derbyniwyd cyfrifon yr eglwysi. Mab- wysiadwvd yr Assessment presenol am y I flwyddyn ddyfodol. Darllenodd Mr R. A. Jones adroddiad ar yr ymdrech wnaed yn y Gylchdaith ynglyn a Chanmlwyddiant y Gymdeithas Gen- hadol. Diolchwyd iddo am ei wasanaeth. Gwahoddwyd y Parch D. Morris i aros yn y Gylchdaith yr ail flwyddyn. Addaw- odd aros, Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parch T. G. Roberts i Lanfechain yn Awst nesaf Etholwyd Mr Evan Pugh, Cornorion, yn gynrychiolydd i'r Cyfarfod Talaethol. Pasiwyd mai Mr D. T. Jones, Fferm, sydd i gynrychioli yn niffyg un o'r goruch- wylwyr neu Mr Pugh. Caniatawyd i gyfeillion Salem i adeil- adu Ty Capel. Darilenwyd Schedule yr Ysgol Sul gan y Parch Wm. Owen; Schedule y Capeli gan Mr R. A. Jones Schedule Dirwest gan Mr H. Watkins. Eglurodd Mr H. Watkins gynllun i godi Trysorfa tuag at ddodrefnu tai y Gylch- daith. Cymeradwyodd y cyfarfod y cyn- llun. Ymddiriedwyd i'r Pwyllgor drefnu ar gyfer cynal Cymanfa Ysgolion, Mehefin 5ed. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gyda'r cyfeillion canlynol yn eu profedig- aeth o golli anwyliaid, Mrs Jones, Tany- ffordd; Mr a Mrs Davies, Votty Mrs Gwen Jones, Llanfyllin Mrs Evans, Ty Brith teulu Mrs Davies, Bwlchycibau Mr John Pugh. Hefyd gyda Mr John Rees a Mr Evans, Gwernybelliaid, yn eu gwael- edd. Pasiwyd i gynal y cyfarfod mesaf yn Llanfechain. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. D. Morris. Darparwyd te rhagorol gan Mrs Evans, Glynie, a Mrs Joseph E. Jones. Diolchwyd iddynt gan Mr John Pugh a'r Parch T. N. Roberts.
BIRMINGHAM.I
BIRMINGHAM. I CYFARFOD C:HWARTER. -Cynhaliwyd cyf- arfod chwarter nos Fawrth, Ebrill 7fed, am 7 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch R. Lloyd Jones, Cadeirydd y Dalaeth. Dechreuwyd gan y parch John Hughes, o'r Coleg. Croesawyd y cadeirydd mewn modd cynes i'r cyfarfod, a llongyfarchwyd ef yn galonog ar ei etholiad i'r cant cyf- reithiol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaen orol a derbyniwryd hwynt. Cafwyd cyfrif arianol yr eglwys, ac yr oeddynt ar y cyfan yn foddhaol. Hefyd gyfrif yr aelodau, parha yr aelodau yr un fath a'r llynedd. Diolchwyd i Mr W. D. Pugh, goruchwyl- iwr y gylchdaith, ac ail etholwyd ef, felly hefyd gyda goruchwylwyr yr e'glwys, Mri peter Williams a J. S. Williams, a'r un modd gvda goruchwylwyr y tlodion Mri Richard Jones, John Roberts a John Wil- liams. Diolchwyd hefyd i'r brawd William Williams, Tr" vsorydd yr eglwys, ac ail eth- olwyd yntau. A phwy yn well ellid gael. Diolchwyd hefyd i Mr William Jones, arweinydd y canu, ac i Miss Jones am chwareu, ac ail ddewiswyd hwy. Etholwyd Mr Evan Williams y dos- barthwi y Gwyliedydd Newydd," ac I anogwyd ef i geisio cael mwy o dderbyn wyr. Diolchwyd i Mr John Roberts am ei ymdrech gyda'r Gwyliedydd_yn y gorffen ol. Cafodd mater yr Ysgol Sui syl IV maith. Cafwyd trafodaeth fywiog, ac annogodd y cadeirydd bawb i wneud yr hyn a allent o'i phlaid. Da gennym fod cyfrif arianol yr ysgol mor foddhaol. Diolchwyd i'r cadeirydd am ymweled a ni. Cafwyd cyfarfod dymunol iawn. Terfynwyd gan y llywydd. W. R. JONES. I
CYLCHDAITH ABERDAR. I
CYLCHDAITH ABERDAR. I Dydd Sadwrn, Ebrill 4ydd, cynhaliwyd- cyfarfod chwarterol y gylchdaith yn Aber- dar, pryd yr oedd yn bresenol v tri gwein- idog a'r ddau oruchwyliwr, gyda chyn- nchiolaeth o'r gwahanol eglwysi. Dechreuwyd gan Mr John Thomas,, Penrhiwceiber. Wedi darllen y cofnodion gan y Parch J. Fisher Griffiths cafwyd y derbyniadau arianol, y rhai oeddynt gryn lawer yn fyr o gyfarfod a'r gofynion. Gwasgarwyd y fantolen chwarterol, yr hen a ddanghcsai fod yr eglwysi wedi talu eu hol-ddyled am y chwarter o'r blaen. Cafodd sefyllfa arianol y Gylchdaith gryn lawer o sylw y cyfarfod. Dymunol oedd deall fod rhai o'r eghvysi wedi talu y swm osodwyd amynt i gyfar- fod a hen ddyled y Gylchdaith, set Disgwylir y tal yr eglwysi ereill eu rhan yn fuan. Gofidus oedd deall fod cryn leihad yn nifer yr aelcdau ond cyfrifir am hynny trwy fod eglwys gyfan yn Nghwmaman wedi chwalu wedi mis íawrth y fhvy- ddyn ddiweddaf. Cyflwynwyd cyfriflen y Trust gan Mr Jj Oswell Griffiths yn absenoldeb Mr Evan Evans, penrhiwceiber, yr hon oedd yn ffafriol iawn,—yn dangos fod swmdyledyr eiddo wedi lleihau yn ystod y fiwyddyn. Ar y deall fod y Gymanfa Gymreig yn parhau y Grant o £ 20, rhoddwyd gwa- hoddiad i'r tri gweinidog i arcs ar y tir am flwyddyn arall. Derbyniwyd y gwa- hoddiad gan y parch H. O. Hughes, Aberdar, a'r parch J. Fisher Griffiths, Hirwain. Diolchodd y parch David Mor- gan am y gwahoddiad, ond drwg oedd ganddo na weiai y ffordd yn glir i'w derbyn. Ni chafwyd amser i ddwyn sylw at gyfriflen yr Ysgolion Sul a Dirwest, y rhai a gyflwynir yn y cyfarfod nesaf. Pasiwyd fod Mr Evan Evans, penrhiw- ceiber, Ysgrifenydd y Capeli yn y Gylch- daith, i anfon llythyrau—un at blant y diweddar Mr a Mrs David Watkins, Grocer, Aberdar, yn cydnabod yn ddiolchgar dderbyniad y gymunrodd a adawyd gan eu rhieni i Eglwys Aberdar a'r llall i Mr a Mrs Jones, Middle Duffryn, am eu cared- igrwydd yn rhoddi y swm o £ 8 i glirio dyled capel Aberaman am y flwyddyn ddiweddaf. Addawodd y ddau oruchwyliwr—Mri John Jones a W. J. Nicholas—fyned i'r Cyfarfod Taleithiol, ac etholwyd i gyn- rychioli y cyfarfod chwarterol Mr Charles John, Hirwain, a Mr Robert. Thomas, penrhiwceiber. Diweddwyd trwy weddi gan y Llywydd, parch H. O. Hughes. AB HEn.
CYLCHDAITH LLANDILO.
CYLCHDAITH LLANDILO. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Cylch- daith Llandilo yn Llandilo, dydd Sadwrn, o dan lywyddiaeth y parch D. Corris Davies, yr Arolygwr. Cafwyd cynrychiol- aeth dda o'r gwahanol eglwysi. rasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y ddiweddar Mrs Tomkins, Thor- mastoia,-aelod hynaf Eglwys Llandilo, ac un fu yn ffyddlon iawn i'r achos yn y lie. Hefyd gyda'r brawd William James, un o flaenoriaid Caerfyrddin gyfarfyddodd a dam wain yn ddiweddar, ond sydd erbyn hyn yn gwella yn rhagorol. Etholwyd cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Taleithiol. Gwnaed sylw o'r Gymanfa Ganu gyn- helir ym Mynydd Bach o dan arweiniad Mr Tom Williams, Tirydail, Alel-iefin 2iL Cafwyd trafodaeth ynglyn a mater ael- odaeth, a phwrysleisiwyd y pwysigrwydd o dderbyn ein pobl ieuainc. Rhoddywd gwahoddiad cynes i'r gwein- idogion i arcs am flwyddyn arall. Llongyfarchwyd Mr William Hopkins ar ei benodiad yn Ustus Heddwch dros ei sir enedigol. Siaradwyd gan amryw o'r brodyr, gan ddatgan eu llawenydd am yr anrhydedd a osodwyd arno. Ar ddiwedd y cyfarfod mwynhawyd gwledd barotowyd ar ein cyfer gan Mrs Hopkins, Rhosmaen Terrace, a Miss Tom- kins, Thormaston. GOH.
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. Cynhaliwyd yma gyfarfod chwarterol y Gylchdaith ddydd Mercher, Ebrill Jaf. Llywyddwyd gan yr Arolygwr, y parch David Thomas. Yr oedd yn bresenol y parchn J. Maelor Hughes ac R. W. Davies, y ddau oruchwyliwr, Mri Evan Thomas a W. Williams, ynghyd a chynrychiolaeth dda o bedair eglwys. Darilenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y parch Maelor Hughes, a gweddiwyd gan Mr Owen Jones, Llangefni. Rhoddwyd sylw i Schedules Dirwest a'r Ysgol Sul, a derbyniwyd Report y capeli. Y cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Talaethol ydynt Mri James Owen, Beaumaris, a Henry Hughes, Menai Bridge. Gwahoddwyd y tri gweinidog i aros blwyddyn arall. pasiwyd anfon gwahoddiad unfrydol y cyfarfod i'r parch J. E. Thomas, Aberdyfi, i Beaumaris yn lCJIO. Terfynwyd cyfarfod graenus mewn gweddi. YSG.
CYLCHDAITH TREDEGAR.
CYLCHDAITH TREDEGAR. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yn y lie uchod Mawrth 28, 1914, o dan lywydd- iaeth y parch Llewelyn-Morgan, Tredegar, yr Arolygwr. Yr oedd yn bresenol y parch. W. T. Roberts, Rhymney, a Mri \Vm. Middleton, Goruchwyliwr, a Wm. Davies, Ysgrifenydd. Cafwyd cynrychiolaeth luosog oddigerth Bryn Sion. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr W. J. Lloyd, Abertysswg, gynt o Bangor. Darilenwyd cofnodion y cyfarfod biaea- orol gan yr Ysgrifenydd, a phasiwyd hwy fel rhai cywir. Cafwyd cyfrif yr aelodau, a chyfrifwyd lleihad yn ystod y chwarter. er ein gofid. pasiwyd Mr D. Davies, Rhymney, yn Or uchwyliwr yn lie y diweddar Mr John Ed wards. pasiwyd Mr M. J. Evans, Abertysswg, i fod yn Gynrychioiwr i Gyfarfod Talaethol Mai" a Mr T. Havard, pontlotyn, i lanw lie y Goruchwyiiwr. pasiwyd chwech i fynd i Tredegar i ffurfio pwyllgor i ystyried y priodoldeb i uno y Cymry a'r Saeson yn ghylchdaith Tredegar.. Cafwyd y pleser o wrandaw ar yr Arol- ygwr )- n arholi I',lr T. J. Evans, Abertys- swg, cynt o Mynydd Bach, Cylchdaith Ys- tumtuen, a chafwyd atebion boddhaoi, a chvmeradwywryd ef yn unfrydol i fod yn bregethwr cynorthwyol ar y plan. Terfynwyd trwy \veddi gan yr Arolygwr. GOH.
GEKEDIGAETH.
GEKEDIGAETH. WILLIAMS.—Mawrth Slain, yn Bod Owain, Penmachno, priod y Parch Daniel Wil- liams, ar ferch.
ILLANDUDNO. I
LLANDUDNO. SOCIAL TEAS.- Y mae y cyfarfodydd hyn wedi dod i'r terfyn am y tymhor presenol, ac wedi profi yn hyriod" o lwyddianus. Y cyfeillion oeddynt yn cyflwyno y darpar- iadau (at yr enwau sydd wedi ymddangos o'r blaen), oedd Mrs Davies, Lansdowne Terrace; Mrs John Morris (ieu.), a'i thad yn nghyfraith, Mr John Morris; Miss Hughes, Plas Idal; Mr W. Williams, Myrtle House Misses Davies, Bryn Goleu; Mrs R. Jones, York Villa; Mr John Wil- liams, Dulyn House Mrs D. Roberts, Grosvenor House. Derbyniwyd y rhodd- ion arianol oddiwrth y cyfeillion canlynol: Mrs R. D. Owen, Gwynfa; Mrs Parry, Apsly House; Miss Hughes, Mentone; Mrs Pierce Jones, Penrhyn Cressent, a Mr J. Wiiiianas, Cyprus.House. Yr oedd cyf- answm yr elw oddiwrth y cyrddau te a'r rhoddion yn £ 37 10s, o Ionawr hyd y .drydedd wythnos yn Mawrth. AELODAU NEWYDDION.—Wrythnos i nos Sul diweddaf yn Ebenezer, derbyniwyd deunaw o bobl ieuainc yn aelodau cyflawn o'r eglwys yn y lie. Yr oeddynt wedi der- byn pob help ac anogaeth i sylweddoli pwysigrwydd y fraint aruchel hon, trwy i'n hamvvl weinidog, y Parch Thomas Hughes, eu cyfarfod yn wythnosol mewn rhestr arbenig. Golygfa fendigedig oedd gweled yr oil yn plygu eu gliniau i dder byn y Sacrament am y tro gyntaf erioed. Hyderwn y bydd i'r gwe'ddiau cyhoeddus a dirgelaidd ar eu rhan gael eu hateb, ac y bydd bywyd pob urn ohonynt yn addurn i grefydd ein Harglwydd Iesu Grist. ETIIOLIAD.—Dymunwn longyfarch Mr W. 0. Williams, Nestleton Wood, ar ei ddychweliad anrhydeddds, ac yn uwchaf ar y Poll, fel cynrychiolydd ar y Cynghor Trefol dydd Sadwrn diweddaf. GOH.
I LLANRHAIADR-YM-MOCHNANT.…
I LLANRHAIADR-YM-MOCHNANT. j Dydd Mercher, Ebrill 8fed, 1914, unwyd mewn cyfamod priodasol Mr Robert E. Jones, Rock House, a Miss L. Lewis, pare Isa. Gwasanaethwyd gan y parchn H. G. Roberts (M.C.), a J. Lloyd Hughes ym rrhressnoldab y Cofrestrydd. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei thad. Gwas. anaethwyd fel gwas priodas gan Mr Oswald Buchiey, ac fel morwyn briodas gan Miss Lewis, chwaer y briodferch. Ar ol y g wasanaeth aed i pare Isa, lie yr oedd gwledd briodasol o'r radd uchaf wedi ei pharatoi, ac eisteddodd oddeutu 50 wrth y byrddau. Ar ol gwledda caed anerchiad- au hyawdl gan y parchn H. G. Roberts, J. Lloyd Hughes, a'r Meistri E. Evans, U.H., R. H. Evans, lorwerth Morris, T. Lewis (ieu.), R. Jones, yn dymuno yn dda i'r ddeuddyn hyn. Mae y priodfab yn wyr i'r diweddar Mr Richard Jones, Glanaber. Boed gwyn eu byd ydyw dymuniad eich GOH.
ISOAR, CYFFIN. I
SOAR, CYFFIN. FFRWYTH I'R LLAFUR.—Mae llawer yn gwybod am y lie hwn pryd nad oedd yma capel Wesley, ond erbyn heddyw mae yma achos bach mewn rhif wedi ei godi, a rhai wedi eu dwyn i mewn yn aelodau cyflawn, ac yn dechreu dod i ddeall fod gan lesu Grist haul ar eu gwasanaeth. Mae edrych ar y Cyffin heddyw yn profi gwirionedd amlwg fod gan Gristionogaeth ei le. Plant bach oedd yn amddifad o wybod- aeth Ysgrythyrol wedi eu haddysgu yn dda, a'r oil yn gredit i'r ch wiorydd da sydd yma, ac arweiniad medrus a doeth Mr Roger Williams. Rhodd penaf Duw i'r byd yw dynion da, ac y mae Mr Williams yn un ohonynt, un sydd yn meddu calon gynes ac ysbryd cenhadol. Y mae fel Barnabas, gwr da yn llawn o'r Ysbryd Glan. ac awydd angherddol dros lwydd- iant yr achos hwn. PREGETHU A DARLITHIO.—Bu Mr W. O. Jones, Aber, yma yn pregethu dydd Sul, Mawrth 29ain, ac yn darlithio nos Fawrth, Mawrth Slain. Yr oedd y capel yn orlawn ac ni welwyd neb heb fod yn chwerthin wrth fodd ei galon, ac yn mwynhau y ddarlith. Yn ystod y Sul rhanwyd tros triugain o lyfrau i'r plant am eu ff-yddlon- deb i'r Gobeithlu. Cyflwynwyd hwy i'r plant gan Mr W. O. Jones. Adroddwyd gan Robert Jones, Myfanwy Jones, Francis Rowlands, Alice M. Jones a Lucy Owen. Cafwyd unawdau gan Jennie Jones, Francis Rowlands, Katie Owen, Mollie Jones a Winnie Hughes. Siaradwyd gan Mri W. O. Jones a Roger Williams. Lly wyddwyd y cyfarfod gan Mr Evan J. Jones, Llywydd yr Ysgol Sul. Terfynwyd y cyfarfod hwn mewn hwyl dda, a'r plant yn canu wrth fodd pawb. EFENGYLWR.
CYLCHDAITH RHYL. j
CYLCHDAITH RHYL. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yng Nghapel Brunswick, Rhyl, dydd Iau, Ebrill 2il. Llywyddwyd gan y Parch A. W. Davies. Yr oedd yn dda gan y frawd- oliaeth ei weled yn alluog i gymeryd ei le ac i ail ymaflyd yn ei waith ar ol ei gys- tudd blin a hir. Rhoddid croesaw cynes iddo, ohcrwydd amgylchiadau neillduol mewn dan neu dri o leoedd yn y Gylch- daith. Nid oedd y gynrychiolaeth mor liosog ag arferol, ond da oedd genym weled y Parchn Robert Hughes, D. Marriott ac Evan Jones yn bresennol i gynorthwyo yr Arolygwr. Darllenwyd ystadegau yr Ysgol Sab- bothol gan Mr T. Parry Williams, yn absenoldeb Mr Lewis Hughes, yr ysgrifen- ydd. Mae cyfanrif yr ysgolorion yn 688. Oherwydd afiechyd, methodd Mr David Owen, yr Ysgrifenydd Dirwestol a bod yn bresennol. Ond anfonodd ei gyfriflen i fewn, yn dangos fod nifer y plant yn y Bands of Hope yn 316, a nifer y Dirwest- wyr mewn oed yn 305. Ond eglurwyd i'r cyfarfod, mai rhif y rhai ag mae eu hen- wau yn llyfrau dirwestol y gwahanol eglwysi yn unig yw y rhif yma. Fod nifer y Dirwestwyr yn y gylchdaith yn llawer iawn uwch na hyn, ond nad ydynt wedi arwyddo eu henwau hyd yn hyn yn llyfrau dirwestol perthynol i'r eglwysi. Argym- hellwyd i'r ysgrifenyddion Ileol gael enwau y cyfryw rai yn eu llyfrau fel ag i gael cyfrif llawnach a chywirach yn y dyfodol. Mae gwerth yr eiddo cyfundeb- ol yn y gylchdaith dros 10,000 o bunau, ac nid oes ond ryw 600 o bunau o ddyled ar yr oll. Darllenwyd cyfrifon yr eglwysi gan Mr Peter Ellis. Mae cyfanrif yr aelodau cyf- lawn yn 588. Mae hyn yn gynydd o 39 ar y fiwyddyn ddiweddaf. Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parch Hugh Evans, fel olynydd i'r Parch A. W. Davies, a gwahoddwyd y Parch R. Lloyd Jones i aros gyda ni am flwyddyn arall. I Penodwyd y ddau Oruchwyliwr a Mr J. Denton Davies yn gynrychiolwyr y gylch- daith i'r Cyfarfod Talaethol. Os melha un o honynt fyned, fod W. H. Davies, Rhuddlan, i gymeryd ei le. I Bu farw tri o'n aelodau yn ystod y chwarter, sef Mr Peter Davies, Brighton Road, Rhyl; Mrs William Connah, a Mr Jones, Morley Terrace, Prestatyn. Gwnaed sylwadau caredig am y naill a'r ilall gan rai o'r brodyr. Iae'r cyfdfiod chwarter nesaf i'w gyn- al yn Rhuddlan. Darparwyd te rhagorol ar gyfer y frawdoliaeth gan Mrs A. W. Davies a Miss Llwydwyn Jones, a diolchwyd iddynt am eu caredigrwydd inni. W. H. D.
TOWYN. I
TOWYN. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr uchod ddydd Mercher, Ebrill laf, yn Aber- dovey, dan lywyddiaeth y Parch. R. Jones Williams, Arolygwr. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. J. E. Thomas, Mri Lloyd a Davies, Goruchwylwyr, ynghyd a chyn- rychiolaeth dda o bob eglwys ac eithrio Abergynolwyn. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr H. Humphreys, Bryncrug. Derbyniwyd cyfrif yr aelodau a'r cyfran iadau o bob eglwys yn llawn, a cawd fod cynydd o bump yn rhif yr aelodau ar y flwyddyn. Derbyniwyd cyfrif y casgliad tuag at yr Ysbyttai gan Mr E. L. Rowlands, yn dang- os fod y gylchdaith yn gwerthfawrogi yr ymdrechion o blaid y cleifion, &c. Darilenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Erfyniodd yr Arolygwr am i bob eglwys orffen y casgliad rhag blaen, rhai eglwysi wedi ei dalu eisoes. Croesawyd y brodyr Mri E. H. Edwards, a John Owen, Aberdovey, a'r brawd Owen Lewis, Llwyngwril, i'r cyfarfod am y waith gyntaf. Pasiwyd Mr Ellis Owen, Llanegryn, yn gynrychiolydd ychwanegol i'r Cyfarfod TaleithioJ. Darllenwyd cyfrif y Trusts gan Mr W. O. Jones, a chafwyd eu bod mewn sefyllfa ddymunol. Cadarnhawyd gwahoddiad y Parch E. Berwyn Roberts yn olynydd i'r Arolygwr presenol, ac addawodd y Parch J. E. Thomas aros am y flwyddyn, a chadarn- hawyd gwahoddiad y Parch W. P. Rob- erts yn olynydd i'r Parch J. E. Thomas yn 1916. Holwyd y brawd Mr Owen Lewis, Llwyngwiil, gan yr Arolygwr, a chafwyd atebion pur foddhaol ganddo, a phasiwyd yn unfrydol ei fod yn gymeradwy i fod ar y plan-fel pregethwr cyflawn o hyn allan. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theuluoedd cyfeillion ymadawedig, sef Mri Hugh Evans, Towyn; David Roberts, Nantymynach ac hefyd gyda Mrs Jones, Llwyngwril, yn marwelaeth ei hanwyl briod. Pasiwyd ein bod yn cymeradwyo Scheme y pwyllgor gyda ad diefniant gyllidol y gylchdaith, Pasiwyd ein bod yn anfon gair at y Cy- farfod Taleithiol i symud ymlaen i geisio atal gwerthu newyddiaduron ar y Sabboth. Mwynhawyd arlwyaeth o de da, wedi ei barotoi gan Mrs G. Davies, Mrs j. E. Thomas, Mis Morgan, a Miss Thomas, ac ar gynygiad Mr James Jones, yn cael ei gefnogi gan Mr Lewis Thomas, diolchwyd yn wresog i'r chwiorydd caredig am y par- otoadau. Terfynwyd trwy weddi gan yr Arolygwr. COFNODYDD. I
ICYLCHDAITH LLANRHAIADR-YM-MOCHNANT.
CYLCHDAITH LLANRHAIADR-YM-MOCH- NANT. Cynhaliwyd cyfarfod ch,rarterol y Gylchdaith uchod yn Llanrhaeadr, dydd lau, Ebrill yr 2il. Llywyddwyd y cyfarfod gan yr Arolygwr, y Parch J. Lloyd Hughes. Yr oedd yn bresenol y Parchn D. Egwys Jones ac R. Vaughan Owen, ynghyda'r ddau Oruchwyliwr, Mri E. J. Williams a William Jones. Oherwydd fod arholiad y gweinidogion ar brawf yn cael ei gynal yr un dydd, methai y Parch D. R. Rogers, B.A., fod yn bresenol. Yr oedd cynrych- iolaeth dda o'r hol I eglwysi. Wedi myned trwy'r gweithrediadau arferol, deuwyd at y pethau canlynol Llongyfarchodd y Llywydd, y Goruch- wyliwr newydd, Mr William Jones ar ei ymgymeriad a'r swydd. I Croesawodd y Llywydd, Mr J. T. Hughes, Llangynog, i'n plith am y tro cyntaf, a Mr Vincent Davies yn ol ei faith waeledd. Penderfynwyd anfon cofion y cyfarfod at Cadfan yn ei afiechyd. Penderfynwyd anfon gair i ddatgan cydymdeimlad y cyfarfod a Mr J. Ellis a'i deulu, Y Bryn, Cefnblodwel. Collodd ef briod ffyddlon, a'r plant fam ofalus. Derbyniwyd cyfraniadau'r eglwysi yn llawn o bob lie. Galwyd sylw at y Gymanfa agoshaol ac apeliwyd am ymdrech ddi-ildio er ei gwneud yn liwyddiant. I Darllemvyct Y gwahanol Schedule?. Darllen cytrif y Genhadaeth Dramor. I Y cyfanswm gasglwyd eleni oedd £ 143 7s. 11! cynydd o-tua £ 2 ar y llynedd. I Darllen rhif yr aelodau. Y mae y cynydd ar y flwyddyn ddiweddaf yn 15. Gwahoddwyd y Parch R. Vaughan Owen i aros blwyddyn arall hefyd golyn- wyd iddo aros y bedwaredd flwyddyn a chydsyniodd yntau a'r ddau gais. penderfynwyd gwahodd y parch Alfred Blackwell i olynu y parch D. R. Rogers, B.A., yn Llansilin, Awst nesaf. Cadarnhawyd gwahoddiadau y parchn E. Tegla Davies ac Evan Roberts i ddod i'r Gylchdaith yn Awst nesaf. penderfynwyd gwahodd y parch R. W. Jones i olynu y parch E. Roberts yn 1917. Gwasgwyd ar i bob eglwys dalu yr Assessment-arbenig yn y cyfarfod nesaf. Etholwyd Mri John Owen ac Alun Thomas i fynd yn gynrychiolwyr y Gylch- daith i'r Cyfarfod Talaethol. Hefyd eth- olwyd Mri Henry Edwards, Tynymaes, a William Jones, Glashirfryn, yn lie y Circuit Stewards os bydd iddynt hwy fethu myned. Holwyd Mr G. R. Owen, Croesoswallt, fel ymgeisydd am y Weinidogaeth gan yr Arolygwr. Cafwyd holi manwl a theg, ac atebion campus. Siaradodd amryw o'r brodyr yn ffafriol iawn am Mr Owen fel dyn a phregethwr, a chymeradwywyd ef yn unfrydol. Y cyfarfod nesaf i'w gynal ym Mhen Nebo. Terfynwyd trwy i Mri Alun Thomas, E. Richards, a'r Arolygwr, offrwm gweddiau. Cafwyd bendith ysbrydol oedd yn goron ar gyfarfod rhagorol tra y gwedciai y tri wyr hyn. Cafwyd gwledd o'r fath oreu gan y chwiorydd, Mrs Edwards, Tynymaes Mrs Davies, Trefeiliw a Miss Evans, Arfon House. Diolchwyd yn gynes iawn iddynt gan Mri J. T. Hughes, a J. Oswald Jones. Buan eto delo tro'r i baratoi'r Te. YSG. I
CYLCHDAITH BAGILLT.I
CYLCHDAITH BAGILLT. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol, cylch- daith Bagillt yn Fflint, Ebrill laf, 1914. Cymerwyd y gadair gan yr Arolygwr y Parch W. M. Jones, B.A. Daeth cynrych- iolaeth dda ynghyd a chafwyd cyfarfod hwylus a dymunol. Derbyniwyd y cyfrif on yn llawn o bob eglwys yn y gylchdaith. Cafwyd fod cynydd o ddau ar bymtheg yn rhif yr aelodau ar y chwarter diweddaf, a chynydd o bedwar ar y flwyddyn ddiweddaf. Rhoddwyd dau notice of motion' i'r cyfarfod. (1) I godi yn gydnabyddiaeth yngwahanol eglwysi y gylchdaith i'r pre- gethwyr cynorthwyol. Cwyn gyffredinol sydd fod rhai o'r pregethwyr yn tori eu planiau rhydd, a phar hyn fod llawer iawn o gyfarfod gweddio mewn rhai lleoedd. Bydd cydnabyddiaeth well yn symbyliad iddynt i gadw eu planiau yn fwy cyson. (2) I godi cyflog gweinidog Fflint. Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parch D. Meurig Jones i ddod i'r gylchdaith hon y flwyddyn nesaf yn olynydd i'r Parch W. M. Jones Gwahoddwyd gweinidogion Caer a Fflint i wasanaethu y gylchdaith am flwyddyn arall, ac addawodd y ddau wneud. Cafwyd ar ddeall gan y goruchwylwyr fod y Parch John Kelly wedi derbyn gwahoddiad i ddod i Gaer yn 1916, a chadarnhawyd hyny yn y cyfarfod hwn. GOIl. I