Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. Dymunir gwneyd yn hysbys y bydd busnes y diweddar Mr. Ranleigh Jones yn cael ei gario yn mlaen fel arferol gan ddyn profiadol BOB DYDD MERCHER yn siop Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oily boreu hyd 4 y prydnawn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.-Chwef. 10. Penlan (A.), am 10 a 6, Parch. D. Williams, Maentwrog. Capel Seisuig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6.30, Parch. David Thomas, y Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch. Thomas Williams, Pwllheli. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch. D. O'Brien Owen, Caernarfon, Capel Seisnig Ala Road (M.C.), am 10 a 6, Tabernacl (B.). am 10 a 6, Parch. H. H. Williams, y Gweinidog. Sewn (W.), am 10, Gwr Dieithr; am 6, Gyfarfod Gweddi. Tarsis (M.C.), am 10 a 6, Parch. R. Conway Pritchard, Pwllheli. South Beach (M.C.), am 10 a 6, Cyfartod Gweddi. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2 ysgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch ————— Ysgol Genhadol North Street (A.), am 2, Ysgol. St. Pedr, 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig), Parch. J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch. r Pierce Owen, B.A.. Cnrad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd; am 2, Y sgol; am 5, Pregeth,—Father Hayden CYFARFOD CYSTADLEUOL PENMOUNT A SAND STREET.-Ddydd Sul penderfynwyd yn mhwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Pen- mount a Sand Street, yr hwn a ohiriwyd nos Nadolig oherwydd gwaeledd yn mysg plant, i'w gynal nos Iau, Mawrth 2iain. CERDDOROL -Deallwn fod Mr T. T. Powell, Bronygan, wedi ei benodi yn gynrychiolydd i Goleg Cerddorol Llundain dros Lleyn ac Eifionydd a Sir Feirionydd. Bydd Pwllheli yn ganoltan i arholiadau y Coleg yn y dyfodol. CYDNABOD GWASANAETH Trefnir i gyflwyno tysteb i Mr W. H. Benskin ar ei ymneillduad fel ysgolfeistr ar 01 35 mlyn- edd o wasanaeth. Mae rheolwyr yr ysgol wedi ymffurfio yn bwyllgor i'r pwras ac wedi penodi a ganlyn yn swyddogion i'r mudiad :-Llywydd, Parch. J. Edwards, Ficer; trystfrydd, Mr William Thomas, St. Peter's Terrace ysgrifenyddion, Mr Hugh Pritchard, a'r Parch. Pierce Owen (Curad). GWASANAETH COFFA —Nos Sabboth, Ior.awr 27am, cynhaliwyd gwasanaeth dwys yn Nghapel Seion (W ), er coffad- wriaeth am y bechgyn gytarfyddodd a'u diwedd mewn brwydrau ofnadwy ar faes y drin. Traddodwyd pregeth rymus (yn ol ei arfer) ar yr achlysur ean y gweinidog, Parch R. Conway Pritchard. Chwareu- wyd y Dead March yn hynod feistrolgar gan Miss Lizzie Violet Owen, Epworth, ar yr organ. Caed gwasanaeth toddedig a chynulllad lluosog. EIN MILWYR.-YR wythnos ddiweddaf daeth amryw o'n milwyr gartref fel arfer. Yr oeddynt yn edrych yn dda odiaeth. Gwelsom y rhai a ganlyn :-Lifftenant- Colonel Aneurin Rhydderch, St. Peter's Terrace Corporal Griffith Jones, Lleyn Street Privates William Hansord, South Beach Teddy Wilson, Shop Ca&rhydd- erch Hugh Thomas, North Street John Robert Jones, Lleyn Street William Williams, Glanafon Terrace Evan Gough Jones, Tai Cochion Terrace Edward Ward, Lleyn Street, a W. H. Williams, New Street WEDI CWYMPO.—Yr wythnos ddiwedd- af daeth hysbysrwydd fod y llanc gwylaidd Private John Owen Jones, yr hwn a was- anaethai cyn y rhyfel yn masnachdy Druid House, wedi ei ladd yn Mhalestina. Gen edigol ydoedd o Croesor, Llanfrothen. Cafodd ei glwyfo rai misoedd yn ol mewn brwydr ar wastadedd Gaza, ac yr oedd am- heuaeth ynghylch ei ddiogelwch hyd yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn gymer- iad pur a dilychwin, ac yn un a hoffid yn fawr gan gymdeithas Ceid yn ei fywyd y rhinweddau prydferth hyny sydd yn gwneud eu perchenog yn ddylanwad iach mewn cwmni. Cydymdeimlir a'i deulu trallodedig yn eu dirfawr boen. CWYMP ANGEUOL MORWR IBUANC. Ddydd Mawrth cyrhaeddodd hysbysrwydd i'r dref fod y llanc hynaws Mr John Owen, 18 mlwydd oed, nai i Mrs Jones, Vigilant, wedi syrthio yn y Hong yn. Llundain a cholli ei fywyd. M I b ydoedd yr ym- adawedig i Mr a Mrs William Owen, Bryngoleu, Edeyrn. Bu yn gwasanaethu yn masnachdy Mr Isaac M. Anthony, Manchester House, hyd tua dwy flynedd yn ol pryd yr aeth i wasanaethu ar y mor. Gwyleiddied oedd ei natur fel y gwnaeth gylch o gyfeillion pur iddo ei hun yn y dref, a bydd ei noswyliad cynar yn loes drom iddynt. Dygwyd ei weddillion adref i Edeyrn prydnawn Sadwrn, a chymer- odd y gladdedigaeth le yno ddydd Llun diweddaf, yr hon oedd yn lluosog a phob- logaidd iawn. Gwasanaethwyd gan y Parch. John Hughes, Edeyrn. Cydym- deimlir yn tawr a'r teulu oil yn eu galar o goili un mor addfwyn. CYNGHERDD AMRYWIAETHOL. Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol cynhelir Cyngherdd Amrywiaethol yn Neuadd y Dref nos Fawrth, Chwefror i2fed Gwasanaethir ynddo gan The Nantlle Vale Girl Guides. Mae'r talentau sy'n gwneud i fyny y cwmni yn rhai gwych nodedig, a gelwir yn fynych am eu gwas- anaeth i leoedd o bwys. Buont yr wyth nos ddiweddaf yn Mhorthmadog, a swn canmol glywir yno am eu rhagoroldeb. Dyma gyfle i'r trigoilon dreulio orig lawen yn myd chwaeth a digrifwch pur. Mae'r elw a geir yn myned at gymdeithas cysur- on y milwyr. Disgwylir y rhydd y dref gefnogaeth i'r mudiad teilwng hwn, gan fod sefyllfa ddyddiol y bechgyn yn y ffos- ydd oer a'r awelon digwyn yn galw arnom mewn iaith hyawdl i fwrw ein cyfran i drysorfa sydd a'i hunig nod i leddfu ych- ydig ar eu cyni, a thrwy hyny byddis yn rhoi echwyn i'r Goruchaf."
IABERERCH.I
ABERERCH. CYSURON I'R MILWYR --Gofelir am filwyr yr ardal uchod eleni eto gan y Red Cross Working Party, trwy anfon cysuron iddynt pan fyddo angen am hyny. Mae Mrs Evans, Broomhall, llywyddes y mudiad, wedi cymeryd dyddordeb mawr yn y gwaith er dechreu y rhyfel, ac yn ychwan- egol at ei haelioni yn y gorphenol y mae wedi addaw ^3 eto eleni. Diolchwn yn garedig idwn iddi hi ac hefyd am y rhodd- ion canlynol :-Miss Bannerman, Hendre', ios.; Mrs Yale, Glanafon, 10s. a dau bar o Socks Mrs Emrys Evans, Doldrefnant, 5s.; Misses Roberts, Ynys. 7s. 6c.; Mrs Roberts, Penydon, 2s 6c Mrs Humphrev Davies, Ey'nycoed, 2s 6c Miss Cather- ine Jones, Tanyfynwent, is. Haedda y rhai sydd yn gwau ac yn gwnio, &c yr. ddyfal ar hyd yr amser at y gwaith da yma ein diolch arbenig hefyd. n--
Bwrdd Undeb Pwllheli.I
Bwrdd Undeb Pwllheli. Cynhaliwyd dydd Mercher.—Mr. J. T. Jones yn y gadair, a Mr. Richard Jones yn yr is-gadair. SYRTHIO AR FAES Y GWAED. Adroddwyd gan y Swyddog Elusenol fod dyn ieuanc oedd yn talu gyda chysor- deb at gynhaliaeth ei dad wedi syrthio ar faes y gwaed. ESGEULUSO EI WRAIG Adroddai Mr. G. Richards, Cadeirydd Pwyllgor y Ty, fod yno wraig, a esgeu- lusid gan ei gwr, wedi ei chymeryd i'r Ty, a chyfarwyddwyd y Clerc i gymeryd cam- rau i ortodi ei gwr i dalu am ei chynal. CODI CYFLOGAU SWYDDOGION. I Cynygiai Mr. M. N. Jones, ar ran y Pwyllg-or Arianol, i godi 3S yn wythnosol yn r.ghyflogau y Swyddogion Elusenol at y 3s. a ganiateid o'r blaen flwyddyn yn ol. Cefnogwyd gan Mr. Griffith Evans, a phasiwyd.—Argymhellai Cyngor Plvyf Llanaelhaiarn i godi cyflog Mr. Thomas Japheth, y trethgasglydd, o 22p. i 32p. y flwyddyn. Cynygiai Mr J. Hughes Parry fod yr ychwanegiad i fod yn barhaol, am eu bod yn talu rhy fychan am y gwaith er's blynyddau. Cefnogai Mr. G. W. Davies. Gofynai Mr. R. O. Roberts ai ni ellid talu > r ychwanegiad am y blynyddau a basiodd. Atebai y Cadeirydd nas gellid. Pasiwyd i godi lop.—Pasiwyd i gyfranu SP. tuag at Gymdeithas Mamaethod Aber- soch. — Hysbyswyd fod traul cadw y gwallgoflaid yn Ninbych am y chwarter yn 346p. DIDDYMU'R BWRDD. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y bwriad i ddiddymu y Byrddau Gwarcheidwaid yn y wlad. Dywedai nad ef yn credu dim yn y cynllun newydd, gan fod gan y Cynghorau Sir fwy o waith nag a allent gyflawni yn barod. Mr. J. Hughes Parry A fuasai yn well ini brotestio yn erbyn y cynllun ? Y Cletc Gwell i chwi aros nes y cewch hysbysiad swyddogol am y cynllun. -0--
Llwyddiant "Cybi."-I
Llwyddiant "Cybi." Llawenydd digymysg i mi oedd deall fod y bardd per, a'r awdwr cynyrchiol o Eifionydd, wedi ychwanegu un eto at nifer ei lawryfon ym myd barddas Mewn Eisteddfod a gynhelid yr wythnos ddiw- eddaf yn Maesteg, Deheudir Cymru, enill- oedd y Gadair, a gwobr arianol o £ 2 2S. am Arwrgerdd i'r "Gwir Anrhydeddus D.vid Lloyd George," (Llwyd o Eifion). Mewn cysfadleuaeth wech,-a chyda lIa wer o ganmoliaeth. Yn ol yr hanes, canwyd can y Cadeirio gan Lleinor Llyfnwy, a phentyrwyd llu o anerchiadau lfongyfarch- iadol, ar ben cynrychiolydd-y Hardd budd- ugol. Dyna'r chweched Cadair iddo enill. Gwarchod ni pwy gaiff hen lane fel efe, i eistedd ar yr ho)l orseddau ? Diameu genym y bydd yn dda gan holl ddarllen- wyr "Yr Udgorn" ddeall am lwydd Golygydd ei "Golofn Farddol." Dringed  yn uwch eto. CYFAILL.
ILlys Apel y Sir.
I Llys Apel y Sir. EISTEDDIAD YN MHWLLHEL1. Cynhaliwyd yr uchod dydd Llun, Mr. J. E. Greaves yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri. Richard Davies, G. Hughes Roberts, T. Griffith, J. Hum- phreys, Llew Davies (Clerc), Capten Cradoc Davies (N. S. R ), W, E. Williams (Cynrychiolydd Amaethyddol). Gofynai Mr. Roberts, 7, Dublin Street, Tremadog, am esgusodiad i Thomas Evans, 33 (lIafurw r amaethyddol). Dy- wedai Capten Davies nad oedd y Pwyllgor Amaethyddol yn teimlo yn hollol foddhaol fod y dyn yn gweithio ei holl amser ar y tir. Dywedai yr apelydd fod y dyn yn gweithio ei holl amser ar y tir ag eithrio dyddiau gwlawog. Gohiriwyd er cael archwiliad meddygol. ACHOS CIGYDD. Apelid yn erbyn esgusodiad amodol i Arthur E. Humphreys, New Inn Shop, Criccieth, cigydd. Dywedai Mr. Hugh rritchard ar ei ran ei fod wedi cael esgus- odiad amodol gan Lys Apel Criccieth. Cyn toriad y rhyfel yr oedd tad yr apelydd yn cadw dwy siop gig- yn Nghriccieth, ac yr oedd ei ddau fab ac un arall yn ei gyn- orthwyo. Ymunodd y mab a'r gwas a'r fyddin ar unwaith, ac yr oedd un mab wedi ei glwyfo yn dditrifol yn Ffrainc. Bu y tad fai w, gan adael ei weddw, yr hon sydd yn wael, i ddibynu ar yr apelydd. Yr oedd ganddo hetyd wraig a dau o blant. Mewn atebiad i Capten Davies dywedai yr apelydd ei fod yn foddlon i ymuno a'r Gwirfoddolwyr. Cadarnhawyd ei esgus- odiad ar yr amod hwow. AMRYWIOL ACHOSION. Cefnogid cais Hugh Jones, Tyddyn, Greigwen, Mynytho, gan y Parch. R. M. Edmunds, yr hwn a ddywedai ei fod yn cynorthwyo i drin 24 o fan-ddaliadau yn yr ardal. Ategid gan y Prifathraw Evans a Mr. Owen Rowlands. M ai 30ain.- Ymddangosai Mr. O. Robyns Owen ar ran Owen Jones, Plas Sam, Abersoch, cigydd, a;) esgusodwyd hyd Mai 30ain.- Apeliai Mr. Peterson am esgusodiad i J. Iorwerth Williams, Isallt, Porthmadog. Hysbysai y Clerc fod y bachgen wedi ym- uno ag adran R.F C. o'r fyddin o'i wir- todd. Er hyny pwysai Mr. Peterson am fis o esgusodiad. Gwrthodwyd.—Cania- tawyd hyd Mai 301m i Thomas Jones, Mitre Place, Pwllheli, Mr. Hugh Pritchard yn ymddangos ar ei ran. -Cyflwynwyd cais William Dobson, Factory Rhydygwystl, Chwilog, i'r Pwyllgor Amaethyddol.- Caniatawyd esgusodiad amodol i D. R. Jones, Bodefi, Nefyn, ar yr amod iddo wneyd gwaith o bwys cenedlaethol.— Caniatawyd ceisiadau Richard Jones, Riverside, Penrhos, a Huw R. Gruffydd, Criccieth, i gael eu hail aichwilio yn Ngwrecsam.
---Arwerthiantau.-nI
Arwerthiantau. n I Uydd Llun diweddat bu Mri. Henry Parry a'i Fab yn graddio Gwartheg Tew- ion ac yn gwerthu Gwaitheg Stores yn eu Cattle Mart yn Chwilog. Daeth yno 48 o Wartheg Tewion o'r ffermydd adnrabyddus isod :-Tyn'ronen, Fou-crosses, 31 p. 14s. a 3ip. 14s.; Rhosgill Fawr, 31 p. 143. 6c., 28p. 18s, &c.; Ty'nlon, Llangybi, 33P os. a 3ip. 15s Frochas, 3ip. ios., &c Llwyndwyfog, 3ip. ios.; Botacho Ddu, 28p, &c.; Sir Hugh Nanney, 4 i fyny i 26p J. H. Parry, Pecllwyn, 33P. ios., &c Ty Gwyn, Pistyll, 3255. 7s. 6c &c.; Hen Dy, Rhoslan, 30P ios &c.; Plas, Chwilog, 31 p. ios., &c.; Bronmiod, 8 i tyny i 28p os.; Ynys Lecci, 32p. os &c. Gwerthwyd 31 o Wartheg Stores a Buch- od am brisiau da, o 2ip. ios. i 32P Y graddolwyr ydoedd Henry Owen, butcher, Carnarvon, John Griffith, Bryn, Carnar- von, a Henry Parry, yr arwerthwr. Bydd y Sale nesaf dydd Lluo nesaf, Chwetror < ieg 1918. --0-
(Sobetnaetbau.-I
(Sobetnaetbau. CAWS (BETH YDYW?) Mr Gol. ,-Dydd o'r blaen dadleuai dau gyfaill ynglyn a chaws,-Pa un ai dantaith (luxury) ynte ymborth ar yr un tir ag ymenyn ydyw ? Dadleuai un mai ymborth tel ymenyn ydyw i SAIS, ac mai luxury ydyw i'r CVMRO. Cymer y Sais ef ar fara yn lie ymenyn, pryd y rhaid i'r Cymro gael ymenyn, ac yna caws fel rhyw extra megis jam. Felly dantaith ydyw i Gymro. Beth ydyw barn darllenwyr yr UDGORN. Pwy ddywed?—UN 0 GWMWD Y MAEN
Advertising
TOWN HALL, PWLLHELI. SHROVE TUESDAY, FEBRUARY 12, 1918. Entertainment By THE NANTLLE VALE GIRL GUIDES. Tickets :—Reserved 2/ First Seats, 1/3 Second Seats, 8d PROCEEDS IN AID OF THE PWLLHELI WAR RELIEF ASSOCIATION. Doors open 6-30, to commence at 7 prompt. Henry Parry & Sons, Auctioneers and Valuers, Glan'rafon, Carnarvon. CHWILOG CATTLE MART. BYODWN o hyn allan yn graddio GWARTHEG A DEFAID TEW- ION yn y Mart uchod BOB YN AIL DYDD LLUN. Cynhelir y nesaf DYDD LLUN NESAF, CHWEF. neg. Gofynol ydyw i Wartheg Tewion fod yn y Mart erbyn 10 o'r gloch, a Gwartheg Stores erbyn 11. Telir i'r Ffermwyr Ddiwrnod y Sale. Telir yn llawn am Wartheg Tewion, a chodir 6c. y bunt o gommisiwn am War- theg Stores. Hefyd byddwn yn gwerthu Buchod a Gwartheg Stores. Anfoner entries ar unwaith i David Roberts, Brynhyfryd. Owen Griffith, Talyliyn. R. O. Roberts, Cwmcoryn, neu Owen Owens, Madryn Arms Carnarvonshire War Agricultural Executive Committee. Pwllheli Golf Links. THE Carnarvonshire War Agricultural Executive Committee invite tenders from farmers for 26 acres of land forming part of the Links, for immediate cul- tivation. The tenant will be required to under- take all liability as regards Fencing and to pay all Outgoings including Rates, Taxes & Tithe. Full information may be obtained from Mr. R W. Jones, Cultivation Officer, Gesail, Garn, R S 0 Tenders should reach me not later than 11th February 1918. J. JONES MORRIS, County Offices, Executive Officer. Carnarvon ist Feb 1918. Carnarvonshire Egg Distribut- ion Scheme. rPHE Carnarvonshire Education Com- T mittee have al ranged with the Board of Agriculture for the distribution of sit- tings of eggs of pure breeds of poultry to Cottagers and Small Holders. Full particulars may be obtained on application to EVAN R. DAVIES, Secretary of Education. Education Offices, Castle Street, Carnarvon. Wern Fawr, Llanbedrog. RHYBUDD I BERCHENOGION CWN. O HODDLR rhybudd drwy hyn y saethir R bob ci welir ar yr ystad hon, ar ol y dyddiad hwn. Chwef 4ydd, 1918. A. W. HOWARD D Y M UNA ELLIS JONES, Marine and General Dealer and Winkle Merchant, 62, North Street, Pwllheli, hysbysu ei fod yn prynu pob math o Hen Haiarn, Plwm, a Phres. Rhoddir Ceiniog y pwys am RAGS. Hefyd rhoddaf uwchaf bris am RHAWN. Hefyd y mse crenyl gjflawnder o bob math o LESTRI am brisiau rhesymo'. EtLrs JONES, Hen Etail y Crown. At rai sydd yn dal Cerddi a Rhan- diroedd. Cynhelir Cyfarfod yn y NEUADD DREFOL, Nos Wener nesaf, Chwefror 8fed, 1918. AM 7 O'R GLOCH I ystyried pa gynilun gymerir yn mhell- ach ynglyn a'r rhybuddion ynghylch Planu Tatws. Ar Werth. MERLAN MYNYDD 4 oed, a chyw 9 mis oed, o'r radd oreu. Manylion i'w cael yn Rectory, Bodfean. To Let. v RON, Embankment Road, Pwllheli. Apply to T. J. Houghton-Davies, Solicitor, Pwllheli. Wanted. Y?/ MOLESKINS.-For large Qmn- '? tites best Quality skins. January to March 75/- per 100. Gerrard Bros., Furriers, EDINBURGH. SALE) GAN MBI. B, PARRY A'l FAB NIINVDON. STATION SQUARE. PWLLHELI. SALE OF HOUSEHOLD FURNITURE. YfESSRS ROBERT PARRY & SON 1 are instructed by Dr. R Jones Evans to Sell by Public Auction at the above place on WEDNESDAY, FEBRUARY 6th, 1918, HOUSEHOLD FURNITURE comprising 2 Mahogany Side Boards Pierglass 3 Couches in mohair 4 Easy Chairs Mahogany Wardrobe Dressing Drawers and Washstands Hall Stand Settle Wicker Chair 2 Dining Tables Kitchen Leaf Table Spinning Wheel Armchairs Kitchen Chairs Bedsteads Bedroom Chairs Towel Rails Looking Glasses Chinaware Ornaments Pic- tures Lamps Carpets Fender and Fireirons and numerous other articles. Closed Carriage; Phaeton; 2 Sets of Single Harness, anJ 1 Set of Double Harness; Cig and Waggonette. Sale to commence at i p.m. o'clock. Terms: Cash. 6, SALEM TERRACE, PWLLHELI SALE OF HOUSEHOLD APPOINTMENTS. IN I ESSRS. ROBERT PARRY & SON l are instructed by Mr. J. G. Jones to Sell by Public Auction at the above place ON THURSDAY, FEB 14th, 1918, HOUSEHOLD FURNITURE, compris. ing sft. 6in. Mahogany Sideboard, heme- built Mahogany Suite of Couch, Easy Chair, and 4 Sm :11 Chairs, upholstered in hair; Mahogany extending Dining Table; Mahogany Hall Stand and Tablr- Card Table Walnut 4ft Overmantel 2 Inhid Whatnots; Well built Oak Kitchen Dresser Several Mahogany Chairs up- holstered in hair; Iron Bedstead with wire mattress Invalid Wicker Chair with hair maitress Washstand Dressing Stand; Looking Glasses Toiletware Bedroom Chairs Towel Rails Oak leaf and other Tables Easy Chair Nest of Wooden Dishes; Timepieces; Iron Garden Table Fenders; Fire lions and Fire Screens; Folding Screens Copper Kettles & Brass Candlesticks; Preset ving Pan; Dally Flat Iron Hand Sewing Machine in Case; Limps Pictures Stair Rods Ca, pets Linoleums; Oilcloth; Door Mats; China- ware Crockery, Kitchen and Culinary Utensils; Dust P- Step Ladder; M ingle almost new Hangings and Poles and numerous other a-t;c'es. Sale to commerce at i p.m. o'clock. Terms Cash. 5, Salem Terrace, Pwllheli. AT AMAETHWVR, CIGYDDION, A PHORTHMYN. "TWMUNIR hysbysu y bydd Gwartheg Tewion yn cael eu graddoli a'u pwyso yn ol gofynion y Llywodraeth yn y lleoedd canlynol — Pwllheli Station, bob dydd Llun, am 9-30 y boreu. Portmadoc (Snowdon Street) o..b dydd Mawrth, am 11 y boreu. Criccieth, bob dydd Mawrth, am 2 y prydnawn. Erfynir ar i'r Amaethwyr anfon bymtheg diwrnod yn mlaenllaw pa nifer o Wartheg fwriadant dd'od i'w pwyso i Mr. Robert Parry, Arwerthwr, Pwllheli. Trefnir i wneyd canolfan yn Sarn Meillteyrn mor fuan ag y sicrheir modd- ion i bwyso yr anifeiiiaid. Graddolir a phwysir yn ddidal i'r Amaethwyr. Robert Parry, Arwerthwr, Pwllheli. R L. Giiffith, Trewen, Pwllheli. Richard Newell, Central Buildings, Por tmadoc. Graddolwyr appwyntiedig dros gy!ch Undebau Lleyn a Glaslyn. MOTOR CARS FOR HIRE MORRIS JOIsILIE oES, Central Gaage, PWLLHELI All kinds of Repairs undertaken. Fares from PWLLHELI to ABERDARON 16/- ABERERCH 3/- ABERSOCH 7/- BOTTWNOG 9/- EDEYRN 9/- EFAIL NEWY;)D 2/6 LLANBEDROG 4/- LLANAELHAIARN 7/- LLANNOR 4/- LLITH FAEN 7/- MORFA NEVIN 7/- NEVIN 7/- RHYD Y CLAFDY 4/- SARN I/- TYDWEILIOG 11/- TREFOR 8/- WEST END 1/6 SOUTH BEACH 1/6