Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

IY RHYPEL.—Parhad.I

,Newyddion Cyffredinol.

CYNLLWYN DIEFLIG.I

><►♦«-< Y modd i BIcSo Gwenith…

Porth IVIadryn.

News
Cite
Share

Porth IVIadryn. Dydd Sadwrn, Awst 15, cyrhaeddodd yr Agerlong Chincha yma o'r Uno) Dalaethau gyda llwyth o nwyddau amrywiol. Gadaw- odd ddydd Sul am Punta Arenas. Perthyn i'r Grace Line y mae y Chincha a chwifia'r faner Brydeinig. Hysbysir fod y Cacique tperthynol i'r un cwmni wedi gadael New York gyda dau can' tunell o nwyddau i Mad- ryn. CyHwynwyd gwledd o Asado ddydd Sad- wrn diweddaf, gan y Bonwyr Rauch a Mer- cavich i'r Br. E. W. Webb ar ei ymadawiad am Brydain. Gwahoddwyd oddeutu ugain o'i gyt'eillion, a mwynhaodd pawb ei hun yn fawr. Cafwyd amryw areithiau fel arfer. Cyrhaeddodd y Quintana o'r De foreu ddydd Mawrth, a gadawodd am dri o'r gloch y prydnawn am Buenos Aires. Aeth gyda hi, Dr.Jubb a'r teulu, Mri. Webb, Haddock, R. E. Jones a H. H. Griffiths. Ddydd Mercher, cyrhaeddodd yr Avellan- eda o Buenos Aires gyda 6,000 o sleepers ar gyfer estyniad y Rheilffordd. Cred y Capten mai hon fydd y daith olaf i'r llong i lawr yr arfordir hyd nes y terfynir y rhyfel. Daeth y Bahia Blanca, agerlong perthynol i Gwmni Hamburg American ytiiapt-ycltiawii dydd Mercher. Pan ar ei thaith o Hamburg i Buenos Aires, clywodd gyda'r pellebr di- wifrau, fod rhyfel wedi ei chvhoeddi rhwng Prydain a'r Almaen, ac mewn ychydig cldydd- iau canfu ddwy wiblong Seisnig yn cylch- ymdClith ar y mor ar gyfer arfordir Brazil. Yn uniongyrchol, diangodd o'u golvvg a phen- derfynodd hwylio yn syth am Borth Madryn. Newidiodd Iiw ei ffyuelau i wyn a du tebyg i agerlongau Lampert & Holt, a phaentiodd ymaith ei henw. Y mae ar ei bwrdd dri chant o deithwyr i'r Brif-ddinas, a'r tebygol- rwydd yw, y bydd iddynt gael eu cymeryd i ben eu taith gan un o longau Delfino, y rhai sydd yn perthyn i'r un cwmni onJ eu bodyn cario y faner Argentaidd. Hon yw yr ail long Ellmynaidd i ddyfod i lechu ym Madryn. KELT.

Advertising