Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

tin Cydwladwyr yn Canada.

News
Cite
Share

tin Cydwladwyr yn Canada. Gan J. C. THOMAS. Mehefin 25ain, 1914.—Tua mis yn ol, ar gymelliad eglwysi M.C. Bangor a Llewelyn, cyraeddodd yma o Hamony, Minn., y Proff- esvvr R. S. Parry i gymeryd gofal cymanfa ganu yr eglwysi uchod, yrlion a gynhaliwyd yn Llewelyn, Sul, y i3pg cyfisol. Cafwyd cynulliad lluosog i da am oriau lawer, a chredir y bydd canu cynulleidfaol yr ardal- oedd hyn yn well o ymweliad Mr. Parry a'r lie. Cafodd y Proffeswr wythnos brysurcyu y Gvmanfa yn parotoi y lleisiau a'r cJe811 ar ei chyfer, ac wythnos' brysur arall yn ei dilyn yn parotoi gogyfer a chyngerdd gyn- alivvyd yn Bangor, hwyr y 23a;n, yn yr luvn y cymerodd Mr. Parry ran helaeth a thra boddhaol. Teimlir diolchgarwch cyfiredinol i Mr. Parry am ei wasanaeth, ac erfynia y Ladies' Aid faddeuant Mrs. Parry am gadw ohonynt ei phriod oddiwrthi gyhyd i'w gwas- anaethu yn eu cyngherddd. Brysiec1 Mr. Parry ymo eto, a deued a'i "haner oreu" a'i feibion gydag ef y tro nesaf, ac addunedvvn y gwnawn a allom i'w dyddori gyhyd ag yr arhosant yn ein plith. Cymro bob modfedd o bono yw y Profieswr, ac yn yrystyr hwnw o leiaf, hyderwn mai eibrofiad tra yma oedd "0, mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd." Trodd ei wyneb yn ol am gartref ddoe, ac hyderwl1 y ca ei deulu yn bob peth y dym- una pan gyraeddo. --0- Wythnos i'r LInn diweddaf, canwyd ffar- wel a maer ein treflan, sef Thomas Philip Owen, sydd erbyn hyn gobeithiwn, yn tynu tua glan ei wlad enedigol, "Cymru Lan," ac y cyraeclda yn fuan ei gartaef Bangor, Arfon. Mae o gwmpas chwarter canrif oddi ar pan yrymadawodd a Chaernarfon am Batagonia, a sicr genym y croesawir ef yn ol yn gynes gan ei berthynasau a'i gyfeillion wedi cy- maint o absenoldeb. Un o feibon y gan yw ef, ac ni fwriada ddychwelyd hyd nes yr elo yr Eisteddfod Genedlaethol drosodd. Eidd- unwn iddo fwyniant o'i ymwTiad a Chymru, a mordaith bleserus i'w chyraedd ac i ddy- chwelyd. Aeth Mrs.Owens i'w hebrwng hyd Winnipeg. Ei daith oddi yno oedd drwy St. Paul, Chicago, New York, a Liverpool, ac i ddychwelyd drwy Quebec, Canada. Gall pwy bynag ymgynoro a T. P. O. am y rhan- barth hwn o Canada ddibynu ar ei dystiolaeth hyd eithaf ei wybodaeth. Y mae wedi treulio y 12 mlynedd diweddaf yn y rhanbarth hwn, ac felly yn gwybod am dano yn bur clda. Drwg genym nodi 0 fod un teulu yn ein sefydliad wedi ei bwrw i fawr drallod yn nghyd a chyfeillion lawer i siomedigaeth drwy farwolaeth Mrs. E. M. Morgan, y I geg cyfisol, yn Quebec, Canada, ar ei thaith o Gymru i ymwelcd a'i chwaer, Mrs. William Thomas yn y lie hwn. Yr oedd Mrs. Morgan wedi gadael Patagonia yn Hydref diweddaf i'r daith, ond arosodd yn nghwmni Mr. E. J. Williams a'r teulu yn Rhyl, G. C., a manau eraill' hyd y 5ed cyfisol, yn y gobaith y cawsai Mrs. Williams a'r teulu yn gyd-deith- wyr tuag yma, ond siomwyd ei disgwyliad gan afiechyd Mr. Williams, ac felly gwyneb- odd y daith ei hunanar fwrdd y "Calgarian," a chymerwyd hi yn glaf wedi deuddydd o fordaith, ac yn anobeithiol glaf cyn cyraedd Quebec, pryd y danfonwyd bryseb i'w pherthynasau yma i'w chyfarfod gynted allent. Ufuddhawyd i'r alwad ar unwaith gan Mr. Win. Thomas, ei brawd-yn-nghyf- raith, ond yr oedd ei hysbryd wedi ehedeg ymaith cyn iddo ei chyrhaedd, er pob brys a gofal. Wedi cyraedd o'r llong i dir cym- erwyd Mrs. Morgan i ysbytty, to o'r gloch y boreu i fyned o dan driuiaeth y llawfeddyg at yr peritonitis," a bu farw tua 5 o'r gloch y prydnawn o enyniad. Cyraeddodd ei chorff gartref ei chwaer Sadwrn, yr 2ofed, ac hebryngwyd hi i'w hir gartref yn mynwent ir artref yii iny Llewelyn, Sul yr 2iain, gan dorf fawr o'i chyfeillion hi a'r teulumewn teimladau dwys a thrallodus. Gwasanaethwyd yn fyr yn y ty gan Mr. Thomas Rhys, ac ar lan y bedd gan Mr. W. T. Morris, Heddwch i'w IKvch. (O'r Drych Americauaidd).

ss Anwyllyd Co raw I Cymru…

MR, HARRY EVANS, F.R.C.O.I

Y Gymdeithas Feiblaidd.

Dyffryn U chaf.\

Gohebiaethau.

LLONGAU.