Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Dewi Sant.

News
Cite
Share

Dewi Sant. Ceir hanes cymmanfa yn Llanddewi Brefi i wrthdystio yn erbyn heresi Morgan (Pel- agius). I'r gymmanfa yr oedd llawer o esgobion a gwyr eglwysig ac hefyd pendefig- ion ac arglwyddi wedi dyfod. Pregethwyd gan yr esgobion yn erbyn heresi Morgan a gwnaed pob ymdrech i enill y bobl oddiwrth eu eyfeiliornad i'r ffydd uniawngred ond i ddim pwrpas. Parodd eu haflwyddiant i Esgob Pawlin anfon cenad at Dewi i erfyn arno ddyfod i'r gymmanfa i arfer ei ddawn a'i ddylanvvad o blaid y ffydd Gristionogol ac yn erbyn cyfeiliornadau Morgan. Gan fod Dewi yn hwyrfrydig i ddyfod aeth Dyfrif, yr Archesgob, ac Esgob Bangor i geisio Dewi, ac yntau, meddir, a wybu yn yr ysbryd eu bod hwy yn prysuro atto, a bod gwir angen am ei bresenoldeb yn y gymmanfa, ac a aeth gydahwynt. Ceir yr hauesyn canlynol yngtyn a'i fynediad :-Fel yr oeddynt hwy weithian wedi agos gorphen eu taith, y cyfarfuant ger Haw Llanddewi Brefi â gwraig weddw, yn wylo yn chwerw dost o herwydd ei mab a fuasai farw, a'i gelain yn myned y pryd hwnw i'w ddodi yn y bedd. Pan wel- odd y wraig fod Dewi yn myned y ffordd hono, hi a redodd yn gyflym ato, ac a daer ymbiliodd ag ef wneuthur ei weddi at Dduw, ar deilyngu o'i Fawredd nefol adgyfodi ei mab i fywyd. Ar hyny Dewi a frysiodd at yr elor, ac a ddyfrhaodd wyneb y marw a'i ddagrau; a chan alw ar enw Crist, a fywha- odd y llanc yn eu gwydd hwynt oil, megys ag y rhyfeddodd pawb, ac a'i traddodes yn holl iach ac yn ddiasgen i'w fam. Ac yno y ]lane ar hyn o dro, a omeddodd fyned adref gyda'i fam, ac nid dim ganddo oni chaffai ddyfod gyda Dewi i'r gymmanfa a'r gwr sanctaidd a ganiataodd ei ddymuniad iddo ac a roddes ei Feibl i'r llanc ei ddwyn ac efe a'i gosodes ar ei ysgwydd, ac a'i dyg- odd i'r gymmanfa. Yno Dewi a bregethodd air Duw i'r bobl, a'r ddaiar yn y cyfamser oedd yn tyfu dan ei draed ef: ac ar gribyn y bryn hwnw yr adeiladwyd yr eglwys yno wedi hyny, yr hon a gyssegrwyd er anrhyd- edd i Dewi, ac a elwir hyd heddyw, Llan- ddewi Brefi.

GWYL DEWI.I

YMWELED A'R HEN WLAD.I

DINYSTRIO TY LLOYD GEORGE…

I » GAN Y GWIRION Y CEIR Y…

I CYMDEITHAS FEDDYGOL FRYTANAIDD.…

!LLONOAU.I

I Y FARCHNAD.

Advertising