Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

O'r Gadair Dderw. I

News
Cite
Share

O'r Gadair Dderw. I GAN FYRDDIN HEN. I Gwelais lith "Dadansoddwr" yn y DARIAN ddiweddaf yn ceisio beirn- iadu yr hyn a ddywedais i am y Bolsheiiciaid. Buasai'n dda iawn gen- nyf gael rhyw oleuni amgen nag a gaw- swn ar y mater, gan y Dadansoddwr neu rywun arall. Ond nid wyf yn barod i wrando ar bawb sy'n gwaeddi ar ei gyfer. Nid yw Dadansoddwr yn dadansoddi dim, ac nid yw'r Parch. Ffinant Morgan yntau, yn y paragraff a ddyfynnwyd yn gwneud dim ar y ddaear las heblaw defnyddio Ymadroddion Eithafoi I heb gymaint ag un ffaith i ategu'r hyn a ddywedir. Ni ddywedais i air i gyfiawnhau creulondeb yn neb, pwy bynnag, ond teimlaf mai tipyn o ragrith mewn llawer yw condemnio creulonder yn adeg rhyfel. Fel y dywedais, aJlDdd yw gwybod pa beth sydd wir na pha beth sydd gelwydd am Lenin a Trot- sky. Beth bynnag, mewn rhyfel y maent hwythau—mewn rhyfel a gelyn ion yn eu gwlad en hunain a gelynion o'r tu allan, ac ni charwn i farnu'n fyr. bwyll neb oddiwrth yr hyn a wna neu a dybia y rhaid iddo ei wneud yn adeg rhyfel. Yr oedd rhai pethau er hynny yn fy llith a ddylasai fod wedi cael sylw Dadansoddwr, a choSed mai ffeithiau a roddasid gan Weinidog" Khyfel Clweinyddiaeth Kerensky oeddent: (1) Fod y tir dan deyrnasiad Lenin a Trotsky wedi ei roi i'r bobl, ac fod y gwr liwnnwi-i dweyd wrth wahodd y Cynghreirwyr i ymyrraeth, y dylent wneud yn eglur nad oetM ymgais i'w gwneud i ddychwel y tir i'w hen draws- berchnogion. (2) Yr oeddent ar dyst- ioiaeth yr un gwr wedi meddiannu'r gweithiau gyd a'r amcan o'u gweithio er lies y wlad ac nid er mwyn elw i gyf- othogion. (3) Un o brif amc^nion yr ymyriad a wahoddid fyddai sicrhau iawn i'r tirfeddianwyr. Meddylied Dadansoddwr a'r Parch. Ffinant Morgan am y pethau hyn, a chofio hefyd am lywodraeth y Csar ac erchyll derail- Siberia, ac o bosibl y defnyddiant lai o dermau fel "gormes- wyr mwyaf mown bod," "chwyldroad- wr penrydd ac annuwiol yw'r Bolshef- ydd, esyd ei droed yn ddidrugaredd ar wddf cyliawnder," "gorseddu'r diafol yn lie Duw," "anifail gwyllt," "bwyst- fil ar yr orsedd," etc., etc. Nid oes ystyr o gwbl i ymadroddion penrydd o'r fath. Aroswch, frodyr, hyd nes y cewch wybod rnwy, apbeidiwch a chy- meryd eich arwain i ruthro'n rhy fuan ar arweinwyr gwerin a orthrymwyd ar hyd yr oesau, ac a iaddwyd cyn hyn wrth y cannoedd i ateb diben eu Uywodraethwyr gynt. Gresyn yw pre- gfcthu Dychrynfeydd Rwsia I i beri ofn yn ein gwlad ni. Nid yr un yw amgylchiadau'r werin yma. Y mae gennym ni ein hetholfraint, ein rhyddid a'n cyfryngau addysg, yr hyn nad oedd gan werin !lwsi;u Nid yw gwerin ein gwlad ni yn eniiili dim trwy enllibio gwerin gwlad Tolstoy, ac nid yw'r Wasg Seisnig wrth wneud y fath ym- drech i bardduo Rwsia yn gwneud dim mwy na gwell na chreu amheuaeth a gadael yr argraff yr amgylchent for a mynydd i rwystro diwygiadau sy'n anghenrheidiol yn y wlad hon. Wedi i mi sgrifejmu'r uchod daeth ol- rifyn o'r Manchester Guardian i'm llaw a gwelaf yn hwnnw neges oddiwrth ei ohebydd yn Weimar a [u'n siarad a, Henor adnabyddus o Berlin a fuasai yn Rwsia am rai wythnosau ac yn ymholi i'r amgylchiadau. Wele rai pethau a nodèl hwnnw: (1) Fod Lenin yn wr dynoi (humane), yn credu mewn cyfyngu eu gweithred- iadau i Rwsia. Yn credu hefyd mai Dolsheiiaeth yw'r Tmig ffurf ar iSosial- aeth sy'n gymwys i Rwaia, ac nad yv'r  ffurf honno'n gymwys i Germani a gwledydd eraill Ewrop. Cymaint a hyn am Lenin. II (2) Disgrina'r un dyn Trotsky o'r tu arall fel ofnadwywr (terrorist). Cred ef mewn gyrru Bolsheficiaeth elrwy' I byd. Pa rnor bell yr oedd yr amgylch- iadau yn gofyn iddo fod yn ofnadwywr er mwyn ei ddiogelwch ei hun afi safle sydd yn fater y ceir goleuni arno eto. Beth bynnag,' fe ddywed Edward I Erichs, y lienor enwog y cyfeiriwyd ato fel hyn: "Every soldier of Trotsky's'  army is quite a Hoi dier of the spirit. Eto: "Gwneir byddin Trotsky i fy,-137,n! hollol o wirfoddolwyr, a milwyr wedi eu clewis gyd a'r gofal mwyaf, gan dderbyn yn unig rai sy'n ffyddlon í delfrydau Bolsheficaidd. Dywedir bod; y fyddin yn agos i ddwy filiwn, a,c yn arddangos disgyblaeth a theymgarwch rhyfeddol. Gallwn nodi pethau eraill o'r ysgrif a, nodwyd sydd yr un mor arwyddocaol (gwel Machester Guardian Chwef. 8).. Da chi, "Ddadansoddwr," peidiwch a chredu popeth a ddarllenwch ac yna ymollwng i dyngu a rhegu. Ai nid ydych yn gweled pam y dywedai Mr. Lloyd George yn y Senedd y dydd o'r blaen mor anobeithiol oedd ymyrraeth yn llwyddiannus yn y wlad fawr honno. Vr unig beth yr wyf fin. gofidio o'i blegid yw bod y celwyddau amlwg a daenir mewn gwrthwynebiad iddi yn tueddi i wneud Bolsheficiaeth yn bobl- ogaidd mewn gwledydd nad yw'n gym- wys iddynt, a lie nad oes angen, o leiaf am ei ffyrdd hi, i gael diwygiadau.

O Gwm Tawe. i

HANNER MUHUD.

Advertising

Byd y Bardd a'r lienor. ,

[No title]

Advertising

Newyddion. | Newyddion.