Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

I Bwyd y Bobl.I

News
Cite
Share

I Bwyd y Bobl. I FFEITHIAU Y DYLAI PAWB EU I CWYBOD. Beth yw agwedd Arweinwyr Llafur tuag at Weinyddiaeth y Bwyd? Bu Arwein- wyr Llafur y deyrnas yn edrych yn dra amheus ar bolisi a gweithredoedd Arglwydd Rhondda fel Rheolwr y Bwyd.' Ond fel y daeth y wlad i sylweddoli anawsterau a maint y gwaith, ac i weled fod Arglwydd Rhondda o ddifrif yn ei benderfyniad i fynny chwarae teg i'r werin yn hytrach na sicrhau elw mawr i'r marsiandwyr, daeth eyfnewidiad dros en hagwedd. Erbyn hyn mae arweinwyr mwyaf profedig Llafur y deyrnas yn estyn pob cynorthwy i At, glwydd Rhondda. Dywed Mr. Carmichae], un o gynrychiolwyr y gweithwyr ar BwylJ- gor y Bwytawyr yn Swyddfa'r Bwyd, fod eyfnewidiad mawr er gwell wedi bod yno, a bod yno ymdrech wirioneddol i gael trein ac i wneud chwarae teg a phawb. A oes modd sicrhau lowans helaethach i Cleifion?—Oes. 0 hyn allan gall y neb a fO'11 dioddef oddiwrth diabetes neu oddi- wrth tuberculosis, cael dwbl ration o wa. hanol fwydydd inaethlawn. Er engraifft, ca werth '3s. 4s. o gig fires; pwys o gig moeh, a phwys o ymenyn bob wythnos. Y cwbl raid wneud yw cael tystiolaeth meddyg, a gwneud cais yn Swyddfa'r Pwyllgor Bwyd yn yr ardal lie bo'r claf yn byw. Pa gyfnewidiad a wnaed yngiyn a Bwydd.dal yr Hen?-Yr oedd yn rheol os byddai gweithiwr dros ei 70 mlwydd oed yn ennill cyflog o bunt yr wythnos, fod yn rhaid iddo roi i fyny ei flwydd-dal. Pan welwyd fod prisjau bwyd ac angenrheidiaTi craill wedi codi, newidiwyd y rheol. Bell- ach geill hen bobl fo'n ennill cyflog gadw eu blwydd-dal os na fydd y gweithiwryn derbyn mwy na 30s. yi- wythnos o gyflog am ei waith. A oes mesurau effeithiol yn cael eu cy- moryli yn erbyn y Proffitiars?—Oes, hyd y bo yngallu Swyddfa'r JJwycl i wneud. Lie bo masnachwyr ac eraill a f o'n torri'r gyfraith yn dianc, neu yn cael cosh an ys- gafn, ar yr Ynadon ac nid ar Swyddfa'r Bwyd mae'r bai. Mae Arglwydd Ehondda ei hun wedi rhoi gorchymyn pendant i er- lyn dwy'r gyfraith bawb a fo'n troseddu Cyfraith y Bwyd gan nad beth a fo eu safle. Yn y tri mis cyntaf o'r flwyddyn hon dyg- wyd dros 19,000 o achosion gerbron y llys- oedd am droseddu Cyfraith y Bwyd. Yr oedd 7,000 o'r achosion hynnv yn rhai yn erbyn masnachwyr am godi mwy na'r pris eyfreitWawn am nwryddau, Cospwvd 6,603 allan o'r 7,000 hynny. A Fwriedir Newid Cynllun y Rations? —Mae ym mwriad Arglwydd Rhondda i newid y drefn bresennol mewn rhai cyfeir- iadau. Bydd y Cardiau Gig presennol yn terfynnuGorffennaf 14fed. Ar ol hynny, yn lie Cardiau Cig, Cardiau Ymenyn, etc., bwriedir cael llyfr i bob un, a'r llyfí- hwnnw yn cynnwys coupons am bob math b fwyd fo'n dod o dan reol y rations. Bydd llivv y ddalen yn y llyfr yn dangos pa nwydd fo i'w gael am dano. Bwriedir gwneud yr un rheol i'r holl deyrnas. Bydd ration i bawb ar^iwgr, ar gig, ac, ar fras- der (megys ymenyn, margarin, lard, etc.). Ca pawb felly ymliob man ci osod ar yr un tir vn hollol a phawb arall. Credir y bydd y dull newydd yn rliwyddacli i'w weithio i'r prynwr a'r shopwr nag ydyw y cynllun piesennol.

j Pontrhydyfen.

Yr Ysgol Gymraeg. 1

[No title]

Advertising

IAelwyd y Beirdd. I I,I

" OHWEFROR A MAWRTH." I

Pan mae Popeth allan o le.

Cyngerdd ym Mhenybanc, Rhydaman