Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

1-Y Stori. ! I

News
Cite
Share

1- Y Stori. Y WYNEB ARALL. GAN "LWCHARIAN. PENNOD VIII. DILYS EDWARDS O'R PLAS MAWR j Darllenais drannoeth ym mhapur dyddiol Penllyn, fod dieithrddyn wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar y dybiaeth mai efe oedd llofrudd Abel Llwyd; ond ei fod ar ol iddo roi boddlonrwydd trylwyr i'r Ynadon, Dr. Griffiths a Mr Ola Jones, ei fod yn ddieuog, wedi ei rydd- hau. Mewn colofn arall mewn llythrennau breision yr oedd a ganlyn: 1 1, GWOBR 0 £100 Am wybodaeth sicr a alluoga Y Milwriad Glyn-Elwyn i ddod o hyd i'w nai I Comer,' yr hwn sydd ar goll ar noson fawr y Storm, Medi ——, etc., etc." Heb fod mewn teimladau direidus y boreu hwn penderfynais fod yn rhaid i mi ail archwilio y Twr, canys nid oeddwn wedi cael un edefyn i fy arwain fodfedd o'r lie hwn. Aethum i fyny i Rhos Siriol heb un ffugwisgiad, a ehyf- arfum a'r Milwriad mewn ing a thrist- wch eithafol. Rhwng y llofruddiaeth ac absenoldeb Gomer rnethai a bwyta, ymgomio, na chysgu. Bum yng Ngwesty'r Aran y boreu yma eto," meddai, ac yr wyf yn methu cael un dystiolaeth wahanol i'r hyn a gefais neithiwr am Gomer." 0 chwi fuwch yno neithiwr ai do ?" "Do, bum i a Idris yn holi a chy- meryd tystiolaeth Mr. Bond o'r hyn a wyddai ef am Gomer, canys Mr. Bond oedd yr olaf a'i gwelodd yn yr ardal can belled ag y gwyddom. Carwn i chwi fynd yno etc, a'i groesholi yn dda —cofiwch hyn, byddwch yn foneddig- aidd a thirion wrtho, mae mewn trwbwl go fawr. Tarawyd Mrs. Bond yn fud a byddar nos y storm, ac y mae wedi esgor ar fachgen y boreu yma. ond nid yw ei chlyw na'i llafar wedi eu dych- welyd iddi eto Mi a ysgrifennaf ei dystiolaeth yr hon a roddodd ddwywaith yr un fath yn union. Cafodd Gomer scwrs dda, meddai ef, a Mrs. Bond; ond nid oes gennym obaith am ategiad ganddi hi." "Nidoes eisiau i chwi, syr, ysgrifen- nu tystiolaeth Mr. Bond, mi a'i clywais bob gair. Y fi oedd y porthman y buoch yn edrych mor sarug arno neith- iwr. Cewch glywed yr helynt pan y Jbyddwch yn rhydd o'r gofidiau presen- nol. Yr wyf am dreulio peth amser yn Rhos Siriol heddyw, ac am gael yr un hawl i bob man a gefais y ddoe." "Ni fedraf ganiatau hyn, mae Idris a'r Rhyngyll Rhys wedi cloi y Twr i fyny, hyd nes bydd y trengholiad." "Na hidiwch, syr, meddwl oeddwn, os oedd modd peidio a ehysylltu Meistr Gomer a'r trychineb y buaswn yn gwneud hynny 7" "Beth?" meddai Mr. Hughes. A ydych yn barnu Gomer yn Ilofrudd," Nac ydwyf, fy annwyl Filwriad. Yr wyf yn hollol gredu ei fod yn ddieuog; eithr onid ydych wedi meddwl fod tebygolrwydd amgylchiadau yn pwynt- io i'r cyfeiriad hynny? Dyma y pwynt- iau i chwi i'w hystyried: (1) Achos y llofruddiaeth. (2) Diben y llofrudd- iaeth. (3) Absenoldeb sydyn Meistr Gomer! I achos perthyn llawer iawn o ofyniadau yn gadarnhaol a nacaol. Yng ngoleuni'r effaith y barna y byd. Mae yr effaith cysylltiedig a'r achos hwn yn ddirgelwch i bawb. Nid oes neb am wn i, a fedr honni ei fod yn gwyfcod fod teimladau cenfigenllyd a maleisus yn bodoli rhwng Mr. Gomer a Lloyd. Ac ni fedr neb brofi fod cweryl wedi bod rhyngddynt-a mwy na'r oil, nid oedd dynes yn yr achos! Mae yr achos yn ddirgelwch mawr, eithr mae y diben yn fwy felly. Perthyn i ddiben, "ddial!" Dial am beth? Perthyn i ddiben elw-pa elw ? Nid elw sefyllfa nac arian. Mae dial ac elw allan o'r pwnc. Yna daw ymofyniadau cywrein- wyr. 'Pa fodd? Paham? I beth y bu hyn? Sut mae cysoni ?' Mae y weith- red heddyw yn eiddo y cyhoedd—y sir, y wlad. Ni fedrwn reoleiddio anniwall- rwydd meddyliau segurwyr. Onid naturiol iddynt gredu fod yn rhaid fod y llofrudd yn gyfarwydd a'r ty a'r twr ? Oni welwyd Lloyd yn gollwng y gardd- wyr allan ? Onid oedd pob drws yn gloedig ond drws y Twr? Onid natur- iol i'r anwybodusion yw gofyn, 'Paham mae nai y Milwriad yn absennol? A ydyw yn cuddio 1 A ydyw wedi dianc yn ol i Canada ?' Ni feiddiant yn bres- ennol ond gofyn cwestiynnau." Nid ydyw posiblrwydd bob amser yn cadarnhau ffeithiau, ac nid yw amhosiblrwydd yn sicrwydd nad yw ffeithiau yn cael eu camliwio." Fy annwyl Filwriad! Fy mhrif ym- gais i mwy fydd: Nid darganfod llofrudd Abel Llwyd, er ha adawaf un garreg heb ei throi yn fy ymchwiliad, eithr profi i foddlonrwydd nad Gomer Glyn-Elwyn oedd hwnnw. Na ffinwch am na fedraf fyned i'r Twr, caf gyfle i wneud fy archwiliad yfory, pan ddaw y rheithwyr i edrych y lie. Yn y cyf- amser af i'r Plas Mawr, dichon y caf ryw oleuni fydd yn rhoi llewyrch i ddadrys yr amgylchiad. Mr. Hughes, a ydvch yn credu fod rhywbeth mwy na chvfeillgarwch rhwng etifeddes y Plas Mawr a Gomer?" "Ni fedraf ateb n gadarnhaol. eithr tueddir fi i gredu eu bod wedi eu dvweddio y naill i'r llall. Yr wyf yn ffyddiog gredu y byddaf yn alluog i brofi y naill ffordd neu y llall heno." Pan edywodd Miss Jane eni bachgen i Mrs. Bond, aeth ar ei hunion i fvnegu hynny i Mrs. Lloyd, yr hon oedd hyd vma mewn math o hurtrwydd. Pan glvwodd y newydd chwarddodd yn uchel. fel pe mewn llonder, yna ymhen vchvdisr eiliadau torrodd allan i wylo yn arteithiol. Gorweddodd ar yr esmwyth- fainc a chysgodd am oriau. Trefnodd Miss Jane ac Idris holl amgylchiadau y cvnhebrwne. a buont yn hynod o ymhol- gar am sefvllfa Mrs. Bond. Pan oeddwn yn dychwelyd yn y prvnhawn cvfarfum a Mr., Bond, a dy- werlodd wrthyf. heb i mi ei' holi. ei fod wedi bod vn hebrwng Meistr Idris it Lidmrt v Rhos. Aethum srartref heb droi i'r Gwestv nac i Ros Siriol. Nid oeddwn vn gallach parth marwolaeth Abel Llwvd nag oeddwn pan alwyd fi gan y Milwriad. Am saith, nos Iau, aethum i Eelwvs Sant loan. Gwyddwn fod Miss Dilvs vn arfer mynychu y cyfarfod Eglwvsig bob nos Iau. Eisteddais mewn man vn vr Eo-lwvs y byddai yn rhaid iddi fv nerhanfod os deuai i'r Llan. Fel arfer daeth yn brydlon. Ymegniais i gael dylanwad personol arni. Gwelais yn uniongyrchol fod gweithrediad fy ewyllys yn cael dylanwad arni. Profai ei hanesmwythder hyn. Ceisiodd eis- tedd mewn amrywiol ddulliau, eithr methai ymfoddloni heb droi ei hwyne,b i'r cyfeiriad yr eisteddwn. Yna arfer- ais awgrymiadau meddyliol. Gwelwn ei hwyneb siriol yn gwelwi a chochi ar yn ail; syllai arnaf weithiau mewn di- frifoldeb weithiau yn ymofyngar, weithiau mewn sarhad, eithr bob tro yr edrychai, yr oeddwn yn canfod fod ei henaid yn dynesu ataf, ac yn hiraethu am gymdeithas i wneyd cyfaddefiad trylwyr er sicrhau esmwythyd i'w chalon oedd yn siglgrogi yn y storm ryferthwyol oedd yn ei mynwes. Dar- fyddodd y gwasanaeth, cerddais allan yn frysiog heb sylwi ar neb gwyddwn na fuaswn yn hir heb gwmni. Trefnais gynllun pwrpasol i ymosod- iad, ond methodd am fod y clochydd wedi cloi clwyd y fynwent wedi i'r gwas- anaeth ddechreu, er atal anifeiliaid, meddai ef, i aflonyddu y person, a thrig- le y marwolion. Beth bynnag, mae aflwydd weithiau yn peri mantais, ac felly y tu y tro yma. Rhaid oedd aros i'r clochydd glunhercian a'i sypyn agor- iadau i'n gollwng o Erw Duw. Yr oeddwn wedi bwriadu bod allan o flaen Miss Dilys, eithr gofynnai rheolau moesgarwch i mi aros hyd nes i'r bon- eddigesau gael y blaen. Ar ben y rhiw arweiniai i'r briffordd gwelais Miss Dilys yn aros. Cyferchais hi a gwen a moesgrymiad tywysogaidd. Mr. Hughes! Beth ddaeth a chwi y ffordd yma heno?" gofynnai. Estyn- odd ei Haw i mi. Teimlais ym mlaen- ion ei bysedd meinion fod rhyferthwy enaid yn tramwy rhyd welyau ei chorff lluniaidd. "Y chwi, Miss Dilys! Bum yng nghwmpeini eich ysbryd neithiwr am ysbaid go lew. Datguddiodd i mi gyfrinach nad oes neb yn ei gwybod ond y chwi a minau—ac un arall. Addewais gadw y gyfrinach yn sant- aidd, am hynny gwn na themtir chwi heno im denu i adrodd y gyfrinach ynghlyw y perchennog. Gofynnwyd i mi gennych am ddyfod i'ch cyfarfod i'r eglwys, ac wele fi yma at eich gwasan- aeth." Yn wir, Mr Hughes, yr ydych wedi ffoli! Y fi yn galw am danoch ? Y fi yn rhoi cyfrinach i chwi!" Gwyliais yn fanol na fyddai i wifren benodol y cysylltiad eneidiol gyffwrdd a gwifren nacaol y ddaear, neu buasai ffagl trydan U chanianaeth yn diffodd yn ddieffaith. Miss Dilys, oni welsoch fi neithiwr 2 Mewn bruddwyd! Dywedwch na, a dywedaf fod yr holl alluoedd gwyddon- ol, parth y cynheddfau meddyliol yn ffug i gyd. Gwn na ddywedwch anwir- edd wrthyf, canys gwelaf eich ysbryd yn gwrandaw yn ffestri eich llygaid." Mr. Hughes, yr ydych yn arfer eofn- dra—a—■. "Miss Dilys. Nid yw sefyllfaoedd personau i'w cyfrif yng nghyfrin-gyngor cyfryngau y byd ysbrydol. Nid wyf yma yn ymgeisydd am ffafrau, na gronyn o'ch meddiannau; nid wyf yn hawlio cyd-ymdeimlad na chynhorthwy, eithr wele fi ar eich galwad! Beth a fynnwch chwi gennyf ei wneuthur i chwi?" Yn wir, Mr. Hughes, yr ydych wedi gyrru ofn mawr arnaf. Yr wyf jn methu dyfalu eich bwriad!" "0 wel," meddwn, gan edrych yn hollol ddifater, am y barnwch yn well peidio ateb fy ngofyniad, gan y bern- wch fi wedi ffoli, ac fy mod yn arfer eofndra, a chan yr edrychwch arnaf fel bwystfil yn gyrru ofn arnoch, gwell yw gwneud ymddiheurad ffurfiol a dymunaf nos dda i chwi." Yr oeddem yn awr ger Hafodty y Plas! Estynodd ei Haw i mi. Gafael- ais yn dyner, ond teimlais fod voltage ei henaid yn ei eitafnod uchaf. Yn awr am gychwyn y peiriant neu byth. Nos dda, Mr Hughes! A ydych yn rayned ar eich union gartref ?" (A gaf i dorri'r llyn a mesur Trwch y rhew cyn mentro troed ?) Na, yr wyf wedi addaw myned i Ros Siriol erbyn 10 o'r gloch iffurfio cwmni i chwilio am gorff Gomer Chwilio am ei gorff ? Ha, ha, ha! Druain o honoch. Mae Gomer yn ddi- ogel! Nid yw am dreulio dyddiau galar yn y cyfwng presennol, tra medr .fforddio mwynhad yn y Brifddinas. Nid oedd Abel Llwyd yn berthynas iddo, ac nid oes rwymedigaeth arno i alaru yn ffugiol!" Gwir, Miss Dilys! Ni fuasai gwraig yn siarad yn gallach." Gwraig? Beth yw eich meddwl?" Tyngais neithiwr na chawsai neb air o'r gyfrinach a fu rhyngom! Beth feddyliwch yn bersonol am neilltae ld .,Mr. Gomer Glyn-Elwyn ? Buasai yn ddoethach iddo aros hyd y trenghol- iad." Beth sydd a fynno ef a'r trenghol- iad 1 A ydych yn barnu y derbyniai ef swllt trengholydd 1" Brathodd ei sarhad fi! Bernais fod perigl mewn oedi a dywedais, A ddar- fu i chwi ystyried fod neilltuedd Mr. Gomer yn anfri ar ddyngarwch y Rhos 1 A ddarfu i chwi roi mynudyn. o ystyr- iaeth fod dwy ran o dair o drigolion yr ardal yn tueddu i gredu mai Mr Gomer yw llofrudd Abel Llwyd?" O Trugarha Gomer-fy mhriod— yn llofrudd?" Oni bai i mi gydio ynddi buasai yn swp ar y llawr. Cydiais yn ei chorff diymadferth gan ei chario i'r Hafoty. Bu ei chyfansoddiad cryf yn gymorth i adferiad buan. Amneidiodd ar deulu yr Hafoty i fyned allan am funud neu ddau, yna trodd ataf. "Mr. Hughes, mae yr oil a ddywed- asoch yn wirionedd. A seliwch chi llw y gyfrinach ,a gwasgiad llaw ?'' Gwnaf, fy annwyl Ddilys, ni yn- ganaf air byth." A gawn gyfarfod yma prynhawn yfory?" Cawn, os mynni!" Gwesgais ei llaw a rhoddais ei gofal i Mrs. Williams gan ei hysbysu y buasai Miss Dilys yn egluro materion iddi. Rhaid oedd galw, i adrodd i'r milwr- iad er hwyred oedd, canys disgwyliai fod pob addewid a gorchymyn in cael eu cyflawni i'r llythyren. Mynegais iddo fy mod yn credu yn ddiysgog y medrwn roi iddo y wybodaeth a geisiai ynghyd ag awgrym gyda golwg ar neill- dufau Gomer ei nai. Sioncodd a goll- yngodd fi adref, gan roddi rhybudd i mi fod yn bresennol yn y Rhos am 10 boreu drannoeth i'r eiliad er gwylio buddiannau a chymeriad y teulu yn y trengholiad. (I barhau.)

[No title]

Nodion o'r Gogledd.

Advertising

Advertising