Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
r lei Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded Os achos torri syched, Y mwyna yw lemwned."—AP HEFIN. CEIR MWVNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEiVI WNED a s? ?? ?AF N?B P? tLT?? NtNNB ? ??? N ?? ?? ww N' 'SN ?!???! NNMt''  "¡r' Bryniau Cymru  (H WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDOIANT MWYAP YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, EwA!? ?s S?*?? ? .-? ? PO?TH. CANGEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY I YR ARDALOEDD GLOFAOL, I
Advertising
W.Williams&Co, JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea Specialities: 18ct. GOLD DIAMOND, RUB> AND SAPPHIRE ENGAGEMEN T RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, I Set. GOLD KEEPERS GOLD AND SILVER WATCHES v Gymry hoff, dewch at y Cymro 1 Os am heirdd fodrwyau aar, Oriadurori ac awrleisiau, Geraau a chadwynau claer: Yspeot-ol gelfydd, hin-fynegydd, Owres-faanrydd, Cwmpuwd mÔr Geir gan WilJiams, Heol y 'Jaafcell j Trowch i mewn i weJ'd ei stôr. I
Y RHYFEL.I
Y RHYFEL. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG.I Bellach nid gormod yw dweud fod Germani ac Awstria mewn gefail dyn. Er's deufis llawn nid yw Germani wedi ennill modfedd o dir yn Ffrainc a Bel- gium. Yn hytrach, gwthir hi yn ol, gam ar ol cam, gan Bryden a Ffrainc bron ar hyd yr holl linell. Ni welwyd erioed frwydro tebyg i'r hyn sydd yn myned ymlaen yn awr rhwng ein milwyr ni a'r Germaniaid. Gwrthwynebant eu gilydd mewn ffosydd o fewn ychydig latheni i'w gilydd. Gwneir rhuthr yn awr ac eilwaitli, ac ar flaen y bidog cymerir trenches y gelyn. Yn y ffordd araf a chostus hon yr enillwn ni yr ych- ydig dir sydd yn dyfod i'n rhan. Yr un modd yn y dwyrain, rhoddwyd atalfa ar rhuthr Germani. Teimla ei bobl hyder ■ cryf yn y Cadfridog Von Hindenberg, ond yn ofer y teiH ei luoedd yn erbyn byddin enfawr Rwsia. Tynwyd honno yn ol, yn bwyllog a thawel, er mwyn cael ail-afael yn Awstria, yr hon a gaf- odd gosfa enbyd hyd lethrau mynydd- oedd Carpathia. Yr oedd Awstria wedi danfon adran helaeth o'i byddin dros yr uchelderau hyn i wastadeddau Galicia, er mwyn gorfodi y Rwsiaid i encilio a hefyd i geisio torri ar y gwarchae effeithiol ar ddinas Przemysl. Llwydd- asant i alw Rwsia yn ol, ond dyna'r oil. Methasant lacio y gadwen ddur o gwm- pas y ddinas a nodwyd. Ymosododd Rwsia arnynt hefyd gyda lladdfa fawr, a ffoisant adref trwy y bylchau, hynny fedrent, gan adael peth wmredd o arfau rhyfel a phethan ereill ar ei holau. Y mddengys fod Rwsia yn dal ei thir yn Poland. Bwriadodd Hindenberg gyrraedd Warsaw ac felly ennill man- tais fawr* ar ei wrthwynebwyr, ond methodd. Gwyddai y Maes Eywydd Rwsiaidd-y Grand Duke Nicholas, beth oedd yn ei wneud wrth encilio. Nid ffoi a wnaeth, ond ad-drefnu ei fyddin mewn safle fanteisiol newydd. Pan feiddiodd y Germaniaid hyd o fewn deng-milldir-ar-ugain i Warsaw, trodd Nicholas yn ol a gosododd atalfa effeith- iol arnynt. Er gwaethaf Hindenberg ni fedr symud yn ei flaen. Ydyw, y mae Germani wedi ei dal. Bellach y mae ei Hanw wedi treulio ei nerth a dechreu y trai arni. Ni fydd rhaid aros yn rhyw hir iawn cyn bydd y rhyfel wedi ei dwyn i.-dir y gelyn ei hun. Darogenir ei bod yn bur ddrwg rhwng Awstria a Germani. Tystia Awstria fod Germani yn aberthu pawb a phob- peth i'w chysur a'i mantais ei hun. Gynnau mawrion Awstria ddefnyddid yn Belgium a Ffrainc yn wythnosau cyn- taf y rhyfel. Bu raid i Awstria ddan- fon llawer iawn o'i milwyr i ymladd yn Poland er mwyn amddiffyn tiroedd Ger- mani, er ei bod hi ei hun yn cael ei her- lid allan o Servia, ac fod y Serviaid eu hunain yn croesi drosodd i dir Awstria. Ni fyddai yn un syndod pe bai yr olaf yn taflu ei harfau i lawr gan geisio heddwch iddi ei hun. Ar wahan i hyn, y mae yn dechreu gweled rriai ei hunig obaith fydd cael ei darnio i fYU31 a'i rhannu rhwng y gwahanol wledydd cylchynol. Erbyn hyn y mae Germani fel Gallu Morol wedi myned i'r dim. Y mae ei holl Lynges yn y Kiel Canal. Nid oes ganddi long o fath yn y byd ar un o for- oedd mawrion y byd, ac y mae ei holl fasnach dramoraidd wedi llwyr ddi- flannu. Yr un pryd, moria llongau Pryden yn mhob dyfroedd gan ddwyn ein masnach ymlaen fel arfer. Pan y mae Germani mewn cyfynder am fwyd ac am waith, y mae gennym ni ddigon o bob un o'r ddau. Rhaid addef er hynny fod y rhyfel wedi dylanwadu yn drwm ar fasnach y wlad hon. 0 Ger- mani yr arferem gael y lliwiau dynir o'r glo, ac a ddefnyddir i Jiwio rhubannau, brethynnau a dillada,u ereill. Pan dor- rodd y rhyfel allan aeth yn atalfa ar y lliwiau, ac ymyrai hynny a gwaith mil- iwn a haner o'n pobl yn ardaloedd y cotwm a'r brethynau. Par hefyd i lawer o nwyddau gwerthfawr fyned yn brin ac felly yn ddrud iawn. Costia y lledr brynid bum mis yn ol am swllt a deg ceiniog, yn awr dri swllt a grot. Yr oeddem wedi arfer ymddibynu mwy ar Germani yn ein marsiandiaeth nag a dybiasom cyn Awst diweddaf. Er hyn oil, y mae y caledi yn fawr gyda'n gelynion, a phar hyn chwerwedd nid bychan iddynt. Y mae y wasgfa arnynt yn tryitifiau ai- rhagolygon yn duo i'r fath raddau fel ac i beru iddynt wan obeithio llwyddo. Gwelyd fod dydd y gofwy yn dyfod arnynt. Ar j ddechreu y rhyfel ni chlywid ond geir- iau chwyddedig ac ymffrostgar. Heddyw y mae y don wedi newid yn awr siarad mewn digofaint a dygasedd. Tystiai y Mor-Lywydd Von Tirpitz fod Pryden yn ceisio newynu Germani, ac y bydd i Germani dalu y pwyth trwy suddo llongau Pryden yn mhob porth- ladd a'r submarines. Y mae cloch fawr y Kaiser a'r Tywysog Coronog wedi distewi ar ol pum mis o dywallt gwaed. A pha ryfedd 1 Y mae nifer y lladded- igion a'r clwyfedigion yn anghredadwy bron, ae, yn wir, yn annirnadwy hefyd. Cyfrifir fod Germani ac Awst via wedi colli trwy ladd, clwyfo, a charcharu, er dechreu y rhyfel, 3,500,000 o'u gwyr! Rhoddir 80,000 i Bryden, a 1,200,000 i Ffrainc. Dyna wedi hynny Rwsia, Servia, Montenegro, Japan, a D-eheu- barth Affrica. Gallwn fentro gosod i lawr o leiaf chwech miliwn a hanner fel y cyfanswm i'r oil. Dichon fod chwar- ter yr uchod yn garcharorion. Amcan- gyfrifir fod tua'r ddegfed ran o'r uchod wedi eu lladd. Gwir fod llawer o'r clwyfedigion wedi yspaid yn yr ysbyty yn troi yn ol i'r maes. Aeth 54 y cant o glwyfedigion Ffrainc yn ol felly. Coll- asom ni tua 5,000 o wyr ar y mor trwy foddi a rhyw wyth mil o laddedigion ar y maets. Dyma yw rhyfel! Tybed na, rydd serffed i bob adyn fu yn ei cheisio Ac eto nid ydym wedi gweled pum mis ohoni! Daeth y flwyddyn newydd i fewn mewn galarwisg, oblegid Dydd Calan Suddwyd y Formidable, un o longau rhyfel mawrion Pryden. Gorffennwyd adeiladu y Hong hon yn 1901, ac yr oedd wedi costio yn mhell dros filiwn o bunnau. Baich ein galar er hynny yw dros y chwe' chant o fywydau gwerth- fawr a gollwyd gyda hi. Yr oedd ar ei bwrdd tua 780 o forwyr a mor-filwyr, ond achubwyd tua chant a hanner. Ni wyddys beth oedd achos yr anaffwd, pa un ai mines ynte torpedoes. Nid ydys wedi hysbysu ychwaith yn mha le yr oedd pan darawyd hi. Y cyfan ddy- wedir ar y pwynt hwnnw yw iddo suddo yn y Sianel, yn rhywle cydrhyngom a Ffrainc. Dyna'r gwahaniaeth rhwng y t digwyddiadau hyn a brwydrau y tir ar y tir cyferfydd y pleidiau yn gymharol gyfartal, tra ar y mor gall deunaw neu ugain mewn llong dansuddol hyrddio wyth neu ddeg cant i'r eigion. Ar y tir hefyd clwyfir llawer a lleddir ychydig yn gymharol. Ar y mor boddir yr oil, ac nid oes ond ychydig son am glwyfo. Pwy erioed feddyliodd fod Kuno Meyer cyn saled dyn? Bu yn athraw yn Mhrifysgol Lerpwl am ddeng mlyn- edd ar ugain, ac edrychid i tyny ato fel boneddwr ac fel ysgolhaig Celtaidd. Oddiwrth y parch a'r caredigrwydd a gafodd tra yn ein plith, gallasem ddis- gwyl y byddai ganddo o leiaf air car- edig i'w ddweud am y wlad hon. Ond, beth yw ei hanes 1 Ar hyn o bryd y mae yn yr America, a gallem feddwl mai ei waith yno yw gwenwyno meddyl- iau yr Americaniaid yn erbyn Pryden Fawr. Fel ysgolhaig, cafodd ei wahodd i arwest Wyddelig yn New York ych- ydig ddyddiau yn ol, a baich ei araith oedd ceisio cynhyrfu y Gwyddoled i godi yn ei-.byn Pryden Fawr! Onid yw peth fel hyn yn rhoddi lliw gwirionedd i'r dywediad mai yspiwr yw pob Ger-  idaniad sydd yn e i n plith 1 Dydd Mercher, Rhagfyr 23aiii, gwel- odd Milwyr Cymru amser ofnadwy. Gwnaed rhuthr gan nifer fawr o Ger- maniaid ar safle y Royal Welsh Fusi- liers. Yn ol eu hen arfer gwnaeth y Cymry safiad yn llawn dewrder di-ildio. Lladdwyd a chlwyfwyd nifer fawr o honynt, a chyfrifir 180 ar goll. Y mae cyfresi meithion o enwau y rhai a gwympwyd wedi ymddangos yn y new- yddiaduron, ond, hyd yn hyn, nid ydym wedi cael many lion y frwvdr. Ychydig adranau o'r fyddin sydd ag iddynt en- wogrwydd y Royal Welsh Fusiliers. Ffurfiwyd hi yn 1689, ac yn nghwrs ei hanes, gwasanaethodd dan Marlbor- ough, Wellington, Wolsey, a Roberts, cyn dyfod dan arweiniad y Cadfridog Syr John French. Ychwanegodd hefyd at ei enw da yn y Crimea ac yn yr India Mutiny. Erys Inkerman byth yn arnlwg yn hanes brwydrau Pryden. Mewn llawer ymdreoh galed ymladdodd y Cymry hon nes dyfod bron at y olaf fedrai ddal cleddyf. Ganem feddwl iddo ddod yn agos i hyn ar y 23ain cyfisol, oblegid o'r swyddogion sydd yn aros. a gwyddom am un pentref yn Nghymru lie y mae cartrefi o leiaf wyth o'r rhai a syrthiasant. Awyddwn yn j fawr glywed y manylion am y frwydr j hon. I Dydd Nadolig ymwelodd Saith A wyr- wr Prydeinig a Germani, gan dân- belenu ei chadarnleoedd, ei Ilongau rhyfel a rhai ori Zeppelin Sheds. Aeth y saith gyda dwy o longau cyflym Pryden yn agos i lannau Germani, ac o'r fan hono esgynasant gan gyfeirio at Cuxhafen, un o borthladdoedd mil- wrol pwysicaf y wlad, yr hwn a saif ar drwyn o dir ar gyfer Heligoland, a heb fod yn mhell o enau y Kiel Canal, lie llecha llynges Germani. Daeth tri o'r saith yn ddiogel yn ol i'r llongau. Syrthiodd tri i'r dwfr, ond codwyd hwythau at y lleill. Ofnid fod yr awyrwr beiddgar Hewlett wedi ei golli, ond codwyd yntau yn mhen yspaid gan un o longau Holland. Erbyn hyn y mae yntau gartref a chanddo stori ramantus i'w adrodd. Hewlett oedd yn arwain pan gychwynodd y saith ar eu hynt beryglus. Blaenodd ar y lleill, ac esgynodd yn bur uchel. Daeth niwl rhyngddo a'r ddaear, ae felly ehedodd yn rhy bell. Trodd yn ol gan hedfan yn is i lawr. Daeth i olwg Cuxhafen, a disgynodd o fewn dau cant latheni i'r ddaear ae yna hyrddiodd ei beleriau tan ar y Zeppelin Sheds. Yn nes ymlaen taflodd belenau ar y rhyfel-longau oedd yn y porthladd, a gwelodd fwg mawr yn esgyn o un o honynt. Ar hyn canfydd- odd nifer o aeroplanes ac un Zeppelin yn ceisio am dano, ond llwyddo dd ddianc yn ddianaf. Ar ol hyn aeth rywbeth o' i le rywbeth o'i Ie gyda'i beirianau, a bu -raid iddo ddisgyn ar y dwfr heb fod yn mhell o Heligoland. Bu am oriau yn y dwfr yn ceisio trwsio y peiriant. ond methodd. Yna gwelodd y llong a nod- wyd ac esgynodd iddo. gan lusgo y peiriant ar ol y llong. Gwelodd fwg ar y gonvela llong arall yn dynesu. Ofn- odd fod y Germaniaid yn dod, a gyr- rodd ei aeroplane i'r gwaelod. Diddorol yw hanes ein milwyr ddydd Nadolig yn y Ffosydd. Mewn llawer llecyn cytunodd Prydeinwyr a German- iaid beidio saethu ar eu gilydd y diwr- nod honno. Mwy na hynny, cyd-gyfar- fyddent i ymgomio, smocio, ac i gyf- newid anrhegion ar ganol y ffordd rhwng y trenches. Mewn un man tyn- wyd darluniau mintai o'r ddwy blaid gyda'u gilydd. Neth milwr allan o un trench gyda nifer o mince pies yn an- rheg i'r gwrthwynebwyr, a dychwelodd gyda gwin a phethau ereill yn gyfnewid. A dyna'r bobl osodir gan ereill i ladd eu gilydd mewn gwaed oer! i L L' J ———,
Llanelli Fawr.
Llanelli Fawr. Cantawd Cymraeg.— Y n y Taber- nacl ar nos y Nadolig perfformiwyd cantawd newydd o waith y gweinidog, sef Dr. R. Gwylfa Roberts. Enw'r cantawd yw "Gwlad y Tadau," ac ynddo y ceir golwg ar rai o brif ddigwyddiadau'r genedl, a'r rhai hynny wedi eu gosod allan mewn barddoniaeth fyw a ffres. Bu'r can- tawd yn un diddorol ac addysgiadol, ac fe dal y ffordd i eglwysi'r wlad ei berfformio. Canmol mawr sydd ar waith Mr. L. W. Adams, a ddysgodd ei gor plant i'w berfformio mor odidog i glyw Hond capel o bobl. Drama ym Moriah. Actiwyd drama vug Ngliapel Moriah ROE Y Nadolig. Moriah, it mpe'i! hysbys i lawer, yw'r gorlan lie y bugeilia v Parch. W. R. Watkin, M.A., gyda llwyddiant anarferol, nid yn unig mewn ysbrydolrwydd a rhifedi, ond nefyd mewn cenedlgarwch a diwyll- iant. Ac at nos y Nadolig gwelwyd un o ffrwvthau ei ymdrechion ym mherfformiad drama Gymraeg. Cwrdd Cystadleuol. Cafwyd cwrdd cystadleuol brwd yn Ebenezer nos y Nadolig. Llywyddwyd gan y gweinidog, sef y Parch. T. Orchwy Bowen. Y beirniaid oeddynt Mri. John Davies, A.C., a G. E. Williams. Orchwy'r Bardd a Meudwy'r Cerddor.-Bu'r ddeuddyn hyn ym Mhontyates tranoeth y Nadolig yn cloriannu'r adroddwyr a chantorion yn Eisteddfod Hynyddol Eglwys Noddfa (A,.) Cafwyd cynulleidfa en- fawr a chystadleuaeth frwdfrydig. Galw mawr sydd am wasanaeth y ddau hyn mewn eisteddfodau pell ac agos. MEUDWY MYRDDIN.
Abercwmboi.
Abercwmboi. Ar nos Nadolig cynhaliwyd cyng- erdd Hwyddiannus ynghapel y Bed- yddwyr. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. P. Rees, A.C., Abercwmboi. Cymerwyd rhan gan y cantorion can- lynol :—Soprano, Miss Jane Morgan, Abercwmboi; contralto, Miss Lizzie Edmunds, Abercwmboi; tenor, Mr. Lloyd Morgan, Cwmaman; bass, Mr. John Jones, Cwmaman. Piano- forte solo, Miss Maggie M. Broom, Trecynon. Chwareuodd hon "The March of Delhi yn gelfydd dros ben. Disgwylir llawer oddiwrthi yn v dvfodol. Cvfeilwvr, Proffeswr T. J. Morgan, F.T.S.C., R.A.M. (Pen- cerdd Cynon), Cwmbach, yr hwn a chwareuodd yn fedrus i'w ddisgyblion, a Mr. Cledwyn Afan Jenkins, Aber- cwmboi. Cafwyd cyngerdd ardderch- o, a'r elw yn rpyned at eglwys y Bedyddwyr.