Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

tmr GOSTEG. I

OYDUIAOUK, I

: 4Byhoeddwyr y Cymod I

Family Notices

Advertising

Basgedaid 0" Wlad. I

News
Cite
Share

Basgedaid 0" Wlad. I I .-O'R DE. I Llith Glannau"r Afan. I Gwyiy Cenin. Dathlwyd Gwyl Ddewi nos Fawrth, Chwefrol 29, gan Gymrodorion Margam a DyfFryn Afan, yn ysgoldy Bethany, Port Talbot. Ymgom- west a gaed eleni—nid mor gigyddol ag arfer; cafwyd gwledd felys er hynny, wedi ei darparu gan ferched heinyf yr Ellis' Cafe, a Mr. Ellis ei hun yn fwrdd- lpvydd ar y gatrawd. Addurnwyd yr ystafell eang a theitlau ac arwyddluniau Cymreig, a'r Ddraig Goch a'i phalfau a'i thafod allan, yn llafnes hir ar y Hwyfan. Mawr yw clod y boneddigesau gwir Gymreig hynny a fu'n harddu'r muriau mor wladgar. Llywyddwyd gan y Parch. J. O. Jones (Hyfreitbon), llvwydd y Gymdeithas. Galwycl ar y Parch. J. E. Rees (Ap Nathan) i ofyn bendith ar yr ymborth, yr hyn oedd wlr ddefosiynol ac effeithiol. Cynhygiodd y llywydd Iwncdestyn y "Teulu Brenhinol," gan gyieirio y gallai wneud hynny'n gydwybodol am fod gennym benadur sydd yn pleidio dirwest, a chanwyd Duw gadwo'r brenin yn Gymraeg. Cododd y llywydd dra- chefn i gynnyg y Gwahoddedig," sef y Parch. Penar Griffiths, adnabyddus fel traethodwr cenedlaethol; telynegwr melys, pregethwr a bugail gyda'r Annibyn- wyr, a chofiannydd Watcyn Wyn. Yna rhwng egwyl- iau byrrion, aed trwy'r rhaglen argraffedig oedd o flaen pawb. Chwarae ar y berdoneg gan gyfeilydd y Gymdeithas, Miss Lottie Thomas, Port Talbot, meis- tres wych ar y dawn. Cynygiwyd Dewi Santw gan Penar, mewn araith wresog, Gymreig i'r craidd. Er hyned ei destyn, dygodd ohono lawer mwy o bethau newydd nft hen, yn goglais yr ysbryd, gwladgar, ac yn crafu addolwyr Saiyn friwiau. Profodd ei anerch- iad fod Penar yn dalp o athrylith, ac nid yn fuan yr anghofir ei arawd. Canodd Miss Florrie Edwards, Pont rhyd y fen, Dafydd y Garreg Wen, yn swynol iawn, cyn i'w hysgolf-eistr, Mr. W. J. Samuel, gynnyg pH Ein Cymdeithas," mewn araith hyawdl, yn cael ei ateb yn hwyliog gan ysgrifennydd y Gymdeithas, Mr. Haydn Lewis. Nid oes ball ar ei ddonioldeb, a phob gewyn ar waith yn Cymreigyddio popeth. Prawf y gymeradwyaeth a gafodd ei araith ei fod yn ffafrddyn y Gymdeithas. Tynnodd Mr. Wm. Williams, ysgol- athro o Bort Talbot, fonllef o gymeradwyaeth trwy ei gan ddoniol, Mart ni, sef cymhleth o deitlau alawon Cymreig, wedi eu gwau trwy ei gilydd; gwaith Llwchaiarn, medda nhw rhaid oedd ateb yr encor. Amheuthun oedd adroddiad y chwaer ieuanc Miss S. H. Davies, Taibach, o Anerchiad Llytoelyn y ac ar ei hoi, galwyd ar y poblogaidd Mr. Rowland Hill i ganu Barter einGwlad. Ardderchog medd pawb, a dyna glap Galwyd ar Mr. James Nicholas, ysgol- feistr Port Talbot, ac un o golofnau'r Gymdeithas, i gynnyg "Yr Ymwelwyr-" ac atebwyd gan yr ysgol- feistr a'r hanesydd llengar, Mr. Lewis Davies, Cymer, mewn hwyl ddireidus. Canwyd Gwlad y Delyn nes angerddoli'n cariad gan Miss Katie Thomas, Eglwys Nynyd y Fro, a Mr. Tom George, Cwmafan, yn dilyn gycta'r gan swynol Gwalia, yn ogleisiol iawn. Dibennwyd trwy gydganu Hen Wlad fy Nbadau dan arwiad Mr. James Nicholas. Dyna'r wyl oreu eto o ddigon," medd pawb-wrth ymadael. Ni wel- wyd erioed gynifer mewn gwyl o'r fath yma, yr ysgol- dy eang yn orlawn bob congl. Nid syn oedd clywed na chafwyd gwell dathliad yn ysgolion dyddiol y cylch drannoeth pan gofiwn fod holl ysgolfeistr; ac ysgolfeistresi y cylch yn aelodau o'r Gymdeithas a'r mwyafrif mawr o'r athrawon a'r athrawesau. Bendith arnynt wrth gymhwyso'r athrawiaeth a gfint o dro yn yGymdeithas i'r plant.-tsbryd Sien- cyn Penbydd. CrMDEITHASLENrDDOL GROPE PLACE. —Mawrth 2, cafwyd ymgomwest, pryd yr eisteddodd tua 60 i fwynhau'r danteithion a baratowyd gan y chwiorydd caredig. Caed ymgom a chân, pill ac araith. Y peth cyntaf oedd anerchiadau'r beirdd, Dafydd ap Gwilym yr ail oedd y cyntaf. Hawdd deall nad oedd eisiau ond rhoddi proc yn y tân i oleuo yr aeiwyd Gymreig, a gyrru pob Dic Sion Dafydd i'w gragen Cacravenydd, yn urddasol fel efe ei hun; loan Croes y Parc yn barod ei bwyth; ac os oedd rhywun wedi gwneud tro trwstan yn ystod y tymor fe'u cofiai a'i grafiad. Cynygiwyd Uwncdestyn Dewi Sant" gan Ap Nathan, y llywydd: chwalodd lawer o'r niwl sydd yn gorwedd o amgylch y Sant. Ein CymdAthas gan Glanwyre, y gwr sydd yn gofalu am y pwrs. ac nid oes fawr o berygl iddo fyned i gardota bara tra bydd Glanwyre yn ganghellor. Mr. Thomas Griffiths yn ateb, ac yn awgrymu gwell- iantau, a ddylai gael sylw y pwyllgor. Ein swydd- ogion gan Ap Ystwytl^ f gwr heb ddim o'r sebon- eiddiwch hwnnw a geir yn ami pan gynhygir llwnc- destyn y swyddogion. Atebwyd gan y llywydd a'r ysgrifennydd. 11 Y Gweinyddesau gan Mr. John Griffiths, hynod ffraeth ac heb ei hafal am oglais teimladau y rhyw deg. Atebwyd i bwrpas gan Mrs. J. S. Ellis, y Cafe. Adroddiad, Miss Dilys Williams, miraio ei sain a glan ei Chymraeg, a'i hances frethyn bach, a'i chorun hir a'i phais a becwn. CAn, Miss Florrie Pugh hithau hefyd o'r un ach. Yna caed Dylanwad bywyd Dewi ar fywyd y werin nid oedd hwn yn llwncdestyn, ond fe'i llyncwyd er hynny. Hawdd ydyw Ilyncu popeth geir gan Ogwy Ddu; gwae a groeso gleddyf ag cf. Dibennwyd trwy ganu y Gin Genedlaethol gan y canwr byd-enwog, Mr. G. T. Llewellyn, A.R.C.M.-W-P-IF. 2-O R GOGLEDD, iJWLCH GWrN.-Cynhaliodd eglwys y M.C. gwrdd cystadlu Mawrth laf, i ddathlu Gwyl Ddewi. Dyma'r gwyr amlwg Beirniaid Cerdd, Mr. G. W. Hughes, Lerpwl; lien, barddas, ac adrodd, y Parch. T. Gardde Davies, Brymbo celf, Mrs. W. E. Davies a Mrs. W. Roberts, Gwynfryn. Cyfeilydd, J. E. Williams, Brymbo. Trysorydd, T. Hughes, Pentre Saeson Farm; Ilywydd y pwyllgor, James Jones, Shop Newydd; ysgrifenyddion, J. Hughes, Wrecsam, a T. J. Evans, Bwlch gwyn. A dyma'r prif fuddug- wyr:—Parti heb fod dan 16, 0 fy Iesu Brymbo a Bwlchgwy* yn gydradd. Pedwarawd, God is a Sptrtt: Fro Wen, Bwlch gwyn. Unawd baritone, r miiwr elwyledig J. Lloyd, Bwlch gwyn. Unawd soprano, Can, Wennol, Can: Miss Gwladys Hooson, Coed poeth. Unawd tenor, Hyd fedd hi gar yn gytoir J. Edwards, Gwrecsam. Englynion: John Jones, Fron Heulog. Adrodd Gweddi'r Plentyn bacb (dan 12): M. A. Jones, Gwynfryn. Eto, rstorma Daear- gryn (dan 18): S. A. Jones, Rhos. Ysgrifennu cyf- ystyron deng air Cymraeg o Lyfr Job Miss Evans, Bwlch gwyn ac yn fuddugol hefyd am ysgrif fer ar sut oreu i ddathlu Gwyl Ddewi mewn pentrefi gwledig. Cyfarfod Jlwyddiannus; elw trwm; a'r gwaith wedi ei ddwyn ar ysgwyddau egniol y pwyllgor, a'r ddau ysgrifennydd difefl ._Eirlys y Bwlcb. COMEDI O'R DIWEDD.-Nos Fercher, Mawrth 1, cynhaliwyd cylchwyl flynyddoi Moria, Caernarfon, yn Neuadd y Dref, a honno'n orlawn, pryd y chwarae- wyd comedi newydd, Y DDEDDF (Gwynfor) gan Gwm- ni'r Ddraig Goch, buddugwyr Eisteddfod Genedl- aethol Bangor, 1915. Gwelais y cwmni hwn yn chwarae Beddau'r Profftoydi, ond yr oeddynt yn well yn Y DDEDDF eu symudiadau a'u hysgogiadau yn rhwyddach a mwy naturiol. Mae Mr. T. O. Jones (Gtvynfor) yn actiwr penigamp ei hun, heblaw ei fod in fardd ac ysgrifennwr straeon byrion. Ac onid efe fu'n fuddugol mewn tair Eisteddfod Genedlaethol gyda Chwaraeon Byrrion yn Abertawe, Arzvyr 68 yng Nghaerfyrddin, a Barn a Buchedd yn Llundain ? Pesimistiaid Uaeswep fuom ni'r Cymry ar hyd y blyn- yddoedd, ond dyma beth newydd yn ein hanes-- Comedi Gymreig. Nid wyf yn dweyd gair yn erbyn y dwys a'r prudd-maent yn angenrheidiol, eto credaf fod arnom eisiau ychydig o'r ochr arall rhag ein lIwyr orchfygu gan y "felan." Dyma'r cast: (kven W. Tomas, gwraig Gwilym, Katie Sty the Mari Lewis, modryb, Edith Williams; Ann Owen, tnam, Sallie Roberts Jane Owen, modryb, Nellie Williams; Eluned Parry, y forzvyn, Miss Madge Jane John Owen tad Gwilym, Tom Edwrads. Efrydwyr: Gwilym Owen, Griffith Roberts Tom Jones, M. R. Phillips; Padarn Evans, Pencerdd Llyfnwy; Dai Llewelyn, W. Drinkwater; Morgan Davies, Albert Jones; Onllwyn Morgan, R. Williams; Cadifor Huws, 0 Roberts Tudno Davies, J. Bryan. Gruffydd Owen, cefnder Gwilym, E. H. Evans; Wilson Parri, llyfr- werthydd, R. G. Owen r Proffeswr, J. T. Roberts John Jenkins y Sosialist, M. Rees Jones; Robert Owen, ewythr Gwilym, Gwynfor. Y merched i gyd yn chwarae yn naturiol odiaeth; Gwynfor yn hen ffarmwr campus Mr. J. Griffith Roberts a Mr. H. R. Phillips yn Ilenwi eu rhan fel ffryndiau Gwilym i'r dim. Yn Mr. H. Rees Jones, mae'r Cwmni wedi cael gafael ar ysmaliwr penigamp. Wythnos gafodd i ymbaratoi. Yr oedd yn cymryd lIe un arall, ac yn dynwared y Sosialydd Dic Sion Dafyddol yn rhagorol; tine ei Gymraeg hwntw hefyd yn daraw- iadol ynghanol Cymraeg y Gogledd. Mr. Tom Edwards yn Squire bob modfedd, a gwnaeth Mr. R. G. Owen lyfrwerthydd da. Cof gennym weled mwy nag un o'r rhain pan yn fachgen, yn cymell eu llyfrau; gwnaethant lawer o ddaioni trwy werthu Ilyfrau fel hyn, ac wn i ddim nad oedd mwy o lyfrau da yn cael eu darllen yn y dyddiau gynt oherwydd y llyfr- werthwyr teithiol nag a wneir yn awr efo'r llyfrau cyfundebol a'r trusts barus. Saer y Uwyfan oedd Mr.R.Jones, a Mr. J.Bryan yn gyfrifol am y make up. Hanneryr elw i'r Milwyr Cymreig, a chan fod y Cwmni wedi ei chwarae ddwy noson, dywedir fod y ffrwythi yn foddhaol.-W.J.J. 0 PETHESDA.-Cyngerd-d yng nghapel Beth- esda, Ddydd Gwyl Ddewi. Yn y gadair, prifathro Ysgol y Cefnfaes, Mr. J. J. Williams, ac yn beimiadu'r adrodd hefyd. Yn arwain, prifathro'r Ysgol Sir, Mr. D. J. Williams, M.A. Yr oedd Mr. Evan Lewis, Bangor, yma'n canu a beimiadu'r canu: yr oedd ar ei oreu heno. Canodd gan newydd yn ymwneud a'r rhyfel, Carry On. Mae ynddo gymaint o enaid a thfin fel y bu raid iddo ail ganu, a rhoes rr Hen Gerddor. Canodd r Gwladgarwr hefyd. Ap Eos y Berth yn ei hwyliau goreu gyda'i delyn, a'i'ddau blentyn bach, Bobby a Bertha, pedair a chwech oed, yn canu gyda'r tannau yn ddel iawn. Cafwyd deuawdau gan Miss A. C. Hughes a Mrs. C. M. Owen Miss Huehes a Mr. Evan Lewis, Hywel a Blodwen, yn rhagorol; unawd- au gan Miss Hughes, Dewi Sant; Mary Lee, gan Miss Ceridwen Williams; r Golomen Wen, gan Miss Emily May Jones. Cafwyd Ti zvyddost beth ddywed fy nghalon, a hen alawon gan gor dan arweiniad Mr. J. Roberts a detholiad ar yr organ gan yr organydd, Mr. R. O. Hughes. Adrodd i rai dan 16, Sat i fynu dros dy wlad, Maggie Pretoria Hughes, Rhiwlas. Canu i rai dan 16, r Deryn Pur Willie Williams o Fangor, a deunydd canwr ynddo. Yn y prynhawn, trwy garedigrwydd yr Henadur W. J. Parry a Mr. D. J. Williams, M.A., cafodd plant yr ysgol Sul wledd o de a bara brith. Dywedodd yr Ynad John Jones air cynnes o ddiolch iddynt.-Min Ogvien. rR WYDDGRVG.-—Nos Fawrth yr wythnos ddi- weddaf, cyflwynodd mab y diweddar J. Ambrose Lloyd olew ddarlun o'r cerddor anfarwol i'r dref: portrelad ohono'n ddyn 35ain oed, yn facsimile o'r un a gafodd pan yn gadael tref Y BRYTHON am Fwlch bach, Conwy. Yr oedd Mr. C. F. Lloyd, Mus.Bac., yn bresennol, a chafwyd anerchiad diddorol ganddo. Chwalodd rai cymylau amheuon o berthynas i'w dad, a dyma hwy i chwi: Ganwyd J. Ambrose Lloyd yn yr Wyddgrug mewn tt gyferbyn a Chefn y gader, cartref Glan Alun, ac mor bell ag y gellir canfod y cyftyw, y lie hwnnw yw'r siop wag sydd beUach y ty uchaf i dy Mr. Daniel Pownall. Gadawodd yr Wydd- grug am Lerpwl pan yn 16 oed bu fyw yno am ugain mlynedd; aeth oddiyno i Fwlch bach, lie trigodd am tua blwyddyn, Nid oedd am aros yno oherwydd ei fod yn gweld mai cyfle go wael oedd yno i'w blant gael addysg. Symudodd i fyw i GaerUeon, He y bu am 12 mlynedd; ymadawodd oddiyno i'r Rhyl, He y bu weddill ei oes. Bu farw yn Lerpwl. Cyflwynwyd y rhodd yn ystafell y Cyngor yn y Neuadd Newydd' holl aelodau'r Cyngor yn bresennol, a Uu o edmygwyr y cerddor. Llywyddwyd gan gadeirydd y Cyngor, Mr. Oscar Jones, a gwnaeth araith bert a gafaelgar. Tynnwyd y gorchudd oddiar y painting gan Mrs. Francis Lloyd, ac ynadiolchwyd am y rhodd gan Mr. Thomas Parry a'r Parch. G. Parry Williams, M.A. Cafwyd anerchiad adeiladol gan y ddau, a gair hefyd gan y Parch. T. Morgan (B.), a'r tri yn alluog i siarad fel cerddorion. Wrth gydnabod, cyfeiriodd Mr. C. F. Lloyd at waith o eiddo'i-dad sydd heb ei argraffu, cantata (?) Castell Caernarfon. Ymddengys i'r gwaith gael ei berfformio yn Aberystwyth gan Gor y Coleg, o dan arweiniad Dr. Joseph Parry. Y mae gan Mr Lloyd lythyr gan Dr. Parry ei hun yn cadam- hau hynny,ond y mae hyd yn hyn wedi methu a dyfdd 0 hyd i neb oedd yno. Da chwi, os ydych yn gwybod am rywun oedd yn y C6r hwnnw, teimla Mr. Francis Lloyd yn ddiolchgar glywed. Pan ddeloch ar wib eto, Mr. Gol., gelwch yn yr Wyddgrug, i weld John Ambrose Lloyd, Alun, Daniel Owen a Rd. Wilson yr arlunydd; fe aitt y llyfrgellydd A'ch merlyn atynt i gyd. A phwy a wyr na welir Glan Alun a Roger Edwards yno cyn nemor o amser ? CONNAWS QUAY.—Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Rfhoboth (A.), o dan nawdd eglwys y M.C. Chwefrol 23, pan gymerodd. y rhain rhan: soprano, Miss Annie Rees, R.A.M., Llundain; con- tralto, Madame Josephine Lewis, Bangor; tenor, Mr. Eyan Lewis, Bangor; baritone, Mr. Frederic George, Lerpwl; adroddwr, y Proff. E. Kingston Jones, Lerpwl; crythor, Master Donald Jones, Lerpwl; cyfeilydd, Mr. T. Roberts, Bwcle; llywydd, Mr. A. Lyon, M. A., Hawar deii. Agorwyd gyda'r gynuUeidfa yn canu'r Anthem Genedlaethol. Caed unawd ar y crwth, Jenny Jones, gan Master Donald Kingston Jones, datganiad da iawn o un mor ieuanc; Wbitt Daddy comes home again, gan Miss Annie Rees anaml y clywir y fath beroriaeth, ac yn encor canodd r pennill a ganodd fy nhad, gyda'r fath deimlad nes peri i'r bob! nad oedd yn medru Cymraeg deimlo i'r byw. Angus Macdonald gan Madame Josephine Lewis datganiad pur dda, ond fod y Ilais yn dioddef oddiwrth annwyd; yn encor, Unwaitb eto yng Ngbymru annwyl. Corporal Die's Promotion, gan y Proff. E. Kingston Jones, yn effeithiol i'r byw. The RallyCalPgan Mr. Evan Lewis efe'n adnabyddus yma ac yn canu'n dderbyniol bob amser; cafwyd Killarney yn encor. The Deathless Army gan Mr. F. George llais rhagorol, ac yn eneor Cylrir Geifr. Nid oedd amser yn caniatau i encor yn eilran y rhaglen- oedd fe' hyn pedwarawd, A Regular Royal Queen" Miss Rees, Madame Lewis, Mr. Lewis a Mr. George. Ar y crwth, 11 Trovatore, Master D. Kingston Jones. Adroddiad, Old Farmer Grey gets photographed, gan Mr. E. Kingston Jones, mewn modd arbennig. The Lute Player, Mr. F. George; My dear Sou', Madame Josephine Lewis; Sympathy Mr. Evan Lewis deuawd, The Battle Eve, Mri. Lewis a George; The Songs my mother sang, Miss Annie Rees. Teimlai pawb fod y canu ar radd uchel a phawb wedi mwyn- hau eu hunain yn fawr iawn, a therfynwyd un "0 gyf- arfodyd'd goreu y cylch trwy ganu Hen Wlad ty Nhadau. Mae Miss Rees yn bwriadu mynd i Ffrainc i ganu i'r milwyr dewr un o'r dyddiau nesaf, wedi ei dewis o nifer fawr iawn o dan nawdd y Y.M.C.A. PONTRRODCIN. Mawrth ,sed, cynhaliwyd wythfed Saboth y Plant" blynyddol yng nghapel yr Annibynwyr. Eleni trefnwyd iddo fod ar ran y Genhadaeth Dramor. Drwy hyn, a'r cardiau casglu I cafwyd dros £9. Cynhaliwyd tri chyfarfod yn ystod y dydd llywyddion, Mr. T. Bellis, Gwern y glyn Mr. C. L. Williams, Y.H., Sychtyn a Mr. D. Jones, Hartsheath. Canwyd ac adroddwyd gan aelodau'r Ysgol Sul a'r Gobeithlu. Canodd Miss M. E. Evans, Helygain; Miss Nellie Evans, Helygain Miss May Jones, Ffrith Mr. Wm. Jones, Helygain Mr. Enoc Roberts, Pontybodcin; a Miss Jennie Roberts, Llanfynydd, yn cyfeilio. HEN GOLWrN-Cynhaliwyd cyngerdd yng nghapel y Wesleaid Cymraeg, Hen Golwyn, Mawrth I, pryd y gwasanaethodd y cantorion hysbys hyn: soprano, Miss Gwenonwy Griffith (Llinos Lleyn); tenor, Mr. Egryn Humphreys; bariton, Mr. Bob Ellis, Llanrwst; a'r Cor Plant. Y cadeirydd, T. Treieavan Jones, Ysw., Trecarrell; arweinydd, y Parch. W. Ph. Roberts; a chyfeiliwyd gan Miss Myfanwy Jones. Cafwyd unawdau a deuawdau a thriawdau ganddynt ac yr oeddynt i gyd mewn hwyl ardderchog, yn cael eu hail alw yn ol, yn enwedig Miss Griffiths ac Egryn. EGLWrS SALEM, PENMAENMAWR. Chwefrol 28, cynhaliwyd cyfarfod i ganu'n iach a'u gweinidog, y Parch. R. J. Pritchard, B.A., ar ei ym- adawiad i fugeilio eglwys Mynydd Seion, Casnewydd. Llywyddwyd, gan y Parch. Caleb Williams; a chaf- wyd tystiolaethan cymeradwyol i lafur Mr. Pritchard yn ystod y d'dwy flynedd a hanner y bu yno, gan y Mri. Edward Morris, blaenor hynaf yr eglwys; T. Edwards, ar ran y Gobeithlu R. J. Jones, dros y bobl ieiiainc; y Parch. G. J. Owen (W.), ar ran Cyngor yr Eglwysi Rhyddion y Parchn. R. Dewi Williams, B.A. (M.C.), J. Griffiths (B.), a J. Luther Thomas, Conwy. Cyflwynwyd cheque iddo ar ran yr eglwys, gan yr aelod hynaf, Mrs. Roberts, Clynnog (mam y Parch. R. Gwylfa Roberts, D.Litt.). Cyd- nabuwyd yn deimladwy gan Mr. Pritchard, gan gyf- eirio at y caredigrwydd a ddangoswyd ato gan yr eglwys a'r cylch. Cymerwyd rhan gan Misses Hesketh, Evelina Jones, a Maggie Hughes, a'r Mri. J. H. Morris a Watson Jones. COEPPOETH.-Dathl-A,yd Gwyl Ddewi yng nghapel Salem mewn modd arbennig iawn eleni. Cynhaliwyii Organ Recital o'r fath oreu edrycbid ymlaen at yr amgylchiad gan yr holl ardal, oblegid cyflawnid yno orchwyl pur anghyffredin, sef arwisgo'r cerddor poblogaidd, J. P. Hughes, F.T.S.C., a gwisg o dan nawdd Coleg y Tonic Solffa, Llundain; y wisg yn cael ei rhoddi gan egtwys Salem, y mae Mr. Hughes yn organydd iddi ers tua 13 mlynedd. ,Arwisgwyd ef gan Mr. R. T. Hughes, diacon ac arweinydd y gAn yno. Sylwodd y cadeirydd, Mr. W. Warrington Jones, y Parch. T. E. Thomas, a Mr .R. T. Hughes, ar bender- fyniad a dyfalbarhad Mr. Hughes i astudio cerddor- iaeth nes ennUlý safle uchaf allai y Coleg ei roddi iddo; a chyfeiriwyd at ei ddiwydrwydd ynglyn a gwaith yr eglwys, a cherddoriaeth yr ardal yn gyffredinol. Gr y cyfarwydd mai mab hynaf i'r diweddarIolo Ddu ydyw Mr. Hughes. Hefyd cyf- lwynwyd iddo ef ac i Mr. A. George, A.R.C.O., fatwn hardd bob un gan Dr. Vaughan Griffith, ar ran Cym- deithas Gerddarol Coedpoeth, fel arwydd o'u parch iiddynt am eu llafnr gyda'r cor, Mr. Hughes fel arwein- ydd a Mr. George fel cyfeilydd. Chwaraeodd y ddau ddetholion ar yr organ, a chafwyd unawdau gan Miss Sephora Hughes, Manchester, a Mr. F. George, Ler- pwl,v ddau'n enedigol o'r ardal 5 a hawdd gweM ar y dorf enfawr eu bod wedi mwynhau'r cwbl,-gwlcdti gerddorol o'r fath oren ydoedd. Cadeirydd y pwyll- gor oedd Mr. Walter Hughes, a'r ysgrifennydd ym- roddgar, Mr. John Williams.-Gohehydd. CAER.-Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol blyn- yddol dan nawdd Ysgol Sul M.C. St. John Street a'r gangen-ysgol yn Hoole, Chwefrol 23. Ofnid yn fawr amlwyddiant y cyfarfod eleni, gan fod cynifeer, on brodyr ieuainc wedi ymuno a'r fyddin ac yn eu plith Mr. J. Humphreys, yr ysgrifennydd ffyddlon, fu yn trefnu'r rhaglen, etc. Cymrwyd ei le gan Mri. John Williams ac E. W. Jones. Cystadlu rhagorol ar yr holl destynau bron, Dyma'r buddugwyr:— Traithawd, Milwriaeth; H. D. WilHams. Arhol. Ysgrythyrol: dan 2, E. E. Jones; dan 18, Myfanwy Roberts; dan 14 (Safon V), i, Hywel Evans; 2, Buddug Roberts. Dysgn allan o lyfr y Gymanfa 1, Leonard Thomas; 2, Nesta Williams; 3, Buddug [ Roberts. Socks i filwr: Naomi Williams. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac 0 Saesneg i Gymraeg J. Williams. Pedwar pennill i'r Milwr Cymreig; Naomi Williams. Adrodd, Ceisio gloezoach nen, dan 18: r, Harri Williams; 2, Trevor Roberts. Eto, Hen Wlad fy Nbadau, dan 12 I, Blodwen Williams; 2, Nesta Williams; 3, Reggie Hughes. Eto, Tedi Bet ac Ymbarelo, dan 8 i, Eddie Davies; 2, Eirian Jones; 3, Gwen Williams. Corau dan 30 o nifer, Dyma'r dydd (J. Price): Cor Queen Street yh oreu (T. Davies Jones). Corau plant: T, Hoole 2, St John Street. Her unawd: Roberts, Connah's Quay, a J. Egerton, Caer, yn gyfartal. Unawd, Canu 0 byd, i rai dan 16 i, Myfanwy Shone; 2, Ivor Roberts. Eto, Mae guawr i ddod ar Gymru, dan 1 t 1, Glyn Evans; 2, Trevor Williams; 3, LizziC Hughes. Eto, Seren dlos, dan 8 i, Gwen Williams 2, Eirian Jones; 3, Glyn Jones. Llywydd, Mr. Thomas Hughes arweinydd, y Parch. W. Sylvanus Jones, M.A.. Beirniaid: traethodau, y Parch. W. S. Jones, M.A.; arholi, a chyfieithu, Mr. Morris Parry; barddoniaeth, y Parch. J H. Williams, Myb- x ycld isaf sorks, Mr. Evab Williams; ysgrifennu, Mr. J. R. Williams adrodd, Mr. James, Connah's Quay; dysgu allan, Mri. Wm. Daveis a George Edwards; cana, Mr. G. W. Hughes, L erpwl. CyfeiIyddion, Mri. 11. D. Williams a Howel E. Davies. O'r Hen Sir, sef Sir Fon, Nos Wener, cynhyrfwyd Beaumaris gan ffagl yn shop Mr. Duncan Roberts, ironmonger. Rhuthrai y ffiam orwyllt; ac er holl ymdrec h y diffoddwyr, aeth y He a'r stoc yn goelcerth,. Gresyn llosgi adeilad mor hen, yn dyddio'n ol cyn belled a 1416, ac ynddo gryn lawer o dderw teg ei olwg a chadarn ei wneuthyriad Balchoedd tref Amlwc h o weled wyneb y Capt.W.S. Roberts, Mona Street, unwaith eto, ar ol bod yng nghanol y rhyfel Daeth yn ol am saib, ac i gael ei gefn ato, a'i dair seren yn sgleinio*mor glodus. Derbyniodd bugail ieuanc addawol y gorlan Fed- yddiedig yng Nghemaes, y Parch. W. P. Thomas, alwad nnllais o un o eglwysi y De-y Berthlwyd. Ym Methel (W.), Caergybi, clybuwyd dau 0 gedyrn y Wesleaid yn pregethu, sef y Parch. J. Roger Jones, B.A., Lerpwl, a'r Parch. R. J. Parry o Ben y groes. A'r Parch. Roger Jones yn darlithio'n aerthol •; ar Grefydd Cymru. Daeth Mr. Hugh Jones, Ty'n Ion, Trefdraeth, a'r 1 America i Gymru, a hynny'n hollol ar ei gost ei hun, ymuno a'r Fyddin Gymreig. Dylai gweithrd mori wladgar fod yn wybyddus i'r holl wla;d. Efe'n ym- naratoi yn Kinmel; a'i frawd Thomas, er oqd dwy ar bymtheg oed, ar y maes ers tros flwyddyn. Yn LIundain, mewn ysbyty, y mae'r Caplan y Parch. W. Llewelyn Lloyd ar hyn o bryd; gorwaith a thjeialon y Cyfandir wedi mennu arno, ond heb ei glwyfo. A bu ei briod (sy'n nyrs yng Nghaerdydp) ar ymweliad a'i chartref yn bur ddiweddar. Anfon- odd ef lythyr didorol at gyfaill yn I.langefni, yn dweyd amdano'i hun yn pregethu mewn gefail i dorf ip o filwyr, ac am yr her gref geid yn eu lleisiau wrth ddyblu a threblu Cawn odrych ar stormydd ac ofnau ac am eu cwestiynau yn y gwarchffosydd. A oes mwy yn mynd i'r cyfarfodydd gweddiau yn Sir Fon yrwan, tybed ? ac A ydyw y tafam dai'n wacach ? Bu'r hen frawd annwyl Mr. John Owen, o Gaergeil- iog, farw y dydd o'r blaen. Ni cheid ym Mon mo'i anwyladh na chwmniwr diddanach. Bu'n byw yn Va Llanfair P.G., ac yng Nghemaes, a llawer blwyddyn yn ol bu'n tario yn Lerpwl. Hoffid ef yn fawr. Gwledd oedd bod yn ei gwmni'n gwrando arno mor ddawnus yn adrodd damau o bregethau ac ystoria am yr hen bregethwyr. Bu farw yn nhy ei chwaer, Mrs. Roberts, yn ei 87 mlwydd oed. Maeididofrawd yng Nghemaes, Mr. 0. Owens, Shop y bont, sy'n henafgwr nodedig o garuaidd a dawnus a duwiol. Efe a ystyrrid fel Moses yr ardal, y llareiddiaf o bawb ac yn dad i weinidog poblogaidd Seion (B.), Cefn mawr, y Parch. D. R. Owen. Ac fel i'r gwr # rhaiadrog o'r Rhos, y Parch. T. Idwal Jones, yn. j' ewyhtr oedd yr hen frawd a gleddid mor barchus yn y f, Belan. Bu'n aelod pwysig o'r enwad Bedyddiedig > dnvy'i oes. Boed iddo hun felys, ac nad ymyrred neu a'i ergyrn.—Llygad Agored. GWrL DDEWI TN TRAMWrTHIG.- Gresyni chvtf, Mr. Got, a thwithan yn y Mwythig gilio oddiyma cyn nos Fercher, yn lie dod i'n helpu gofio Dewi Sant. Mae nifer o Gymry yn perthyn i'r-- Army Pay Corps ymai-a pfcenderfynasom ddathlu'r wyl yn d eilwng. Cafwyd cinio rhagorol yngwesty Motris, Mr. Joseph Jones (0 Torquay) yn y gad air, Dr. J. D. Williams yn wr gwadd. Cawsom hefyd I ajr gwladgar a chynnes oddwrth Syr Owen M. Ed- wards M.A., y Cadfridog Syr Francis Lloyd, Mr. W. Llewellyn Williams, A.S., Mr. John Hinds, A.S., aT Dr. T. H. Parry Williams, M.A. (bardd r Mynydd). Cynygiwyd y llwncdestynau fel y canlyn Y Bren- in (y Ilywydd), Dewi Sant (Mr. Hugh Hughes, o Gemaes, Mon), Ein Gwr Gwadd (Mr. Tom Evans Penrhiwceibr), Y Cynghreiriaid (y llywydd). I'r olaf, atebodd em prif swyddog, y Cymol Campbell Todd, C.P. Ganodd Madame Humphreys Lees, Mr. R. H. Jones (Bangor), Mr. J. T. Vaughan (Mer~ } thyr), Pte. J. E. Morns (Corwen) a'r Rhingyll E. Walker. Cynhulliad rhagorol a gwledd i gorff a meddwl. Dyma i chwi swyddogion y pwyllgor fu'n ogfalu amdano Uywydd, Mr. Joseph Jones, Torquay; is-lywydd, Mr. J. T. Vaughan, Merthyr; trysorydd, Mr. H. T. Hughes, Handudno; ysgrif- enyddion, Corpl. Emrys Evans (Penrhiwceibr) a'i Corpl. Rhys Jones (y Bontnewydd). Gwelwch fod Cymry o bob rhan o'r wlad yn y dref yma, a'r cwblyn elog dros Gymru, Cymro a Chymraeg.Atlud.

Advertising