Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y Flwyddyn Fawr- 1 Blvvyddvn…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Flwyddyn Fawr- 1 Blvvyddvn Einioes. I Dameg y tyfu a r addfedu a'r gwywo. [GAN ALMANACIWR.] j WRTH weld y blynyddoedd yn diflannu1 naill ar ol y Hall, a sylwi ar eu dylanwad arno. dywedodd gwr tua phump a deugain oed wrthym yn ddiweddar, ag ochenaid yn ei lais, fod ei amser goreu wedi mynd, ac nad oedd dim i'w wneuthur bellach ond paratoi at y diwedd. Ennynodd ei sylw fyfyrdod ynom, a diwedd hynny oedd canfod fod amser goreu dyn ymhell o fod trosodd ac ef yn bump a deugain oed. Cydnebydd pawb nad yw dyn o iechyd da ac amgylchiadau gwastad yn hen pan yn ddeg a thrigain oed. Wrth gwrs, daw llawer amgylchiad yn hanes llawer un i'w heneiddio cyn ei amser, ond a chaniatau corff gweddol gryf, a bywyd gweddol lyfn, nid yw dyn deg a thrigain yn hen. Eithr rha.id cydnabod fod pawb yn hen wedi cyrraedd ohonynt tua phedair neu bump a phedwar ugain. Beth pe cymerem, er mwyn cael union gyfrif, bedair a phedwar ugain fel oed y gellir cyd- nabod y dyn cryfaf yn hynafgwr wedi iddo ei gyrraedd ? Rhanner y blynyddoedd hyn yn ddeuddeg rhan gyfartal, a bydd pob rhan yn saith mlynedd Galwer y pedair blynedd a phedwar ugain yn Flwyddyn Einioes, a phob rhan o saith mlynedd yn fis, a chawn y saif pethau fol hyn :— I i I 3 a i I o. i { « a J I I I I I I Oed: 0 7 14 21 28 35 42 s ? I fa i ■*? I I u j o <4 g I H H 23 I I j j | I Oed: 0 49 56 63 70 77 ,,84 O'r geni i saith mlwydd oed. Dyma Ionawr einioes, yr adeg y mae bywyd dyn, fel bywyd yr eginyn, yn fwyaf diamddiffyn, ac ni ellir dywedyd beth a dardd o'r tir. Yn unig gwyddom fod yn rhaid ei amddiffyn yn ohlus os am i rywbeth darddu ohono er lies i blant dvnion. O saith oed i bedair ar ddeg. Dyma Chwef- rol einioes. Yn awr y gwelir y blodau cynaraf yn dechreu ymwthio o'r ddaear, ond anodd dywedyd beth yw eu natur,—yr egin yn unig a welir. Dechreu egino y mae talent ac athrylith, ac ni ellir dywedyd beth fyddant hwythau. Y mae'r gaeaf a'i 61 ar y tir, a rhaid cysgodi. 0 bedair ar ddeg i un ar hugain. Dyma Fawrth einioes. Gwelir yn awr yn eglur both yw cymeriad yr eginyn, a daw chwaneg ohono i'r golwg o ddydd i ddydd, ond ni chiliodd yr ystorniydd, yn wir mis y stormydd yw hwn. Yn y mis hwn y gwelir cymeriad y dalent neu'r athrylith, a dyma hefyd fis stormydd nwyd a chwarirt, ac er darfod i'r eginyn ddatguddio'i gymeriad nid yw'r perygl o'i ddiwreiddio na'i wywo wedi diflannu. Oun ar hugain i wyth ar hugain. Dyma Ebrill einioes. Nid oes eisiau amddiffyn na chysgodi dim rhag y stormydd bellach, ond yr egin gwannaf. Harddir y ddaear a blodau hyfryd, ac y mae popeth yn prysur dyfu. perygl mawr yw barrug y nos: Tyfiant yw hanes dy-, yntau, yn ei Ebrill, tyfiant ei ddynoliaeoh, ei dalent a'i athryliJt; ei hyder ynddo'i hun, ei ragolygon, a phopeth. Eithr fel y tyf teimla ambell gawod o eiddig- edd deifiol yn ymdaenu trosto ac yntau'n meddwl yn y tawelwch wrth weld y ser yn tywynnu nad oedd perygl yn unman. Ie, deifiol erioed fu'r barrug. owyth ar hugain i bymtheg ar hugain. Dyma Fai einioes. Os oes hedyn yn y tir heb darddu hyd yn hyn, daw allan yn awr, neu ni ddaw allan o gwbl. Gwelir beth sydd mewn dyn yn ei Fai, a phrin y daw dim i'r golwg ar ol hyn, os na ddaeth i'r golwg yny mis hwn. Gwaithia bywyd yn ei ry muster a'i harddweli ym mis Mai. 0 bymtheg ar hugain i ddwy a deugain. Dyma Fehefin einioes. Y rftao'r llysiau ar eii Hawn dwf ym Mehefin. Dyma oreu'r tyfiant, ac ni thyf dyn, yntau, ar ol gadaej ei Fehefin. Dyma gyfnod bywyd ar ei lawn d'ftf, ond y mae'r goreu heb ddyfod. 0 0 ddwy a deugain i naw a deugain. Dyma Orffennaf einioes. Nid oes tyfu yn y mis hwn, ond y mae dechreu aeddfedu. Dechreua brigau'r cnwd felynnu, ac y mae ymchwydd hyfryd ym mynwes Gobaith, a. chlywir miwsig yr hogi ar bob Haw. O naw a deugain i bymtheg a deugain. D^ma Awst einioes. Dyma fis y llawn aedd- fedu a'r dechreu cynhaeaf. Dyma'r adeg y daw dyn i ddechreu manteisio ar ei ymdrech yn e: wanwyn, ac i ddioddef oherwydd diffyg ymdrech. Os bu gwastraffu ac afradloni amser yn y misoedd cyntaf teimlir hynny'n awr ac os bu ymdrech ac aberth, teimlir oddiwrth hynny hefyd, a bydd y ffrwyth yn wynfyd. 0 un ar bymtheg a deugain i dair a thrigain. Dyma Fedi einioes. Clywir prysur sWn y cynhaeaf. Cywain i ysguboriau sydd ar bob Haw. Erbyn diwedd y mis nid oes dim wedi'i adael ar ol. A dyma fis Medi dyn. Ar ddiwedd hwn gWyr faint o gyfoeth sy'n eiddo iddo. Os na chafodd gynhaeaf da ar faes ei fywyd, ychydig o obaith sydd ganddo am ddim ychwaneg bellach, ond ychydig lomon. Byw ar ei'brofiad yw ei waith yn awr. 0 dair a thrigain i ddeg a thrigain. Dyma Hydref einioes. Y mae'r dydd yn fyrrach na'r nos, a daw bias gaeaf ar yr awel, eto ni lwyr ddiflannodd yr haf. Teimla'r cryfaf yn awr mai byrhau y mae'r dydd. Swn dyrnu a melina at y gaeaf sy'n y wlad, ac felly dyn ei gynhaeaf bywyd. Casglu a pharatoi y mae yr hyn y dibynna arno pan ddêl y tywydd mawr. O ddeg a thrigain i ddwy ar bymtheg a thri gain. Dyma Dachwedd einioes. Daw niwl- oedd y gaeaf tros y tir, a hyfryd yw aros yn y gongl a meddwl fod yr ysgubor yn llawn, pan rua'r gwynt ac y lluwchio o'r eira ond beth am wyr yr ysgubor wag, y rhai ni heuasant ac ni fedasant yrt y misoedd priod ? Iddynt hwv dvma fis y cyni, a'r ochain, a'r gwae. 0 ddwy ar bymtheg. a thrigain i'r diwedd. Dyma Ragfyr einioes. Dyma fis y dydd bvrraf, a'r gaeaf yn ei anterth, ond dvma fis y Nadolig hefvd. Nid oes dim i'w ofni ynddo i'r gwT a gafodd gynhaeaf da. Gall ef aros yn dawel am y dydd byrraf a'r bore Nadolig tragwyddol, pryd y caifi fynd i mewn lawenydd ei Arglwydd. a bod fel Ef yn blent- yn byth.—a'r goreu o hyd ymlaen. Dyma flwyddyn einioes, ond y mae rhai'n marw yn y gwanwyn, eraill yn yr liaf

I tin Osnedl y-m Manceinion.…

Advertising