Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Meddyliau'r GalonI

News
Cite
Share

Meddyliau'r Galon I "Dos i Fflandars!" DIWRNOD mwy a' mam yn Nhalsarnau er ya talm fyddai'r diwrnod golchi a'r diwrnod gwnio crysau a phobi bara ceirch ac os di- gwyddem ni'r plant hongian gormod wrth ei godre wrth weiddi am frechtan, odid fawr nad gwylltio tipyn a wnai'r hen Feti cyn diwedd, a bloeddio, "Dos i Fflandars o fy ffordd i, ei di Ni wyddwn i ar y ddaear ymhle'r oedd Flanders y pryd hwnnw; meddwl yr oeddwn i mai rhyw le fel twll-tan-grisiau yd- oedd, tudraw i'r Ynys Gifftan neu Drwyn y Penrhyn neu Aberdaron, lle'r oedd hogiau drwg i gael eu gadael yn y tywyllwch a'u bwyta gan grancod y mor. Dro arall, tybiwn hwyrach mai rhyw enw go neis a llai eithafol ydoedd ar y Tan Mawr a brwmstan- aidd hwnnw a fygythid arnom o'r Rhodd Mam. Ond er pan dorrodd y rhyfel allan, 'rwy'n deall mai darn o Felgium ydyw Flanders y bu'r wlad anffodus honno yn faes rhyfela y naill ganrif ar ol y Ilall, nes fod ei galw o'r diwedd yn Cockpit of Europe ac yn amser y Due o Marlboro a Wellington a Napoleon Fawr, y byddai raid i bob llanc a thipyn o blwc ac afiaeth ynddo fynd i ymladd dros ei wlad ar y Cyfandir. A dyna achos a gwreiddyn yr hen veg gwlad a glywir yng Nghymru hyd heddyw Dos i Fflandars Wel, dyma hi'n ddiwrnod mawr-yn ddiwrnod golchi-ar Brydain heddyw, a hwnnw'n olchi ei gelyn a gwaed ei meibion wrth y miloedd rhaid i ni, hen ac anafua, llesg a gwachul, aros adref i ddioddef ac aberthu bawb ei ran ac yn ei ffordd ei hun eithr am danat ti, ddyn ieuanc iach a heinyf, atebol a rhydd i'r gad, rhaid galw arnat ti i beryglu'th fywyd,gan fod Erwop a'th wlad yn y gwewyr a'r perygl mwyaf a'u bygythiodd erioed, ac felly Dos I FFLANDERS Ac os gofyn rhywun iti, Pam yr ei di, a thithau'n llanc crefyddol dy anian a heddychol dy fryd, i ryfel ? ateb o fel hyn yng ngeiriau Joanna Baillie :— War is honourable In those who do their native rights maintain, In those whose swords an iron barrier are Between the lawless spoiler and the weak. Clochtar eu Clod. Y mae'n milwyr mor lawn o'r natur ddynol a neb ohonom, a naturiol iddynt deimlo'n eiddigus wrth weld ambell gatrawd yn cael ei chodi a'i chanmol ar goedd byd yn y papurau am ei glewder, ond yr un gair na chrybwyll am gatrodau eraill mor lew a gwych eu gorchest a hithau. Bu cymaint moli a thynnu llun y London Scottish yn y papurau nes y galwodd Argl. Chas. Beresford a Mr. Walter Long sylw'r Senedd at y peth yr wythnos ddiweddaf, gan ddweyd wrth Dy'r Cyffredin yn bur blaen fod etholedigaeth bwffiol a Sgotyddol fel hon yn gwneud mawr ddrwg, ac fod y lliaws catrodau eraill yn groch eu tuchan yn erbyn y peth. A gofynnai un gohebydd os mai Albanwr oedd pen dyn y Press Biwr6. 'Does neb a wad ddewrder y Sgotyn peisiog nac oes, ond y mae'r catrod- au Seisnig a Gwyddelig a' Chymreig cyn ddewred a hwythau, pais neu beidio, ond eu bod heb ddysgu'r grefft gain o bwffio ac adferteisio'u hunain mor berffaith. Ymhob gwlad y megir glow," ac nid yn yr Alban yn unig eithr nid yw'r glewion goreu ac ucha'u delfrydau byth yn cario megin newyddiadurol gyda hwy i chwythu'u clod am ben y byd. Ardderchog yw bod yn ddewr; ardderchocach fyth yw bod yn ddistaw ar ol bod yn ddewr. IP Y, Hen "Dwenty-Third" I Y nrsaf i'r tan, a'r teneua'n dod gartre o'r drin." Un o'r llyfrau cyntaf ddarllenais i pan ddeuthum i Lannau'r Mersey, lawer blwyddyn wen yn ol, yn las^efnyn heglog a chwta'i glos, oedd Famous Regiments of the British Army, gwaith y lienor llyfn W. Davenport Adams. Detholodd naw catrawd fel y rhai enwocaf a gloywa'u hanes o'r Fyddin i gyd ac y mae'r 23rd Royal Welsh Fusiliers yn un o'r naw. Edrydd ei hanes, o'i sefydliad yn 1689 hyd gyflwyno'i Human newydd iddi gan y Tywysog Cydweddog (priod y Frenhines Victoria), Gorff. 12,1849,prydy'icyfarchodd mewn geiriau cynnes a grasusol tuhwnt. Ffurfiwyd hi gan Henry, Arglwydd Herbert, yng Nghymru a siroedd y Goror. Yn Llwydlo, 'r Amwythig, yr oedd ei phen- cadlys. Ymladdodd gynta i gyd yn y Werddon,—yn y Boyne, etc., tan y Due Schomberg. Cymerodd Namur yn Flan- ders yn 1695. Yr oedd hi'n un o gatrodau anwrthwynebol y Due o Marlbro, hynafiad hyglod Mr. Winston Churchill, ac a wnaeth orchestion diangof ym mrwydrau Blenheim, Ramillies, Oudenarde, Malplaquet, Lille, Neuremonde, Dettingen (1743), Fontenoy a hi roes y tro terfynol a buddugoliaethus ym mrwydr Minden yn 1759. Dangosodd lewder a dygnwch diguro yn America—yn Bunker's Hill, Brandywine, Charlestown a Guildford (1778-1781). Ymladdodd yn Holland tan y Due o Yore. Y hi oedd un o'r catrodau cyntaf i lanio yn yr Aifft yn 1801, a'r olaf i adael Corunna yn 1819, gan ymladd hefyd yn Copenhagen rhwng y brwydrau uchod. Aeth drwy ymladdoedd poetha Rhyfel y Peninsula, tan y Due Wellington, gan wneud gwrhydri ac ennill bri ail i neb o'r Fyddin i gyd yn Albuera, Badajoz, Salamanca, Vittoria, Pyrenees, Nivelle, Orthez, a Toulouse, a ddisgrifir mor ddihafal gan Napier. A bu iddi ran yn Waterloo, lie y lladdwyd ei Chyrnol, Syr Henry Ellis. Y hi oedd nesa' i'r tan, a'r teneua'n dod adref o bob rhyfel bron, medd Davenport Adams; ac wrth s6n am 'frwydr Cuidad Rodrigo, dengys beth feddyliai Wellington o'r 23rd The Duke having asked Major-General Pakenham for a stop-gap regiment to cover the retreat of the division, the latter replied, "that he had already placed tho Royal Welsh Fusiliers there." Ah," said Wellington, that is the very thing." Ac un o'r pethau glewaf yn hanes Byddin Prydain yw cymeriad y Great Redoubt ym Mrwydr yr Alma. Pum catrawd wedi eu dethol i'r gwaith enbyd, ac yn cael eu medi fel petris wrth ddringo'r clogwyn syth yn nan- nedd canon y Rwsiaid. Y Gatrawd Gymreig oedd nesa' i'r tan yma eto, ac Onward, my brave Twenty-Third ebe Syr Geo. Brown, gan chwifio'i gledd uwchben ei geffyl. Dacw'r Preifat Austruther ieuanc yn llamu gyntaf o bawb i ben y bryn, yn plannu Human ei gatrawd ar ei grib, ond yn cael ei saethu'n gelain, a'r flag sidan yn gyrdeddau amdano. Ond ymhen yr eiliad, dacw'r slamgi hirgoes Wm. Evans yn neidio ati, ac yn ei phlannu eilwaith a hawlio'r lie yn enw'r Royal Welsh Ac yn gweld fflag y Ddraig Goch yn chwifio ar ben y clogwyn, dyna'r catrodau eraill yn ymgalonogi, ac yn cyrraedd y crib, i fedi'r Rwsiaid a'u gynnau mawrion hwy eu hunain. Clywais ddweyd fod enwau mwy o frwydrau lle'r ymenwogodd ar luman y 23rd nag ar yr un arall o fewn y Fyddin y mae'n fwy Cym- reig ei gwaed heddyw nag y bu erioed ac nid oes yr un a ddioddefodd yn drymach yn Armagedon y Cyfandir heddyw,ond nad yw'n cyflogi'r un pwffiwr papur- taledig i ddweyd hynny bob dydd ac wythnos yn y Daily Lie o Lundain a'r Evening Hoax o Lerpwl. t* Arglwydd Roberts a Chadw Dyledswydd." I Pwy oedd yr hen Gymro a alwodd oedfa'r aelwyd yn gadw dhdswydd" gyntaf, tybed ? Oes rhywun all ddweyd ? 'Does neb all ei gyfieithu, beth bynnag. Ond hyn oedd ar ein meddwl :—mai'r peth goreu yn hanes y Senedd yr wythnos ddiweddaf oedd araith Arglwydd Curzon lle'r dygai'r fath dystiolaeth i grefyddolder y diweddar filwr glow larll Roberts. Bythefnos cyn ei farw," meddai, "cefais lythyr-yr olaf oddi- wrtho—ac ynddo apel gref ymhlaid 'cadw dledswydd ar yr aelwyd gartref." Dyma'i eiriau, sy'n werth eu codi a'u cyfieithu Yr ydym wedi cadw dyledswydd ar ein haelwyd ni ers 55 mlynedd. Ein prif reswm am hynny yw ei fod yn well ffordd na'r un arall i gael pawb at ei gilydd. Y mae'n foddion i gael y gweision a'r morynion all fod yn y tý- i ymuno yn y cc weddi y gallont fod wedi esgeuluso ei gweddio eu hunain. Er pan dorrodd y rhyfel allan, rhyw weddi debyg i'r amgaeedig a weddiem, ac os byddo rhywbeth pwysig wedi digwydd, byddaf yn gofalu ei ddweyd wrth bawb fo yno. "Ac 'rwy'n cael fod gwasanaethyddion yn cymryd diddordeb mawr felly yn yr hyn sy'n digwydd yn Ffrainc. Ni roisom orchymyn yn y byd am weddio heblaw hwn. Y maent at eu rhyddid i ddod neu beidio, ond y gwir yw fod y meibion a'r merched yn dod yn gyson gynted y clywont ganu'r gloch." A da y dywedodd Argl. Curzon ar ol darllen y llythyr Y mae'r dyn a sgrifennodd eiriau fel yna-hyd yn oed at gyfaill-nid yn unig yn rhyfelwr mawr, yn wladgarwr, ac yn wlad- weinydd, y mae hefyd yn Gristion gostyngedig a defosiynol, a'i enw'n haeddu byw-ac a fydd byw—am byth yng ngh6f y genedl a wasanaethodd gyda'r fath ffyddlondeb diail hyd awr olaf ei fywyd gloyw a gogoneddus." Gresyn na chlywid y gloch ddyledswydd yn canu ymhob plas a bwthyn drwy'rDeyrnas. Wedi tewi y mae hi bron yn llwyr a swn y mator wedi dod yn ei lie. Ac yn awr, 'mechgyn i, y mae wmbredd o foli ar wroldeb milwrol y dyddiau hyn, a gwych o beth ydyw ond.cofiwch hyn, fod y llanc o filwr neu siopwr neu grefftwr fedro weddio a chadw dyled- swydd yng ngwydd ei gydweithwyr, a dioddef iddynt boeri eu gwawd am ei ben am wneud, yn amlygu dewrineb anhraethol uwch. Dewrder cnawd a chorff yw'r cyntaf mewn cymhariaeth ond dewrder enaid, dwyfol ei darddiad, yw'r llall. Y Mor yn wregys in I Hen Ynys Wen. Un chwim ei aden, ac yn medru esgyn a disgyn fel fynno, yw bardd y Drych, sef papur pybyr Cymry'r Gorllewin, a chanddo'r chwilen ddoniol hon o redeg ei farddoniaeth ymlaen ar flurf rhyddiaeth, megis y gwna yn y penhillion v ganlyn i Gaisar Germani a'n mor ninnau :— Pam y terfysga pobl y byd ?—y gelyn ymgyngora'n nghyd. Bygythia Brydain nos a dydd, a rhega ei gwareiddiol ffydd Drwy awyr ac o dan y dwr bygythia ddystryw erch, yn siwr Diolchwch bawb i'r Arglwydd lor fod gennych wlad a'i muriau'n for Ar dir mae'r Kaiser yn gwanhau ei dduw ac yntau'n fregus ddau edrychant tua'r awyr fry a than y dwr am gymorth cry'; grwgnacha Kai a'i lidus wep, gan wgu ar ei Syb a'i Zep. Diolchwch bawb i'r Arglwydd lor fod gennych wlad a'i muriau'n fdr Clyw yma, Kai Gosododd Duw yn Mhrydain Seion dynol ryw; nis gall na Zep ychwaith na Khrwpp dy helpu, 'r Kaiser ynfyd, twp Fe chwardd y nef am ben dy wg,a'r diafl a wawdia'th dymer ddrwg Diolchwch bawb i'r Arglwydd lor fod gennych wlad a'i chaerau'n for Gwyddai, fe wyddai Rhagluniaeth yn dda pa beth oedd Hi'n wneud pan roddai'r hen For yna'n wregys mor dlws a diogel am wasg yr Hen Ynys Wen. Gwir ei fod yn brochi weithiau, ac yn boddi'n perthynasau agosaf yn ei lid a'i ewyn. Eithr cofiwch ddywediad y -Parch. Dafydd Williams, Llanwnda, sef mai ar Forus y Gwynt y mae'r bai am hynny y fo sy'n codi gwrychyn y mor drwy chwythu mor oer a heger ar ei wegil glas. A 'does neb fedr ddal hynny heb frochi. 90 Ei Chanmol yn lJe'i I Siarad. Diolch i'r pwy bynnag hwnnw anfonodd raglen Cymrodorion Colwyn Bay yma, a'i harlwy fel y canlyn am eleni Hyd. 16--Proff. J. E. Lloyd, Bangor, ar Cymru yn Grefyddol yn y Canol Oesau." Tach. 12—" Beirdd Cymru ar Ryfel a I Heddwch," Elfed. Rhag. 18—Noson gyda Thanymarian, Mr. Henry Jones a Mr. T. R. Roberts (Asaph). Ionawr 15—" Breu- ddwydion y Celt," Anthropos, Caernarfon. Chwef. 19—" Talhaiarn," Penllyn a Dr. Price Morris. Mawrth 2—Gwyl Ddewi. 19-Rhydd-ymddiddan ar waith y Gym- deithas. Clywais ddweyd—ac fe roes lawenydd mawr i mi-mai Cymraeg yw iaith feunyddiol eich Cymrodorion chwi yng Ngholwyn Bay, a gwelaf hon ymysg eich Rheolau :— Nad oes ryddid i neb siarad ond yn yr iaith Gymraeg yn y cyfarfodydd, oddigerth trwy ganiatad y cadeirydd. Diolch i chwi am fod mor batrwm o bur iddi rhagor llu o Gymdeithasau eraill sy'n gwisgo'r enw Cymrodorion, ond sy'n gwneud nemor well yn eu holl gyfarfodydd na lladd yr iaith Gymraeg drwy ei chanmol yn Saesneg. Y mae ei siarad heb ei chanmol yn fil mwy o fywyd iddi hi na'i chanmol heb ei siarad. Dagrau'r P. elyn. I Bydd yn dda gan bobl Bethesda a hil y delyn ymhobman weld y wreath hiraeth ben blwydd hon a roes y Prifardd J. T. Job ar fedd Eos y Berth, fu farw Tach 17, 1913 Nid dedwydd ein hen deidiau-heb annwyl Bennill gyda'r tannau Heddyw, a oes un neu ddau Wyr medrua ar y mydrau ? Eos Y BERTH rhoea i'w bau Asiad ei chyn-inosau; Dirion fardd, deryn efd A henddawn y gerdd ynddo. Ar ei oes, pan gloes y glyn, Diau wylodd y Delyn. Tawed yr ednod dierth Am daro'i bardd-mud yw'r Berth. -0-

Gyda'r Milwvr yn Northampton.

PA S 606LEDD CYMRU.