Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Cyhoeddiadau SabbotholI…

News
Cite
Share

Y Cyhoeddiadau Sabbothol I Corwen Gorphenaf 5ed, 1914. I Y WESLEYAID.—Parch E Berwyn Roberts am am 10, a Mr John Phillips, Llandrilloam 6. YR ANNIBYNWYR CYMREIG.—Am 10 a 6, Parch. Lewis Davies. YR ANNIBYNWYR SAESNIG.-Afr G S Griffith. Y METHODISTIAID.-Parch John Williams. BEDYDDWYR- Parch. H. C. Williams Y Gymanfa Ganu M.C. :-Darllenwyd Adroddiad Pwyllgor y Gymanfa Ganu gan Mr. Llewelyn Jones, Llandrillo. Derbyniwyd yr adroddiad i fod o dan ystyriaeth hyd y Cyfarfod Misol nesaf. (1) Dewiswyd Mr. J. Llewelyn Jones, yn Ysgrifenydd y Pwyllgcr; (2) Cynygiodd y Llywydd-y Parch. Tom Evans, M.A., B.D., y rheolau canlynol mewn perthynas i'r Gymanfa Fawr; (a) Fod y Gym- anfa Fawr iw chynal bob dwy flynedd yn olynol yn y Bala a Chorwen. (b) Fod y Pwyllgor hwn yn gofyn i'r dosbarth yn yr hwn y cynhelir y Gymanfa i dalu £ 2 tuag at dreuliau'r pwyllgor. Ysgoloriaethau.— Dydd Sadwrn di- weddaf daeth 41 o blant mwyaf talentog y dyffryn i Ysgol y Cynghor, Corwen, er sefyll arholiad y Sir, mewn ymdrech am enill ysgol- oriaethau i'r Ysgolion Canolraddol. Arolygid yr Arholiad gan Miss David a Mr Richard Williams o Ysgolion y Sirol y Bala. Yr oedd amryw o Glyndyfrdwy yn ymgeisio am Ysgol- oriaeth David Jones—cyfyngedig i Ysgol y Cynghor, Glyndyfrdwy a nifer yn cynyg am Ysgoloriaeth Jones—sydd wedi ei gwaddoli mor hael gan y boneddwr caredig Syr James E Jones, Spartfield, Rochdale, yr hwn a gafodd ei fagu yn y Wernddu. Dyma esiampliau teilwng o eielychiad gan garedig- ion addysg yn mhlwyfi eraill Edeyrnion. B"dd raid i'r plant aros yn amyneddgar tan diwedd y mis nesaf cyn y cant wybod canlyn- iad yr arholiad. Ymweliad Cenhadwr.—Dydd Sadwrn talodd y Parch Robert Griffiths, cenadwr llwyddianus Madagascar, ymweliad a'i ardal enedigol ar ol bod i ffwrdd am ysbaid o saith mlynedd. Nos Sul, Mehefin 28ain, cafwyd pregeth rymus ganddo yng Nghapel Bithesda, a da oedd gan bawb ei weled yn edrych mor dda a chryf ar ol treulioyspaid o un-mlynedd- ar-bymtheg yn Madagascar-gwlad sydd mor nodedig am ei heintiau creulon. Gofidiau pawb wrth roi croesaw iddo yn ol i'r hen -wlad nad oedd ei briod hawddgar yn gallu bod yn bresenol gydag ef, oherwydd gwaeledd eu hiechyd, a dymuniad pawb oedd am iddi gael adferiad llwyr a buan.— Teiml wn y dylai Corwen deimlo yn falch c'r cenadon o bob enwad sydd wedi eu dwyn i fyny ganddi. Y mae eu gorchestion ar y meusydd cenhadol yn glod i ni fel tref ac ardaJ.

GOLF NOTES.

[No title]

Advertising