Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Hide Articles List
13 articles on this Page
BARGEINIO YN LLE PRYNU.
News
Cite
Share
BARGEINIO YN LLE PRYNU. FilllEDDIG ION, Disgwylir i weision a morwynion mewn siopau i werthu—gan y meistri, a'r rhai sydci drostynt-os na fydd y peth y gofyna y ewsmer am dano yn y siop. 8an hyny creulondeb yw i bobl fyned i siopau os na feddyliant brynu, a gwneyd ymdrech i brynu. Creulondeb i weision a morwynion siopau yw cerdded o siop i siop heb feddwl prynu o gwbl, o blegid trwy hyny caiff y gweision a'r morwynion sydd yn y siopau eu beio'n arw gan y meistri a r nieistresi, gan y siop-gorddwyr, a'r rhai sydd yn edrych drostynt, Gan hyny gobeithiaf na wna menywod (i fenywod mae hyn yn brofedigaeth lem), pa un bynag ai tlawd ai cyfoethog, fyned o bwrpas i siopau er mwyn bargeinio yn unig, heb feddwl prymi o gwbl, o herwydd trwy hyny gwnant saflaoead becbgyn a merched aiopau yn galed ac annymunol, ac, o bossibl, nid anfynych y gwnant i'r bechgyn a'r merohed i golh eu lleoedd trwy hoffder y menywod o fargeinio. Wrth ymddwyn fel hyn ni wnant wneyd i arall fel y carcnt i arall wneuthur iddynt hwy. Dyna'r rheol euraidd, a dyna'r rheol y dylai pawb o honom ymdrechu byw wrthi, a gweithredu yn ol eu dysgeidiaeth. Duw'r nef waredo fechgyn a merched siopau rhag y menywod hyny sydd A'ii bryd ar fargeinio yn unig, heb feddwl prynu. Yr eiddoch, &c., D. FF. DAFIS.
LLYFR EMYNAU NEWYDD.
News
Cite
Share
LLYFR EMYNAU NEWYDD. FONEDDIGION, Yn y Goleuad' am Medi 25ain ymddang- osodd llythyr gan y Parch. 0. Gwilym Griffith, Peniel, o blaid yr uchod. Ysgrif- enais ar ei ol lythyr yn erbyn llyfr emynau newydd. Ysgrifenodd yntau ail lythyr; anfonais innau lythyr i'w atteb. Wedi disgwyl am fis iddo ymddangos, anfonais at olygydd y 'Goleuad' i ddyweyd wrtbo os nad oedd am gyhoeddi fy llythyr am ei anfou yn ol. Derbyniais ef yn ol, a dyma attebiad y golygydd Yr oeddwn wedi parotoi'r llythyr i'r wasg, ond penderfynais wed'yn beidio ei ddefnyddio, gan fy mod yn teimlo nad oedd ar y pYngc, Wedi'r cwbl cael llyfr emynau newydd oedd y pwngc y dadleuid arno, ac nid gwamalrwydd yr oes.' Nid y ft aeth oddi wrth y pwngc, ond Mr. 0. 6. Griffith, drwy fynea i s6n am y rhyfel. Dangosaf yn fy llythyr pa fodd y daeth gwamalrwydd yr oes i mewn. Y mae s6n am lyfr emynau newydd wedi bod yn y sasiwn, a dylaswn innau feddwl na buasai Uawer o ryddid i mi ysgrifenu yn ei erbyn, yn 8nwedig yn mhapur y cyfun- ei erb Y ;nae llawer o'r Methodistiaid eisieu diddymu Tt'r Arglwyddi, ond mae yno ryddid barn i'r aelodau; eithr nid felly gyda phapur y cyfundeb. Yr isod yw y lythyr a anfonais i'r I Goleuad.' Dinbych. 0. Ell-AN.ii. SYR, Yn ei lythyr diweddaf dywedodd Mr. 0. G. Griffith fy mod wedi syrthio i gamgym- meriad. Gwelais hyny (sef gadael un llyfr emynau allan) wedi anfon y llythyr i ffwrdd. Dywed yn ei lythyr diweddaf fy mod wedi disgriflo yr oes bresennol fel oes wamal. Dywedodd Mr. 0. U. Griffiths yn ei lyth- yr cyntaf' Teiuilaf fel Peredur fod ein Llyfr Emynau out of touch' A'r amser- oedd. Dyma fy attebiad innau :-oes wamal ydyw; mae'r chwedl, ynghyd A llyfrau di- werth eraill, yn myned & lie y Llyfr Emyn- au a'r Beibl. Y mae geuyf ofn fod llawer o emynau na fyddant yn brofiad i lawer preg- ethwr ieuangc, ac mae felly eisieu llyfr newydd. 'Does dim dadl nad oes wamal ydyw. dyna ddisgritiad y pulpud am dani. Gan fod Mr. 0. G. Griffith yn byw yn y wlad anhawdd iddo ef ydyw barnu o gwlJl. Deued i'r dref ar nos Sadwrn, wedi deg o'r gloch, gael iddo weled y gynnulleidfa fydd yn disgwyl y Football Echo.' Wrth roddi anerchiad mewn Ysgol Sul, dywedodd y Parch. M. H. Jones, Pentre :— Y mae yn gÑyn gyffredinol fod yn an- hawdd cael y dosbarth at y wers, am mai y b61 droed sydd yn myned a sylw y dosbarth. Buaswn yn cynghori yr athrawon i roddi y pum munyd cyntaf at y btl droed, ac yna ni bydd dim esgus i'r dosbarth s6n am dani. Buasai yn dda i Mr. 0. G. Griffith fyned i glywed darlitk y Parch. H. Barrow Wil- liams ar Bleserau yr Oes.' Ni fuasai dim dadl yn ei feddwl wed'yn. Beth am y mil- oedd yn Llanelli yn myned ar y Sabbath i weled dau yn ymladd? Y mae peth o'r fath yn ymylu ar annuwioldeb, heb s6n am wamalrwydd, Beth ydyw cAyn yr eglwysi yn barhaus Ni cheir dwsin o bob cant o'n haelodau yn y cyfarfod gweddi; ond, os bydd dwsin o I Germans' yn myned drwodd i Ddyffryn Aled, bydd cannoedd o'n haelodau yn myned i'w gweled. Pan geisia rhyw un werthu tocyn darlith i rai o'n pobl ieuaingc, beth yw'r atteb? 'Rhy sych., Ond os bydd rhyw chwareu yn y Drill Hall—ie, am dair noswaith-beth yw'r canlvniad? 'Packed house. 0 lyfrgell perthynol i gapel aeth allan yn ystod y flwyddyn 68 o lyfrau crefyddol, ond 622 o lyfrau ystoriau a ffug-chwedlau. Ai nid ffrwyth oes wamal yw peth fel hyn ? Y mae geiriau rhyw fardd yn wir iawn am yr oes hon :— Oes o wagedd a swigod.' Dvwedodd y Parch. D. Williams, Llan- wnda, fod y 'Tit Bits' a'r 'Echo' bach wedi myned A lie y Beibl. Dyma ddywed un am yr oes bresennol: 'Mae'r cyctm, noto^ feet ball, tevtnf, c-quet, golf, laseball, bowlio, aickrt, ciw.mas, a llawer math arall o adloniant, wedi cymmeryd cymmaint gafael yn y mwyafrif rnawr o'r bobi fel mae bron yn ammhossibl cael gan y werin i feddwl yn ddifrifol am ddim. Mae'r oil o'r pethau a enwir (sy'n dda yn- ddynt eu hunain) wedi ilyngcu bryd y bob', fel nad oes le i ddim arall yn mhenglogau Ilawer. Sut i wrthweithio y sefyllfa dru- enus yma sy'n bwngc y bydd yn rhy ddi- weddar yn fuan i geisio ei ystyried, heb s6n ) am wneyd dim. vofler am Rufaiu: wedi'r llwyddiant, pleser, a moethau, yna din- ystr. Buaswn yn dymuno pe buasai Mr. 0. G. Griffith yn dyfod A rhai o ragoriaethau yr oes yn mlaen, y rhai y mae wedi cychwyn s6n am danynt yn ei lythyr diweddaf. I ddangos mai nid oes salw ydyw daw â hanes y rhyfel bresennol yn mlaen, trwy ddyweyd barn y Proffeswr Richard Morris, l\f,A, Pa'm y mae Rhagluniaeth wedi ein dewis.iii i wynebu yr anhawsderau presen- nol?' Pe yr edrychai y Proffeswr Richard, Morris y LI yfr G lAs, a ddaeth allan gan y Llywodraeth, gwelai ar unwaith mai nid Rhagluniaeth a'n dewisodd. Gwnaeth ein Llyworlraeth ei goreu i attal y rhyfel; os folly yr oeddynt yn myned yn groes i Rag- luniaeth. G-yrpawbsyddyndai-Ilenpwy achosodd y rhyfel: a dangosa Pamphlet a gyhoeddodd Blatchford yn 1909 fod y Caisar yn parotoi er's 30ain mlynedd. A phan gafodd gyfle g^yr pawb y canlyniadau. Dyma ddywedodd y Prifathraw Alexan- der Whyte: But in this present case of ours, he is willfully and sinfully blind who does not see that it is simply the German Kaiser's Satanic contempt of Belgium, and his scorn of France, and his Satanic envy and hatred of Bngland. that has turned Germany first into one great armed camp, and then has hurled her armies against this country, and against all her peaceful allies.' Dyna ddigon ar y rhyfel, fuaswn yn tybio, a digon i argyhoeddi y Proffeswr Richard Morris ei fod yn tynu cam-gasgliad am achos y rhyfel. Dywed Mr. 0. G. Griffith yn mhellach:- Mae Prydain Fawr, ac yn enwedig y gen- hedlaeth ieuaingc. yn dangos yn eglur y dyddiau hyn nad ydyw yn amddifad e'r elfenau hyny sydd yn gwneyd cenedl yn fawr ac yn gymmeradwy yn ngolwg y Nefoedd. Nis gwn ai cyfeirio y mae at y rhai sydd yn ymuno A'r fyddin. Ond os mai ê, lie y mae llangciau yr amaethwyr heb ymuno ? Mae | cwyn yn y trefydd nad oes ond ychydie: iawn yn y wlad yn ymuno. Felly cenedl fechan yn ngolwg y Nefoedd fydd trigclion y wlad, yn ol syniad Mr. 0. G. Griffith. Beth sydd a wnelo hyn a'r llyfr emynau newydd ? Dywed yn niwedd ei lythyr un peth fel hyn:—'Ai tybed fod y rhyfel yn myned i attal y cyfundeb i symmud yn mlaen gyda'r cyfnewidiadau sydd yn angenrheidiol er ei gynnydd a'i lwyddiant?' Gwn yn dda nad oes dim a attalia y cyf- undeb, os bydd golwg am wneyd arian o hono, llwged y wlad neu beidio. Er fod pethau eraill yn ei lythyr y caraswn eu hatteb, y mae hyn yn ddigon, neu fe aiff i grwydro i faes newydd etto. Yr eiddoch. Dinbych. 0. EVANS. I
I -*''CWM TAWE. I
News
Cite
Share
I CWM TAWE. I FONEDDI6ION, Nid wyf yn gweled nemawr o'r Cwm poblogaidd hwn ar dudalenau y FANHR. Rhyw ddeg-ar-hugain neu ddeugain mlyn- edd yn ol gwaith anhawdd oedd cael dalen o bapur Cymraeg na fuasai rhywbeth am Gwm Tawe arni. Pa beth sydd wedi achosi y fath gyfnewidiad yn y Cwm ? Yr wyf, yn meddwl fod llenyddiaeth Gymraeg wedi cael str6c o'r parlys yn y Cwm hwn. Nid oes yma ddarllen ar ddim o werth ond papyrau y 'football,' a dyna yr eilun-dduw sydd yn y Cwm er's blynydd- oedd; ond, erbyn heddyw, y mae y Caisar wedi rhoddi cic i'r b61 i golli. Yn awr y mae dynion ieuaingc y Cwm wedi penderfynu dial arno. Dyma 500 o Ystalyfera, heb sbti am Ystradgynlais a Phontardawe, Clydacb, Treforris, ac Aber- tawe, a lleoedd eraill yn y Cwm, wedi ym- rcstru dan faner eu gwlad. Fe allesid meddwl wrth ddarllen y papyr- au Toixaidd mai dim ond Eglwyswyr sydd yn ymrestru. Dyma ddywed golygydd yr Haul:' Tri aelod Undebol sydd dros Gymru, ac y maent yn y fyddin: sef, yr aelodau dros Gaerdydd. iVefaldwyn, a Dinbveb; a dau gan y Rhvddfrydwvr, sef Mr. David Davies, a Mr. T. H. Parry, Fflint. Pa le mae y 29ain eraill ?' Y mae golygydd yr Haul' yn waeth na'r Caisar. 0 14eg i 60ain oed y mae'r Caisar yn ymrestru, ond nid yw golygydd yr Haul' yn gweled neb yn rhy hen, Y mae Mabon yn 74ain mlwydd oed, a Tom Rich- ards yn 70ain oed; W. Brace a Brvnmor Jones yn tynu at y 60ain mlwydd. Towyn Jones dair modfedd yn rhy fyr; Keir Hardie A'i bren almon fel eira; a Lloyd George yn rhy ddyfal yn chwilio pocedi Sh6n Bwl am docins. O'r 500 sydd wedi ymrestru yn Ystalyfera pump o Eglwyswyr sydd yn eu plith—ped- war o'r eglwys Saesneg, ac un o'r eglwys Gymraeg, a hwnw yn Ddadgyssylltwr. Y mae un o'r anwyl gariadus frodyr' yn I dyweyd yn y Llan mai un o bob ugain o'r rhai sydd yn ymrestru sydd yn Ymneill. duwr. Yr eiddoch, D. E. I
LLANDRILL0.I
News
Cite
Share
LLANDRILL0. I YMUNO A'R FYDDIN. I CYNISTALIWYD cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth, Tachwedd 2 lain, yn Ysgoldy y Cynghorj gyda'r amcan o gael nifer i ym- uno. Cymmerwyd y gadair gan Syr Henry B. Robertson, Pale. Yr oedd cynnulliad rhagorol wedi dyfod ynghyd, a chaed trem ar agwedd gyffredinol y rhyfel gau y bon- eddigion canlynoiYn Saesneg, y cadeir- ydd, Mr. Wynne Jones, Warrington, a Mr. Stnd, Llundain; ac yn Gymraeg, gan Mr. Sam Thompson a'r Proffeswr R. Morris, Bala. Caed anerchiadau rhagorol, a thal- wyd diolchgarwch cynnes i'r siaradwyr ar gynnygiad y Parch. f), Thomas (M.C.) a chefnogiad Mr. E. H. Williams, The Stores. Diweddwyd trwy ganu yr Anthem Gen- hedlaethol. I- CYFARtOD LLENYDDOL Y I NADOLIG. Da genym ddeall fod parotoi prysur at yr wyl eleni, a phob argoelion am gyfarfodydd llwyddiannus. Gobeithiwn y bydd Dewi Mai o Feirion yn ei hwyl au goreu yn ar- wain y cyfarfodydd, a chaiff 1,on'd ei freich- au o waith gyda.'r adroddi dau. I; Y BE LGI AID. Mae dau deulu wedi cael lloche3 yn yr ardal, a phawb yn cyfranu yn ol eu gallu tuag at eu cynnaliaeth, a dangosir caredig- rwydd mawr tuag atynt; ac y maent hwy- thau yn edrych yn gysurus, ac yn ddiolch- gar dros dymmor--oor y gauaf. (-40%ZBTrAK I -L -i L
[No title]
News
Cite
Share
E. MORGAN.—Nid oes dim yn hynod yn y penhillion hyn. Yr ydyeh chwithau, fel y mwyafrif mawr fydd yn canu caneuon coffa i'r golofn hon, yn myn'd hyd yr hen lwybrau. Gwnaethom un nea ddau o gyfnewidiadau bychain. W. JENKIN HUGHES.-Nid yw'r gAn hon fyny â'ch cynnyrchion chwi, er cystal yw ambell bennill. A phwy fedr ganu'n wastad bob amser ? Fe geir I Ilewyreh' a chwmwl' yn myd yr awen. Brysiwch etto. Bon SALUSBUBY. —Diolch am eich ffyddlon- deb, ae am y llythyr hynaws. Braidd yn ddiweddaryw canu i 'Ddiwedd Haf vn awr, ond nid yw'r golofn hon yn astudio fawr ar y weather glass.' Y mae eich Cymraeg yn bur dda ag ystyried eich bod ym mhriflys y Saeson. Nid yw'r mesur a'r meddwl yn gwbl foddhaus, weithiau, a chymmerasom hyfdra i wella'r cyfryw. Nid hapus o gwbl yw newid mesur y penhiUion chwaith mewn cyn lleied o gylch.
Y BAROD A'R BLOD'YN.
News
Cite
Share
Y BAROD A'R BLOD'YN. PAN yr o'wn un dydd yn rhodio Yn yr ardd, GlAs flodeuyn bychan welais O! mor hardd. Sisial ganu wnawn pryd hynny Mentra Gwen,' Pan y clywais lais yn ateb Dyna ben. Rosyn prydferth, pwy a roddodd Hawl i ti, Pan atebi mor ddifloesgni Drosti hi. 'N wir niae'th lygad glis yn denu 'Nghalon i, Eistedd yma wnaf i ganu CAn i ti. Tybio wnes fod gardd paradwys Ger fy llrws, Gan mor serchog dy wynebpryd, Flod'yn tlws. Gwelais ddeigryn yn dy lygad Fin yr hwyr, Pa'm y sylli mor erfyniol Pwy a wyr ? D'wed a gefaist ti dy siomi Gan rhyw un. Neu fu rhywun yn dy sarnu, Dywed p'rnn ? Os am wybod beth yw'th enw Meddir i'm, Syllu arnat, ni raid iti Dd'wedyd dim. Mae dy enw'n argraffedig Ar dy wedd, Mae adgofio dy orchestion I mi'n wledd. Hoffwn gael rhyw faint o'th banes Dyddiau gynt, Pa sawl mynwes wnest yn gynnes Ar dy hynt. Gallwn ni anghoflo'n gilydd Ar y daith. Byddi dl pryd hynny'n ddiwyd Wrth dy waith. Gennad ffyddlon pan yn gweini Mwy na mwy, Yn ein mysg, O cofla flnnau Gyda hwy. Rhag dy flino, fwyn ddarllenydd, A wyt ti, 'N awr yn adwaen y blodeuyn Welais i? Dinmael. W. JENKIN HUGHES.
DIWEDD HAF.
News
Cite
Share
DIWEDD HAF. MARW mac yr baf yn araf, Darfod mae y Ilysiatt ir, Llaw wywedig Hydref oerllyd Sydd yn cyffwrdd a'r holl dir (iwywo mae y blodau prydferth Sydd yn liarddu llwybrau'r dd61. Cwyno mae y gwynt yn bruddaidd Am i'r haf dd'od eto'n ol. Ni chlywir 'n awr ganiadau p6r Cerddorion tlws y goedwig, Maent hwy yn nechreu'r Hydref llwm Yn myn d am fro bellenig Y Gwcw, hefyd, hithau aeth I lonni gwlad estronol, A theithio mlaen i dir y De Ar aden chwim mae'r wenol. Mae dail y coed yn gollwng 'nawr Eu gafael ar y cangau, A gwyntoedd llym y Dwyrain sydd 'N eu taflu hyd y llwybrau; Mae wyneb anian 'nawr yn brudd, A gwelw yw ei gruddiau, A'r wybren gynt mor dlws ei wedd Yn llawn o ddu gymylau. Mae'r Hydref prudd yn d'od yn chwim I lwyr feddiannu'r tiroedd, A theg awelon dedwydd haf Sy'n troi yn ffyrnig wyntoedd Ffarwel, ffarwel i'r hafddydd teg, Cawn eto gwrdd yn union, Pan dreng yr Hydref llwyd ei bryd Cawn wel'd dy wyneb tirion. BOB SALUSBURY.
DEIGRYN HIRAETH
News
Cite
Share
DEIGRYN HIRAETH AR fedd y diweddar frawd, Mr. John Evans (Abergynolwyn gynt), anwyl briod Mrs. EvaDs, 17, Lyle Street, aelod ffyddlawn yn eglwys Bethlehem, Mountain Ash, a hunodd yn yr lesu Tachwedd 4ydd, 1914. WYLAF heddyw'r dagrau'n hidl, Dan ganghenaii'r helyg prudd, Collais gyfaill mwyn a hawddgar Droai wyll fy nos yn ddydd 'Roedd ei eiriau megis diliau Gwlith ar ruddiau blod'yn claf, A thangnefedd dan ei aeliau Oedai'n bfir fel heulwen haf. Mae ein hardal yn bruddglwyfus 0 dan ddyrnod angeu du, Wedi colli'r cyfaiH hawddgar Yr anwylaf, Evans cu Trist yw meddwl fod y gwron Heddyw yn ei wely pridd, Huno mae dan ofal Iesu Hyd nes gwawria'r boreu ddydd. Ond os gwywodd yn yr anial Fe flodeua yn y nef, Dan gysgodau pren y bywyd Draw o fewn Caersalem dref; Os rhinweddau yma gollwyd Y mae'r nefoedd yn fwy llawn O'i gwir ffrydiau byw rhinweddol Gynt a darddodd yn yr lawn. Mae ef heddyw'n etifeddu Etifeddiftetk ddwyfol rad.. 'R hon ennillodd ar y ddaear Cyn myn'd adref at ei Dad Heddyw mae yn cn,Du'n beraidd Wedi uno yn y c6r, Ni bydd diwedd ar ei ganu Tra bo nefoedd Duw ein 16r. Os mai marw oedd ei dynged, Os i'r bedd bu raid ei fyn'd, Fe ofalodd yn ei fywyd Am gael Iesu iddo'n tfryn'd- Ffryna a'i daliodd yn yr afon, Un aeth gydag ef trwy'r glyn, Ac 'rwyn credu ei fod heddyw Yng nghwmpeini engylgwyn. Deulu anwyl na alerweh Megys rhai heb obaith mwy, Fe feddiannodd noddfa dawel Yn y Mab a'i ddwyfol glwy"; Chwareu mae ei delyn euraidd Fry yn ngwlad y bythol hedd, Heb un gorchudd ar ei wyneb Na cbysgodion yr un bedd. 40, Dyffryn Street, EVAN MORGAN. I 40, Dyffryn Street. EVAN MORGAN. Mountain Ash.
I r I UN OR RHAI BYCHAIN HYN'…
News
Cite
Share
I r I UN OR RHAI BYCHAIN HYN' I HEDEG heibio mae ein bywyd, Ninnau yn ddi-fater iawn, Atal cymorth yn y bore, Colli cyfle y prynhawn Tra. 'r'ym ni yng nghanol digon, Pawb yn lion a gruddiau iach, Cofiwn am dylodi'r Belgiaid, Cofiwn eu hamddifaid bach. Hoff yw'r lesu o'r rhai bychain, Plentyn pob rhyw iaith a gwlad, Hoff o'r Belgiaid bach sy'n dioddef Eisieu bwyd heb dy, heb dad lesu anwyl t6dd galonau Trwy oleuni'th aberth gwyn, Dyro galon inni fwydo Pe ond un o'r bychain hyn. Y mae cannoedd yn ddi-gartref Fagwyd gan rhyw dyner fam, Eto'n disgwyl wrthym ninnau Eu cysgodi rhag cael cam Na foed neb â.'i enw'n Gristion Heddyw'n llawnder Dyffryn Clwyd, Atal cymorth bach i'r Belgiaid Sydd yn drist ac eisieu bwyd.  MAIR MYFANWY HUWS. I Oerddwr, Beddgelert.
I ENGLYNIONI
News
Cite
Share
I ENGLYNION I Y GWAREDIGION. UwcH beichiau, iach o bechod-yn nofio Mewn afiaeth di-ddarfod Cwmwl tystion i'r cymod, Yn rhydd o'u clwy'n rhoddi clod, Melys yw cAn eu moliant-i'r Iesu Am rasol faddenant; 0 swn twyll yn seinio tant, Mwy yn y nef mewn nwyfiant. Dyrchafwyd i'r iach hafan-o afael Pob gofid a griddfan Di-boen i gyd heb un gwan, Nag anghenog yng Nghanaan. Addolwyr sancteiddiolaf-yn moli Ym mhalas Goruchaf; Dynion heb n6d anaf, Mewn aur nen yn nghwmni'r Naf. I Dolpandy, Penllwyn. J. EDWARDS. I
I NODION OR , DRYCH.'I
News
Cite
Share
I NODION OR DRYCH.' I Y DRAFFERTH gyda barddoniaoth. ebe rhywun, yw nad beirdd sydd yn barddoni! Gellid dyweyd yr un modd gyda Ilawer o bethau. Mae gan y Prydeinwyr i ddiolch fod eu gwlad yn amgylchynedig gan 16r; neu buasai y Caisar ynfyd wedi gwteyd ym- drech rw goresgyn, Echrydua yw meddwl am wlad o ddoetnion yn cymmeryd eu har- wain gan wallgof! Pa'm y terfysga pobl y byd ?—y gelyn ymgynghora'n nghyd. Bygythia Brydain nos a dydd, a rhega ei gwareiddiol ffydd I Di wy awyr ac o dan y dw'r bygythia ddis- tryw erch, yn siwr! Diolchwcn bawb i'r Arglwydd I6r fod genych wlad a'i muriau'n Ar dir mae'r Caisar yn gwanhau; ei dduw ac yntau'n fregus ddau; edrychant tua'r awyr fry a than y dw'r am gymmhorth cry'; grwgnacha Cai A'i lidus wep, gan wgu ar ei Syb a'i Zep. Diolchwch bawb i'r Arglwydd 16r fod genych wlad a'i muriau'n f6r! Clyw yma, Cai! Gosododd Duw yn Mbrydain Seion dynol ryw; nis gall na Zep ychwaith na Khrwpp, dy helpu'r Caisar ynfyd, twpp 1 Fe chwardd y nef am ben dy *g, a'r diafl a wawdia'th dymmer I ddrwg! Diolchwch bawb i'n Harglwydd fod genych wlad a'i chaerau'n for Mae y Caisar yn efrydydd dwfn a dyfal o'r Beibl, ac ai tybed y gwelodd a ganlyn o'r Salmau—y lv., a'r fed a'r 21ain o'r adnodau;—'Efe a estynodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlawn ag ef efe a dor- odd ei gyfammod. Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon; tyner- ach oedd ei eiriau nag olew, a hwy yn gleddyfau noethion.' Yna addewir:—'Ni Ad Efe i'r cyflawn ysgogi byth. Duw! ti a'u disgyni hwynt i loydew dinystr,' &c. Yr oedd yr Hen Lyfr wedi darllen y Caisar a'i dynged cyn iddo ef ddarllen y Beibl. Ofer goel dosbarth e bobl yw, y gwrchfyga iawnder orthrwm o hono ei hun, heb eisieu ymyriad o gwbl o du dyn. Y mae hyny fel credu y gall dyn orchfygu oerfel heb ofalu fod ganddo Id at ei dAn Bechgyn i'w hedmygu a'u hef«lychu yw y ddau faeslywydd yn Ffraingc a Belgium —Joffre a French. Y maent wedi cyflawni campau y cofir am danynt am lawer o oes- au, ac etto ni enwant eu hunain. Dau ddyn mftd a medrus! C16d iddynt 1 Druan o ddwrn dftr ac arfogaeth ddis- flaer y Caisar! Bydd yn rhaid iddo fyned â. hwy i siop y g6f cyn bo-hir I Yn siwr. Cyst i Germani, hefyd, yn ddrud i dd'od i'r heulwen, am iddi ymgeigio -d'od ar hyd ffordd gorthrwm a haerllugrwydd. I Ebe'r Caisar wrth Sam:Rwvn teimlo fel am roi tro i Canada, a throi allan Sb6D,' We], meddwl ddwywaith cyn cychwyn i'r 1 daith,' ebe Sam, gan fti edtych o'i bigyn i'w fdn. F« elai Mon Ro yn aw, oi go' p. elywai dy fod di am lymmud i'n plith. Ao- awn ar fy llw, y boys, elen. nhw ar fyr i dy lynsho, a theimlet yn chwith Cenir am Gymru ei bod yn v lad beirdd a chantorion, ac etto clywir y g.yn nad oes o'i mewn salmau milwrol-nalmau yn cyff- wrdd A chalon y milwr. Hyderwn y bydd i'r Eisteddfod Genedlaethol ofalu am hyn a hyn allan. Mae genym bentyrau o englyn- ion, o gywyddau, ac awdlau a phryddestau- di-ysbrydoliaeth, ond nid oes genym g&n y gall milwr-ei chanu, neu wrandaw ar ryw un arall yn ei chanu Treitschke, y philosophvdd gwirion y sonir cymmaint am dano v'dyddiau hyn, a welai Ragluniaeth Daw yn yr oil o hanes Prwssia i lawr hyd yn ddiweddar. Nis gwyddom beth fuasai ei farn am waith y Caisar a'i giwed yn Belgium a Ffraingc; ond tebyg na welsai ddim allan o le yn nhrueni Belgium! Ei dduw yntau oedd ddiafol Cymru. Rhyw edlych bychan di- olwg ydoedd, gydag agwedd afler, a llais- annymunol, a diafl bach vn llettya yn ei benglog ar hyd ei oes. Dywedai i dduw (pwy wyr pa dduw ?) fod yn garedig wrtho. ef a i deulu; mor garedig fel y teimlai fel plygu yn isel o'i flaen. Mae llawer o wir- yn y-syniad hwnw mai gwaith y dyn ei hun, yw ei dduw! Gresvnus yw cael y doethion yn Nghvmru yn dadleu ac ymrafaelio A'u gilydd tra y mae y gelyn diegwyddor a didosturi yn cynllunio ac yn cynllwyno vn mhob ffordd y gwyr efe am dani i ddinystrio Prydain fel y dinystriodd Belgium. Gresynusr hefyd, yw gweled yn mhlith y rhai hyn bregethwyr a phrifathraw. Nid ydym ar- yr ochr hon yn gallu dirnad beth yw bwr- lad y bobl hyn wrth gadw y safle wirion y maent arni. A ydynt yn addaw yr ymladda Duw dros Brydain os y peidia y fyddin ? A ydynt yn addaw os yr ymddiriedwn ni yn Nuw yn hollol y cyfyd Efe fyddin o angyl- ion o dan yr Archangel Gabriel yn olynydd i John French a'i fyddin fecban wrol, y Belgiaid, a'r Ffrangcod? Beth y mae y Prifathraw Rees a'i gymdeithion vn ei addaw fel moddion effeithiol i acbub eu gwlad rhag y Caisar a'i lengoedd anwar?- A ydynt yn addaw yr a y Caisar a'i fyddin yn eu hoi os y teifl y fyddin Brydeinig ei harfau i lawr ? Pa drefniadau sydd gan y Prifathraw Rees a'i gyd-gynerhorwyr i waredu Prydain a'i gwareiddiad rhag: distryw ? Clywir llawer o bethau gwirion y dyddiau hyn gan gefnogwyr heddwch o ryw fath. Y ffordd i gael heddwch, ebe un dosbarthr vw peidio gwneyd arfau i ymladd A hwy. Ebe eraill, y ffordd i gael heddweh vw i bawb daflu eu harfau i lawr. Ebe eraill. & chredai un o wtr penaf Lloegr hyn flvnydd- oedd yn ol, Pe taflem ni ein harfau i lawr, gofalai Duw am danom.' Ebe eraill. I Y ffordd fwvaf effeithiol i roi diwedd ar ryfela yw lladd yr ymherawdwyr a'r bren- hinoedd oil.' Dyna gynlluniau eu clywir bob dydd o'r braidd, ond gadawant allan un elfen bwysig-y bwysicaf o'r oil, sef nad yw dyn etto (yn gyffredinol felly) yn hedd- ychol, ac felly rhaid i'r dosbarth heddychol fydd gofalu eu bod mewn ffordd i amddiffyn eu hunain rhag y dosbarth anheddychol. Dyna wna anwareiddiweh. sef ymosod a dyna wna gwareiddiad, sef amddiffyn; a bydd yn rhaid i wareiddiad amddiffyn ei hun a i eiddo, a'i freintiau, gyhyd ag yr ymosodo anwareiddiweh; ond etto bob amser gan gynnyg hedweh i anwareidd- iwch ar y telerau ei fod troi yn heddychol hefyd. Mae yr ymherawdwyr yma oil yn gredin- wyr mewn duw, ond duw fel hwy eu hun- ain; ac y mae yn rheol fod y rhai a gredant mewn duw penarglwyddiaetbol yn ben- arglwyddiaethol. Ni thalai iddynt gredu mewn duw gwerinol—duw yn caru y bobl a'u hawliau. Breningarwyr oedd y Piwri- taniaid hyd y cawsent fre Tlli nperiarzlwvdd- iaethol o'u hochr hwy. Yr oedd blaenor- iaid Piwritanaidd Lloegr Newydd yn freningarol, a siaradent ya wawdus am riniaetu. Mae pobl benarglwyddiaetbol oU yn hoffi duw o'r un deimlad ac ewyddor a hwy. Ebe Bismarc (ac yr oedd efe yn eithafol benarglwyddiaethol): 'P. na chredwn yn Nuw. byddwn o blaid gwerin- iaetb.' Cyfundrefn ddi-dduw oedd gwerin- iaeth iddo ef, am y rheswm yn syml na fyn gweriniaoth frenin. Yn y meddwl pen- arglwvddiaethol, y mae y brenin a'i dduw yn anwahanadwy. Mae gan y Caisar etto ei dduw yntau, adlewvrchiad o hono ei hun. Bob tro yr a o flaen v drych gwel ei dduw, ae y mae yntau yn hoff o gredu Yr hwn a m gw61 i a w61 fy nuw!'
RHIWMATie AC ANHWYLDEB Y KIDNEY.
News
Cite
Share
RHIWMATie AC ANHWYLDEB Y KIDNEY. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acM crystals yn y llywethau a r cymmalau, effaith rmod o uric acid yn y cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw'r achos penaf o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, careg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeith- iol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi 4wella llu o achosion, wedi i feddyginiaeth- au eraill fethu, yr hyn a gj'frif am y ffaith -m bod yn cyflym gymmeryd lie meddygin- iaet-hau ar ol yr oes "—ydynt yn ami lllan o gyrhaedd pawrb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o focses o Dabledi Ætora yn caej eu cynnyg yn rliad er profi eu bod yn llawn warantu eu diisgriflad-medd- vginiaeth onest at y Kidney am bris gonest, 1. lie. y bocs o 40 o dabledi, neu 6 booa m 6s. Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae y oynnyg hwn o un boes llawn yn oarhau mewn grym i ddarllenwyr y 'Faner' im ddeng riwrrtod o'r dyddiad hwn, ac ar fr ammod fod y rhvbudd hwn yn cael ei dori allan a'i anfon' gyda 3c. mewn stamps, onid fe anwybyddir y ceisiadau; a'r amcan rdvw, diogelu rhag rhai nad oes arnynt ang- en am y cynnyg. Cyfeiriad-Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C.
[No title]
News
Cite
Share
Ddechr11 yr w?thnos bu fanv Mr. Robert ?Griffitlis, Plas Belle, ger Pwllheli, yn 71ain "? mlwydd oed. Bu yn ddiacon amlwg gyda'r Annibynwyr am dros h&nner canrif.