Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

...----Y GOGLEDD

News
Cite
Share

Y GOGLEDD Gwneir ymgais i sicrhau llysoedd man- ddyledion gael eu cynnal yn yr Abermawr. Treuliodd Arglwydd' Stalbridge y Sabbath fn Ngliaergybi, ar ol talu ymweliad a'r werduon, yr wythnos ddiweddaf. Y mae y Parch. D. Emrys James., Dowlais, wedi cydsynio a galwad eglwys Annibynol Saesnig Bwcle, i fod yn olynydd i'r Parch. T. Mardy Rees. Pasiwyd penderfyniad unfrydol yn nghyf- arfod Cynghor Ffestiniog, dydd Gwener, yn ffafr y symmudiad tuag at estyn yr ethol- fraint i brydleswyr. Ymgasglodd tua dau cant o bobl at y Groes yn Trallwm, nos Iau, i wrthdystio yn erbyn y penderfyniad i wneyd y Drefnewydd yn bencadlyfc y gatrawdi sirol o'r Fyddin Diriogaethol. Pellderfynodd Cynghor Dosbarth Dinesig Gonnah's Quay ddeisebu Cynghor Sirol sir Fflint am i'r lie hwnw gael tri o gynnrychiol- wyr ar Fwrdd Gwarcheidwaid Treffynnon, yn lie daUj fel yr oedd wedi bod hyd yma. Rhyw drigain mlynedd yn ol yr oedd dyn o'r enw Richard Williams wrthi yn toi y Tlotty newydd yr adeg hono yn Mangor. Dydd Sadwrll cyfarfyddodd a'i farwolaeth yn y Tlotty hwnw, yn 94ain mlwydd oed. Cynnygiwyd bywoliaeth Abfcrffraw, Mon, gan y Prifweinidog i'r Parch. W. A. Ed- wards, rheithor Llangan, Dyffryn Morgan- Wj7;. Dywedir fod holl werth y fywoliaeth yn 500p. yn y flwyddyn, gyd'a thy, a naw erw o dir eglwys. Treuliodd Mr. Williams Jones, A.S., ddi- wedd yr wythnos ddiweddaf yn Capel Curig, ar ol cymmeryd rhan yn agoriad Ysgol y Cy- nghor yno. Y mae wedi addaw anerch cyf- arfod o'i gefnogwyr yn Bettws-y-Coed, Mawrth 14eg. Y mae gweddw ieuangc yn Nhreffynnon newydd golli tri o'i phlant trwy ennyniad vr ysgyfaint. Bu dau o'r plant farw ddechreu yr wythnos, a chymmerodd yr angladd dwbl le ddydd lau. Bu y trydydd plentyn farw foreu ddydd Gwener. Cafodd cyfarfod hanner blynyddol Cwmni Gweithiau Dwfr Penarlag a'r gymmydogaeth ei gynnal yn Nghaer, dydd Sadwrn. Yr oedd yr adroddiad yn darparu ar gyfer talu llog o 3! y cant yn y flwyddyn, a hyny yn rhydd oddi wrth dreth yr incwm. Cyflwynwyd anrheg o ddesg ac anerchiad oreuredig i'r Parch. Tad Jones, gan ei gyn- nulleidfa, ar ei symmudiad o Gaernarfon i gymmeryd y swydd o Broffeswr Cymraeg yn Ngholeg St. Mair, Treffynnon. Yr oedd y Tad Jones wedi Ilafurio yn Nghaernarfon am 35ain o flynyddoedd. Cyfarfyddodd Mr. William Pierce, Fferm y Ffridd, Rhyd Ddu, yr aelod Rhyddfryd- ig dros Beddgelert ar Gynghor Sirol sir Gaer- narfon, a'i farwolaeth dydd Sadwrn, yn 50ain mlwydd oed1. Nid oedd yn teimlo ei iechyd yn gryf er's rhai misoedd, a chafodd anwyd wrth fyned adref o Bwyllgor Addysg sir Gaternarfon, dydd Iau. Yr oedd yn hynod o boblogaidd. Anfonodd Mr. Thomas Best, Liverpool, per- chenog yr agerlong Harold,' yr hon a adawyd yn Nghaergybi yn ystod yr ystorm ddiweddar, lOp. fel "rhodd i griw y bywyd- fad, fel cydnabyddiaeth o'u hymddygiad gwrolfrydig yn achub y naw dyn o'r Ilong. Y mae'n ddealledig y gwneir ymgais i godi yr 'Harold,' yr hon sydd yn weledig pan y bydd y llanw yn isel. t)ydd' Sadwrn cynnaliodd Mr. Pentir Wil- liams, crwner sir GaernarfonJ drengholiad ar gorph Martha Williams, Mount Street, Ban- gor, yr hon a gafwyd wedi marw ar esmwyth- fainge yn ei thy. Ymddengys iddi fod yn cwyno yn ystod yr ychydig ddyddiau diwedd- af wrth rai o'r cymmydogion. Yr oedd yn ei 79ain mlwydd oed. Dychwelwyd rheith- farn o Farwolaeth trwy achosion naturiol.'

. Y DEHEU.

ABERAERON.

TREGARON.

Cwrthod Talu'r Dreth.

LLANYMDDYFRI.

MR. 0. M. EDWARDS YN LLANYMDDYFRI.

....-..-----"-'.__.._------0…

« A YW CHWAREUON YR OES YN…

LLYS TRWYDDEDOL GOHIRIEDIG.

----_# LLANELWY.

CAPEL CURIG.

PRION, GER DINBYCH,I

.-_.'----,---.---GWRECSAM.

TREFFYNNON.

[No title]

TELEGRAMS OR 'CENTRAL TELEGRAPH…

WELL PRAWF NA DADL.

Advertising

[No title]