Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
GWYTHERIN.
GWYTHERIN. GYDA gofid yr ydym heddyw dan orfod i gys- sylitu y gair diweddar' cig enw Mr. Samuel Williams, Llwyn Saint, o'r plwyf uchod. Ym- adawodd a'r fuchedd hon dydd Sadwrn, Mai 17eg, yn 73-tin mlwydd oed. Cafodd gystudd trwm am rai wythnosau, ond dyoJdefodd y cyfan gyda thawelwch, ac ymostyngiad i'r ewyllys ddwyfol. Nid oedd ond chwe mis i'r diwrnod er pan gollodd ei anwyl briod yn dra disymmwtb ac effeithiodd yr ergyd drom ac annisgwyliadwy hono yn fawr arno. Yr oedd yo ddyh fcawraidd 0 gorl-holaeth ac hyd yn cldiweddar, behdithiwyd ef ag iechyd rhagorol. Mwynhaodd yb ddibrin b webau Rhagluniaetb, betyd a throai mewn llawnder a helaethrwydd o bethau y byd a'r bywyd hwn. Yr oedd yn adnabyddus i gylcb iiang yn y rhan yma o'r wlad fel amaethwr cyfnfol ac egnïol. Yr oedd yn un cyfeillgar, ac agos iawn at bawb. Yr oedd hyd yn oed ysgydwad ei Jaw yn siarad yn hyawdl am dynerwcb a diffuantrwydd ei galon. Nid oedd neb parotach nag ef i wneyd unrbyw gym- mwynas, neu i roddi belp Haw yn mhob rhyw fodd, pan welai wir angen. Yr oedd yn flaenor cymmeradwy gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Gwytherin er's 14eg mlynedd. Teimlir gwagle mawr ar ei ol fel y cyfryw. Cyfranodd yn helaeth tuag at yr achos yn y lie yn ystod ei fywyd ac yr ydym yn deall iddo adael swm syIweddol yn ei ewyllys i'r un amcan. Cym- merodd ei angladd le prydnawn dydd Mercher, Mai 21ain, yn mynwent yr eglwys, pryd y daeth llu mawr o gyfeillion a pherthynasau yngbyd i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo. Gweinyddwyd yn y t, cyn cycbwyn gan y Parch. R. Williams, Tanyfron ac ar lko y bedd. gan y Parcb. W. Thomas, Llanrwst. Heddwch i'w lwcb.-Uohebydd.
ARAETH GAN MR. ELLIS GRIFFITH,…
ARAETH GAN MR. ELLIS GRIFFITH, A.S. CbfNNALlWYD cynnadledd yn Llangefni yr Wythnos ddiweddaf, er gwrthdystio yn erbyn y Mesur Addysg. Mr. Ellis Giiffith, A.S yr hwn a lywyddai, a ddywedodd mal 23 o aelodau oedd wedi pleid. leisio yn erbyn darlleniad cyntat y mesur hwn. Ac or rhai hyn yr oedd pedwar yn aelodau dros Gymru, a'r ddau dros Ogledd Oymru oeddynt cynnrychiolwyr Meirionydd a Mon (cym.). Y cwestiwn yn awr ydoedd, pa un a oedd y mesur yn rhy ddrwg i gael ei ddiwygio. Dywedai y Toriaid fod yni egwyddor yn y mesur, a'r egwyddor hono ydoedd, fod un awdurdod yn mhob sir i reoli addysg elfenol ac eilraddol. Yn y lie cyntaf, nid oedd yr awd urdod' hwn yn awdurdod; ac yn ail, nid oedd yn un awdurdod. Nid cefnogi addysg oedd bwriad cefnogwyr y mesur. Pe buasai yn cael ei fwriadu i gefnogi addysg, ni fuasai neb yn barotach nag Ymneillduwyr Cymru i roddi cefnogaeth iddo. Yr oedd y mesur yn un o wrthdroad hollo], o blegid yr oedd y Llywodr- aeth yn bwriadu adsefydlu ac ail waddoli Eglwys y wlad-nid yn ffordd yr • hynafiaid duwiolfrydig,' ond yn uniongyrchol o bocedau y trethdalwyr. Dylai drysau yr ysgolion, yn ol y blaid Eglwysig, arwain yn uniongyrchol l r Eglwys. Dyna pa ham yr oedd yr Y mneill duwyr wedi deffro i'w hymdeimlad o ddyled- ewydd, ac yr oedd yn llawn bryd iddynt; wrth dystio yn erbyn y mesur. Pa fodd y gwnai effeithio ar sir F6n ? Yr oedd ganddynt dair o ysgolion canolraddol, yn cael eu llywodraethu gan y Corph o Lywiawdwyr Sirol; ac o dan y mesur hwn dyma yr awdurdod a fyddai yn edrych ar ol addysg elfenol yn ogystal. Yr oedd wyth o'r aelodau yn cael eu hethol gan y Cynghor Sirol, tri gan eraill, dau gan Goleg Bangor, ac yr oedd y ddau arall yn aelodau cydweithredol. Yr oedd yn ammhossibl iddynt edrych ar ol addysg elfenol; ac wedi iddynt ddyweyd hyny, nid oedd angen dyweyd mwy. Yr oedd yna 64 o ysgolion elfenol yn sir F6n, o ba rai yr oedd 25 yn ysgolion gwirfoddol, a 39 yn ysgolion y bwrdd. Cyllid yr ysgolion gwir- toddol ydoedd 4,600p., o'i gymmharu & 9,000p. o gyllid ysgolion y bwrdd. Darparai y meaur i'r ysgolion gwirfoddol gael eu gosod ar yr un tir ag ysgolion y bwrdd, mewn trefn iddynt gyetadlu a hwy ac mewn trefn i wneyd hyny, yr oedd yn rhaid iddynt gael chwanegiad o fil o bunnau yn eu derbyniadau blynyddol. Y Cynghor Sirol oedd i ddarparu ar gyfer hyn, a'r unig ffordd i'w godi ydoedd, codi y trethi sirol. Pe buasai y cyhoedd yn meddu llawn reolaeth dros yr ysgolion, ni fuasent yn cwyno cymmaint yn erbyn hyny; ond nis gaUent gymmeryd y llywiawdwyr presennol i ffwrdd. ac ni chaniateid iddynt ddethol ond un rhan o dair o'r oil. Yr oedd allan o bob cwestiwn i Ymneillduwyr Mon ymfoddloni ar y fath gyn nrychioliad. Yr achos, o'r ochr arall, ydoedd mai hwy oedd wedi darparu yr adeiladau, a'u bod, mewn canlyniad i hyny, yn meddu hawl i ryw ystyriaeth. Yr oedd efe wedi gosod gwelliant ar y mesur i lawr, i'r perwyl y dylai cynnrychioliad y blaid Eglwysig ar ly wodraeth- iad yr ysgolion cenedlaethol fod yn ol rhent yr adeiladau, a gwerth yr a(Igyweiriadaii (elywch, clywch). Yn sir F6n cyfanswm y tanysgrifiad- au tuag at y 25 o ysgolion gwirfoddol ydoedd 480p. ac ar gyfrif hyny, yr oeddynt yn gofyn am lawn reolaeth dros yr ysgolion-neu, fel y galwent hwy ef, dwy ran o dair, ac mewn rhai enghreifftiau y bummed ran o chwech o'r cynnrychioliad (cywilydd). Yn ol y mesur darperid cynlluniau yn mhob sir, ac ar y cynlluniau hyn y sylfaenid addysg y sir. Nid oedd ganddo ef unrhyw wrthwynebiad i'r Llywodraeth bresennol wneyd ei goreu i'w cyfeillion, ond ni ddylent wneyd dim a droai yn fantais i olynwyr y cyfeillion hyn (clywch, clywch). Cyn y gallent gael addysg dda, yr oedd yn rhaid iddynt gael lly wodraethwyr da yn mhob ySgol, athrawon da, yn cael eu talu yn dda, a chael y bobl yn gyffredinol i deimlo dyddordeb mewn addysg. Oddi eithr iddynt gael y pethau hyn, ni chaent fciyth gynllua da o addysg; ac am nad oedd y mesur hwn.yn dyfod i fyny &'r gofvnion hyn, yi oeddynt hwy yn gwrthdystio yn gryf yn ei erbyn (cyw. mawr). Ar gyrinygiad y Parch. D. R-es, yn cael ei gefnogi gan Mr..1. Lewis, LlaiillibOj a'i attegu gan Mr. W. Thomas; Llangefni, penderfyn' wyd: I.Viod y gynriadledd Hon, a gyntirychiola Eglwysi lihyddijn sir Fôn, yn condeiiinio y Mesur Addysg oedd yn a^r o fiaen y senedd fel un oedd yn gwneyd chwyldroad ar Gyttun- deb 1870, ae am ei fod yn anghyfiawnder cyhoeddus, yn gymmaint a'i fod vn dinystrio rheolaeth boblogaidd uniongyrchol, a nodwedd anenwadol yr ysgolion anenwadol oedi yn cael eu cynnal ya hollol gan y trethdalwyr.' Ar gynnygiad Mr. Lewis Hughes, yn cael ei getnogi gan y Parch. John Kelly, pasiwyd 'Fod y gynnadledd hon yn gwrthdystio, mewn modd cryf, yn erbyn y mesur am ei fod yn gorfodi Ymneillduwyr i dalu trethi tuag at gynnal ysgolion lie y mae yr addysg yn groes i'w golygiadau a'u cydwybodau yndarparnar gyfer gweinyddu prawflwon i athrawon a delid gdti y Wladwriaeth, ac felly yn cadw allan o'r alwedigaeth fwyafrif o athrawon oedd yn ddigon galluog mewn ystyron eraill; aiti ei fud yn peryglu sefyllfa y colegau Normalaidd, ac am y cynnydda nifer yr ysgolion enwadol, ao nad oes ynddo un adran sydd yn darparu ar gyier symmud yr anghyfiawn 'er y mae yr Eglwysi Khyddion wedi bodlyo dioddef o dano yn rhy hir.'
LLYS YR YNADON.
LLYS YR YNADON. OYDD Liun, ger bron Mi H. Clegg (oadeirydd) 0 Trevor Williams, VV. H Jones, G. J. Roberts. 0 H. Ffoulkes, a T. Jonea, gwrandawyd yr achosion canlynol Esgeuluw ei wraig a'i blant --Anne Parry. Ty'n'rardd, BryusieDeyn, a ghuddai ei gwr, Birnett Parry, o esgeuluso ei chynnal hi a'r p!ant Gwnaed arel-itt) am 10s yr wythoos GyhiidLdiad i deithio heb docyn -Richard Jones ac Owen Williams, Llangefni, a gyhuddwyd o deithio o'r Gaerwen i Holland Arms heb docyn. Erlynid gan Mr. W. A Hughes, cuddswyddog. Addefodd y ddau eu bod yn euog, ac fod yn ddrwg iawn ganddynt am y tro. Dirwywyd hwy i 2s 6c a'r costau. Cadw ci heb drwydded. H Hughes, Cross Keys, Bryneiencyn, a gyhuddwyd o g--idw ct heb drwydded. Dirwy o 2s. 6c., a'r coatau. Cyhuddiad o dori i dy —Ellen Williams, Van- gaffo, a gyhuddwyd o dori i mewn i dy yn Llan- fair y-ewmmwd, a lladrata skirt, a 4s 11 jc mewn arian. Tyatiodd Elizibeth Williams, y perchenog, ac Ellen Jones, morwyn, yn Nghareg y bwa, Dwyran. Tystiofl yr Heddwas R. Thomas fod Ellen Williams Wt d addef wrtho, pin g hu d vyd hi, ei bod wedi oymmeryd y s/cirk, cnu nas gwyddai ddim am yr arian. Tynwyd y gyhuddiad o dori i'r tf i lawr i'r cyhuddiad o ladrad. Cyf- lwynodd y ddiffynyddes amryw lythytaa yn dangos oymmeriad da i'r adeg bresennol. Gollyng- wyd hi yn rbydd dan ddeddf y troseddwyr cyntaf. Heb oleu -John Hughes, Pen'rallt, Gwalchmai, a gyhuddwyd o beidio defnyddio goleu yn ei gerbyd. Gorchymynwyd iddo dalu y costau. Ellen Hnghes, Ctte Erin Ceryg Ceinwen, a gyhuddwyd o gyffelyb drosedd. Dirwywyd hi i 2s 6c a'r costau. Heb diwydde l.—John Roberts, Gors, Llanfi hangelesgeifiog, a gyhuddwyd o gadw ci heb drwydded. Tt osglwyddo trwydded. Caniatawyd tros- glwyddo trwydded y Malakoff Ion, Hermon, o enw Riobard Williams i eow ei cbwaer, Mrs. Hughes, Kiagsland. Meddwdod, &o.-William Jones, Peoybryn, DwyraD, a ddirwywyd i 2s. 6c a'r costau, am fod yn feddw ac afreolus. W. Thomas, Edmund street, Bangor, i Is a'r costau, am gyffeiyb drosedd. W. Parry, diweddar o Hendregadog, LlaDgaffo, a orohymynwyd i dalu 5s. o gostau. Hugh Owen, teiliwr, Rhosybol, a ddirwywyd i Is, a'r costau. Henry EviDS, Tyddyn uchaf, Llan. iestyn, hefyd, a orchymynwyd i dalu 5s. o gostau. Afreolus.—Cyhuddwyd H. Price, Ty'nygongl, a W. Hughes, Caeau crinion, Ceryg Ceinwen, o ymddwyn yn afreolus ar yr heol yn Llan- gefni. Gorchymynwyd iddynt dalu 2s 6c. yr un o gostau. Gorchymynwyd i R. Lee Thomas, Gwalchmai, hefyd, i dalu 2s 6c. o gostau ar gyffelyb gyhuddiad.
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD.
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD. MR. S. MOSS, A.S., YN Y RHOS. Nos Fercher diweddaf, tua banner awr wedi pump, yr oedd y Rhos yn terw gan swn y seindorf yn gorym- deithio i gyfarfod Mr. S. Moss, A.S. Yn swn yr offer- ynau yr oedd yr hen set wleidyddol yn ennyn yn ffiam yn y funyd, fel yn mhell cyn dechreu y cyfarfod yr oedd Neuadd Gyhoeddus y Rhos yn orlawn. Pan gyrhaeddodd Mr. Moss i'r neuadd aeth rhyw don o siomiant dros y dyrfa fawr am nad oedd yno na si na miw am Mr. William Jones, A.S., a Mr. Clement Edwards, y rhai oeddynt wedi eu cyhoeddi i fod gyda Mr. Moss. Eglurwyd eu bod yn rhwym yn y Gyn- nadledd Ryddfrydig fawr yn Ngbaerdydd. Gyda Mr. Moss ar y llwyfan yr oedd Mrs. Moss, Mr. E. Hooson, y l'archn. R. Roberts, Rhos; Isfryn Williams, Ponge- iau; Mr. Roberts, bargyfreithiwr, Caer; y Mri. Isaac Smith, R. Jones, n. MürgD, a D. Davies. Cymmerwyd y gadair gan Mr. E. Hooson. Eglurodd mai amcan y cyfarfod ydoedd protestio yn erbyn y Mesur Addysg a threth y bara; a chynnygiodd yn ffurfiol y penderfyniad canlynol:—'Fod y cyfarfod hwn yn anghymmeradwyo Mesur Addysg y Llywodr- aeth am ei fod yn amcanu dileu Byrddau Ysgol, ac i waddoli yn mhellach yr ysgolion gwirfoddol allan o arian y wlad, a hyny heb ganiatau arolygiaeth gy- hoeddus deg a chyfiawn, ac, hefyd, am y buasai liawer o'r athrawon yn cael eucau allan o'r ysgolion gwir- foddol ar dir enwadol, er fod y wlad ya talu y cyflog- au; ac yn mhellach, fod y cyfarfod hwn yn dadgan ei argyhoeddiad na fydd unrhyw drefniad o'r Cwestiwn Addysg yn foddhaol os na fydd yr holl adranau o dan ofal rhai fydd wedi eu bethol i'r pwrpas hwn yn union gyrchol fel cynnrychiolwyr y bobl, a'r hwn nad ydyw yn darpatu cyfleusderau o dan lywodraethiad cy hoeddus yn nghyrbaedd pob plentyn. Etto, fod y cyfarfod hwn yn gwrthdystio yn y modd cryfaf yn erbyn treth y bara.' Chwanegodd y llywydd fod pedwar cwestiwn o flaen y byd yn awr, Terfyn y rhyfel, Coroniad y Brenin, y Mesur Addysg, a Threth y bara. Buasai yn dda ganddo weled heddwch cyn y coroniad. Dymunai, hefyd fod y Mesur Addyag yn cael ei dynu yn ol. Ac yr oedd treth y bara yn sicr o wneyd y tlawd yn dlotaoh, a'r anghenus yn fwy ang- henog. Trwy yr olaf rhoddid cam yn ol at y dyddiau yr oedd poblynnewynu o eis eu angenrheidiau bywyd, ao yn dadwneyd y gw-,ith da a wnaed gan Cobden a Bright gynt. Gyda golwg ar addysg, pedair ysgol ydoedd yn mhlwyf Rhiwabon yn J 871, a thair o honynt yn rhai Eglwysig, a'r Hall yn frytanaidd. Yr adeg hono 800 oedd ar y llyfrau, ond YUllwr yr oedd 4,995. Y peth mwyaf pwysig ar ol crefydd ydoedd addysg i blentyn. Mor wrtbun ydyw i blant gael eu hyfforddi mewn egwyddorion crefyddol yn groes i feddwl eu rhieni, a'r rhai nad ydyw y plant yn eu deall. Pwy oedd yn gofyn am y Mesur Addysg hwn ? A ydyw y wlad yn gofyn am dano? Nag oedd ond yr oedd gan y parsoniaid ei eisien. Yr oedd y curad- iaid yn gofyn am dano. H6nai yr Eglwyswyr fod mwy o blant yn mynychu eu hysgolion hwy nag eiddo yr Ysgolion Byrddol. Ond yn ol ystadegau yr oedd chwaneg o yn agos i 200 000 yn mynychu yr Yagolion Byrddol nag ydoedd yn myued i'r ysgolion Eglwysig. Yr oedd y mesur hwn y ffiwyaf anonest a phechadurus a gynnygiodd y Torïaid iddynt erioed. Galwyd ar Mr. Isaac Smith I eilio, yr hwn a wnaeth meTfrn anerchiad gwresog a gwir Gymreig. L'ywedodd fod liawer wedi myned heb fara er mwyn addysg. 'N-id ar fara yn tinig y bydi byw dyn.' Yr oedd 8 fyao bara a'r corp'h, ond addysg a'r enaid. Ac ynglfrt & thalu y dreth, wele ferthyr o'ch fctlaen cyn y bydd iddo byth wneyd hyny (cymmeradwyEEetfi). Yma awgrymodd y llywydd y buasai adeg y coron- iad yn amser cyinmhwys i ffurfio dirprwyaeth Anghyd- ffuiflol i ddymuno ar y brenin i ddylanwadu ar ei wrinidogion i dynu y Mesur Addysg drwg hwn yn ol. Yn nesaf galvfryd ar Mr. Samuel Moss i anerch y dyfarfod. Cafodd ef a'i briod dderbyniad brwdfrydig dros ben. Diolchodd Mr. Moss am y derbyniad cynnes a roddwyd iddo ef a'i briod. Yna cyfeiriodd at yr ymdrechion. maletetta a wnaed i'w niweidio a'i ddrygu yn ngolwg ei etkblwyr gyda gOflwg ar Feaur yr Wyth Awr. Er nad oedd yn bossibl iddo fod yn y Ty pan gymmerodd yr ymraniad le, yr oedd wedi gofaltt am gael un o'r ochr arall i beidio pleidleislo, a thrwy hyny ffurfio pilr; uef, un o bob ochr i beidio pleidleisio tr .vy gyttnndeb. Ni ellid disgwyl liawer o ddaioni i'r dosbarth gweithiol gan y Toiiaid. Y Llywodraeth oreu oedd yr un a ddygai i'r bobl y rhyddid cymdeith- asol, gwleidyddol, a chrefyddol uchaf. Yr amddiffyn- iad mwyaf i fywyd ac eiddo, a'r safon uchaf i lwydd- iant a c'aysur ar y goat ieiaf. Beth ydoedd traul y Baith mlynedd o Lywodraeth Doriaidd. Yn 1895, y flwyddyn olaf i Lywodraeth Ryddfrydig, y costau rheolaidd (norma') oedd 9 1,000,918p. Erbyn 1899 yr oedd y Llywodraeth Ooriaidd wedi chwanegu y gost i filiynaUi Nid oedd miliynau yn ddim i Lywodraeth GidwadoI Oad pa byddai unrhyw ae'od o'r Llyw- odraeth yd gorfod cadw gwraig a theulu ar lp. neu lp. 10ii, yn yr wythnos, detiai yn fuan at ei fara llaeth.' Erbyn 1900 yr oedd y tretllian wedi dyfod 1 fyny i 114\)72,OOOp., heb gyfrif un geiniog o draul y rhyfel. Chwaneger at hyny y swm o 68,001 620p, am y rhyfel, a chewoh y costau am 1900. Am 1901, y treuliau rheolaidd oedd 122,325,000p., yngbyd a swm arall o 73,193,000p. am y rhyfel. Yr amcan?yfrif o'r costau rheolaidd am y flwyddyn hon yw 126,109,000p.; gyda thraul y rhyfel, 62,400,00 Dyna'r costau, chwanegiad o 32,191,000p heb law y rhyfel. I ba le y mae yr holl'arian yna yn myned ? Telir 1,500,000 r,. i landlordiaid yr Iwerddon ac Ysgotland. Pa bryd bynag y bydd y bobl fawr hyn yn teimlo pethau yn gwasgu arnynt, oodir gwaedd, ac y mae yr anrhegion yn dechreu llifo. Telir 767 000o. yn flynyddol i'r Ysgolion Gwirfoddol, a hyny heb fod unrhyw arolyg- iaeth gyhoeddus. Derbynia y landlordiaid Gwyddelig 5 >0,000p. yn mhellach. Y mae y Llywodrae'h hon, mewn gwirionedd, yn meddwl am el chyfeillion. Tybiodd ef na chai weled y dydd y bydriai unrhyw Lywodraeth yn ddigon beiddgar i drethu bara y bobl. Trethu hyny a gadwai y bobl rhag newynu. Ond dyna a geisir wneyd Dyma restr o'r pethau adrethir dan yr enw Jd:- Wheat, corn, grain, rye, Inr-im corn, buck wheat, peas, beins, lentils, a rice. Prif ymborth y dosbarth gweithiol ydyw bara. Pa faint o'r dosbarth uchaf a deimlai golled am fara? Cyn- nwysa bwrdd y goludcg amryw bethau, ond prif ymborth y werin ydyw bara. Y mae'n anghyfiawn i drethu bara y gweithiwr, a pheidio trethu gwinoedd y cyfoethog. Pe dyblid y trethi ar winoedd, owrw, a gwirodydd, ni fuasai y rhai sydd yn eu defnyddio yn te mlo hyny. Ond trwy drethu y bara trethid yr hyn Bydd yn fater by wyd i werin gwlad. Pan feddylial am hyn teimlai gywilydd fod unrhyw Lywodraeth mc- Iwfraidd i arfer y fath foddion i gario yn mlaen ei llJwodraethitd. Gobeithiai y byddai gweithwyr yn cofio mai at FasDach Rydd, Heddwch, Cynnildeb, a Diwygiad y rhaid iddynt edrych yn mlaen am eu llwyddiant. Addysg oedd yr un peth angenrheidiol yn y wlad yma y dyddiau hyn. Heb addysg gadewid eu plant yn ol yn rhedegfa bywyd. Yr oedd yBgolion America a Germany yn troi allan filoedd o ddynion diwylliedig a choethedig. Rhaid i blant Prydain gadw ochr yn ochr a phlant y Oyfandir, neu gadewir hwy ar ol. Lie bynag yr oedd anwyboflaeth yno yr oedd caledi, trueni, a dygn dlodi. Yr oedd addysg fel pelydryn o oleuni mewn tywyllwch. Galluogai ddyn i wneyd ei waith yn hawddach a mwy pleBerus, a dygai ddedwyddwch i deuluoedd. Disgwylid i ni wneyd ein plant yn ddinasyddion da, ac nid yn Eglwyswyr da. Yr oedd efe yn erbyn talu am grefydd dyn arall. CS rhoddai ef ddeg ceiniog, ac un arall ddwy, yr oedd yn erbyn i'r dyn arall hwnw wario yr oil o'r arian. Yna aeth Mr. Moss yn mlaen i egluro y modd y byddai y Mesur Addysg yn gweithredu os pesid ef, a dangosodd mai un o'i brif amcanion ydoedd dileu y Byrddau Ysgol. Dywedai fod y tfesur Addysg y peth olaf i setlo y Cwestiwn Addysg. Angerddolai y teimlad crefyddol. Nid oedd cri am addysg yn yr etholiad diweddaf. 'Anfonwch ni yn ol i setlo y rhyfei!' dyna ydoedd y cri. Ac yn lie gwneyd hyny dygir y mesur nwn yn mlaen i foddio yr esgoblon a'r parsoniaid, Gobeithiai ef y bydd i wyth miliwn Ym- neillduwyr y wlad gyffroi y wlad ben-bwy-gilydd, nes y bydd yn ammhossibl i'r Llywodraeth basio y mesur. Gobeithiai y byddai i'r Ymneillduwyr wrthod talu y dreth, ac y llwyddir., mewn byr amser, i ysgubo y Llywodraeth Doriaidd o awdurdod, ac i osod un mewn cydymdelmlad a'r bobl yn ei lie. Cynnygiwyd diolchgarwch i, a phleidlais c ymddir- iedaeth yn Mr. Moss gan Mr. Richard Jones, ac eil- iwyd gan Mr. C. Morgan. Diolchwyd i'r cadeirydd ar gynnygiad Mr. D. Davies (Trebor Qrugog), yr hwn a eiliwyd gan Mr. W. Garner. GOHEBYPD.
TREGARON.
TREGARON. Y CYNGHOR PLWYF. CYNNALIWYD cyfarfod arbenig o'r cynghor nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Evans, Albion House, pryd yr oedd nifer liosog o'r aelodau yn bresennol. Dywedai y cadeirydd fod y cyfarfod arbenig hwn wedi ei alw i'r dyben o gymmeryd o dan ystyriaeth y penderfyniadau a basis?}d gan nifer o drethdalwyr y plwyf, cynnulledig yn y Cwrdd Plwyf arbenig a gynnaliwyd yn yr Ysgoldy Cenedlaethol nos Fercher, y 14eg cyfisol; sef, fod trefniadau yn cael eu gwneyd i ddathlu gwyl coroniad y brenin ar y 26ain o Fehefin, ac fod y Cyngbor Plwyf yn cael ei awdurdodl i godi treth o Ie yn y bust oddi ar y trethdalwyr i gyfarfod a'r treuliau cyssylltiedig â'r dathliad. Wedi liawer o siarad a dadleu ar y pwngc, cynnygiodd Mr. Rees Jones, Emporium, fod y cynghor yn mabwysiadu penderfyniadau v Cwrdd Plwyf, ac fod y cynghor yn gofyn y swm o 15p., yn cyfatteb i lc. yn y bunt o dreth ar y plwyf, er eu galluogl I ddathlu yr amgylchiad dyddoroi yn deilwng o'r ardal. Mr, M. J. Davies, North End, a eiliodd y cynnyuiad. Cynnygiodd Mr. E. H. Bebb, Camer fawr, fel amaetkwr, welliant, nad priodol i'r cynghor osod chwansg o faich ar gefn y wlad trwy godi treth at amcan o'r fath. Dadleuai ei bod yn annheg i godi arian trwy orfodaeth i dalu treuliau dathliad y coron- lad, ao id teimlad y wlad yn erbyn hyn. Eiliwyd y gwelifaut gan Mr. John Williams, Pontargamddwr, yr hwn a ddywedai fod ardal y Berth, yr hon sydd yn rhan plwyf, yn amcanu rhoddl gwledd i blant ysgol CasteH Flemish, ac i'r ardalwyr yn gyffredinol, a'u bod yiio n bwriadu casglu digon ar yr egwyddor wir- foddol i g y farfod &'r treuliau. Ar ol liawer o ddadleu rboddwyd y gwe'liant i fyny, pryd y pleldlelalodd pedwar drosto; sef, y Mri. E. H. Bebb, John. Wil- liamn, E. J. Davies, Pantsheriff, a Joseph Edwards (4). Pleidleisiodd yr aelodau canlynol dros y cynnyg- lad gwreiddiol: Y Mri. Rees Jones, Emporium; M. J. Davies, North End; E. J. Evans, Doldre; John Jones, Waenfawr; Stephen Hughes, Liangro; a David Thomas, Cambrian House (6), Cafwyd mwy- afrif felly dros godi y dreth. Cynnygiodd Mr. Rees Jones, yn nesaf, fod ardal y Berth, gan eu bed wedi penderfynu dathlu yr am- gylchiad yn eu plith, ac yn eu ffordd eu hunain, yn cael cyfran o'r arian a godir trwy drethiant er eu cynnoithwyo i ddwyn y draul. Wedi i Mr. Bebb wrthdystio yn erbyn hyn etto mabwysiadwyd y pen- derfyniad. Penderfynwyd fod aelodau y Cynghor Plwyf, a'r personau canlynol, i weithredu fel cyd bwyllgor gwelthjol i wneyd y trefniadau angenrheidiol yngiyn&'r dathliad :■—Y Mri. G. T. Lewis a W. J. Waterhouse, yr Ysgol Sirol; D. Thomas, Ysgol y Bwrdd; P. W. Rees, yr Ysgol Genedlaethol; Dr. Lloyd; T. Jones, Llythyrdy; C. Le Btun Powell, Sunny Hill; D. Davjes, Yagol y Bwrdd, Blaencaron John Jones, Crown & Anchor; Morgan Morgans, meistr y Tlotty a'r Parchn. Morgan Evans (M.C.), a D. M. Davies. Rhoddwyd gallu i'r pwyllgor i chwan- egu eraill a farnent yn oreu atynt. Gorchymynwyd y cofnodydd i alw y pwyllgor i gyfarfod nos Wener, y 30ain, er oymmeryd y mesurau rhagarweinlol YllglJn &'r trefniadau. ASAPH GLAN TEIFI.
[No title]
Ni "vn i ar y ddaear las yma pa date ydyw, am fy mod ar wastad fy nghefn yn nghanol swp o ddywalgwn, bulldogs, terriers, a blood hounas, er's agos i bythefnos. Dydd Mawrth, yr oedd Dr. Herbert yma, gyda chwip fawr-doff wlip-yn eu cbwipio o gwmpas fel pe buasai yn myn'd trwy performance mewn menagerie- Ac wrth iddo roi clec ar ei chwip, troellodd hono am flaen cynffon un o'r dywalgwn, nes oedd o yn howlio ac yn udo yn arswydus, a bu agos iddo ysgythru ymaith rhwng coesau y doctor, a'r chwip wrth ei gynffon; ond fe Iwyddodd i ddal gafael yn y chwip. Boreu Gwener galwodd Dr. O. Jones yn yr offis am ei FANER—fedr o ddim gwneyd heb y FANER, mwy nag heb ei ginio. 'Yn mha le mae Arthur heb fod wrth ei delegraph,' ebe fo wrth y sub-telegraphist. Y mae o fyny yn y ty, doctor, gyda swp o g,n.' ebe hi. bw po gkn ebe fo. Oes gyno fo, tybed, ddim ci go dda acw a fuasai yn gwneyd good house dog, i mi i fyn'd i fy nhy newydd- Llwyn Onn V Wel wir, doctor, wn i ddim,' ebe hi; 'well i chwi alw gyda fo i wel'd.' Ilolo, Arthur,' ebe fo, 'wyddwn i ddim eich bod yn dog fancier, ac yn masnachu I mewn c#n oes genych chwi good house dog allwn i gael i fyn'd i Llwyn Onn T 1House dog, doctor! Wel oeddwsin o honynt, os leiciech.' Gaf fi weld un neu ddau o honynt i bigo.' 'Pigo, wir! cewch y maent wedi pigo digon arnaf fi. Dyma i chwi bedwar bulldog wrth fy hip, a dyma dri terrier wrth fy mhenelin dde, a dau wrth y bys bach yna. A dyma i chwi bedwar dywalgi wrth fy mh^nglin dde. a dau wrth y chwith, a dacw i chwi bedwar bloodhound wrth fy nhraed-da chwi, doctor, cymmprwch nhw i gyd yn house dogs-Ow ne I Spongco!' Wei, Arthur, druan! feddyliais i ddim mai rhyw gftn gwangcus, hyllion, fel hyn oedd genych. Ond rhaid i mi dreio clirio rhai o honynt i ffwrdd, er fod rhai o honynt yn edrych yn greulawn, ac yn beryglus i'w trin -yn enwedig Spongco yma ydych yn ei alw hen walch ydyw hwn. Fe ddeuaf yma yfory gyda gwagen gwn i'w cymmeryd i gyd i ffwrdd.'l A dranoeth, dyma fo heJo'r wagen at y drws, a basgedaid o dwls, ac yntau yn ei fiedog ledr, a menyg tewion am ei ddwylaw —morthwyl, Hit, a gefail bedoli, &c. Ac ati ag o yn syth at y naill gi ar ol y Hall, gan dynu eu dannedd &'r efail bedoli, a llifio eu gwinedd, a'u Uuchio y naill ar ol y Hall i'r wagen. Ac wrth fyned trwy yr oruchwyl- iaeth, yr oedd ambell i hen gynyn yn howlio ac ysgyrnygu yn ddychrynllyd, yn debyg i'r cythreuliaid hyny dipyn ol yn ngwlad y Gadareniaid, pan oedd y Doctor yn tynu eu dannedd yn rhesi, ac yn llifio eu gwinedd i'r byw, fel na bydd berygl, am dipyn beth bynag, i'r cenawon rwygo na chnoi neb, am nad oes Sanddynt, beliach, ond y gums i gnoi. A iolch, dyma finnau etto yn dechreu gafael yn nghyrn y telegraph. Diolch i ti, doctor anwyl Y r oedd cloch ..Ap RHYDWEN yn ringio yr wythnos ddiweddaf, oiid all'swn i yn fy myw fyn'd ati gan y c\vn. Wei, 'rwan Ap. 'Llew o beth yw tad llo bach.' Yn mha wlad yr wyt ti wedi bod yn ddiweddar i gael allan fod llewod yn cenedlu Iloiau? Y mae llew o beth' a 116 bach' yn eithaf i gynghaneddu ond ofnwyf mai salw o beth fyddai llew yn dad, nac yn dad-yn- nghyfraith, 116 bach.
[No title]
MR. LLWYD, 'Llew o beth yw tad 116 bach,' ebai rhyw- un; ie, a llew o beth yw trethu torth y gweithiwr, hefyd. Mae y Llywodraeth wedi sicrhau ail ddarlleniad y dreth anghyfiawn hon. Y mae rhywrai yn dyweyd na fydd i'r gweithiwr ddioddef o'i herwydd, ond pa sail sydd ganddynt dros ddyweyd hyny nis gwn; y mae y ffaith fod y blawd wedi codi swllt y sachaid yn ddigon i bron y bydd iddo ddioddef. lihyfedd fel yr osgoir y dreth o hyd trwy ei thaflu ar ysgwydd arall hyd nes daw ar ysgwydd y gweithiwr; nid oes ganddo ef neb i ddwyn y baich yn ei le. Dywedai un pobydd (baker), na ddylai torth bedwar pwys gostio ond J o geiniog yn chwaneg, y buasai hyny yn ddigon i glirio y dreth. Treth rhyfel yw hon; ac oin fuasai modd 'peidio ei chodi trwy ddal y gardod roddwyd i'r tirfeddiannwyr a'r parsouiaid ? Pa ham y mae yn rhaid i'r gweithiwr ddioddef chwaneg o achos y rhyfel na'r boneddwr ? Ceir rhyw rai, mae'n debyg, yn bjrod i atteb nad ydyw. Ond, yn ddiddad!, y mae; a dyma y ffordd y mae. Bara ydyw prif ymborth y gweithiwr; nid ydyw yn eistedd i lawr i fwyta yr un pryd nad ydyw bara yn gwneyd i fyny y rhan helaethaf o hono; nid felly mae hi hefo y boneddwr; y mae ganddo ef, fel y dywedodd Mr. Samuel Moss, ei wahanol 'gourses,'ac nid ydyw bara ond rhyw beth yn cael ei daflu i mewn yn achlysurol.' Dyna sut y mae y gweithiwr yn cael ei drethu yn drymach na'r boneddwr; dysnr oddi ar y gweithiwr y ddegfed ran, oddi ar y boneddwr y tilfed ran. Pan oedd treth yr ymborth yn ei llawn rym o'r blaen, beth oedd sefyllfa y bobl gyffredin 1 Hanes y cyfnod hwnw a ettyb. Ceid y bobl yn ymgystadlu a'r moch am gynnwys y 'twb golchion!' A phwy a \H~r na arweinia y dreth anghyfiawn hon y bobl i'r un sefyllfa etto. Dywedai Mr. Redmond y byddai i'r dreth ddisgyn yn drom ar breswylwyr cyffredin yr Ynys vVerdd, pa rai, er cywilydd i Brydain, oeddynt yn gorfod byw ar Indian meal-bwyd moch. Dywedai am un teulu a'u hincwm blynyddol yn 23p.; ac allan o hyny yr oeddynt yn talu 7p. 14s. am flawd; ac oddi ar bobl fel y rhai hyn yr ydych yn myned i godi y dreth, ebai. Dangosai Mr. Broadhurst y byddai y dreth I ar lafurwr yn ennill 15s. yr wythnos yn gyfartal i dreth incwm o 5c. y bunt ar ei gyflog. 'Pan oeddwn yn hogyn,' ebai Mr. Fenwick, 'gweithiwn yn y pwll glo am dair awr ar ddeg, a'm hymborth ydoedd darn o fara sych a photelaid o ddwfr: a bydd i'r profiad yna fy nerthu i wrthsefyll pob ymgais i] drethu ymbottli- y :weithiwr!' Diolch am rhyw ychydig o ddynion sydd yn, bronadol o anghenion gwerin; ond mae eisieui chwaneg o honynt yn y senedd'; a chofied; y werin bobl mai ganddynt hwy mae yr hawE a'r gallu i'w rhoddi yno; dynion sydd eisieu fydd yn barod i godi treth ar y mininrr royalties, y ground, values, &c., ac nid ar- ym horth gwerin. Fe dyn wyd treth y cheques yn ol am fod y 'bobl fawr' yn chwyrnu; ac y mae yna. ychydig bach o fantais i'r gweithiwr sydd arferol a derbyn ei gyflog trwy cheque trwy hyny. Gwelodd y Llywodraeth fod modd gwneyd i ffwrdd a'r cheques, felly tynwyd y dreth yn ol. Y mae y werin yn chwyrnu, hefyd, yn erbyn y dreth sydd yn eu gwasgu liwythau; ond mae lie i ofni na fydd yn chwyrniad mor ddylanwadol ag eiddo y mawrion. Yn nghorph y ddwy flynedd ddiweddaf canwyd liawer ar gan wirionffdl Kipling, bardd y bidog, sef Pay, pay, pay ac o hyn allan, caiff pob gweithiwr fu yn ei chanu gyfle i ddeall ystyr gwirioneddol y gan, trwy dalu treth y dorth. Yr eiddoch, yn cnoi yr un crystyn ddwy waith trosodd, Ap Ehydwen.
P.C. THOMAS.
P.C. THOMAS. Ie, ie, dyma un arall o'm cyfeillion wedi myn'd Y fi yn cael fy nhaflu ar wely cystudd ar nos Sadwrn, a'm cyfaill, Mr. W. Thomas, ar y nos Fercher dilynol, ac yn ter- fynu ei yrfa tua thri o'r gloch prydnawn I Sul druchefn; dim ond tri diwrnod a hanner o 'daith trwy yr afon nes croesi i'r lan yr ochr draw, pan nad oedd ond 34ain mlwydd oed. A theimlwn i'r byw yn fy ystafell wrth weled ei arch yn pasio fy nrws-am ein bod yn byw bron gyferbyn a'n gilydd. Y fo fyddai y plisman mawr, tàl,' ag y byddwn weithiau yn cyfeirio ato yn fy nhelegrams, ac yntau bob amser yn mwyn- hau y joke. Gadawodd briod, a chwech o blant tlysion, mewn gofid a hiraeth am dad tyner a gofalus. Prydnawn ddoe yr oedd y Super Jones yma gyda fi yn y sic ward, a rhoddai ganmoliaeth uchel i gymmeriad Mr. Thomas—nad oedd ganddo yn ei wasan- aeth yr un gwas mwy ufudd, parotach, na deallgar. Tua thri o'r gloch heddyw ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gymmwynas olaf i'vr weddillion, a minnau yn methu gwneyd dim ond edrych mewn tristweh, trwy ftenestr fy ystafell, ar y cynhebrwng yn pasio AT Y BECHGYN. Diolch i chwi i gyd, y mechgyn i, am eich caredigrwydd yn ymholi am danaf. Yr wyf wedi darllen telegram maith fy hen gyfaill.
CAERENYDD, LLANNEFYDD,
CAERENYDD, LLANNEFYDD, lawer gwaith drosodd; ac y niae rhywbetir yn dyfod i'm gwddf ac i'm liygaid bob tro y darllenaf ef-yn enwedig pan y sonia am yr 'tonau yr aethom trwyddynt,' ac etto ynl 'dal ar y brig,' a phan y dywed, yr ail, ac y trydydd ddywed, 'Paid myn'd ffwrdd am dipyn etto, wir!' A'r brawd anwyl Meurig, Fflint, o'r cwr arall yn llefain, 'Peidiwch ag aros yna yn hir, neu beth ddaw o honom'— allaf fi ddim dal peth fel hyn, mechgyn i. Yr wyf am aros cyhyd byth ag y cif y fendith hono gan y Rhoddwr Mawr ei hun. Efe sydd yn rhoddi, ac Efe sydd yn cym- meryd ymaith. Byddwch wych, mechgyn i. Yr eiddoch, wedi cael gwaredigaeth o'r cwn, ond 61 eu dannedd yn aros, ARTHUR LLWYD.
CAERNARFON.
CAERNARFON. LLYS YR YNADON BWRDEISIOL. Troseidu Cyfraith Cau y Tafarndai ar y Sabbath. DYDD LLUN cynnaliwyd llys yr ynadon bwr. deisiol, o dan lywyddiaeth y maer (Mr. R. O. Roberts). Cyhuddwyd Jane Roberts, yr hon oedd yn dal trwydded y Garnons Arms, o werthu cwrw ar y Sabbath, Mai 4ydd. Mr. J. T. Roberts, yr hwn oedd yn erlyn ar ran yr heddgeidwaid, a ddywedodd fod yr heddgeidwaid wedi bod yn gwylio y Garnon's Arms er's tro. Ar noson y 4ydd o Fai yr oedd dau swyddog wedi ymguddio gyferbyn S'r tt. Sylwasant, i ddechreu, ar ddau ddyn yn myned i dy llafurwr o'r enw Edwards, yr hwn oedd yn byw wrth ymyl; ac yn fuan ar ol hyny gwel. wyd bachgen yn myned o'r ty, ac yn curo wrth ddrws y Garnon's Arms. Aeth morwyn o'r Garnon's Arms, wedi hyny, i dy Edwards; a phan ddychwelodd yn rnhen ychydig funydau ar ol hyny, safodd wrth lamp oedd ar yr heol, yr hon oedd yn oleu, ac ymddangosai yn cyfrif yr arian oedd wedi ei dderbyn. Gwelwyd y ddiffynyddes ar ol hyny yn gadael y tafarndy, ac yn myned i dy Edwards. Y mddangosaiyn cario rhywbeth mawr o dan ei shawl; ond pan aeth o dy Edwards nid oedd ganddi ddim o dan ei shawl, ac yr oedd yn ysgwyd ei breichiau yn iawn. Rhoddodd y Rhingyll Heddgeidwadol Owen dystiolaeth i gadarnhau y mynegiad uchod. Mr. Carter, yr hwn a ymddangosai dros yr amddiffyniad -4 Beth oedd y ddiffynyddes yn ei gario ?' Y tyst-I Nid wyf yn tybio ei bod yn cario dwfr (chwerthin). Yr wyf yn credu ei bod yn cario cwrw.' Dadleuai Mr. Carter nad oedd yna un dyst. iolaeth i gospi. Wedi ychydig ymgynghoriad penderfynodd yr ynadon daflu yr achos allau. Cyhuddwyd yr un ddiffynyddes o drosedd cyffeiyb nos Sabbath, Mai 18fed, Mr. Carter a blediodd euogrwydd yn ngwyn. eb y cyhuddiad. Mr. J. T. Roberts, yr hwn oedd yn erlyn, a ddywedodd i'r un swyddogion fyned o flaan t, Edwards, ac iddynt fyned at wraig a ddaeth allan o'r Garnon's Arms, a chanfod jar o gwrw wedi ei guddio o dan ei shawl. Dywedai y ddi- ffynyddes, pan gyhuddwyd hi o werthu cwrw ar y Sabbath, fod E4wards wedi talu am dano y noson flaenorol. John Edwards, yr hwa a alwyd o du yr am ddiffyniad, a ddywedodd ei tod yn arfer cael cwrw yn y Garnon's Arms ar nos Sadwrn, ar gyter y Sabbath, ond ar noson yr 17eg, yr oedd y ddiffynyddes wedi anghofio anfon y cwrw i'w dy t fel yr arferai wneyd a phan welodd hi ar yr heol y Sabbath, gofynodd iddi am y cwrw, ac anfonwyd ef iddo, er fod gwraig y ty yn erbyn hyny. Penderfynodd yr ynadon ddirwyo y ddiffyn- yddes i'r swm o 2p., a rhoddwyd gorchymyn i gofnodi y trosedd ar gefn y drwydded.
[No title]
Darganfyddwyd Ynys St. Helena 400 o flYIl" yddoedd yn ol.
Y D E H E U
yr heddgeidwaid nad oedd gan y wraig a'r plent- yt1 ond rhyw ychydig o ddillad am danynt pan y tynwyd hwy allan o'r ddwfrgrohfa. Dychwel Odd y rheithvpyr reithfarn i'r wraig ladd ei phifentyn, ac iddi gyttawni hunanladdiad, tra yn wallgof. Yiiiddeiigys fod irigoliori Àbertàwe am wneyd eii goreiii leihau trosedd a riieddwdod yn y lie hwnw. Rhoddodd pwyllgor gwyMdwriaeihol y cynghor gyfarwyddiadau i wrthwynelju trwyddedau yri y llysoedd trwyddedbl nesaf # a phennodwyd pwyllgori ym' weled A'r pwyllgor trwyddedol, gyda'r amcan o ostwng nifer y trwyddedau saith niwrnod a'r trwyddedau dawnsio. I Trafferth a achosodd i mi feddwi' oedd at- tebiad Martha Smith, 63ain mlwydd oed, pan wnaeth ei hymddangosiad o flaen yr ynadon yn Abertileri, ddydd Gwener, ar y cyhuddiad o fod yn feddw iawn ar y brif ffordd. Dywedai y faingc ei bod wedi arfer mynychu y llys hwnw er's Uawer o flynyddoedd, a gosodwyd arnidalu dirwy o 10& neu fyned i garchar am saith niwrnod.