Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
TY TR ARGLWYDDI.
.GORWYO senedd gyntaf Iorwerth VII. dydd m diweddaf, gyda seremoni rwysgfawr. YmgynnnIlodd tyrfaoedd lliosog i weled yr rymdaith frenhinol yn myned o Balas Buck- igham i Westminster a rhoddwyd derbyniad rwdfrydig i'r brenin a'r frenhines ar eu hym- dangosiad yn Dgherbyd hynafol ac arddunol toyrn. Ond ni chymmerodd dim o unrhyw dyddordeb neillduol le yn ystod yr orymdaith yd nes y cyrhaeddwyd TY TR ARGLWYDDI. Yma yr oedd cynnulliad mawreddog, ac yr edd y Ty yn orlawn drwyddo. Wedi i'r renin a'r frenhines ddyfod i mewn, cymmer- sant eu heisteddle ar yr orsedd; ac yr oedd r arglwydd oedd yn cario yr urddas-gap ar y risiau ar yr ochr ddeiieu i'r brenin, ar cledd- if ar ei aswy. Yr oedd yr Arglwydd Benys- ifellydd, hefyd, ar y grisiau,yr ochr aswy, yn arod i dderbyn gorchymynion. Rhoddodd y renin orchymyn am i'r Cylfredinwyr fod yn resennol; ac wedi iddynt wneyd eu hymddang- siad, cymmerodd ei fawrhydi y llw. Ac yn diweddaf oil, daeth yr araeth. Plygodd yr ixglwydd Ganghellydd o flaen y teyrn, ac es- ynodd iddo y llechtaen ar b:1 un yr oedd yr raeth wedi cael ei hysgrifenu. Darllenodd y renin yr araeth yn glir, a chyda llais pwysleis- )1, fel yr oedd pob gair yn glywadwy. Safai awb ar eu traed yn ystod darlleniad araeth y renin, yr hon a ymddangosodd yn ein rhifyn iweddaf. Wedi hyny gohiriwyd y Ty am ysbaid o mser. Am chwarter wedi pedwar, cymmercdd yr Lrglwydd Ganghellydd ei eisteddle ar y sach ,lfln. Daeth gryn nifer o bendefigion yn mlaen i ymmeryd y llw. YR ANERCHIAD. I Wedi i'r Arglwydd Ganghellydd ddarllen raeth y brenin, cynnygiodd Ardalydd Waterford anerchiad mewn atteb- id iddi. Amlygodd ei foddhfed yn y dyddordeb edd y brenin wedi ei gymmeryd trwy ddyfod 'no i agor y senedd. Iarll Man vers a gefnogodd y penderfyniad. larll Kimberley a gyfeiriodd at y teimlad o .nfoddlonrwydd oedd yn bodoli o herwydd y riodel yr oedd y Llywodraeth wedi cario y hyfel yn mlaen. Yr oedd sefyllfa bresennol >ethau yn Neheudir Affrica yn ei lenwi ef A >hryder. Yr oedd efe, modd bynag, yn cyt- uno â'rrhai oedd ar ochr y Llywodraeth i'r Ty i feddwl niai ofer oedd credu y dygid y hyfel i derfyniad trwy bolisi o yindrafodaeth lyd nes y byddent wedi llwyr sefydlu eu gor- ichafiaeth ar y Bwriaid. Yna, aeth Ii arglwyddiaeth yn mlaen i ddisgrifio y yfeiriadau yn Araeth y Brenin at ddeddfwr- aeth y senedd-dymmor fel rhai gwael a di verth. Wedi cyfeirio at y cwestiwn addysg, larfu i Arglwydd Kimberley feirniadu y Llyw- >draeth am y cyfeiriad byr a di-bwys a wnaed tt y cwestiwn trwyddedol pwysig, a'r hwn lad oedd yn rhoddi i ni unrhyw arddangosiadl i 'od yna ddim i gael ei wneyd mewn ffordd o lesuVer cefnogi dirwest, a bod y cwestiwn o Idarparu tai i weithwyr wedi cael ei adael tllan yn hollol. Arglwydd Salisbury, wrth atteb, a ddadleu- linad oedd yna ddim anarferol yn meithder y ;adgyrch yn Neheudir Affrica, a'i bod yn rhy ruan pasio barn ar y modd yr oedd wedi cael si chario yn mlaen. Yr oedd yn dda ganddo ef iderbyn cyfeiriad Arglwydd Kimberley o ber- bhynas i'w hagwedd tuag at y Bwriaid, a gofid- iai am nad oedd golygiad c yffelyb gan eraill oedd yn hawlio yr enw o Ryddfrydwyr. Os byddai i'r Llywodraeth ollwng ei gafael yn eu gofynion fod annibyniaeth y tiriogaethau hyn yn cael ei roddi i fyny, golygaihyny ryfelgyrch barhaus, o dan am'gylchiadau pan y byddem ni o dan yr anfanta.Is fwyaf, ac ar achlysuron pan y gorfodid hi i ymladd heb faAvr ragolwg am lwyddiant. Oddi eithr ein bod ni yn feistriaid, ac yn orchfygwyr, nid oedd yna un gobaith am heddweh parhaol. Amddiffynodd y Prifwein- idog ddiffyg gweithrediad y Llywodraeth mewn perthynas i'r mater o ddiwygiad trwyddedol, trwy gyfeirio at y gwahaniaeth barn oedd yn bodoli yn mysg dynion enwog a wnaethantym- chwiliadir cwestiwn; a dywedodd nad oedd rhaglen y Llywodraeth o ddeddfwriaeth gar- trefol yn un eang, a hyny o herwydd fod yna bethau eraill llawer mwy dyddorol i gymmeryd 1 fyny amser y senedd. Cyittunwyd ar yr Anerchiad, a gohiriodd y If hyd ddydd Mawrth. TY Y CYFFREDIN. Arddangoswyd dyddordeb mawr yn mysg aelodau Ty y Cyffredin ar agoriad y senedd- dymmor hwn; ac yr oedd, o leiaf, rhyw ddwsin c melodaq wedi gwneyd eu hymddangosiad yn y TJ tua hanner avrr ar ol iddi daraw hanner nos nos Fercher, er mwyn iddynt sicrhau eu heisteddleoedd. Caed ysbaid o dawelwch wedi hyny nes yr oedd tua saith o'r gloch y boreu, pan y daeth nifer i mewn a pharhaai yr ael- odau i ddylifo i mewn wedi hyny nes yr oedd yn hanner awr wedi un, pan vr oedd pob eis- teddle wedi cael ei chymmeryd. Am ujfcin munyd wedi dau cafodd aelodau y Tk eu gwysio gan y Wialen Ddu i ymddangos' yn Nhf yr Arglwyddi, i wrandaw araeth y Brenin. Ar ol bod yn absennol am tuagugain mnnyd, gwnaeth y Llefarydd ei ailymddangosiad. Ni ddarfu iddo gymmeryd ei sedd; gohiriwyd yr eisteddiad hyd hanner awr wedi tri. LIVJ o Deymgarwch. Pan ail ymgyfarfyddodd y Tt, yr oedd tyr- fa o'r aelodau yn disgwyl am gymmeryd en n;r o deyrngarwch i'r brenin. Yn mysg yr aelod- au o Gymru yr oedd Mr. W. Jones a Mr. W. Abraham (Rhondda;. Cenadwriaethau oddi u-rth gynnrychiolwyr Tramor. Hysbysodd y Llefarydd iddo, er pan y go- hiriwyd y T, y tro diweddaf, dderbyn anerch- iadau oddi wrth amrywiol gynnrychiolwyr tramor mewn perthynas i farwolaefch y Fren- hines, ae iddo ef eu cydnabod yn enw y Ty. Writ' i ranbarth Stratford. Ar gynnygiad Syr W. Walrond, gorchym- ynwyd rhoddi gwrit newydd alian aros ran- barth Stretfora o sir Lancaster, er ethol aelod yn lie Syr W. Maclure, yr hwn oedd wedi marw. Mexuruu y Llywodraeth. Rhoddodd Mr. Ritchie rybudd y byddai iddo, ddydd Ian nesaf, ofyn caniatAd i ddwyn mesur 1 mewn i ddiwygio Cyfreithiau y Ffactri a'r Gweithdai, yn gystal a mesur i gyfuno y cyf- reithiau hyny. Mr. Long a roddodd rybudd y byddai iddo, ddydd Llun, ddwyn mesur i mewn i ddiwygio y gyfraith mewn cyssylltiad i)'r iechyd cyhoedd- us, gyda sylw arbenig i'r cyilenwad o ddwf r, a mtvterion eraill. Mr. 6. BiffVar a roWodd fwriad i ddwyn mesur i mewn, yn fuan, i ddiwygio a I chyfuno y gyfraith mewn perthynas i hawlys- gnf lenyddol. Y Ddadl ar yr Anerchiad. Cynnygiodd Mr. W. H. W. Foster anerchiad 0 ddiolchgarwch i'r brenin mewn attebiad i'r Araeth o'r Orsedd. Syr A. Agnew a gefnogodd y penderfyniad. Syr H. CampbelI-Bannerman, yr hwn oedd y nesaf i siarad, a alwodd sylw at ddifrifwch y sefyllfa yn Neheudir Affrica, a chyfeiriodd at gamgasgliadau difrifol y L1 ywodraetli, pan y dywedodd yn Hydref fod y rhyfel drosodd. Dadleuai ef y dylid anfon gyda'r corphluoedd oedd yn myned drosodd i'r wlad hono i gryf- hau ein milwyr ddadganiad at bobl y ddwy Dalaeth o'r cyfryw ammodau a wnai sicrhau i'r ymherodraeth yr oil yr oedd yn gofyn am dano, a'r hyn a wnai dawelu ofnau eu gwrth- wynebwyr ar y maes ar yr un adcg, arbed ea hawliau, a thrwy hyny fod yn gymmhelliad iddynt roddi eu harfau i lawr. Yr oedd yr awgrymiad y gallai Deheudir Affrica gael ei llywodraethu trwy warchodlu milwrol yn beth nas gellid meddwl am dano. Byridai i'r fath oruchafiaeth ddwyn anghlod ar enw Prydain. Ammod hanfodol lhvyddiant yn Neheubarth Affrica ydoedd, cydnabod barn yr Is-ellmyn- iaid; ac heb hyny, ni wnai ein holl gyft eth, ein corphluoedd, na holl allu a medrusrwydd ein gweinyddwyr a'n llywodraethwyr, wasanaethu i gadw ein hymherodraeth yn Neheudir Affrica. Diweddodd Syr Henry ei araeth trwy gyfeirio at y sefyllfa yn China, ac at y ddeddi- writteth gartrefol oedd yn cael eu haddaw yn Ara.eth y Brenin. Mr. A. J. Balfour, wrth atteb ar 'dlodi tru- enns' rhaglen ddeddfwrol y Llywodraeth, a edliwiodd i aelodau y Llywodraeth Rydd- frydig ddiweddaf eu bod mor dlawd yn eu cyflawniad ag oeddynt o gyfoethog yn eu haddewidion. Wrth gyfeirio at y rhestr wlad- ol, dywedodd fod yna amser, pan yr oedd yn angearheidiol darparu ar gyfer dyledion yr aed iddynt cyn i'r Tywysog ddyfod i'r orsedd, ond nid oedd yna ddyryswch o'r fath yn yr achos hwn- Nid oedd yna ddim dyledion i'w cyfar- fod, ac yr oedd efe yn teimlo yn sicr y byddai y ddwy ochr i'r Tt yn awyddus am ddarparu mewn modd digonol ar gyfer anghenion teyrn ein hymherodraeth fawr. Gan fyned yn mlaen at y cwestiwn o ryfel, dywedai Mr. Balfour fod arweinydd yr Wrthblaid fel am roddi ar ddeall ei fod ef yn myned at y Bwriaid, ac yn dyweyd wrthynt, os rhodaent eu harfau i lawr, y cawsent sefydliadau rhydd yn ddioed. Nid oedd y Llywodraeth yn credu fod hyny yn bosaibl, nac yn bolisi diogel. Gobeithiai ef y byddai i holl aelodau y Ty fod yn ofalus rhag dyweyd dim y gellid ei droi i fod yn awgryin fod y wlad hon yn meddwl rhoddi i fyny yr ymgyrch oedd yn cael ei chario yn mlaen gan- ddi. Ni wnai ef unrhyw ynigais at geisio propjhwydo pa bryd y byddai i'r rhyfel gael ei dwyn i derfyniad, ond yr oedd efe yn dadgan y cawjjai ei chario yn mlaen hyd nes y deuid i'r unig derfyniad possibl, yn gysson a'n hanrhyd- edd a'n sefyllfa yn Neheudir Affrica. Cymmerwyd rhan yn y ddadl wedi hyny gan Syr H. Vincent, Syr E. A. Bartlett, a Syr C. Dilke. Mr. Bryce a sylwodd nad oedd yn ymddang- os fod Mr. Balfour yn meddu ond ychydig ym- wybodolrwydd o ddifrifwch y sefyllfa, ac nad oedd yn tanu unrhyw oleuni ar agwedd bresen- nol pethau, nac yn rhoddi ar ddeall beth oedd y polisi i fod yn y dyfodol. Cododd y T,f am hanner nos, I
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. DYDD GWENER, Ghwefror 15Jed.-Cymmerodct y Llefarydd y gadair am dri o'r gloch, Y Cyffredinwyr ac Araeth y Brenin. Mr. J. E. Ellis a ofynodd, trwy pa awdurdod yr oedd aelodau yn cael eu can o'r seddau yn oriel Tý yr Arglwyddi a drefnwyd ar en cyfer pan yr oeddynt wedi cael eu gwyaio i'r Ty hwnw ddydd Iau, gan y brenin, a thrwy awdurdod pwy yr oedd dyeibhriaid yn cael myned i mewn, a'r aelodau trwy hyny yn cael eu can allan ? Eglurodd .Mr. Balfour fod y trefniadau ddydd Iaa yn anion fel yr arferent fod ar y cyfryw amgylcliiad. Lilb y Coroniad. Mr. Wingfield-Digby a ofynodd, pa un a oedd yna gyfnewidiad i gael ei wneyd yn It* y coron- iad; ac os felly, a oedd ya bosaibl gwneyd y cyf- Oewidiad hwnw heb gyfraith seneddol ? Atlod Newydd. Cymmerodd Dr. E. C. Thompson, yr hwn a gyfiwynwyd i'rT^ gan Cadben Donelan a Mr. P. O'Brien, y 11* a'i Odd droa Ogledd Monaghan, yn lie y diweddar Mr. Macaleeae. Rhoddwyd cymmeradwyaeth iddo gan y Cenedlaetholwyr.
Y DDADL AR YR ANERCHIAD.
Y DDADL AR YR ANERCHIAD. Ail agorwyd y ddadl ar yr Anerchiad gan Mr. Chaplin, yr hwn a ddadleuai y dylai y Llywodraeth ddwyn mesur i mewn er amddiffyq y cyhoedd rhag cael eu gwenwyno trwy gwrw. Mr. Cuthbert a siaradodd i'r un cyfeiriad. Mr. Walter Long, ar ol iddo ddyweyd fod y Llywodraeth wedi pennodi Dirprwyaeth Fren- hinol, a sylwodd y byddai yn ammhossibl i'r Llywodraeth attal gwerthiant cwrw oedd wedi cael ei fragu mewn modd cyfreithlawn a phriodol yn y wlad hon yn yr amser oedd wedi myned heibio, a'r hwn oedd yn rhydd oddi wrth fater gwenwynig. Syr Walter Foster a alwodd sylw at y marwol aethau lliosog oddi wrth afiechyd yn Neheudir Affrica; a dywedodd fod adroddiad Dirprwyaeth yr Ysbyttai yn cyfiawnhau yn llawn yr holl gwynien oedd wedi ciel eu gwneyd yn y Ty hwnw a'r newyddiaduron. Mr. Burdett-Coutts, Mr. Pirie, Mr. Labouchere, ac eraill, a ddadleaent dros i ammodau cyttundeb gael eu cynnyg i r Bwriaid. Arglwydd Stanley, ar ran y Llywodraeth, a atfebodcj, trwy ddyweyd nad gwir oedd yr hbniad na chynnygiwyd arnmodan heddwoh i'r Bwriaid. Pan ddyneswyd at Botha a De Wet, yr oeddynt wedi gwneyd dadganiad o'u penderfyniad i beidio derbyn dim liai nag annibyniaeth hollol Mewn perthynas i loagi ffermydd, yr oedd Argl- wydd Roberts wedi cyfarwyddo nad oedd y goap hono i gael ei chario allan ond ar gyfarwyddyd y swyddog Uywyddolam droseddau arbonig. Tra yn y dehea gallasai nad oedd wedi cario effaith dda, ond yr oedd wedi cael yn y gogledd, yn ddïau. Mr. J. Walton a siaradodd ar y sefyllfa yn China. Yr oedd Argi\?ydd Cranborne yn siarad, mewn attebiad, ganol nos, pan y gohiriodd y TY.
. TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. DYDD LLUN, Chwefror 18fid.—Cymmerodd y Llbfarydd y gadair am dri o'r gloch. LldJ y Coroniad. Mr. W. Redmond a ofynodd a oedd y Llywodr- aeth yn bwriadu cymmeryd unrhyw gam er gadael allan o L* y Coroniad y rhanaa hyny y teimlai y Pabyddion wrthwynebiad iddynt. Mr. Balfour a ddywedodd na byddai yn rhaid i'r dadganiad a wnaed gan y brenin ar agpriad y s?ne«Rl jgaS] itirtfRl ar y eorealad. Wi 6edf efe yn rhyw edmygwr mawr ar y ffurf o eiriau a ddefnyddid; ond yr oedd y cwestiwn yrnarft rol yn awr, efe a obeithiai, droaodd am lawer o flyn- yddoedd; Y Cadfridog Btiller a'r Cadfndog Botha. Mr. Balfour, mewn attebiad i Mr. Pirie, a ddy- wedodd nad oedd yr ohebiaeth oodd wedi cym- meryd lie rhwng j Cadfridog Bnller a'r Cadfridog Botha, mewn perthynas i ammodau heddweh, wedi cael eu cyfeiiio gan Arglwydd Roberts i'r Llywodraeth. Yr oedd Arglwydd Roberts yn gweithredu o dan alluoedd cyffredinol a roddwyd iddo ef. lihagorfrmitiau y T.O. Cynnygiodd Mr. Dillon fod y Ty yn cael ei ohirio, er g&lw sylw at waith Arglwydd Cranborne ya gwrthod atteb cwestiwn mewn cyssylltiad k China, yr hwn cedd yn cael el ijlfaenu ar y gwaharddiad eyffredinol gan arweitjdd y Tf i'r la-ysgrifenyddion atteb cwelltiYDau chwanegol ar amgyl. hiadau framor, Uadleuai Mr. Dillon ei bod yn drosodd ar ragcrfreintiau y Ty i unrhyw weinidog i wahardd gweinidog arall i atteb cwestiwn, yn lie ei adael at ddoetbineb y gweinid- og ei hun. Cefnogwyd Mr. Dillon yn y golygiad hwn gan Syr H Campbell-Bmnnerman, Syr C. Dilke, a Syr E. Grey, yn gyatal a, chan amryw aelodau Ceid- wadol. Amddiffynodd Mr. Balfour a Mr. Brodrick sefylifa y Llywodraeth a chyfairient y gallai attebion brysiog, an heb gael eu hiawn ystyried, arwain i anhawsdarau tramor. Pan ymranodd y Ty, caed Dros y penderfyaiad i ohirio 204 Ynerbyn 249 Mwyafrif yn erbyn 45 Derbymwyd y m^yrau hyn, y rhai oedd yn dangos gestyogiad o tua 100 yn mwyatrif y Llyw- odraeth, gyda chymmeradwyaeth mawr gan yr Wrthblaid. Y DDADL AR YR ANERCHIAD. Ail ssgorwyd y ddadl ar yr Anerchiad gan Arglwydd Cranborne; yr hwn a attebodd y beirniadðau oedd wedi cael eu traethu ar bolisi y Llywodraeth yn Chita. Dywedodd fod y ewrn o ad-daliad oedd i gael ei dalu i China yn cael ei ystyried gaa y L'ywodraeth yn gymmharol ddi- bwys wrth ei gynrndiaru &'n manteision masnach- ol. Wrth ymdrin A, chwestiwn ffordd haiarn Shan-Hai-Kwan, dywedodd fod y Llywodraeth wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Rwssia nad oedd y perchenogiad ond am dymmor yn unig. Arglwydd Cr anborne, mewn attebiad i Syr W. Harcourt, a ddywedodd nad oedd yna unrhyw hysbysrwydd i'r perwyl fod y Llywodraeth yn bwriadu cario cadgyrch i ganol China. Mr. L'oyd-Qaorg# a ddywedodd y carai ef getnogi yr hyn oadd ei gyfaill o'r tu ol iddo wedi si ddyweyd gyda goIwg ar y rhyfel hon. Yr "edd yna ua nodwedd foddhaol mewn perthynas i'r dadleuou ar y rhyfel; hyny ydyw,-nad oedd yn ymddaagos fod gan nob air da i'w ddyweyd am y Llywodraeth (clywch, clywch). Yr oeddynt wedi gwneyd pob camgymmeriad oedd yn bossibl ei wneyd. Yr oeddynt wedi csrio yrymrafasl yn mlaen yn y fath fodd fel yr oedd pob cyfaill i ryddid o'r tu allan i Brydain Fawr wedi myned yn eu herbyn; ao yr oeddynt wedi cario yr ym gyrchoadd yn mlaen yn y fath fodd fel yr oedd eu miiwyr eu hunain wedi hanner newynu, ac wedi cael eu taraw gymmaint gan afiechyd fel yr oedd ynt wedi marw wrth y miloedd o ddim ond diffyg y darpariaethau mwyaf syml, Ond beth bynag a wnai y rhai a, gymmerai yr agwedd oedd efe yn ei gymmeryd mewn perthynas i'r rhyfel, yr oedd eu gweithrediad yn cael ei gamesbonio. Dywedid wrthynt eu bod yn cefnogi y Bwriaid (cymmerad- wyaeth y gweinidogion). Yr oedd y mynegiad hwnw yn cael ei dderbyn gan aelodau ar yr ochr aral). A cedd dim wedi cael ei ddyweyd gan unrhyw aelod ar ochr yr Wrthblaid oedd yn tueddu i gefnogi y Bv^riaid hanner gymmaint a rhai o'r pethau oedd efe wedi ei glywed gan weinidogion Undebol ac aelodau. Tybier eu bod hwy yn esbonio rhai o areithiau y Prifweinidog a'r Y sgrifenydd Rhyfel, fel yr oedd y gweinidogion, ae eraill, yn esbonio areithiau aelodau yr Wrth Maid a thybicr eu bod yn cymmeryd araeth y prifweinidog, yr hon oedd yn edrych mor eithafol ar bethau, beth oedd hi yn ei olygu i'r Bwriaid? Dywedid wrthynt fod y B\Vriaid yn darllen areith- iau aelodau seneddol, a'u bod yn cario eu cadgyrch yn mlaen yn ol y rhai hyny. Os darllenent araeth y prifweinidog gallent ddyweyd, Dywed y prif- weinidog wrthym am beidio bod yn ddi-galon. Nid ydym wedi bod withi ond am un mis ar bymthsg. Daliodd y Cynghreirwyr yn America am bedair blynedd ac felly, gadawer i ni gym- meryd calon, a myned yn mlaen. Nid ydym ond yn mron wedi dechreu' (cymmeradwyaeth yr Wrthblaid, a ohwerthin). Wedi hyny, dywedai Ysgrifenydd Rhyfel' Gallaf fyned yn mlaen yn well na hyn yna. Y mae genyf gefnogaeth fwy ger fy mron. Nid oedd gan y Cubiaid ddim tebyg i'ch taclau chwi. Yr ydych chwi yn meddu y taclau goreu i amean rhyfel, Ni ddarfu iddynt hwy gario eu cadgyrch yn mlaen hanner mor Hwyddiannus a chwi; ac etto, gyda 30,000 yn erbyn 220.000, daliasant allan am ddeng mlynedd felly, peidiwoh bod yn ddi-galon (cymmeradwy- aeth yr Wrthblaid).' Wadi hyny, yr oedd y wasg Undebol wedi bod yn dyweyd, yn ystod yr ychydig wythnosau diweddaf, fod ein milwyr wedi eu gwisgo allan trwy y rhyfel, ac nad oedd yna ddim bywyd ynddynt. Mewn gwirionedd, yr oedd yn llawn bryd i wladgarwyr o feddwl nchel ddeffro, a gwrthdystio yn erbyn y traethiadau flyrnig hyn o eiddo y Prifweinidog ac Ysgrifenydd Rhyfel (chwerthin yr Wrthblaid) Nid oedd efe yn gwybod a oedd yr ysgrifenydd trefedigaethol yn hollol uwch law drwgdybiaeth (chwerthin) Yr oeddym mewn rhyfel. ac yr oedd efe newydd ymuno a phwyligor 'Attal y Rhyfel.' Yr oedd efe wedi siarad am heddweh, a thelerau teg a haelfrydig, ond nid oedd hyn ond shiboleth y rhai a gefnogent y Bwriaid. Ni feiddiai y blaid gefn- ogol i'r Bwriaid gyfeirio atvnt, neu yr oeddvnt yn cael ea gosoa fel cetnogwyr i'r Bwriaid, Paham y caoiateir i'r ysgrifenydd trefedigaethol wneyd hyny (clywch, clywch) ? Yr oedd wedi chwareu llawer o ranau yn ei ddydd (cymmeradwyaeth yr Wrthblaid, a chwerthin). Yr oedd wedi ymuno a phob plaid a alus&i. A ydoedd yn bossibl ei fod yn myned i goroni ei yrfa trwy ddychwelyd un'waith etto i fynwes y blaid oedd lyn cefnogi y B\t iiaid, i'r hon y byddai ef yn addurn hynod a disglaer (ohwerthin a chymmeradwyaetb, yn nghanol yr hwn y daeth Mr. Chamberlain i'r Ty I ae y cymmerodd eijsedd) ? Mewn gwirionedd, yr oedd yr arddangosiad hwn o gefnogaeth i'r Bwr- iaid yn beth i ofidio o'i herwydd, ac yr oedd yn amser iddynt ymwrthod âø: ef. Ond, wedi'r cwbl, pa un oedd y tebycaf i gefnogi y Bwriaid, ac i weithreda fel cymmbellydd i gario y frwydr yn mlaen- y wybodaeth am yr hyn a ddywedai dyn- ion yn y wlad hon, yn cynghori triniaeth teg a haelfrydig, neu y wybodaeth am areithiau a wnaed gan y prifweinidog, ac eraill, yn dyweyd wrthynt beth oeddynt i ddiagwyl, os rhoddent eu hunain i fyny (clywch, clywch)? Nid oeddynt i gael un rhithyn o annibyniaeth. Mwy na hyny, y ni oedd i fod yn feistriaid, a hwy oedd i fed yn weision (gwaeddiadau y gweinidogion o Na,' a chymmer- adwyaeth yr Wrthblaid a clywch, clyweh). Wedi hyny yr oedd yna amcangyfrifon wedi cael eu i pleidleiaio gan y senedd, er gosod 15,000 o w £ r tneirch ymb«rodrol fel ymsefydlwyr ar ffermydd I B & raid d. Dywedai aeiod anrhydeddue, y dydd o'r blaen, fod y rbyfel yn anifeileiddio ein dynion. Nid oedd ganddo ef (Mr. Lloyd-George) eisieu gwell tystiolaath o'r ffaith (cymmeradwyaeth yr Wrthblaid). Dyma ddyfyniad o lythyr arall a ysgrifenwyd gan yr Ie fiiwrfad Morrison, Ottawa, yr hwn a ymladdodd gyda'r milwyr Catsadaidd, a'r hwn y crybwyllwy& am dano mewn brysneges- euau am el ymadygiad gwrolfrydig. Rhoddodd yr ysgrifenydd ddisgriflad o orymdeithiad gaila- oedd y Cadfridog Smith Dorrien trwy ran o'r Transvaal. f nu" y wlad,* rneddai, 1e1 fagot land, ac yr ydym yn sytnmud o ddyffryn i ddy- ffryn, gan ladrata gwartheg a defaid, llosgi, ys beilio, a tiuoi merched a phiant, y rhai a eistedd- ent ac a wylent mewn anobaith (mewn trueni hollol), heb law dinystrio y ffermydd prydferth oedd ganddynt uuwaith. Dyma gytlyrddiad cynt&f llaw haittrnaidd Kitchener (cymmeradwy- aetia y Gwyddelod), peth dychrynllyd i fod yn dyet o heno ac nid wyf yn gwybod fy mod eisieu gweled taith arall or fath. Yr oedd braidd yn codi ysbryd gwrlhryfel yn y rhan fwyaf o honom.' Ond nid dyna y cwbl. Llosgasant, meddai yr ysgrifenydd, ddarn o dir chwe miildir o led trwy y dyffryccedd ffrwyt-hlav.n hyc, gan Jwyr ddinystrio dau o'r pentrefydd blodeuog hyn. Ond nid oedd yna air o hyn yn y brysnegeseuau o'r ffrynt (clywch, clywch). Gadawodd y tten golofn o fwg o'r tu ol iddo, yr hwn a eliid ei weled tilldiroedd oddi yrio. Galiwn v, eled,' meddai, trwy fy yebïenddrych fer-ched a phiant yn cael eu troi o'u cartrefi, &'u dillad gweiyau yn cael eu taflu ar eu holau. Marchogat y gwyr meirch yn gyflym ymaitb, a'r plant, wedi cael eu synu yn hollol gan yr ymweliad gyayn, a wylient eu car tr#fi yn ymgolli mewn tkn a ffiwg.' Rhoddwyd disgrifisd o ba fodd y llcsgwyd un pentref (aelod anrhvdeddns Darllenwch ef'). Pa ham y dylai ef ei ddarlien ? Yr oedd yn hares dychrynllyd o weitbredoedd ofnadwy, y rhai oedd yn gywilydd i'n cydwkdwyr. Gweithredoedd oeddynt a gyf- lawnid, nid yn unig yn erbyn dynion, ond yn erbyn y merched &'r plant (clywch, clywch). YDa aeth yr aelod anrhydeddus yn mlaen i gyfeirio at haws o weithredoedd cyffelyb. Syr R. T. Reid a ddywedodd nad oedd gan y Llywodraeth un hawl i alw am aberthau pellach, oddi eithr eu bod yn b&rod i wneyd heddweh mor fuan ag yr oedd yn bossibl; a dwyn y rhyfel i derfyniad anrhydeddus, trwy gynnyg ammodau e^mwyth, anrhydeddus, a thêg i'r gelyn. Mr, Chamberlain a ddywedodd nad oedd poliei y Llywodraeth wedi cyfnewid dim er pan y t&n iwyd yr ergyd gyntaf. Dadganai y Llywodraeth na byddai i un rhithyn o'r annibyniaeth yr oedd y Bvfriaid wedi gwneyd camddefnydd o hono gael ei e-tyn iddynt byth wed'yn. Dyna oedd aca fydd polisi y Llywodraeth. O'r braidd yr oedd y foment bresennol yn un gyfaddaa i gvnnrychioliad pellach, gyda'r amcan o gael heddwch. Gobiriwyd y ddadl ganol nos, ar gynnygiad Mr. Afequith.
. TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. DYDD MAWRTH, Chwefror 1ge9.-Cymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle am chwar- ter wedi pedwar. Dygwyd attebiad y brenin i'r Anerchiad i'r T' gan yr Arglwydd Ystiward. Amiygodd y Brenin Iorwerth ei ddiolchgarwch am ddadganiad y pen- defigion o'u hymlyniad teyrngarol wrth ei berson, a'u hymddiriedaeth yn ei awyddfryd i hyrwyddo dedwyddwch a rhyddid ei ddeiliaid. Darllenodd yr Arglwydd Ganghellydd genadwri o gydymdeimlad ar farwolaeth y Frenhines Victoria oddi wrth senedd Hungary. Dygodd Esgob Winchester dri o fesurau i mewn yn ymdrin a'r cwestiynau trwyddedol, pa rai a ddarllenwyd y waith gyntaf. Cododd y Ty am bum munyd ar hugain ibump