Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
In conjunction with the Royal Visit of Her Majesty the Queen, through Wales, on her journey to Ireland, W. S. WILLIAMS, I London House, LLANRWST The Pioneer, LLANDUDNO; The Compton, COLWYN BAY; Is raaking a Majestic Show of NEW MILLINERY, NEW JACKETS & MANTLES, NEW COSTUMES j Por Ladies and Children; in fact, every- hing New and Choice just arrived a few ays before the Royal Party. You will find our Windows and Show- r°0ttls are worth a visit of inspection. If you don't buy, you can inspect and ^E. < I%°/ W V /oy NOTHING-VA b J BUT, ALUE FOR MONEY, $/ AND FOUR Challenge Blends/ VA FOP. £ iV\ !/6' 'z8' Vio, •^VX 2/- per Lb. » cN £ 5? v N// V\'A A/^ /W >V7i CAMBRIAN BLACK VARNISH lf'ok Iroii Feiiciii c;, Wood Pailings, Farm Buildings, &c., &c. 1\.11 ^colleai; substitute for Oil Paint at One-third the cost. Requires no Heating or Preparation. Always fit for use. Dries Quickly. Leaves a hard Jet Black Surface. a be laid on by any ordinary Labourer. <ael. CASH PRICES: ered to any 'Kailway Station in North Wales 11 40-Ga!lon Casks, 13 per Gallon. 11 l8=Gallon Casks, 16 per Gallon. Including Casks. CASKS NOT RETURNABLE. had from "e Cambrian Asphalte Co. Opfr LLANI)U])NO JUNCTION, y respectllhle Tronmongel". 755 0()D INVESTMENT. YO C K Y017R 4 DRAPERY I AT J. S. WILLIAMS' and you are sure of obtaining AT High-Class Goods LOWEST PRICES POSSIBLE. Tii ^ra<X[eI!iknown Tailoring Department FIT? ^ouse is as popular as ever. T & STYLE GUARANTEED. S 13radf, MITli WILLIAMS, House, LLANRWST CF8 llTle, Gentlemen, Time." J? wX re^s,hle? Can yon depend on it? l(iQ by cal?-111 ^et repaired skilfully at short "mn{»on JlractWEN WILLIAMS, Sr ^tchmaker and Jeweller, VRI°N ROAD, LLANRWST. pleMia A sortrnent of Gold and Silver Ladios' I and Gents' Watches. OP EVERT DESCRIPTION. 89
Yr Adran Gymraeg.
Yr Adran Gymraeg. MAE y Frenhines wedi gwneyd mwy at gymodi trigolion y Werddon a Phrydain Fawr yn ystod y mis diweddaf nag a wnaeth holl seneddwyr y ganrif, yn Ym- reolwyr ac Undebwyr gyda'u gilydd. Syniad hapus o eiddo ei Mawrhydi ydoedd talu ymweliad a'r Ynys Werdd yn hytrach na myned am daith i'r Eidal neu ddeheu- barth Ffrainc, ac yn ol tuedd gyffredin yr oes bydd hyny yn sicr o arwain pobi lawer i dreulio eu gwyliau haf i bleserdeithio yn y Werddon yn He myned i wario eu harian er noddi a chyfoethogi gwestwyr y cyfan- dir. Mae yn ymylu ar wrthuni mewn pobl i fyned i fwynhau golygfeydd gwledyd eraill cyn eu bod wedi ymweled a theithio eu gwlad eu hunain, ac yn hyn o beth y mae esiampl y Frenhines yn sicr o wneyd lies mawr. A mwy na hyn, y mae y brwdfrydedd calonog a amlygwyd gan y miloedd plant a ddygwyd i Dublin yn un o'r arwyddion mwyaf dymunol o'r ymweliad bresenol. Mae yn argoeli nad ydyw teyrngarwch yn debyg o ddiflanu o'r Ynys Werdd am un oes o leiaf er gwaethaf y terfysgwyr proffesedig sydd bob amser yn ceisio perswadio y Gwyddel mai gelyn iddo ydyw y Prydein- Wt", ac y dylai yntau ad-dalu mewn gelyniaetli. Yn ngwyneb y cynydd a'r gwelliant sydd wedi ei twvnhau yn y Werdclon yn ystod yr ychydig fiynyddoedd diweddaf, nid oes ddim son am Home Rule o gwbl, ac y mae cyfnod newydd a blodeuog wedi dechreu. Mac y Gvvyddelod yn ddigori craff i weled bellach mai mantais anrhaethol iddynt ydyw eu cysylltiad ag vmerodraeth fawr a nerthol fel Prydain. Pe byddent dan lywodracth haiarnaidd gwledydd fel Rwsia a Germani, byddai ganddynt achos i rwgnach. I ddangos fod ymweliad y Frenhines wedi cael argraph dda, nid oes angen gwell prawf na'r ffaith fod ei Mawr -ydi wedi mynegi ei dymuniad i allu ail ymweliad a'r Werddon y flwyddyn nesaf. Gobeithio y caiff fyw i weled cyflawniad o'i dymuniad. » .——
Cwrs y Rhyfel.
Cwrs y Rhyfel. y ol y bryslythyrau diweddaraf o faes y rhyfel y mae cynlluhiau y Cadlywydd Roberts yn dechreu ymagor, a gwelir na bu yr holl aros a'r darpariadau yn ofer. Er nad oes dim wedi ei glywed er's ddyddiau rai ynghylch Mafeking warchae- edig y mae llai o bryder ynghylch y lie hwnw nac a fu, oherwydd cafwyd hys- bysrwydd oddiyno y byddent yn alluog i ddal allan hyd y 24ain o Fai, dydd pen blwydd y Frenhines. Yr hyn sydd yn peri syndod gartref ydyw y ffaith nad oes dim ymgais o bwys wedi ei wneyd i estyn cynorthwy o gyfeiriad Kimberley, serch fod Arglwydd Methuen wedi cyrhaedd i Warrenton tua 160 milltir o Mafeking er's agos i ddau Fis. Ac eto yn unig ymgais o bwys i helpu y Milwriad Baden-Powell yn ym- gyrch y Milwriad Plumer o'r Gogledd, yr hwn sydd wedi teithio dros 800 milldir, ac wedi dod o fewn deugain milldir o Mafe- king. Nos Fercher cafwyd brys-lythyrau calonogol oddiwrth y Cadlywydd Roberts, yn hysbysu fod y Boeriaid wedi ciel ei chwalu a'u hymlid o ardal Wepener. Yr oedd oddeutu wyth mil o'r gelyn wedi bod yn gwarchae ar y dref hono er's rhai wythnosau, ond anfonwyd adranau cryiion o'r fyddin dan y Cadfridogion Rundle, Brabant a Kelly-Kenny i'w hamgylchi. Disgwylid clywed am ymladdfa bwysig ond rywsut goddefwyd i'r gelyn ddianc tua'r gogledd-orllewin. Dywedir yn awr fod pethau yn lied barod i'r symudiad hir-ddisgwyledig tua Pretoria. Nid oed dim o bwys wedi ei ghvyed oddi- wrth Cadfridog Buller ers peth amser, ac oddigerth diangfa hynod gyfyng a gafwyd gydag ystorfeydd Arglwydd Methuen, ni chafwyd fawr o ddim pwysig oddiwrtho yntau.
Colwyn Bay a'r Eisteddfod…
Colwyn Bay a'r Eisteddfod Genedlaethol. EFALLAI ar y cyfan mai doeth ydoedd y penderfyniad wnaed gan rai o drigolion Colwyn Bay i ohirio eu gwahoddiad i'r Eisteddfod Genedlaethol am 1902. Diau fod y lie erbyn hyn yn hawlio ei gyfrif yn mhlith ardaloedd pwysicaf Gogledd Cymru, ac y mac yn ddiamheuol yn un o'r manau mwyaf dymunol. Ond gan nad oes fawr broiiad wedi ei gael eisoes gyda symudiadau o nodwedd Gymreig a chenedlaethol, dichon mai gwell ydyw cael math o brawf ac ymbaratoad trwy gario allan Eisteddfod Dalaethol. Y mae pwyllgor gweithiol cryf wedi ei ddewis, gyda'r hyglod Ddr. Roger Edwards fel cadeirydd, a diau y ceir clywed yn fuan eu bod yn gwcithio gydag yni a brwd- frydedd er sicrhau Eisteddfod wir lwydd- ianus y flwyddyn nesaf.
[No title]
—— Hysbysir am farwolaeth Syr Jacobus De Wet, un o farnwyr blaenaf Deheubarth Affrica. Dathlwyd clydd St. (George yn mhrif drefydd Lloegr ar y 24ain cyf., ac yr oedd gofyn mawr am rosynau. Y male amryw danau wedi tori allan mewn coedwigoedd yn Minnesota. Hysbysir fod am. ryw o fanau wedi eu hamgylchynu, a theimlir cryn bryder am y trigolion. — Etholwyd boneddwr dall yn gadeirydd Cynghor Dosbarth yn Sutton Bridge bydd hefyd yn ynad heddwch yn rhinwedd ei swydd. Bu farw y Due o Argyll ddydd Mawrth di- weddaf yn 77 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn aelod o Weinyddiaeth Mr Gladstone, ac yn un o'r pendefigion mv/yaf hyawdl.
Cyfreithwyr y Beibl.
Cyfreithwyr y Beibl. Y MAE yn ddiameu y bydd llawer 0 ddarllenwyr yn edrych yn syn pan welant y peuawd uchod, ac yn barod iawn i ameu a oes yn yr Ysgrythyr- au hanes am y cyfryw ddynion. Y mae bob amser wedi bod aceto yn arfer rhai o bobl dda y byd, i feddwl a, siarad yn isel am y cyfreithiwr a'i alwedigaeth. Y maent yn credu neu yn ceisio perswadio eu hunain ac eraill i gredu, ion y cyfrethiwr o angenrheidrwydd yn ddrwg. Maent yn cymeryd yn ganiataol nad oes ganddo yr un cymer.ad mewn moesoldeb na'r un safle mewn crefydd. Galwant i'w cymorth ymddyg- iadau diesgus yr ysgrifenyddion a'r cyfre.thwyr ddeunaw cant o fiynyddoedd yn ol, a'u holl wael- eddau yn flaenorol a dilynol i'r adeg hono—a'r twrne diniwed yn cymeryd y cwbl, yn rhy brysur yn amddiffyn achos y weddw a'r anghenus, i ddweyd gair drosto ei hun, ac o dipyn i beth yn ddiamddiffyn; ac y mae yn cael ei enllibio, ei gondemn.o a'i alltudio gan y werin. Fel hyn y mae enw y cyfreithiwr wedi ei gysylltu gymaint a'r tyngu anudon a'r carchar, fel y mae ei icuo a'r Beibl yn ymddangos yn wrthun—yn debyg i deimlad ambell i hen bregethwr cywir ei fwnad beth bynag am ei syniad fod y "fiddle" a'r "organ," a rhyw "anialwch felly," mor undebol a'r salwns a'r chwareudai, fel nad gwiw dyfod a hwy dros drothwy y capel. Ond nid yw yr Ysgrythyrau yn conclemnio nac yn ysgymuno y cyfreithiwr fel y cyfryw. Nid oedd yr Athraw Mawr yn arbenigol anghy- meradwyo y cyfreithwyr yn ei eiriau, ond yr oedd yn gwrthwynebu pob math o ddynion drwg a rhagrithiol yn mhob galwed:gaeth; ond yn enwi ychydig o'r galwed'gaethau blaenaf. Ac eto yn nhref a llan yr ydym yn agored i glywed "Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr, canys yr ydych yn llwytho dynion a beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd a'r beichiau ag un o'ch bysedd. Gwae chwithau," etc. Y mae efengylwr arall yn rhoddi yr un hanes, ac nid yw yn arfer y gair "cyfreithwyr." Cyhoedd- wyd y gwaeau hyn nid yn erbyn yr ysgrifenydd ion, y rhai oeddvnt yn eistedd yn nghadait Moses, ac ufudd-dod i athrawiaeth y rhai orch-y- mynid gan Grist Ei hun, nac ychwaith yn erbyn y Phariseaid, y rhai oeddynt o sel a chredo ar- benig; ond yn erbyn yr ysgrifenydd yn ei dwyll a'i ragrith ac yn erbyn y Pharisead yn anghyson- deb ei fuchedd. Pa beth yw y gyfraith a'i gwein- yddiad? Ai da ai drwg ydyw? A ydyw yn gwneud dynion yn well neu ynte yn waeth? A ydyw iawnderau dynion yn cael eu cadw ynte eu colli trwyddi? A yw yn gydweddol a chref- yelel neu yn wrthwynebol iddi? A ydyw y gwledydd hyny sydd yn cael eu rheoll gan gyf- raith, yn fwy hapus a dyogel na'r llanerchau lie y mae deddf yn anhysbys ac yn ddison am dani? Nid dirgelwch dudew yw cyfraith, ond gwyddor i'w dysgu. Mae yn parhaus gyfnewid, yn cadw camrau a'r rheswm dynol yn ei oruch- afiaeth a'r sylwedd. Ffurfir h gan y gallu uchaf yn y dalaetli-y bobl, y rhai sydd yn pasio deddfau rhesymol, doeth, ac umawn iddynt eu hunain. Wfft i'r breuddwyd fod rheolau ym- ddygiad pobl ddysgedig, rhinweddol, a Chnst- icnogol oes mor oleu a hon yn gwyrclroi medd- yliau ac yn pydru calonau y rhai sydd yn eu hyfrydu ac yn eu harfer. Yr oedd rhai o gymeriadau goreu hanesiaeth gysegredig yn gyfreithwyr dysgedig yn nghyf- raith eu gwahanol wledydd. Yn yr Aifft, dros dair mil o fiynyddoedd yn ol, ganwyd Moses, cyfreithiwr cyntaf hanesiaeth. Rhaicl i bob un ddarlleno hanes y dyn rhyfedd hwn gredu fod gan Ragluniaeth, yr hon a'i hachubodd pan yn faban, ac a agurodd fynwes merch y brenin i'w dderbyn, fwriad arben.g, hefvd yn ei ysganad oddiwrth ei dylwyth a'i ddygiad 1 fyny yn llys Pharaoh, yn mwyniant ysgolion, llyirgelloedd, a Ilysoedd y frel-linaelh. Yr oedd llyfrgelloedd yr Aifft y pryd hwn y mwyaf yn y byd, a'i chyf- reithiau yn rhoddi rhyddid personol helaeth i'w dinasyddion, ac yn enwedig yr oedd iawnderau a bremt.au merched yn cael sylw ac amddiffyn- iad. Delid llysoedd gan farnwyr yn myned o oddiamgylch o fan i fan. Yr oedd gwyddoniaeth a'r celfyddydau yn eu blodau. Mewn gair yr oedd yr Aifft yn gryd addysg a llenyddiaeth y byd henafol. Wedi gorphen ei ysgol aeth Moses i ymweled a'i frodyr, plant Israel, a chanfyddodd Aifftiwr yn gorthrymu Hebrewr ac a ddialodd gam ei frawd trwy ladd yr Aifftiwr. Yr oedd mwy nag amddiffyniad personol yn meddwl Moses y tro hwn. Yr oedd chwyldroad llywodr- aethol yn ei fwriad. Aeth yn deyrnfradwr yn erbyn breiiinaeth yr Aifft, a rhaid oedd ffoi. "Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef." Bu ei addysgiad yn lJysoedd a chyng- horau yr Aifft yn gynorthwy nid bychan iddo yn ngweinyddiad y ddeddf yn yr anialwch. Dygai ei holl ddvsgeldiaeth i weithrediad; eto yn nghanol ei holl lwyddiant cydnabyddai "Yr Ar- glwydd yw fy nerth." Y mae cyfreithiau Moses yn sylfaen cyfreithiau holl wledvdd gwareidd- iedig y byd yn bresenol, ac nis gellir ystyried neb yn awr yn gyfreith.wr da byd nes y byddo yn hyddysg yn egwydclonon y cyfreith.au hyn, ac hyd nes y cydnabyddo Moses y deddfroddwr goreu welodd ein byd erioed. Tua mil o flynyddoedd eyil Crist, cawn gry- bwylliad parchus am Jehonathan, ewythr Dafydd, yr hwn oedd "gynghorwr, gwr doeth, ac ysgrifenydd." Pedwar cant o flytiyddoedd ar ol hyny ceir hanes am fachgen ;euanc o dwrne, yr hwn oedd ddeallgar yn mhob doethineb, yn gwybod cyfarwyddyd, ac ynddo rym i sefyll yn llys y brenin, yn dechreu efi-ydjaeth ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid; ac ar ol llafur caled yn y coleg yn yr arholiad o fiaen y brenin ni chafwyd un fel Dan. el. Yr oedd yn ddeg gwell na'r holl ddewiniaid a'r astronomydd:on! Yn fachgen ieuanc yn Jerusalem, yn hyddysg yn nghyfraith Moses, ac am dair blynedd yn Babilon, yn yfed dysgeidiaeth i'w gymhwyso i sefyll yn llys y brenin, gallwn sicrhau fod Daniel yn tipyn o dwrne. Ac y mae genym engreifftiau ymarferol o'i allu. Yr oedd dau farnwr yn chwenychu gwraig gwr cyfoethog o leddew oedd yn byw yn Bab'.lon, a byddai y ddau yn ei gwylied yn feunyddiol pan fyddai yn rhod.anna yn yr ardd. Ar 01 cael eu gwrthod, cynllwynasant i ddyfetha ei chymeriad. Dygasanf hi o flaen y llys, tyst- iolaethasant ar gam yn ei herbyn, a dedfrydwyd hi i farwolaeth. Ar hyn dyma y cyfre thiwr ieuanc Daniel ar ei draed ac yn cynyg i'r llys am dreial newydd, yn gyntaf, am gondemnio merch yn Israel heb wybodaeth o'r gwirionedd, ac yn ail am fod cam-dyst'olaeth yn ei herbyn. Caniatawyd y cynygiad. Pan ddaeth amser y treial newydd fe dorwyd allan gynllun sydd yn cael ei ddilyn hyd heddyw, sef ysgariad y tystion pan fyddo amheuaeth am y gwirionedd. Cynyg- iodd y cyfreithiwr ieuanc amddiffynol fod y tyst- iol yn cael eu dwyn i mewn un ar ol y llall. Trwy hyn cafodd hwy i dystio yn holjol wahanol i'w gilydd, a rhyddhawyd y wraig. A bu Daniel mewn bri o'r dydd hwnw allan yn ngolwg yr holl bobl. Dyma Daniel, y cyfreithiwr ieuanc, yn nghanol stwr a therfysg y llys. Wedi hyn cawn ef "yn eistedd yn mhorth y brenin." Dyma y Darnwr arianwallt ar y fainc yn addfedrwydd ei ddoethineb yn penderfynu ymrafaelion bren- iniaeth gref, ac yn gosod i lawr egwyddorion iawnder ac uniondeb yn llusernau i oleuo llwybr- au oesoedd dilynol. Ychydig dros gan mlynedd ar ol Daniel wele Ezra, "ysgrifenydd eyflym yn nghyfraith Moses," yn dysgu yn Israel ddeddfau a barnedlgaethau. Gwaith ysgrifenydd oedd ysgrifenu neu gofio y gyfraith. Arosai llawer yn ysgr.fenyddion dros eu hoes, ond yr oedd rhai eraill, y rhai a ddysg- ent egwyddorion 3' gvfraith, yn dyfod jm gyf- reithwyr trwy basio arholiad yn gyffelyb i fel y gwneir yn yr oes hon. Y mae yr alwedigaeth gyfreithiol yn mhob oes o'r byd wedi cyfranu ei rhan o arweinwyr yn erbyn gorthrwm ac o du rhyddid a chyfartaledd iawnderau, a phan y mae dadleuon pwysig dyn- ol'ryw yn cael eu symud o lys rheswm i lys y frwydr, yna ar faes y gwaed y mae yr alwedig- aeth gyfreithiol wedi dwyn allan fwy o ddynion enillasant iddynt eu hunain anrhydedd trwy eu gwroldeb a'u gwladgarwch na'r un alwedigaeth arall. Y mae gwaith y twrne yn rhyw fath o frwydr yn barhaus. Corfodir ef i drin pynciau sydd wedi myned yn afreolus yn llaw dynion eraill—cwestiynau sydd wedi eu dwyn i lysoedd barn i'w penderfynu. Y mae yn eu tr:n yn mhresenoldeb gwrthwynebwyr sydd yn gwylied pob symudiad o'u heuddo, ac yn. barod iawn i udganu pob gwedd anffafriol o'r ymdriniaeth. Rhaid i'w hvmresymiad fod yn gadwyn gyfan, gref, yn gydbleth: ad o ffeithiati a chyfraith, neu fe'i dryllir yn mhresenoldeb y fainc a'r gwydd- fodolion. Rhaid i'w ymdrechion fod yn wrol, yn ddynol a theg, onide ni fydd yn Jhvyddianus. Mae rhyw syniad yn budr-hoffran yn awyrgylch tomenau, ond i ddyn fod yn ddigon anonest v bydd yn gyfreithiwr galluog. Achlysurir hyn i raddau feallai gan y brwydrau poethion rhwng y cynghorwyr yn y llys. Creda y lleygwyr diddysg fod yn rhaid i un o'r twrneiod fod yn wirfoddol allan o le. Y maent yn anghofio nad oes braidd un gosodiad bwysir gan y meddwl dynol, nas gellir dwyn rhesymau drosto ac yn ei erbyn, ae mai wrth gyferbynu y rhai hyn y cyrhaeddir y gwir. Y mae treialoa i benderfynu pethau ydym ni wedi methu eu penderfynu yn ein mysg ein hunain. Pa sail sydd gellVm i ddysgwyl i'r cyfreithwyr gytuno yn efengylaidd ar faterion yr ydym ni fel cvmydogion wedi bod mor ystyfnig yn ein hang- hydwelediad mewn perthvnas iddynt? Y mae y gwaith y twrne, ond gwaith y barnwr yw pender- ydyw dangos ei ochr ef yn y goleu goreu sydd bosibl. Y mae yn berffaith gydunol a moesoldeb i osod allan yr ochr wanaf, ac hyd yn nod i gyfreithiwr egluro un ochr, ac yna troi o gwmpas ac egluro yr ochr arall. Ni fyddai hvn ond gwneyd yn rheolaidd y petli v mae pob dyn call yn ei wneyd yn llai lluniaidd feallai, cyn pasio barn ar faterion, sef edrvch ar ddwy ochr. Nid gwath y twrne, ond gwaith y barnwr yw pender- fynu y mater a chyhoeddi y ddedfryd. Nid oes un o ddyledswvddau y cvfreithiwr a'i gorfoda i ddweyd celwydd—i dwyllo neu i gyflawni un- rhyw ddrwg moesol. Y mae ei alwedigaeth yn berffaith. gydweddol a'r ffurf uwchaf o gymerad Cristionogol. Yn wir, nid oes braidd un alwed- igaeth yn vr hon 3^ mae ffvddlondeb, geirwivedd ac uniondeb diwyro vn fwv anhebgorol. Dyla; v cyfreithiwr fod yn efrydvdd diwyd o hanesiaeth Ysgrythyrol. Cenfydd fod cyfreuhwyr y Beibl yn bortreadau hHDUS o ffurfiad ei gymeriad ei hiiii fel dvn ac fel cyfre.-th-wr, a pho agosaf y d'ilyna V rhai hvn yn mhurdeb eu buchedd, vn eu cariad a'u gwroldeb, yn yr hvn a eniUodd iddynt ffafr v nef a chvhoeddusrwydd mewn hanesiaeth d'ddarfod, agosaf y daw at fod yn gyfreithiwr mewn gwirionedd.
Marchnadoedd yr Wythnos.
Marchnadoedd yr Wythnos. Yd. LLITNDAIN; Dydd Llun, Ebrill 23.-CNiiulliad lied dda, ond v busnes yn araf. Gwenith Lloegr a thramor yn brin ac mewn gofyn gwanaidd. Peth gwvn Lloegr yn gwnevd 29s, a choch 28s 6c. Yr oedd blawd vn fwy sefydlog am brisiau gostyngol yr wythnos ddiweddaf, pris uchaf yn 28s. Y maize mewn gofyn cyfyng am 3c o ostyngiad ar y farch- ddiweddaf. Dim symud braidd ar haidd, a'r ceirch yn symyd yn araf. LERPWL, Dydd Mawrth, Ebrill 2--t.Cauodd y marchnadocdd .\meriCanaidd yn waeth nag y disgwylid, oherwydd yr hysbysiad am dv- dd 11 I y ffafriol, a gastyng:ad yn y cyflenwad presenol. Daeth y prisiau yn rhwyddach yn y dechreu, ond yn hwyrach daeth ton mwy sefydlog yn amlwg, a chan nad oedd llawer o gyiiygion, gwellhaodd y prisiau, a chafwyd cod;ad lied dda ar brisiau y farchnad cynt. Anifeiliaid. GWRECSAM, Dydd LIun, Ebrill 23.—Yr oc'd cyflenwad da ar y farchnad heddvw, pa un oedd yn cyfarfod a gofyn parod. Y prisiau yn sefydlog, a'r gwartheg yn gwerthu yn dda. Defaid a moch hefyd yn cael prynwyr parod Prisiau :—Biff, 6c i 7ic mutton, 6|c i 8c veal, 6 £ c i 7;f c y pvvys moch. 75 3c i 95 6c yr ugain pwys. LERPWL, Dydd Llun, Ebrill 23.—Y cyflenwad o warthcg >11 fwv, ond v fasnach yn farwaidd. Y rhai goreu yn gwneyd llawn brisi-,iii,-ond y mathau eraill heb newid. LJai. o ddefaid yn cael eu cynyg; y fasnach yn sefydlog am uwch prisiau, yn enwedig am y mathau goreu. Wyn da mewn gofyn, ond y mathau gwael yn anwerthadwy. Pr-siau:—Biff, 6}ic i 7c y pwys; mutton, 10c i wyn, 25s i 45s yr un. Ar y farchnad: — 6°3 o wartheg, a 2,649 01 ddefaid. LLITNDAIN, Dydd Llun, Ebrill 23.-Yr oedd y cyflenwad o wartheg yn gynwysedig gan mwyaf o rai o'r s'roedd Dwyreiniol. Y fasnach yn farw- aidd, ond cafwyd prisiau yr wythnos cynt. Y gwartheg tewion yn gwerthu braidd yn well, ac felly hefyd yr ychydig de'rw tewion gynygiwyd. Yr oedd y cyflenwad o ddefaid yn cynwys mwy o wyn, pa rai oedd yn gwerthu am lawn 4c yr wyth yn is. Yr oedd y fasnach am fyllt a mam- cgau yn sefydlog, gyda chodiad o 4c yr wyth bwys yn y prisiau. Moch yn gwerthu yn dda. T'risiau :—Biff, 35 2C i 48 8c; mutton, 3s 6c i 6s 4c pork, 25 ice i 4s 4c lamb, 6s 4c i 7s 8c yr wyth bwys. SALFORD, Dydd Mawrth, Ebrill 24.—Ar farchnad: Gwartheg, 2,374; masnach araf. Defaid ac wyn, 7,632 gofyn da. Lloi, 26=5. Y prisiau oeddynt: Gwartheg, 5c i 6c; defaid yn eu gwlan, SYzc i io^c; eto, wedi eu cyneifio, yYsC i 9t4c wyn, I ic i is; lloi, 6c i 8^c y pwys. BIRMINGHAM, Dydd Mawrth, Ebrill 24.— Agorodd y farchnad gyda gofyn buan, ac yr oedd cyflenwad iled dda. Prisiau: Herefords goreu, 7c i 734C gwartheg a the:rw, 4%c i Yzc; lloi, yc i 8%c; myllt, g%c i 9?4c; mamogau a meheryn, SC i 7c; wvn, ice i 11c y pwys; moch tewion, gs 6c i 9s 8c nerchyll, 9s gc i ios; hychod, 7s i 7s 2C yr uga.:n pwys. Marchnadoedd Eraill. Owlan, BRADFORD. Dvdd LInn, Ehrll! 23.— Nid oes gyfnewidiad o bwys yn y sefyllfa er yr wythnos ddiweddaf, ond fo 1 ychydig mwy o alwad am y cross-breds isaf a'r nwyddau goleu, ond y mae y prisiau yn isel. Y mae y mohair yn sefydlog, yn enwedig y mathau hirion. Y mae y nyddwyr yn dal yn brysur, ac nid ydynt yn tueddu i dderbyn y cynygion isel sydd yn cael eu gofyn gan y masnachwyr. Owalr a Owellt. MANCEINION, Dydd LInn, Ebrill 23.—Gwair, 5c i 6%c clofer, %c i 6Yzc; eto, Lincoln, 6Yzc i 7d; gwellt ceirch, 2.}C i 3Y4c y 14 pwys. Ymenyn, CORK, Dydd Mawrth. Ebrill 23.— Goreu, 94s; ail, 78s trydydd, 69s; ymenyn ffres, 86s i 85s.
Advertising
OLDEST DRAPERY ESTABLISHMENT IN THE VALE OF CONWAY. GWYDYR HOUSE, LLANRWST. L. WILLIAMS & SONS, ARE NOW SHOWING LATEST NOVELTIES In Costumes, Capes, Jackets, Macin- toshes and Imperials. NEWEST PRODUCTIONS In Millinery. A Great Variety of Straw Hats, Millinery Materials and Or- naments. LATEST STYLES In Blouses. VALUABLE RANGE Of Dress Materials. Furnishing Department Freshly Stocked. Linoleums at OLD PRICES. PLENTY OF CHOICE In Men's & Boys' Ready-made Clothing. 85 -n- ESTABLISHED 1876. WILLIAM HUGHES, MONUMENTAL & ARCHITECTURAL MASON AND CARVER, STATION ROAD, LLANRWST. MANUFACTURES 01' MONUMENTS, HEADSTONES, & TABLETS, In all tha British & Foreign Granites, Marble or Stone. TOMBSTONES CLEANED, ENGRAVED, & RE-FIXED Quality of Materials and Worhmanship guaranteed. Fonts, Steps, and all Ecclesiastical Mason Work a Speciality. Inspection of Stock and comparison of prices cordially invited. 992 PERFECT SIGHT. Only a very small proportion of persons have perfect sight for far and near in both eyes. ARE YOU TROUBLED with headaches ? Do your Eyes ache and feel heavy, or do they smart and water. SOMETHING IsWRONG if you feel any of the above symptoms. CALL & CONSULT US and we will advise you. Our Optical Depart- ment is at your service, and is under the personal supervision of R. G. OWEN, F.S.M.C. (London), Pellow of the Worshipful Company of Spectacle Makers, I Gaildliall, London (by Examination), OPHTHALMIC OPTICIAN. GRIFFITH OWEN & SON, Watchmakers, Jewellers, Silversmiths & Opticians, LLANRWST. 120 -= D. G. WILSON, Merchant Tailor, 2, Watling Street, LLANRWST, HAS A GOOD SELECTION OF SUITINGS, O VERCO ATINGS, AND TROUSERINGS, In STOCK at MOST REASONABLE CHARGES. Ladies' Costumes, Jackets, Liveries, and Clerical Garments a Speciality. D.G.W. has a competent Staff of Workmen on the premises, and guarantees excellent workman- ehip, along with good Fit and Style. In STOCK ALSO CHRISTY'S LONDON HATS, CAPS, TIES, SHIRTS, MACINTOSHES, DENTS' GLOVES, etc. 2, w.A.TLinsra- ST. LLANRWST. « LLANRWST. BERLIN HOUSE, WATLING STREET. DAVID JONES (Successor to J. PARRY JONES) Desires to draw your attention to the BEST and CHEAPEST LINES in the Town as a Watchfnaker and Jewellen REPAIRS GUARANTEED. Only Agent for Henry Laurance's Spectacles. 1021 SPECIAL TO LADIES. For the Best and Largest Stock of LADIES' AND CHILDREN'S UNDERCLOTHING, BABY LINEN, CHILDREN'S COSTUMES, AND MILLINERY, CORSETS, UMBRELLAS, FANCY GOODS, DENT'S GLOVES ETC., GO TO Compton House, W- LLANRWST ONLY RELIABLE GOODS KEPT. ALFRED T. HUGHES, Proprietor.