Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Colofn Cymreig y Rhondda.

News
Cite
Share

Colofn Cymreig y Rhondda. Mae yn fater pur ddyddorol i weled fel y mae ymdrech yn llawn afiaeth yn cael ei wneyd o hyd i gwrdd a nodwedd ddwy- ieithawg yr adran yr ydym yn byw ynddi. Ac nid oes o safbwynt addysg a Chymraeg ddim gwedd fwy cysurol i ni yn y diwygiad na gweled y modd y mae cynull- eidfa gymysg yn pigo i fyny emynau newyddion yn Gymraeg ac yn Saesoneg; a, hyny gyda'r fath rwyddineb ag sydd yn synu dieithriaid; ond o herwydd ei fod yn beth mor gyffredin gyda ni, nid oes neb yn sylwi arno. Ond wedi'r cwbl, y mae yn beth i'w ryfeddu yn fawr iawn, gweled tyrfa o bobl heb ond efallai haner dwsin o lyfrau emynau trwy y lie, yn dilyn ac yn canu degau o emynau yn rhigil a rhwydd yn Gymraeg neu yn Saesoneg, a hyny heb un orchest o gwbl. Mae yn sicr yn synfawr iawn. Dyma un un eto i'r Ysten 1YMGOM FEB A'R IESU (" A LITTLE TALK WITH JESUS"). (Alexander Hymn Book, No. 108). Er tywyll a chymylog nos, a du ystormus nen, Treialon lu o bob rhyw fath yn tori ar fy mhen, Gorchfygaf hwynt i gyd, drwy geisio Duw mewn pryd, Gwna ymgom fer a'r Iesu 'r oil yn iawn, yn iawn. Cydgan- Gwna ymgom fer a'r Iesu 'r oil yn iawn, yn iawn; Gwna ymgom fer a'r lesu 'r oil yn iawn, yn iawn Mewn trallod o bob rhyw, canfyddaf clod i Dduw, Gwna ymgom fer a'r lesu 'r oil yn iawn, yn iawn. Tra rai oedd gynt yn ffryndiau mwyn erlid- iant yr awr hon, Y rhai broffesant garu'n bur sydd heddyw'n oer eu bron; Dywedaf wrth fy nhad, caf ganddo ef ryddhad, Gwna ymgom fer a'r lesu 'r oil yn iawn, yn iawn. Ac felly wrth ymgomio yn *ghyd, caf fuddugoliaeth lawn, A theithio 'n mlaen dan ganu'n lion mewn rhyddid hyfryd iawn; Fod Iesu'n gyfaill oes, mi brofaf dan bob eroes, Gwna ymgom fer a'r Iesu 'r olkyn iawn, yn iawn. Bailey St., Ton. D. J. Richards. Goleuadau Dieithr. I Yn nglyn a'r goleuadau dieithr sydd yn dilyn y diwygiad, neu yn hytrach yn gyd- amserol ag ef, mae rhai pethau lied ryfedd yn dwyn perthynas a Mrs. Mary Jones yn Egryn, Sir Feirionydd, yn nghanol llu o egluviadau a gynygir. Mae Mr. J. Castell Evans, Athraw Ferylliaeth yn ysgol grefftol dinas Llundain, Finsbury, yn cynyg eglurhad. Cymro o ymyl y Bala ydyw Mr. Evans (o'r un ardal a Dr. W. E. Thomas, Y.H.), ac adwaena Lanegryn yn dda. Dywed iddo, pan yn pysgota yn llyn y Bala, weled amryw oleuadau, a mynai y bobi mai rhai goruwchnaturiol oeddynt. Gyda Mr. Evans yr oedd ei frawd, a. daethant o hyd i ifarmwr ieuanc o'r cylch. Yn y nos y digwyddodd hyn. Gwelsant belen o oleuni yn cyfeirio am danynt, gan ddawnsio ar y ffrwd yn y modd rhyfeddaf a mwyaf digrifol a gallasai greu dychryn mewn meddyliau eiddil ac ofnus a rhyw dueddfryd at lochesu syniadau ofergoelus. Pan ddaeth y belen yn ddigon agos, cododd Mr. Evans gareg o'r ffrwd ac anelodd. Aeth y gareg drwy y belen, gan ei thori fel yr edrychai yn fil o ddarnau bychain yn mheu ychydig wedi hyn, aeth y darnau hychain at eu gilydd, ac unwaith yn rhagor dyna'r belen yn dechreu dawnsio uwchben y ffrwd; ond nid oedd y belen ond clustwr o bryfaid lleuferol, neu bryfaid ag sydd yn goleuo yn y nos. Hyd ddydd ei farwolaeth, credai y ffermwr mai goleuni goruwchnaturiol ydoedd. Rhydd Mr. Evans enghraifft o'i waith yn "dil ysbryd a'r hyn oedd yn amgen na'l' pryfaid y cyfeiriwyd atynt. Ebai Mr. Evans, Y mae llawer o ffurfiau o will o' the wisp' tawch lleuferol, a golueni yn cael ei gynyrchu gan drydan." Tro Ryfedd yn Tneorchy. Ond pa beth bynag a ddywedir am ysgrifau Beriah Gwynfe Evans, ac am eglurhad J. Castell Evans, credwn nad oes neb yn chwilota ac yn ysgrifenu yn nghylch pethau fel hyn ond er mwyn cael gweled rhywfodd os gellir cael nerth i ddarganfod o'r holl ffeithiau y gwir. Os ydyw ffaith J. Castell Evans yn wir, a'i eglurhad yn un cyson a chlir, beth gyfrifl am bethau rhyfedd y wraig o'r Dyifryn, a'r goleuni rhyfeddol a amgyichodd bai-ti i oedd yn dychwelyd o gwrdd diwygiadolP Beth gyfrifa am fod y "gwybed lleuferol hyn," neu enghreifftiau o drydaniaeth mewn ufudd-dod i ryw ddeddfau tybiedig sydd yn tynu i gyfeiriad capel neu i gwrdd a'r diwygwyr? Neu esbonier y tro hwn yn Nhreorchy, os gellir. Ar noson neill- duol, ychydig dyddiau yn ol, yr oedd parti o grefyddwyr ieuainc aiddgar, sydd wedi ymdynghedu yn eu calon i weddio Duw, a< yaith gyda dynion nes cael y clybiau otnadwy yma yn wag ac yn sych, y clybiau sydd yn damnio pobl ieuainc y Cwm wrth y canoedd; ac ar ryw noson, pan allan yn y cwrdd "open-air," a,c mewn "ring," dyma, ebai'r hanes, dri o fechgyn yn d'od allan o'r clwb, ac o dan ddylanwad y ddiod feddwl, yn dechreu gwawdio a dir- mygu, ie, a chablu Duw a dyn trwy watwar-weddio pan oedd merch ieuanc wrthi eisoes yn gweddio; dacw- bel-en o oleuni llachar a disglaer, mor ddisglaer lies iddi gael sylwi arni yn rhedeg drwy y nen gan amryw o bobl o'r Pentre ac Y strad-Rhondda, ie, gan rai oddiar ochr mynydd y Maendy. Dacw'r belen yn myn'd ac yn aros uwchben y ring oedd wedi ei ffurfio gan yr open-air meeting," ac yn gydamserol a geiriau eablaidd y gwatwar-weddnvr oedd yn ymylon y cylch, ac yno yn ymdryllio ac yn rhedeg l lawr tuag atynt yn fforchi yn bedair neu bump colofn. Os dywedir falling star, gwyddom nad oes peth felly yn llythyrenol, ond fod "meteor," rhyw oleum lleuferol, dardda o ryw gyrff awyr- awl sydd yn ymsaethu efallai o fydoedd ereill trwy awyr ein byd ni mewn ufudd- dod i ryw ddeddfau reoleiddia'r cyd-fyd mawr, Dywed J. N. Lockyer yn ei Elements of Astronomy," fod tua 7,500,000 o'r cyfryw oleuadau gweledig i'r llygad dynol yn gwibio'r ffinfafen mewn un dydd, eto wedi rhoddi pob ystyriaeth a ffaith ellir cael gafael ami, wrth ei gilydd, teimlwn fod yn anhawdd iawn d'od i un penderfyniad a gwthio allan y factor" mawr o'r byd anwclcdig ac o lywodraethiad Duw arno, i'w amcanion gogoneddus ei hun. Mae y frawddeg hono yn aros yn wir:—" There are more wonders in heaven and earth than are dreamt of in our philosophy." Ac y mae pob esboniad o hyd yn ceisio gogoneddu rhyw ddeddfau, a rhyw wybodaethau bychain, heb gofio fod yn y dadguddiad a I roes Duw i'r byd yn ei air fil a mwy o clystiolaethau o'i lywodraeth Ef ar fater. i amcanion moesol ac ysbrydol a'r hyn yw Duw yn hanesiaeth yr Hen Destament. Dvna welwn ydyw rn hams ei Fab yn ystod cyfnod ei vm^na wdolfrtrl. a dyna fydd byth Ceidwad Dwyfol, yn ol natur j pethau gyfrinion ei actau dwyfol yn eiddo iddo ei hun byth. Ni all y meidrol am- gyffred pob peth yr anfeidrol. Cofier geiriau Ben Bowen, y tlws fardd gwyw: Er i'th ddyfodol loewi'r gorwel hardd, A breuddwyd d'obaith welwi Eden Ardd; I'th Wynfa brydferth fe ddaw'r hydref gwyw Os bydd dy wybod yn anghofio Duw. Gwybod pob peth! Nid hawl dynoliaeth yw: Mae pren gwybodaeth ar diriogaeth Duw Mae rhyw ddirgelwch fyth a'i dieithr ffin Yn cadw Duw yn Dduw, a dyn yn ddyn. Twymyn amheuaeth—anorphwysdra am Dyfnder yn galw am ddyfnder "-a phaham Ar aig y nos yn d'rysu wrth y llyw— Mewn coegddysg ynfyd yn anghofio Duw! Mae y fath bethau rhyfedd-fawr wedi digwydd, fel na charem roddi terfyn i sant yr Israel mewn unrhyw wedd, na doethi uwchlaw yr hyn sydd weddus. Mae y dwyfol yn ein cylchio ar bob Haw, ac yn ymyryd a ni ar bob moment, ac eto mae amcan yr oil ydyw ein dyrchafu a'n puro. Gair am y Diwygiad a Fu. Mewn cyfrol fechan, 3iylaw a thlws, sydd wedi ei chyhoeddi gan Thos. Payne, D.D., mae yn cyfeirio at y diwygiad grymu-s fu yn Nghwm Rhondda dro yn ol, ddechreuwyd yn ddiau yn rhanol gan ddyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth" i'r lie. Rhag gwneyd un cam a'i eiriau, dyma hwy One of the greatest, re- vivals ever known in South Wales took place shortly after the Salvation Army commenced operations in the Rhondda Valley. It was not long before the whole of that extensive valley was moved, and thousands of families were brought under the regenerating power of the Holy Ghost. The writer can never forget the remarkable testimonies given by some of the converted colliers during a visit on that occasion. How the heart of minis- ters and Christians of all denominations were gladdened while one after the other testified of the blessed effects the revival had had upon their hearts and lives, and declared that the cats and dogs in their homes and also the poor horses working down in the mines had proved the benefit of the change by the kinder treatment they received. Yet the chief instrument used of God in bringing about this re- markable revival was a feeble young woman, not able to preach a sermon, but like the early disciples in the power of the Holy Ghost, she could give a wonder- ful testimony of Jesus Christ as an all- sufficient Saviour for lost and ruined sinners." Dyma air rhagorol yn adsain o'r diwygiad o'r blaen, ac y mae yma ganoedd yn Nghwm Rhondda wedi dal yn ffyddlon iawn oddiar y pryd hwnw, ac erbyn heddyw yn ddynion cryfion yn y gwahanol eglwysi yn y dyffryn. J. &. don-es, "i yiorstown. Mae gweithred ardderchog wedi ei gwueyd gan y bonedtiwr ucliou, sycict wecii em lioni yn iawr. Wedi ei tagu ar aei- wyd nen bregethwr duwiol, ac wedi cael ei arwaiu i lineil masnach ymbortii, ae wedi ei ddewis droion ar yr hen Jbwrdd isgol. Tiwy ddirwasgiad mawr "strike IOJO, bu gorfod ar Mr. Jones, fel llawer ereili, fyned i lys methdaliad; yi- oedd yn iyr o tua £ 1,U(J(J i wneyd y ddau ben ilinyn i gwrdd. In 1900, cafoad ef ei rydaiiad or liys, ac er ei tod yn gyfreith- Ion rydd oddiwrth ei ofynwyr, mae ei wedi yinroddi ac ymegnio, ac wedi gwneyd yn dia anrhydeddus trwy dalu ei holl ofyn- wyr yn liawn. Mae gweithred fel hon yn ein lioni yn fawr-yn wir, tuhwnt i fesur, yii nghanol dylanwadau y diwygiad, i weled gonestrwydd masnachol yn ym- gyrhaedd at actau fel hyn. Egyr iygaid amheuwyr, a rhydd daw ar lawer tafod gwatwarus. Ni synwn ddim i weled ei ofynwyr yn troi yn ol ac yn trefnu i'w anrhegu o barch iddo am hyn. Dylid cotio tod boneddwyr fel hyn yn fynych iawn yn myned i'r mur wrth geisio dwyn beichiau pobl ofynant am fwyd, ac yn anhawdd eu gwrthod, ac yn disgwyl y deueut i dalu yn ol, ond yn fynych iawn byth yn gwneyd. Ao nid teg mewn un- rhyw deuiu, wedi cael ymborth am fis- oedd gan fasnachwr a, i grafangau'r gyfraith trwy ei ymdrech a'i haelioni, ac yna wedi gorfod myned i lys methdaliad, ei adael yn ei waradwydd, sydd yn waradwydd dros ereill. Gwn am achos gafodd fwyd gan ddyn yn Aberdar am fisoedd lawer. Yr haelionus wr y pryd hwnw yn beirianydd mewn glofa ac yn cael ei gyflog yn rheolaidd trwy y strike daeth yn ddiweddarach i'w feddwl fyned i gadw siop grocer i'r Rhondda. Daeth y teulu arall yno hefyd, ac er nad oedd ond tua milldir a haner rhyngddynt, ni wnaethant gymaint a phtynu gwerth ddimai goch gan eu hen gymwynaswr, ond mae'r gwr hael heddyw mewn digonedd, ond tlawd, ie, pur dlawd, oedd y teulu lie ganwyd yr ymddygiad bawaidd yna yn ei meddwl. Evan Roberts. Gwr anwyl, yn hygar wenu-o dan Ysbryd Duw a'i allu; A'i lef dros annuwiol lu Yn ddwys wrandawodd Iesu. Brynkir. W. Owen. Cymru'r Diwygiad. Ardaloedd ar eu deulin-beth yw hyn ? Gobaith oes ddilychwin; Eneidiau'n troi; Duw yn trin Agoriad calon gwerin. Bedydd Duw fedyddiodd Gymru Pentecost yr Ysbryd Glin Nid oes ardal heb ei hallor, N id oes allor heb ei than; Cwmwl goleu gweddnewidiad A o-vsgododd dros y wlad,— Gwelwyd dyn i Dduw yn blentyn, Gwelwyd Duw i ddyn yn dad. Clybu cenedl farn a chariad Yn cyniwair drwy ei bro; Ysodd tan o'r nef Gwm Rhondda Oedd a'i galon fel y glo: Mynwy ddu—Gomora Cymru, Gwyrth o ras ar hono wnaed; Cadd "gydwybod wedi ei chanu'n Ddisglaer yn y dwyfol waed." Un yw Cymru'n nghwmlwm gweddi, Un er gwahaniaethau oes; Gyda'r nef a chyda'i hunan Fe'i cymodwyd wrth y groes Nid oes son am Wyddfa mwyach, Onid ydyw Calfaria Wedi myn'd goruwch y bryniau Penaf yn ei golwg hi P Gwnaed o Gymru berth yn llosgi Heb ei difa gan y tan, Ac yn fflam ei phuredigaeth Cafodd ddawn a gwefus lan Hen emynau'r Gwaed a'r Diolch Maent i gyd ar lafar gwlad, "Rhai fu'n fudion sy'n clodfori Duw am iachawdwriaeth rad." Nid oes ardal heb ei bailor, Nid oes allor heb ei than; Gyda'i dysg y cafodd Cymru Bentecost yr Ysbryd Glanj Os mai marw'i thywysogion, Byw ei Phentywysog hi; "Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y Hi' ) -E, ifion Wyn. AWSTINIAN.

Gwyl Oewi Sant, 190S,

Mabon s Testimonial.

Advertising