Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
DR. PARKER.
DR. PARKER. Tr wythnos ddiweddaf, ar ol mesur o ad- feriad o'i aflechyd, tarawyd Dr. Joseph Parser yn wael trwy anwyd a gafodd, Y mae dan ofal ei feddvgon, a cheidw yn ei ystafell,
ABERDYFI.
ABERDYFI. PRIODAS — Dydd Mercher, yn nghapel y Tabernacl, priodwyd Mr. John W. Morgan, Xanthus House, 4 Miss Sarah A Hughes, merch hynaf Mr. D. Hughes, Draper. Priod- wyd hwy gan y Parch. J. D. Jones, gweinidog y lie a chwareuwyd y Wedding March,' gan Miss Richards. Yr oedd brecwast priodasol wedi ei barotoi yn nhy y briodasferch. Yn y Erydnawn, fe ymadawsant am eu gwyliau i undain a Brighton.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CYFARFOD PREGETHu.-Cynhaliodd y Bed- yddwyr Cymreig yn y lie hwn, eu cyfarfod pre- gethu blynyddol, nos Fawrth, a dydd Mercher, Eleni y cenhadon a wahoddwyd i'r wyl oeddynt, yParchn. W. S. Jones, Caerfyrddin a J. Lee Davies Brynaman. Cafwyd cyfarfodydd ben- dithiol iawn,
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. PREGFTH.-Nos Wener, bu y Parch. W. Parri Huws, Dolgellau, yn traddodi pregeth ddirwestol yn nghapel Jerusalem. Hyderwn y o fendith i'r eglwysi a'r achos dirwestol yn y 110. YMADAWOL.—Nos Sadwrn, yn Ysgoldy y Bwrdd, cynhaliwyd cyfarfod, dan lywyddiaeth Mr. R. R. Ellis, Bryneglwys, ac arweiniad y Parch R. R. Jones. Yr achlysur oedd ymad- awiad Mis. Davies, cyn-athrawes yn ysgol y Babando 1 am 20 mlynedd, am yr America. Datganwyd yn y cyfarfod gan Mri. I. Jones, j. E, Roberts, I. Humphreys, D G. Evans, R. E. Pugh. Cyflwynwyd codaid o aur, a darlun o blant yr ysgol i Mrs. Davies ar ran y tanys- grifwyr, gan Mri. D. Humphreys, W. Jones a G. Griffiths. Caed anerchiadau gan Mti J. Evans, Dolaugwyn, ac 0. Edwards, yn dwyn tystiolaeth uchel i allu, ymroad, a Uwyddiant Mrs. Davies fel athrawes yn y lie. Dymunwyd pob llwyddiant iddi hi a Miss Edwards, yr hon sydd yn dychwelyd i'r America am )r ail waith.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Y MESUR ADDYSG.—Dydd Sadwrn, cyfar- fyddodd nifer o Ryddfrydwyr y lie hwn a Mr Osmond Williams, A.S., i wneyd trefniadau er protestio yn erbyn y Mesur Addysg. Cymer- wyd y gadair gan Mr E. P. Jones. Ystyriai y cyfarfod mai yr anhawsder raawr i gae] cyf- arfod oedd fod yn anhawdd cael areithwyr. Modd bynag, penderfynwyd i wneyd ymdrech i gael gwasanaeth Mr. Lloyd George, a'r Parch. Dr, Clifford. DAMWAIN.-Tra yn dilyn ei alwedigaeth yn chwarel y Graigddu, y dydd o'r blaen, syrthiodd un Simon Hughes, o ben y graig gan dd;agyti ddyfnder o 30 troedfedd. Torodd ei fraich, a derbyniodd rai niweidiau eraill. Deallwn ei fod yn gwella dan ofal Dr. Evans.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. CYFARFODYDD DIOLCHGARWCH. Dydd Llun diweddaf, ydoedd y dydd nodedig gan yr Ymneillduwyr yn y dref hon a'r cylch i gynal yr wyl ddiolchgarwch am y cynhauaf. Yr oedd y presenoldeb yn y gwahanol oedfaon, ar y cyfan yn dra boddhaol. Gwnaed casgliadau at amcanion neillduol yn yr oil o'r addoldai yn ystod y dydd. Yr oedd arogl hyfryd ar yr oil o'r gwasanaethau. Y TLOTDY—Mae tender Mr. J. O. Williams, am wneyd y gwelliantau angenrheidiol yn y Tlotdy wedi cael ei dderbyn DISWYDDO OVERSEER Yn Mwrdd y Gwarcheidwaid, a gynhaliwyd dydd Mercher, darllenwyd llythyr, o ba un y mae a canlyn yn gyfieithiad, oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leol, fel copi o lythyr a anfonwyd gan yr un Bwrdd, i Mr. D Davies Williams: Cyf- arwyddir fi gan Fwrdd y Llywodraeth Leol i gydnabod derbyniad eich llythyr am yr 22ain cynfisol, o berthynas i adroddiadau y District Auditor ynglyn a'i archwiliad am yr haner blwyddyn diwedd, o'ch cyfrifon fel Assistant Overseer dros Uwchygareg ac Isygareg, yn Undeb Machynlleth. Mae y Bwrdd wedi rhoddi yr ystyriaeth fanylaf i'r mater, ond nis gallant edrych ar gynwysiad eich llythyr dan sylw fel yn rhoddi egluthad boddlanol ar y materion y cyfeirir atynt gan yr Aichwilydd, ac wrth roddi ystyriaeth i holl amgylchiadau yr acbos, y maent yn )fo i'r penderfyniad na buasai yn iawn iddynt ganiatau i chwi barhau yn y swydd. Rhaid i'r Bwrdd felly ddymuno arnoch ar fod i chwi anfon i mewn eich ymdiii- swyddiad uniongyrchol ynglyn a'r swydd uchod i'r gwahanol Gynghorau Plwyfol.'
YNADLYS DOLGELLAU.
YNADLYS DOLGELLAU. Dydd Mercher, cynhaliwyd Ynadlys arbenig, pryd y cyhuddwyd Arthur Davies, diweddar Billiard Marker, yn Ngwesty y Royal Ship, o gymeryd sofren oddiar Miss Edith Williams, Barmaid. Dywedai yr erlynes.ei bod yn gwas- anaethu yn y Ship Hotel, hyd y dydd Sadwrn blaenorol. Ar y Igeg o Medi, galwodd y carcharor beibio iddi wrth fyned allan ar neges. Gofynodd yr erlynes iddo a wnai efe geisio newid sofren iddi, ac addawodd wneyd. Daeth yn ei ol a dywedodd nad oedd eto wedi cael y newid. Nis gwelodd ef na'rfarian ar ol y di- wrnod hwnw.—Yr heddwas Morgan a roddes dystiolaeth iddo gymeryd y carcharor i fyny yn Lerpwl; ac iddo gyfaddef wrtho ef ei fod yn euog; a'i fod wedi colli yr arian.-Yr Arolygydd Jones a ddywedai i'r carcharor gael siwt o ddillad newyddion yn y dref; iddo fyned a hwy ar ei union i Manchester, eu gwerthu, a gwario yr arian. Dedfrydwyd ef t 2os. a'r costau neu fis o garchar gyda llafur caled.
PWLLHELI.
PWLLHELI. APWYNTIAD.—Mae Mr. W. J. Davies, Sur- veyor ac Arolygydd y dref hon, wedi cael ei apwyntio i safle gyffelyb, yn Blaina, Sir Fynwy. Y GENHADAETH.—Mae amryw o foneddig- esau ieuainc peithynol i'r Methodistiaid yn y dref, wedi ymuno fel Cymdeithas, gyda'r amcan o godi cronfa tuag at y Genhadaeth Dramor. Y TRAMWAYS -Y r oedd yderbyniadau oddi- wrth yr uchod am y tymor diweddaf yn cyraedd y swm o 140P., a.deallir y bydd yr elw clir Oddeutu 4op. Mae hyn yn dda iawn, ag ystyr- ied i'r hin anffafriol a gafwyd drwy ystod y tymor effeithio yn anffaftiol ar nifer yr yrawel- wyr ilr lie hwn fel pob lie arall eleni.
Y SENEDDD-DYMOR HYDREFOL.
Y SENEDDD-DYMOR HYDREFOL. Disgwylir i'r Prifweinidog gyraedd LIun- dain ddiwedd yr wythnos hon, ao mae par- otoadau prysur yn cael en cario ymlaen ar gyfer y Senedd-dymor hydrefol. Dydd Ma wrth nesaf. bydd Mr. Balfour yn siarad mewn cyfarfod mawr yn Manchester, ond bydd i un cyfarfod o'r weinyddiaeth, o leiaf, gael ei gynal cyn hynv, er darparu at gyfer gwaith y Senedd-dymor hvdrefol. Nid yw dyddiad cynhadledd y gweinidogion wedi cael ei nodi eto, ond cymer y cyngor le un ai ddiwedd yr wythnos hreaenol, neu ddechreu yr wythnos nesaf,
PEGWN Y GOGLEDD.
PEGWN Y GOGLEDD. Yn awr, pan y mae yr anturiaethwr Norwy- aidd Sverdrup i'r gororau ^oeleddol wedi dych- welvd, a'r teimladau cvntaf a achoswyd gan ei ddychweliad wedi tawelu, ffyna gradd o siomedigaeth ymvsg y Norwegiaid, am na fuasai efe wedi Uwvddo mwy yn ei ymgais i gyraedd Pegwn y Gogledd. Gobeithiodd y Norwyaid Ryda hyder cryf y btiasai efe yn etlir, llawryf ar anturiaethwyr gogleddol. Wrth ei weled vn oedi ei ddychweliad, aethant i deimlo yn Hed sicr ei fod ef wedi ilwyddo i enill y gamp. Ond wedi y cwbl ni chyrhaeddodd efe, er ei holl absenoldeb, vn agos can beUed ag yr ymwthiodd llawer o'i flaen a fu ar y got or am lai o amser na ef. Ar yr un pryd, rhydd y rhai cyfarwvdd y gwerth mwyaf ar yr ymchwil- iadau a wnaed ganddo. Oherwydd hyny, nid oes bail ar yr anrhydedd a osodir arno.
ABERMAW.
ABERMAW. APWYNTIAD.—Yn NghyngorTrefol diweddaf yr IAbermaw. apwyntiwyd Mr. Lloyd Jones, Bala, yn Surveyor i'r Cyngor. Ymgeisiai wyth am y swydd. Yr oedd V bTeidlais derfynolfel y canlyn :—Mr Lloyd Jones, 6; Mr. P. S. Evans, 2; Mr. J. Adams, Abermaw, i. Hys- byswyd fod yr apwyntiad am flwyddyn, am gyflog o i3op. ARWERTHIANT.-Prydnawn dydd Gwener, rhoddodd Mr}. Gillart. Arwerthwyr Machyn- Heth, amryw gaeau a thiroedd at adeitadu ar werth, yn Ngwestv Corsygedol. Saif y tir ar ochr y ffordd cydrhwng Abermaw a Llanaber. Ar ol amryw gynygion, tarawyd yr eiddo i Mr. W. W. Greener, Birmingham. YMOSODIAD.—Yn yr Ynadlys a gynhaliwyd ddydd Gwener, cyhuddid D. Charles Jones, Painter, Abermaw, gan M G. Roberts, Ar- graffydd, o ymosod arno. Ymddangosai Mr. Guthrie Jones ar ran yr erlynydd, yr hwn a ddywedai fod Roberts yn casglu y tocynau mewn cyngerdd yn ddiweddar; ac i'r rheolwr ofyn iddo (i Roberts), fyned allan i geisio hedd- geidwad. Dywedodd y diffynydd wrtho am ddyfod a'r heddwas Jones, daeth yntau a'r heddwas Roberts. Yna aeth Jones at y rheolwr a dywedodd fod Roberts yn anonest. Dywed- odd yr erlynydd wrth Jones ei fod yn feddw, ac yna ymosododd y diffynydd ar Roberts,, Dir- wywyd ef i 10s. a'r costau, a rhwymwyd ef i gadw yr heddwch am chwe' mis.
CORRIS.
CORRIS. PLESEltDAITH. Dydd Liun, bu aelodau Ysgol Sul vnehyd ag aelodau yr ysgol ddyddiol berthynol i'r Eglwys Sefydledig, am bleserdaith yn Aberystwyth. Oherwydd ei bod yn wyl gyffrefiinol yn y lie, ymunodd nifer luosog o Ymneillduwyr t fyned gyda hwynt. Mwynha- wyd y diwrnod yn fawr GENHADAETH.—Yr wythnos nesaf, bydd y Parch. H. Hughes (W), yn traddodi cvfres o bregethau dan nawdd Cymdeithas y Merched. yn nghapel Rehoboth. Traddoda ddarlith ar Moody,' nos Lun. Prydnawn dydd lau, bydd yn anerch y merched, a phrydnawn Sul, rhydd bregeth i'r bobl ieuainc. Yr wythnos hon, cynhelir cyfarfodydd gweddio unedig ynglyn a'r mudijtd. MAGIC LANTERN, &c.-Nos Fercher, yn Ysgol y Bwrdd Corris, cynhaliodd Mr. D. M. Hughes, Machynlleth (diweddar o'r America), gyfarfod gyda'r hud-lusern a pheiriant siarad. Yr oedd y diweddaf yn un o'r peirianau goreu a wrandawsom erioed-yn glir a dealladwy Er fod Mr Hughes dan gryn anfantais gyda'r llusern y tro hwn, eto yr oedd y darluniau yn wir dda. Yr oedd, yr Holy City ar y canvas, a'r alaw gyda'r peiriant yn gampus. Canodd Mr. Williams, Machynlleth, g&n, a eglurid hefyd gyda'r llusern, a chafodd gymeradwyaeth y cynulliad. Gresyn na fuasai mwy yn bres- enol. CYFARFODYDD DIOLCHGARWCH.—Neilldu- wyd dydd Llun diweddaf yn ddydd gwyl diolch- garwch am y cynhauaf, yn yr ardaloedd hyn, gan yr oil o'r Eglwysi Rhyddion Fel arfer, dangoswyd ffyddlondeb canmoladwy yn y moddion, fel yr oedd cynulliadau da yn bresenol. Gwnaed casgliadau yn ystod y dydd at wahanol amcanion ymhob capel. Cafwyd cyfarfodydd bendithiol. Nos Fawrth, a thrwy y dydd heddyw (Mercher), cynhalia yr Eglwys Sefyd- ledig ei chyfarfodydd diolchgarwch. Pregethir gan Parchn. J. Salt, Llandinorwig D. Lewis, B.A., curad, Llanbrynmair; a'r Parch. J Morgan, M.A., Archddiacon Bangor.
PENRHYNDEUDRAETH
PENRHYNDEUDRAETH BWRDD Y GWARCHEILWAID.—Cynhaliwyd hwn dydd Mawrth, dan lywyddiaeth Mr. Owen Jones. Rhoddodd y cadeirydd adroddiad manwl o'r ymdrafodaethau gymerodd le yn nghyfarfod unedig gwarcheidwaid Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llangollen. Yr oedd ef (y cadeirydd), wedi Ilwyddo i gael y Cyfarfod Blynyddol nesaf i Ffestiniog Pasiwyd i dderbyn cynyg Mri. H 1.1. Jones, a Griffith Roberts, Ffestiniog, am gyflenwi glo am y tymor dyfodol.-Galwyd sylw at y cyngherddau parhaus a gynhelir yn Ffestiniog tuag at am- canion elusenol Honid fod y sawl y gwneid hwy iddynt yn derbyn mwy na phe buasent yn gweithio. Ystyrid eu bod yn bla ar y wlad.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. MARWOLAETH.- Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mrs. Morris, Grocer, priod y diweddar Mr. Morris Morris, crydd. Yr oedd yn gym- eriadadnabyddus a pharchus, ac Eglwyswraig selog. Claddwyd hi dydd Sadwrn, yn y fynwent blwyfol. YMADAWIAD -Ar ol bod yn ymweled a'u hen dref am gyfnod, yr wythnos ddiweddaf, ym- adawodd Mri. E Arthur Jones, mab y diweddar Dr E. Jones, a T. Oswald Edwards, wyr Mr. a Mrs. Meyiick Jones, am America, Bwriad. ant ymsefydlu yo Denver, Colerado,
LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. Mae angen mawr am fwy o gyfleusderau gyda chludiad llythyrau yn rhan uchaf y plwyf hwn, gan fod yn ofynol i'r trigolion gerdded pellder mawr o ffordd er gallu postio eu llyth- yrau. Deallwn fod hyn yn cael sylw yr awdur- dodau, a bod letter-box- i gael ei osod yn Four- crosses.
ARAETH CAN MR. HUMPHREYS-OWEN,…
ARAETH CAN MR. HUMPHREYS-OWEN, A.S. Mewn cyfarfod cyhoeddus o'i etholwyr yn Llanidloes, dydd Gwener, tystiodd Mr. Humphreys-Owen yn erbyn y dybiaeth mai ar ben-boethni enwadol y seilid y mudiad yn erbyn y Mesur Addysg. Y cwestiwn oedd Eglwys Loegr wedi ei wthio ainynt oedd, ai gan un enwad ynte gan y genedl i gyd y dylid rheoli addysg elfenol ? Ni ddylid anghofio fod yr holl arian oddigerth cost adnewyddu neu helaethu yr adeiladau i ddyfod yn y dyfodol o drysorfa y wlad. Nid oedd ganddynt fwy o hawl i dd'od ag en- wadaeth 1 mewn i'w hachos nag yn y prif ysgolion, y cyrph bwrdeisiol, neu yr Ysgol- ion Canolradd. Rhoddai Eglwys Loegr bwys ar y ffaith mai hwy ddarparodd yr adeiladau, ac mai eu heiddo hwy oeddynt. Yr oedd hyny'n hollol anghywir. Adeiledid yr adeiladau yn fwyaf arbenig at bwrpasau enwadol, ac nid addysgol, fel Ysgolion Sul, &c., adeiladwyd hwy i fesur ar gost y rhai nad oeddynt yn perthyn i Eglwys Loegr. 0
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. MABCHNAD YD LEKPWL, Hydref 7fed Galw tawel oedd am wenith, yn ol prisiau dydd Gwener Gwenith Califfornaidd, o 6s. 5c. i 6s. 51-c. y can'pwys. Blawd yn gadarn, ond y galw yn bur gymedrol. Ceirch a blawd ceirch yn dawel, a'r prisiau heb gyfnewidiad. Indrawn, hefyd, braidd yn dawel. MAIICHNADOEDD ANIFEILIAID. Llundain, Hydref 6ed.—Gwartheg.—Y cyflenwad o watheg ychydig yn ysgafnach, a'r anifeiliaid goreu yn uwch. Biff Devon, o 4s. 11e. i 5s.: Here- ford, o 4s. 10c. i 5s.; gwartheg Gwyddelig, o 4s. 2c. i 4s. 8c. yr wyth pwys. Defaid. Dangoswyd llai o ddefaid hefyd; ond y prisiau heb newid. Myllt Down goreu, 5s. 8c. 15s. 10c. Leicester, Hydref 4.-Nifer gweddol o brynwyr yn y farchnad, a dangosiad mawr o fustych at bori, am ba rai yr oedd galw da. Y rhai byrgorn goreu, o 17p. i 19p.; Cymreig, o 14p. i 16p.; buchod a heffrod cyflo, o 20p. i 24p.; buchod a heffrod swynog, 8p. 10s. i lip.
Advertising
SALE FAWR FLYNYDDOL RICHARD REES, Paris House, Machynlleth. Gwerthu Allan y Gweddill o'r Stoc Haf, GYDA GOSTYNGIAD MAWR, Gwneir gostyngiad yn yr holl Stoc yn ystod y Gwerthu Allan. Y mae yr holl Stoc yn Newydd, Ffasiynol, ac o'r Gwneuthuriad Goreu. Rhoddir BARGEINION GWIRIONEDDOL Dyma gyfleusdra rhagorol i gael Dillad yn rhad. Oherwydd amrywiaeth a chyfiawn- der y Stoc, nis gellir rhoddi rhestr o honynt. SALE WIRIQNEDDOL HYDDDIWEDD Y WIS1 Ni cha neb ei siomi mewn Gwerth nac yn Mhris y nwyddau. READY MADES, DILLADAU PAROD! I Ddynion, Bechgyn, a Phlant. 9:? Y mae genym Stoc anferth o bob math. PRINT S-Canoedd o latheni at DdressM ft Blouses o 3ic. y llath i fyny. DRESSES^-Canoedd o latheni o'r nwyddau diweddaraf, 21c. y llath i fyny. HETIAU GWELLT—Canoedd o Hetian Merched, Dynion, a Phlant, i'w gwerthu allan am lai na haner eu gwerth. Hefyd, Carpets, Oilcloths, Mackintoahee, Umbrellas, &c. HOT Nid oes le i fanylu. Deuwch yn faan. GREAT CLEARANCE SALE Of Summer Goods at PARIS HOUSE, MACHYNLLETH. Great Bargains Will Be Offered. Nid oes dim amheuaeth nad EASINE ydyw y Meddyglyn goreu at Gur mewn Pen, Ddanodd, Neuralgia, Tic, Anwyd yn y Pen, A phob math o boen yn y pen. Dyma dystiolaethau pwysig yn profi f ffaith :—Dyma ddywed y Parch. R. Peria Williams, Llandudno:— Mr. Hugh Jones. Anwyl Syr,-—1 Y Feddyg* iniaeth fwyaf effeithiol a gefais erioed at wella Cur mewn Pen, ydyw yr Easine' a wneir genych chwi. Mae yn effeithio yn gyflyra iawn Gwellhaodd un o honynt gur yn r, mhen mewn ychydig amser.' Dywed Mr. John Smith, Ash St., Soutbport, —' Easine is a capital remedy for Neuralgia. Dywed Mr Parry Edwards, Ty'r capel Llanfechell, Mon.:—' Cymeradwyaf 4 Easine bob amser at y Neuralgia.' Mr. R. C. Jones, Pentrefelin, Llangedwyn ddywed' Wedi rhoddi prawf ar Easine' 'rwyfyn gwybod beth ydyw bod am fisoedd heb y Neuralgia, pan o'r blaen yr oedd ya dyfod ataf yn fynych iawn. Yn ddiddadl, dyma'r feddyginiaeth oreu at y Neuralgia. Rhoddais ddds i gyfaill at y ddanodd cafodd esmwythad buan, ar ol dioddef am ddyddiau. Rhoddais un arall i berthynas at y Neuralgia, cafodd waredigaeth lwyr a hollol Mae yn blesergenyf ei gymeradwyo i bawb sydd yn dioddef oddiwrth y cyfryw boenau.' Gellir rhoddi dwsinau o dystiolaethau i'r Easine. Gofynwch i'ch Fteryllydd neu eich Grocer am dano, is. y paced. Yngyfanwerthoddiwrth Mri. David Jones & Co., Liverpool, neu trwy y post am is. oddiwrth HUGH JONES, M.P.S. Chemist & Druggist, Medical Hall, BL. FFESTINIOG Y NEGESYDD," Cyfrwng rhagorol at Hysbysiadau Masnachol, Arwerthiadau, Byrddau CyhoeddU8, Eisteddfodau. &c., tu
CYFARFOD RHYDDFftYDCL YO NGHORRiS.…
CYFARFOD RHYDDFftYDCL YO NGHORRiS. -= Y MESUR ADDYSG. Nos Fawrth diweddaf. yn Vsgol y Bwrdd* cynhaliwyd cvfarfod o Ryddfrvdwyr Corris a'r amg-ylchoedd. DarlleitWyd llvthyr oddiwrth Cadben Pryce (Cyfronvdd), yn golfi'iio am nas gallai fod yn bresenol i gymeryd v gadair. felly, dewiswyd Mt. Rhys Owen, llywydd y Gymdeithas ltyddfrydoi ytI y ill: yn gadeirydd. Cafwyd anerchiad byr o longyfarchiad I't aelod dros y Sir, ynghyd ag eglurhad ar amcan y y cyfarfod, sef, er protestio yn erbyn y Mesur Addysg, yr hwn a ystyriai ef yn anghyfiawn a gorthrymus i'r eithaf, ac yn un, fe hyderai, na byddai iddo byth basio yn gyfraith. Yna, galwodd y cadeirydd ar Mr M. Thomas, C.S., i gyflyg y pender- fyniad a ganlyn I_I F<?d y cyfarfod hwn o bres- wylwyr dosbarth COffis yh Condemnio Mesur Addysg y Llywodraeth am ei fod yn dileti y Byrddau Ysgol ynghyd a rheolaeth gyhoeddus ar ysgolion a gynhelir gan y trethi am ei fod yn lleihau y sicrwydd am effeithiolrwydd, cynydd, a fhyddid, ynglyn ag addysg genedl- aethol, ac am ei fod yn darparil cddi trethi Ileol ymhob man o blaid credoau enwadol, prawflon crefyddol i'r athrawon, a rheolaeth glerikiol. Fod y cyfarfod hwn yn galw ar y Llywodraeth i dynu y Mesur gwrthdroawl a niweidiol hwn yn ol, neu ynte ddadgorpliori" Senedd ar fyrder, Ily ac oni wna, ein bod yn ymrwymo i wneyd a allom i ddinystrio y Mesur presenol a'i amcan- ion os pasia yn gyfraith.' Dywedodd nad oedd y Llywodraeth er pan ddaethant i swydd wedi pasio un mesur o lesiant cyffredinol i'r wlad. Esgeulusodd roddi Blwydd-dal i'r Oedranus a Thai i'r Gweithwyr, fel yr addawsant, ond pasiodd fesurau niweid- iol, sef treth ar siwgr ac tti. Chwanegodd at hyny ryfel ofnadwy, costfawr mewn bywydau ac arian, a dygodd Brydain o dan warthrudd oesol, trwy ddinystrio dwy Weriniaeth rydd ac annibynol. Cyflawnodd y Llywodraeth fesur ei hanwiredd trwy y Mesur Addysg presenol. Rhoddwyd iddi fwyafrif mawr i orphen y rhyfel, a defnyddia ef yn ffiangell ar gefn yr Ymneill- neillduwyr. Nid oedd dim yn y Mesur yn darpar at foddion addysg effeithiolach i'r wlad a'i gwna yn gydradd a chenedloedd eraill. Yr oedd ef o blaid i holl addysg elfenol gael ei gynal trwy y trethi, ond i'r reolaeth fod o dan amodau teg ac heb fod yn drais ar gydwybodau y rhieni a'r plant. Ond amcan y Mesur oedd proselytio y plant, eu dwyn i fyny mewn awyr- gylch Eglwysig, ac yn wasaidd i'r offeiriad- aeth Nid oedd clergwyr Eglwys Loegr yn bur i Brotestaniaeth. Yr oeddynt yn caiu Eglwys Rufain i'r graddau yr oeddynt yn cashau Ymneillduaeth. Credai ef fod y Llyw- odraeth yn y tywyllwch am arwyddion yr am- serau a chynydd gwybodaeth a gwareiddiad, wrth dybio y byddai i Ymneillduwyr lyncu ath- rawiaethau ofergoelus y canoloesoedd Yr oeddynt yn amcanu rhoddi pen ar Ymneilldu- aeth, ond gwyddai ef y deuai yr un dynged iddynt ag a ddaeth i fwiiadau Haman gynt. Mr. Owen Roberts, Minafon, wrth gefnogi a sylwodd mai penderfyniad yn condemnio y Mesur Addysg, y gelwid arno i'w gefnogi- FeUy rhaid oedd yn y lie cyntaf broi fyr haedda gondemniad. Oblegid pan y condemnid achos heb fod rheswm dros hyny, elai y cydymdeimlad o blaid yr achos hwnw. Yr oedd o'r farn fod y Mesur Addysg yn gyfryw ag oedd yn galw arnom fel trethdalwyr i'w gondemnio; oblegid drwyddo rhoddir arian cyhoeddus i gynal addysg nad oes gan y cyhoedd ran yn ei rheolaeth, yr hyn sydd yn annheg oblegid os oedd yr addysg i'w chynal o'r dreth, dvlai trethdalwyr gael rheoleiddio yr addysg hono. Mae yr Ysgolion Eglwysig yn ddiau wedi g wneyd llawer o les, a llawer o rywbeth gwahanol hefyd. Nid amcan eu sefydliad a'u cynhuliad oedd er effeithioli addysg. Er engraifft, codwyd un yn Nghorris, a bu am ysbeidiau brou marw. I ba beth, gofynai, y cadwyd hi yn fyw P Nid am nad oedd digon a gwell cyfleusderau i gyfranu addysg yn 7 lie, Nis gaUai lai na chredu mai yr amcan oedd, er ceisio dal piant Ymneillduwyr, a dysgu iddynt athrawiaethau yr Eglwys Wladol. Cyfeir- 3 iodd Mr. Roberts wed'yn at adran cydwybod, dan ba un yr oedd hawl i blant Ymneillduwyr i ym. neillduo pan y cyfreuid yr addysg grefyddol. Ond dywedai nad oedd modd uianteisio llawer ar hyn, gan y Uwyddai yr ysgolfeistriaid, fee., i warthnodi y plant a wnaent hyny. Yr oedd y Mesur Addysg presenol yn gwaethygu pethau. Nid oedd yn meddwl y pesid ef. Os gwneid, proffwydai ddym- chweliad y Llywodraeth bresenol. Parch. Rhydwen Parry, Ffestiniog, a ategodd. Bu yn Nghorris o'r blaen. Yr oedd pethau wedi newid yn fawr er hyny. Y pryd hwnw y cwestiwu o gyflawnder i'r Gwyddelod a ddadleuid; yn awr, cweBtiwn o gyflawnder i ni ein hunain gydag addysg ein plant a hawlid. Yr oedd dygiad y Mesur gerbron y Senedd wedi deffro y Seneddwyr a'r wlad o'r cysgadrwydd a'r difaterwch y buont ynddo. Nid oedd y difaterwch wedi eu llwyr ddifetha 'roedd ganddynt weddill gallu i wrth wynebu hyd yr eithaf y Mesur anghyfiawn hwn. Yr oedd ei alw yn Fesur Addysg' yn gamarwein- iol. Beth bynag oedd yr amcan wrth ei lunio, ei effaith fyddai proselytio plant Ymneillduwyr, eu dwyn o dan ddylanwad y clerigwyr, a'u gwneyd yn Eglwyswyr. Dywedodd Arglwydd Cecil y dylai fod dau ddrws yn yr ysgolion hyn,—un i ollwng yr holl blant i'r ysgol, a'r llall i'w gollwng o'r ysgol i'r Eglwyi. Camenwir hwy yn Ysgolion Cenedlaethol. Cychwynwyd hwy gan y Gym- deithas er addysgu Plant Tlodion yn athrawiaethau yr Eglwys Wladol. Ond y wlad sydd wedi eu cynal o'u cychwyniad bron yn gyfangwbl. Yn awr, gelwir arnom i gyfranu mwy at hyn, a hyny heb yihwanegiad yn y rheolaeth. Darperir,Jmae'n wir, fod y personiaid i ofalu am yr adeiladau. Ond dywed Mr. Acland, nad yw y draul hono ond un rhan o ddeg o draul yr ysgolion eto, cant saith ran o ddeg o'r rheolaeth; ac ni fydd a fyno neb ond hwy a'r addysg grefyddol. Mae y Mebur yn galw arnom i gynal ysgolion na oddefir i blant Ymneillduwyr fod yn teachers nac ysgolfeistriaid ynddynt. Ni chredai fod un engraifft i'w chael o fodolaeth y fath anghenfil' ag ysgolfeistr Ym- neillduol mewn ysgol Eglwysig. Addefodd yr Eøgob Owen, fod genym fel Ymneillduwyr gwyn winoneddol yn hyn. Gorfoda y Mesur hefyd i dalu am ddysgu athrawiaethau a gyfrifwn ni yn gyfeil- iornus a niweidiol; ac mewn llawer achos, gwneir yn orfodol i'n plant foddloni ar yr addysg yma. Mae dros filiwn o'n plant yn yr ysgolion hyn, a dysgir iddynt fod Ymneillduaeth yn bechod mawr. Mae y Mesur fel pe wedi ei lunio i broselytio ein plant. Pa beth a ddywedwn yn ngwyneb hyn ? Ie, pa beth a wnawn P Y mae yn ddyledswydd arnom ei wrthwynebu hyd yr eithaf cyn ei basio, a'i wneyd yn ddi-effaith os y pesir ef. Mae Ym- neillduaeth y gallu cryfaf yn Mhrydain heddyw. Er mai pobl heddychlawn, yn arfer cadw cyfreith- iau y wlad ydym, eto, nis gallwn gadw cytraith os byddwn drwy hyny yn tori cyfraith uwch a phwys- icach. Gwasgwyd y frwydr arnom, ac ni thrown yn ol yn aydd y frwydr. Mr. Osmond Williams, A.S., a ddywedodd: Credaf y cydayniwch a mi nad yw Mr. Balfour a'i Lywodraeth wedi gwneyd llawer drwy gynrychiol- aeth T' y Cyffredin er Ionawr. Os amcan y Prif- weinidog oedd gwaradwyddo y Ty fel ystafell cynulleidfa fasnachol, nis gallai gyraedd ei amcan yn well. Yr oedd y lleihad yn y dyddordeb a gymetidyn ySenedd yn ddyledus i ddylanwad teulu y Cecils ac yr oedd gwaith Mr. Balfour yn frnafiiel yn nylfedswyddati yf ymherodraeth, a'i allu i wario a ehamanvain gteith-ativeh y cynulliad cenedlaethol, wedi cyfrMii 111 neldeth fit y canlyn- iad gwaradwyddus. Am y fifestir A4dyeg, yr oedd ftt cyfarfod ein hangen cenedlaethol gyd;lg addysg elfenol a Clian^raddol, chynllun oedd yn gosod arian y wlad at law dosfcaith o bobl nad oedd ganddynt barch dyladwy i egwyddcTion cyntaf tegwch a chyfiawnder. Nid oedd dim yn y Mesur i gefnogi y dyddordeb a gymerai y bobl yn eu hys- golion, ac yr oedd yn tueddu i atal ein cyfundrefn addysg rhag byth ddyfod yn un hollol genedlaethol, a gwnelai hyn yr adeg yr oedd siamplau America a'r Almaefi yn dangos ein hangen mawr am well- iftntati addysgol. 0 dan arweiniad y blaid Eg- lwysig a'r clerigwyr yr oedd y Byrddau Ysgol i gHel ell dirymti a't ysgolion Eglwysig eu gwaddoli. Nid oedd yn fate* 0 gyfarfod angen addysgol v deyrnas, ond 0 foddlOili y Maid Eglwysig. Nid cyfarfod eglwysig ydoedd y Senedd, ac nid cynull- iad i'w arwain gan glerigwyr, ond cynulliad o wyr ?(Mi eu dewis pan y bobl i ddeddfu yn gyfiawn a theg yii ol galWdd y deyrnas. Ni ddylent prphwys nes y caent ar ddfedaf 1* fratt « wlad egwyddol" gywir, cyfundrefn o addysg genedlaethol sylfaen- edig ar linellau eang 0 gefnogaeth a rileoi«i'tb gan y bobl. Dylai y deyrnas gael llais yn ffurfiad y mesur, ac yn neillduol yn ei egwyddor. Yr unig fesurau y gallai y Weinyddiaeth bresenol ymffrostio ynddynt oedd Deddf yr ýd-adfer deddf oedd gwlad rydd wedi ei dileu—a'r Ddeddf Addysg sydd yn awr yn ceisio cael ei wthio ar y wlad ganddynt. Nid mestiratl cyflfredin Oedd y rhai hyn, a dygwyd hwy ymlaeu yn gwbl gTOee i fam a theimlad y bobl. Y mae un o bwysigrwydd anferthol, am ei fod yn myned o dan wraidd rhyddid masnachol gydag ymbortb a ch pnhaliaeth y werin, a'r llall yr un modd mewn ystyr grefyddol a gwleidyddol. Yn lie lleddftt y teimladau angharedig fodola yn awr ynglyii a'r ysgolion, bydd y Mesur Addysg hwn yn ffynhoneil o chwerwder rhwng pleidiau a'u gilydd, a phair i sect fyned yn erbyn sect, nes e-gor ar ymrafaelion diddiwedd. Y mae yn ysbeilio y deiliaid o'u hawliau cyfiawn, ac yn eu darostwng i gyflwr yr oesau tywyll. Y wlad oedd i gynal yr holl ysgolion, a'r sawl a'u cynhaliai ddylai eu rheoli. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Davies, Dol- caradog, yn gofidio nas gallai: fod yn bresenol. Gobeithiai y pesid y Mesur fel yr oedd. Y bai mawr ar hyd y blynyddau, meddai, oedd fod y Rhyddfrydwyr yn gwella Mesurau y Toriaid, a'r Toriaid yn cael y clod am yr oil, tra yr oedd y Toriaid yn dinystrio Mesurau goreu y Rhyddfryd- wyr. Lie gwael fyddai i'r Toriaid dd'od ar ofyn y wlad os pesid hwn fel yr oedd yn bresenol. Cynygiwyd a chefnogwyd y diolchiadau arferol gan Mri. H. Davies, U.H., ac E. Evans, Frondeg.
LLAFUR YN NE AFFRIG.
LLAFUR YN NE AFFRIG. Y mae Swyddfa Hysbysiadol Ymfudwyr, yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd dydd Mercher, yn dweyd nad oes eisiau ychwaneg 0 beirianwyr yn awr yn Cape Colony Y mae gofyn am ychydig o osodwyr rheiliau profiudol, ac ar ol y wyrçrhydau a gwageni ar Feilffordd Llyw- odraeth Natal; ond dywedir fod y cyflenwad lleol o gelfyddydwyr eraiU yn ddigonol. Y mae gofyn gweddol yn y Transvaal am grefftwyr profiadol yn y fasnach adeiladu, ond cyfyng- edig ydyw y fasnach, ac y mae y treuliau byw yn uchel. Mae He yn yr oil o'r Treredigaethau am grefftwyr cymwys gydag ychydig arian. y rhai a ail is-int gadw eu hunain hyd nes iddynt gael gwaith Y mae digon o lafurwyr cyffredin yn yr oil o'r Trefedigaethau. Os bydd i lafurwr ymfudo, rhaid fydd iddo gymeryd ei gyfle gyda'r dynion lleol. Y mae yn awr le i fwnwyr prof- iadol, os bydd ganddynt foddion o'r eiddynt eu hunain. Y mae eisiau morwynion mewn tai yn yr oil o Drefedigaethau De Affrica ond ni ddylasant fyned heb eu bod yn myned at gyf- eillion, neu i ofal cymdeithas y merched. Fe rybuddir clercod, siopwyr, neu rhai a weithient mewn ystordai rhag ymfudo, oni bai na fuasai ganddynt leoedd i fyned iddynt.